Loading

GWOBRAU | Prizes! 26-28 Hydref | october 2023

Pan ydych chi'n prynu band arddwrn Lleisiau Eraill, cewch eich cynnwys yn awtomatig mewn raffl am wobrau a roddwyd gan rai o'n busnesau lleol gwych.

When you buy an Other Voices wristband, you get automatically entered into a draw for prizes donated by some of our wonderful local businesses.

Mae gennym ystod o brofiadau lleol gan gynnwys prydau o fwyd, teithiau mewn cwch, dosbarthiadau coginio, gweithdai celf a diwrnodau antur, mae gennym hamperi yn llawn cynnyrch a chynhyrchion lleol gan gynnwys llestri bwrdd ceramig wedi'u crefftio'n gelfydd.

We have a range of local experiences including meals out, boat trips, cookery classes, art workshops and adventure days, we have hampers brimming with local produce and products including some beautifully crafted ceramic tableware.

Walden Arts

waldenarts.co.uk

Gwobr: Tocyn rhodd gwerth £75 y gellir ei ddefnyddio tuag at unrhyw un o’r cyrsiau celf a hysbysebir ar waldenarts.co.uk

Prize: A £75 gift voucher that can be used towards any of the art courses advertised on waldenarts.co.uk

Gofod celf a stiwdio gwneud printiau yn Aberteifi yw Walden Arts. Maen nhw’n cynnal dosbarthiadau celf a gweithdai gwneud printiau i blant ac oedolion. O Luniadu’r Byw i Argraffwaith, Peintio Tirwedd i Sgrin-Brintio, mae Walden Arts yn cynnig ystod eang o gyrsiau at ddant pawb!

Walden Arts are an arts space and printmaking studio based in Cardigan. They run art classes and printmaking workshops for kids and adults. From Life Drawing to Letterpress, Landscape Painting to Screen Printing Walden Arts offer a wide range of courses for all tastes!

Telerau ac Amodau: Mae'r tocyn rhodd yn ddilys am flwyddyn o'r dyddiad rhoi a gellir ei ddefnyddio ar gyfer cyrsiau’n unig (ni ellir defnyddio'r tocyn rhodd i dalu am ddigwyddiadau neu gynhyrchion).

T&Cs: The voucher is valid for one year from the date of issue and can only be used for courses (the voucher cannot be used to pay for events or products).

boysandgirlsrestaurant.co.uk

Gwobr: Bwydlen benodol i ddau: pryd tri chwrs i ddau gan gynnwys dau wydraid o win neu goctels, a the neu goffi.

Prize: A set Menu for two: 3-course meal for two including two glasses of wine or cocktails, and teas or coffees.

Bwyty blaengar ar ffurf tapas yw BOYS AND GIRLS sy’n cynnig bwyd stryd gourmet wedi’i arwain gan y tymhorau, gyda rhaglen o ddiodydd sy’n canolbwyntio ar winoedd ymyrraeth isel ynghyd â dewis o gwrw bwtîc a gwirodydd organig. Maen nhw wedi ymrwymo'n gryf i leihau ein hôl troed, ac maen nhw’n hyrwyddo'r cynnyrch lleol a rhanbarthol gorau a mwyaf ffres, gan weithio'n agos gyda thyfwyr a chyflenwyr gwobrwyedig o Gymru.

BOYS AND GIRLS. is a tapas-style, progressive restaurant offering seasons-driven gourmet street food, with a beverage program focused on low-intervention wines complimented by a boutique beer and organic spirit selection. Strongly committed to minimize our footprint, they champion the best and freshest local and regional produce, working closely with award-winning Welsh growers and suppliers.

Telerau ac Amodau: Dydd Mercher i ddydd Sadwrn, yn unol ag amserlen agor y bwyty. Cyfyngir yfed alcohol i westeion 18+ oed. Mae eu bwydlen yn cyflwyno opsiynau llysieuol, pysglysieuol, a chig; bydd y rhan fwyaf o brydau llysieuol ar gael fel fegan ar gais. O ystyried natur y cynnig gastronomig, a maint llai y gegin a’r tîm, efallai na fyddant yn gallu darparu ar gyfer cyfyngiadau dietegol penodol ac unigol, os na chânt eu nodi ymlaen llaw. Bydd Boys and Girls yn defnyddio braster anifeiliaid, winwns a garlleg, blodau a chnydau gwyllt wedi’u chwilota yn ogystal â chynhwysion wedi'u heplesu a'u preserfio.

T&Cs: Wednesday to Saturday, accordingly with the restaurant opening schedule. Alcohol consumption is restricted to 18+ guests.Their menu presents vegetarian, pescatarian, and meat options; most vegetarian dishes will be available as vegan upon request. Given the nature of the gastronomic offer, and the reduced size of the kitchen and team, they may not be able to cater for specific and individual dietary restrictions, if not communicated in advance. Boys And Girls will make extensive use of animal fat, alliums, flowers and wild foraged crops as well as fermented and preserved ingredients.

St. Dogmaels Pottery

peterbodenham.co.uk

Gwobr: Pot te wedi'i wneud â llaw, 2 gwpan

Prize: A handmade tea pot, 2 mugs

Peter Bodenham sy'n rhedeg Crochendy Llandudoch, ac yn dylunio a gwneud crochenwaith â llaw. Mae amrywiaeth o ffynonellau yn llywio ac yn ysbrydoli ei grochenwaith gan gynnwys y prosesau o gerdded yr arfordir, nofio ar hyd ei lan, casglu gwrthrychau, deunyddiau ac astudio ei ecoleg a'i ddaeareg rynglanwol. Gellir gweld delweddau, motiffau a marciau awgrymiadol wedi'u brwsio neu eu lluniadu i mewn i wyneb potiau crochenwaith fel olion uniongyrchol o'i brofiadau a'i gariad at yr ardal leol.

Peter Bodenham runs St.Dogmaels Pottery, designing and making handmade pottery. Informing and inspiring his pottery are a range of sources including the processes of walking the coast, swimming along its shore, gathering objects, materials and studying its intertidal ecology and geology. Images, motifs and gestural marks brushed or drawn into the surface of stoneware pots can be seen as direct traces of his experiences and love for the locality.

Adventure Beyond

Gwobr:Taleb £100 / Prize: £100 voucher

Canolfan gweithgareddau awyr agored teuluol yw Adventure Beyond sydd wedi’i lleoli yn harddwch Bae Aberteifi yng Ngorllewin Cymru. Maen nhw wedi bod yn cynnig gweithgareddau llawn cyffro ac anturiaethau anhygoel ers 1997. Yn Adventure Beyond maen nhw’n ymfalchïo mewn gweithgareddau anturus llawn hwyl, wedi'u teilwra i bob gallu. P’un a ydych eisiau dos o adrenalin, diwrnod allan hamddenol i’r teulu neu eisiau treulio amser yn dychwelyd i fyd natur, bydd y tîm yn creu anturiaethau pwrpasol i weddu ar eich cyfer.

Adventure Beyond are a family-run outdoor activity centre based in beautiful Cardigan Bay in West Wales. They have been offering real activities and amazing adventures since 1997. At Adventure Beyond they pride themselves in fun adventurous activities, tailored to all abilities. Whether you fancy an adrenaline fix, a relaxed family day out or time spent getting back to nature, the team will create bespoke adventures to suit you.

Bay Coffee Roasters

Gwobr: Detholiad o 6 * o fagiau 250g o'u coffi gorau.

Prize: A selection of 6 * 250g bags of their finest coffee.

Wedi’u lleoli ger traeth Tresaith, mae Bay Coffee Roasters yn un o gwmnïau rhostio coffi gorau Cymru, gan ddefnyddio ynni 100% adnewyddadwy yn unig. Maen nhw’n gweithio gydag amrywiaeth o gynhyrchwyr gwahanol, o ffermwyr Coffi unigol y maen nhw’n eu hadnabod yn bersonol i ffermwyr Masnach Deg ac Organig ardystiedig.

Bay Coffee Roasters are one of Wales top award winning coffee roasters, using only 100% renewable energy based near Tresaith beach. They work with a variety of different producers from individual Coffee farmers that they know personally to Fairtrade and Organic certified farmers.

Telerau ac Amodau: Yn dechnegol, mae coffi yn rhydd o gnau ac alergenau, er bod gennym ni bolisïau llym yn y cyfleuster rhostio ni allwn sicrhau'r hyn a gyflwynir ar y fferm.

Coffee is technically nut and allergen free, even though we have strict policies at the roastery we cannot guarantee what is introduced at the farm.

siopypentre.co.uk

Gwobr:Hamper o fwyd Cymreig gwerth £50

Prize: A £50 Welsh produce hamper

Siop bentref leol a Swyddfa Bost gwobrwyedig yng Nghilgerran yw Siop Y Pentre. Maen nhw’n ymfalchïo mewn cynnig cynnyrch lleol o safon, amrywiaeth o gynnyrch diwastraff a nwyddau y gellir eu hail-lenwi, yn ogystal ag amrywiaeth o fwydydd cyflawn, heb glwten a bwyd fegan. Mae eu brechdanau cartref yn cael eu paratoi'n ffres bob dydd a gellir eu mwynhau gyda'u coffi sydd wedi'i rostio'n lleol. Maen nhw’n gwasanaethu'r gymuned rhwng 8am ac 8pm 7 diwrnod yr wythnos.

Siop Y Pentre is an award winning local village shop and Post office in Cilgerran. They pride themselves in offering fine local produce, a range of zero waste products and refillable goods, as well as a range of wholefoods, gluten free and vegan food. Their homemade sandwiches are freshly prepared daily and can be enjoyed with their locally roasted coffee. They serve the community from 8am to 8pm 7 days a week.

Telerau ac Amodau: Mae'n debyg y bydd y bwyd yn cynnwys cynhyrchion llaeth, glwten, a chnau. Bydd y cynhyrchion hamper yn amrywio o'r hyn a ddangosir yn y ffotograff.

T&Cs: The food will likely have dairy products, gluten, and nuts. The hamper products will vary from what is displayed in the photograph.

IN THE WELSH WIND

inthewelshwind.co.uk

Gwobr: Taleb am Brofiad Blasu Jin i 2 yn y Distyllfa (gwerth - £60)

Prize: A Voucher for a Gin Tasting for 2 at the Distillery (value - £60)

Wedi’i ysbrydoli gan antur ac yn tarddu o arfordir syfrdanol Cymru, mae In the Welsh Wind yn creu’r gwirodydd gorau oll sy’n cipio tirwedd, diwylliant a llên gwerin Cymru. Yn sail i’r cyfan y maen nhw’n ei wneud yw eu hawydd i gynhyrchu gwirodydd o ansawdd uchel sy’n adrodd stori – boed hynny’n stori am adeg, lle, pobl, neu ddigwyddiadau.

Inspired by adventure and born of the stunning Welsh coastline, In the Welsh Wind crafts premium spirits that capture the landscape, culture and folklore of Wales. Underpinning all they do is their desire to produce premium quality spirits that tell a story – be it the story of a time, a place, people, or events.

Telerau ac Amodau: Gellir cyfnewid y daleb am Brofiad Blasu Jin i 2 yn Nistyllfa In the Welsh Wind, Tanygroes, Aberteifi SA43 2HP yn unig. Nid yw’r daleb yn drosglwyddadwy i unrhyw un o'r profiadau eraill a gynigiwn yn y Ddistyllfa. Nid oes arian parod/cynnyrch arall ar gael yn ei lle. Rhaid bwcio profiad o fewn blwyddyn i ddyddiad cyhoeddi'r Daleb. Mae’r profiad ar gael i bobl 18+ oed yn unig. Rhaid bwcio profiad ymlaen llaw naill ai drwy wefan y Ddistyllfa: www.inthewelshwind.co.uk neu drwy ffonio 01239 872300. Mae’r profiad ar gael yn unig ar ddyddiadau/amserau yn ôl yr amserlen (dydd Iau, dydd Gwener, dydd Sadwrn am 2 p.m. ar hyn o bryd). Nid oes alergenau, fodd bynnag mae’r profiad yn digwydd yn Nistyllfa In the Welsh Wind, adeilad lle mae alergenau (glwten, cnau (almonau), sitrws) yn bresennol.

T&Cs: Voucher can only be exchanged for a Gin Tasting Experience for 2 at In the Welsh Wind Distillery, Tanygroes, Cardigan SA43 2HP. Voucher is not transferable to any of the other experiences we offer at the Distillery. No cash/product alternative is available. Experience must be booked within a year of Voucher issue date. Experience only available to 18+. Experience must be pre-booked either through the Distillery website: www.inthewelshwind.co.uk or by telephoning 01239 872300. Experience only available on dates/times as scheduled (currently Thursday, Friday, Saturday at 2pm). No allergens, however the experience takes place at In the Welsh Wind Distillery a building where allergens (gluten, nuts (almond), citrus) are present.

Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan

theatr mwldan film society

mwldan.co.uk/about/theatr-mwldan-film-society

Mae Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan yn rhoi blwyddyn o Aelodaeth Gyflawn fel gwobr! Cewch weld hyd at 15 o ffilmiau CFfThM am ddim a chael disgowntiau oddi ar ddangosiadau sinema safonol eraill yn y Mwldan.

Prize: Theatr Mwldan Film Society are giving away a year’s Full Membership! See up to 15 TMFS films for free and get discounts off other standard cinema screenings at Mwldan.

Mae Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan yn elusen wobrwyedig sydd wedi bod yn cyflwyno’r goreuon ym maes sinema arthouse i Orllewin Cymru ers 25 mlynedd. Ar nos Sul o fis Medi i fis Mai rydym yn dangos tymor o ffilmiau rhagorol sydd wedi'u dewis a’u dethol yn ofalus. Mae'r ffilmiau'n amrywio o sinema byd i ffilmiau annibynnol Prydeinig, rhaglenni dogfen grymus ac animeiddiadau. Ein nod yw rhoi cyfle i bobl yng Ngorllewin Cymru fwynhau ffilmiau sy'n procio’r meddwl ar y sgrin fawr.

Theatr Mwldan Film Society is an award-winning charity that has been bringing the best of arthouse cinema to West Wales for more than 25 years. On Sunday evenings from September to May we screen a carefully curated season of exceptional movies. The films range from world cinema through to British independent film, compelling documentaries and animations. We aim to give people in West Wales the opportunity to enjoy thought-provoking films on the big screen.

Gwobr:

Prize: Theatr Mwldan Film Society are giving away a year’s Full Membership! See up to 15 TMFS films for free and get discounts off other standard cinema screenings at Mwldan.

Telerau ac Amodau: gan eithrio dangosiadau sinema 3D, digwyddiadau darlledu byw a dangosiadau cynnwys amgen. Mae cyfyngiadau oedran yn berthnasol ar gyfer ffilmiau

T&Cs: excludes 3D cinema, live broadcast events and alternative content screenings. Film age restrictions apply.

Under the Fig Trees (12A), The Eight Mountains (12A), The Blue Caftan (12A), Medusa (15), Joyland (15)

Clynfyw Care Farm

clynfyw.co.uk

Gwobrau:

Bag o siarcol Gellideg (fel y gwelir ar y sioe deledu Hairy Bikers)

Chwe photel o sudd afal Fferm Ofal Clynfyw

Bag o gompost Martins TLC (cynnyrch Fferm Ofal Clynfyw)

A bag of Gellideg Charcoal (as seen on the Hairy Bikers TV show)

Prizes:

Six bottles of Clynfyw Care Farm apple juice

A bag of Martins TLC compost (a Clynfyw Care Farm product)

Mae Fferm Ofal Clynfyw, sydd wedi bod yn rhedeg am bron i 40 mlynedd, yn gartref i ddeg o bobl agored i niwed a thua 25 o bobl eraill sy’n ei defnyddio ar gyfer gwasanaeth dydd. Mae ganddyn nhw lawer o brosiectau ar waith yno gan gynnwys gwneud siarcol, sudd afalau, compostio gan ddefnyddio mwydon, tyfu, y celfyddydau, sgiliau byw'n annibynnol a llawer mwy.

Mae Fferm Clynfyw ar fin cael ei gwerthu fel rhan o gynnig cyfranddaliadau cymunedol. Os hoffech wybod mwy ac efallai cymryd rhan, gweler eu gwefan.

Running for nearly 40 years, Clynfyw Care Farm is home to ten vulnerable people and about 25 others who use it for day service. They have lots of projects running there including charcoal making, apple juicing, vermicomposting, growing, arts, independent living skills and a whole lot more.

Clynfyw Farm is about to be sold as part of a community share offer. If you would like to know more and perhaps get involve, please see their website

mantlebrewery.com

Gwobr: Pecyn anrheg gyda 3 potel o gwrw

Prize: A gift pack with 3 bottles of ales

Mae bragdy Mantle yn dathlu 10 mlynedd o fragu cwrw gwobrwyedig yn Aberteifi.

Cyfleuster modern yw eu bragdy, a thrwy ddefnyddio technegau traddodiadol a chynhwysion naturiol, mae eu tîm o 6 yn bragu ystod o gwrw o safon wedi’u pecynnu mewn poteli, casgenni a chasgenni bach i’w mwynhau mewn tafarndai, bwytai/caffis neu gartref. Mae eu bagiau mewn blychau yn boblogaidd iawn ar gyfer partïon a phriodasau.

Mantle brewery is celebrating 10 years of brewing award winning ales in Cardigan.

Their craft brewery is a modern facility, and by utilising traditional techniques and natural ingredients, their team of 6 brews a range of quality ales packaged in bottles, casks and kegs to enjoy in pubs, restaurants/cafes or at home. Their bag in boxes are very popular for parties and weddings.

*Pobl dros 18 yn unig / Over 18’s only.

Welshhomestead Smokery

Gwobr: Lle am ddiwrnod yn un o'n Dosbarthiadau Barbeciw a Choginio â Thân 2024 (dyddiadau i'w cadarnhau).

Prize: A day's place on one of our BBQ and Firecooking Classes 2024 (dates tbc).

Tŷ mwg ym Mynyddoedd Cambria yw Welshhomestead Smokery sy'n trwytho blasau anarferol â blas ac arogl syml mwg coed. Maen nhw'n arbenigo mewn mygu gwahanol flasau o facwn (gan gynnwys eu bacwn Cig Oen Mwg a Bacwn Rym a Thriogl), Tsilis Mwg a Jamiau Tsili, Jamiau Cig Mwg (Bacwn a Chorizo), Halen Mwg a Rhwbiadau Barbeciw.

Welshhomestead Smokery is a smokehouse nestled on the edge of the Cambrain Mountains infusing unusual flavours with the simple taste and smell of woodsmoke. They specialise in smoking different flavours of bacon (including their signature Smoked Lamb Bacon and Smoked Rum & Molasses Bacon), Smoked Chillies and Chilli Jams, Smoked Meat Jams (Bacon and Chorizo), Smoked Salts and BBQ Rubs.

Telerau ac Amodau: Dydd Mercher i ddydd Sadwrn, yn unol ag amserlen agor y bwyty. Cyfyngir yfed alcohol i westeion 18+. Byddai angen i enillydd y gystadleuaeth fod yn gysurus gyda choginio dros dân. Darperir ar gyfer gofynion dietegol, ond mae'n ddiwrnod sy’n trin pob math o fwyd, felly bydd cig yn bresennol trwy'r dydd.

T&Cs: Wednesday to Saturday, accordingly with the restaurant opening schedule. Alcohol consumption is restricted to 18+ guests.The competition winner would need to be ok with cooking over fire. Dietary requirements catered for, but it is an omnivorous day, so meat will be present through the day.

Mundos

mundos.co.uk

Gwobr: Crys chwys 'Cardigan Bay' / Prize: A 'Cardigan Bay' sweatshirt

Manwerthwr anrhegion a dillad annibynnol yw Mundos, sydd wedi bod ar agor yn Aberteifi ers 2010. Gyda phwyslais ar ddylunio ansawdd da a diddorol, nod Mundos yw gwneud siopa yn brofiad cyfeillgar a gwerth chweil. Mae Mundos yn dylunio llawer o'r eitemau eu hunain, ac maen nhw bob amser yn chwilio am gynhyrchion newydd a diddorol, gan wneud eu siop yn unigryw iawn.

Mundos is an independent gift and clothing retailer, open in Cardigan since 2010. With an emphasis on good quality and interesting design Mundos aim to make shopping a friendly and rewarding experience. Mundos design many of the items themselves, and they're always on the lookout for new and interesting products, making their shop very unique.

Diana Ellen

Taith breifat | Private Cruise

daicrabsboat.com

Gwobr: Taith breifat ar yr Afon Teifi i 10 o bobl trwy garedigrwydd Dai Crabs.

Prize: A private Cruise on the River Teifi for 10 people courtesy of Dai Crabs.

Dewch i gwrdd â’ch capten, Dai Crab Evans! Ar gyfer ein gwobr yr wythnos hon, mae gennym daith wych mewn cwch ar y Teifi, trip preifat i ddeg o bobl ar long 24’ Dai Crab, y Diana Ellen, sydd wedi’i hadnewyddu’n hyfryd. Mwynhewch daith brydferth mewn cwch ar hyd yr afon Teifi, a fydd yn cymryd tua awr. Gallwch hyd yn oed drafod hanes yr afon Teifi, sy’n dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif gyda’r Capten neu ei sgiper – sef ei dad sy’n 90 oed. Gallant roi cipolwg i chi o sut y datblygodd yr afon yn ddiwydiant pysgota ac adeiladu llongau o bwys a sut yr arferai’r bobl ennill eu bywoliaeth ar y darn hardd hwn o’r afon. Gan gychwyn o lanfa Pont Aberteifi yn nhref Aberteifi, byddwch yn teithio i lawr yr afon I geg yr aber yng Ngwbert. Ar y ffordd, bydd cyfleoedd i dynnu lluniau o’r golygfeydd bendigedig.

Meet your captain, Dai Crab Evans! We have a fantastic ten-person private charter Teifi boat trip on Dai Crab’s beautifully restored 24’ vessel, the Diana Ellen, to give away this. Enjoy a scenic boat trip along the river Teifi, which will take approximately 1 hour. You can discuss with the Captain or his skipper - his 90 year old father - about the history of the river Teifi, going back to the 11th century. He can give you an insight of how the river developed into a major fishing and ship building industry and how the people once earned their living on this beautiful stretch of the river. Embarking from Cardigan Bridge jetty in Cardigan town, you will travel downstream to the mouth of the estuary in Gwbert and enjoy the beautiful scenic views.

Telerau ac Amodau:Oherwydd y llanw a’r tywydd, mae amseroedd teithiau’n newid yn ddyddiol.

T&Cs: Due to tide and weather conditions, trip times change daily.

Cardigan Bay Properties

Gwobr: Hamper o fwyd lleol gwerth £45.

Prize: A locally sourced food gift hamper worth £45.

Gwerthwr tai annibynnol, proffesiynol, gwobrwyedig yw Cardigan Bay Properties. Helen Worrall a Tania Dutnell sy’n berchen arno ac wedi’i redeg ers cafodd ei lansio ym mis Chwefror 2021. Crëwyd eu busnes i gynnig gwasanaeth proffesiynol, personol i brynwyr a gwerthwyr, gan roi eu cleientiaid yn gyntaf, tra'n manteisio i'r eithaf ar eu profiad, gwybodaeth leol a gyda’i gilydd, 29 mlynedd o arbenigedd marchnad. O ganlyniad, mae ganddynt adolygiadau pum seren a ffrâm amser sydd cyn lleied â 13 wythnos ar gyfartaledd o ran cyfnewid contractau. Maen nhw’n gwerthu pob math o eiddo preswyl a masnachol, tir a thyddynnod ar draws Gorllewin Cymru ac maen nhw ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Cardigan Bay Properties is a multi-award-winning, professional, independent estate agent owned and operated by Helen Worrall and Tania Dutnell, which was launched in February 2021. Their business was created to offer buyers and sellers a professional, personal service, putting our clients first, while making the most of our experience, local knowledge and 29 years combined worth of market expertise. As a result, they have five-star reviews and an average sales exchange time frame of just 13 weeks. They sell all types of residential and commercial property, land and smallholdings across West Wales and are available 7 days a week.

Telerau ac Amodau: Bydd yn gysylltiedig â bwyd, a gall gynnwys cnau, glwten a chynnyrch llaeth, gan ddibynnu ar y bwyd a ddewisir.

T&Cs: It will be food related, and may contain nuts, gluten and dairy, depending on food selected.

Castell Aberteifi | Cardigan Castle

Arhoswch mewn llety gwely a brecwast modern gyda golygfeydd o'r castell. Tu fewn i furiau'r castell, gwelwch dwy erw o erddi a golygfeydd arbennig dros yr afon Teifi. Tu allan i'r muriau, fyddwch yng nghalon Aberteifi, yn gyfagos i barc yr arfordir, mynyddoedd y Preseli, Ceredigion a Sir Benfro.

Stay in our contemporary, river-view 4* B&B rooms and enjoy a locally-sourced, traditional Welsh breakfast at our on-site restaurant, 1176. On your doorstep, you’ll find two acres of glorious grounds and panoramic river views. Step outside of the historic walls and you’ll be in the heart of the quaint market town of Cardigan – the perfect base to explore Ceredigion and Pembrokeshire.

Gwobr: Noson foethus mewn ystafell yng Nghastell Aberteifi.

Prize: A luxurious night’s stay at Cardigan Castle.

Yn amodol ar argaeledd, mae Telerau ac Amodau’n berthnasol

Subject to availability, T&Cs apply

Anne Cakebread & Claire Wigley

Print gan arlunydd lleol a bwndel o lyfrau

Local artists print and books bundle

Gwobrau: Print o'r enw 'Betty & The Wave' gan yr artist lleol Claire Wigley. Copïau wedi'u llofnodi o'r gyfres lyfrau boblogaidd Teach Your Pet, gan y darlunydd Anne Cakebread (maen nhw’n cynnwys: Teach Your Dog North Wales Welsh' 'Teach Your Dog Irish' 'Teach Your Dog Welsh' 'Teach Your Cat Irish' 'Teach Your Cat Welsh'). Yn ogystal, mae gennym gopi o Lyfr Lliwio Rygbi Cymru gwych Anne a Llyfr Lliwio Pêl-droed Cymru.

Prizes: A print titled 'Betty & The Wave' by local artist Claire Wigley. Signed copies of the popular Teach Your Pet book series, by illustrator Anne Cakebread (They include 'Teach Your Dog North Wales Welsh' 'Teach Your Dog Irish' 'Teach Your Dog Welsh' 'Teach Your Cat Irish' 'Teach Your Cat Welsh' We also have a copy of Anne's brilliant Welsh Rugby Colouring Book and a Welsh Football Colouring Book.

Mwldan

mwldan.co.uk

Gwobr: Cyfle i ennill werth blwyddyn o docynnau sinema rhad ac am ddim ar gyfer dangosiadau yn y Mwldan.

Prize: Win a years-worth of cinema tickets at Mwldan.

Mae’r Mwldan yn ganolfan ar gyfer y celfyddydau a sinema yng nghanol Aberteifi. Rydym yn un rhan o dair o'r tîm sy'n cyflwyno Lleisiau Eraill Aberteifi, ochr yn ochr â South Wind Blows a Triongl. Yn ogystal â bod yn ganolfan yn Aberteifi, rydym yn cynhyrchu teithiau cenedlaethol a rhyngwladol ac mae gennym label recordiau, sef bendigedig. Rydym hefyd yn cynnal sioeau ar raddfa fawr bob haf mewn cydweithrediad â’r Castell ar eu tiroedd hanesyddol.

Mwldan is a venue for arts and cinema in the centre of Cardigan. We are one third of the team who puts on Other Voices Cardigan, alongside South Wind Blows and Triongl. As well as being a venue in Cardigan, we produce national and international tours and have a record label bendigedig. We also put on the large-scale shows each summer in collaboration with the Castle in their historic grounds.

Telerau ac Amodau: Nid yw'n berthnasol i ddangosiadau TMFS, na digwyddiadau Darlledu.

T&Cs: Does not apply to TMFS screenings, or Broadcast events.

Diolch o galon i roddwyr hael ein gwobrau

A big thank you to our generous prize donors

A diolch yn fawr iawn hefyd am y gefnogaeth gan…

And a big thank you also for support from...

Jig-so / Cyngof Tref Aberteifi - Cardigan Town Council / Eleri Maskell / Clive Davies / Llinos Jones / Billy Mag Fhloinn / Catrin Henry / Louise O’Neill / Mark Lewis, Cardibanners / Nikki Lewis and OC Davies / Sarah Moloney / Jane Davidson / The Caygills