Criw Caredig 2024-2025

Croeso i dudalen Criw Caredig Ysgol Brynaman. Rydyn ni'n gyffrous iawn i rannu ein syniadau a phrosiectau trwy'r dudalen yma.

Ein syniadau:

Creu posteri i osod o gwmpas yr ysgol

Pwerbwynt yn dangos esiamplau o garedigrwydd

Creu coeden garedig i gael yn y neuadd

Athrawon a phlant i gadw “post-it” pan mae rhwyun yn garedig yn ystod yr wythnos, y “post-it” i gael ei rhoi ar y Goeden Garedig. Yn ystod Gwasanaeth Gwobrwyo, Mr. James i ddarllen engrheifftiau o blant sydd wedi bod yn garedig yn ystod yr wythnos.

Y Criw Caredig i osod sialens i weddill yr ysgol – bod yn garedig yn y cartref, symud ymlaen i fod yn garedig yn y gymuned.

"Gwneud rhywun yn hapus pan bod nhw'n drist."

"Agor y drws i eraill."

"Dweud plis a diolch"

"Helpu yn y dosbarth i dacluso neu rhoi adnoddau allan."

"Helpu rhywun pan ma' nhw wedi cwympo."

"Helpu eraill i siarad Cymraeg."

Dyma ni yn y Gwasanaeth gwobrwyo wedi trafod gyda gweddill yr ysgol ein syniadau ac i roi gwybod i bawb fe fydd "Coeden Garedig" yn y neuadd ble gall athrawon a disgyblion osod y "Post-it's" i ddangos sut mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn garedig yn ystod yr wythnos.

20.1.25 - Wedi cwrdd i ddechrau creu posteri a phwerbwynt i ddangos sut gall pawb fod yn garedig.

27.1.25 - Parhau i greu y posteri a Pwerbwynt.

Credits:

Created with images by sulit.photos - "Hands holding a white heart in white background. Pure love and kindness concept. Top view" • Angelov - "Light shining from open door. Entrance" • wayhome.studio - "Vertical image of good looking Afro American woman with curly hairstyle, grabs your attention to something upwards, helps to make better shopping decision, dressed casually, poses over beige wall" • Krakenimages.com - "Young beautiful hispanic woman working as teacher tidying up at kindergarten" • pahis - "two boys in park, help boy with roller skates to stand up"