Y Warws Werdd - Ymweliad
Dydd Gwener, Mawrth yr 8fed aeth plant dosbarth Mrs Humphreys ar daith i'r Warws Werdd yn Antur Waenfawr, Caernarfon. Treuliont y bore gyda Malcom a'r criw yn dysgu am yr holl waith da sydd yn cael ei wneud yno yn ailgylchu, a sut mae hynny’n cael effaith dda ar ein hamgylchedd a'r blaned. Cafodd y plant gap yn anrheg. Dyma gofnod o’r diwrnod gan Cynan blwyddyn 3, sydd yn aelod o’r Cyngor Eco:-
Rydw i wedi ymweld a’r Warws Werdd. Es yno gyda’r dosbarth. Aethom yno oherwydd roeddem ni eisiau dysgu am ail-gylchu dillad. Yna aethom i Galeri, Caernarfon. Gwelsom waith Ella Louise Jones, mae hi hefyd yn defnyddio hen ddillad a hen ddefnyddiau i greu. Roedd yn codi gwen arnaf fi. Ar ol hyn aethom i parc Coed Helen. Cawsom bicnic blasus. Y peth gorau oedd y parc. Peth gwaethaf oedd gweld Orig a Tomi yn dringo!!
Grant i'r Ardd - Edina Trust
Yn dilyn llwyddiant y Cyngor Eco ar dderbyn grant gwerth £1,000 gan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru/Edna Trust; mae gwaith mawr wedi cael ei wneud ar wella’r ardd. Yn gyntaf cafwyd gwely plannu newydd, gan fod yr hen un wedi pydru. Prynwyd dy gwydr i fynd yn sownd i'r cwt gardd, gan obeithio y bydd cysgod yno rhag y gwynt ar glaw yr ydym yn ei gael yma ar iard yr ysgol! Wrth sôn am y tywydd, rydym hefyd wedi cael Gorsaf Dywydd Digidol er mwyn gallu cadw golwg ar y newid sydd yn digwydd i'r tywydd. Byddwn yn gallu gwneud gwaith hefo’r canlyniadau. Roedd y bocs plastig oedd ganddom yn dal twls yr ardd wedi malu, a dwr yn mynd i mewn iddo. Felly, prynwyd storfa fawr glyfar i gadw holl dŵls sydd eu hangen yn yr ardd. Ac yn olaf pynwyd llawer iawn o lysiau a phlanhigion i harddu’r ardd. Roedd nifer ohonynt yn rhai lluosflwydd ac felly yn lleihau y gwaith plannu ar gyfer y flwyddyn nesaf!
Yn rhan o'r grant roeddem yn hynod o ffodus o gael arbenigedd Anna Williams o Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ddod atom am ddiwrnod i helpu i blannu’r holl flodau ar llysiau. Edrychwn ymlaen rŵan i weld ffrwyth ein llafur.
Uned Diogelwch Ffyrdd Gwynedd
Dydd Iau, Chwefror 29, ymwelodd Uned Diogelwch Ffyrdd Gwynedd ar ysgol. Cafodd y plant hyfforddiant ar sut i reidio beic. Yn dilyn yr hyfforddiant, mae rhai o’r plant sydd yn byw yn ddigon agos yn dod i'r ysgol ar ei beics. Dim ond gobeithio rwan y cawn ychydig o dywydd braf er mwyn cael cario mlaen. Dyma lun Gwilym a Magi yn beicio i'r ysgol.
Cynefin a Bywyd y Pengwin
Mae plant y dosbarth Derbyn a Blwyddyn 1 wedi bod wrthi’n brysur yn dysgu am gynefin a bywyd y Pengwiniaid. Cafodd y plant gyfle i ddysgu a gwneud gweithgareddau ar draws y Cwricwlwm. Buont yn peintio llun o'r Pengwin yn ei gynefin drwy ddefnyddio lliwiau oer, neu cynnes o’i amgylch. Yn y gwaith Mathemateg dysgwyd am Siapiau 2D, wedyn cafodd y plant dasg o greu pysgod gwahanol siapau ar gyfer Pedro a Pegi y pengwiniaid. Creodd plant blwyddyn 1 lyfr gwybodaeth am y pengwin - roedd pob un yn wahanol ac yn llawn gwybodaeth. Tasg plant blwyddyn Derbyn oedd siarad yn glir am yr hyn yr oeddynt yn ei gofio a’i ddysgu am fywyd y pengwiniaid tra roedd Mrs Robers yn eu recordio. I ddarfod yr uned waith cafodd y plant gyfle i goginio, eu tasg oedd creu pengwin allan o ffrwythau, roedd y plant i gyd wedi mwynhau ac wrth eu boddau yn cael eu bwyta wedyn.
Fforio am Fwyd yn Nefyn!
Wel dyna chi bnawn difyr gafodd Dosbarth yr Eifl heddiw yn dysgu am blanhigion gwyllt bwytadwy a lleddfol gyda Cartin o gwmni Maeth Natur. Mae hi yn saff dweud fod pawb wedi mwynhau blasu’r crempogau Dail Poethion, Craf yr Afr, a Suran y Ddafad, cyn creu sebon Castan a chanhwyllau brwyn. Diolch yn fawr Catrin, Menter Iaith Gwynedd ac Amgueddfa Forwrol Llyn.
Mai Di-Dor
Yn ystod mis Mai eleni, mae dosbarth Mrs Roberts a Mrs Humphreys wedi bod yn cymryd rhan yn ymgyrch 'Mai Di-Dor'. Roedd hyn yn golygu plannu hadau gwyllt ar ddwy ochr y fynedfa yn y maes parcio, a'i adael i dyfu yn wyllt. Mae dosbarth Mrs Humphreys wedi mynd ati i greu posteri i ddynodi'r llefydd yma hefyd.