Gwerth y Mis / Value of the Month
Mai a Mehefin / May and June - Dewrder/Courage
Gorffennaf/July - Goddefgarwch/Tolerance
Hawl y Mis / Right of the Month
Mehefin/June - Erthygl 12 - Eich hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd ac i rywun wrando arnoch / Article 12 - Your right to say what should happen and for someone to listen to you.
Gorffennaf/July - Erthygl 14 - Eich hawl i ddilyn eich crefydd eich hun / Article 14 - Your right to follow your own religion.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
02.06.25 - 18.07.25 - HANNER TYMOR / HALF TERM
Dydd Llun 02.06.25 Monday Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school.
Dydd Llun / Monday 09.06.24 - Lluniau dosbarth swyddgol / Official class photographs
Dydd Llun/ Monday 08.07.25 Gwers 'tyfu i fyny' i ddisgyblion blwyddyn 6 gyda nyrs yr ysgol/ Growing up lesson for year 6 pupils with the school nurse.
Dydd Iau / Thursday 03.07.25 Sioe 'Y Chwedlau' Canolfan Y Selwyn Samuel / Selwyn Samuel Centre Disgyblion o flynyddoedd 1 i 6 / Pupila in years 1 to 6
Dydd Iau / Thursday 10.07.2025 - Bl6 - Noson Agored yn Ysgol y Strade / Open Evening at Ysgol y Strade - 18:00
Dydd Gwener / Friday 11.07.25 Disgyblion blwyddyn 6 yn ymweld a Ysgol Y Strade ar gyfer diwrnod pontio / Year 6 visiting Ysgol Y Strade for a transition day
Dydd Gwener / Friday 11.07.2025 - Meithrin i B5 - Diwrnod Pontio yn dosbarthiadau newydd / Transition Day in new classes
Dydd Gwener / Friday 11.07.2025 - Adroddiadau Disgyblion / Pupil Reports
Dydd Iau / Thursday 17.07.25 Gwasanaeth ymadawyr blwyddyn 6 (2yh Neuadd yr ysgol) / Year 6 leavers assembly (2pm school hall)
18.07.2025 - Diwedd Tymor / End of Term
21.07.2025 - HMS / INSET
19.07.2025-01.09.2025 - Gwyliau/Holidays
01.09.2025 - HMS/INSET
02.09.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
PYDd v PYDdC / FSM v UPFSM
Ydych chi'n gwybod y gwahaniaeth rhwng Prydau Ysgol am Ddim a Phrydau Ysgol am Ddim Cyffredinol? / Do you know the difference between Free School Meals and Universal Primary Free School Meals? Er mwyn ceisio helpu rhieni i ddeall ac i sicrhau bod pob disgybl sy’n gymwys ar gyfer 'Prydau Ysgol am Ddim (PYDd)' gyda'i holl fanteision ychwanegol yn elwa, rydym wedi creu ffeithlun i esbonio'r gwahaniaeth.
Prydau Ysgol Am Ddim Cynradd Cyffredinol (PYDdC) - Nod Llywodraeth Cymru yw y bydd pob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru yn gymwys i gael Pryd Ysgol am Ddim Cynradd Cyffredinol (PYDdC) erbyn diwedd 2024, waeth beth yw incwm y cartref. Ni fydd ffurflenni i'w llenwi. FFAITH BWYSIG - Nid yw derbyn PYDdC fel hyn yn rhoi'r hawl yn awtomatig i deuluoedd dderbyn budd-daliadau eraill fel grantiau gwisg ysgol. Bydd angen i chi wneud cais PYDd i gael hyn.
PRYDAU YSGOL AM DDIM (PYDd) - Mae gan rai teuluoedd sy'n bodloni meini prawf penodol, er enghraifft y rhai sydd ar incwm is neu sy'n derbyn budd-daliadau penodol, yr hawl i dderbyn Pryd Ysgol am Ddim (PYDd). Ar gais llwyddiannus am PYDd mae teuluoedd yn gymwys i gael budd-daliadau eraill i dalu am gost hanfodion ysgol fel grantiau gwisg ysgol.
Er bod ysgolion wedi bod yn cynnig PUDdC ers 2022, ac mae grwpiau blwyddyn cymwys yn derbyn prydau ysgol am ddim, dylai teuluoedd sy'n gymwys ar gyfer PYDd barhau i ddefnyddio’r broses ymgeisio PYDd i sicrhau nad ydynt yn colli allan ar fudd-daliadau eraill. Yn ogystal â theuluoedd, mae ysgolion hefyd yn elwa o PYDd. Ar gyfer pob plentyn sy'n gymwys i PYDd, mae ein hysgol hefyd yn derbyn cyllid i gefnogi’r dysgwyr.
To try and help parents understand this and ensure that all eligible pupils for the ‘FSM -Free School Meals’ with all its additional benefits have applied, we have created an infographic to explain the difference. Universal Primary Free School Meals (UPFSM) - It is Welsh government's aim that every child in primary school in Wales will be eligible for a Universal Primary Free School meal by the end of 2024, regardless of household income. There will be no forms to fill in. IMPORTANT FACT - Receiving a UPFSM in this way does not automatically entitle families to receive other benefits such as school uniform grants. You may still need to apply for FSM to get this.
FREE SCHOOL MEALS (FSM) - Some families who meet certain criteria, for example those on lower incomes or in receipt of certain benefits, are entitled to receive a Free School Meal (FSM). On successful application for FSM families are then eligible for other benefits to cover the cost of school essentials such as school uniform grants.
Even though schools have been offering UPFSM since 2022, and eligible year groups are receiving free school meals, families who are eligible for FSM should continue to use the FSM application process to ensure they don't lose out on other benefits. As well as families, schools also benefit from FSM. For every child who applies for and is granted an FSM, our school can also access funding to help for school essentials to benefit learners.
Chwaraeon / Sports
Every pupil in the school has competed on the sports field this half term. Our sports day was a successful event. Everyone competed enthusiastically and enjoyed a day of activities / competition in fine weather. Thank you to all families for all your support.
Also between the tea and coffee stand and families paying to attend the substantial sum of £825 was raised. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.
Llongyfarchiadau i'r llys Melyn (Tywi) am eich buddugoliaeth yn y mabolgampau eleni yn sgorio 455 o bwyntiau o'r Meithrin i flwyddyn 6 / Congratulations to the yellow 'house' (Tywi) on their victory in this years sports day, scoring 455 points from Nursery age pupils to year 6.
Eisteddfod Genedlaethol Yr URDD / The URDD National Eisteddfod
Pob lwc i ddisgyblion yr Ysgol sy'n cystadlu yn yr Eisteddfod yr wythnos nesaf yn y Gan Actol. Diolch i Mrs Horan, Mrs Smith a Mr Pike am eich gwaith i baratoi'r disgyblion / Good luck to all pupils competing in the Can actol next week in the National Eisteddfod. Thank you to Mrs Horan, Mrs Smith and Mr Pike for all your hard work preparing the pupils.
Blwyddyn 5 / Year 5
Yr hanner tymor hwn, rydym yn gyffrous i rannu ein cylchlythyr mewn fformat gwahanol – fel podlediad! Bydd modd i chi wrando ar yr holl ddiweddariadau, newyddion a uchafbwyntiau o fywyd yr ysgol ar eich cyfleustra. Cafodd y podlediad ei greu gyda help Marky G. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r ffordd newydd hon o gadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol!
Yr hanner tymor hwn, rydym yn gyffrous i rannu ein cylchlythyr mewn fformat gwahanol – fel podlediad! Bydd modd i chi wrando ar yr holl ddiweddariadau, newyddion a uchafbwyntiau o fywyd yr ysgol ar eich cyfleustra. Cafodd y podlediad ei greu gyda help Marky G. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau’r ffordd newydd hon o gadw mewn cysylltiad â’r hyn sy’n digwydd yn yr ysgol!
Meithrin Cymru ac Iwerddon
Am hanner tymor byr ond brysur iawn yn y Meithrin. Croesawom grwp o ddisgyblion newydd i ein plith sydd wedi ymgartrefi’n arbennig o dda dros yr wythnosau diwethaf. Darllenom stori Bili Broga ac wedi mwynhau gwneud helaeth o weithgareddau difyr yn ymwneud a’r stori. Dysgom sawl ffaith ddiddorol am frogaod gan gynnwys trefn cylchred bywyd y broga. Yn ddiweddar, rydym wedi mwynhau archwilio ac arbrofi yn yr ardaloedd allanol yn ystod y tywydd braf. Cawsom lawer o hwyl a sbri yn ystod ein diwrnod mabolgampau, da iawn i bawb am eu hymdrech gwych. Croesawom ein rhieni a theuluoedd mewn i’r ysgol am sesiwn canu a chwarae, lle cawsom y cyfle i ddangos iddynt y math o weithgareddau rydym yn eu gwneud o fewn ein dosbarthiadau. Edrychwn ymlaen at fwy o hwyl a dysgu drwy chwarae ar ol wyliau Sulgwyn.
.
What a short but busy half term in the nursery. We welcomed a group of new pupils to our classrooms who have settled in fantastically over the past few weeks. We read the stori Bili Broga and enjoyed doing a variety of fun activities related to the story. We’ve learnt several interesting facts about frogs, including the lifecycle of a frog. Recently, we’ve enjoyed exploring and experimenting in our outdoor areas in the sunshine. We had lots of fun during our sports day and all did a fantastic effort. We welcomed our parents and families to the school for a song and play session where we had the opportunity to show them the sort of activities we do in class. We look forward to more fun and learning through play after the Whitsun holidays.
Derbyn Sbaen a'r Eidal
Rydym wedi cael hanner tymor prysur iawn er bod e’n un byr! Rydym wedi dysgu enwau amrywiaeth o drychfilod a’u priodweddau. Rydym wedi bod yn didoli trychfilod yn ôl meini prawf er enghraifft gallu hedfan/dim hedfan. Aethom allan i gasglu dail a brigau er mwyn creu gwestai trychfilod. Cyrhaeddodd 5 lindys bachi i’r ysgol a dysgom am gylch bywyd y pili pala a'i gymesuredd trwy beintio, lliwio ac addurno pili pala. Rydym wedi bod yn trafod bwydydd iach ac afiach a phenderfynom greu cebabs ffrwythau a smwddis iachus. Wnaethom fwynhau cymryd rhan yn ein mabolgampau ac ym mabolgampau Menter Cwm Gwendraeth.
We’ve had a busy half term despite being a short one! We’ve been learning the names of bugs and their characteristics. We have been sorting bugs according to various criterias such as can fly/can’t fly. We went out foraging for leaves and twigs in order to make a bug hotel. Five small caterpillars arrived in school so we have been learning about the life cycle of a butterfly and learning about symmetry by painting, colouring and decorating butterflies. We have been discussing healthy and healthy foods so we decided to make fruit kebabs and a healthy smoothie. We enjoyed taking part in our school sports day and Menter Cwm Gwendraeth’s Sports Day.
Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc
Bu'n hanner tymor prysur llawn dysgu a hwyl, a gafodd ei helpu'n fawr gan welliant yn y tywydd. Cawsom amser gwych ar ddiwrnod mabolgampau’r ysgol, lle bu ein disgyblion Blwyddyn 1 yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau hwyl. O rasys syth i weithgareddau tim dangosodd pawb y gallu i gydweithio a brwdfrydedd. Llongyfarchiadau mawr i'r plant am eu hymdrech! Yn ystod ein gwersi llythrennedd, rydym wedi bod yn defnyddio Aled Afal a'i ffrindiau fel ysbrydoliaeth ar gyfer ein hysgrifennu. Mae'r brawddegau byr, clir yn helpu'r disgyblion i weithio'n fwy annibynnol. Fel her ychwanegol, mae'r plant wedi mwynhau creu brawddegau eu hunain ac maent yn magu hyder yn eu sgiliau ysgrifennu bob wythnos.
Mae’r ymarferion ar gyfer y sioe ysgol yn mynd yn llawn cyflymder! Mae Blwyddyn 1 wedi ymuno â’r ysgol gyfan i ymarfer eu caneuon yn barod am y diwrnod mawr. Mae'r plant mor gyffrous i fod yn rhan o'r perfformiad bendigedig hwn, ac nid ydym yn gallu aros i'w gweld yn disgleirio ar y llwyfan. Rydym hefyd wedi bod yn cael ein dwylo'n fudr yn yr ardd! Mae'r dosbarth wedi bod yn dysgu am blanhigion a natur, ac rydym wedi plannu rhai blodau hyfryd. Mae'r plant yn edrych ymlaen at weld eu gwaith caled yn tyfu. Mwynhewch eich hanner tymor, a byddwn ni'n eich gweld chi mewn wythnos. Diolch!
It’s been a busy half term full of learning and fun, aided greatly by the improvement in weather. We had a fantastic time on Sports Day, where our Year 1 students participated in various fun activities. From sprints to relay races with a twist, everyone showed great teamwork and enthusiasm. A big congratulations to all the children for their effort and sportsmanship! During our literacy lessons, we’ve begun to use Aled Afal and friends as inspiration while writing. These are short, clear sentences that place an emphasis on the children working with greater independence. As an added challenge, the children have enjoyed creating their own sentences and are gaining confidence with their writing skills each week.
Rehearsals for the school show are in full swing! Year 1 have joined the rest of the school in practicing their songs in preparation for the big day. The pupils are excited to be part of this wonderful performance, and we can’t wait to see them shine on stage.We’ve also been getting our hands dirty in the garden! The class has been learning about plants and nature, and we’ve planted some lovely flowers and vegetables. The children are looking forward to seeing their hard work grow. Have a lovely half term, we’ll see you in a week. Diolch!
Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden
Am hanner tymor byr, ond prysur iawn!
Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym wedi bod yn brysur wrth baratoi ar gyfer ein Mabolgampau. Perfformiodd y plant yn arbennig o dda, a braf oedd gweld cymaint o rieni yn cefnogi eu plant. Y tymor yma, rydym wedi parhau a’n thema ‘Chwedlau’, ac wedi dechrau ein hymarferion ar gyfer ein sioe ar ddiwedd y flwyddyn.
Yn ystod ein sesiynau mathemateg, buom yn datblygu ein sgiliau ‘tynnu’, ac ar hyn o bryd, rydym yn ymarfer ein sgiliau o ddarllen a chofnodi amser ar gloc analog. Cawsom hwyl allan yn yr awyr agored gyda Miss Evans yn plannu hadau o amgylch tir yr ysgol.
What a short, but very busy half term!
During this half term, we have been busy preparing for our Sports Day. The children performed extremely well, and it was nice to see so many parents supporting their children. This term, we have continued with our topic of celebrating Welsh culture, and have started our rehearsals for our show at the end of the year.
During our Mathematics sessions, we have developed our 'subtraction' skills, and now, we are practicing our skills of reading and recording time on an analogue clock. We had fun outdoors with Miss Evans planting seeds around the school grounds.
Blwyddyn 3 Alban a Hwngari
Ein cysyniad y tymor yma yw ‘sut mae golau yn helpu/ rhwystro bywyd pob dydd?’ Felly rydym ni wedi penderfynu dechrau dysgu ffeithiau am yr haul.
I ddechrau, defnyddiom ni gogyls ‘VR’ fel sbardun i’n thema newydd. Gwelsom ni tipyn o ddelweddau gan gynnwys y ‘Milkyway’, tân gwyllt ayyb. Ar ôl trafod beth welsom ni meddyliom ni am gwestiynau beth hoffwn ni wybod. Ar yr 8fed o Fai dysgom ni am ddiwrnod buddugoliaethus Ewrop. Gwnaethom ni weithgareddau celf fel silwét a dylunio awyren y ‘Spitfire’ yn ogystal â chreu Pwerbwynt yn cyflwyno gwybodaeth am pam a sut roedd pobl wedi dathlu’r diwrnod yma nôl yn 1945. Roedd pob un o’r disgyblion wedi ymdrechu’n galed yn ystod ymarferion Mabolgampau. Fe wnaeth pawb perfformio’n wych ar y diwrnod hefyd. Da iawn i bawb!
Our concept this term is 'how does light help/hinder everyday life?' So we have decided to start learning facts about the sun. To begin with, we used 'VR' goggles as the tunning in for our new theme. We saw lots of images including the 'Milkyway’, fireworks etc. After discussing what we saw we thought about questions what we would like to know. On the 8th of May we learned about Europe's triumphant day. We did art activities such as the silhouette and design of the 'Spitfire' plane as well as creating a Powerpoint presenting information about why and how people had celebrated this day back in 1945. All pupils practised really Sports day. Everyone performed brilliantly on the day too. Well done to you all!
Blwyddyn 4 Almaen a Swistir
Er mai hanner tymor byr fu hwn, mae wedi bod yn un hynod o brysur! Ein thema eleni yw sut mae cerddoriaeth yn effeithio ar ein meddyliau a’n cyrff, ac yn cael ei defnyddio i greu effaith mewn adrodd straeon, megis mewn ffilm neu theatr. Rydym wedi archwilio amrywiaeth o offerynnau cerddorol, gan ddysgu sut mae pob un yn cynhyrchu sain ac i ba deulu y maent yn perthyn. Daeth hyn â ni ymlaen at astudio’r glust ddynol – sut mae sain yn cael ei chreu a sut rydym yn ei chlywed. Mae Mr Jennings hefyd wedi bod yn gweithio gyda Blwyddyn 4 i gyfansoddi darnau cerddorol, gan archwilio sut mae gwahanol elfennau cerddoriaeth yn gallu newid naws darn. Ym mathemateg, rydym wedi bod yn brysur yn edrych ar onglau, gan fynd allan i natur i weld pa onglau mae canghennau coed a dail yn eu ffurfio. Rydym hefyd wedi bod tu allan er mwyn adnabod yr coed sydd gennym ar dir yr ysgol ac i gyfrifo eu taldra a’u hoedran. Wrth gwrs, uchafbwynt y tymor byr hwn oedd ein diwrnod chwaraeon ysgol – cafodd pawb amser gwych a rhoddodd bawb eu gorau glas!
Although it has been a short half term, it has been an extremely busy one! Our theme this term has focused on how music affects our minds and bodies, and how it is used to create impact in storytelling through film and theatre. We’ve explored a variety of musical instruments, learning how each one produces sound and identifying the families they belong to. This naturally led us to study the human ear—how sound is created and how we hear it. Mr Jennings has also been working with Year 4 to compose original pieces, experimenting with how different musical elements can change the mood of a piece. In maths, we’ve been busy learning about angles and even took our learning outdoors to observe the angles formed by tree branches and leaves in nature. We’ve also been outside to identify the trees we have on school grounds and calculating their height and age. Of course, the highlight of this half term was our fantastic school sports day—everyone had a brilliant time and gave it their all!
Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg
Rydym wedi bod yn weithgar iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf! Ar ddechrau’r tymor daeth Tîm Diogelwch Ffyrdd i’r ysgol i ddarparu hyfforddiant hyfedredd beicio i’r disgyblion. Fel rhan o’r hyfforddiant dysgom sut i adnabod peryglon nodweddiadol, cadw’n ddiogel ar yr heol, a dangos dealltwriaeth o reolau’r ffordd. Yn ogystal, cawsom gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy ‘Dr Bike’ lle gweithiom ochr yn ochr ag arbenigwyr beiciau i sicrhau bod ein beiciau yn ddiogel i ddefnyddio. Ein thema newydd ar gyfer y tymor yma yw ‘O’r Llyfr i’r Llwyfan’ ac ar ddiwedd y tymor byddwn yn perfformio sioe ‘Chwilio’r Chwedlau’ yng Nghanolfan Selwyn Samuel. Fel rhan o’n gwaith thema rydym wedi bod yn dysgu caneuon ar gyfer y sioe ac wedi cynnal clyweliadau ar gyfer rhannau’r cymeriadau. Roedd hyn yn broses eithaf cyffrous! Mae hanner tymor prysur arall o’n blaenau lle byddwn yn edrych mwy manwl ar beth sy’n gwneud chwedl i ddod yn fyw ar y llwyfan gan ystyried gwisgoedd, deialog, sgiliau actio, rheoliad y llwyfan a phropiau.
Cawsom weithdy gwerthfawr iawn gyda PC Ali yn trafod cyffuriau cyfreithlon ac anghyfreithlon. Rydym hefyd wedi bod yn cymryd rhan mewn sesiynau ‘Jigsaw’ lle rydym wedi bod yn dysgu am berthnasoedd iach, diogelwch ar-lein a sut i gadw iechyd meddwl positif. Yn ogystal, rydym wedi bod yn brysur yn ymarfer a chymryd rhan yn ein mabolgampau ysgol ac wedi cael hwyl a sbri yn chwarae criced a rownderi tra hefyd yn cadw’n heini! Yn ein gwaith llythrennedd ysgrifennom destun gwybodaeth yn seiliedig ar ‘Iechyd Meddwl’ i gyd-fynd gyda dathliadau wythnos ‘Iechyd Meddwl’. Hefyd, rydym wedi bod yn atgyfnerthu ein sgiliau darllen a deall er mwyn paratoi am y profion cenedlaethol ar ôl hanner tymor. Yn ogystal, rydym wedi bod wrthi yn dysgu am nodweddion hen benillion, sef math o farddoniaeth, ac yna ysgrifennu hen benillion ein hun yn seiliedig ar lygredd.
Yn ein gwaith mathemateg a rhifedd rydym wedi bod yn atgyfnerthu ein sgiliau ffracsiynau trwy adnabod ffracsiynau cywerth a symleiddio ffracsiynau. Y cam nesaf yw dysgu sut i drosi ffracsiynau pendrwm a rhifau cymysg, darganfod ffracsiwn o rif, a throsi ffracsiynau, canrannau a degolion. Rydym hefyd wedi cyflawni gwaith cyfesurynnau yn y pedwar pedrant gan ddysgu sut i ddarllen a chofnodi cyfesurynnau gan ddefnyddio’r ffurf gywir. Wrth nesáu at ddiwedd yr hanner tymor, edrychwn ymlaen at ein hanner tymor olaf yn Ysgol Ffwrnes. Mae amser cyffrous o’n blaenau!
We have been very busy over the last four weeks! At the beginning of the term
the Road Safety Team worked with year 6 pupils to provide cycling proficiency training. As part of the training, we learned how to recognize typical dangers, how to stay safe on the road, and we gained an understanding of some of the rules of the highway code. In addition, we had the opportunity to take part in a 'Dr Bike' workshop where we worked alongside bike experts to ensure that our bikes were safe to use.
Our new theme for this term is ‘O’r Llyfr i’r Llwyfan’ and at the end of the term we will be performing the show 'Chwilio’r Chwedlau’ at the Selwyn Samuel Centre. As part of our theme work we have been learning songs for the show and held auditions for different character roles. This was quite an exciting process! There is another busy half term ahead of us where we will look in more detail at what makes a legend come alive on stage considering costumes, dialogue, acting skills, stage management and props.
We had a very valuable workshop with PC Ali discussing legal and illegal drugs. We have also been taking part in 'Jigsaw' sessions where we have been learning about healthy relationships, online safety and how to maintain positive mental health. In addition, we have been busy practicing and taking part in our school sports and have had fun playing cricket and rounders while also keeping fit!
In our literacy work we wrote an information text based on 'Mental Health' to coincide with the 'Mental Health' week. Also, we have been consolidating our reading and comprehension skills in order to prepare for the national tests after half term. In addition, we have been actively learning about the characteristics of an old verse, which is a type of poetry, and then writing our own old verse based on pollution.
In our maths and numeracy work we have been consolidating our fractions skills by recognizing equivalent fractions and simplifying fractions. The next step is to learn how to convert decimal fractions and mixed numbers, find a fraction of a number, and convert fractions, percentages and decimals. We have also carried out coordinates work in the four quadrants learning how to read and record coordinates using the correct form.
As we approach the end of this half term, we look forward to our final half term at Ysgol Ffwrnes. There are exciting times ahead!