Gwerth y Mis / Value of the Month
Tachwedd / November - Heddwch / Peace
Rhagfyr / December - Cariad / Love
Hawl y Mis / Right of the Month
Tachwedd/November - Erthygl 6 - Mae gennych yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach / Article 6 - Your right to life and to grow to be healthy.
Rhagfyr/December - Erthygl 10 - Eich hawl i weld eich teulu os ydynt yn byw mewn gwlad arall / Article 10 - Your right to see your family if they live in another country.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
26.10.2024 - 03.11.2024 - Gwyliau / Holidays
04.11.2024 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
07.11.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi'r Urdd yng Nghlwb Rygbi Rhydaman / Urdd Rugby Competition at Ammanford RFC
08.11.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Merched yr Urdd yng Nghlwb Rygbi Rhydaman / Urdd Girls TAG Rugby Competition at Ammanford RFC
08.11.2024 - B3/4 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Cymysg yr Urdd yng Nghlwb Rygbi Rhydaman / Urdd Mixed TAG Rugby Competition at Ammanford RFC
Dydd Mercher Tachwedd y 13eg Mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfynu gall y disgyblion wisgo dillad Pudsey, smotiau neu ddillad eu hunain ar ddydd Mercher Tachwedd 13eg a gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 tuag at yr elusen. Danfonwch eich cyfraniad o £1 mewn amlen wedi labelu gydag enw eich plentyn ar Ddydd Mercher Tachwedd y 13eg.
The School Council has decided that pupils can wear Pudsey clothes, spots, or their own clothes on Wednesday, November 13th. We kindly ask for a £1 contribution towards the charity. Please send your contribution in an envelope labelled with your child’s name on Wednesday, November 13th.
14.11.2024 a 15.11.24- Ffotograffydd/ Photographer - lluniau unigol/teulu / individual/family photos
Nosweithiau rhieni wythnos yn dechrau 11.11.24 / Parents evenings week commencing 11.11.24 (Gwybodaeth ar ClassDojo / Information on ClassDojo)
22.11.2024 - Bl6 - Diwrnod Oh La La yn Ysgol y Strade / Oh La La Day in Ysgol y Strade
Cyngerdd Nadolig disgyblion blynyddoedd 1 a 2 Capel Greenfield 04.12.24 6 yh / Christmas concert for pupils in years 1 and 2 'in Greenfield chapel 6 pm.
Cyngerdd Nadolig disgyblion blynyddoedd 3 a 4 Capel Greenfield 05.12.24 6 yh / Christmas concert for pupils in years 3 and 4 in Greenfield chapel 6pm.
Cyngerdd Nadolig disgyblion blynyddoedd 5 a 6 Capel Greenfield 10.12.24 6yh / Christmas concert for pupils in years 5 and 6 in Greenfield chapel 6pm.
Cyngerdd Nadolig Y blynyddoedd cynnar - Meithrin a Derbyn 09.12.24 - 12.12.24 (9:30yb) / The early years Nursery and Reception Christmas concerts 09.12.24 - 12.12.2 (9:30am)
21.12.2024-05.01.2025 - Gwyliau Nadolig / Christmas Holidays
HMS/INSET Dydd Llun Ionawr 6ed 2025
HMS/INSET Dydd Llun Mawrth 3ydd 2025
HMS/INSET Dydd Llun Ebrill 28ain 2025
HMS/INSET Dydd Llun Gorffennaf 21ain 2025
07.01.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
Edrychwch am y pwmpenni sydd o gwmpas y pentref o ddydd Llun, 28ain o Hydref i ddydd Gwener, 1af o Dachwedd. Defnyddiwch y ffurflen sydd wedi'i hanfon adref i gyfateb y rhifau i enwau'r pwmpenni. Rhoddir gwobrau i'r rhai sy'n dod o hyd i'r pwmpenni i gyd.
Look out for the pumpkins that are around the village from Monday, 28th October to Friday, 1st November. Use the sheet that has been sent home to match the numbers to the pumpkin names. Prizes will be given to the ones that find all of the pumpkins.
Presenoldeb / Attendance
Y targed cenedlaethol ar gyfer presenoldeb ydy 95% neu’n well. Os ydy presenoldeb eich plentyn o dan 90% rydych wedi derbyn llythyr i wella presenoldeb. Bydd y llythyron nesaf allan cyn gwyliau’r Nadolig! Mae colli 4 diwrnod ers dechrau’r flwyddyn yn golygu bod presenoldeb eich plentyn yn is na 90%. Rydym wedi derbyn sawl galwad ffôn i gwyno bod llythyr wedi’i danfon gan nodi rhesymau megis:
- Roeddwn ar wyliau am y 5 diwrnod cyntaf a chawsom ganiatâd.
- Bu fy mhlentyn yn sâl.
- Roedd gan fy mhlentyn apwyntiadau meddygol.
Ni ellir rhoi marc presenoldeb ar gyfer plentyn sydd ddim yn yr ysgol. Mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r ysgol am unrhyw absenoldeb er mwyn i ni wneud penderfyniad i awdurdodi’r absenoldeb neu beidio. Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad.
The national target for attendance is 95% or better. If your child's attendance is under 90% you will have received a letter to improve attendance. The next letters will be out before the Christmas holidays! Missing 4 days since the start of the year means your child's attendance is below 90%. We have received several phone calls since the letters went out complaining that a letter has been received because:
- I was on holidays for the first 5 days and got permission.
- My child was ill.
- My child had medical appointments
An attendance mark cannot be issued for a child who is not physically in school. It is important that you inform the school of any absence so that we can make a decision to authorise the absence or not. Thank you in advance for your cooperation.
Clwb hwyl / After school club
Mae clwb hwyl yr ysgol dal i redeg yn esmwyth ac o ddydd Llun i ddydd Iau. Cysylltwch a'r swyddfa am fwy o wybodaeth / The after school club is still running smoothly and from Monday to Thursday. Contact the office for more information.
Cyfarfodydd Rhieni - Parent Meetings
Fe'ch gwahoddir i wneud apwyntiadau ar gyfer cyfarfodydd rhieni-athrawon nesaf yr ysgol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu harchebu ar-lein, ac yna'n cael eu cynnal wyneb i wyneb yn yr ysgol. Mae'r cyfarfodydd rhieni ac athrawon ar ddydd Llun 11eg – Iau 14eg o Dachwedd 2024 ar gyfer pob blwyddyn. I wneud eich apwyntiadau, mewngofnodwch ar:
Bydd apwyntiadau ar gael i'w harchebu o 12.30yp ar ddydd Gwener 27ain o Hydref. Os na allwch archebu o adref, cysylltwch â swyddfa'r ysgol i gael cymorth.
You are invited to make appointments for the school’s next parent-teacher meetings. These meetings will be booked online, and then held face to face at the school. The parent-teacher meetings are on Monday 11th – Thursday 14th November 2024 for all year groups. To make your appointments please login at:
Appointments will be available to book from 12.30pm on Friday 27th October. If you are unable to book at home, please contact the school office for help.
Blaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Ysgol – School Development Plan Priorities:
Dyma ein blaenoriaethau CDY ar gyfer 2024-25 | Our SDP priorities for 2024-25 are:
Cliciwch isod am fwy o fanylion / Click below for more information
Meithrin Cymru ac Iwerddon
Am hanner tymor cyntaf gwych. Mae plant y meithrin wedi ymgartrefi’n arbennig o dda ac wedi cael llawer o hwyl a sbri yn ymchwilio’u hamgylchedd dysgu newydd. Ar ddechrau’r tymor fe wnaethom lawer o weithgareddau hwylus er mwyn ddod i adnabod ein gilydd yn well gan gynnwys creu hunan bortreadau a chreu lluniau o’n teuluoedd gan ddefnyddio darnau man. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn dysgu ac arsylwi ar arwyddion yr Hydref ac wedi mwynau mynd allan i’r ardal goedwig i gasglu dail, brigau, mes a mwyar duon. Penderfynodd y plant defnyddio’r hyn a gasglom i greu ty i Dewi y Draenog yn barod iddo aeafgysgu. Rydym wedi bod yn defnyddio pwmpenni i ddysgu’r cysyniad o bach a mawr. Yn ein sesiynau cynllun clonc rydym wedi dysgu sawl rhigwm newydd gan gynnwys, Bwgan Brain, Mynd ar y ceffyl ac ‘un bys, dau bawd’. Rydym hefyd wedi dod i adnabod y cymeriadau Sara Sero, Alun un, Deio Dau a Twm Tri. Yn ogystal, Cawsom lawer o hwyl yn dathlu diwrnod Shwmae.
What a great first half term, the nursery children have settled in fantastically and have had lots of fun exploring their new learning environment. At the beginning of term, we did lots of fun activities to get to know each other a little better, some of which included creating self and family portraits using lots of different resources. Recently, we have been learning about the signs of Autumn and have been busy collecting leaves, acorns, sticks and blackberries in the school’s wooded area. The children decided that they wanted to use what they collected to create a home for Dewi the hedgehog to hibernate. We’ve also been using pumpkins to learn the concept of big and small. In our cynllun clonc sessions we have learnt lots of new nursery rhymes and have been introduced to the characters Sara Sero, Alun Un, Deio Dau and Twm Tri. We thoroughly enjoyed celebrating Shwmae day.
Derbyn Sbaen a'r Eidal
Am ddechrau prysur i’r flwyddyn i’r dosbarthiadau Derbyn! Mae’r dysgwyr wedi bod wrth eu bodd yn ymgartrefi yn eu dosbarthiadau newydd. Rydym wedi bod wrth yn archwilio ein amgylchedd newydd ac wrth gwrs yr amgylchedd naturiol. Trafodaeth poblogaidd dros yr wythnosau diwethaf oedd yr Hydref. Casglodd y dysgwyr trysorau’r Hydref dros un penwythnos er mwyn i ni archwilio’r hyn darganfyddon nhw. Dysgom llawer o eirfa Hydrefol newydd trwy’r gweithgareddau hyn a hefyd ein Cynllun Clonc dyddiol. Rydym wedi dysgu sut i drefnu rhifau a chyfateb niferoedd cywir i rhifolion. Roeddem wrth ein bodd yn cyfri pwmpenni amrywiol yn ystod ein ymweliad i Blas Pwmpenni’r Gath Ddu. Yn ddiweddar, buom yn dysgu am mesuriadau syml a defnyddio geiriau newydd fel hir / byr ac yn y blaen. Rydym wedi mwynhau sawl gweithgaredd coginio megis pastai afal, smwddi’s ffrwyth, bisgedi ac wrth gwrs cawl! 8 wythnos hapus yn y Derbyn! Mwynhewch hanner tymor ac rydym yn edrych ymlaen at groesawi chi nôl cyn hir.
What a busy start we have had in the Reception classes! We have had a great few weeks settling into our new classrooms. We have loved exploring our natural environment lately - inspired by the Autumn weather which has been a very popular discussion topic in our classes! The learners had a busy weekend collecting natural treasures for us to explore in class. We have been learning lots of new Welsh vocabulary based on the Autumn and are becoming confident Welsh speakers through our daily Cynllun Clonc scheme. We have also been busy learning to order numbers, and pairing numerals with correct quantities. We thoroughly enjoyed counting various pumpkins during our recently visit to The Black Cat Pumpkin Patch. Recently, we have been learning to measure using non standard units as well as exploring standard units through play. We have enjoyed a variety of cooking activities this half term such as apple pie, fruit smoothies, biscuits and of course traditional cawl! A happy 8 weeks in the Derbyn! Enjoy half term and we are looking forward to welcoming you back before long.
Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc
Dyma ni wedi cyrraedd diwedd ein hanner tymor cyntaf ac made wedi bod yn hanner tymor prysur. O berfformio i rieni a ffrindiau yn fore coffi Macmillan yr ysgol, mynychu Jambori y Fenter Iaith a dathlu diwrnod Shw’mae, mae’r disgyblion wedi cael ystod eang o brofiadau hyd yn hyn. Fe wnaeth y dysgwyr ymweld â fferm Penyfodau er mwyn casglu pwmpenni a phrynu llysiau cyn coginio cawl yn y Dosbarth. Ar ôl gohirio ein hymweliad cyntaf, cawson dywydd a bore hyfryd ar y fferm wrth i’r disgyblion cael y rhyddid i weld sut mae fferm yn gweithio o ddydd i ddydd. Hoffwn hefyd diolch i CRA yr ysgol am drefnu a chynnal disgo calan gaeaf gwych i’r disgyblion yn ystod yr hanner tymor. Fe wnaeth y disgyblion mwyhau gwisgo i fyny a threulio amser gyda’i ffrindiau ar ôl ysgol.
Ar lawr y Dosbarth, mae’r disgyblion wedi bod yn ymarfer blendio wrth ddarllen er mwyn gwella ei rhuglder. Yn ogystal ag hyn, mae’r disgyblion yn defnyddio geiriau Tric a chlic i ymarfer ffurfio llythrennau ac adeiladu brawddegau syml gyda strwythur cywir. Dros yr wythnosau nesaf, bydd y disgyblion yn datblygu hyn ymhellach wrth i ni eu herio i geisio ychwanegu ansoddeiriau a chymariaethau mewn i’w frawddegau
Er bod hi’n gallu bod yn anodd trosglwyddo i ddosbarth newydd ar y dechrau, mae’r disgyblion wedi gwneud yn arbennig and rydym yn hapus iawn gyda’i datblygiad dros yr hanner tymor. Diolch yn fawr i chi gyd am eich cefnogaeth dros yr wythnosau diwethaf. Gobeithiwn eich bod yn mwynhau ac yn ddiogel yn ystod y gwyliau ac edrychwn ymlaen at groesawu’r disgyblion yn ôl. Mwynhewch!
We’ve reached the end of the first half term in year 1 and what a busy eight weeks it has been. From performing in the school’s MacMillan coffee morning in front of family,attending Menter Iaith’s Jamboree last Monday and celebrating diwrnod Shw’mae, the children have had a wide range of experiences. We visited Penyfodau farm to go Pumpkin picking and buy vegetables in preparation for cooking Cawl in class. Having initially postponed our visit due to the weather, we couldn’t have wished for a better day to visit when we went with the children thoroughly enjoying their morning in the Pumpkin fields. A big thank you must also go to the school PTA for their work in organising the school Halloween disco. Year 1 children thoroughly enjoyed dressing up and spending time with friends after school.
In class, our learners have focused on practicing the skill of blending sounds while reading to improve fluency. In addition to this, our learners have been using the Tric a Chlic words to practice forming letters and building sentences with the correct structure. Over the next few weeks, we will continue to build on this while looking to add adjectives and similes to challenge our learners.
Although change can be daunting, our learners have handled the transition to year 1 well and have made good progress over the eight weeks. Thank you very much for your support throughout the half term. We hope you all have a safe and enjoyable half term, and we look forward to seeing the children once they return. Enjoy!
Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden
Am ddechrau gwych i’n flwyddyn. Mae’r disgyblion wedi ymgartrefi yn dda i fywyd ysgol ym Mlwyddyn 2. Yn ystod ein hanner tymor cyntaf, rydym wedi croesawi aelod newydd i ddosbarthiadau Portiwgal a Sweden- 2 bochdew annwyl o’r enw Pwdin a Jini. Ein thema yr hanner tymor yma yw‘Bwyd, Bwyd, Bwyd’. Dechreuom ni’r hanner tymor trwy ddysgu cân ‘Golchi Dwylo’ a darllen llyfr ‘Golcha dy ddwylo’, gyda’r disgyblion yn dysgu am ermau, a’r pwysigrwydd o olchi dwylo, ac ysgrifennu cyfarwyddiadau. Yn ogystal, rydym wedi bod yn greadigol wrth greu germau paent gan ddefnyddio techneg ‘Blow Art’ gyda dyfrlliw a gwellt.
Cawsom lawer o hwyl yn dathlu diwrnod Shwmae trwy wisgo lliwiau Mr Urdd- coch, gwyn a gwyrdd, a chymryd rhan mewn gweithdy canu gyda Megan Haf Davies. Fe wnaethom ni mwynhau ein hymweliad i Ysgol Dewi Sant i weld Jambori Martin Geraint, ble buom yn dathlu’r iaith Gymraeg wrth ganu caneuon Cymraeg.Yn ystod ein sesiwn Ysgol Goed, roeddwn wrth ein bodd yn creu tân a choginio popcorn gyda Miss Evans.
What a great start to the year. The pupils have settled well into school life in Year 2. During our first half term, we have welcomed a new member to Portiwgal and Sweden classes - 2 adorable hamsters called Pwdin and Jini. Our theme this half term is 'Bwyd, Bwyd, Bwyd'. We started the half term by learning the song 'Golchi Dwylo' and reading the book 'Golcha dy dwylo', with the pupils learning about germs, the importance of washing hands, and writing instructions. In addition, we have been creative by painting germs using the 'Blow Art' technique with watercolor and straws.
We had a lot of fun celebrating Shwmae day by wearing Mr Urdd's colors - red, white and green, and taking part in a singing workshop with Megan Haf Davies. We enjoyed our visit to Ysgol Dewi Sant to see Martin Geraint’s Jambori, where we celebrated the Welsh language by singing Welsh songs. During our Forest School session, we enjoyed making a fire and cooking popcorn with Miss Evans.
Blwyddyn 3 Alban a Hwngari
Rydyn ni blwyddyn 3 wedi cael y cyfle i ysgrifennu a darlunio hunanbortread. Fe wnaethom ni hefyd drafod pa fath o swyddi hoffen gael yn y dyfodol a phenderfynu ar ba werthoedd oedd mwyaf pwysig i ni fel dosbarth. Ein thema'r tymor yma yw ‘Supertaten!’ felly rydyn ni wedi dechrau edrych ar ba declynau sydd yn y gegin. Fe wnaethom drefnu pa offer oedd yn defnyddio egni dynol neu egni trydanol i'w weithio ac yn dilyn hyn fe wnaethom ymchwilio i sut mae cylchedau trydanol yn gweithio.
Fel rhan o’n thema rydyn ni wedi plannu tatws er mwyn eu tyfu a (chroesi bysedd) eu coginio! Mae Miss Evans wedi dangos i ni sut i wneud pot bach allan o bapur newydd a’i lenwi gyda phridd a hadau. Ar ddydd Iau Medi 26ain aethom ni i gyngerdd athrawon peripatetig Sir Gaerfyrddin. Dysgom ni pa offerynnau sydd yn rhan o’r gerddorfa a chlywsom ni nifer o ganeuon adnabyddus yn cael eu perfformio. Yn ogystal â hyn rydyn ni wedi cael gwersi cerddoriaeth gyda Mr Jennings. Defnyddiom ni ‘Chrome Music Lab’ i gyfansoddi cerddoriaeth gyda phartner.
Mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu symudiadau gymnasteg yn ystod yr hanner tymor yma. Maent wedi gweithio gyda phartner i greu dawns fer gyda’r symudiadau yma. Ar ddydd Gwener Hydref 10fed aethom ni i Llancaiach Fawr. Dysgon ni beth roedd y bobl gyfoethog a’r bobl dlawd yn bwyta amser maith yn ôl ac am sut roeddynt yn storio a chadw bwyd. Rydyn ni wedi mwynhau dysgu am siapau 2D ar ddiwedd y tymor. Roedd yn rhaid i ni chwilio am y siapau 2D o amgylch yr ysgol a hefyd eu didoli mewn i ddiagram Carroll. Dysgom ni hefyd sut i ddatrys problemau lluosi trwy ddefnyddio arae (gan greu ffenestri am adeilad).
We have had the opportunity to write and draw a self-portrait. We also discussed what kind of jobs we would like to have in the future and decided which values were most important to us as a class. Our theme this season is 'Supertaten!' so we've started looking at what tools are in the kitchen. We organized which equipment used human energy or electrical energy to work and following this we researched how electrical circuits work. As part of our theme we have planted potatoes to grow and (fingers crossed) cook! Miss Evans has shown us how to make a small pot out of newspaper and fill it with soil and seeds.
On Thursday September 26th we went to the Carmarthenshire peripatetic teachers concert. We learned which instruments are part of the orchestra and we heard a number of well-known songs being performed. In addition to this we have had music lessons with Mr Jennings. We used Chrome Music Lab to compose music with a partner.The pupils have been learning gymnastics movements during this half term. They have worked with a partner to create a short dance with these movements.
On Friday October 10th we went to Llancaiach Fawr. We learned what the rich and poor people ate a long time ago and how they stored and preserved food. We've enjoyed learning about 2D shapes at the end of term. We had to look for the 2D shapes around the school and sorting them into a Carroll diagram. We have also learned how to solve multiplication problems using an array (creating windows for a building).
Blwyddyn 4 Almaen a Swistir
Rydym wedi cael hanner tymor cyntaf bendigedig ym mlwyddyn 4. Mae’r wyth wythnos gyntaf wedi hedfan ac rydym wedi ymgartrefi mewn i’n dosbarthiadau newydd. Mae’r Athrawon a disgyblion wedi dod i’w adnabod ei gilydd dros y cyfnod yma ac wedi bod yn brysur yn dysgu a chyflawni gweithgareddau di-ri.
Dros yr hanner tymor rydym wedi bod ymchwilio i fwyd gan ddefnyddio llais y dysgwyr. Mae’r dysgwyr wedi bod yn dod i adnabod y grwpiau bwyd ac enghreifftiau o fwyd sy’n rhan o’r grwpiau gwahanol. Defnyddiwyd pecynnau bwyd i ddod o hyd i wybodaeth os maent yn iachus neu’n afiachus trwy ddefnyddio system goleuadau traffig. Mae’r dysgwyr wedi bod yn gwneud ymchwil i Guiseppe Acrimboldo drwy gasglu ffeithiau diddorol ac yna yn ceisio efelychu ei waith gan ddefnyddio ffrwythau i greu portread.
Yn ystod yr hanner tymor, cafwyd ymweliad gan PC Ali sef heddwraig yr Ysgol. Cawsom sesiwn yn dysgu am berthnasoedd iachus a rhannu gwybodaeth am ble i gael cymorth. Rydym hefyd wedi ymweld â Chapel Greenfield yn y dre ar gyfer ein gwasanaeth Cynhaeaf. Gwnaeth blwyddyn 6 darlleniadau a blwyddyn 1-5 caneuon Cynhaeaf. Rydym fel Ysgol wedi dathlu diwrnod siw'mae trwy ymfalchïo yn ein hiaith Gymraeg. Gwisgodd disgyblion dillad coch, gwyn a gwyrdd a chyflawni gweithgareddau i ymwneud â’r diwrnod. Cafodd ambell ddisgybl cyfle i gymryd rhan mewn twrnamaint tag Rygbi'r Sgarlets yn Ysgol Penrhos. Gwych oedd gweld cymysgedd o fechgyn a merched yn cymryd rhan mewn gemau cystadleuol a chyd-weithio fel tîm. Rwy’n siŵr eich bod fel teuluoedd wedi clywed eich plant yn sôn am ‘Awr Athrylith’ ble mae dysgwyr wedi cael y cyfle i ddilyn trywydd eu hun a chreu prosiect yn annibynnol neu mewn grwpiau bach. Rydym wedi gweld dysgwyr yn creu breichledi, dysgu gitâr, ffotograffiaeth a chreu/addurno dillad.
Mae wedi bod yn hanner tymor llwyddiannus ac rydym nawr yn edrych ymlaen at brofiadau a gweithgareddau newydd yn arwain mewn i adeg y Nadolig
We have had a fantastic first half term in year 4. The first eight weeks have flown by and we have all settled into our new classes. The teachers and pupils have gotten to know each other over this period and have been busy learning and completing a range of activities.
Over the half term we have been researching food and using pupil voice to plan activities. Learners have been familiarising themselves with different food groups and finding examples of foods that slot into each food group. Food packaging was used to discover if foods were healthy or unhealthy. This was done by using the traffic light system on the packaging. Learners have been researching into Guiseppe Acrimboldo and collecting interesting facts. These facts were then used to recreate his work by making a portrait using fruit.
During the half term we had a visit from PC Ali, the school officer. We received a session learning about healthy relationships and where to find help if needed. We also visited Greenfield chapel in town for our Harvest Assembly. Year 6 led the service with a few readings and years 1-5 assisted by singing Harvest songs. We have celebrated and supported diwrnod Siwmae by celebrating our Welshness and our language. Pupils wore red, white and green and took part in different activities. Some pupils had the opportunity to represent the school in the Scarlets tag rugby tournament in Ysgol Pen-Rhos. It was wonderful to see a mixture of boys and girls take part in competitive games and working as a team. I’m sure you as families have heard your children talking about ‘Genius Hour’. Our learners have followed their own ideas to create a project independently or in small groups. We have seen a range of projects from; creating bracelets, learning to play the guitar, photography and creating/decorating clothes.
It has been a successful first term and we look forward to a range of opportunities and new activities going forward into the Christmas period.
Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir
Shwmae! Mae wedi bod yn brâf iawn i ddod i adnabod y disgyblion dros yr hanner tymor cyntaf. Rydym wedi cael hanner tymor hynod o brysur a llawn hwyl, yn llawn gweithgareddau cyffrous a phrofiadau dysgu gwerthfawr! Un o’r uchafbwyntiau oedd ein taith i Gaer Geltaidd Castell Henllys, lle camodd y plant yn ôl mewn amser i archwilio sut roedd y Celtiaid yn byw. Cawsant fwynhad arbennig o ddysgu am sut roedd bwyd yn cael ei storio yn yr hen amser, ac roedd yn hynod ddiddorol eu gweld yn ymwneud â hanes mewn ffordd ymarferol.
Mewn gwyddoniaeth, rydym wedi bod yn dysgu am ddarganfyddiadau pwysig Louis Pasteur, gan gynnwys ei waith ar germau a phasteureiddio, a daniodd lawer o chwilfrydedd a thrafodaeth ymhlith y plant. Mewn llythrennedd, mae'r plant wedi bod yn gweithio'n galed ar ysgrifennu dwyn i gôf, gan ddefnyddio eu profiadau a'u gwybodaeth newydd i greu darnau o ysgrifennu manwl a threfnus. Ym mathemateg, rydym wedi bod yn ymarfer ffeithiau adio a thynnu, gan helpu’r plant i fagu hyder a rhuglder yn y sgiliau allweddol hyn.
Shwmae! It has been a pleasure getting to know the pupils during this half term. We’ve had a wonderfully busy and fun-filled half term, packed with exciting activities and valuable learning experiences! One of the highlights was our trip to Castell Henllys Celtic Hill Fort, where the children stepped back in time to explore how the Celts lived. They particularly enjoyed learning about how food was stored in ancient times, and it was fascinating to see them engage with history in such a hands-on way.
In science, we have been learning about the important discoveries of Louis Pasteur, including his work on germs and pasteurization, which sparked a lot of curiosity and discussion among the children. In literacy, the children have been working hard on writing recounts, using their experiences and new knowledge to craft detailed and well-organized pieces of writing. In maths, we’ve been practising addition and subtraction facts, helping the children to build confidence and fluency in these key skills.
Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg
Rydym wedi cyrraedd diwedd yr hanner tymor cyntaf ym mlwyddyn 6. Wyth wythnos llawn bwrlwm a dyddiau prysur! Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym wedi cyfranogi mewn gweithgareddau a gweithdai hwylus yn ogystal ag edrych ar y cwestiwn ymholi ‘Sut gellir ddefnyddio lliw, golau a thywyllwch i greu’r awyrgylch perffaith i dyfu microwyrddion?’ Ffocws ein ymholiad yw edrych ar ficrowyrddion, eu gwerth maeth a beth yw’r amodau gorau i’w tyfu. Y nod terfynol yw i ddylunio a chreu plannwr microwyrddion sy’n cynnwys golau i hybu eu tyfiant. Ar ddechrau’r tymor, gwnaethom gynnal ymchwil er mwyn darganfod a dysgu beth yn union yw microwyrddion. Yn syml, fersiynau bach o blanhigion sydd wedi tyfu’n llawn yw microwyrddion ond mae ganddynt lawer mwy o faetholion! A wyddoch chi hefyd bod rhai mathau o ficrowyrddion yn barod i’w cynhaeafu ar ôl dim ond 7 diwrnod!!! Dysgom hefyd bod gofodwyr ar hyn o bryd yn ceisio tyfu microwyrddion yn y gofod oherwydd eu gwerth maeth! Gwnaethom gyflwyno ein gwybodaeth i weddill y dosbarth mewn ffyrdd amrywiol gan gynnwys ar ffurf fideo a phwerbwynt. Ein cam nesaf yw arbrofi er mwyn gweld beth yw’r amgylchedd perffaith ar gyfer tyfu microwyrddion. Ymchwiliom mewn i waith yr artist, cerflunydd, ffotograffydd a’r amgylcheddwr Andy Goldsworthy sy’n creu ‘Celf Tir’ allan ym myd natur gan ddefnyddio deunyddiau naturiol yn unig. Astudiom arddull ei waith gan dynnu sylw i’r defnydd o batrymau, llinellau, lliwiau a gwead. Yna, aethom ati i gasglu deunyddiau er mwyn efelychu gwaith Andy Goldsworthy a chreu darn o ‘Gelf Tir’ ein hun.
Yn ein gwaith mathemateg a rhifedd rydym wedi bod yn ffocysu ar feistroli ac atgyfnerthu ein sgiliau yn y 4 weithred, sgiliau datrys problemau geiriol a sgiliau mesur a throsi mesuriadau trwy weithgareddau ymarferol. Un gweithgaredd gwnaethom fwynhau yn fawr iawn oedd lansio rocedi dŵr ac yna mesur yr amser a’r pellter maent wedi teithio. Yn ein gwaith iaith a llythrennedd rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu hunan bortread gan ddysgu sut i uwch lefelu brawddegau. Hefyd, rydym wedi ysgrifennu cyfres o gyfarwyddiadau ar sut i dyfu microwyrddion. O safbwynt digidol, rydym wedi cael cyfle i ddefnyddio meddalwedd ‘Tinkercad’ i ddylunio eitemau cyn eu hargraffu allan gan ddefnyddio’r argraffydd 3D. Yn ystod yr hanner tymor gwnaethom gymryd rhan mewn sesiynau gyda chwmni ‘CYCA’ yn seiliedig ar wytnwch. Gwnaethom ddysgu a thrafod lle rydym yn teimlo’n ddiogel a phwy sy’n gallu ein helpu os fydd yr angen yn codi. Dysgom hefyd am bethau sy’n gallu bod yn niweidiol yn ein bywydau gan gynnwys cadw’n ddiogel ar-lein. Yn fwy diweddar, daeth yr heddlu mewn i’r ysgol i gynnal sesiwn yn trafod diogelwch ar noson galan gaeaf a noson tân gwyllt. Sesiwn buddiol a gwerthfawr iawn! Ym mis Hydref, aethom draw i Gapel Greenfield i gynnal Gwasanaeth Diolchgarwch ac rydym hefyd wedi cynnal gwasanaeth dosbarth i rieni yn seiliedig ar y Cynhaeaf (Dosbarth Groeg) a Mis Hanes Pobl Dduon (Dosbarth Pwyl). Yn yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn gwella lles meddyliol ac annibyniaeth trwy ddechrau prosiectau ein hun yn ystod yr ‘Awr Athrylith’ ar brynhawn dydd Gwener. Cafodd rhai heyfyd y cyfle i gymryd rhan yng nghystadleuaeth CogUrdd gyda;r briff o goginio a pharatoi ‘wrap oer’. Cafodd y staff gwledd yn blasu’r holl fwyd!
Edrychwn ymlaen at yr hanner tymor nesaf gyda mwy o weithgareddau a phrofiadau cyffrous.
We have reached the end of our first half term in year 6. Eight weeks full of excitement and busy days! During this half term, we have participated in fun activities and workshops as well as looking at our new inquiry question 'How can colour, light and darkness be used to create the perfect atmosphere to grow microgreens?' The focus of our inquiry is to look at microgreens, their nutritional value and what are the best conditions to grow them. The end goal is to design and create an indoor microgreens planter that includes a light supply to promote their growth. At the start of the term, we carried out research to find out and learn what exactly microgreens are. Well, microgreens are simply miniature versions of fully grown plants, but they have a lot more nutrients! Did you also know that some types of microgreens are ready to harvest after just 7 days!!! We also learned that astronauts are currently trying to grow microgreens in space because of their nutritional value! We presented our findings to the rest of the class in various ways including in the form of a video and PowerPoint. Our next step is to experiment to see what the perfect environment is for growing microgreens.
We delved into the work of artist, sculptor, photographer and environmentalist Andy Goldsworthy who creates 'Land Art' using only natural materials. We studied the style of his work drawing attention to the use of patterns, lines, colours and textures. Then, we set about collecting materials in order to emulate the work of Andy Goldsworthy and create a piece of 'Land Art' of our own.
In our mathematics and numeracy work we have been focusing on mastering and consolidating our skills in the 4 operations, our problem solving skills along with measuring and conversion skills through practical activities. One activity we thoroughly enjoyed was launching water rockets and then measuring the time and distance they travelled. In our language and literacy work we have been focusing on writing a biography whilst learning how to improve and up-level sentences. We have also written a series of instructions on how to grow microgreens. From a digital point of view, we have had the opportunity to use 'Tinkercad' software to design items before printing them out using the 3D printer.
During the half term we took part in sessions with 'CYCA' based on resilience. We discussed places where we feel safe, our support network and who can help us if the need arises. We also learned about things that can be harmful in our lives including keeping safe online. More recently, the police came into school to hold a session discussing safety on Halloween night and fireworks night. A very beneficial and valuable session! In October, we visited Greenfield Chapel to hold a Harvest Service and we have also held a class assembly for parents based on the Harvest (Groeg) and Black History Month (Pwyl). In recent weeks, we have been improving mental wellbeing and independence by starting our own projects during the 'Genius Hour' on Friday afternoons. Some also had the opportunity to take part in the CogUrdd competition with the aim of cooking and preparing a 'cold wrap'. The staff had a feast tasting all the delicious food!
We look forward to the next half term with more exciting activities and experiences.