Mae'r Cyngor Ysgol yn chwarae rhan strategol yn natblygiad yr ysgol gan sicrhau bod llais y dysgwyr yn gryf i wella safonau a lles pob disgybl. Mae'r dudalen yma yn dangos i chi ein taith i gefnogi staff yr ysgol trwy gynllunio a chyflawni gweithgareddau amrywiol yn ystod y flwyddyn academaidd yma.
Dyma aelodau'r Cyngor Ysgol ar gyfer y flwyddyn hon. Cawsom ein ethol gan ein cyd-ddysgwyr ar ddechrau tymor yr Hydref.
*** CYFARFOD CYCHWYNNOL ***
Yn dilyn y cyfarfod cyntaf, dyma'r targedau a chytunwyd i flaenoriaethu ar gyfer y flwyddyn academaidd yma. Mae'r targedau yn ymateb i lais y dysgwyr, argymhelliad Estyn a blaenoriaethau'r ysgol ar y cynllun datblygu. Gobeithiwn i gyflawni'r holl dargedau erbyn tymor yr haf.
*** CYFARFOD DAU ***
ANGEN RHOI LLUN O'R HOLIADUR AR FORMS FAN HYN GYDA'R CANLYNIADAU !!!!!!!!!!!!!!!!!!!!!
*** CYFARFOD TRI ***
*** GWEITHGAREDD - YSGRIFENNU LLYTHYR AT RIENI ***
Ysgrifennodd aelodau'r Cyngor y llythyr yma i roi gwybod i'r rhieni am y stondin ffrwyth newydd yn yr ysgol.
*** CYFARFOD PEDWAR ***
Gwelir isod y daflen y gwnaethom ni ddefnyddio i'n helpu i fonitro yn effeithiol.
Gwnaethom rannu ein syniadau a'n canfyddiadau ac roedd Mrs Jones wedi crynhoi'r holl wybodaeth mewn un adroddiad. Gwnaethom rannu'r adroddiad gyda Mrs Armstrong. Gwnaeth Mrs Armstrong gydweithio gyda Beau ac Halie i adalw'r gwybodaeth er mwyn ei gyflwyno i'r Corff Llywodraethol yn ystod eu cyfarfod cyntaf ym mis Tachwedd.