Blwyddyn 1 Crynodeb o'n Cwricwlwm

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern

GWELEDIGAETH Y CLWSTWR

Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.

Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.

Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.

Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.

Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.

Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.

Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.

Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.

Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.

Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.

Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.

Hanner Tymor 1

Teuluoedd

“Mae teuluoedd ac aelwydydd yn cynnwys oedolion/pobl ifanc yn byw gyda'u rhieni, rhieni unigol, parau sy'n cyd-fyw, aelwydydd aml-genhedlaeth a phobl sy'n byw ar eu pen eu hunain.”
Amcan yr uned yma yw dysgu am deuluoedd amrywiol. Bydd angen iddynt ddysgu enwau aelodau'r teulu a theulu estynedig a bod teuluoedd pawb yn wahanol a bod hyn yn rhywbeth i ddathlu. Dylid trafod gwerthoedd teulu a thrafod teuluoedd estynedig o fewn cymunedau, e.e. Pwy yw teulu’r ysgol?

Sut mae teuluoedd pawb yn amrywio?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu enwau aelodau’r teulu a theulu estynedig.

Dysgu am rôl rhieni a gwarchodwyr yn gofalu amdanynt.

Cymharu teuluoedd gwahanol

Edrych ar beth mae teuluoedd amrywiol yn gwneud gyda’i gilydd yn gymdeithasol.

Edrych ar draddodiadau teuluoedd, dathliadau a chrefyddau amrywiol sy’n bwysig i deuluoedd.

Dysgu am anabledd mewn teuluoedd.

Trafod pwy yw aelodau teulu’r ysgol.

Hanner Tymor 2

Fy Arwr

“Person sy'n cael ei edmygu am ei ddewrder, ei gyflawniadau rhagorol, neu ei rinweddau bonheddig yw’r diffiniad o arwr.”
Amcan yr uned yma yw datblygu'r cysyniad o beth yw arwr. Bwriad yr uned yw dysgu am arwyr amrywiol sydd yn helpu yn y gymuned, helpu eraill a gwaith elusennol. Wrth ddysgu am yr arwyr yma dylid ystyried y rhinweddau sy’n creu arwr. Dylid dysgu am arwyr lleol, ac arwyr yng Nghymru ddoe a heddiw ac effaith ei gweithredoedd ar eraill

Beth yw arwr? Pwy yw ein harwyr lleol?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am swyddi 999 gan herio steroteipio.

Dysgu am arwyr fel Betsi Cadwaladr

Trafod rhinweddau arwr.

Dysgu am arwyr lleol, elusennau lleol a gwirfoddolwyr.

Meddwl am sut allant helpu eraill yn eu cymuned a chynorthwyo yr arwyr lleol.

Hanner Tymor 3

Ein Stryd Fawr

Mae ein strydoedd mawr yn hollbwysig ac yn darparu gofod lle gall cymunedau gymysgu'n rhydd. Mae hyn yn arbennig o bwysig i grwpiau mwy bregus neu ynysig, megis yr henoed, pobl ifanc a mewnfudwyr diweddar. Maent hefyd yn llefydd pwysig o ran busnesau ac economi'r ddinas.
Amcan yr uned yma yw dysgu am ei stryd fawr. Dysgu am eu hardal leol a sut mae’r stryd fawr wedi newid dros amser. Mae’n bwysig gwneud cysylltiadau gyda'r siopau lleol, pobl sydd wedi byw yn yr ardal leol gan feithrin balchder yn eu hardal leol.

Pa siopau sydd ar ein stryd fawr? Ydy’r stryd fawr wedi newid?

Cynnwys yr Uned:

Cyfle i ymweld ar stryd fawr leol gan wneud ymchwiliadau.

Edrych ar sut mae’r stryd fawr wedi newid, siarad a phobl leol.

Mapio’r ardal leol.

Dysgu enwau siopau a dysgu am y cynnyrch maen nhw’n gwerthu.

Adnabod adeiladau pwysig a chrefyddol yn yr ardal.

Creu pamffled yn arddangos yr amrywiaeth o siopau sydd ar ein stryd fawr.

Hanner Tymor 4

Bwyd Bendigaid Fwyd!

Mae'r holl fwydydd rydyn ni'n eu bwyta yn dod o blanhigion ac anifeiliaid. Gall bwyd o blanhigion dyfu mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gallant dyfu ar goed, llwyni, gwinwydd, neu yn y ddaear.
Amcan yr uned yma yw canolbwyntio ar y diwydiant gwerthu bwyd. Mae’n gyfle i ddysgu enwau bwydydd gwahanol, ceir cyfle i ddysgu o ble ddaw ein bwyd, trafod ôl carbon bwydydd a dysgu am gynnyrch Masnach Deg. Dyma gyfle i ddysgu am bwysigrwydd bwyta’n iach a chynllunio bwydlen iach. Trwy chwarae rôl caffi/siop bydd cyfle i’r disgyblion ddefnyddio cystrawennau cywir ac ymdrin ag arian.

Pam ei bod hi’n bwysig i ni fwyta’n iach?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am fwydydd amrywiol yn yr archfarchnad.

Dysgu am gategoriau gwahanol bwydydd a dosbarthu bwydydd iach/afiach.

Gwahodd dietegydd, deintydd neu ddoctor i drafod pwysigrwydd bwyta’n iach.

Beth yw bwydydd Masnach Deg?

Allwch chi greu bwydlen iachus?

Hanner Tymor 5

Harbwr a Mor!

Rydym ni yn ffodus iawn ein bod gennym ni yng Nghymru rhai o harbyrau mwyaf prydferth yn y byd. Mae ein disgyblion yn aml yn ymweld â’r rhain ar benwythnosau ac yn aml mae gan eu teuluoedd garafanau / tai gwyliau yno.
Yn yr uned yma bydd cyfle i edrych ar brysurdeb yr harbwr. Dylid dysgu am gyfrifoldebau'r Bad Achub a dysgu am ddiogelwch a pheryglon y môr. Bydd ymchwiliadau i’r hyn sy’n gwneud cwch/llong lwyddiannus a dysgu am hanes Môr-ladron enwog o Gymru.

Beth yw pwrpas harbwr?

Pwy sy’n defnyddio harbwr?

Cynnwys yr Uned:

Beth yw harbwr?

Beth yw swydd y Bad Achub/RNLI?

Beth yw y camau diogelwch a pheryglon sy’n eu wynebu?

Pa gwmniau eraill sydd yn yr harbwr?

Sut mae creu llongau/cychod sydd yn arnofio?

Môr-ladron Cymreig enwog e.e. Harri Morgan, Barti Ddu

Hanner Tymor 6

Traeth a Mor

Nid ydym erioed wedi bod yn fwy balch o’n harfordir. Mae nifer o’n traethau, fel Rhosili, Barafundle a Dinbych-y-pysgod, yn cael eu pleidleisio’n rheolaidd fel y rhai gorau ym Mhrydain. Mae syrffwyr, nofwyr a cherddwyr wrth eu bodd yn treulio penwythnosau a gwyliau yma, yn ymlacio gyda theulu a ffrindiau. Pan agorodd Llwybr Arfordir Cymru yn 2012, enwodd Lonely Planet ein harfordir y rhanbarth gorau yn y byd i ymweld ag ef.
Amcan yr uned yma yw dysgu am bwysigrwydd bod yn ddinasyddion gwybodus sy’n ofalgar am y byd naturiol. Wrth ddysgu am effaith dyn ar lygredd y môr ar draethau rydym yn dysgu ein disgyblion sut y gall hwy fod yn weithredol yn gwella'r amgylchedd. Bydd cyfle i ddysgu am anifeiliaid a chreaduriaid y môr.

Sut allwn gadw ein traethau yn ddiogel?

Sut mae diogelu anifeiliaid/creaduriaid y mor?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am greaduriaid ac anifeiliaid y mor.

Dysgu am anifeiliaid y mor sydd mewn perygl.

Beth yw effaith llygredd ar y mor a’i lannau?

Dysgu am lan y mor fel atyniad.

Cymharu Glan y Mor ddoe a heddiw.

Ymweld a thraeth a chymryd rhan mewn ymgyrch cadw’r traeth yn lan. Dysgu am y Faner Las.