Tafod Tirdeunaw Rhifyn 14 ~ Gorffennaf 2025

Cam Cynnydd 1

Plant y Derbyn yn mwynhau dysgu am drychfilod ar ymweliad i Benclacwydd. / The Reception children enjoying learning about bugs on our recent visit to The Wetlands centre.
Dyma'r Derbyn yn dathlu Diwrnod y Gwenyn, roedd pawb wedi blasu mel Cymraeg a dysgu am cylch bywyd y gwenynen. / Here is the Reception celebrating World Bee day. everyone tasted Welsh honey and learnt about the lifecycle of the bee.
Gwnaeth plant y Meithrin a Derbyn mwynhau sesiwn ysgol goedwig gan y Ffrindiau'r Goedwig yn ddiweddar. Cymeron nhw ran mewn crefft coedwig, helfa trychfilod, helpon nhw i baratoi tân a mwynhau byrbrydau iachus wedi'u tostio.  The Nursery and Reception children enjoyed a forest school session with 'Friends of the Forest' recently. The took part in forest crafts, a bug hunt, helped prepare a fire and enjoyed some healthy snacks toasted.
Dyma plant y Meithrin a'r Derbyn yn mwynhau sesiynau tenis gan y Canolfan tenis Abertawe, gwnaethon mwynhau dysgu sgiliau newydd gyda'u ffrindiau.  Here are the Nursery & Reception children enjoying tennis sessions from the Swansea tennis centre learning new skills with their friends.
Gwnaeth plant y Derbyn mwynhau dathlu Eisteddfod yr Urdd eleni wrth dysgu caneuon, paratoi baneri a chebabs Mr Urdd. The Reception children enjoyed celebrating the Urdd Eisteddfod this year by learning new songs, making flags and Mrs Urdd kebabs.
Am drychfilod arbennig am dawns y trychfilod i ddathlu diwedd thema yr ardd a'r trychfilod. / What fantastic bugs we had for the Reception Bugs Ball to celebrate the end of our garden and bugs theme this summer.
Roedd y plant wrth eu boddau yn arsylwi ar ein lindys wrth ddilyn cylch bywyd y pili pala, trafodom y newidiadau yn ystod y pedair wythnos. Roeddem yn hapus iawn i adael y pili palod yn rhydd yn ein ardal allanol.  The children loved observing our caterpillars and follwing the lifecycle of the butterfly, we discussed all the changes during the four weeks. We were happy to let our butterflies free in our outdoor area.

Cam Cynnydd 2

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

I gael ysbrydoliaeth, brasluniodd y plant flodau a llunio patrymau y maent yn eu cysylltu â gardd bersawrus. / For inspiration, the children sketched flowers and drew patterns that they assosiate with a fragrant garden.

Yn ystod yr wythnos ysbrydoli aeth Blwyddyn 1 ati i blannu blodau ar gyfer y Ffair Haf. Dros yr wythnosau diwethaf gwnaeth pob plentyn ofalu am eu planhigion eu hun. / During inspiration week, Year 1 planted some flowers for the Summer Fayre. During the last few weeks, the children have been looking after their plants.
Dyma ddosbarth Bl 3 Mrs Davies yn braslunio'r planhigion a'r blodau hyfryd sydd gennym ar dir yr ysgol. / Here are Mrs Davies' Yr 3 class sketching the wonderful plants and flowers that we have on the school grounds.
Dosbarth Bl 3 Mrs Davies yn creu patrymau a lluniau o'r hyn maen nhw'n ei feddwl pan maen nhw'n clywed y gair 'gardd'. / Mrs Davies' Yr 3 class creating patterns and pictures of what they think of when they hear the word 'garden'.
Dosbarth Bl 3 Mrs Davies yn creu patrymau a lluniau o'r hyn maen nhw'n ei feddwl pan maen nhw'n clywed y gair 'gardd'. / Mrs Davies' Yr 3 class creating patterns and pictures of what they think of when they hear the word 'garden'.
Blwyddyn 2 yn mwynhau defnyddio sgiliau celf a chrefft yn ystod ein hwythnos ysbrydoli! / Year 2 enjoying as they used their art and craft skills during inspiration week!
Helfa blodau a phlannu planhigion ym mlwyddyn 2! / Searching for flowers and planting in year 2!
Blwyddyn 3 Mr Ball yn mwynhau y tu allan / Mr Ball's Year 3 class enjoying outside.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Cafodd Blwyddyn 1 her Tric a Chlic i'w gyflawni. Roedd rhaid iddynt ysgrifennu nifer o eiriau yn cychwyn gyda'r synnau adnabyddus. / Year 1 had a challenge to complete. They had to write as many words as they could with common initial sounds.
Ym Mlwyddyn 1 rydym wedi bod yn dilyn stori Bili Broga a cawsom y cyfle i greu pamffled ffeithiol am gylch bywyd y broga. / In Year 1 we have been reading the story of Bili the frog and we created a simple factual pamphlet about the life cycle of a frog.
Blwyddyn 2 yn dadansoddi enghreifftiau o bamffledi! / Year 2 analysing examples of pamphlets!

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Cymerodd Blwyddyn 1 y cyfle i fynd ar helfa siapiau 3D o amgylch yr ysgol. /Year 1 took the opportunity to hunt for 3D shapes around the school.

Disgyblion Blwyddyn 2 yn datblygu sgiliau safle wrth arwain beebot o gwmpas grid. /Year 2 pupils developing their angle and positioning skills by leading the beebot around the grid.

Blwyddyn 2 yn arwain beebot o amgylch grid yn ystod ein gwersi safle ac ongl! Year 2 leading their beebot around the gird during our angle and positioning lessons!
Blwyddyn 2 yn defnyddio sgiliau cymhwysedd digidol wrth gasglu data ar flodau. Year 2 using their digital skills to collect flower data.

Mwynhaodd dosbarth Bl 3 Mrs Davies ddysgu am briodweddau cymesuredd, yn enwedig cymesuredd mewn natur. / Mrs Davies' Yr 3 class enjoyed learning about the properties of symmetry, especially symmetry in nature.

Fel rhan o ddysgu dweud yr amser, creodd dosbarth Bl 3 Mrs Davies eu clociau eu hunain. / As part of learning to tell the time, Mrs Davies' Yr 3 class created their own clocks.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Trip Blwyddyn 1 i'r Fferm Gymunedol yn Abertawe. / Year 1 trip to the Community Farm in Swansea.

Dysgodd Blwyddyn 1 am darddiad bwyd a'r daith i'r archfarchnad. /Year 1 learnt about the origins of food and their journey to the supermarket.

Cafodd plant Blwyddyn 1 y cyfle i fwydo a mwytho yr anifeiliad. Dysgon nhw am gylch bywyd yr anifeiliaid. / Year 1 had the opportunity to feed the animals and to touch them. They learnt about the life cycle of various animals.

Plannodd plant Blwyddyn 1 blanigyn a cawsant y cyfle i fynd a'r pot adref i ofalu amdano. /Year 1 planted a seed pot and took it home to look after it.

Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i flasu ac i deimlo nifer o berlysiau hyfryd. /Year 1 had the opportunity to touch and taste lovely herbs during our visit to the farm.

Blwyddyn 2 yn mwynhau plannu planhigion ar gyfer ein gwersi gwyddoniaeth. / Year 2 enjoying planting plants as part of our science lessons.
Ar gyfer yr arbrawf Gwyddoniaeth, roedd Bl 3 eisiau gweld pwy oedd â'r capasiti ysgyfaint gorau yn y dosbarth. Fe wnaethon nhw ddarganfod po fwyaf ffit oedd y person neu'r person hŷn, y gorau oedd ei gapasiti ysgyfaint. / For the Science experiment, Yr 3 wanted to see who had the better lung capacity in the class. They discovered that the fitter the person or older the person, the better lung capacity they had.
Blwyddyn 3 Mr Ball yn arbrofi ac yn dysgu am gynhwysedd ysgyfaint / Mr Ball's Year 3 class experimenting and learning about lung capacity.
Arbawf hwylus ym mlwyddyn 2 wrth blannu ac arsylwi planhigion yn tyfu! / Year 2 enjoying their fun experiment planting and observing plants growing.

Y Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Blwyddyn 1 yn efelychu gwaith yr artist enwog Claude Monet. Aethpwyd ati i greu planhigyn lili yn y dwr. / Year 1 imitating the work of Claude Monet. They created lilipads in the water.
Disgyblion Blwyddyn 2 yn defnyddio sgiliau creadigol, celf a chreft wedi'i hysbrydoli gan beth sydd yn ein gerddi. / Year 2 using their creative and artistic skills to create things inspired by what we find in our gardens.
Blwyddyn 2 yn defnyddio sgiliau Celfyddydau Mynegiannol i greu perfformiadau canu, dawnsio ac actio yn ein sioe perfformio dosbarth! /Year 2 using their Expressive Arts skills to create dancing, singing and acting performances during our fun class show performances!
Ar ôl edrych ar y gwaith celf 'Blodau'r Haul' gan Vincent van Gogh, cwblhaodd disgyblion dosbarth Bl 3 Mrs Davies ran o'r paentiad. Casglwyd yr holl ddarnau at ei gilydd ar gyfer cydweithrediad dosbarth. / After looking at the art work 'Sunflowers' by Vincent van Gogh, the pupils in Mrs Davies' Yr 3 class each completed a part of the painting. All pieces were brought together for a class collaboration.
Ar gyfer ffair haf eleni, roedd dosbarth Bl 3 Mrs Davies eisiau peintio a gwerthu cerrig wedi'u peintio fel pryfed gardd. / For this year's summer fayre, Mrs Davies' Yr 3 class wanted to paint and sell stones painted as garden bugs.
Ar ôl mynd ar helfa natur a chasglu adnoddau naturiol amrywiol, creodd dosbarth Bl 3 Mrs Davies luniau gan ddefnyddio'r adnoddau naturiol. / After going on a nature hunt and collecting various natural resources, Mrs Davies' Yr 3 class created pictures using the natural resources.
Blwyddyn 3 Mr Ball wedi mwynhau creu lluniau o ddeunyddiau naturiol / Mr Ball's class enjoyed creating art from natural materials.
Plant Blwyddyn 3 Mr Ball wedi peintio cerrig ar gyfer y ffair haf / Mr Ball's Year 3 class painted stones for the summer ffair.

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Dyma Blwyddyn 1 yn cymryd ran yn y Diwrnod Mabolgampau. Cafodd pawb amser gwych. / Year 1 taking part in their Sports Day. Everybody enjoyed!

Blwyddyn 1 ar Ddiwrnod y Mabolgampau. /Year 1 on their Sports Day.

Yn ein gwersi Jigsaw, rydym wedi bod yn dysgu beth sydd yn gwneud ffrind da a sut i gofleidio ein gilydd. / During our weekly Jigsaw sessions we have been looking at the characteristics of a good friend and how to embrace each other.
Bl 3 yn mwynhau'r paratoadau ar gyfer y mabolgampau. / Yr 3 enjoying the preparations for sport's day.
Bl 3 yn mwynhau'r paratoadau ar gyfer y mabolgampau. / Yr 3 enjoying the preparations for sport's day.
Dysgu am newidiadau a perthnasoedd yn ystod gwersi Jigsaw Blwyddyn 2. /Learning about changes and relationships during our Jigsaw lessons in Year 2.
Dosbarth Bl 3 Mrs Davies yn chwynnu'r ardd yn barod i'w phlannu. / Mrs Davies' Yr 3 class weeding the garden ready for planting.
Dosbarth Bl 3 Mrs Davies yn mwynhau plannu blodau newydd. / Mrs Davies' Yr 3 class enjoying planting out new flowers.
Dosbarth Bl 3 Mrs Davies yn mwynhau plannu blodau newydd. / Mrs Davies' Yr 3 class enjoying planting out new flowers.
Dosbarth Bl 3 Mrs Davies yn cydweithio i gael y bêl yn ddiogel i lawr y gwteri heb iddi syrthio i'r llawr. / Mrs Davies' Yr 3 class cooperating to get the ball safely down the guttering without it falling to the ground.
Blwyddyn 3 Mr Ball yn plannu yn yr ardd / Mr Ball's Year 3 planting in the garden.
Mefus o'r ardd / Strawberries from the garden.

Taith Gerddi Botaneg / Botanical Gardens trip

I ddathlu thema olaf y flwyddyn 'Yr ardd bersawrus' ymwelodd blynyddoedd 1, 2 a 3 â'r Ardd Fotaneg Genedlaethol i ddysgu am blanhigion mewn meddygaeth a chylch bywyd planhigyn blodeuol. / To celebrate the final theme of the year 'The fragrant garden' years 1, 2 and 3 visited the National Botanical Gardens to learn about plants in medicine and the life cycle of a flowering plant.

Dyma Blwyddyn 1 yn mwynhau y cyfle i archwilio y Gerddi Botaneg. / Year 1 having the opportunity to investigate the Botanical Gardens.

Mwynhau yn yr haul yn y Gerddi Botaneg. / Enjoying in the sun at the Botanical Gardens.

Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i gerdded o amgylch y safle a gwelwyd nifer o blanhigion hardd. / Year 1 had the opportunity to walk around the site and discovered many beautiful plants.

Cawsom gyfle ym Mlwyddyn 1 i arogli perlysiau hefyd a darganfod sut oeddent yn cael eu trosi mewn i foddion. / Year 1 had the opportunity to smell many herbs and to discover how they could be changed into important medicines.

Cafodd Blwyddyn 1 gyfle i fwynhau picnic yn yr awyr agored. / Year 1 had the opportunity to enjoy a picnic in the outdoors.

Gwnaeth Blwyddyn 1 llwyr fwynhau y profiad yn y Gerddi Botaneg. / Year 1 thoroughly enjoyed the experience in the Botanical Gardens.

Mwynhaodd dosbarth Bl 1 Miss Jones ail-greu’r wenynen yn hedfan o un blodyn i’r llall yn casglu neithdar. Fe wnaethon nhw hefyd fwynhau taith hamddenol o amgylch y tiroedd yn edrych ar yr holl blanhigion a blodau prydferth. / Miss Jones' Yr 1 class enjoyed reenacting the bee flying from one flower to the other collecting nectar. They also enjoyed a leasurly walk aroung the grounds looking at all the beatiful plants and flowers.
Dosbarth B 1 Miss Jones yn ymlacio o dan y blodau. / Miss Jones' Yr 1 class chilling out under the flowers.
Ar ôl gwers hyfryd ar berlysiau a dysgu am eu pwrpas mewn meddygaeth a blasu te mintys a lemwn, mwynhaodd Bl 1 Miss Jones eu hamser yn y parc. / After a wonderful lesson on herbs and learning about their purpose in medicine and tasting mint and lemon tea, Miss Jones Yr 1 enjoyed their time in the park.
Blwyddyn 2 yn mwynhau trip ardderchog yn y Gerddi Botaneg! / Year 2 having a fantastic time during their trip to the Botanical Gardens!
Ar ôl gwers hyfryd ar berlysiau a dysgu am eu pwrpas mewn meddygaeth a blasu te mintys a lemwn, mwynhaodd Bl3 Mrs Davies eu hamser yn y parc. / After a wonderful lesson on herbs and learning about their purpose in medicine and tasting mint and lemon tea, Mrs Davies' Yr 3 enjoyed their time in the park.
Dosbarth Blwyddyn 3 Mrs Davies yn mwynhau blasu te a malu gwahanol berlysiau gyda'i gilydd. / Mrs Davies' Yr 3 class enjoying tea tasting and grounding different herbs together.
Mwynhaodd dosbarth Bl 3 Mrs Davies gerdded o amgylch yr ardd berlysiau a dysgu am yr hyn y defnyddiwyd nhw flynyddoedd maith yn ôl i wella cyflyrau iechyd. / Mrs Davies' Yr 3 class enjoyed walking around the herb garden and learning what they were used for many years ago to better health conditions.
Blwyddyn 3 Mr Ball yn mwynhau yn y Gerddi Botaneg / Year 3 enjoying in the Botanical Gardens.
Blwyddyn 3 Mr Ball yn mwynhau ardaloedd o amgylch y Gerddi Botaneg / Mr Ball's Year 3 class enjoying the areas of the Botanical Gardens.

Cam Cynnydd 3

Ymweliad Preswyl Blwyddyn 5 Pentre Ifan / Year 5 residential visit to Pentre Ifan

Mwynhaodd Blwyddyn 5 ar ei ymweliad preswyl i Bentre’ Ifan eleni. Treuliodd y plant dwy noson lawr yng ngorllewin Cymru yn gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored./ Year 5 enjoyed their residential visit to Pentre Ifan this year. Spending two night down in west Wales taking part in a variety of activities in the outdoors.

Cystadlaethau Athletau / Athletics Tournaments

Cystadlodd plant Cam Cynnydd 3 mewn gwahanol dwrnameintiau athletau eleni lawr ym mhrif ysgol Abertawe./ Progression step 3 children competed in different athletic tournaments down in Swansea university athletics track.

Mabolgampau / Sports day

Cystadlodd plant Cam cynnydd 3 ym Mabolgampau eleni, roedd pawb wedi cymryd rhan mewn gwahanol gystadlaethau gan gynnwys y ras sach, ras gwib a phellter hir./ Progression step 3 children competed in their sports day this year. Competing in a variety of competitions such as the sack race, sprints and long distance.

Ffair Scholastic / Scholastic fair

Roedd plant blwyddyn 6 wedi rhedeg y ffair scholastic unwaith eto eleni yn delio gydag arian trwy werthu nwyddau a llyfrau i blant yr ysgol, a chodi arian ar gyfer yr ysgol i brynu llyfrau newydd ei hunain. / Year 6 children once again ran the scholastic fair and dealt with money by selling books and goods to the rest of the school and raising money for the school to invest in more books.

Ffair Haf / Summer fair

Creodd plant Cam cynnydd 3 nifer o wahanol eitemau i werthu yn y ffair haf eleni. / Progression step 3 created several different products to sell in the school summer fair.

Ymweliad Blwyddyn 4 i Adventure Wales / Year 4 visit to Adventure Wales

Aeth Blwyddyn 4 eleni i Adventure Wales ble chafodd y plant cyfle i gymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau megis: wal ddringo, cwrs mwdlyd, saethyddiaeth a rhaffau uchel. Roedd pawb wedi mwynhau!/ Year 4 had the opportunity to visit Adventure Wales and take part in many activities such as : Climbing walls, Muddy assault course, archery and high ropes. Everyone thoroughly enjoyed!

Ymweliad Blwyddyn 6 i Langrannog / Year 6 resedential visit to Llangrannog

Fel rhan o'r digwyddiadau pontio i fyny i'r uwchradd aeth blwyddyn 6 i Langrannog i greu ffrindiau newydd gyda phlant ysgolion eraill yn barod ar gyfer mis Medi i fyny yn yr uwchradd. Cafodd nifer o gyfleoedd i gymdeithasu trwy weithgareddau hwylus a chyffrous. / As a part of the transition process to comprehensive year 6 visited Llangrannog to create new friends in preperation for September. They had many opportunities to socialise through exciting and fun activities.

Gwasanaeth Gadael Blwyddyn 6 / Year 6 leaving assembly

Traddodiad blwyddyn 6 yw edrych yn ôl ar ei hamser yma yn Nhirdeunaw a chynnal gwasanaeth gadael ar ddiwedd y flwyddyn i ddathlu ei hamser yma yn yr ysgol cyn symud ymlaen i'r uwchradd. / A tradition where year 6 look back at their time here at ysgol Tirdeunaw and hold an assembly at the end of the year looking back to celebrate their time in the school before moving to comprehensive school in September.

Dathliad mawr diwedd thema/ End of theme Celebrations

Ein thema ni ar gyfer y tymor diwethaf oedd Hola Mecsico, fel rhan o'n thema cawsom ni parti mawr i ddathlu'r thema. Selion ni'r parti ar draddodiad mawr ym Mecsico sef 'Dydd y Meirw'. Gwisgodd y plant i fyny fel bydd pobl Mecsico ar y diwrnod adnabyddus yma./ Our theme for the last term has been Hola Mexico. As a part of this theme we celebrated by having a party. The theme for the party. was based on the traditional day of the dead in Mexico The children had the opportunity to dress up as if they were part of this day in Mexico.

CYNGOR ENFYS

Y tymor hwn, fe wnaeth y Cyngor Enfys chwynnu'r gerddi i osod lloriau rhisgl newydd. Mae'n edrych yn hyfryd! Maen nhw hefyd wedi bod yn peintio'r ffensys yn yr ardd Heddwch a'r ardal blannu. / This term the Rainbow Council weeded the gardens to place new bark flooring down. It looks wonderful! They've also been painting the fences in the Peace garden and planting area.

CYNGOR YSGOL

Cyngor Ysgol yn cynnal gwasanaeth er mwyn hysbysebu 'Diwrnod y Llyfr 2025'. / School Council promoting 'World Book Day 2025' in an assembly.
Casglu arian ar gyfer Ysgol Madungu yng Nghenia gan gynnal 'Diwrnod Dim Gwisg Ysgol'. Cafodd y plant cyfle i ddysgu mwy am Genia trwy gymryd rhan mewn cwis gyda Connie ac Angharad o Goleg Gŵyr Abertawe. / Collecting money for Madungu School in Kenya by holding a 'Non-school Uniform day'. The children learnt more about life in Kenya by taking part in a quiz.

Cyngor eco

Batris / Batteries

Mae'r Cyngor Eco wedi bod yn cyfrif batris dros y misoedd diwethaf. Casglodd Groundwork Wales y batris ar gyfer Cyngor Sir a Dinas Abertawe Orffennaf 4. Roedd y 5965 o fatris wedi pwyso 104 kg! Diolch yn fawr i chi gyd am gasglu eich batris. / The Eco Council have been counting batteries over the last few months. Groundwork Wales collected the batteries on July 4. The 5965 batteries weighed 104kg! Thank you to you all for collecting batteries.

Cystadleuaeth Casglu Batris / Collecting Batteries Competition