Newyddlen Eco Ysgol Pentreuchaf Medi 2025 - Ionawr 2026

Y Cyngor Eco

Cafodd ein Cyngor Eco newydd eu hethol ym mis Medi. Mae deuddeg aelod sydd wedi cael eu hethol i gynrychioli llais a barn gweddill o ddisgyblion er mwyn edrych ar ol amgylchedd yr ysgol. Mae’r Cyngor Eco yn cyfarfod o leiaf unwaith pob hanner tymor. Dyma nhw aelodau’r Cyngor Eco!

Adolygiad Amgylcheddol

Gwaith cyntaf y Cyngor Eco, fel pob blwyddyn oedd mynd o amgylch yr ysgol er mwyn monitro amgylchedd eco’r Ysgol. Roedd y plant yn edrych ar yr naw maes eco sef:

  • Bioamrywiaeth
  • Iechyd, Llesiant a Bwyd
  • Dinasyddiaeth Fyd Eang
  • Ynni
  • Lleihau Gwastraff
  • Sbwriel
  • Tir yr Ysgol
  • Trafnidiaeth
  • Dwr

Gwelwyd llawer o bethau da, ond hefyd pethau oedd angen eu gwella. Mae’r Cyngor Eco wedi penderfynu ar bethau i weithio arnynt ar ol cynnal y daith o amgylch tir yr ysgol. Byddwn yn gweithio ar rhain ac yn eu trafod yn ystod ein cyfarfodydd.

Ennill Cystadleuaeth

Daeth llwyddiant i ni fel cyngor Eco wrth i ni ennill cystadleuaeth 'Llun o Ddiwrnod Plannu'. Roedd plant dosbarth Gors Goch, a'r criw Eco wedi bod bod wrthi'n plannu Cennin Pedr a Chrocws. Anfonwyd y ffilm i mewn ac fe gawsom wybod ein bod wedi ennill. Derbynniodd yr ysgol dý adar fel gwobr am eu gwaith.

Dyma ni y wobr!

Nadolig Gwyrdd

Un o syniadau y Pwyllgor Eco yn ystod mis Rhagfyr oedd i gael Nadolig a oedd yn fwy gwyrdd, ac yn un eco gyfeillgar. Felly cynhaliwyd cystadleuaeth i bob dosbarth i greu addurn a oedd yn eco gyfeillgar. Eto eleni cafwyd llu o addurniadau diddorol yn ailgylchu, ac yn defnyddio pob math o ddefnyddiau. Braf i'w cael dweud fod bron i bawb yn yr ysgol wedi ymgeisio, ac anodd iawn oedd dewis yr enillwyr. Dyma lun o’r enillwyr gyda'u haddurniadau.

Ailgylchu Siwmperi Nadoligaidd

Roedd y Cyngor Eco wedi dychryn i sylweddoli fod dros 300,000 tunnell o ddillad yn cael eu danfon i safle tirlenwi. Yn anffodus dim ond 20% o ddillad rydym yn eu hail gylchu. Penderfynodd y criw fynd ati i ail ddefnyddio ac ailgylchu siwmperi a gwisgoedd Nadolig. Daeth llawer o ddillad i mewn i'w gwerthu, ac agorwyd siop i werthu y dillad. Gwnaed £40 o arian, fydd yn mynd i brynu llysiau a blodau ar gyfer yr ardd.

Yn ystod yr wythnos oedd yn arwain at y penwythnos gwylio adar bu'r disgyblion yn dysgu enwau'r adar a sut i'w nabod. Hefyd rhoddodd y Pwyllgor Eco fwyd allan yn yr ardd er mwyn denu'r adar. Yn ogystal, yn y gwasanaeth, fe wnaeth Mrs Helen Jones ddangos lluniau o'r adar, ac ein dysgu sut i wneud peli braster yn fwyd i'r adar. Bydd rhaid i Iolo Williams wylio allan am ei swydd hefo'r ddau yma!

Ymweliad 'Relic'

Daeth cwmni RELIC o Bethesta i dreulio bore hefo dosbarth Tre'r Ceiri i gyflwyno proses o ail-gylchu gwahanol fathau o blastig. Cafodd pawb gyfle i greu carbina wrth wasgu plastig a'i ail ddefnyddio. Diolch i Peri a Liam am ddwad i gynnal y gweithdy i ni.

Ymweliad Dŵr Cymru

Daeth Catrin o Ddŵr Cymru atom ym mis Hydref i gynnal gwasanaeth i ddysgu i ni, 'O lle ddaw ein dŵr?'. Aeth ymlaen wedyn i gynnal gweithdy hefo blwyddyn 2 i 6 i ddysgu pwysigrwydd peidio gwastraffu dŵr.

Cofnodi'r Tywydd!

Ers dwy flynedd bellach rydym yn cymeryd rhan yn 'Cofnodi Data Tywydd' i Amgueddfa Cymru. Mae dros 200 o ysgolion o amgylch Prydain yn cymeryd rhan. Rydym yn cofnodi'r tywydd pob bore ac yna dydd Gwener mae'n cael ei anfon i fynu iddynt. Mae'n ddifir iawn cymharu'r tywydd nid yn unig y ddwy flynedd sydd wedi bod, ond gallwn gymharu gwahanol ardaloedd ym Mhrydain hefyd.

Ymgyrch 'Bag 2 School'

Yn mis Ebrill byddwn yn cymryd rhan yn ymgyrch 'Bag 2 School'.  Ymgyrch ydi hon lle gall ysgolion gasglu hen ddillad, esgidiau, bagiau ac yn y blaen, fel eu bod yn cael eu hailgylchu.   Am bob kg sydd yn cael ei gasglu bydd yr ysgol yn derbyn 30c. Bydd pob plentyn sydd yn dod á bag i mewn yn derbyn tocyn lwcus, a'r tocyn yn mynd i raffl.  Byddwn yn tynnu'r tocyn lwcus ar ymgyrch, a'r plentyn sydd gyda'r tocyn hwnnw yn ennill gwobr i'r teulu.

Credits:

Created with images by bung - "Close-up green leaf nature on blurred greenery background with copy space under sunlight using as a wallpaper" • missisya - "young sprout of plant in gardening in the soil"