Criw Cymraeg 2024-2025

Croeso i dudalen Criw Cymraeg Ysgol Brynaman. Rydyn ni'n gyffrous iawn i rannu ein syniadau a phrosiectau trwy'r dudalen yma.

Dyma'r Criw Cymraeg y flwyddyn yma. Ein neges i chi gyd yw...

SIARADWCH GYMRAEG!

Syniad ar gyfer Diwrnod Shwmae/Su'mae

  1. Gwerthu crysau T
  2. Gwerthu breichledi siaradwch Gymraeg
  3. Gwerthu bathodynnau
  4. Gwerthu bagiau
  5. Lluniau doniol 'Shwmae' ar yr iard

Targed - codi £230 ar ddiwrnod Shwmae/Su'mae

Beth i wneud gyda'r elw

  1. Creu posteri i atgoffa bobl i siarad Cymraeg
  2. Paentio Cofiwch Dryweryn ar y wal

Codwyd y Criw Cymraeg £... ar ddiwrnod Shwmae Su'mae. Fe gwerthwyd bathodynnau a thatws. Cafon ni hwyl a sbri. Mae nawr gan y Criw Cymraeg £... i wario ar adnoddau sy'n mynd i hybu'r Gymraeg.

Rydyn ni nawr yn edrych ar sut hoffwn ni wario'r arian.

Y Ffair Nadolig

Mae rhywun wedi rhoi dau gi anferthol i'r ysgol ar gyfer y ffair Nadolig. Rydyn ni'n mynd i redeg stondin - 'Enwch y ci' gan ddefnyddio enwau Cymraeg. Bydd rhaid codi £1 ar gyfer bob enw. Gobeithio codi £80.