Gweledigaeth Ysgol Llechryd
Ein gweledigaeth fel ysgol yw bod pob disgybl yn cael cyfle i serennu beth bynnag fo eu cefndir ieithyddol, anghenion ychwanegol neu rwystrau difreintedd. Ein dyletswydd fel ysgol yw hyrwyddo datblygiad pob disgybl i fod yn seren ddisglair.
Teulu yw’n hysgol yng nghalon ein cymuned. Dathlwn ein Cymreictod, iaith a diwylliant ac ymfalchïwn yn llwyddiant ein gilydd. Manteisiwn ar bob cyfle i hyrwyddo parch, gofal, cydraddoldeb yn ein bywydau pob dydd a chaiff y plant eu hannog i ddatblygu eu hunan-barch a’u hunanhyder drwy weithgareddau cyfoethog, amrywiol ag heriol. Cydweithiwn, yn athrawon, disgyblion ac yn staff cynorthwyol, yn llywodraethwyr, rhieni a ffrindiau gan anelu at yr un nod, sef gwneud Ysgol Llechryd yn gymuned hapus, fywiog, ysgogol, gofalgar, diogel a chroesawgar lle mae pob plentyn yn profi llwyddiant ac yn cael cyfle teg i flodeuo.
Byddwn yn hyrwyddo, datblygu a darparu’r disgyblion gyda sgiliau priodol ar gyfer addysg a bywyd.
Amcanion:
- Darparu cwricwlwm eang a chytbwys gan geisio sicrhau bod pob plentyn yn cael yr un cyfle ac yn llwyddo hyd eithaf ei allu.
- Hybu datblygiad annibyniaeth a hunan-hyder fydd yn galluogi’r disgyblion i ddysgu dros eu hunain a datblygu eu cywreinrwydd naturiol.
- Darparu amgylchfyd fydd yn gyfoethog, yn galonogol ac yn sialens i’r disgyblion.
- Helpu’r disgyblion i dyfu’n unigolion hyderus a chyfrifol o gymdeithas wrth roi iddynt y wybodaeth, agweddau a’r sgiliau fydd eu hangen arnynt yn y dyfodol.
- Datblygu’n unigolion hyderus, dwyieithog sy’n gallu cyfathrebu ac arddel pob agwedd ar ddiwylliant Cymru.
- Magu dealltwriaeth sut y gellir datblygu’n unigolion iach yn gorfforol, yn gymdeithasol ac yn emosiynol.
Ein Cwricwlwm
Lluniwyd ein cwricwlwm newydd gan gydweithio'n agos gyda disgyblion, rhieni, staff, llywodraethwyr a phobl y gymuned.
Bydd ein cwricwlwm yn codi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr. Fel ysgol rydym wedi ystyried sut y bydd pob dysgwr yn cael cymorth i wireddu uchelgeisiau a dyheadau’r pedwar diben, ac i symud ymlaen.
Themâu Trawsgwricwlaidd
Mae ein cwricwlwm yn ymgorffori cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ystyried yr elfennau trawsgwricwlaidd sef:
- Cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol;
- Meithrin dealltwriaeth o addysg cydberthynas a rhywioldeb;
- Addysg hawliau dynol ac amrywiaeth;
- Addysg gyrfaoedd a phrofiadau sy'n gysylltiedig â byd gwaith
Y Fframwaith Cenedlaethol
Y 4 diben
Y pedwar diben yw'r man cychwyn a'r dyhead ar gyfer cynllun cwricwlwm ein hysgolion. Nod ein hysgol yw cefnogi pob dysgwr i ddod yn:
- Dysgwyr uchelgeisiol, galluog, yn barod i ddysgu drwy gydol eu bywydau;
- Cyfranwyr mentrus, creadigol, yn barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;
- Dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd;
- Unigolion iach, hyderus, yn barod i fyw bywydau boddhaus fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.
Hyrwyddir y 4 diben gan ein 4 cymeriad. Cynlluniwyd y cymeriadau hyn gan ein disgyblion.
Y Fframwaith Cenedlaethol
6 Maes Dysgu a Phrofiad
- Celfyddydau Mynegiannol
- Dyniaethau
- Iechyd a Lles
- Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Mathemateg a Rhifedd
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
Mae’r chwe maes dysgu a phrofiad hyn yn dod â disgyblaethau gwahanol ynghyd trwy gyfleoedd sy'n cefnogi dysgwyr i wneud cysylltiadau ystyrlon nid yn unig o fewn y Meysydd eu hunain ond hefyd ar draws Meysydd. Mae hyn yn caniatáu i'r cysylltiadau eu hailadrodd eu hunain a throsglwyddo i gyd-destunau gwahanol, gan arwain at ehangder a dyfnder yn y dysgu ar gyfer y dysgwyr wrth iddynt symud ymlaen tuag at y pedwar diben.
Mae'r cwricwlwm yn Ysgol Gynradd Llechryd wedi ei sefydlu ar system thematig. Mae'r disgyblion yn datblygu eu medrau rhifedd a llythrennedd yn ystod sesiynau'r bore. Defnyddir y sesiynau prynhawn yn bennaf fel sesiynau thematig trawsgwricwlaidd.
Y Fframwaith Cendlaethol
Rhifedd, Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol
Bydd ein cwricwlwm yn datblygu sgiliau trawsgwricwlaidd gorfodol llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol. Bydd ein cwricwlwm yn galluogi dysgwyr i ddatblygu cymhwysedd a gallu yn y sgiliau hyn ac i'w hymestyn a'u cymhwyso ar draws pob maes. Bydd y dysgwyr yn cael cyfleoedd ar draws y cwricwlwm i:
- Ddatblygu sgiliau gwrando, darllen, siarad ac ysgrifennu
- Ddefnyddio rhifau a datrys problemau mewn sefyllfaoedd bywyd go iawn
- Fod yn ddefnyddwyr hyderus o ystod o dechnolegau i'w help i weithredu a chyfathrebu'n effeithiol a gwneud synnwyr o'r byd.
Anghenion Dysgu Ychwanegol
Yr ydym wedi ystryried ein darpariaeth ADY a sut y byddwn yn diwallu anghenion gwahanol grwpiau o ddysgwyr.
Mae cynhwysiant yn holl bwysig i ni yn Ysgol Llechryd. Rydym yn darparu ystod o gymorth i'n disgyblion ADY. Rydym yn monitro cynnydd disgyblion yn gyson ac os teimlwn fod angen cefnogaeth bellach, bydd yr ysgol yn cysylltu â rhieni/gwarchodwyr y plentyn er mwyn trafod a chynllunio’r ffordd ymlaen. Mae cydweithio effeithiol gyda rhieni ac asiantaethau allanol yn hanfodol er mwyn ein galluogi i gynnig y gefnogaeth orau oll i’n disgyblion.
Rydym yn gweithredu polisi drws agored lle gall rhieni rannu unrhyw bryderon sydd ganddynt am eu plentyn.
Llais y Disgybl
Mae llais y disgybl yn hanfodol i ni yn Ysgol Llechryd. Cynlluniwyd pob thema ar y cyd gyda'n disgyblion. Yn ogystal â hyn, mae gennym nifer o bwyllgorau er mwyn sicrhau bod ein disgyblion yn cymryd rhan anatod mewn gweithredoedd a datblygiadau'r ysgol. Mae rhain yn cynnwys:
- Cyngor Ysgol
- Cyngor Ecotastig
- Technotastig
- Arwyr Lles
Cwricwlwm Cymreig
Mae'n gymuned a'n ardal leol yn rhan anatod o'n cwricwlwm. Trwy ymgorffori agweddau lleol i’n cwricwlwm, ein nod yw sicrhau bod ein disgyblion nid yn unig yn ymwybodol o’u gwreiddiau a’u hetifeddiaeth ond hefyd yn ymfalchïo yn eu Cymreictod a'u cefndir. Yn ystod eu hamser yn Ysgol Gynradd Llechryd, bydd y disgyblion yn datblygu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o:
- Chwedl 'Teigr yn y Bocs';
- Chwedl 'Y Saith Seren';
- Yr Afon Teifi;
- Traethau Lleol;
- Twristiaeth;
- Eisteddfodau;
- Dathliadau Cymreig;
- Yr Urdd
Rydym am i’n disgyblion datblygu ymdeimlad o berthyn i’n cymuned a’n gwlad er mwyn iddynt dyfu i fod yn unigolion sy'n gofalu am y byd o'u cwmpas.
Cynnydd ac Asesu
Bydd ein cwricwlwm yn cefnogi dysgu drwy gynllunio cyfleoedd dysgu sy'n defnyddio'r egwyddorion addysgeg.
Mae ein cwricwlwm, a gefnogir gan ddysgu ac addysgu effeithiol, yn galluogi dysgwyr i wneud cynnydd ystyrlon. Dros amser bydd ein dysgwyr yn datblygu a gwella eu sgiliau a'u gwybodaeth. Mae ein cwricwlwm yn canolbwyntio ar ddeall beth mae'n ei olygu i wneud cynnydd mewn maes neu ddisgyblaeth benodol a sut y dylai dysgwyr ddyfnhau ac ehangu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, eu sgiliau a'u galluoedd, a'u priodoleddau a'u tueddiadau ac fe'i hysbysir gan yr egwyddorion cynnydd. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi ein dull o asesu, a'i diben yw llywio'r gwaith o gynllunio ar gyfer dysgu yn y dyfodol.
Bydd asesu'n cael ei ymgorffori fel rhan annatod o ddysgu ac addysgu. O’r eiliad y mae’r disgyblion yn dechrau gyda ni, asesir eu sgiliau rhifedd, llythrennedd a chymdeithasol er mwyn llywio ein darpariaeth ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â’r asesiadau hyn, trwy gydol eu cyfnod gyda ni yn Ysgol Gynradd Llechryd, mae'r athrawon yn defnyddio ystod o strategaethau asesu ar gyfer dysgu er mwyn sicrhau cynnydd ac i gynllunio'n bwrpasol. Defnyddiwn Asesiadau Personol i fesur sgiliau disgyblion blwyddyn 2 i 6 mewn Mathemateg Gweithdrefnol, Rhesymu, Darllen Cymraeg a Darllen Saesneg.
Caiff medrau'r holl ddisgyblion eu monitro'n rheolaidd ac ar gyfer y disgyblion hynny sy'n tangyflawni, cyflwynir strategaethau dosbarth penodol a/neu sesiynau ymyrraeth yn unol a'n polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae hyn yn ein galluogi i ddarparu cymorth priodol i’n holl ddisgyblion.
Adolygu'r Cwricwlwm
Er mwyn sicrhau bod ein cwricwlwm yn parhau i gwrdd â gofynion ein disgyblion, byddwn yn adolygu’r cynnwys yn flynyddol. Mae Ysgol Gynradd Llechryd yn sefydliad sy’n dysgu sy’n golygu ein bod yn addasu ein haddysgeg a’n prosesau ysgol yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod ein gweithdrefnau yn seiliedig ar yr ymchwil diweddaraf. Wrth adolygu ein cwricwlwm, byddwn yn parhau i gasglu barn a syniadau rhanddeiliaid yr Ysgol trwy ddosbarthu holiaduron, cynnal cyfarfodydd, nosweithiau agored a thrafodaethau ffurfiol ac anffurfiol.