Loading

ADY: Cwrdd ag anghenion pob un disgybl Partneriaeth addysg canolbarth cymru ceredigion a phowys

Cyflwyniadau

Cathryn James a Heidi Piercy

Cyfrifoldebau athrawon
  • Cofiwch fod pob un disgybl yn gyfrifoldeb yr athro
  • Disgwylir i bob athro ddarparu cyfleoedd dysgu i ddiwallu anghenion pob plentyn.
  • Gwahaniaethu yw sicrhau bod pob disgybl yn gweithio ar y lefel gywir ar eu cyfer.
  • Sicrhau fod disgybl yn dysgu a gwneud cynnydd yw egwyddor graidd bod yn athro.
  • Y newyddion da yw y gallwch chi wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau plant a phobl ifanc.
Sicrhewch eich bod yn cefnogi disgyblion mewn ffordd deg...
...ddim fel yr athro yma!

Beth ydym yn ei olygu wrth 'gwneud cynnydd'?

Mae'r Cwricwlwm Newydd i Gymru yn nodi y bydd 'cynnydd' yn edrych yn wahanol iawn i bob dysgwr.

Dyma rai enghreifftiau o gynnydd:

  • ysgrifennu enw
  • defnyddio prif lythrennau yn gywir
  • cyffwrdd-gyfri i 10
  • cerdded i'r gwasanaeth gyda gweddill y dosbarth
  • bwyta yn y neuadd
  • gwybod y drefn dyddiol
  • mynd o wers i wers yn annibynnol

Eich tro chi...

Meddyliwch am dri dysgwr rydych chi'n eu haddysgu o alluoedd amrywiol. Sut mae cynnydd yn edrych ar gyfer y dysgwyr hyn?

Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg Cymru (ADYTA / ALNET)

Mae’r hyfforddiant canlynol wedi’i greu gan Lywodraeth Cymru i hysbysu addysgwyr am ADYTA / ALNET. Dilynwch y ddolen isod i gael mynediad at yr hyfforddiant.

Ymarferion Person Canolog (PCP)
  • Ymarfer sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn yw un o nodweddion allweddol ALNET.
  • Nod ALNET yw cynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc yn eu dysgu eu hunain.
  • Sicrhewch fod barn dysgwyr yn cael ei hystyried, ynghyd â barn eu rhieni/gofalwyr.
  • Mae Helen Sanderson wedi cynhyrchu rhai offer a chanllawiau PCP gwych y gallwch eu defnyddio gyda'ch dysgwyr. Gallwch gael mynediad at y rhain ar y ddolen isod.
Cliciwch y ddolen isod i agor yr adnodd hwn
Plîs cymerwch yr amser i wrando ar eich disgyblion
Hyfforddiant Person Canolog

Defnyddiwch y ddolen isod i gwblhau rhestr chwarae ar greu Proffil Un Dudalen.

Defnyddiwch y ddolen isod i gwblhau rhestr chwarae ar gymryd rhan mewn Adolygiadau Person Canolog.

Meddyliwch am eich hysgol...

Pa offerynnau meddwl Person Canolog ydych chi wedi eu gweld yn cael eu defnyddio?

Gwahanol anghenion

Mae’r Cod Ymarfer ADY yn dweud bod ystod eang o anawsterau neu anableddau dysgu, ond gellir eu dosbarthu’n fras i’r pedwar maes canlynol:

  • (a) Cyfathrebu a rhyngweithio;
  • (b) Gwybyddiaeth a dysg;
  • (c) Ymddygiad, datblygiad emosiynol a chymdeithasol;
  • (d) Synhwyraidd a/neu gorfforol.

Bydd y rhestr chwarae ganlynol yn mynd â chi drwy amrywiaeth o anghenion ychwanegol yr ydych yn debygol o ddod ar eu traws yn eich addysgu. Ceir disgrifiad o bob angen yn ogystal â gwybodaeth i gadw llygad amdani a strategaethau a fyddai'n ddefnyddiol i chi fod yn ymwybodol ohonynt a'u defnyddio fel athro.

Munud i feddwl...

Dewiswch un disgybl yn eich dosbarth sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer un o'r anghenion hyn. Sut ydych chi'n cefnogi'r disgybl hwn ac a oes unrhyw beth y byddech chi'n ei newid yn dilyn yr hyfforddiant hwn?

Gwyliwch y fideo canlynol i ddangos pa wahaniaeth y gallwch chi ei wneud os cymerwch amser i gysylltu â'ch dysgwyr.

Diolch i chi am gymryd yr amser i weithio drwy'r hyfforddiant hwn. Os oes angen cymorth pellach arnoch gyda disgyblion unigol neu wybodaeth, siaradwch â’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yn eich ysgol.

Edrychwn ymlaen at eich gweld ar gyfer y sesiwn Holi ac Ateb ar TEAMS. Dyma nodyn i'ch atgoffa o'r tri chwestiwn y byddwn yn gofyn i chi roi adborth arnynt:

  1. Meddyliwch am dri dysgwr rydych chi'n eu haddysgu o alluoedd amrywiol. Sut olwg sydd ar gynnydd ar gyfer y dysgwyr hyn?
  2. Pa offer meddwl sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn ydych chi wedi'u gweld yn cael eu defnyddio?
  3. Dewiswch un disgybl yn eich dosbarth sy'n bodloni'r meini prawf ar gyfer un o'r anghenion hyn. Sut ydych chi'n cefnogi'r disgybl hwn ac a oes unrhyw beth y byddech chi'n ei newid yn dilyn yr hyfforddiant hwn?