Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern
GWELEDIGAETH Y CLWSTWR
Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.
Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.
Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.
Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.
Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.
Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.
Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.
Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.
Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.
Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.
Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.
Uned 1
Caerdydd!
Amcan yr uned yma yw ehangu dealltwriaeth y disgyblion o’u bywydau fel plentyn yn y ddinas. Dylid ystyried y profiadau mae’r plant yn eu derbyn, dod i adnabod atyniadau’r brif ddinas. Mae’n bwysig dysgu am blant o gefndiroedd amrywiol sy’n byw yng Nghaerdydd er mwyn cael darlun o’r diwylliannau amrywiol yn y ddinas.
Pam fod Caerdydd yn le da i fyw ynddo?
Cynnwys yr Uned
Ble mae Caerdydd ar fap o Gymru?
Beth yw’r prif atyniadau? Adeiladau enwog?
Beth yw tirwedd Caerdydd?
Dysgu enwau afonydd Caerdydd.
Beth sydd yn y ddinas fel adloniant i deuluoedd?
Pa ddigwyddiadau arbennig sy’n digwydd yng Nghaerdydd.
Pa grefyddau a diwylliannau amrywiol sydd yn y ddinas?
Ieithoedd Caerdydd a’r niferoedd sydd yn eu siarad - plant i gyfateb.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Enwogion Caerdydd
Gareth Bale
Roald Dahl.
Betty Campbell
Uned 2
Ffasiwn!
Yn yr uned hon ein prif ffocws yw creadigrwydd! Rydym am i’r disgyblion ddysgu am y diwydiant ffasiwn yn y ddinas. Mae angen iddynt gael cyfleoedd i ddysgu am gynllunwyr ffasiwn yng Nghymru. Hefyd, mae angen sicrhau fod yn disgyblion yn deall pwysigrwydd creu ffasiwn sy’n gynaliadwy ac yn eco-gyfeillgar. Rydym am gynnig profiadau uniongyrchol wrth gynllunio, creu a chynnal sioe ffasiwn er mwyn rhoi brofiad uniongyrchol i’r disgyblion o fod yn gynllunwyr ffasiwn.
Sut mae cynllunio, creu, marchnata a gwerthu dillad?
Cynnwys yr Uned:
Adnabod siopau dillad yn yr ardal leol, yn y ddinas.
Deall beth yw rôl siopau elusen
Pwysigrwydd ail-ddefnyddio ac ailgylchu ddillad.
Dysgu am gynllunwyr ffasiwn enwog o Gymru
Cyfle i fod yn gynllunwyr Ffasiwn, i greu gwisgoedd cynaliadwy.
Cynnal Sioe Ffasiwn cynaliadwy i’w teuluoedd/ysgol
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Laura Ashley
Mary Quant
David Emanuel
Julien MacDonald
Uned 3
Cefn Gwlad
Mae 35% o boblogaeth Cymru yn byw yng nghefn gwlad. Yn yr uned hon mae’r disgyblion am gael eu dysgu am fywydau plant mewn ardal gyferbyniol yng Nghymru. Wrth ddysgu am fywyd plant cefn gwlad mae’n bwysig iddynt ddysgu am dirwedd, atyniadau, diddordebau er mwyn gallu gwneud cymariaethau. Mae angen hefyd gwneud cysylltiad ag ysgol wledig yng Nghymru a rhannu profiadau'r disgyblion yn y ddwy ysgol.
Sut mae bywydau’r plant yn y wlad yn debyg neu yn wahanol i’ch bywydau chi?
Cynnwys yr Uned:
Cysylltu gydag ysgol mewn ardal wledig a chyferbyniol yng Nghymru.
Dysgu am dirwedd, mynyddoedd a llynnoedd enwog yr ardal.
Dysgu defnyddio mapiau, cyfeiriad, cyfeiriannu
Dysgu am ddiddordebau plant y wlad, adloniant, chwaraeon.
Hanes Mari Jones
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Ifan Jones Evans
Mari Jones a'i Beibl
Uned 4
Fferm Ffactor!
Mae 88% o arwynebedd tir Cymru yn cael ei ddefnyddio fel tir amaethyddol. Mae’r diwydiant ffermio ac amaethyddol yn ddiwydiant holl bwysig yn ein gwlad. Yn yr uned hon mi fydd y disgyblion yn dysgu am y diwydiant ffermio/amaethyddol. Byddant yn cael cyfleoedd i ddysgu am gyfrifoldebau dyddiol ffermwyr a sut mae angen gofalu am y tir ar anifeiliaid. Maent hefyd am ddysgu sut mae ffermydd yn cynhyrchu llaeth, tyfu cnydau a’r sialensiau sy’n eu hwynebu. Mae angen trafod cynaliadwyedd a dulliau mae ffermydd erbyn hyn yn gweithio’n fwy ecogyfeillgar.
Sut ma ffermydd yn cynhyrchu cynnyrch i werthu yn y siop?
Cynnwys yr Uned:
Dysgu am ffermydd a beth yw diwrnod arferol ar y fferm?
Sut mae gofalu am anifeiliaid ar y fferm?
Geirfa fferm a chefn gwlad ac enwau torfol, lluosog ac anifeiliaid.
Sut mae’r ffarmwr yn cynhyrchu llaeth neu gnydau?
Taith y llaeth neu’r cnydau i‘r siop.
Sut mae’r ffermydd yn ceisio bod yn fwy eco-gyfeillgar?
Dysgu am siopau ffermwyr / marchnad ffermwyr.
Marchnata cynnyrch trwy wneud hysbyseb.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Uned 5
Ein Byd Mawr Ni!
Yn ôl hawliau plant UNICEF mae gan bob plentyn hawliau “heb wahaniaethu o unrhyw fath, ni waeth beth fo hil, lliw, rhyw, iaith, crefydd, barn wleidyddol neu farn arall, tarddiad cenedlaethol, cefndir ethnig neu gymdeithasol, eiddo ac anabledd. Yn adeiladu ymhellach ar eu dealltwriaeth o’u bywydau hwy fel plentyn yn y ddinas, wedi dysgu am blant yn y wlad, mae cyfle nawr i gymharu'r tebygolrwydd a gwahaniaethau rhwng eu bywydau hwy a phlant dramor. Dylid dysgu am addysg, diwylliannau, arferion, diwydiant, dathliadau a diddordebau plant yn y wlad hon.
Dylid osgoi stereotepio y gwledydd a ddewiswyd.
Sut mae bywydau plentyn mewn gwledydd amrywiol dros y byd?
Cynnwys yr Uned:
Sut mae diwrnod arferol mewn ysgol?
Pa fath o dirwedd sydd yn y wlad / cyfandir?
Dysgu am ddiddordebau, chwaraeon ac adloniant i blant.
Dysgu am ddathliadau arbennig y wlad.
Creu celf, dysgu dawns, caneuon traddodiadol.
Uned 6
Dwylo Dros y Mor!
Mae dros 2 biliwn o bobl yn byw mewn gwledydd ble mae prinder dŵr, a disgwylir y bydd hyn yn gwaethygu mewn rhai rhanbarthau o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd a thwf poblogaeth. Yn 2020, defnyddiodd 74% o boblogaeth y byd (5.8 biliwn o bobl) wasanaeth dŵr yfed wedi’i reoli’n ddiogel sy’n golygu fod 26% heb gyflenwad glan. Eleni yn ystod yr haf fe welsom brinder dwr yng Nghymru o ganlyniad i dywydd poeth ac yr haf poethaf sydd wedi ei gofnodi yng Nghymru.
Amcan yr uned yma yw dysgu'r disgyblion am ddŵr a phwysigrwydd dŵr i’r blaned. Mae’n bwysig eu bod yn sylweddoli bod angen arbed dŵr a chael cyfleoedd gweithredol yn yr ysgol i wneud hyn. Yn dilyn hyn mae angen iddynt ddysgu nad yw dŵr ar gael i bawb, a bod angen helpu eraill trwy waith noddedig i gasglu arian at elusen.
Sut allwn ni arbed dŵr a sut gallwn wneud gwahaniaeth i fywyd eraill dros y byd?
Cynnwys yr Uned:
Pryd ydym yn defnyddio dŵr? At ba pwrpas?
Dysgu am y gylched ddŵr. Gwastraff dŵr.
Cysylltu a dŵr Cymru.
Pa ffyrdd allwn ni arbed dŵr?
Pam fod angen arbed dŵr?
Dysgu am waith elusennol yn sicrhau dŵr glan.
Dysgu am elusennau fel UNICEF, Toilet Twinning, Water Aid.