Clecs Ffwrnes Chwefror 2026 Cylchlythyr Chwefror 2026 / February newsletter 2026

Gwerth y Mis / Value of the Month Mawrth/March - Symlrwydd/Simplicity Ebrill/April - Dyfalbarhad/Perseverance

Hawl y Mis / Right of the Month Mawrth/March - Erthygl 30 - Eich hawl i ddefnyddio eich iaith eich hun / Article 30 - Your right to use your own language. Ebrill/April - Erthygl 24 - Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl / Article 24 - Your right to good food and water and to see the doctor if you're ill.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

14.02.2026-22.02.2026 - Gwyliau/Holidays

03.11.2025 - HMS / Inset day Dydd Llun 23.02.2026 Monday - Gwersi Nofio Bl5 / Year 5 swimming lessons Fri 13/03/2026, 10:45 - 11:30 25.02.2026 - Rhagbrofion Eisteddfod yn Ysgol Trimsaran/ Eisteddfod Preliminaries in Ysgol Trimsaran

26.02.2026 - B4 - Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Llanelli / St David's Day Parade in Llanelli

28.02.2026 - Eisteddfod Gylch yn Ysgol y Strade / Local Eisteddfod at Ysgol y Strade

02.03.2026 - Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi - Bore Coffi yn yr ysgol Meithrin i Fl2 / St David's Day Celebrations - Coffee Morning in the school Nursery to Year 2 (Gwybodaeth ag amseroedd i ddilyn / Arrangements and timings to follow)

05.03.2026 - Diwrnod y Llyfr - disgyblion i wisgo fel eu hoff gymeriad allan o lyfr / World Book Day - pupils can dress as their favourite book character

17.03.2026 - Noson rhieni agored i weld gwaith eich plant (mwy o wybodaeth i ddilyn) / Parents open evening to see children's work (more information to follow) 28.03.2026-12.04.2026 - Gwyliau/Holidays

HMS / INSET 13.04.26

Clwb hwyl / After school club

Mae clwb hwyl yr ysgol dal i redeg yn esmwyth ac o ddydd Llun i ddydd Iau. Cysylltwch a'r swyddfa am fwy o wybodaeth / The after school club is still running smoothly and from Monday to Thursday. Contact the office for more information.

Meithrin Cymru ac Iwerddon

Am ddechreuad gwych i’r flwyddyn! Rydym wedi croesawi blant prynhawn newydd i ein dosbarthiadau sydd wedi ymgartrefi’r arbennig o dda. Dros yr hanner tymor diwethaf, mae’r meithrin wedi bod yn brysur yn archwilio’r tywydd rhewllyd ac yn dysgu am liwiau oer drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Buom yn darllen Y Pengwin ar ei Wyliau ac yn trafod pa ddillad sydd eu hangen ar gyfer gwyliau poeth ac oer. Rydym wedi defnyddio testunau trafod i estyn a datblygu ein geirfa Gymraeg. Yn ogystal, rydym wedi dysgu am adar yr ardd ac wedi mwynhau chwilio ac arsylwi arnyn nhw yn yr ardal goedwig. Rydym hefyd wedi bod yn dysgu am y cysyniad o “un yn llai” drwy ganu’r hwiangerdd 5 Hwyaden, ac wedi defnyddio hadau adar i’n helpu i ddeall y syniadau o “llawn” a “gwag”.

What a great start to the year!  We’ve welcomed new afternoon pupils to the nursery who have settled in fantastically. At the beginning of term, we have been busy exploring the icy weather and learning about cold colours through a variety of practical activities. We have been reading The Penguin on Holiday and discussing which clothes are needed for hot and cold holidays. We have used discussion texts to extend and develop our Welsh vocabulary. In addition, we have been learning about garden birds and have enjoyed searching for and observing them in the woodland area. We have also been learning about the concept of “one less” by singing the rhyme 5 Little Ducks, and have used bird seed to help us understand the concept of “full” and “empty”.

Derbyn Sbaen a'r Eidal

Rydym wedi cael hanner tymor brysur iawn fel arfer ac wedi mwynhau amrywiaeth o brofiadau dysgu. Rydym wedi bod yn dysgu sut i gyfri mewn camau o 2 trwy baru sanau a’u cyfri. Diolch I ‘Claire’s Flowers’ am ddanfon blodau mewn i’r Dosbarth. Cawsom amser gwych yn creu ein tusw o flodau. Gan fod hi wedi bod yn hanner tymor gwlyb iawn, roedd y goedwig yn wlyb a fwdlyd iawn! Cawsom lawer o hwyl yn neidio yn y pyllau dwr gyda llawer ohonom ni yn eisiau newid ein sanau! Roedd y drôr sanau sbâr yn wag! Rydym wedi bod yn gwrando ar stori Santes Dwynwen ac wedi dathlu’r dydd trwy wneud cardiau, bisgedi a chael disgo. Rydym wedi dysgu am Flwyddyn Newydd Tsieineaidd a sut maent yn cael ei ddathlu. Coginiom ‘stir fry’ a gwneud mygydau draig er mwyn i ni ddawnsio i gân y flwyddyn Newydd Tsieineaidd.

We’ve had a busy half term as usual and we’ve enjoyed all the learning experiences. We have been learning to count in 2’s by pairing socks and then counting them. Thank you to Claire’s flowers for gifting flowers. We had such a lovely time making our bouquets. As it’s been such a wet half term, the forest area was very wet and muddy! We had so much fun jumping in the muddy puddles with many of us needing to change our socks! The spare socks draw was left empty! We also listened to story of Saint Dwynwen and celebrated by making cards, biscuits and having a disco. We learnt about the Chinese New Year and how it is celebrated. We cooked a stir fry and made dragon masks so that we could dance to the Chinese New Year song.

Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc

Y tymor hwn, mae Blwyddyn 1 wedi bod yn brysur ac wedi ymgysylltu’n llawn â’u dysgu ar draws y cwricwlwm. Dechreuon ni’r flwyddyn newydd drwy ddysgu am y Fari Lwyd, gan archwilio’r traddodiad Cymreig cyffrous hwn a’i bwysigrwydd yn ein diwylliant. Fe wnaethom hefyd ddathlu Dydd Santes Dwynwen gyda disgo hwyliog, gan fwynhau amser i ddawnsio a dathlu gyda’n ffrindiau. Mewn Mathemateg, rydym wedi bod yn datblygu ein dealltwriaeth o werth lle, gan ganolbwyntio ar unedau a degau, ac yn ymarfer dod o hyd i un yn fwy ac un yn llai na rhif penodol. Mae’r plant wedi tyfu mewn hyder wrth ddefnyddio adnoddau ymarferol ac egluro eu meddwl mathemategol. Roeddem yn falch iawn o groesawu Project Seagrass i’r ysgol, lle cafodd y plant gyfle cyffrous i ddefnyddio sbectol VR i brofi bywyd o dan y môr. Roedd yn ffordd wych o ddod â’n dysgu yn fyw. Fe wnaethom hefyd fwynhau ymweliad gan ETO, a gyflwynodd weithdy diddorol (a hyfryd o flêr!) am bryfed genwair, gan helpu’r plant i ddeall eu pwysigrwydd yn ein hamgylchedd. Yn ystod ein sesiynau llythrennedd, rydym wedi parhau i ddatblygu ein sgiliau ysgrifennu gyda mwy o annibyniaeth, gan ddefnyddio lluniau Cyw fel sbardun difyr i ysbrydoli syniadau. Fel rhan o’n gwaith thema, fe wnaethom hefyd adnabod pa anifeiliaid sy’n byw ar y tir a pha rai sy’n byw yn y môr, gan feithrin ein dealltwriaeth o gynefinoedd gwahanol. I gloi’r tymor, mae’r plant wedi bod yn gweithio i gwblhau peintiad arbennig. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at rannu eu gwaith celf gorffenedig gyda chi dros yr wythnosau nesaf – rydym yn credu y byddwch yn wirioneddol falch! Gobeithiwn y cewch hanner tymor diogel a hyfryd. Diolch yn fawr!

This term, Year 1 have been busy and fully engaged in their learning across the curriculum. We began the new year by learning about the Mari Lwyd, exploring this exciting Welsh tradition and its importance in our culture. We also celebrated St Dwynwen’s Day with a fun disco, enjoying time to dance and celebrate with our friends.

In Maths, we have been developing our understanding of place value, focusing on units and tens, and practising how to find one more and one less than a given number. The children have grown in confidence when using practical resources and explaining their mathematical thinking. We were delighted to welcome Project Seagrass into school, where the children had the exciting opportunity to use VR goggles to experience life under the sea. It was a fantastic way to bring our learning to life. We also enjoyed a visit from ETO, who delivered a fascinating (and wonderfully messy!) workshop all about worms, helping the children understand their importance in our environment. During our literacy sessions, we have continued to develop our writing skills with increasing independence, using Cyw pictures as an engaging hook to inspire ideas. As part of our topic work, we also identified which animals live on land and which live in the sea, building our understanding of different habitats.

To end the term, the children have been working to complete a special paint-along. We are very much looking forward to sharing their finished artwork with you over the coming weeks – we think you will be extremely impressed! We hope you have a safe and wonderful half term. Thank you very much!

Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden

Dyma ddiweddariad ar yr hyn rydym wedi bod yn ei ddysgu yn ystod yr wythnosau diwethaf yn Nosbarthiadau Blwyddyn 2. Profodd y plant gyffro’r tywydd eira ar ddechrau’r Flwyddyn ac fe wnaethom ei ddefnyddio fel cyfle i ymchwilio ac i fod yn greadigol gan creu plu eira eu hun! Cawsom amser gwych yn canu ac yn dawnsio gyda Martin Geraint yn y Jambori, diwrnod llawn hwyl! Rydym wedi bod yn dysgu am ein thema newydd: Cymru Cynaliadwy. Trafododd y plant sut gallwn ni oll leihau gwastraff i gadw Cymru’n lan ac yn iach. Buom hefyd yn ymarfer didoli sbwriel yn gywir. Un bore roedd llanast enfawr ar lawr y dosbarth! Derbyniodd y plant llythyr gan Sbango ac maent wedi bod yn brysur yn helpu Sbango i greu dulliau newydd o gadw’r ysgol yn lân. Rydym hefyd wedi bod yn gwneud pypedau Sbango yn y dosbarth gan ddefnyddio hen sanau, maent yn edrych yn wych! Cynhaliwyd disgo Santes Dwynwen llawn cerddoriaeth a gwênau wrth i ni ddathlu cariad a chyfeillgarwch Santes Dwynwen.

Aethom ni ar daith i Ganolfan Ailgylchu Eto yn Nantycaws yng Nghaerfyrddin. Cawsom gyfle i weld sut mae’r canolfan yn gweithredu a’r  hyn mae’n nhw’n ailgylchu ac ail-ddefnyddio yna. Cawsom hefyd gyfle i edrych trwy’r siop ail-law, a buom yn ffodus i ddewis llyfr yr un i fynd adre. Aethom ni i gaffi Hollol Gymraeg am ginio blasus iawn! Mae’r disgyblion wedi bod yn archwilio mapiau o’r ardal leol, dysgu am symbolau, cyfeiriadau a sut i’w darllen. Yn ein gwersi mathemateg, rydym wedi bod yn enwi ac adnabod priodweddau siapiau 2D a 3D. Hefyd rydym wedi bod yn lleoli gwrthrychau ar fap o’r ardal leol gan ddefnyddio grid cyfesurynnau. Yr wythnos hon rydym yn dathlu Wythnos Iechyd Meddwl Plant gyda amrywiaeth o weithgareddau yn ystod yr wythnos. Mae’r disgyblion wedi bod yn dawsnio, canu, ymarfer ioga, chwarae gemau buarth a rhedeg milltir y dydd! Rydym wedi cael Hanner Tymor yn llawn hwyl, mwynhewch y gwyliau ac edrychwn ymlaen at yr Hanner Tymor nesaf.   Diolch am eich cefnogaeth barhaus, Blwyddyn 2.

Here’s an update on what we have been learning in recent weeks in Year 2 Classes. The children experienced the excitement of the snowy weather at the start of the Year and we used it as an opportunity to research and be creative by creating our own snowflakes! We had a great time singing and dancing with Martin Geraint at the Jamboree, a fun filled day! We have been learning about our new theme: Sustainable Wales. The children discussed how we can all reduce waste to keep Wales clean and healthy. We also practiced sorting rubbish correctly. One morning there was a huge mess on the classroom floor! The children received a letter from the character Sbango and have been busy helping Sbango to create new methods of keeping the school clean. We have also been making Spango puppets in the Class using old socks, they look great! A Santes Dwynwen disco was held full of music and smiles as we celebrated the love and friendship of Santes Dwynwen. We went on a trip to the Eto Recycling Center in Nantycaws in Carmarthen.

We had the opportunity to see how the center operates and what they recycle and reuse there. We also had the chance to look through the second-hand shop, and we were lucky to choose a book each to take home. We went to Hollol Gymraeg cafe for a very tasty lunch! The pupils have been examining maps of the local area, learning about symbols, directions and how to read them. In Maths, we have been naming and identifying the properties of 2D and 3D shapes. We have also been locating objects on a map of the local area using a coordinate grid. This week we celebrate Children's Mental Health Week with a variety of activities during the week. The pupils have been dancing, singing, practicing yoga, playing yard games and running a mile a day! We have had a fun Half Term, enjoy the holidays and we look forward to the next Half Term.   Thank you for your continued support, Year 2.

Blwyddyn 3 Alban a Hwngari

Dyma hanner tymor arall prysur iawn ym Mlwyddyn 3! Mae dosbarthiadau'r Alban a Hwngari wedi bod yn brysur iawn yn archwilio ein thema tymor hwn: “Osgoi’r tip a throi’n hip!”. Mae’r gwaith wedi canolbwyntio ar leihau, ail-ddefnyddio ac uwchgylchu dillad, a deall sut y gallwn wneud dewisiadau mwy cynaliadwy yn ein bywydau bob dydd.

Mae’r plant wedi dysgu am ffasiwn gyflym, sut mae dillad yn cael eu creu a’u hallforio o wledydd gwahanol i’n gwisgo ni, a sut mae hyn yn effeithio ar y blaned. Trwy ddefnyddio mapiau, dysgodd y plant am wledydd sy’n cynhyrchu dillad ac effaith hyn ar yr amgylchedd, gan gynnwys llygredd a gwastraff.

I roi eu dysgu ar waith, aeth y plant ar daith addysgiadol i Lanelli, gan ymweld â siop British Heart Foundation a siop Tŷ Hafan. Yn y siopau hyn, prynodd pob grŵp ddilledyn hyd at £5 i’w uwchgylchu yn y coleg. Yn dilyn hyn, aethant ar drip i Goleg Celf a Ffasiwn Gaerfyrddin a siop Sero yn y dref i ddysgu mwy am sut i uwchgylchu dillad a sut mae hyn yn helpu’r amgylchedd.

Yn ogystal â hyn, mae'r plant wedi cael sesiynau chwaraeon gyda myfyrwyr o Goleg Sir Gâr. Cafodd pawb hwyl fawr yn gwneud gweithgareddau aml-sgiliau, gan wella cydweithio, cydbwysedd a hyder.

Here's to another very busy half term in Year 3! The Alban and Hungary classes have been very busy exploring our theme this term: "Avoid the tip and become hip!". The work has focused on reducing, reusing and upcycling clothes, and understanding how we can make more sustainable choices in our everyday lives.

The children have learned about fast fashion, how clothes are created and exported from different countries than we wear, and how this affects the planet. By using maps, the children learned about countries that produce clothes and the impact of this on the environment, including pollution and waste.

To put their learning into practice, the children went on an educational trip to Llanelli, visiting the British Heart Foundation shop and the Tŷ Hafan shop. In these shops, each group bought up to £5 of clothing to be upcycled at the college. Following this, they went on a trip to Carmarthen College of Art and Fashion and the Sero shop in town to learn more about how to upcycle clothes and how this helps the environment.

In addition to this, the children have had sport sessions with students from Coleg Sir Gâr. Everyone had great fun doing multi-skill activities, improving collaboration, balance and confidence.

Blwyddyn 4 Almaen a Swistir

Mae Blwyddyn 4 wedi cael hanner tymor hynod brysur a chyffrous fel rhan o’n thema Cymru Cynaliadwy. Mae’r plant wedi bod yn dysgu am danwydd ffosil ac ynni adnewyddadwy, gan ddatblygu dealltwriaeth gref o sut gallwn ofalu am ein planed. Fel rhan o’n gwaith ar dreftadaeth Cymru, buom yn edrych ar garthenni Cymreig traddodiadol a phatrymau o wahanol ardaloedd megis Caernarfon, Dinefwr a Pennsylvania. Uchafbwynt y tymor oedd ein hymweliad ag Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, lle gwelsom felin wlân Esgair Moel a dysgu sut mae blancedi Cymreig yn cael eu gwneud. Roeddem yn hynod ffodus o gael bod yr ysgol gyntaf i dreialu gweithdy gwehyddu newydd sbon gan ddefnyddio ffrâm wau bach.

Yn ogystal â hyn, mae’r plant wedi mwynhau chwe wythnos o wersi tenis yn y clwb lleol, disgo Dydd Santes Dwynwen, a sesiwn diogelwch ar-lein gyda PC Ali. Perfformiodd y ddau ddosbarth, Swistir ac Almaen, eu gwasanaethau dosbarth o flaen rhieni gyda balchder mawr. Trwy Ysgol Goedwig, bu’r plant yn gwehyddu ac yn dysgu coginio selsig a stwnsh. Cawsom hefyd ymweliad gan y tîm diogelwch ffyrdd gyda’r sioe Jack and the Beanwalk. Yn ystod Wythnos Iechyd Meddwl, bu’r plant yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau i’w helpu i ddeall eu teimladau, gan ddysgu am yr ymennydd ‘i fyny’r grisiau ac i lawr y grisiau’ ac ymarfer technegau tawelu i gefnogi eu lles. Yn ogystal, cafodd 26 o blant gyfle arbennig i fynychu gweithdy celf yn Llyfrgell Llanelli gyda Scott Artus, mewn partneriaeth â Sefydliad Jac Lewis, lle dysgon nhw sut i dynnu cymeriadau cartŵn. Hanner tymor cofiadwy iawn!

Year 4 have had an extremely busy and exciting half term as part of our theme Sustainable Wales. The children have been learning about fossil fuels and renewable energy, developing a growing understanding of how we can care for our planet. As part of our work on Welsh heritage, we explored traditional Welsh blankets (carthenni), studying patterns from different areas such as Caernarfon, Dinefwr and Pennsylvania. A highlight of the term was our visit to St Fagans National Museum of History, where we visited the Esgair Moel woollen mill to see how Welsh blankets are made. We were incredibly lucky to be the first school to trial a brand-new weaving workshop, giving the children hands-on experience using a miniature loom.

Alongside this, pupils have enjoyed six weeks of tennis lessons at the local club, celebrated with a Saint Dwynwen’s Day disco, and took part in an online safety session led by PC Ali. Both Year 4 classes, Swistir and Almaen, proudly performed their class assemblies to parents. Through Forest Schools, children have practised weaving skills and learned to cook bangers and mash. We also welcomed the road safety team for their Actif Travel show Jack and the Beanwalk.  During Mental Health Week, the children have taken part in a range of activities to help them understand their feelings, including learning about the upstairs and downstairs brain and practising calming techniques to support their wellbeing. In addition, 26 pupils attended an inspiring art workshop at Llanelli Library with Scott Artus, organised through the Jac Lewis Foundation, where they learned to draw cartoon characters in his unique style. A truly memorable half term!

Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir

Mae’r tymor hwn wedi bod yn un hynod brysur a chyffrous i’n disgyblion! Rydym wedi mwynhau amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu ac enrichment, gan gynnwys sesiynau rygbi, pêl-droed a gymnasteg ymarferol yng Ngholeg Sir Gâr. Yn ogystal, mae’r plant wedi bod yn dysgu am straeon a chymeriadau’r Hen Destament trwy brosiect rhyngweithiol Bible Explorers. Cawsom hefyd brofiadau unigryw y tu allan i’r ystafell ddosbarth, megis ein taith i Fosg Sgeti, lle cafwyd cyfle i ddysgu am wahanol ffydd a diwylliannau. Bu’r disgyblion yn ymateb yn frwdfrydig i’n gweithdŷ arbennig gyda Sergeant Smith o gwmni Zakon, a oedd yn dysgu’r disgyblion am waith pwysig yr heddlu mewn modd addysgiadol ac ysbrydoledig.

Hefyd, cynhaliwyd sioe a gweithdy gan swyddogion y sir ynghylch dilyn llwybrau llesol i’r ysgol—ymarferion a oedd yn annog symud, iechyd, a lles bob dydd. Yn y maes Dysgu Craidd, rydym wedi bod yn gweithio ar fathemateg a rhifedd yn ymwneud ag arian ac amser, gan ddatblygu sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddyfnach. Ar yr un pryd, mae’r disgyblion wedi bod yn ysgrifennu barddoniaeth am fisoedd y flwyddyn ac wedi trafod y cwestiwn pwysig: “All newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr?” I orffen yr hanner tymor cafwyd y cyfle i fynd ar daith i Abernant am gwrs preswyl. Cafwyd lwer o hwyl a sbri gyda’r disgyblion yn dysgu sgiliau gwerthfawr newydd. Rydym yn falch iawn o ymdrech a brwdfrydedd y plant, ac edrychwn ymlaen at weld eu sgiliau a’u hyder yn parhau i dyfu wrth i’r tymor fynd yn ei flaen.

This term has been busy and exciting for our pupils! We have enjoyed a wide range of learning and enrichment activities, including practical rugby, football, and gymnastics sessions at Coleg Sir Gâr. In addition, the children have been learning about stories and key figures from the Old Testament through the interactive Bible Explorers project. We have also taken learning beyond the classroom with special experiences such as our trip to Swansea Mosque, where pupils had the chance to learn about different faiths and cultures. The children responded enthusiastically to our workshop with Sergeant Smith from Zakon, which focused on what police work looks like in an engaging and inspiring way. We were also delighted to welcome officers from the local authority, who presented a show and led a workshop all about healthy routes to school—activities that encouraged daily movement, wellbeing, and healthy habits.

In our core learning, pupils have been developing their maths and numeracy skills through work on money and time, building both practical knowledge and deeper understanding. At the same time, the children have been writing poetry about the months of the year and discussing the important question: “Can small changes make a big difference?” To finish the half term , the pupils have had the chance to visit Abernant Hotel for a twonight visit. They have had an amazing time learning new skills and gaining independence. We are extremely proud of the children’s effort and enthusiasm, and we look forward to seeing their skills and confidence continue to grow as the term progresses.

Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg

Wrth i ni gyrraedd diwedd yr hanner tymor yma, hoffem fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod yn chwe wythnos brysur a gwerth chweil. Er ei fod yn gyfnod byr, mae wedi bod yn llawn profiadau dysgu gwerthfawr y tu mewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth.

O fewn maes Llythrennedd, ysgrifennodd y disgyblion gofiant am Betty Campbell, gan ddysgu am ei bywyd ysbrydoledig wrth ddatblygu eu sgiliau ymchwil ac ysgrifennu. Fe wnaethant hefyd gynhyrchu testun gwybodaeth am lifogydd, gan gymhwyso eu gwybodaeth am y pwnc i ysgrifennu’n glir ac yn bwrpasol.

Ym Mathemateg, fe wnaethom archwilio priodweddau pedrochrau a thrionglau, gan gynnwys cyfrifo cyfanswm eu onglau mewnol. Yna cymhwysodd y plant eu dealltwriaeth o onglau i lunio siartiau cylch i gynrychioli data yn ymwneud â chynnydd yn lefelau’r môr, gan wneud cysylltiadau trawsgwricwlaidd cryf.

Dechreuom ein thema newydd, ‘Planed mewn Perygl’, gan ganolbwyntio ar gynhesu byd-eang, newid hinsawdd a thywydd eithafol. Rydym wedi edrych yn fanwl ar lifogydd — beth ydynt, beth sy’n eu hachosi a sut y gellir eu hatal — yn enwedig gan eu bod yn ymddangos yn rheolaidd yn y newyddion. Bu’r plant yn dysgu’n ymarferol drwy greu model 3D o bentref i gynllunio amddiffynfeydd llifogydd. Fe wnaethant hefyd adeiladu model 3D o orlifdir ac arbrofi gyda gwahanol systemau amddiffyn llifogydd i brofi eu heffeithiolrwydd.

Bob dydd Gwener, rydym wedi mwynhau sesiynau Archwilwyr y Beibl, gan ddysgu straeon o’r Testament Newydd mewn ffordd hwyliog a diddorol. Croesawom hefyd PC Ali, a siaradodd am gadw’n ddiogel ar-lein, yn ogystal â thîm diogelwch ffyrdd y sir, a gyflwynodd weithdy ar ‘Deithio Llesol’. Uchafbwynt yr hanner tymor yma oedd ein hymweliad preswyl i Langrannog. Cafodd y plant brofiad anhygoel gan ddangos agweddau gwych drwy gydol yr ymweliad. Datblygon sgiliau bywyd pwysig, gan gynnwys annibyniaeth, gwaith tîm, cydweithio, dyfalbarhad, dewrder, gwydnwch a hyder. Roeddem yn hynod falch o’r ffordd y buont yn cynrychioli’r ysgol ac yn cefnogi ei gilydd yn ystod yr antur gofiadwy hon. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus. Gobeithio y byddwch yn mwynhau seibiant haeddiannol ac edrychwn ymlaen at dymor cyffrous arall o’n blaenau.

As we reach the end of this half term, we would like to reflect on what has been a busy and rewarding six weeks. Although short, it has been packed with valuable learning experiences both inside and outside the classroom. In Literacy, the pupils wrote a biography about Betty Campbell, learning about her inspirational life while developing their research and writing skills. They also produced an information text about flooding, applying their topic knowledge to write clearly and purposefully.

In Mathematics, we explored the properties of quadrilaterals and triangles, including calculating their total interior angles. The children then applied their understanding of angles to construct pie charts representing data linked to rising sea levels, making strong cross-curricular connections. We began our new theme, ‘Planed mewn Perygl’, focusing on global warming, climate change and extreme weather. We have looked closely at flooding — what it is, what causes it and how it can be prevented — particularly as it is frequently featured in the news. The children engaged in hands-on learning by creating a 3D model of a village to plan soft and hard engineering flood defences. They also built a 3D floodplain model and experimented with different defence systems to test their effectiveness.

Each Friday, we have enjoyed Bible Explorers, learning stories from the New Testament in a fun and engaging way. We also welcomed PC Ali, who spoke about staying safe online, and the county road safety team, who delivered a workshop on ‘Teithio Llesol’.

The highlight of the half term has undoubtedly been our residential visit to Llangrannog. The children had an incredible experience and demonstrated fantastic attitudes throughout. They developed important life skills including independence, teamwork, collaboration, perseverance, bravery, resilience and courage. We were extremely proud of how they represented the school and supported one another during this memorable adventure.

Thank you for your continued support this half term. We hope you all enjoy a well-deserved break and look forward to another exciting term ahead.

CREATED BY
Ysgol Gymraeg Ffwrnes