Hybu cymreictod yn ein hysgol
Promoting Welsh in our school
Hawl mis Rhagfyr / December Right of the Month
Gair mis Rhagfyr / December's Word of the Month
Patrwm mis Rhagfyr / December's Language Pattern
Cerddor mis Rhagfyr / December's Musician of the Month
Idiom mis Rhagfyr / December's Idiom of the Month
Dyddiadau Allweddol / Key Dates
Tachwedd 2024
- 05.11.24 - Sesiwn blasu rhif 2 i blant sy'n cychwyn yn y meithrin yn Ionawr 2025 / Taster session number 2 for children starting nursery in January 2025
- 05.11.24 - Sesiynau rygbi yn yr ysgol yn cychwyn heddiw, ac yna bob Dydd Mawrth tan ddiwedd tymor i flynyddoedd 3 a 4 gyda Rhys o'r Scarlets / Rugby sessions start today and continue every Tuesday until the end of term for years 3 and 4 with Rhys from the Scarlets.
- 08.11.24 - Gwener Grwfi, (Funky Friday) Thema Denim a Daps.
- 11.11.24 - Cystadleuaeth 'Actif' pêl rwyd cymysg i flynyddoedd 5 a 6, Canolfan Hamdden Llanelli / 'Actif's' mixed netball competition for years 5 and 5, Llanelli Leisure Centre.
- 12.11.24 - Sesiwn blasu rhif 3 i blant sy'n cychwyn yn y meithrin yn Ionawr 2025 / Taster session number 3 for children starting nursery in January 2025.
- 13.11.24 - Sesiynau wythnosol 'Walk through Bible' yn cychwyn i flynyddoedd 5 a 6 / Weekly 'Walk through Bible' sessions start for years 5 and 6.
- 13.11.24 - Blwyddyn 6 yn mynd am dro i'r gymuned i osod posteri 'Sut i'w ddweud yn Gymraeg' yn y siopau lleol / Year 6 visit the community to share 'How to say it in Welsh' posters in the local amenities.
- 15.11.24 - Mae'r Cyngor Ysgol wedi penderfnu cefnogi elusen Plant mewn Angen ac yn gwahodd pawb i wisgo pyjamas i'r ysgol. Gofynwn yn garedig am gyfraniad o tua £1 tuag at yr elusen / The School Council has decided to support the Children in Need charity and invites everyone to wear pyjamas to school. We kindly ask for a donation of around £1 towards the charity /
- 18.11.24 - Cystadleuaeth pêl fasged i fechgyn blwyddyn 6, Canolfan Hamdden Llanelli / Basketball competition for year 6 boys, Llanelli Leisure Centre.
- 19.11.24 - Sesiwn blasu rhif 4 i blant sy'n cychwyn yn y meithrin yn Ionawr 2025 / Taster session number 4 for children starting nursery in January 2025.
- 19.11.24 - Pob lwc i ddysgwr o flwyddyn 5 sy'n cytadlu yn ail rownd cystadleuaeth Cogurdd yr Urdd yn Ysgol Bro Dinefwr! / Good luck to a learner from year 5 who is competing in the second round of the Cogurdd Urdd cooking competition at Ysgol Bro Dinefwr!
- 21.11.24 - Y Ffair Nadolig 3:15yp / The Christmas Fayre, 3:15pm
- Diwrnod Pontio 'Oh La, La! i flwyddyn 6 yn Ysgol y Strade / Year 6 Transition Day at Ysgol y Strade 'Oh, La, La!'
- 25.11.24 - Diwrnod Ruban Gwyn / White Ribbon Day.
- 27.11.24 Farnais Fflwrid gan y Gwasanaethau Deintyddol Cymunedol / Fluoride varnish being applied, Community Dental Services.
29.11.24 - Diwrnod hyfforddiant i oedolion, 'Datblygu Rhifedd yn yr Amgylchedd' gan Adam yn yr Ardd / Adult training day 'Developing Numeracy in the Outdoors' with Adam in the Garden.
Cysylltwch â'r ysgol os gallwch chi sbario ychydig oriau byr i gefnogi'r fenter hon. 01554 758582. / Please contact the school if you can spare a few short hours to support this initiative. 01554 758582.
Rhagfyr 2024 / December 2024
- 02.12.24 - Ymarfer ar gyfer Gwasanaeth Carolau Cam Cynnydd 2, Capel Y Tabernacl, Llwynhendy am 10yb. Dewch i'r ysgol fel arfer / Carol Service Rehearsal for Progression Step 2 at Tabernacle Chapel. Come to school as normal.
- 03.12.24 - Sesiwn rygbi i flynyddoedd 1 a 2 gyda Rhys o'r Scarlets / A rugby session for years 1 and 2 with Rhys from the Scarlets.
- 04.12.24 Cinio Nadolig yr ysgol RHAID ARCHEBU AR PARENTPAY / School Christmas Dinner PLEASE BOOK VIA PARENTPAY
- 05.12.24 - Cyngerdd Carolau Cam Cynnydd 2 / Progression Step 2's Christmas Carol Service, Tabernacle, Llwynhendy, 17:30 (Rhaid gwisgo gwisg ysgol ffurfiol yr ysgol os gwelwch yn dda. Mae teis ysgol ar werth o swyddfa'r ysgol / Formal school uniform to be worn please. School ties are available from the school office.)
- 10.12.24 - Perfformiad Nadolig Cam Cynnydd 1, yn yr ysgol / Progression Step 1's Christmas performance, at the school, 4pm
- 13.12.24 - Diwrnod Siwmper Nadolig / Christmas Jumper Day
- 12.11.24 - Perfformiad Nadolig Cam Cynnydd 3, yn yr ysgol / Progression Step 3's Christmas Performance, at the school, 1:30pm & 5:30pm
- 13.12.24 Disgo Tawel i flynyddoedd 1-6, i ddweud diolch am eich holl baratoi ar gyfer y perfformiadau Nadolig / Silent Disco for Years 1-6 to say thank you for all your hard work preparing for the Christmas performances.
- 18.12.24 - Disgo Sion Corn i'r plant meithrin i flwyddyn 2. Patrïon dosbarth yn y prynhawn i bawb. Partïon dosbarth i blant Meithrin - flwyddyn2. / Sion Corn (Santa's) disco for nursery - Year 2 learners. Class Christmas parties Nursery - Year 2.
- 18.12.24 - Blynyddoedd 3-6 yn dathlu'r Nadolig gyda thaith i'r chwaraele newydd, Sgiliau Llanelli! Years 3-6 celebrate Christmas with a trip to the all new Sgiliau Llanelli.
20.12.24 HMS / INSET
Gwyliau Nadolig 23.12.24 - 05.01.25
06.01.24 - HMS / INSET
21.02.25 - HMS / INSET
18.07.25 - HMS / INSET
Dewch i ddarllen gyda ni! Come and read with us!
Y clecs o lawr star! / The news from downstairs!
Dosbarth Penbwl
Mae tymor yr Hydref yn Nosbarth Penbwl yn edrych yn debyg i hyn / The Autumn term in Dosbarth Penbwl looks something like this...
Mae Tymor yr Hydref wedi bod yn dymor prysur iawn yn Nosbarth Penbwl. Rydym wedi dathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd, Diwrnod Golchi Dwylo Byd-eang, Dydd Y Cofio, Diwali, Diwrnod Sanau Od a Diwrnod Plant Mewn Angen. Rydym hefyd wedi bod ar ymweliad i Barc Howard i arsylwi ar y newidiadau yn y tymor ac yn arsylwi ar ac yn recordio’r tywydd. Rydym wedi bod yn trafod beth sydd yn gwneud ffrind da ac yn datblygu sgiliau echddygol manwl wrth gwblhau ymarferion disgo clai. Rydym yn paratoi ar gyfer ein sioe Nadolig ac yn edrych ymlaen at fynd i Sioe Nadolig Cyw.
The Autumn Term has been a very busy term in the Dosbarth Penbwl. We have celebrated European Language Day, Global Handwashing Day, Remembrance Day, Diwali, Odd Socks Day and Children in Need Day. We have also been on a visit to Howard Park to observe the changes in the season and observe and record the weather. We have been discussing what makes a good friend and developing fine motor skills while completing clay disco exercises. We are preparing for our Christmas show and looking forward to going to Cyw Christmas Show.
Dosbarth Pysgodyn
Yn ystod y tymor hwn rydym wedi bod yn dysgu amdanom ni ein hun a'n teuluoedd. Yn ystod ein gwersi thema, rydym wedi cael y cyfle i adnabod gwahanol rannau o’r corff a sut rydym ni i gyd yn wahanol. Rydyn ni hefyd wedi dysgu am dwf dynol a beth sydd ei angen ar fabi. O fewn ein gweri Mathemateg, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar adnabod rhif, cyfri gwrthrychau a bondiau rhif i 10. Yn ystod gwersi Addysg Gorfforol, rydym wedi mwynhau sawl gweithgaredd aml-sgiliau ac yn fwyaf diweddar rydym wedi bod yn datblygu ein sgiliau rygbi. Rydym wedi mwynhau'r cyfle i wisgo lan a chwarae rôl, yn ogystal ag adeiladu, modelu gyda chlai a phaentio. Ym mis Hydref, aethon ni i weld Jambori Martyn Geraint lle buom yn dawnsio ac yn canu caneuon Cymraeg! Roedd yn llawer o hwyl! Rydym hefyd wedi cael y cyfle i ddathlu Plant Mewn Angen lle buom yn gwisgo pyjamas i’r ysgol a sanau od i gefnogi wythnos gwrth-fwlio. Ni oedd dosbarth y mis ym mis Hydref!
During this term we have been learning about ourselves and our families. In our theme lessons, we have had the opportunity to identify different parts of the body and how we are all different. We have also learned about growth and what a baby needs. Within our Maths lessons, we have been focusing on number recognition, counting objects and number bonds to 10. During the Physical Education lessons, we have enjoyed a number of multi-skills activities and most recently have been developing our rugby skills. We have enjoyed dressing up and role play, as well as build, model with clay and paint. In October, we went to see Martyn Geraint's Jamboree where we danced and sang Welsh songs! It was a lot of fun! We also have the opportunity to celebrate Children in Need where we wore pyjamas to school and odd socks to support anti-bullying week. We were also class of the month for October!
Dosbarth Malwen
Mae tymor yr Hydref yn Nosbarth Malwen yn edrych yn debyg i hyn / The Autumn term in Dosbarth Malwen looks something like this...
Mae hi wedi bod yn ddechrau prysur i'r flwyddyn academaidd hon i Ddosbarth Malwen! Ein llinell ymholi'r tymor hwn yw - Pwy yn y byd ydw i? ac fe benderfynom ffocysu ar ein Hanes a’n Hetifeddiaeth. Rydym wedi dysgu am Gestyll gydag ymweliad i Gastell Cydweli i ddysgu am hanes y Frenhines Gwenllïan, fel sbardun i’n thema.
It has been a busy start to this academic year for Dosbarth Malwen! Our line of inquiry this season is - Who in the world am I? and we decided to focus on our History and Heritage. We have learned about Castles with a visit to Kidwely Castle to learn about the history of Queen Gwenllïan, as a trigger for our theme.
Bûm yn ddigon ffodus i fynd ar ail daith dosbarth yn ystod yr wythnosau cyntaf ym Mlwyddyn 3. Gwnaethom fynychu Cyngerdd Athrawon Cerdd Peripatetig, lle cawson lawer o hwyl yn gwrando ar ganeuon modern yn cael eu chwarae gan offerynnau gwahanol.
We were very fortunate to go on a second class trip during the first few weeks in Year 3. We attended a Peripatetic Teachers' Concert, where we had a lot of fun listening to modern songs played by different instruments.
Yn ein gwersi Mathemateg, rydym wedi bod yn dysgu am werth lle, dosrannu rifau a throsi rhifau o eiriau i ddigidau ac o ddigidau i eiriau, gyda’r ffocws nawr ar adio a thynnu. Yn ein gwersi iaith, rydym wedi bod yn dysgu sut i ddefnyddio geiriadur, yr wyddor a llythrennau dwbl a nawr rydym yn ffocysu ar nodweddion dyddiadur.
In our Maths lessons, we have been learning about place value, dividing numbers and converting numbers from words to digits and from digits to words, with the focus now on addition and subtraction. In our language lessons, we have been learning how to use a dictionary, the alphabet and double letters and now we are focusing on the features of a diary.
Dros yr wythnosau diwethaf rydym wedi cadw’n heini yn rheolaidd. Rydym wedi bod yn ffodus i fynychu gŵyl rygbi TAG y Sgarlets yn Ysgol Penrhos a thwrnamaint Rygbi TAG yr Urdd yn Rhydaman. Rydym hefyd wedi derbyn gwersi Rygbi yn wythnosol gyda Rhys o Gymuned Sgarlets a sesiynau Criced gan Jeremy o Griced Cymru. Mae wedi bod yn llawer o sbort!
Over the past few weeks, we have kept fit regularly. We have been fortunate to attend the Scarlets Rugby TAG festival at Ysgol Penrhos and the Urdd Rugby TAG tournament in Ammanford. We have also received weekly Rugby lessons with Rhys from the Scarlets Community and Cricket sessions from Jeremy from Cricket Wales. It's been fun!
Mae wedi bod yn nhymor prysur o ddathliadau hefyd! Rydym wedi dathlu diwrnod Shwmae Su’mae, Diwrnod Plant Mewn Angen, Diwrnod Sanau Od a Diwrnod Rhyngwladol Ieithoedd Ewropeaidd. Hefyd rydym wedi bod yn dathlu 'Gwener Grwfi' ar ddechrau pob mis - rydym yn gyffrous iawn i wisgo tinsel a gliter i’r ysgol y mis hwn!
It's been a busy season of celebrations too! We have celebrated Shwmae Su'mae day, Children in Need Day, Odd Socks Day and International Day of European Languages. We have also been celebrating 'Funky Friday' at the beginning of each month - we are very excited to wear tinsel and glitter to school this month!
Dosbarth Alarch
Y tymor hwn, ein thema fu “Ar Daith Drwy Gymru,” lle rydym wedi archwilio ei chwedlau a’i hanes cyfoethog. Dechreuon ni drwy astudio chwedl Gelert, ac i blymio’n ddyfnach i’r stori, fe wnaethon ni ysgrifennu cofnod dyddiadur o safbwynt Llywelyn y noson y dysgodd am ddewrder Gelert. Fe wnaethon ni hefyd greu animeiddiad a ddaeth â’r tonnau dramatig a ddinistriodd Cantre’r Gwaelod yn fyw. Fel rhan o’n hastudiaeth, fe wnaethom ganolbwyntio ar frwydrau Branwen, yn enwedig sut yr arweiniodd ei chyfeillgarwch â drudwy at ei hachub. Wedi’n hysbrydoli gan hyn, penderfynom archwilio’r bywyd adar yn ein hardal leol, gan ymchwilio i nifer y drudwy a rhywogaethau eraill y gallem ddod o hyd iddynt.
Yn ogystal â’r themâu hynod ddiddorol hyn, buom yn ddigon ffodus i gael Jolly Janet o Bible.Org i ddod i ddysgu straeon o’r Hen Destament i ni mewn ffordd hynod o hwyliog ac egnïol. Y tymor hwn, rydym wedi bod yn ffodus i gael mwy o ymwelwyr bendigedig i’n dosbarth, gan gyfoethogi ein profiad dysgu. Daeth Siân o Sbectrwm i’n dysgu am berthnasoedd iach, a gwnaethom hyd yn oed greu breichledau hardd i’n hatgoffa o sut y dylai perthynas iach edrych a theimlo. Cawsom hefyd flas ar ddrama gan Arad Goch am yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn Gymro, ac ar ôl y perfformiad, cawsom gyfle anhygoel i gyfweld â’r cast. Wedi’n hysbrydoli gan y ddrama, fe wnaethon ni greu rap ein hunain am fod yn Gymro, a drodd allan yn anhygoel! Fel pe na bai hynny’n ddigon, fe wnaethom hefyd arddangos ein doniau actio a chanu yn ystod ein Gwasanaeth Dosbarth, lle buom yn canolbwyntio ar ddathlu hunaniaeth Gymreig. Rydym hefyd wedi rhagori ein hunain gyda’n perfformiadau yn nrama Nadolig yr ysgol. Roeddem yn hollol wych ar y llwyfan, gan arddangos ein holl waith caled a chreadigedd. I ddathlu ein llwyddiannau, cawsom ddisgo distaw, lle buom yn dawnsio a chael amser gwych, gan fyfyrio ar yr hyn a gyflawnwyd gennym. Ni ddaeth ein dysgu i ben yno; buom yn ymweld â Pharc y Scarlets, lle buom yn helpu i ddewis Swyddog HWB Scarlets newydd. Cawsom gymaint o hwyl yn chwarae gemau a hyd yn oed cwrdd rhai chwaraewyr y Scarlets. Roedd ein haddysg gorfforol hefyd yn ffynnu gyda sesiynau criced sy'n gwneud i ni deimlo'n barod i chwarae yn Lords, a buom yn cynrychioli ein hysgol yn wych mewn nifer o dwrnameintiau Pêl-rwyd a Rygbi. Yn ogystal â’n sgiliau addysg gorfforol, cawson hwyl wrth greu llysnafedd ar gyfer ein ffair Nadolig, ac fe werthodd pob pot mewn munudau - rydyn ni mor dalentog! Roedd yn ffordd berffaith i gloi ein tymor prysur yn llawn dysg, hwyl, ac atgofion bythgofiadwy! Ni allwn aros i weld beth ddaw tymor nesaf!
This term, our theme has been "On a Trip Around Wales," where we’ve explored its rich legends and history. We began by studying the legend of Gelert, and to dive deeper into the story, we wrote a diary entry from Llywelyn’s point of view the night he learned of Gelert's bravery. We also created an animation that brought to life the dramatic waves that destroyed Cantre’r Gwaelod. As part of our study, we focused on Branwen’s struggles, particularly how her friendship with a starling led to her rescue. Inspired by this, we decided to explore the birdlife in our local area, researching the number of starlings and other species we could find. In addition to these fascinating themes, we were lucky enough to have Jolly Janet from Bible.net come and teach us stories from the Old Testament in an incredibly fun and energetic way. This term, we have been lucky to have many more wonderful visitors to our classroom, enriching our learning experience. Sian from Spectrum came to teach us about healthy relationships, and we even created beautiful bracelets as reminders of what a healthy relationship should look and feel like.
We were also treated to a play by Arad Goch about what it means to be Welsh, and after the performance, we had the incredible opportunity to interview the cast. Inspired by the play, we created our own rap about being Welsh, which turned out amazing! As if that wasn’t enough, we also showcased our acting and singing talents during our Class Assembly, where we focused on celebrating Welsh identity. We have also excelled ourselves with our performances in the school Christmas play. We were fantastic on stage, showcasing all our hard work and creativity. To celebrate our achievements, we had a silent disco, where we danced and had a great time, reflecting on how much we accomplished.
Our learning didn’t stop there; we visited Parc y Scarlets, where we helped choose the new Scarlets HUB Officer. We had so much fun playing games and even bumped into some of the Scarlet players. Our physical education also thrived with cricket sessions that have us feeling ready to play at Lords, and we represented our school proudly in numerous Netball and Rugby tournaments. Finally, we had a blast making slime for our Christmas fayre, and it sold out in minutes – we’re that talented! It was the perfect way to wrap up our busy term filled with learning, fun, and unforgettable memories! We cannot wait to see what next term brings!
Ar hyn o bryd mae llawer o waith caled yn digwydd y tu ôl i'r llenni i gynhyrchu ein Cyngerdd Nadolig ac edrychwn ymlaen at ein dathliad Nadolig i Sgiliau Llanelli, ar ddiwedd y tymor.
Dosbarth Glas Y Dorlan
Mae hi wedi bod yn ddechrau prysur i'r flwyddyn i Ddosbarth Glas Y Dorlan! Ein llinell ymholi'r tymor hwn yw - Pwy yn y byd ydw i? Fe benderfynon ni edrych ar y byd y tu hwnt i Gymru. Rydym wedi dysgu am ryfeddodau'r byd, arwyr o gwmpas y byd, wedi ysgrifennu cofiant am Rosa Parks, wedi darganfod y pellter rhwng gwledydd ar draws y byd, a'r effaith y gallwn ei chael ar y blaned ddaear. Cynhaliwyd gwasanaeth dosbarth ar ddiwedd mis Medi ar gyfer ein rhieni a gofalwyr. Roedd yn ymwneud â dathlu diwrnod Ewropeaidd ieithoedd. Gallwn nawr ddweud ‘helo’ mewn 22 o ieithoedd gwahanol! Yn ein gwersi mathemateg rydym wedi bod yn dysgu am werth lle, yn adolygu ein sgiliau adio, tynnu, lluosi a rhannu, datrys problemau, ffracsiynau a chanrannau. Rydym hefyd wedi bod yn cadw'n heini yn ystod yr wythnosau diwethaf. Rydym wedi mynychu twrnameintiau pêl-rwyd, pêl-fasged a rygbi. Ein huchafbwynt oedd ein bloc 2 wythnos o wersi nofio. Aethon ni i Barc y Scarlets i wylio sesiwn ymarfer a chyfarfod y chwaraewyr! Rydym wedi mwynhau gweithio gyda’r gymuned leol i annog mwy o siaradwyr Cymraeg. Gallwch weld ein posteri yn Jenkins, Llwynhendy! Bob dydd Mercher mae gennym sesiwn ‘Cerdded drwy’r Beibl’ gyda Jolly Janet! Rydym wedi mwynhau dathlu diwrnod Shwmae Su’ mae, Diwrnod Plant Mewn Angen a Diwrnod Sanau Od. Mwynheuon ni ein diwrnod pontio cyntaf yn Ysgol y Strade. Dysgon ni Sbaeneg, Eidaleg a Ffrangeg. Cawsom hefyd dystysgrif ar gyfer yr ysgol oedd yn siarad y mwyaf o Gymraeg yn ystod y dydd. Ar hyn o bryd mae llawer o waith caled yn digwydd y tu ôl i'r llenni i gynhyrchu ein Sioe Nadolig. Edrychwn ymlaen at hwn a’n diwrnod hwyl diwedd tymor i Sgiliau, Llanelli.
It has been a busy start to the year for Dosbarth Glas Y Dorlan! Our line of enquiry this term is – Who in the world am I? We decided to look at the world outside of Wales. We have learnt about the wonders of the world, heroes around the world, written a biography about Rosa Parks, discovered the distance between countries across the world, and the effect we can have on planet earth. We held a class assembly at the end of September for our parents and carers. It was all about celebrating European day of languages. We can now say ‘hello’ in 22 different languages! In our maths lessons we have been learning about place value, revising our addition, subtraction, multiplication and division skills, problem solving, fractions and percentages. We have also been keeping fit during the past few weeks. We have attended netball, basketball and rugby tournaments. Our highlight has been our 2-week block of swimming lessons. We visited Parc y Scarlets to watch a training session and meet the players! We have enjoyed working with the local community to encourage more Welsh speakers. You can see our posters in Jenkins’ bakery, Llwynhendy! Every Wednesday we have a ‘Walk through the bible’ session with Jolly Janet! We have enjoyed celebrating Shwmae Su’mae day, Children in Need and Odd Socks Day. We enjoyed our first transition day at Ysgol y Strade. We learned Spanish, Italian and French. We also received a certificate for the school that spoke the most Welsh during the day. There is currently a lot of hard work going on behind the scenes to produce a show stopping Christmas performance. We look forward to this and our end of term fun day to Sgiliau, Llanelli.
Bydd Clecs o bob dosbarth yn ymddangos yma cyn bo hir! News from all classes will appear here, soon!
Credits:
Created with images by Kenishirotie - "Thumb tack pin on calendar" • Lazy_Bear - "Fashion male sport shoes on a blue background. Stylish man sneakers for fitness, close up" • Mouse family - "Hand holding white ribbon on blue background. Concept lung cancer awareness." • Roman Gorielov - "reindeer horns"