CYLCHLYTHYR HAF - SUMMER NEWSLETTER Gorffennaf/July 2025

Gwerth y Mis/Value of the Month

Medi/September - Parch/Respect

Hydref/October - Diolchgarwch/Thankfulness

Hawl y Mis/Right of the Month

Medi/September - Erthygl 28 - Eich hawl i ddysgu ac i fynd i'r ysgol / Article 28 - Your right to learn and go to school.

Hydref/October - Erthygl 27 - Eich hawl i safon dda o fywyd / Article 27 - Your right to a good standard of life.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

19.07.2025 - 31.08.2025 - Gwyliau / Holidays

01.09.2025 - HMS/INSET

02.09.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

15.09.2025 - 3:15pm Nosweithi rieni ar y cyd / Whole class parents evening

29.09.2025 - Gwasanaeth Diolchgarwch - Llandyry (B2-6) (Plant yn unig) / Thanksgiving Service Lladyry (Yr2-6) (children only)

09.10.2025 - Farnais Fflworid / Fluoride Varnish

25.10.2025-02.11.2025 - Gwyliau / Holidays

03.11.2025 - Diwrnod HMS / Inset Day

04.11.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

17.11.2025 - Derbyn-B6 - Chwistrell Ffliw/ Flu Nasal

18.11.2025 - Ffotograffydd/Photographer - lluniau unigol/teulu / individual/family photos

Archebu cinio ysgol dyddiol / Parent Pay Daily Meals Bookings

Atgof Pwysig:

Gall pob teulu gofio bod yn rhaid archebu pryd bwyd eu plentyn ar ParentPay cyn 8yb bob dydd gan ei fod yn helpu staff y gegin i ddarparu bwyd ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a'r plant hynny ym mhob dosbarth hyd at Flwyddyn 6 sydd â hawl i UPFSM.

Diolch am eich cefnogaeth gyda'r mater hwn.

Important Reminder:

Can all families remember that they must book their child's meal on ParentPay before 8am each day as it helps the kitchen staff cater accordingly. This includes children who are in receipt of Free School Meals and those children in all classes up to Year 6 who are entitled to UPFSM.

Thank you for your support with this matter.

Prydau Ysgol am Ddim / Free School Meals

Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i'ch plentyn/plant, yna gwnewch gais nawr drwy glicio ar yr isod.

If you think that you are eligible to claim for Free School Meals for your child/children then apply now by clicking on the above link.

Chwaraeon / Sports

Mae disgyblion Blwyddyn 3-6 wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau Athletau'r Urdd ar 13eg o Fehefin yng Nghaerfyrddin.

Year 3-6 pupils have taken part in the Urdd Athletics event at Carmarthen on 13th June.

PC Ali

Cafodd disgyblion Blwyddyn 6 y cyfle gwerthfawr i gwrdd â PC Ali. Bu'n ymweld â'r ysgol i arwain sesiwn addysgiadol ar bwnc camddefnyddio sylweddau. Cynlluniwyd y sesiwn i godi ymwybyddiaeth a helpu disgyblion i ddeall peryglon a chanlyniadau camddefnyddio cyffuriau ac alcohol. Ymgysylltodd PC Ali â'r plant mewn trafodaeth feddylgar, atebodd eu cwestiynau, a rhoddodd gyngor ymarferol ar wneud dewisiadau diogel a gwybodus. Rydym yn ddiolchgar am y cyfraniad pwysig hwn at ddatblygiad personol ein disgyblion a'u dealltwriaeth o sut i aros yn ddiogel ac yn iach.

Year 6 pupils had the valuable opportunity to meet PC Ali, who visited the school to lead an informative session on the topic of substance misuse. The session was designed to raise awareness and help pupils understand the dangers and consequences of drug and alcohol misuse. PC Ali engaged the children in thoughtful discussion, answered their questions, and provided practical advice on making safe and informed choices. We’re grateful for this important contribution to our pupils' personal development and understanding of how to stay safe and healthy.

Meithrin

Am hanner tymor prysur a chyffrous rydym ni wedi’i gael yn y dosbarth Meithrin gyda’n thema "Ahoi!" Mae’r plant wedi ymgolli’n llwyr yn y byd môr-ladron a thrysorau.

Fe wnaethom ni ddechrau ein hantur drwy ddarllen y stori Môr Ladron yr Ardd, a chafodd hyn effaith fawr ar ddychymyg y plant. Wrth ddilyn map trysor, fe ddaethom o hyd i drysor arbennig – hadau! Cafodd y plant amser gwych yn plannu’r “trysor” ac maen nhw wedi gwylio yn ofalus i weld pa newidiadau sydd yn digwydd..

Buom hefyd yn greu celf a chrefft ar thema môr-ladron drwy gydol yr hanner tymor – o wneud hetiau môr-ladron a thelesgopau i ddylunio ein map trysor ein hunain. Roedd digon o liw, gliter a chwerthin!

Un o uchafbwyntiau’r tymor oedd ein taith i draeth Pen-bre, lle cawsom ni fwynhau chwarae yn y tywod, archwilio’r ardal, ac wrth gwrs, cadw llygad am unrhyw longau môr-ladron!

I orffen y thema mewn steil, gwnaethom ni fwynhau diwrnod Môr-ladron arbennig. Roedd y plant wedi’u gwisgo fel môr-ladron gwych yn yr hetiau gwnaethon nhw eu creu a gwnaethon nhw fwynhau diwrnod llawn gweithgareddau, caneuon a gemau ar thema’r môr.

Mwynhewch wyliau’r Haf ac edrychwn ymlaen at fwy o hwyl a dysgu yr hanner tymor nesaf!

What a busy and exciting half term we've had in the Meithrin class with our theme "Ahoi!" The children have truly immersed themselves in the wonderful world of pirates and treasure.

We began our adventure by diving into the story Mor Ladron yr Ardd, which sparked lots of curiosity and imagination. Following a mysterious treasure map, we discovered a hidden trove—not of gold, but of seeds! The children had a fantastic time planting their “treasure” and are eagerly watching their plants grow.

Our creative sides came alive with plenty of pirate-themed crafts, from making pirate hats and telescopes to designing our very own treasure chests. There was glue, glitter, and giggles galore!

One of the highlights of the term was our trip to Pembrey beach, where we enjoyed playing in the sand, exploring the surroundings, and, of course, keeping a lookout for any passing pirate ships! To round off this wonderful theme, we celebrated with a special Pirate Day. The children dressed as fabulous pirates wearing the hats they had created and enjoyed a day full of themed activities, songs, and games. It was a perfect way to end a term full of adventure and learning.

Have a wonderful Summer holiday and I look forward to more fun and learning next half term.

.

Derbyn

Ahoi ffrindiau! Mae’n anodd credu bod tymor a blwyddyn arall wedi dod i ben! Mae wedi bod yn dymor llawn dop o ddigwyddiadau gan gynnwys ein trip i’r traeth! Am fore bendigedig – pawb yn mwynhau chwarae yn y tywod gyda’i gilydd! Nôl a ni wedyn yn flinedig i’r ysgol i fwynhau picnic a phrynhawn yn llawn gweithgareddau hwylus!

Hoff raglen ein dosbarth ni ar Cyw yw Ahoi! Rydym wrth ein bodd yn gwylio Ben Dant y môr leidr ar ei anturiaethau! Penderfynom felly i ddysgu mwy am fôr ladron yn ystod ein hanner tymor olaf yn y dosbarth Derbyn. Rydym wedi dysgu caneuon am fôr ladron, darllen a dilyn cliwiau wrth fynd ar helfa drysor a datblygu ein sgiliau cydbwyso trwy ‘gerdded y planc’! Uchafbwynt y dysgu oedd diwrnod Mor Ladron gyda’n ffrindiau yn y dosbarth Meithrin. Roedd yn ddiwrnod llawn sbri yn cwblhau gweithgareddau hwylus gyda’n gilydd. Gweithgareddau oedd yn dod a’r holl sgiliau rydym wedi eu dysgu a’u datblygu yn ystod y flwyddyn i’r amlwg. Wrth baratoi am ein diwrnod arbennig buom yn brysur yn gwneud cistiau trysor, ambell addurn i’w wisgo yn ystod y dathliad ac fe wnaethom ymarfer ein sgiliau pwyso a mesur i greu a choginio bisgedi siâp cwch mor ladron! Cawsom ddiwrnod i’w gofio – ffordd hyfryd i ddod a’n cyfnod yn y dosbarth Derbyn i ben!

Gobeithio y cewch chi gyd wyliau hapus iawn! A Phob Lwc i bob un ohonoch ym mlwyddyn 1!

Ahoy friends! Here we are at the end of another term and school year! What a busy half term we’ve had! We enjoyed our trip to the beach with our friends – what a wonderful morning we all had playing in the sand, building sandcastles and having fun together! Then back we went to school for a lovely picnic and an afternoon full of fun activities!

Our class’s favourite programme on Cyw is ‘Ahoi!’ We love watching Ben Dant the pirate on his adventures! We therefore decided that we would like to learn more about pirates! We’ve learned songs, read and followed clues while going on a treasure hunt and developed our balancing skills by ‘walking the plank’! The highlight of our learning was our Pirate Day with our friends in the Nursery class. It was a great day full of activities that emphasised all the skills we have learned and developed during the year. In preparation for our special day we have been busy making treasure chests, some decorations to wear and we practised our weighing and measuring skills to bake some pirate ship shaped biscuits! We have an unforgettable day – it really was a lovely way to end our time in the Reception class!

We hope you all have a very happy holiday! Pob Lwc i chi gyd ym mlwyddyn 1!

Diogelwch Cyflymder / Speed Safety

Diolch i Rhys, Swyddog Diogelwch Ffyrdd y Sir am ei ymweliad diweddar i weithio gyda disgyblion Blwyddyn 5 ar brosiect diogelwch cyflymder. Gyda'i gilydd, cynhalion nhw sesiwn ymarferol ar y briffordd ger yr ysgol, lle helpodd y disgyblion i fonitro cyflymder cerbydau oedd yn mynd heibio. Gan ddefnyddio offer canfod cyflymder dan arweiniad Rhys, dysgodd y plant am beryglon goryrru a phwysigrwydd diogelwch ffyrdd. Nid yn unig y cododd y weithgaredd ymwybyddiaeth ymhlith gyrwyr ond rhoddodd hefyd ddealltwriaeth ymarferol i ddisgyblion o sut y gall cyflymder effeithio ar ddiogelwch ger ysgolion.

Thank you to Rhys, County's Road Safety Officer for his recent visit to work with Year 5 pupils on an important speed safety project. Together, they carried out a practical session on the main road near the school, where pupils helped monitor the speed of passing vehicles. Using speed detection equipment under Rhys’s guidance, the children learned about the dangers of speeding and the importance of road safety. The activity not only raised awareness among drivers but also gave pupils a hands-on understanding of how speed can impact safety near schools.

Blwyddyn 1

Wrth i'r flwyddyn academaidd ddod i ben, gyda chalon drom rwyf yn ffarwelio gyda dosbarth Blwyddyn 1. Am daith anhygoel rydym wedi’i chael gyda’n gilydd! Mae’r cynnydd mae pob plentyn unigol wedi’i wneud yn gwneud i’m calon guro gyda balchder - ond hyd yn oed yn fwy arbennig yw’r chwerthin, y gwenau, a’r atgofion rydym wedi’u rhannu ar hyd y ffordd.

Mae’r tymor hwn wedi bod yn llawn profiadau cyffrous. Un o’r uchafbwyntiau oedd cymryd rhan yn y côr ysgol ar gyfer ein sioe haf. Am gyfle gwych i’r plant ymarfer, dysgu caneuon newydd, a gweld y cyfan yn dod at ei gilydd mewn perfformiad gwych!

Yn y dosbarth, rydym wedi bod yn archwilio beth sy’n angenrheidiol i ysgrifennu sgript, gyda'r ffocws ar ddefnyddio dyfynodau. Daeth ein hysbrydoliaeth o’r stori'r 'Y Jiráff na allai ddawnsio'. Gwnaethom ei throi’n sgript/berfformiad ein hunain. Trwy’r prosiect hwn, dysgom fod creu sioe wych yn cynnwys ymroddiad, agwedd gadarnhaol, a gwaith tîm.

I’n helpu i ddod â’n perfformiad thematig o’r jyngl yn fyw, buom hefyd yn astudio anifeiliaid y jyngl ac yn creu mygydau papur mâché gwych i’n helpu i fynd i mewn i gymeriad. Rydym wedi symud a dawnsio i gerddoriaeth o wahanol fathau, gan archwilio tempo ac ystyried sut y gallai gwahanol anifeiliaid symud i bob un.

Ym mathemateg, rydym wedi bod yn ymarfer ein sgiliau adio a thynnu. Rydym hefyd wedi bod yn dysgu am y darnau arian gwahanol rydym yn eu defnyddio, deall eu gwerth, ac ymarfer sut i’w adio at ei gilydd i wneud symiau penodol. Mae’r plant wedi mwynhau defnyddio eu gwybodaeth rif mewn gweithgareddau hwyliog sy’n gysylltiedig â bywyd go iawn!

I orffen y tymor, cawsom ddiwrnod hyfryd ym Mharc Gwledig a Thraeth Pen-bre - gan greu atgofion a fydd yn para am oes.

Blwyddyn 1, mae wir wedi bod yn bleser eich dysgu. Bydd Mrs Armstrong yn eich colli’n fawr. Mwynhewch eich gwyliau haf, cadwch yn ddiogel, a dymunaf bob lwc i chi wrth i chi symud ymlaen i Flwyddyn 2!

As the academic year comes to an end, it’s with a heavy heart that I say goodbye to my wonderful Year 1 class. What an incredible journey we’ve had together! The progress each and every child has made makes my heart burst—but what’s even more special are the laughs, smiles, and memories we've shared along the way.

This term has been full of exciting experiences. One of the highlights was taking part in the school choir for our summer show. What a brilliant opportunity it was for the children to practise, learn new songs, and watch everything come together in a fantastic final performance.

In class, we’ve been exploring what it takes to write a script, with a focus on using quotation marks. Our inspiration came from the story 'Giraffes Can’t Dance', which we transformed into our very own play script. Through this project, we learned that putting on a great show requires dedication, a positive attitude, and teamwork.

To help us bring our jungle-themed performance to life, we also studied jungle animals and created fantastic papier-mâché masks to help us get into character. We’ve moved and grooved to different types of music, exploring tempos and deciding how different animals might move to each rhythm.

In mathematics, we’ve been practising our addition and subtraction skills. We’ve also been learning about the different coins we use, understanding their value, and practising how to add coins together to make specific amounts. The children have really enjoyed applying their number knowledge in fun, real-life money activities!

To top off the term, we enjoyed a lovely day out at Pembrey Country Park and Beach—making memories that will last a lifetime.

Year 1, it has truly been a pleasure to teach you. Mrs Armstrong is going to miss you all dearly. Have a wonderful summer holiday, stay safe, and I wish you all the very best as you move on to Year 2!

Blwyddyn 2

Mae’n anodd credu ein bod wedi cyrraedd diwedd ein hanner tymor olaf! Fe wnaethom orffen y flwyddyn mewn steil, gan gymryd rhan yn ein cyngerdd ysgol Chwilio'r Chwedlau. Roedd disgyblion Blwyddyn 2 yn anhygoel yn canu yn y côr. Disgleiriodd eu hyder, brwdfrydedd a'u hymdrechion ar y llwyfan. Yn barod, mae nhw’n edrych ymlaen at y perfformiad nesaf! Yn ôl yn y dosbarth, mae ein thema wedi bod yn seiliedig ar y celfyddydau mynegiannol, gan archwilio’r cwestiwn mawr: Sut mae stori’n cyrraedd y llwyfan? Ymgollodd y plant yn y pwnc hwn drwy astudio’r llyfr Jambori’r Jyngl. Mewn grwpiau, fe wnaethon nhw gydweithio i ddod â’r stori’n fyw. Fe wnaethon nhw fapio’r stori allan, ysgrifennu sgript, creu mygydau a phropiau, cyfansoddi cerddoriaeth, coreograffi dawnsfeydd, ac archwilio animeiddio gan ddefnyddio J2e. Roedd y perfformiadau yn y dosbarth yn llawn hwyl, egni a chreadigrwydd – dathliad go iawn o bopeth roedden nhw wedi’i ddysgu. Fe wnaethom orffen y tymor gyda thaith wych i’r traeth. Cafodd y plant amser arbennig yn chwarae yn y tywod, adeiladu cestyll tywod a chwarae yn y parc. Roedd yn ddiweddglo perffaith i dymor llawn hwyl ac atgofion arbennig. Mae’r flwyddyn hon gyda Blwyddyn 2 wedi bod yn wych. Maen nhw’n ddosbarth caredig, brwdfrydig a chreadigol, ac maen nhw wedi gwneud pob diwrnod yn hwyl. Rwy’n hynod falch o bopeth maen nhw wedi’i gyflawni, ac rwy’n gobeithio y cawn nhw haf bendigedig. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn.

It’s hard to believe we’ve reached the end of our final half term – and what a way to finish! We certainly ended the year with a bang, taking part in our school concert Chwilio'r Chwedlau. The Year 2 pupils who were part of the choir were simply outstanding. Their confidence, enthusiasm, and dedication shone brightly on stage, and they’re already looking forward to the next performance! Back in class, our theme this term has centred around the expressive arts, exploring the big question: How does a story end up on stage? The children immersed themselves in this topic by studying the book Jungle Jamboree. In groups, they worked collaboratively to bring the story to life. They mapped out the plot, wrote their own scripts, created masks and props, composed music, choreographed dances, and even explored animation using J2e. The final classroom performances were full of laughter, energy, and creativity – a real celebration of everything they had learned. To top it all off, we ended the term with a fantastic trip to the beach. The children had a wonderful time playing in the sand, building sandcastles, and enjoying the park. It was the perfect way to round off such a fun-filled and memorable term. This year with Year 2 has been truly fantastic. They are a kind, energetic, and creative class who have made everyday fun. I’m so proud of everything they’ve achieved, and I hope they have a brilliant summer. Thank you for all your support this year.

Diogelwch / Fire Safety

Hoffem ddiolch i Eleanor Goldsmith o'r Frigâd Dân am ymweld â'n disgyblion i gyflwyno sesiwn ddiddorol ac addysgiadol ar ddiogelwch tân yn y cartref. Siaradodd Eleanor â'r plant am bwysigrwydd atal tân a beth i'w wneud mewn argyfwng. Helpodd ei chyngor clir a'i dull rhyngweithiol y disgyblion i gael dealltwriaeth ddyfnach o sut i aros yn ddiogel. Rydym yn gwerthfawrogi ei hamser i addysgu ein dysgwyr ifanc ar bwnc mor bwysig.

We would like to thank Eleanor Goldsmith from the Fire Brigade for visiting our pupils to deliver an engaging and informative session on fire safety at home. Eleanor spoke to the children about the importance of fire prevention and what to do in case of an emergency. Her clear advice and interactive approach helped the pupils gain a deeper understanding of how to stay safe. We appreciate her time to educate our young learners on such an important topic.

Blwyddyn 3

Fy enw i yw Miss Jones, ac rwyf wedi cael y pleser o gwblhau fy lleoliad TAR yma yn Ysgol Gymunedol Trimsaran, gan weithio gyda Blwyddyn 3 dros y 12 wythnos diwethaf. Mae wedi bod yn brofiad hynod gyfoethog, ac rwy’n ddiolchgar iawn am gael treulio’r amser hwn mewn cymuned ysgol mor groesawgar ac ysbrydoledig. Dros gyfnod y lleoliad, rwyf wedi cael y cyfle i arwain amrywiaeth o wersi trawsgwricwlaidd. Yn ddiweddar, buom yn archwilio’r stori Dwndwr yn y Jyngl, gyda phwyslais ar lais y disgybl – bu’r plant yn helpu i lunio’r dysgu drwy awgrymu pa fath o wersi yr hoffent yn seiliedig ar y stori. Arweiniodd hyn at gyfres o weithgareddau creadigol lle bu’r disgyblion yn gweithio mewn grwpiau i berfformio cerddi o’r stori. Gwnaethant ddefnyddio offerynnau cerdd i ddod â’r perfformiadau’n fyw, gan ddylunio eu dehongliadau a’u llwyfannu eu hunain – roedd hyn yn dangos eu dychymyg a’u gwaith tîm. Fel rhan o’n gwaith ar odli a rhythm, buom hefyd yn archwilio limrigau. Mwynhaodd y plant chwarae â geiriau, ac roedd yn bleser gweld eu personoliaethau’n disgleirio trwy’r cerddi a ysgrifennon nhw. Gan adeiladu ar eu dealltwriaeth o naratif a deialog, mae’r dosbarth hefyd wedi bod yn datblygu eu sgriptiau eu hunain gan ddefnyddio cymeriadau o Dwndwr yn y Jyngl. Mae eu hyder wrth ysgrifennu a pherfformio wedi tyfu wythnos ar ôl wythnos, ac rwyf mor falch o’u cynnydd. Y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, rwyf wedi mwynhau helpu’r plant yn eu hymarferion ar gyfer sioe ysgol eleni. Mae wedi bod bleser gweld eu hyder yn tyfu wrth iddynt ddysgu ac ymarfer ystod eang o ganeuon Cymraeg. Mae eu brwdfrydedd a’u hymroddiad i’r perfformiad wedi bod yn ysbrydoledig, ac mae wedi bod yn fraint cael bod yn rhan o’u taith. Mae’r lleoliad hwn wedi bod yn rhan werthfawr iawn o’m siwrnai i fod yn athrawes. Rwyf wedi dysgu cymaint gan y staff ymroddedig, ac yn fwy na dim, drwy weithio gyda disgyblion mor greadigol, chwilfrydig ac uchelgeisiol. Diolch o galon i bawb yn Ysgol Gymunedol Trimsaran am wneud i mi deimlo mor groesawgar – Blwyddyn 3, rydych chi wedi bod yn wych, ac fe fyddaf yn mynd â llawer o atgofion gyda fi o’n hamser gyda’n gilydd.

My name is Miss Jones, and I’ve had the pleasure of completing my PGCE placement here at Ysgol Gymunedol Trimsaran, working with the wonderful Year 3 class over the past 12 weeks. It’s been an incredibly enriching experience, and I’m so grateful to have spent this time in such a welcoming and inspiring school community. Over the course of my placement, I’ve had the opportunity to lead a variety of exciting cross-curricular lessons. Most recently, we explored the story Dwndwr yn y Jyngl, and with a focus on pupil voice – the children helped shape our learning by suggesting what kinds of lessons they’d like to do based on the story. This led to a fantastic series of creative activities where the pupils worked in groups to perform scenes from the story. They used musical instruments to bring their performances to life and even designed their own interpretations and staging, showcasing their imagination and teamwork. As part of our work on rhyme and rhythm, we also explored limericks. The children enjoyed playing with language, and it was a joy to see their personalities shine through in the poems they created. Building on their understanding of narrative and dialogue, the class have also been developing their own scripts using characters from Dwndwr yn y Jyngl. Their confidence in writing and performing has grown week by week, and I’ve been so proud of their progress. Beyond the classroom, I’ve thoroughly enjoyed supporting the children in their rehearsals for this year’s school show. It’s been incredibly rewarding to witness their confidence blossom as they’ve learned and performed a wide range of Welsh songs. Their enthusiasm and commitment to the performance have been inspiring, and it’s been a privilege to be part of their journey. This placement has been such a valuable part of my journey to becoming a teacher. I’ve learned so much from the dedicated staff and, most of all, from working with such creative, curious and hardworking pupils. Thank you to everyone at Ysgol Gymunedol Trimsaran for making me feel so welcome – Year 3, you’ve been amazing, and I’ll take so many fond memories with me from our time together.

Blwyddyn 4

Mae eich plant, erbyn hyn, wedi gorffen eu taith dysgu ym mlwyddyn pedwar, ac am ffordd i orffen. Mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu geiriau i ganeuon, dysgu geiriau i berfformio a dysgu symudiadau dawns, ac roedd pob un o’r ymarferion yn werth chweil. Roeddwn i wedi syfrdannu’n llwyr gyda hyder y plant. Mae perfformio yn neuadd yr ysgol yn gamp enfawr ond i berfformio ar lwyfan Canolfan Selwyn Samuel, mae hynny yn rhywbeth fydd y disgyblion yn cofio am byth ac yr wyf yn falch iawn o bob un ohonyn nhw. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i weithio gyda Cegin y Bobl dros y chwech wythnos diwethaf. Mae’r plant wedi gwrando ar gyfarwyddiadau, paratoi, a choginio prydiau gwahanol ac wedi mwynhau pob eiliad. Mae’r arogl yn yr ysgol bob Dydd Iau wed bod yn wefreiddiol, gobeithio eich bod wedi bod yn ddigon lwcus i flasu peth o’r bwyd! Roedd ein gwibdaith i Barc Gwledig Penbre yn llwyddiant, gyda’r dosbarth cyfan yn mwynhau amser ar y traeth ac yna’r parc. Mwynhewch anturiaethau’r haf gyda’ch teulouedd.

Your children, by now, have finished their learning journey in year four, and what a way to finish. The pupils have learnt words to songs, learnt words to perform and learnt dance moves, all of the practises were worth it. I was completely amazed at the children's confidence. Performing in the school hall is a huge achievement but to perform on the Selwyn Samuel Centre stage, that is something the pupils will remember forever and I am very proud of each and every one of them. We have been very fortunate to work with Cegin y Pobl over the last six weeks. The children have listened to instructions, prepared and cooked different meals and have enjoyed every moment. The smell in the school every Thursday has been sensational I hope you have been lucky enough to taste some of the food! Our annual trip to Pembrey Country Park was a success, with the whole class enjoying time on the beach and then the park. Enjoy summer adventures with your families.

Prosiect Cegin y Bobl Project

Mae disgyblion Blwyddyn 4 wedi cymryd rhan mewn prosiect coginio yn yr ysgol, gan gynnwys taith i fferm i helpu gwneud caws. Ariennir y prosiect gan y Llywodraeth ac mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.

Mae'r disgyblion wedi mwynhau gwersi coginio bob dydd Iau yn yr ysgol gan gogyddion proffesiynol. Yn ystod eu sesiwn olaf, gwahoddwyd y rhieni i ymuno am sesiwn flasu. Dyma rai lluniau.

Year 4 pupils have been taking part in a cooking project at school and this included a trip to a farm and helped to make cheese. The project is funded by the Government and in partnership with Coleg Sir Gar.

Pupils have enjoyed cookery lessons every Thursday at the school from professional chefs. During their last session, parents were invited for a taster session. Here are some photos.

Sioe 'Chwilio'r Chwedl' Show

Wel! Dyna sioe arbennig!!

Roedd yn bleser gweld y llwyfan yn dod yn fyw gydag angerdd, creadigrwydd ac egni disgyblion Ysgol Gymunedol Trimsaran.

Hoffwn ddiolch o waelod calon i’n disgyblion talentog am eu perfformiadau gwych – rydych wedi bod yn ysbrydoledig. Diolch hefyd i’r holl staff am eu gwaith caled eu hymroddiad a’u gofal wrth greu sioe mor broffesiynol a bywiog.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Ganolfan Selwyn Samuel am ein croesawu i gynnal y perfformiad yma. Mae’r lleoliad gwych hwn wedi darparu llwyfan perffaith i’n sioe.

Diolch i’n noddwyr hael – heb eich cefnogaeth, ni fyddai digwyddiadau fel hyn yn bosib. Yn olaf, diolch o galon i’n teuluoedd am eich cefnogaeth barhaus ac am annog eich plant bob cam o’r ffordd. Mae eich presenoldeb a’ch brwdfrydedd yn golygu cymaint i ni.

Well! What a show!!

It was a pleasure to see the stage come alive with the passion, creativity and energy of the pupils of Trimsaran Community School.

I would like to sincerely thank our talented pupils for performing so brilliantly – you have been inspiring. A heartfelt thank you also goes to all our staff for their hard work, dedication and care in creating such a lively and professional show.

We are very grateful to the Selwyn Samuel Centre for kindly allowing us to hold our performance there. This fantastic venue has provided the perfect stage for our show.

A special thank you to our generous sponsors – your support makes events like this possible. Finally, a huge thank you to all our families for your continued encouragement and support. Your presence and enthusiasm mean the world to us.

Blwyddyn 5

Mae tymor olaf Blwyddyn 5 wedi dod i ben. Gan mai thema’r tymor hwn oedd ‘O’r Dudalen i’r Llwyfan’, rydym wedi canolbwyntio ar y chwedlau Cymreig wrth baratoi ar gyfer y sioe sef Chwilio’r Chwedlau. Mae Blwyddyn 5 wedi bod yn hynod brysur yn ymarfer eu llinellau, yn perffeithio trefniadau dawns ac yn sgleinio’u perfformiad cerddorol mewn pryd ar gyfer y sioe. Cafodd pawb ran yn y perfformiad ac rwy’n hynod falch o’u hymdrechion, eu hymroddiad a’u doniau dros y misoedd diwethaf.

Ymhlith yr ymarferion, mae Blwyddyn 5 wedi bod yn brysur yn creu’r rhaglen ar gyfer y sioe. Trwy ddefnyddio meddalwedd Adobe Express, buont yn gyfrifol am gyfeiriad tudalennau, dewis lleoliad y noddwyr, dylunio’r clawr blaen, casglu dyfyniadau gan y cyfarwyddwyr a rhestru unrhyw wybodaeth ychwanegol y byddai’r gynulleidfa eu hangen.

Ar ôl i gyffro’r sioe ddod i ben, penderfynom ysgrifennu erthygl bapur newydd am y sioe. Gwnaethant ddrafftio, ail-ddrafftio a chreu eu herthygl gan ddefnyddio Adobe Express. Fe wnaethant adrodd am y perfformiad yn wych, gan ganolbwyntio ar fanylion am y props, goleuo ac effeithiau sain – ac wrth gwrs, y gwisgoedd gwych.

Daeth un o lywodraethwyr yr ysgol, Rhys, i’n helpu i fesur cyflymder cerbydau’n pasio’r ysgol. Yna, gwnaeth Blwyddyn 5 fideo ac ychwanegu trosleisio i hyrwyddo ymddygiad gyrru da er mwyn sicrhau diogelwch y tu allan i’n hysgol ac ysgolion eraill yn Sir Gaerfyrddin. Roedd yn wych gallu codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd diogelwch ar y ffyrdd o amgylch ein hysgolion.

Year 5’s final term has come to an end. As this term’s theme has been ‘From Page to the Stage’, we have been focusing on the Welsh myths in preparation for the upcoming show ‘Chwilio’r Chwedlau. Year 5 have been very busy practising lines, perfecting dance routines and polishing their musical performance, in time for the show. Everyone had a part to play in the performance and I’m very proud of their efforts, dedication and talents over the last couple of months.

Amongst the rehearsals, Year 5 have been busy creating the programme for the show. By using Adobe Express software, they’ve been responsible for the orientation of the pages, selecting the position of the sponsors, designing the front cover, collecting quotes from the directors and listing any more information needed by the audience.

Once the excitement of the show was over, we decided to write a newspaper article on the show. They’ve drafted, re-drafted and made their article on Adobe Express. They recounted the fantastic night brilliantly, by honing on details of the props, lighting and sound effects and of course, the fabulous costumes.

One of our school governors, Rhys, came to help us measure the speed of vehicles passing the school. Year 5 then made a video and recorded voiceovers to promote good driving behaviours to ensure the safety outside our school and Carmarthenshire schools alike. It was great to raise awareness of the importance of road safety around our schools.

Dathliad / Celebration

Cafodd côr yr ysgol wahoddiad i ganu mewn Dathliad 'Wythnos y Lluoedd Arfog' yn Neuadd Penbre ar ddydd Llun, 23ain o Fehefin. Diolch am ein gwahodd i fod yn rhan o’r dathliadau arbennig.

The school choir was invited to sing at the 'Armed Forces Week' Celebration in Pembrey Hall on Monday, 23rd June. Thank you for asking us to be part of the special celebration.

Blwyddyn 6

Wrth i ni agosáu at ddiwedd blwyddyn ysgol llawn atgofion, dyma rhai o uchafbwyntiau tymor olaf Blwyddyn 6. Mae’r disgyblion wedi parhau i weithio’n galed, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn profiadau gwerthfawr wrth baratoi ar gyfer y cam nesaf yn eu taith addysgol. Un o’r uchafbwyntiau oedd y daith i Theatr y Ffwrnes i wylio’r sioe ‘Sister Act’. Roedd y perfformiad yn llawn egni ac ysbrydoliaeth, a mwynhaodd y disgyblion bob eiliad ohono.

Bu rhai disgyblion yn cynrychioli’r ysgol yn athletau’r Urdd eleni, gan gymryd rhan mewn ystod o ddisgyblaethau gan gynnwys y sbrint, y ras hir, taflu’r 'shot' a’r ras gyfnewid. Rydym yn hynod falch o’u hymroddiad a’u hysbryd tîm. I orffen y tymor mewn ffordd arbennig, bu’r llysgenhadon chwaraeon yn dathlu’r gwaith caled a’r gefnogaeth maent wedi ei roi drwy’r flwyddyn. Aethant i Barc Penbre lle buont yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gyda llysgenhadon o ysgolion eraill – diwrnod llawn hwyl a chwaraeon!

Yn ystod y tymor, daeth PC Ali i mewn i siarad gyda Blwyddyn 6 am sut i ymddwyn yn briodol yn y gymuned. Roedd hon yn sesiwn werthfawr i’w hatgoffa o’u cyfrifoldebau wrth iddynt symud ymlaen i'r ysgol uwchradd. Ymwelodd cynrychiolydd o’r gwasanaeth tân â’r dosbarth i drafod sut i gadw’n ddiogel yn y cartref. Dysgodd y disgyblion am y nifer cywir o blygiau i’w defnyddio mewn soced, a sut i osgoi peryglon tân posib yn y tŷ.

Cawsant hefyd gyfle i fynychu diwrnodau pontio yn Ysgol y Strade ac Ysgol Glan-y-Môr, gan eu helpu i ddod yn fwy hyderus ac ymwybodol o’r hyn i’w ddisgwyl ym Mlwyddyn 7 ym mis Medi.

Uchafbwynt y flwyddyn oedd sioe ‘Chwilio’r Chwedlau’ a gafodd ei berfformio yn Theatr Selwyn Samuel yn Llanelli. Perfformiodd pawb yn wych gyda phob un yn siŵr o gofio’r profiad am byth. Rydym yn falch iawn o ddisgyblion Blwyddyn 6 am eu hymdrechion trwy gydol y flwyddyn. Pob lwc iddynt wrth iddynt baratoi i ddechrau pennod newydd yn yr ysgol uwchradd.

As we approach the end of a school year full of memories, here are some of the highlights from Year 6’s final term. The pupils have continued to work hard, learn new skills and take part in valuable experiences as they prepare for the next step in their educational journey. One of the highlights was the trip to Theatr y Ffwrnes to watch the show Sister Act. The performance was full of energy and inspiration, and the pupils enjoyed every moment of it.

Some pupils represented the school at the Urdd athletics this year, taking part in a range of disciplines including the sprint, long-distance race, shot put and relay. We are extremely proud of their dedication and team spirit. To finish the term in a special way, the sports ambassadors celebrated the hard work and support they’ve given throughout the year. They went to Pembrey Park where they took part in a variety of activities with ambassadors from other schools – a day full of fun and sport!

During the term, PC Ali came in to speak with Year 6 about how to behave appropriately in the community. It was a valuable session to remind them of their responsibilities as they move on to secondary school. A representative from the fire service also visited the class to discuss how to stay safe at home. The pupils learned about the correct number of plugs to use in a socket and how to avoid potential fire hazards in the house.

They also had the opportunity to attend transition days at Ysgol y Strade and Ysgol Glan-y-Môr, helping them to become more confident and aware of what to expect in Year 7 this September.

The highlight of the year was the show Chwilio’r Chwedlau, which was performed at the Selwyn Samuel Theatre in Llanelli. Everyone performed brilliantly, and it’s sure to be an experience they’ll remember forever. We are very proud of the Year 6 pupils for all their efforts throughout the year. Best of luck to them as they prepare to begin a new chapter in secondary school.

Ymadawyr/ Leavers

Ar ddydd Mercher 16eg o Orffennaf, cynhaliwyd Dathliad Ymadawyr Blwyddyn 6, gan nodi diwedd pennod bwysig i'n disgyblion wrth iddynt baratoi i symud ymlaen i'r ysgol uwchradd. Roedd yn achlysur hyfryd yn llawn atgofion, chwerthin, ac ychydig o ddagrau wrth i ni edrych yn ôl ar eu hamser gyda ni. Dymunwn y gorau i bob un ohonynt yn eu hysgolion newydd.

On Wednesday 16th July, we held our Year 6 Leavers' Celebration, marking the end of an important chapter for our pupils as they prepare to move on to secondary school. It was a wonderful occasion filled with memories, laughter, and a few tears as we looked back on their time with us. We wish each and every one of them the very best of luck in their new schools.

Trip Ysgol / School Trip

Ar 8fed o Orffennaf, mwynhaodd y disgyblion drip ysgol wych i Barc Gwledig Penbre. Roedd y diwrnod yn llawn hwyl ac antur wrth i ni archwilio'r traeth, treulio amser yn y parc, a chwarae gemau gyda'n gilydd ar y gwair.

Roedd y plant wrth eu bodd yn cael y cyfle i fod yn yr awyr agored, mwynhau natur, a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp gyda'u ffrindiau.

On 8th July, pupils enjoyed a fantastic school trip to Pembrey Country Park. The day was filled with fun and adventure as we explored the beach, spent time in the park, and played games together on the grass.

The children loved the chance to be outdoors, enjoy nature, and take part in group activities with their friends.

Cyngor Eco Council

Llongyfarchiadau i'r Cyngor Eco a'r ysgol gyfan. Rydym wedi llwyddo i adnewyddu ein statws platinwm unwaith eto!

Congratulations to the Eco Council and the entire school. We have renewed our platinum status once again!

Llyfr Profiadau - Experiences Folder

Rydym wedi bod yn casglu tystiolaeth o brofiadau’r disgyblion mewn portffolios dosbarth. Mae’r llyfrau'n cael eu diweddaru bob wythnos gan yr athrawon a’r disgyblion yn cynnwys; lluniau o weithgareddau, lleisiau’r plant am y gweithgareddau, disgrifiadau dysgu, ymweliadau a phrofiadau / gwaith dydd i ddydd. Gobeithio gwnewch chi fwynhau darllen ac arsylwi ar brofiadau’r disgyblion dros y flwyddyn academaidd hon. Cliciwch ar y botwm isod i weld gwaith dosbarth eich plentyn.

We have been collecting evidence of the pupils' experiences in class portfolios. The books are updated every week by the teachers and pupils including pictures of activities, the children's voices about the activities, skills from the national curriculum, visits and experiences / day-to-day work. I hope you enjoy reading and observing the pupils' experiences over this academic year. Please click on the button below to see your child's class work.

* Gwefan yr ysgol/School Website - Trydar/Twitter *

www.ysgoltrimsaran.org.uk - @YsgolTrimsaran

CREATED BY
Ysgol Gymunedol Trimsaran