Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern
GWELEDIGAETH Y CLWSTWR
Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.
Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.
Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.
Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.
Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.
Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.
Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.
Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.
Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.
Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.
Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.
Uned 1
Y Mwg yn Sblot!
Yn ein thema gyffrous "Y Mwg yn Sblot", bydd disgyblion Blwyddyn 5 yn teithio'n ôl i gyfnod y Chwyldro Diwydiannol i ddarganfod sut y newidiodd ein cymuned yn Sblot a dinas Caerdydd am byth. Byddwn yn archwilio’r rôl ganolog a chwaraeodd y diwydiant dur yn natblygiad yr ardal – o'r ffatrïoedd mwglyd i’r dociau prysur. Bydd y disgyblion yn dysgu am fywydau pobl leol, gan gynnwys plant, yn ystod y cyfnod hwn o newid mawr, ac yn ystyried sut mae'r gorffennol diwydiannol yn dal i ddylanwadu ar Sblot heddiw.
Cwestiynau Mawr
Beth oedd effaith y Chwyldro Diwydiannol ar Sblot?
Sut mae bywyd plant wedi newid yng Nghymru a Sblot ers y Chwyldro Diwydiannol?
Cynnwys yr Uned:
Chwyldro diwydiannol - Sblot yn ardal amaethyddol i ardal ddiwyddiannol bwysig i Gaerdydd.
Amodau gwaith, llafar a hawliau plant y cyfnod.
Effaith y chwyldro ar fywydau plant Sblot.
Effaith y chwyldro ar Sblot a'r dyfodol (heddiw)
Hanner Tymor 2
Uned 2
Mae newid yn cychwyn gyda ni!
Yn y thema bwerus hon, bydd y disgyblion yn dysgu sut mae eu llais yn arf cryf ar gyfer newid. Byddant yn archwilio hanes protestiadau enwog fel y Merched Beca, rôl menywod a chymunedau lleiafrifol yn y frwydr dros degwch, a sut mae pobl ledled y byd wedi sefyll dros eu hawliau. Bydd y plant yn dysgu'r gwahaniaeth rhwng terfysg, protest a stric, gan ystyried effaith gwrthdystiadau ar gymdeithas a’r blaned. A yw newid gwirioneddol wedi digwydd? Fel rhan o’u dysgu, byddant yn cymryd rhan mewn ymgyrch go iawn, gan ddefnyddio’u llais i godi ymwybyddiaeth ac ysbrydoli newid cadarnhaol yn eu cymuned.
Cwestiynau Mawr
Sut allwn ni ddefnyddio ein llais, er gwell?
Cynnwys yr Uned:
Merched Beca
Gwrthdystiadau enwog - rol menywod a cymunedau lleiafrifol.
Gwahaniaeth rhwng terfysg, protest a streic.
Effaith gwrthdystiadau ar y blaned? Ydy hyn wedi dod a newid?
Gwneud ymgyrch i godi llais - Does dim Planed B!
Uned 3
Dyfodol Dwyieithog
Yn y thema ysbrydoledig hon, bydd disgyblion yn dysgu am werth ac arwyddocâd bod yn ddwyieithog – y gallu i siarad mwy nag un iaith. Byddant yn archwilio hanes y frwydr dros yr iaith Gymraeg, gan gynnwys digwyddiadau fel "Y Welsh Not" a Brad y Llyfrau Gleision, yn ogystal ag unigolion dylanwadol fel Dafydd Iwan ac ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Bydd disgyblion yn ystyried pwysigrwydd dwyieithrwydd yn ein cymuned amrywiol yma yn Sblot, ac yn dysgu sut mae'r Gymraeg yn parhau’n fyw yn y byd gwaith heddiw. Wrth ddod â'r thema i ben, bydd y plant yn datblygu eu sgiliau mentergarwch, gan gynllunio a chreu cynnyrch Cymraeg i'w werthu mewn ffair ysgol arbennig!
Cwestiynau Mawr
Pam fod bod yn ddwyieithog o fantais?
Pam fod siarad Cymraeg yn bwysig ac yn rhywbeth i ymfalchio ynddo?
Sut allwn ni greu cwmni Cymreig llwyddiannus?
Cynnwys yr Uned:
Cefndir “Y Welsh Not” a Brad y Llyfrau Gleision.
Dafydd Iwan - Protestio dros yr Iaith - Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith.
Pwysigrwydd dwyieithrwydd yn ein cymued ac ar draws y byd.
Cwmniau Cymraeg Llwyddiannus.
Sgiliau Busnes/Creu Cynnyrch/Gwerthu Cynnyrch mewn Ffair.
Credits:
Created with an image by Rawpixel.com - "Group of Protester in Back Lit"