Llais Bro Brynach Cylchlythyr Ysgol Bro Brynach

Rhifyn 3 Tymor yr Hydref 2024 / Issue 3 Autumn Term 2024

Mae'n bleser cyflwyno cylchlythyr sy'n cynnwys newyddion am ddigwyddiadau a gweithgareddau'r ysgol yn ystod yr hanner tymor yma. / It is a pleasure to present a newsletter which contains news about the school's events and activities during this half term.

Dyddiadau Allweddol / Key Dates

25.10.24 Hyfforddiant mewnswydd / INSET

4.11.24 Disgyblion yn dychwelyd / Pupils return

11.11.24 Wythnos nosweithiau rhieni / Parents' evenings week

11.12.24 Gwasanaeth Nadolig / Christmas Assembly

20.12.24 Diwedd tymor / End of term

6.1.25 Hyfforddiant mewnswydd / INSET

7.1.25 Disgyblion yn dychwelyd / Pupils return

Gwybodaeth Allweddol / Key Information

'My School App'

Ein bwriad yw sicrhau sianeli cyfathrebu cadarn er mwyn sicrhau bod rhieni yn derbyn gwybodaeth yn amserol am ddigwyddiadau a materion addysgol. Rydym wedi buddsoddi yn yr ap 'MySchoolApp' a gwelwyd nifer o rieni yn ymrwymo i'r cyfrwng cyfathrebu. Dyma yw ein sianel cyfathrebu gyda rhieni sy'n caniatau i'r staff rhannu dyddiadau allweddol, newyddion a negeseuon allweddol gyda chymuned yr ysgol. Gwerthfawrogom pe bai pob rhiant yn ymrwymo i'r dull yma o gyfathrebu. Pe bai argyfwng ysgol, dyma'r cyfrwng byddwn yn ei ddefnyddio i gyfathrebu gyda rhieni a staff. Ein bwriad yw gwneud defnydd llawn o'r ap felly anogaf i bob rhiant ddefnyddio'r ap. Bydd rhaid gwneud cais drwy ebost am fynediad i'r ap ac mae cymorth ar gael o'r swyddfa ar ddefnydd yr ap pe bai angen.

Our intention has been to ensure robust communication channels to ensure that parents receive timely information about events and educational issues. We have invested in the 'MySchoolApp' app and have seen the majority of parents commit to this medium of communication. This is our communication channel with parents which allows the staff to share key dates, news and key messages with the school community. We would appreciate it if all parents would commit to this method of communication. If there is a school emergency, this is the medium we would use to communicate with parents and staff. Our intention is to make full use of the app so I encourage all parents to use the app if you are not currently doing so. An application must be made by email for access to the app and help is available from the office on the download and use of the app if needed.

Cymorth Ariannol / Financial Support

https://www.gov.wales/get-help-school-costs#freeschoolmeals

Sylwer, pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer prydau ysgol am ddim, mae ein hysgol yn derbyn cyllid ychwanegol a ddefnyddir i gadw costau ymweliadau addysgol a phrofiadau i'r plant yn is. / Please note that when you register for Free School Meals, our school could get additional funding which is used to keep the costs of educational visits and experiences for the children low.

Cylchgronau'r Urdd Am Ddim/Free Urdd Magazines

Mae holl gylchgronau’r Urdd ar gael yn ddigidol ac am ddim! / All the Urdd magazines are available digitally and for free https://www.urdd.cymru/cy/cylchgronau/

Prydau Ysgol / School Dinners

Gwasgwch y ddolen isod i ddodd o hyd i wybodaeth am brydau ysgol / Click on the link below to find information about school meals

https://appmanager.myschoolapp.co.uk/admin/documents/8975/edit

Colli Ysgol Colli Cyfle / Miss School Miss Out

Mae pob diwrnod ysgol yn bwysig. Mae pob diwrnod a gollir yn ei gwneud hi'n anoddach dal i fyny, a gall arwain at gyflawniadau is o ran darllen, ysgrifennu a rhifedd. Mae pob diwrnod y mae plant a phobl ifanc yn ei golli yn effeithio ar eu gallu i wneud cysylltiadau cymdeithasol pwysig a chyfeillgarwch ag eraill. Mae llawer o resymau pam y dylai plentyn fynd i'r ysgol, sef: Datblygu'n ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes. Bod yn gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith. Datblygu'n ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd. Bod yn unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae presenoldeb rhagorol yn yr ysgol yn caniatáu i'n plant a'n pobl ifanc gael y dechrau gorau posibl mewn bywyd. Os nad yw eich plentyn yn mynd i'r ysgol yn rheolaidd, efallai y bydd pryderon ynghylch materion diogelu yn cael eu codi am eu lles a'u cynnydd.

https://www.carmarthenshire.gov.wales/home/council-services/education-schools/miss-school-miss-out/

Colli Ysgol Colli Cyfle / Miss School Miss Out

Not attending school regularly, a day here or there doesn’t seem like much, but absences add up. Two days a month is equal to 4 weeks a year which is over one year of lost learning from Year 1 to Year 13. Every school day counts, each day missed makes it harder to catch up, and can lead to lower achievements in reading, writing and numeracy. Every day missed impacts on children and young people’s ability to make important social connections and friendships. There are lots of reasons why a child should attend school: To develop as ambitious, capable learners, ready to learn throughout their lives. To become enterprising, creative contributors, ready to play a full part in life and work. To mature as ethical, well-informed citizens of Wales and the world. To become healthy, confident individuals, ready to lead fulfilling lives as valued members of society. Excellent attendance at school allows a child to have the best possible start in life. If your child does not attend school regularly, safeguarding concerns may be raised about their welfare and progress.

Cofiwch ein bod yn roi hanes llwyddianau a digwyddiadau'r ysgol yn y papur bro lleol yn fisol. Remember we put our news and successes in the local newspaper monthly.

Gweithdy Hoci/Hockey Workshop

Buodd dosbarth Cynin yn ffodus i gymryd rhan mewn gweithdy blasu hoci gyda Charlotte o Glwb Hoci Athletau Caerfyrddin. Dysgodd y disgyblion sgiliau newydd fel sut i ddal ffon hoci, pasio, driblo a hyd yn oed cael cyfle i chwarae gêm. / Cynin class were fortunate to take part in a hockey taster workshop with Charlotte from Carmarthen Athletic Hockey Club. The pupils learned new skills such as how to hold a hockey stick, pass, dribble and even had the opportunity to play a game of hockey.

Gweithdy Hoci/Hockey Workshop

Ymweld ar Eglwys/Visting the Church

Cafwyd croeso cynnes yn yr Eglwys gan y Parchedig Shirley Murphy ar gyfer bendith y bagiau ar ddechrau’r flwyddyn ysgol newydd. Roedd y disgyblion yn eiddgar i gymryd rhan a diolch i'r eglwys am ei rhodd o nôd lyfr i'r disgyblion. / Reverand Shirley Murphy welcomed us at St.Brynach Church for the blessing of the bags at the beginning of the new school year. The pupils were eager to participate and thank you to the church for gifting every pupil with a bookmark.

Ymweld ar Eglwys/Visting the Church

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol/National Fitness Day

Dathlwyd diwrnod ffitrwydd cenedlaethol ar y 20fed o Fedi. Gwnaeth y disgyblion dysgu am bwysigrwydd a buddion cadw’n iach yn ogystal ag ymgymryd mewn amryw o weithgareddau corfforol a llesol. Mwynhaodd y disgyblion dysgu sgiliau newydd wrth ymgymryd mewn sesiwn sgiliau rygbi Tag, gwers byw corfforol gan Actif, sesiwn clocsio gan Betsan Campbell a gemau hwylus gan Heulwen a Sara o’r Urdd. / On the 20th of September we celebrated national fitness day. Pupils learnt about the importance and benefits of staying healthy as well as engaging in a variety of physical and well-being activities. Pupils enjoyed learning new skills while undertaking a Tag rugby skills session, a live physical lesson led by Actif, a traditional welsh clog session with Betsan Campbell and various fun games with Heulwen and Sara from the Urdd.

Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol/National Fitness Day
Diwrnod Ffitrwydd Cenedlaethol/National Fitness Day

Cyngerdd Gwasanaeth Gerdd y Sir/County’s Musical Concert

Aeth disgyblion o ddosbarthiadau Gronw a Cynin i Ysgol Dyffryn Taf i fwynhau cyngerdd cerddorol a drefnwyd gan dîm athrawon offerynnol y Sir. Bu’r plant wrth eu bodd yn gwrando ar y gerddorfa yn chwarae amryw o glasuron o’i hoff sioeau, rhaglennu teledu a ffilmiau./Pupils from Gronw and Cynin classes went to Ysgol Dyffryn Taf to enjoy a musical concert organised by the County's instrumental team of teachers. Children loved listening to the orchestra play various classics from its favourite shows, TV programmes and films.

Cyngerdd Gwasanaeth Gerdd y Sir/County’s Musical Concert

Bore Coffi Macmillan/Macmillan Coffee Morning

Ar fore'r 27ain o Fedi cynhaliwyd fore coffi i godi arian i elusen Macmillan yn neuadd yr ysgol. Diolch i aelodau o’r Cyngor Ysgol a bu’n brysur yn helpu gweini’r cacennau ag yn gwerthu threfnu’r raffl. Diolch i'r gymuned a’r rhieni am eu cefnogaeth a’u cyfraniadau, codwyd £348 i’r elusen. / On the 27th of September the school held a coffee morning to raise money for Macmillan's charity in the school hall. Thanks to members of the School Council who were busy helping serve the cakes as well as organising the raffle. Thank you to the community and parents for your support and contributions, £348 was raised for the charity.

Bore Coffi Macmillan/Macmillan Coffee Morning

Llysgenhadwyr/Bronze Ambassadors

Llongyfarchiadau i’n Llysgenhadon Efydd eleni sef Dylan, Hannah, Maria, Deian a Willow. Aethant i Ganolfan Hamdden Sanclêr i fwynhau bore hyfforddiant gyda Actif Sir Gâr yw helpu i arwain sesiynau ymarfer corff i ddisgyblion yr ysgol yn ystod y flwyddyn. / Congratulations to Dylan, Hannah, Maria, Deian and Willow who are our Bronze Ambassadors this year. They visited St Clears Leisure Centre to enjoy a training morning with Actif Carmarthenshire to help them lead exercise sessions to pupils within the school.

Llysgenhadwyr/Bronze Ambassadors

Pontio i Ysgol Bro Preseli/Transition Day at Bro Preseli School

Trefnir diwrnod pontio i ddisgyblion flwyddyn 6 a fydd yn mynd i Ysgol Bro Preseli mis Medi nesaf. Cafodd y disgyblion y cyfle i ddod i adnabod yr ysgol a’r staff yn ystod y dydd a mwynhau amryw o weithgareddau a drefnwyd ar eu cyfer. / Year 6 pupils who will transition to Bro Preseli School next September had the opportunity to visit the school and get to know the school and staff as well as enjoy a variety of activities organised for them during the day.

Cystadleuaeth PobUrdd/PobUrdd Competition

Ar y 11eg o Hydref gwnaeth 14 o ddisgyblion o flynyddoedd 4, 5 a 6 cystadlu yn rownd ysgol yng nghystadleuaeth coginio’r Urdd o’r enw PobUrdd. Y dasg oedd goginio 4 myffin melys adref a’i gyflwyno ar y diwrnod. Hoffwn ddiolch i Mr.Balfour am feirniadu’r gwaith a llongyfarchiadau i Tanwen Vernon (3ydd), Josh Davis (2il), a i Barnaby Cutler a ennillodd y gystadlaeuaeth. Bydd Barnaby yn mynd ymlaen i gystadlu yn rownd y rhanbarth nesaf. Pob lwc iddo a da iawn i bawb wnaeth gystadlu. / On the 11th of October 14 pupils from years 4, 5 and 6 competed in the Urdd’s school round cooking competition called ‘PobUrdd’. The task was to cook 4 sweet muffins at home and present them on the day. Thank you to Mr.Balfour for judging the work and congratulations to Tanwen Vernon for ocming third, Josh Davis receving second place and to Barnaby Cutler who won the competition. Barnaby will go on to compete in the regional round next month, good luck to him and well done to everyone who competed.

Cystadleuaeth PobUrdd/PobUrdd Competition

Trip Dysgu Sylfaen/Foundation Phase Learning Trip

Cafwyd amser gwerth chweil ar ein trip ar drafnidiaeth yr hanner tymor yma. Roedd yn ddiwrnod prysur gyda ni'n teithio ar fws i Hendygwyn i ddal tren i Hwlffordd. Ar ol cyrraedd Hwlffordd aethon ni draw i'r maes awyr i edrych ar awyrennau. Yna aethon ni lawr i'r porthladd yn Abergwaun i weld y fferi. Tra yn Abergwaun cafwyd y cyfle i fynd i weld y bad achub. / We had a worthwhile time on our trip on transport this half term. It was a busy day with us traveling by bus to Whitland to catch a train to Haverfordwest. After arriving in Haverfordwest we went over to the airport to look at planes. We then went down to the port in Fishguard to see the ferry. While in Fishguard there was an opportunity to go and see the lifeboat.

Sganiwch y cod QR i weld ein trip/ Scan the QR code to view the video of our trip.

Diwrnod Shwmae Su'mae/Shwmae Su'mae Day

Cawsom ddiwrnod hwylus yn dathlu diwrnod Shwmae Su'mae eleni. Gwnaethom gwisgo coch, gwyn neu gwyrdd a ymgrymryd mewn amryw o weithgareddau hwylus yn ystod y dydd fel gwrando i gerddoriaeth Cymraeg, orielodl a lliwio i ddathlu'r diwrnod. / We had a great day celebrating Shwmae Su'mae day. Pupils wore red, white or green and enjoyed partaking in various activities such as listening to Welsh music, Orielodl art and colouring to celebrate the day.

Plant yn brysur yn gwneud gwaith Oriel Odl 'Shwmae/Sumae' The children busy working on Oriel Odl 'Shwmae/Sumae'
Diwrnod Shwmae Su'mae/Shwmae Su'mae Day

Sioe ‘The Addams Family’/The Addams Family Show

Fe mwynhaodd pawb o flwyddyn 6 sioe 'The Addams Family' yn Ysgol Dyffryn Taf. / Year 6 pupils enjoyed watching 'The Addams Family' show at Dyffryn Taf School.

Sioe ‘The Addams Family’/The Addams Family Show

Cwrdd Diolchgarwch/Thanksgiving Service

Hyfryd oedd medru dychwelyd i Capel Trinity yn y pentref ar gyfer ein Gwasanaeth Diolchgarwch eleni. Cyflwynodd pob dosbarth eitem hyfryd ar y thema Y Cynhaeaf. Daeth y Parchedig Guto Llywelyn atom i annerch y plant a wnaeth rhannu stori gydam ni. Diolch yn fawr iddo am roi ei hamser i ni. Ar ddiwedd y wasanaeth bu’r disgyblion yn casglu tuag at Ysbyty plant a Frenhinol Orthapaedic yn Birmingham. Diolch i haelioni’r rhieni a’r gymuned, llwyddwyd i gasglu £280 ble mae un o'n disgyblion wedi derbyn triniaeth mawr a dal i dderbyn cymorth cyson yno.

It was wonderful to be able to return to Trinity Chapel in the village for our Thanksgiving Service this year. Each class presented a lovely item based on the theme Harvest. We would like to thank Reverend Guto Llywelyn for giving up his time to address the children and for sharing a story with us. Thank you to the generosity of the community and parents we collected £280 to Birmigham Children's Hospital and The Royal Orthopaedic Hospital where one of our pupils received a big operation and is continuing to receive regular support.

Rygbi Tag Cymysg Bl.3 a 4 a merched Bl.5 a 6 yr Urdd / The Urdd Rugby Tag Mixed Yrs.3 & 4 and Yrs.5 & 6 Girls Competition

Ar ddydd Iau y 24ain o Hydref fe wnaeth disgyblion blwyddyn 3 a 4 a merched blwyddyn 5 a 6 cystadlu yn nhwrnamaint Tag rygbi'r Urdd. Ymdrechodd pawb o dim blwyddyn 3 yn arbennig o dda yn cystadlu yn ei twrnamaint cyntaf. Chwaraeodd blwyddyn 4 yn ffantastig yn ennill 5 allan o'i 6 gêm ac yn colli allan drwy trwch blewyn ar chwarae yn y rownd cyn-derfynol. Llwyddodd tim merched blwyddyn 5 a 6 ennill 2 allan o'i 3 gêm ag yn dod yn ail yn ei grŵp. Yna aethant ymlaen i gystadlu yn yr 16 olaf yn ennill y gêm hynny a trwyddo i rownd y chwarteri ag yn colli y gêm o un pwynt. Da iawn bawb!

On Thursday the 24th of October, year 3 and 4 pupils and year 5 and 6 girls competed in the Urdd rugby Tag tournament. The year 3 team played extremely well competing in their first tournament. The year 4 team played fantastically and won 5 out of their 6 matches and narrowly lost out on going on to play in the semi-finals. The year 5 and 6 girls team won 2 out of their 3 matches, coming second within their group, and went on to compete in the last 16 winning and through to the quarter-finals and lost the game by one point. Well done to all!

Rygbi'r Urdd / Urdd Rugby

Ymwelwyr/Visitors

Braf oedd croesawu’r Parchedig Guto Llywelyn i arwain gwasanaeth cyntaf mis Hydref ble wnaeth y plant gwrando ar ddwy stori o’r Beibl. Gwnaethom hefyd croesawu’r Parchedig Shirley Murphy a daeth atom i'n atgoffa am y Cynhaeaf ar bwysigrwydd o beidio a gwastraffu bwyd

We welcomed Reverend Guto Llywelyn to lead an assembly where pupils listened to two stories from the bible. We also welcomed Reverend Shirley Murphy who reminded us about the harvest and the importance of food and reminded us not to waste food.

Gweithdy Shocktober/Shocktober Workshop

Diolch i Ambiwlans Cymru am eu cyflwyniad ‘Shoctober’. Dysgodd disgyblion o flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 a wnaeth dysgu am dechnegau achub bywyd a defnydd cywir o diffibriliwr.

Thanks to the Welsh Ambulance for their 'Shoctober' presentation. Pupils from years 3, 4, 5 and 6 learned about various lifesaving techniques and the correct use of a defibrillator.

Gweithdy Shocktober/Shocktober Workshop
Gweithdy Shocktober/Shocktober Workshop

Calan Gaeaf a Noswyl Tan Gwyllt/Halloween and Guy Fawkes

Cafodd disgyblion o flynyddoedd 4, 5 a 6 ymweliad gan yr heddlu ar frigad dan a wnaeth ein atgoffa’r am sut i gadw’n ddiogel ac am beryglon yn ystod dathliadau Noson Calan Gaeaf a Tân Gwyllt.

The police and fire service visited pupils from years 4, 5 and 6 and reminded us of how to stay safe and about the dangers during Halloween and Bonfire Night.

Calan Gaeaf a Noswyl Tan Gwyllt/Halloween and Guy Fawkes

Llongyfarchiadau/Congratulations

Llongyfarchiadau i Llew Murray am gael ei ddewis i chwarae i pel-droed i dim Ysgolion Caerfyrddin. Pob lwc iddo dros y misoedd nesaf! / Congratulations to Llew Murray who has been chosen to play football for the Carmarthenshire Schools team. Good luck to him over the coming months!

Llongyfarchiadau i Lottie Collins a wnaeth ennill cystadleuaeth dylunio poster ar gyfer diwrnod agored Abaty Hendy-gwyn gan Fenter Gorllewin Sir Gar. / Congratulations to Lottie Collins who won a poster design competition for Whitland Abbey’s open day by Menter Gorllewin Sir Gar.

Llongyfarchiadau i Jac Owen am gael ei dewis i chwarae i dîm Rygbi Rhanbarth Sir Gaerfyrddin. Pob lwc i ti dros y misoedd nesaf! / Congratulations to Jac Owen who has been selected to play for the Carmarthen and Districts schools rugby union. Good luck to you over the next few months!

Llongyfarchiadau/Congratulations

Cystadleuaeth Calan Gaeaf/ Halloween Competition

Bu llawer o ddisgyblion yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn cystadlu yng ngystadleuaeth ag osodwyd gan y Cyngor Ysgol, sef lliwio Pwmpen ar gyfer Calan Gaeaf. Roedd yn gystadleuaeth agos ond dyma penderfynwyd y Cyngor Ysgol oedd yr ennillwyr. / Many children have been busy over the last couple of weeks competing in the School Council competition of colouring a pumpkin, it was a tough decision but here's who the School Council decided upon.

Dosbarth Lliwe - Talula Phillips, Dosbarth Sien - Sam Brookes, Dosbarth Gronw - Jared Anthony, Dosbarth Cynin - Carla Golding. Llongyfarchiadau/Congratulations.

Cystadleuaeth Calan Gaeaf/ Halloween Competition

DOSBARTHIADAU / CLASSES

Dosbarth Lliwe / Lliwe Class

Ein thema y tymor hwn yw ‘Helo, Hola, Bonjour’ a rydym wedi cael hanner tymor brysur iawn yn archwilio gwahanol fathau o drafnidiaeth. Fe wnaethon edrych ar ba drafnidiaeth sy'n hedfan, gyrru ac arnofio a archwilio pa mor bell mae car tegan yn teithio. Rydym wedi creu bws, trên, awyren, fan a fferi allan o bapur. Mae ein hardal chwarae rôl wedi bod yn asiantaeth teithio lle mae’r plant wedi archwilio gwahanol leoedd i fynd ar wyliau ledled y byd a edrych ar y pethau y byddai eu hangen arnom ni yn ein cês i fynd ar wyliau. Rydym hefyd wedi mwynhau chwarae gyda'n cegin fwd newydd sbon lle gallwn wneud cacennau blasus a phryd o fwyd gyda mwd, ffyn, cerrig a chynhwysion naturiol. Cawsom amser gwych ar ein taith ac roeddem yn gallu gweld yr holl wahanol fathau o drafnidiaeth rydym wedi astudio. Rydym hefyd wedi mwynhau creu bwrdd arddangos newydd yn yr ystafell ddosbarth.

We have been very busy in Dosbarth Lliwe during our first half term studying our theme ‘Helo, Hola, Bonjour’. We have been exploring different types of transport and looked at what transport flies, drives and floats and explored measurement to see how far a toy car will travel. We have made a bus, train, plane, van and ferry out of paper. Our role play area has been turned into a holiday agency where we are able to explore the different places to go on holiday around the world. We have also looked at what things we would need to put in our suitcases to go on holiday. We have enjoyed playing with our brand-new mud kitchen where we are able to make delicious cakes and meals out of mud, sticks, stones and natural ingredients. We had such a great time on our trip and were able to see all the different types of transport. We have also enjoyed creating a new display board in the classroom.

Dosbarth Lliwe / Lliwe Class

Dosbarth Sien / Sien Class

Thema ein dosbarth y tymor yma yw Helo, Hola, Bonjour. Rydyn wedi bod yn astudio Ffrainc yr hanner tymor yma gan edrych ar y gemau paralympaidd, bwydydd Ffrainc, baner Ffrainc, tirnodau enwog Ffrainc a glaniad y Ffrancod yn Abergwaun. Rydyn wedi mwynhau edrych ar fapiau o Ewrop er mwyn casglu gwybodaeth am Ffrainc. Roedd y blasu bwyd yn hwylus gyda pawb yn mynegi barn am eu hoff fwyd Ffrengig. Yn dyniaethau rydyn wedi bod yn edrych ar hanes glaniad y Ffrancod a Jemima Nicolas.

Our class theme this term is Hello, Hola, Bonjour. We have been studying France this half term looking at the paralympic games, French foods, the French flag, famous French landmarks and the landing of the French in Fishguard. We have enjoyed looking at maps of Europe in order to gather information about France. The food tasting was fun with everyone expressing an opinion about their favorite French food. In humanities we have been looking at the history of the landing of the French and Jemima Nicolas.

Dosbarth Sien / Sien Class

Llun Llanast / Messy Monday

Yn ystod ein gwersi Llun Llanast, rydym wedi bod yn archwilio gwahanol wledydd. Rydym wedi edrych ar Gymru, yr Eidal, Antarctica ac America cyn symud ymlaen i archwilio gwahanol draddodiadau o Affrica. Cawsom gyfle i creu rhai o gestyll Cymru allan o adnoddau naturiol, gwneud pizzas wrth ddysgu am yr Eidal. Archwilio am dymereddau a hinsoddau gwahanol wrth gynnal arbrofion gyda rhew wrth astudio’r Antartica. Dysgon ni sut i chwarae pêl-fasged sy’n un o chwaraeon poblogaidd yn America a archwilio gwahanol fathau o gerddoriaeth Affricanaidd a gwneud ein mat Kente ein hunain.

Rydym hefyd wedi cael cyfle i chwarae ym Mharc yr Enfys sef parc newydd Llanboidy. Cawson ni gymaint o hwyl yn chwarae ar y fframiau dringo newydd, y zipline a'r trampolîn.

During our Messy Monday lessons, we have been exploring different countries. We have looked at Italy, Wales, Antarctica and America before moving on to explore different traditions from Africa. We had to opportunity to make pizzas while learning about Italy and made castles out of natural resources whilst learning about Wales. We explored different temperatures and climates while carrying out experiments with ice when studying Antarctica and learnt how to play basketball that’s popular in America. We explored different types of African music and made our own Kente Cloth to learn about African traditions.

We have also had to the opportunity to play in ‘Parc yr Enfys’ which is the new park in Llanboidy. We had so much fun playing on the new climbing frames, zipline and trampoline.

Llun Llanast / Messy Monday

Dosbarth Gronw / Gronw Class

Yn ystod yr hanner tymor yma, o fewn ein sesiynau Mathemateg mae’r disgyblion wedi mwynhau dysgu am werth lle, safle rhifau, mwy neu lai a thalgrynnu rhifau. Mae’r plant wedi mwynhau ymarfer eu sgiliau rhifyddeg pen drwy ymateb i amryw o gwestiynau. Yn ystod ein sesiynau Iaith, mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu am bosteri yn wersi Cymraeg, dysgwyd am brif nodweddion, cafwyd y cyfle i edrych ar enghreifftiau ac yna mynd ati i greu poster eu hun am agoriad swyddogol Parc Llanboidy. Hefyd, braf oedd gweld disgyblion Blwyddyn 3 yn mwynhau eu gwersi Saesneg cyntaf, sesiynau ffonolegol Read Write Inc, a blwyddyn 4 yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau. Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym wedi bod yn lwcus iawn i gael, Mrs Natasha Davies, i ddod allan atom i gynnal sesiynau Ffrangeg i’r disgyblion. Dysgwyd y disgyblion am sut i gyfarch pobl, dweud sut maent yn eu teimlo, y tywydd, ei hoedran a rhifau o 0-20. Hoffem ddiolch yn fawr iawn i Madame Davies. Yn ystod sesiynau nofio, cafwyd y disgyblion y cyfle i ddatblygu sgiliau o’r pedwar strôc wahanol, gwthio a gleidio a datblygu hyder yn y pwll. Yn ein gwersi Gwyddoniaeth, mae’r plant wedi mwynhau dysgu am ddeunyddiau, eu priodweddau, a beth maent yn cael eu defnyddio.

Dosbarth Gronw / Gronw Class

During this half term, within our Maths sessions the pupils have enjoyed learning about place value, the positioning of numbers, more than less than and rounding numbers. The children have enjoyed practicing their mental maths skills by responding to various questions. During our language sessions, the children have been learning about posters in Welsh lessons, they learned about key features, had the opportunity to look at examples and then set about creating their own poster for the official opening of Llanboidy Park. It was great to see Year 3 pupils enjoying their first English sessions, Read Write Inc phonological sessions, and year 4 continuing to develop their knowledge skills. During this half term, we have been very lucky to have Mrs Natasha Davies come into the school to teach French sessions to the pupils. The children were taught how to greet people, say how they feel, describe the weather, their age and numbers from 0-20. We would like to thank Madame Davies very much. During swimming sessions, the pupils had the opportunity to develop skills from the four different strokes, push and glide and develop confidence in the pool. In our Science lessons, the children have enjoyed learning about materials and their properties, discovering what they are used for.

Dosbarth Cynin / Cynin Class

Yn ystod ein gwersi Iaith rydym wedi dysgu am bosteri a’i bod nhw’n cael ei ddefnyddio i roi gwybodaeth, gwerthu cynhyrchion neu hysbysebu digwyddiadau. Ar ôl dysgu am brif nodweddion poster ac edrych ar enghreifftiau o bosteri gwahanol, aethant ati i gynllunio ysgrifennu poster am Ffair Llanboidy, diwrnod Owain Glyndŵr neu’r Cymry yn mudo i Batagonia er mwyn creu gwladfa Gymreig yno yn 1865. Yn ein gwersi Mathemateg rydym wedi bod yn defnyddio ac yn datblygu ein sgiliau rhif. Maent wedi bod yn dysgu am werth lle a’i bod yn helpu ni i gyfrifo gwerth digid neu swm a’i safle. Bûm yn darllen ac yn ysgrifennu’r rhifau o feintiau amrywiol, cymharu â threfnu rhifau a symud ymlaen i dalgrynnu. Yn Gwyddoniaeth rydym wedi dysgu a darganfod mwy am ddeunyddiau gwahanol rydym yn defnyddio o ddydd i ddydd. Yn ystod ein gwersi Ymarfer Corff cawsant y cyfle i ymarfer a datblygu ein sgiliau rygbi a phêl-rwyd. Mae'r disgyblion hefyd wedi bod yn ffodus o dderbyn gwersi Ffrangeg unwaith eto eleni. Gwnaethant mwynhau dysgu cyfarchion Ffrengig, teimladau, tywydd, ei hoedran, rhifau a amryw o fwydydd Ffrengig. Diolch Madame Davies am llawer o hwyl a sbri - Merci!

Dosbarth Cynin / Cynin Class

During our Language lessons we have learnt about posters and that they are used to give information, sell products or advertise events. After learning about the main features of a poster and looking at good examples, pupils went on to plan and write a poster about Llanboidy Fair, Owain Glyndŵr day or the Welsh migrating to Patagonia in 1865 to create a new Welsh colony. In our Mathematic lessons we have been using and developing our number skills. They have been learning about place value and that it helps us calculate the value of a digit or quantity and its position. They have read and written numbers of various sizes, compared and sorted numbers and have also moved on to rounding. In Science the pupils have learned and discovered more about different materials we use daily. During our Physical Education lessons pupils have had the opportunity to practice and develop their rugby and netball skills. Pupils have also been fortunate to receive French sessions again this year. The children have learnt how to greet people, communicate how they feel, describe the weather, note their age, numbers 0-20 and even various foods in French. Thank you Madame Davies for such fun and engaging sessions - Merci!

Ditectif Dysgu / Learning Detectives

Ein thema y tymor yma yw ‘Helo, Hola, Bonjour’. Yn ystod y hanner tymor mae disgyblion o flynyddoedd 3, 4, 5 a 6 wedi ymgymryd mewn thasgau a heriau amrywiol yn dilyn ein is-thema ‘Cymru’. Cawsant y cyfle i greu poster am yr ysgol, datrys problemau adio a thynnu, codio ar y thema Cymru, efelychu celf Rhiannon Roberts, dysgu am elfennau a nodweddion Eglwys a creu celf eiriau am Gymru. / This term’s theme is ‘Helo, Hola, Bonjour’. During this half term years 3, 4, 5 and 6 pupils have engaged in various tasks and activities following our sub-theme ‘Wales’. Pupils had the opportunity to create a poster about the school, solve addition and subtraction problems, coding on the theme Wales, imitate Rhiannon Roberts art, learn about the elements and features of the Church and create a word art about Wales.

Ditectif Dysgu / Learning Detectives

Gwener Gwyllt / Wild Friday

Yn ystod ein gwersi Gwener Gwyllt mae’r disgyblion wedi bod yn tacluso ac yn cymoni’r ardd. Bum yn brysur yn creu torchau Nadolig naturiol gan ddefnyddio’r helyg maent wedi’i dorri o’r ardd. Ar ôl creu’r torchau nadolig maent wedi dysgu am hanes y torch, ei ystyr, y wahanol fathau o dorch, ysgrifennu cyfarwyddiadau a ystyried sut hoffent addurno ei torch Nadolig ar ôl hanner tymor.

During our Gwener Gwyllt lessons pupils have been tidying and sorting the garden. They have also been busy creating natural Christmas wreaths using the willow they have cut from the garden. After creating their Christmas wreaths, they have learned about the history of the wreath, its meaning, the different types of wreaths, wrote instructions and considered how they would like to decorate them. We look forward to decorate our Christmas wreaths after half term.

Gwener Gwyllt / Wild Friday

Diolch am eich cefnogaeth yr hanner tymor hwn ac am waith caled ac ymrwymiad y plant. Diolch enfawr hefyd i’n staff am eu hymdrechion i ddarparu profiadau dysgu gwerthfawr, cyfoethog i’n disgyblion. Welwn ni chi ar ol hanner tymor!

Thank you for your support this half term and for the children’s hard work and commitment. A huge thank you also to our staff for their efforts in providing valuable, rich learning experiences for our pupils. See you all after half term!

‘Cyrraedd y brig yw ein nod’

Diolch am eich cefnogaeth barhaus / Thank you for your continued support