Prospectws Ysgol y Llys 2024-25

Annwyl Rieni

Carwn eich croesawu chi a'ch plentyn i'n hysgol a gobeithio y bydd y pecyn hwn yn ddefnyddiol.

Mae'r wybodaeth sy'n gynwysedig yn amlinellu athrawiaeth addysgol a threfniant yr ysgol, ond yr ysbryd y gweithredir hyn sy'n bwysig. Credwn y dylid addysgu mewn awyrgylch hapus a phleserus ac rydym yn ymgeisio i greu awyrgylch sy'n meithrin hyn yn yr ysgol.

Cofiwch ein bod ar gael i ateb cwestiynau a dileu pryderon a phe cyfyd unrhyw beth peidiwch â phetruso ynglŷn â chysylltu â ni ac fe wnawn ein gorau i'ch cynorthwyo.

Gobeithiwn y bydd yr amser y byddwch chi a'ch plant yn ei dreulio yn ein mysg yn hapus ac yn ffrwythlon.

Yn gywir,

Mr Rhys Griffith

Pennaeth

Gweledigaeth

Dyma ein gweledigaeth ar gyfer ein cwricwlwm yma yn Ysgol y Llys:

  • Dathlu a hyrwyddo ein Cymreictod.
  • Ysgol hapus a diogel.
  • Creu awyrgylch gofalgar a chynhaliol.
  • Parchu’r ysgol, y gymuned a’r byd.
  • Hyder i fentro drwy profiadau cyfoethog.
  • Meithrin dycnwch i wynebu heriau heddiw ac yfory.
  • Lles Gwerin Llys Agored.

Blaenoriaethau Cynllun Datblygu'r Ysgol

Rô l Fodelu

Mae'n hanfodol bwysig ein bod yn fodelau rôl addas ar gyfer y disgyblion: yn gosod disgwyliadau uchel o ran ymddygiad, agwedd, positifrwydd at waith, ac yn fodelau rôl ieithyddol wych.

Prif diben Addysg ac Addysgu o fewn y cwricwlwm yw i helpu pob unigolyn i wneud cynnydd ar eu lefel hwy; i helpu'r plant sydd o'n blaenau i wneud cynnydd, i gwrdd ag anghenion unigol hwy, nid i gynllunio yn ôl eu hoedran na'n disgwyliadau ninnau ohonynt. Gall cynnydd un disgybl edrych yn gwbl gwahanol i gynnydd disgybl arall, ond fe ddathlwn cynnydd pawb yn gyfartal, a chydnabod hawl pob plentyn i dderbyn gofal, arweiniad a chymorth.

Ysgol y Llys

Sefydlwyd yr ysgol fel un gynradd ddwyieithog benodol ddyddiol yn 1975. Dewis y rhieni yw anfon eu plant i'r ysgol a cheir cymysgedd o Gymry Cymraeg a phlant o gartrefi di Gymraeg tref Prestatyn a'r ardaloedd cyfagos.

Cymraeg yw iaith swyddogol yr ysgol ond Saesneg eu hiaith ydy mwyafrif y newydd ddyfodiaid. Rhaid felly gwneud pob ymdrech posibl i ddysgu'r Gymraeg iddynt mor fuan ag sydd yn bosibl er mwyn iddynt fedru ymroddi i mewn i fywyd yr ysgol. Erbyn diwedd eu gyrfa yn yr ysgol hon trosglwyddir y plant i Ysgol Uwchradd Glan Clwyd.

Amgylchfyd

'Rydym yn ffodus yn Ysgol y Llys bod gennym diroedd eang a deniadol i'r plant chwarae arnynt ac sydd yn ddelfrydol i'w defnyddio yng nghyswllt y Cwricwlwmi Gymru. Mae gennym neuadd gydag offer gymnasteg ragorol; dosbarth i’r Cylch Meithrin a Meithrin Mwy. Defnyddiwn y goedwig yn rheolaidd fel adnodd dysgu.

Pennaeth

Mr Rhys Griffith (ysgol.yllys@sirddinbych.gov.uk)

Cadeirydd y Llywodraethwyr

Mr Mike O'Meara (OMearam6@hwbcymru.net)

Cyfarwyddwr Addysg a Diwylliant

  • Cyfarwyddwr Corfforaethol Dysgu Gydol Oes,
  • Cyngor Sir Ddinbych
  • Swyddfeydd y Cyngor
  • Ffordd Wynnstay
  • Rhuthun,
  • Sir Ddinbych,
  • LL15 1YN

Ffôn: 01824 706016

Staff Ysgol y Llys

Athrawon

Mr Rhys G Griffith, B.Add (Pennaeth)

Mrs Emma Robertshaw B.Add (Dirprwy Bennaeth)

Uned dan 5

  • Mrs Sophia Rose
  • Miss Catrin Rowlands
  • Mrs Aurona Jones
  • Miss Amy Roberts

Uned dan 7

  • Mrs Ffion Davies
  • Miss Anna Jones
  • Mrs Mererid Hughes

Uned dan 9

  • Mrs Sian E Jones
  • Mr Cai Dafydd
  • Ms Bethan Hughes
  • Mrs Emma Robertshaw (CADY yr ysgol)
  • Miss Fflur Williams
  • Miss Sophie Edwards

Uned dan 12

  • Mr Sion A Jones
  • Mrs Arfona Williams
  • Mrs Nerys Morgan

Staff Ategol

Uwch Gymhorthydd Dysgu

  • Mrs Bethan McCabe
  • Mrs Carys Bunnell
  • Miss Hanna Hughes

Cymorthwyr Dysgu

  • Mrs Rhianwen Rees Mason

Gweithwyr Cefnogi Dysgwyr

  • Mrs Joyce Doyle
  • Miss Megan Davies
  • Miss Lowri Hughes
  • Miss Abby Peake
  • Miss Catherine Roberts
  • Mrs Ceri Thomas
  • Mrs Gemma Coe
  • Ms Laura Jones
  • Miss Elin Jones

Staff Gweinyddol

  • Mrs Julie Lloyd
  • Mrs Angela Thomas

Cogyddes

  • Ms Lorraine Wood-Jones

Gofalwr yr Ysgol

  • Mr Steve Corbett

Glanhawyr yr Ysgol

  • Linda Oliver
  • Samantha Lloyd
  • Sam Seiga
  • Michelle Simpson

Llywodraethwyr yr Ysgol

  • Cadeirydd: Mr M O’Meara (Llywodraethwr wedi ei gyfethol)
  • Mrs N Barlow (Llywodraethwr yr Awdurdod A.A.Ll)
  • Mr S. Gittins (Llywodraethwr yr Awdurdod A.A.Ll)
  • Mr S Davies (Llywodraethwr wedi ei gyfethol)
  • Dr Amy Williamson (Rhiant Lywodraethwr)
  • Mrs G Humphreys (Llywodraethwr yr Awdurdod A.A.L.L.)
  • Mr S Jones (Llywodraethwr yr Athrawon)
  • Mrs R Jones (Llywodraethwr yr Awdurdod A.A.L.L.)
  • Mrs L. Holmes-Pierce (Rhiant Lywodraethwr)
  • Mr S. Edwards (Rhiant Lywodraethwr)
  • Mr G Rowe (Rhiant Lywodraethwr)
  • Cynrychiolydd Cyngor y Dref - Swydd Wag
  • Mrs Rh Mason (Staff Lywodraethwr)
  • Mr Rhys Griffith (Pennaeth)
  • Clerc y Llywodraethwyr - Mrs Angela Thomas

Cyfeiriad i gysylltu gyda'r Llywodraethwyr

Ysgol y Llys, Rhodfa'r Tywysog, Prestatyn, Sir Ddinbych, LL19 8RP.

Dyddiadau'r Flwyddyn Academaidd 2024-2025

Trefniadaeth Derbyn Plant

Derbynnir plant i'r Uned dan 5 i’r flwyddyn ysgol Meithrin am bum bore neu brynhawn yr wythnos cyn belled â'u bod wedi cyrraedd eu pedwerydd pen-blwydd yn ystod y flwyddyn, h.y. rhwng Medi 1af ac Awst 31ain.

Yn yr un modd derbynnir plant yn llawn amser i'r Dosbarth Derbyn os ydynt yn cyrraedd pump oed cyn diwedd y flwyddyn addysgol. Gall rhieni sy'n ystyried anfon eu plant i'r ysgol drefnu ymweliad i dderbyn mwy o wybodaeth trwy gysylltu â'r Pennaeth ymlaen llaw.

Yn ystod tymor yr haf, gwahoddir rhieni plant newydd i'r ysgol un min nos i gyfarfod a'r Pennaeth a'r Staff i egluro trefniant dysgu yn y Cyfnod Sylfaen ac i drafod unrhyw broblemau yn anffurfiol.

Yn ogystal â hyn yn ystod y cyfnod hwn hefyd gwahoddir rhieni plant newydd i ddod a'u plant i'r ysgol i dreulio ychydig o amser yn y Dosbarth Meithrin. Mae'r profiad yma heb amheuaeth yn helpu'r plant yn eu hawyrgylch newydd ar ddechrau eu gyrfa yn yr ysgol.

Mae llawer o'r plant sy'n bwriadu dod i'r ysgol yn mynychu'r Cylch Meithrin a gynhelir bob dydd a Chylch Ti a Fi ar brynhawn Mercher sy'n cael eu rhedeg dan nawdd y Mudiad Ysgolion Meithrin. Fe gynhelir y ddau grŵp yma yn adeilad yr ysgol ac mae'r plant sy'n eu mynychu yn manteisio yn fawr o gael arfer o fod yn yr ysgol a hefyd o fod mewn awyrgylch Gymreig. Gellir cysylltu gyda'r ysgol am fwy o wybodaeth neu i drefnu ymweliad ar 01745 853019.

Oriau Ysgol

Meithrin 9.00yb - 11.30yb, 12.30yp - 3.00yp

Babanod 8.55yb - 12.00 : 12:55yp - 3.00yp

Iau 8.55yb - 12.00 : 12:55yp - 3.15yp

Oriau a dreulir yn dysgu'r plant

  • Dysgu Sylfaen 21 awr
  • Adran Iau 23 awr 30 munud

Gofynnir i rieni plant dosbarth Meithrin ddod a’i plentyn i’r ysgol gan ddefnyddio giat Cylch ger yr Uned Dan 5. Agorir giatiau’r Cylch am 8:55. Ni chaniateir mynediad cyn hyn. Disgwylir i bob rhiant sy’n casglu ei plentyn o’r Meithrin am 11.30 a 3.00 o’r gloch aros tu allan yr un giat (fel uchod), ac yna bydd aelod a’r staff yn trosglwyddo’r plentyn i’w gofal.

Bydd plant y Dosbarth Derbyn yncael eu trosglwyddo gan staff ger giat ‘Gareth Bale’ a r y buarth sydd ger y brif dderbynfa. Yn y boreau bydd angen i’r rhieni ddod a’u plant at ddrws y Dosbarth Derbyn tu cefn i’r Uned Dan 5. Bydd y drws ar agor o 8.50 y bore hyd 9.00 o’r gloch.

Taliadau

Taliadau Ysgol- Teithiau, gwersi Nofio, a.y.y.b.

Carem ichi wneud eich taliadau drwy'r system ddiogel ar-lein ParentPay gan ddefnyddio’ch cerdyn credyd neu ddebyd. Trwy ParentPay, rydych yn rhydd i dalu pryd bynnag a lle bynnag sy’n gyfleus i chi, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos - gan ddefnyddio’r dechnoleg fwyaf diogel ar y rhyngrwyd.

Bydd gennych gyfrif ar-lein diogel, ac yn ei weithredu gan ddefnyddio enw defnyddiwr a chyfrinair unigryw. Byddwch yn cael eich annog i newid y rhain a’u cadw’n ddiogel. Mae talu’n syml iawn ac mae ParentPay yn cadw cofnod o’ch taliadau i chi eu gweld unrhyw bryd.

Cyfraniadau Gwirfoddol

Mae'r Llywodraethwyr yn neilltuo'r hawl i ofyn am gyfraniadau gwirfoddol ar gyfer teithio o fewn oriau'r ysgol (e.e. gwersi nofio)

Codi Tal

Mae'r Corff Llywodraethol yn neilltuo'r hawl i godi tal yn yr amgylchiadau canlynol am weithgareddau a drefnir gan yr ysgol:

  1. hyfforddiant cerddorol sydd heb fod yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol
  2. gweithgareddau y tu allan i oriau'r ysgol sydd heb fod yn rhan o'r Cwricwlwm Cenedlaethol neu Addysg Gorfforol e.e. clybiau a drefnir ar ôl oriau'r ysgol
  3. teithio y tu allan i oriau'r ysgol
  4. llety yn ystod y gweithgareddau preswyl canlynol sy'n digwydd o fewn a thu allan i oriau ysgol:-
  • ymweliadau â Glan-llyn, Bala (Blwyddyn 5)
  • ymweliadau â Gwesyll yr Urdd, Llangrannog (Blwyddyn 6)

5. pan niweidir neu collir eiddo neu offer sy'n perthyn i'r ysgol mewn canlyniad i ymddygiad disgybl.

Gwybodaeth Cyffredinol

Prydau Ysgol a Llefrith

Paratoir prydau bwyd yn yr ysgol. Mae pryd ffurfiol i'r plant a bydd llefrith ar gael yn ystod yr amser chwarae boreol, i'r Cyfnod Sylfaen yn unig. O Fis Medi 2023, bydd cinio ysgol am ddim yn cael eu cynnig i bob ddisgybl oes statudol yn yr ysgol. Annogwn bob teulu i ymgymryd a’r cynnig yma. Cynllun sydd wedi ei ariannu gan Llywodraeth Cymru.

Cyfathrebu ar Lein

Mae gan yr ysgol wefan ddefnyddiol, sef www.ysgolyllys.cymru . Yno ceir wybodaeth a lluniau diweddaraf am yr ysgol ynghyd a dyddiadau/calendr digwyddiadau am y flwyddyn. Hefyd, mae gennym gyfrif X swyddogol sef @YYllys – caiff ei ddiweddaru’n gyson ac yn ffordd effeithiol o rannu gwybodaeth. Mae cyfrif swyddogol Ysgol y Llys ar Facebook (Ysgol y Llys) a chyfrif Instagram (ysgol_y_ysgol).

Cyngherddau Ysgol/Gwasanaethau Arbennig

Mae llawer o achlysuron pryd y gwahoddir rhieni a chyfeillion i gyngherddau a gwasanaethau arbennig, a gwerthfawrogir eu cefnogaeth yn fawr iawn, yn enwedig gan y plant.

Trosgwlyddo i Ysgol Uwchradd

Bydd y rhan fwyaf o ddisgyblion Ysgol y Llys yn trosglwyddo i Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy. Mae ffurfflenni dewis ar gael ar wefan Cyngor Sir Ddinbych, i rieni eu cwblhau, ar gychwyn y flwyddyn academaidd.

Mae cydweithio agos rhyngom ag Ysgol Glan Clwyd, a bydd cyfle i’r plant ymweld a’r ysgol Uwchradd nifer o weithiau o Flwyddyn 5 ymlaen. Caiff y rhieni gyfle i ymweld â'r ysgol cyn y trosglwyddiant.

Cyfle Cyfartal

Mae Llywodraethwyr yr ysgol yn cefnogi y Cynllun Cydraddoldeb Strategol Ysgol y Llys. Ni wahaniaethir yn erbyn pobl ar sail oedran, anabledd, hil, crefydd, rhyw, rhywioldeb neu allu yn wahanol i’w un nhw. Am fwy o fanylion, ewch i gwefan www.ysgolyllys.cymru.

Anabledd

Y mae’r ysgol yn cyfarfod y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ac wedi paratoi cynllun ar ei gyfer.

Pwyllgorau Disgyblion

Cyngor Ysgol

Mae ‘llais y disgybl’ yn rhan bwysig o ethos a weledigaeth yr Ysgol. Mae gennym Gyngor Ysgol y Plant llwyddiannus sy’n ddylanwad da ar y disgyblion. Mae’r dosbarthiadau o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 6 yn cael eu cynrychioli ar y Cyngor gan ddau gynrychiolydd.

Grŵp Gwyrdd

Mae Grŵp Gwyrdd yn yr ysgol ac wedi’i gofrestru gydag Ysgolion Eco. Bwriad y Grŵp yw datblygu ac ymateb i faterion yr amgylchfyd ac yn y blaen o fewn yr ysgol.

Siart Iaith Gymraeg a’r ‘Cymru Caredig’

Mae gennym bwyllgor o blant o flwyddyn 2-6 sy’n gyfrifol am arwain proseictau i hybu a methrin Cymreictod a balchder hunaniaeth yn yr ysgol.

Dreigiau Digidol

Mae gan yr ysgol 'Dreigiau Digidol' o flwyddyn 2 hyd at flwyddyn 6. Bwriad y 'Dreigiau Digidol' ydy hybu a chefnogi elfennau digidol o fewn yr ystafell dosbarth megis gwaith neu clybiau.

Cyswllt Ysgol Cartref

Cyswllt Ysgol Cartref

Ar fynediad i’r ysgol, mae disgyblion a rhieni yn arwyddo cytundeb ysgol cartref, sydd yn nodi cytundeb yr ysgol, cytundeb rhieni a chytundeb disgybl. Pwrpas y cytundeb yma yw hybu partneriaeth rhwng yr ysgol a’r cartref er budd addysg y plentyn ac er mwyn ein galluogi i gydweithio’n fwy effeithiol. Caiff y cytundeb ei gyflwyno a’i arwyddo yn flynyddol gan y rhieni, ysgol a’r plant.

Cyswllt Ysgol â'r Gymuned

Credwn na fedr yr ysgol fodoli fel uned ar ei phen ei hun ac y dylem gyfrannu i'r gymuned yr ydym yn bodoli ynddi. Cymerwn gamau pendant tuag at hyn drwy gymell y disgyblion i ddosbarthu anrhegion diolchgarwch i'r henoed, ymuno yng Ngwasanaeth Carolau'r Gymuned, noddi elusennau lleol, gwahodd aelodau o'r gymuned i weithgareddau'r ysgol ac annog defnydd lleol o gyfleusterau'r ysgol. Trwy hyn bydd y disgyblion yn dysgu darganfod eu lle yn y gymuned a bydd datblygiad personol yn cael ei gyfoethogi.

Ymdrin â Chwynion

Mae’r ysgol yn croesawu rhieni i mewn i’r ysgol bob amser. Os oes gennych bryder am rywbeth neu yn anhapus gyda sefyllfa arbennig cofiwch ddod a hyn i sylw athro/athrawes eich plentyn neu’r Pennaeth mor fuan ag sy’n bosib. Os nad ydych yn hapus gyda’r ymateb a gewch yna cewch wedyn wneud cwyn ffurfiol i’r Bwrdd Llywodraethol trwy'r Rhieni Lywodraethwyr neu’r Clerc. Os ydych am gymryd y cwyn gam ymhellach yna dylid cysylltu gyda’r Awdurdod Addysg Leol. 01824 706000.

Am ragor o fanylion am polisi cwynion yr ysgol, ewch i gwefan yr ysgol, www.ysgolyllys.cymru

Presenoldeb

Mae mynchu ysgol yn rheolaidd a gan sicrhau lefelau presenoldeb uchel yn bwysig iawn ac yn cyfrannu tuag at gynnydd academiadd a llesiant bob plentyn. Diswgyliwn i bob plentyn fod ar y safle o 8.40am ymlaen. Bydd staff ar ddyletswydd buarth o 8.40yb i groesawu disgyblion.

Os yw'ch plentyn yn absennol o’r ysgol, gofynnwn i chwi gysylltu â'r ysgol drwy lythyr neu ffôn, neu bydd rhaid marcio'r gofrestr gydag absenoldeb diawdurdod.

Mae’n gyfrifoldeb arnoch chi i sicrhau bod eich plentyn yn mynychu’r ysgol. Os ydi’ch plentyn yn absennol heb reswm derbyniol, fe allech chi dderbyn dirwy neu gael achos yn eich erbyn.

Bydd yr ysgol yn awdurdodi absenoldeb eich plentyn ar ôl derbyn rheswm derbyniol. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Salwch
  • apwyntiadau meddygol neu ddeintyddol na ellir eu methu (os yn bosib fe ddylech chi drefnu’r rhain ar ôl ysgol neu yn ystod gwyliau’r ysgol)
  • diwrnodau crefyddol
  • materion teuluol eithriadol, fel profedigaeth
  • cyfweliad gyda chyflogwr neu goleg

Ni fydd yr ysgol yn awdurdodi absenoldeb eich plentyn os oedd yn absennol oherwydd y canlynol:

  • siopa yn ystod oriau ysgol
  • taith diwrnod
  • Gwyliau yn ystod y tymor ysgol
  • pen-blwydd

Os ydi’ch plentyn yn absennol ac nad ydych chi wedi rhoi rheswm dros yr absenoldeb, neu os nad ydi’r ysgol yn fodlon â’r eglurhad, bydd yr absenoldeb yn cael ei nodi fel un heb ei ‘awdurdodi’, sef triwantiaeth.

Os ydych chi’n credu bod rheswm pan nad oes ar eich plentyn eisiau mynd i’r ysgol, fe ddylech chi siarad ag athro/ athrawes dosbarth eich plentyn i dderbyn cymorth a chefnogaeth.

Rhybudd Cosb Benodedig

Os oes gan eich plentyn 10 diwrnod neu fwy o absenoldeb heb awdurdod, neu’n hwyr ar fwy nag 20 sesiwn (10 diwrnod ysgol), gallech dderbyn Rhybudd Cosb Benodedig.

Os ydych yn talu o fewn 28 diwrnod, y ddirwy yw £60. Os ydych yn talu ar ôl 28 diwrnod, ond o fewn 42 diwrnod, y ddirwy yw £120. Os nad ydych wedi talu'r ddirwy cosb yn llawn erbyn y 43ain diwrnod, gellid cymryd camau cyfreithiol yn eich erbyn.

Absenoldeb a Iechyd

Caiff plant eu profi am eu golwg a'u clyw yn y Cyfnod Sylfaen gan tim yr Adran Iechyd, Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr. Bydd arolwg deintyddol yn digwydd yn flynyddol hefyd yn y Cyfnod Sylfaen. Mae Nyrs yr ysgol, Mrs Debrah Davies yn galw'n rheolaidd ac mae croeso i rieni gysylltu â hi yn yr ysgol neu trwy'r clinic yn Llanelwy (rhif ffôn 01745 448771.)

Mae Awdurdod Iechyd Sir Ddinbych yn argymell y dylai plentyn sy'n dioddef o rai afiechydon aros adref o'r ysgol am leiafrif o –

  • Brech yr Ieir 5 niwrnod o ymddangosiad y frech.
  • Y Frech Almaeneg 6 niwrnod o ymddangosiad y frech.
  • Y Frech Goch 4 niwrnod o ymddangosiad y frech.
  • Clwy'r Pennau 5 niwrnod o ymddangosiad y chwydd.

Fodd bynnag mae'n well cysylltu â'ch Meddyg eich hun os nad yw eich plentyn yn teimlo'n dda. Pe digwydd i'ch plentyn fynd yn wael neu gael ei anafu tra mae yn yr ysgol, dilynir y drefn a ganlyn:

  • Ffonio'r cartref/man gwaith
  • Ffonio perthynas neu ffrind/gymydog
  • Ffonio Doctor neu fynd a'r plentyn i Ysbyty Glan Clwyd

Fe dderbynnir y wybodaeth angenrheidiol pan fydd y rhieni yn cwblhau Ffurflen A a'r Ffurflen Dderbyn pan fydd y plentyn yn cael ei dderbyn gyntaf i'r ysgol. Mae'n bwysig eich bod yn gadael i ni wybod os bydd y wybodaeth wedi newid ar unrhyw adeg yn ystod gyrfa ysgol eich plentyn.

* Apwyntiad - mae Cyngor Sir Ddinbych yn hyrwyddo ffurflenni cadarnhau apwyntiadau gyda gwasanaeth iechyd. Os oes gan eich plentyn apwyntiad rhaid llenwi’r ffurflen apwyntiadau â cheir o swyddfa’r ysgol.

Ffisig / Moddion – Deallwn ar brydiau fod angen meddyginiaeth ar eich plentyn yn yr ysgol. Er mwyn sicrhau fod moddion yn cael ei gweinyddu’n gywir, mae ffurflen briodol ar gael o’r dderbynfa i rieni gwblhau ac i roi caniatad.

Bwyta'n Iach

Rydyn yn hybu'r plant i fwyta'n iach ac yn gofyn i rieni ddarparu ffrwyth fel byrbryd ddyddiol i’w plant. Anogwn plant i yfed dwr a gofynnwn yn garedig i rieni ddarparu dwr yn unig i blant i’w hyfed tray n yr ysgol. Ni chaniateir i’r plant i fwyta siocled/creision na fferins yn ystod amser chwarae.

Diogelwch Safle

Mae gan Ysgol y Llys safle ysgol ddiogel dros ben. Dylai pob ymwelydd fynd i’r dderbynfa ac mae system electroneg i arwyddo i mewn/allan. Mae safle’r ysgol wedi amglychu efo ffensys diogel ac mae system camerau cylch cyfyng ar draws y safle.

Dilynwn bolisi Iechyd a Diogelwch y Sir ac anelwn i sicrhau safon uchel o iechyd a diogelwch i’r staff, disgyblion ac ymwelwyr, gyda amgylchfyd iach a diogel drwy’r ysgol. Trafodir Iechyd a Diogelwch ym mhob Cyfarfod Llywodraethol a chynhelir dril tân yn reolaidd.

Lleolir blychau Cymorth Cyntaf o amgylch yr ysgol. Mae gwybodaeth bellach ar ymarferion a gweithdrefnau tân ar gael o’r ysgol. Cofnodir damweiniau mewn llyfr damweniau ac os oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â chyflwr plentyn ar ôl damwain, byddwn yn dilyn y trefn yr ysgol o gysylltu âg rhieni.

Mae camerâu CCTV yn archwilio’r safle ac yn recordio yn gyson. Mae drysau allanol wedi eu cloi yn ystod y dydd ac mae mynediad ffob i mewn trwy’r drysau eraill. Cynhelir archwiliadau safle yn aml a byddai’r Llywodraethwyr yn rhan o’r broses hon.

Gofal Bugeiliol ac ADY yr Ysgol

Un o brif egwyddorion a chredoau’r ysgol yw’r pwysigrwydd ar ofal a lles ein disgyblion. Mae gennym tim cynwysiant o dan arweinyddiaeth ein CADY sy’n cefnogi disgyblion efo anhawsterau lles, cymdeithasol, ymddygiad. Mae ein darpariaeth ‘Grwp Lles’ ar gael i blant sydd angen cefngoaeth, boed yn fyr dymor neu yn hir dymor.

Mae disgwyliadau uchel yn yr ysgol o ran ymddygiad disgyblion. Mae hyn yn cael ei ddatblygu wrth annog awyrgylch ac hinsawdd adeiladol, ac un o barch- staff at disgyblion a disgyblion i staff. Am fwy o fanylion am Bolisi Ymddygiad a Gwrth Fwlio - ewch i gwefan yr ysgol www.ysgolyllys.cymru

Grŵp Lles y Llys

Rydym yn ffodus iawn yn Ysgol y Llys i gael Grŵp Lles i gefnogi plant sydd ar brydiau wedi profi anawsterau emosiynol, cymdeithasol neu ymddygiad. Mae grŵpiau yn cael eu cynnal, o dan oruchwyliaeth Miss Hanna Hughes, Mrs Rhianwen Mason a Mrs Bethan McCabe.

Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Mrs Emma Robertshaw yw ein Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (CADY) yma yn Ysgol y Llys. Bydd Mrs Robertshaw yn cydweithio yn agos gyda staff cefnogi yn y grŵp Lles. Mae'r ysgol yn dilyn y côd newydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Y Cwricwlwm

Ers Medi 2022, mae’r fframwaith Cwricwlwm i Gymru yn statudol i holl ysgolion cynradd Cytmru. Mae prif egwyddorion y Cwricwlwm yn rhan o genhadaeth ac ethos Ysgol y Llys- sef ein bwriad o sicrhau fod pob plentyn yn cael cyfleoedd i fod yn:

  • ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes
  • cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith
  • dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
  • unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

Golyga hyn ei fod yn derbyn cwrs addysg yn yr ysgol sydd yn:

  1. datblygu'r sgiliau sylfaenol - siarad, darllen, ysgrifennu, gwrando a sgiliau mathemategol, technoleg gwybodaeth;
  2. rhoi cyfle iddo/iddi i astudio'i fyd/byd a'i ddehongli
  3. magu agwedd gymdeithasol iach tuag at ei gyd-ddyn
  4. ei alluogi i dderbyn profiadau amrywiol a chael cyfle i'w mynegi.

Cyrhaeddir yr amcanion uchod drwy weithrediad y Fframweithiau Llythrennedd a Rhifedd yn ogystal a’r Fframwaith Cymhwysedd Ddigidol. Rydym yn mesur cynnydd disgyblion drwy gyswllt Camau Cynnydd y Cwricwlwm i Gymru ac yn credo mai cynnydd personol disgyblion sy’n allweddol.

Y chwe Maes Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru:

  • Celfyddydau Mynegiannol
  • Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Mathemateg a Rhifedd
  • Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
  • Dyniaethau
  • Iechyd a Lles

Y nod yw ceisio sicrhau fod plentyn erbyn iddo gyrraedd unarddeg oed yn blentyn fydd yn rhugl yn y ddwy iaith ac yn gallu eu darllen a'u hysgrifennu; yn blentyn fydd yn ymwybodol o'r byd o'i gwmpas ac yn blentyn a gafodd yn ystod ei yrfa ysgol bob cyfle i ddatblygu hyd eithaf ei allu/gallu.

Mae’r ysgol yn defnyddio ystod eang o ffynhonellau i asesu a thracio cynnydd disgyblion. Byddwn yn defnyddio asesiadau personol mewn llythrennedd a rhifedd, profion Profion Glannau Menai a Phrofion Cymru Gyfan.

Bydd y rhan fwyaf o wersi'r plant yn cael eu cyflwyno gan yr athro/athrawes dosbarth ond defnyddir arbenigedd staff i gyflwyno rhai agweddau o'r cwricwlwm yng Nghyfnod Allweddol 2 megis Celf, Technoleg ac Addysg Gorfforol.

Sicrheir fod y plant yn cael gwaith gwahaniaethol sy'n addas i'w cyrhaeddiad, ac fe gefnogir unrhyw blentyn sy'n cael anhawster a cheisir ymestyn y plant mwyaf galluog. Os yw plentyn angen cymorth ychwanegol yna daw athrawes gyflogedig gan y Sir i’r ysgol am ddiwrnod a fydd yn cymryd plant yn unigol neu mewn grwpiau bach i gefnogi'r gwaith dosbarth.

Fe asesir y plant yn ffurfiannol drwy'r flwyddyn a defnyddir y wybodaeth yma i sicrhau bod y gwaith a gyflwynir yn addas i anghenion y plant. Mae gan yr ysgol bolisi asesu sydd ar gael i’r rhieni.

Gwisg Ysgol

Diogelu

Swyddogion Diogelu

Yma yn Ysgol y Llys rydym yn cymryd diogelu disgyblion ac eraill o ddifrif. Rydym yn dilyn canllawiau cenedlaethol a caiff y polisi Diogelu ei ddiweddaru a'i hadolygu yn aml.

Y Pennaeth yw uwch Swyddog Diogelu yr ysgol. Yn ei absenoldeb dylid cyfeirio unrhyw bryderon at unai Mrs Emma Robertshaw, Mr Sion Jones, Mrs Sophia Rose, Mrs Ffion P Davies neu Mrs Sian Jones.

Mae pob aelod o staff wedi derbyn hyfforddiant blynyddol am ddiogelu, gyda'r swyddogion diogelu yn derbyn hyfforddiant pellach er mwyn cyflawni eu rôl. Mae pob aelod o staff yn gwybod beth yw'r camau i ddilyn os caiff pryder ei godi neu ei ddatgelu.

Plant Mewn Gofal

Trwy gydweithio agos ag asiantaethau eraill a’r Awdurdod Lleol cefnogir disgyblion sy’n derbyn gofal yn effeithiol yn yr Ysgol. Mr Rhys Griffith a Mrs Emma Robertshaw, Pennaeth a CADY Ysgol y Llys, sydd a chyfrifoldeb am sicrhau effeithiolrwydd y gefnogaeth y maent yn ei dderbyn a hyrwyddo eu cyflawniad. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd i sicrhau cefnogaeth a chymorth i’r disgyblion hyn a’u gofalwyr.

Sicrheir bod plant sydd angen cymorth addysgol ychwanegol yn derbyn sylw arbennig gan yr athro dosbarth ac yn derbyn cymorth ychwanegol sy’n ddibynnol ar eu hanghenion., e.e. gwaith gwahaniaethol yn y dasg. Yn ogystal â hyn mae Cymhorthydd Addysg Arbennig yn gweithio o dan arweiniad yr athro/athrawes ddosbarth. Mae’r cymhorthydd yn cefnogi plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol yn wythnosol yntau o fewn y dosbarth neu mewn parau/grŵp bach oddi allan. Gall rhieni weld y polisi Anghenion Dysgu Ychwanegol a thrafod cynlluniau addysgol eu plant ar unrhyw adeg. Gweler taflen gwybodaeth Addysg Dysgu Ychwanegol i’r rhieni.

Gwybodaeth Pellach

Addysg Grefyddol

Nid yw'r ysgol yn dal cysylltiad uniongyrchol a ffurfiol ag unrhyw enwad crefyddol, ond gwahoddir gweinidogion/offeiriaid yr ardal i'r ysgol yn achlysurol i annerch y plant. Cynhelir gwasanaethau'n ddyddiol ac mae'r dosbarthiadau yn eu tro yn cynnal y gwasanaethau ar ddydd Gwener.

Mae addysg grefyddol ar daflen amser y dosbarthiadau a disgwylir i'r plant gymryd rhan yn y gwersi a'r gweithgareddau. Dim ond drwy anfon llythyr i'r ysgol gellir gwneud trefniadau ar gyfer plant nad yw eu rhieni am iddynt fynychu'r gwasanaethau a'r gwersi.

Addysg Gorfforol

Disgwylir i bob disgybl gymryd rhan mewn Addysg Gorfforol a chwaraeon. Mae angen llythyr o'r cartref os yw plentyn i gael ei esgusodi am unrhyw reswm arbennig yn gysylltiedig â iechyd.

Cynhelir y Mabolgampau blynyddol yn ystod Tymor yr Hâf ac mae'r plant yn cystadlu i ennill pwyntiau i'w tai - Arthur, Glyndŵr, Llywelyn.

Bydd plant Cyfnod Allweddol 2 yn cystadlu yng ngemau cynghrair yr ardal megis pêl-droed/rygbi/pêl-rwyd a chystadlaethau'r Urdd.

Rydym yn canolbwyntio ar y sgiliau safonol yn ein gwersi Addysg Gorfforol, ond ceir clybiau pêl rwyd, pêl droed, rygbi, athletau, dawns a.y.y.b. ar ôl oriau ysgol. Defnyddir hyfforddwyr proffesiynol i gefnogi gwaith staff yr ysgol.

Gwaith Cartref

Gosodir gwaith cartref yn ôl polisi’r ysgol ac ewyllys yr athro/athrawes ac sy’n cyd-fynd ac anghenion y plant.

Anogir y rhieni i ddarllen i'w plant gartref ac i helpu'r plant eu hunain i ddarllen llyfrau a anfonir adref o'r ysgol. Mae gan bob plentyn record darllen cartref/ysgol a gofynnir i'r rhieni ysgrifennu sylwadau ynglŷn â'r hyn y mae eu plant yn darllen gartref.

Mae croeso i rieni drafod unrhyw ran o waith eu plentyn a bydd yr athro/athrawes yn fodlon bob amser i drefnu amser addas i wneud hyn.

Adroddiadau

Mae adroddiad disgybl ar ffurf proffil yn cael ei baratoi gan bob athro/athrawes dosbarth tua diwedd y flwyddyn ysgol a gall rhieni drafod hwn hefyd yn ystod y drydedd Noson Agored. Mae rhieni hefyd yn derbyn adroddiad ysgrifenedig ganol flwyddyn ym mis Chwefror, a gall rieni eu trafod yn ystod yr ail dymor (Noson Agored).

Nosweithiau Agored

Mae nosweithiau agored yn cael eu trefnu tair gwaith y flwyddyn - y cyntaf ar ddechrau'r Flwyddyn Academaidd, yr ail hanner ffordd drwy'r flwyddyn ac wedyn ar ddiwedd y flwyddyn. Caent eu cynnal mewn sawl ffurf - yn rhithiol, dros School Cloud, yn wyneb wrth wyneb. Mae hyn er mwyn hwylsuo trefniadau i rieni ac wrth ymateb i adborth rhieni.

Yn ystod y cyntaf o'r rhain ym mis Medi caiff y rhieni y cyfle i gyfarfod â’r athrawon i gael sgwrs gyffredinol am raglen gwaith y dosbarth am y flwyddyn. Yn y ddwy noson agored eraill caiff y rhieni os dymunant, amser penodedig i edrych ar waith eu plant a thrafod hyn yn llawn gyda'r athro/athrawes dosbarth. Os, er hynny, bydd pryderon yn codi ar unrhyw adeg ac ar unrhyw agwedd o fywyd ysgol, cysylltwch â ni ar unwaith os gwelwch yn dda, fel y gellir gwneud trefniadau i gael sgwrs.

Presenoldeb 2023-24

Canran presenoldeb yr ysgol am y flwyddyn gyfan - 92.6%

CREATED BY
Mr Rhys Griffith

Credits:

Created with images by M.studio - "fruit salad" • Andrii Yalanskyi - "Boss holding a red umbrella and defending his team with a gesture of protection. Life insurance. Customer care, care for employees. Security and safety in a business team. Selective focus"