Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern
GWELEDIGAETH Y CLWSTWR
Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.
Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.
Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.
Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.
Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.
Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.
Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.
Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.
Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.
Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.
Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.
Uned 1
Dociau Caerdydd 1839
Ardal amaethyddol gyda 1,500 o boblogaeth oedd Caerdydd cyn 1839. Yn y flwyddyn 1839 fe fuddsoddodd teulu’r Bute arian mawr yn adeiladu dociau cyntaf y bae yn ein dinas. Yn yr uned hon bydd ein disgyblion yn gweld pa mor allweddol oedd dyfodiad y dociau ar ein prifddinas heddiw. Yn ystod yr uned hon hefyd byddant yn gweld sut mae dyfodiad y dociau wedi llywio cymunedau’r brifddinas a bod hyn yn parhau i’w gweld hyd heddiw.
Beth oedd effaith dyfodiad y dociau ar gymunedau Caerdydd?
Cynnwys yr Uned:
Sefydlu a datblygu’r Dociau
Mewnforio ac Allforio
Hanes Trebiwt
Cymunedau’r Bae
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Betty Campbell
Shirley Bassey
Teithiau a Phrofiadau
Bae Caerdydd ac Amgueddfa Caerdydd
Mis Hanes Pobl Dduon
Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth
Prosiect Celfyddydol "Dinas ar Daf"
Celf: Gwaith Tecstiliau
Cerddoriaeth: Dadansoddi, cyfansoddi a pherfformio.
Ffilm: Creu ffilm
Uned 2
Tegwch, Cydraddoldeb a Pharch
Rhaid i unrhyw gymdeithas sydd yn un cynhwysol fod yn seiliedig ar nifer o agweddau.
Parch at yr holl hawliau dynol a rhyddid sylfaenol
Amrywiaeth ddiwylliannol a chrefyddol
Cyfiawnder cymdeithasol ac anghenion arbennig grwpiau bregus a difreintiedig.
Cyfranogiad democrataidd a rheolaeth y gyfraith.
Ydy hyn wedi bod yn wir yn ein cymdeithas leol ni? Ydy hyn yn wir yn rhyngwladol?
Sut allwn ni sicrhau cydraddoldeb i bawb yn ein cymdeithas?
Cynnwys yr Uned:
Beth yw cydraddoldeb a hiliaeth?
Terfysgoedd Hil Caerdydd 1919
Ymgyrchwyr hil a chydraddoldeb adnabyddus hanesyddol
Ymgyrchwyr hil a chydraddoldeb cyfoes
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Martin Luther King
Rosa Parks
Jessica Dunrod
Amanda Gorman
Marcus Rashford
Stormzy.
Teithiau a Phrofiadau
Ymweliad Blwyddyn 6 gyda Llangrannog
Hanner Tymor 3
Y Blaned neu Blastig?
“Nid dewis yw byd di-lygredd plastig ond ymrwymiad i fywyd ac ymrwymiad i’r genhedlaeth nesaf.” Yn yr uned hon bydd y disgyblion yn ymchwilio i effaith ar blastig ar ein planed.
Beth yw heriau mwyaf ein moroedd/cefnforoedd?
Cynnwys yr Uned:
Adnabod cefnforoedd a moroedd mawr y byd.
Beth yw effaith a pheryglon cynhesu byd eang ar ein moroedd/cefnforoedd ac ar Gaerdydd?
Llygredd Plastig - Beth yw effaith hyn ar anifeiliaid y mor, ein traethau ac ar bobl?
Cymryd rhan mewn ymgyrch o lanhau e.e casglu sbwriel, mynd i’r traeth i godi sbwriel/ edrych ar effeithiau plastig ar ein traethau/parciau.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
David Attenbrough
Teithiau a Phrofiadau
Ymweld a thraeth lleol.
Prosiect Celfyddydol: "O dan y mor"
Celf: Creu "Collage / Murlun o ddeunyddiau plastig.
Cerddoriaeth: Gwerthuso, gwrando a chyfanoddi.
Dawns: "Dawns y Mor"
Hanner Tymor 4
Natur a Ni
Mae byd natur yn rhywbeth y mae dirfawr ei angen arnom mewn dinasoedd ar gyfer pethau fel draenio dŵr glaw a thymheru’r gwres. Mae coed yn darparu aer glanach, mae gwenyn yn peillio blodau, ac mae gwyrddni wedi'i brofi i fod yn dda i'n lles. O ran hyn mae natur yn cefnogi iechyd a lles y bobl sy'n byw mewn dinasoedd, gan gynnig buddion fel lleihau straen a chyfleoedd ar gyfer cysylltiad cymdeithasol.
Amcan yr uned hon yw i’r disgyblion feddwl am ffurf o ddenu mwy o natur i dir yr ysgol ac i’n hardal leol.
Sut allwn ddenu mwy o natur i dir yr ysgol ac i’n hardal leol?
Cynnwys yr Uned:
Pa gynefinoedd amrywiol sydd yn ein hardal leol?
Pa blanhigion ac ecosystemau sydd ar dir ein hysgolion? Parciau lleol? Ein cymuned?
Cydweithio gyda asiantaethau e.e RSPB, Cadw yr ardal penodol yn daclus.
Mynd ati i greu cynefinoedd a chartrefi i fywyd gwyllt ar dir ein hysgol.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Iolo Williams
Adam yn yr Ardd
Teithiau ac Ymweliadau
Safle'r ysgol, parciau lleol, cymuned yr ysgol.
Hanner Tymor 5
Gwlad! Gwlad!
Yng Nghymru a Phrydain rydym yn ffodus iawn o gael yr hawl i bledleisio er mwyn lleisio ein barn ar yr hyn yr ydym yn ei gredu. Trwy bleidleisio, rydym yn ychwanegu ein llais at y corws sy'n ffurfio barn a'r sail ar gyfer gweithredoedd.
Amcan yr uned hon yw i’r disgyblion ddysgu am hanes y bleidlais, pam fod pledleisio yn bwysig, ac i ddeall sut mae democratiaeth yn gweithio.
Pam fod pleidleisio’n bwysig?
Cynnwys yr Uned:
Hanes Cwm Tryweryn a Capel Celyn
Datganoli - Beth mae hyn yn ei olygu i Gymru ac i ni.
Pleidiau Gwleidyddol Cymru
Cynnal etholiad ysgol a chreu pleidiau a maniffesto.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Gwynfor Evans
Eileen Beasley
Prosiect Celfyddydol: "Cofiwch Dryweryn"
Drama: Perfformiad o brotestr Tryweryn.
Celf: Modelau 3D/Cerfluniau
Hanner Tymor 6
Croeso i'r Bae
Ers 1987 mae Bae Caerdydd wedi cael ei ail ddatblygu ac wedi ei weddnewid yn llwyr. Yn y blynyddoedd nesaf mae cynlluniau cyffrous ar droed i ddatblygu yr ardal hyn hyd yn oed ymhellach gyda datblygiadau pellach megis arena dan do newydd sbon, gwestai newydd, amgueddfeydd, swyddfeydd, sgwar ganolog, fflatiau a gorsaf metro. Dyma un o brif atyniadau ein dinas.
Sut allwn ddenu ymwelwyr ledled y byd i Fae Caerdydd?
Cynnwys yr Uned:
Edrych ar adeiladau mwyaf nodweddiadol y Bae e.e gwestai, tai bwyta, llefydd adloniant.
Sut allwn ni farchnata'r Bae a chreu hysbyseb a phecyn gwyliau i ymwelwyr?.
Teithiau a Phrofiadau
Visit Cardiff
Ymweld a lleoliadau amrywiol yn y Bae.
Prosiect Celfyddydol
Creu hysbyseb ar Fae Caerdydd drwy "Adobe Spark"