Cam Cynnydd 1
Wythnos Lles / Well-being Week
Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy
Ym Mlwyddyn 1, rydym wedi astudio nifer o feysydd Mathemategol yn ystod y tymor. Edrychon ni ar siapiau 3D, cynhwysedd, gwaith arian ac amser. Parhawyd i ymarfer sgiliau adio a thynnu./ In Year 1, we studied a number of different Mathematical concepts during the term. We looked at 3D shapes, capacity, money matters and time. We also continued to practice our addition and subtraction skills.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology
Cynhaliodd Blwyddyn 3 arbrawf i weld beth fyddai’n digwydd wrth ychwanegu lliw bwyd a hylif golchi llestri at laeth. Gwnaeth yr hylif golchi llestri cymysgu gyda'r braster yn y llaeth ac mae'r lliw bwyd yn cael ei wasgaru allan tuag at ochr y bowlen.
Year 3 conducted an experiment to see what would happen when adding food colouring and washing up liquid to milk. The washing up liquid mixed with the fat in the milk and spread the food colouring out towards the side of the bowl.
Dydd Miwsig Cymru
Dydd Santes Dwynwen
Dyniaethau / Humanities
Eisteddfod yr Ysgol / School Eisteddfod
Am ddiwrnod yn dathlu bod yn Gymry ar Ddydd Gwyl Dewi. Mae plant Cam Cynnydd 2 wedi bod yn ymarfer ar gyfer Eisteddfod yr ysgol dros y pythefnos diwethaf a heddiw buont yn perfformio o flaen eu cyfoedion. Da iawn bob un ohonoch. Roedden nhw i gyd wedi mwynhau. / What a day celebrating being Welsh on St David’s Day. Progression Step 2 children have been practicing for the school Eisteddfod over the last two weeks and today they performed in front of their peers. Well done each and everyone of you. They all enjoyed.
Cam Cynnydd 3
Blasu bwydydd o ar draws y byd ym mwyty ‘Nines’ / Tasting foods from around the world at ‘Nines’ restaurant
Gwnaeth disyblion Cam Cynnydd 3 fwynhau blasu bwyddydd o ar draws y byd heddiw ym mwyty ‘Nines’. Roedd y plant wrth eu bodd yn blasu amrywiaeth o fwydydd, megis – cyri, pitsa, bwydydd môr ac ati. Cafodd y plant ddiwrnod i’r brenin!
Progression 3 pupils enjoyed tasting food from around the world today in the ‘Nines’ restaurant. The children loved tasting a variety of foods, such as – curry, pizza, seafood etc. They all thoroughly enjoyed!
Ymweliad i’r llyfrgell / Visit to the library
Diwrnod E-Diogelwch / Internet Safety Day
Pencampwyr y Sir! Cwis Dim Clem /County Champions! ‘Dim Clem’ Quiz
Bu tîm cwis yr ysgol yn cystadlu yn y cwis ‘Dim Clem’. Profodd y cwis eu gwybodaeth ar lawer o wahanol bynciau. Roedd yn rhaid iddynt ddatrys problemau mathemategol, rownd gwybodaeth gyffredinol a rownd daearyddiaeth. Roedd y rowndiau hyn i gyd yn seiliedig ar thema Cymru. Cystadlodd y tîm yn erbyn holl ysgolion Cymraeg Abertawe a daethant yn fuddugol. Maen nhw bellach wedi symud ymlaen i gynrychioli sir Abertawe yn y rownd nesaf. Camp wych.
Dathliadau Dydd Gwyl Dewi / St. David's Day celebrations
Am ddiwrnod yn dathlu bod yn Gymry ar Ddydd Gwyl Dewi. Mae plant Cam Cynnydd 3 wedi bod yn ymarfer ar gyfer Eisteddfod yr ysgol dros y pythefnos diwethaf a heddiw buont yn perfformio o flaen eu cyfoedion. Da iawn bob un ohonoch. Roedden nhw i gyd wedi mwynhau.
What a day celebrating being Welsh on St David’s Day. Progression Step 3 children have been practicing for the school Eisteddfod over the last two weeks and today they performed in front of their peers. Well done each and everyone of you. They all enjoyed.
Diwrnod y llyfr / World book day
Roedd plant cam cynnydd 3 wedi dathlu diwrnod y llyfr trwy groesawu'r awdur Lee Newbery i'r ysgol i drafod ei lyfr 'Y llwynog tan olaf'. Cafodd y plant cyfle i holi'r awdur a chymryd rhan mewn gweithdy. Yn y prynhawn roedd gweithdy gyda chwmni DarllenCo ar sut i arlunio ar gyfer llyfrau.
The children of progression step 3 celebrated world book day by welcoming the author Lee Newbery to discuss his book 'The last Firefox'. The children had the opportunity to ask Lee questions about the book and take part in a workshop. In the afternoon the children took part in a workshop with DarllenCo on how to illustrate for books.
Ymweliad preswyl Pentre Ifan / Pentre Ifan residential visit.
Gwnaeth disgyblion blwyddyn 5 fwynhau amrywiaeth o weithgareddau yn ystod eu hymweliad â Chanolfan Yr Urdd Pentre Ifan. Gwnaethon nhw gael cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai gwahanol megis – gweithdy ffasiwn gynaliadwy, gweithdy milltiroedd bwyd, gweithdy gwastraff a gweithdy myfyrdod. Yn ystod yr ymweliad, gwnaeth y disgyblion gwblhau taith gerdded er mwyn dysgu am greaduriaid y nos. Defnyddiodd y plant dechnoleg newydd sef golau biofflworoleuol er mwyn gweld bywyd natur y fel byddai creaduriaid y nos yn eu gweld. Gwnaeth y plant fwynhau’r daith gerdded o dan y sêr er mwyn dysgu am y sêr. Cafodd y plant lawer o hwyl a sbri yn ystod y tridiau prysur – atgofion i’w drysori.
Year 5 pupils enjoyed a variety of activities during their visit to Yr Urdd Centre Pentre Ifan. They had the opportunity to take part in different workshops such as – a sustainable fashion workshop, a food miles workshop, a waste workshop and a meditation workshop. During the visit, the pupils completed a walking tour to learn about creatures of the night. The children used biofluorescent light technology light in order to see nature’s life as nocturnal creatures would see them. The children enjoyed the walk under the stars to learn about the stars. The children had a lot of fun and excitement during the busy three days – memories to treasure.
Prosiectau rhyfeddodau'r Byd / Wonders of the world project.
Parti unsain yn cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd / Parti unsain competing in the Urdd.
Roedd grwp o blant cam cynnydd 3 wedi cystadlu yn nghystadleuaeth yr Urdd yn y parti unsain. Roedd yn bleser gwylio'r plant yn canu a chymryd rhan. / A grwp of children in progression step 3 competing in the Urdd competition in the parti unsain. What a pleasure to see the children compete in this years competition.
Wythnos Iechyd a Lles / Health and Well-being week.
Gorffennon ni'r tymor trwy gynnal wythnos iechyd a lles i ganolbwyntio ar iechyd a lles meddyliol a chorfforol y plant. Fel ysgol roedden ni wedi gwahodd nifer o wahanol bobl i mewn i'r ysgol i gynnal amrywiaeth eang o sesiynau gyda'r plant, sesiynau rygbi, ioga, gwasanaethau gwrth-fwlio a mwy a hefyd hyfforddiant cymorth cyntaf.
To end the term we held a health and well-being week to focus on the children's' mental and physical well-being. As a school we invited professionals into the school to hold different activities with the children, from rugby and yoga to assemblies on anti-bullying, and of course first aid training.
CYNGOR ENFYS
Yr hanner tymor yma, mae ein merched blwyddyn 4-6 wedi bod yn sortio stoc ar gyfer glasoed. / This half term, our year 4-6 girls have been sorting out stock for puberty.
Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gynllunio ar gyfer ein 'Meinciau Cyfaill' y tymor nesaf. / We are all looking forward to planning for our 'Buddy Benches' next term.
CYNGOR YSGOL
Mae'r cyngor ysgol wedi bod ati yn trafod a chynnal gwasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw, cynhalion wasanaeth am ddiwrnod y llyfr, roedd y plant wedi sôn am hanes a phwrpas y diwrnod!
The school council have been busy discussing and holding assemblies on events important to them. They held an assembly discussing world book day and the reasons and history of celebrating the day!
Cyngor eco
Dros yr wythnosau diwethaf, mae’r Cyngor Eco wedi bod yn llwyddiannus gyda’i cais am Becyn Coed Cymdeithasol o’r ‘Woodland Trust.’ Mae’r pecyn yn mynd i gynnwys 420 o goed ar gyfer YGG Tirdeunaw. Roedd rhaid ateb llawer o gwestiynau am bwrpas y coed a’i bwysigrwydd i dir yr ysgol. Mae’r coed yn ein cyrraedd ni ym mis Tachwedd!
Over the last weeks, the Eco Council have been successful with their Community Tree Pack application to the Woodland Trust. The pack is going to include 420 trees for YGG Tirdeunaw. We had to answer many questions about the purpose of the trees and their importance to the school grounds. The trees are going to arrive in November!