Tafod Tirdeunaw Rhifyn 16 ~ Rhagfyr 2025

Cam Cynnydd 1

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Bu'r dosbarth Derbyn y brysur iawn yn dysgu am yr holl siapiodau sydd o'n amgylch./ The Reception class was very busy learning about all the shapes that surround us.
Trafod gwerth rhif a threfnu siapiau Numicon / Discussing number value and arranging Numicon shapes

Thema / Thematic

Buon ni yn dysgu am yr arwyr sydd yn byw o'n cwmpas. Fe wnaeth y plant yna creu arwr ei hunan yn seiliedig ar stori 'SUPERTATEN'/We learned about the heroes in our area. The children then created their own hero based on the story of 'SUPERTATEN'
Dyma'r plant yn arddangos ei gwaith a chreuwyd a ddiwrnod arwyr. / Here are the children displaying their work from our 'Heroes day. 
I ddathlu ein dysgu ar ddiwedd y tymor cafon ni ddiwrnod hwylus yn gwisgo fel ein hoff arwyr./ To celebrate our learning at the end of the term we had a fun day dressing up as our favorite heroes.
Yr Hydref / Autum
Mi wneathon ni ddathlu 'rhoi carden coch i hiliaeth' y tymor yma.
Fe wnaethon ni ddysgu a cofio am y milwyr
Yn ystod ein gwersi Gwyddoniaeth y tymor yma fe wnaethom ymchwil i ddarganfod pa eitemau sydd yn galla arnofio yn y dŵr./ During our Science lessons this term we did research to find out which items can float in water.
Creu map trysor i gyd-fynd gyda stori am y for-leidr Barti Ddu gan T Llew Jones / We made a treasure map after having the story about the pirate 'Barti Ddu' by the author T Llew Jones

Mercher Mwdlyd

Cam Cynnydd 2

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Fel rhan o'n hwythnos ysbrydoliaeth, ymwelsom â Rheilffordd Gwili lle teithiom ar drên stêm. Roedd yn hyfryd! Dysgon ni am sut roedd y post yn cael ei ddosbarthu gan ddefnyddio'r rheilffordd a sut mae trafnidiaeth rheilffordd wedi newid dros y blynyddoedd. / As part of our inspiration week, we visited Gwili Railway where we travelled on a steam train. It was wonderful! We learnt about how the post was delivered using the railway and how rail transport has changed over the years.

Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i brofi siwrnai ar hen dren. Roedd pawb yn llawn cyffro ac yn methu aros i gael y profiad. / Year 1 had the opportunity to experience a journey on an old train. Everyone was full of excitement and could not wait for the experience!

Dyma Blwyddyn 1 yn aros yn frwdfrydig am eu tro ar y tren. Year 1 waiting enthusiastically for their turn on the train.

Blwyddyn 1 yn mwynhau cael eu brechdanau yn yr haul! Am braf! Year 1 eating their lunchboxes in the sun! Lovely!

Blwyddyn 2 Mrs Davies yn barod am y daith. / Mrs Davies' Year 2 ready for the journey.
Hwyl a sbri ar y trên bach. / Fun on the littl;e train.
Fe wnaethon ni helpu i bostio llythyrau yn y cerbyd post. / We helped to post letters in the mail carriage.
Rheilffordd Gwili / Gwili Railway
Fe wnaethon ni fwynhau ein picnic ar y trên yn fawr iawn. / We thoroughly enjoyed our picnic on the train.
Roedd pawb o ddosbarth Miss Rees yn gyffrous i gyrraedd Rheilffordd Gwili. / Everyone from Year 2 Miss Rees were excited to arrive at the Gwili Station.
Gwnaethom ddysgu llawer am deithio amser maith yn ol. / We learnt a great deal about train travel a long time ago.
Edrychwch arnom ni! / Look at us!
Gwnaethom weld hen drenau. / We saw many old trains in the station.
Gwnaethom fwynhau teithio ar y tren yn fawr iawn. Roedd fel y tren yn ffilm Harry Potter. / We loved travelling on the train. It was like the train in the Harry Potter film.

Blwyddyn 3 wedi mwynhau teithio ar yr hen drên stêm. Cafwyd y profiad o aros am y trên yn y swyddfa docynnau bach a gweld yr hen gesys. Dysgwyd am sut mae trenau wedi datblygu dros y blynyddoedd. / Year 3 have enjoyed travelling on the old steam train. They had the experience of waiting for the train in the little ticket office and seeing the old suitcases. They learned about how trains have developed over the years.

Gwnaethom ddysgu llawer am y gwahanol mathau o drafnidiaeth wrth ysbrydoli'r thema. / We learnt a great deal about a variety of vehicles when being inspired about the theme.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Blwyddyn 1 yn ymarfer ffurfio synnau a geiriau Tric A Chlic tu allan gan ddefnyddio sialc. / Year 1 practicing forming letter sounds and words outside using chalk.
Mwy o luniau Blwyddyn 1 yn ffurfio ac yn creu geiriau Tric a Chlic. / More photos showing Year 1 forming Tric a Chlic words.
Blwyddyn 3 yn ymarfer sgiliau Lythrennedd a Chyfarthrebu:  Darllen - Gwrando - Sillafu. Da iawn chi!  / Year 3 preaticing their Literacy and Communication skills: Reading - Listening - Spelling. Well done you!
Diwrnod Roald Dahl

Ar gyfer Diwrnod Roald Dahl fe wnaethon ni wisgo fel ein hoff gymeriad llyfr. Fe wnaethon ni gwblhau llawer o weithgareddau hwyliog yn ymwneud â Roald Dahl a'i lyfrau. / For Roald Dahl Day we dressed up as our favourite book character. We completed many fun activities regarding Roald Dahl and his books.

Blwyddyn 1 Miss Jones / Miss Jones's Year 1 class
Blwyddyn 2 Mrs Davies / Mrs Davies' Year 2 class.
Blwyddyn 3 - Adnabod nodweddion clawr llyfr ar ddiwrnod Roald Dahl. / Year 3 - Identify the key features of a book cover on Roald Dahl day.
Gwnaeth Blwyddyn 1 ddathlu Diwrnod T. Llew Jones drwy edrych ar odl syml a chyfateb y lluniau yn gywir. / Year 1 celebrated T. Llew Jones Day by looking at simple rhyming words and matching the pictures.
Gwnaeth Blwyddyn 2 Miss Rees ddathlu Diwrnod T. Llew Jones wrth ddysgu am ei hanes ac actio y darn barddoniaeth 'Noson Tan Gwyllt.' / Year 2 Miss Rees celebrated T. Llew Jones Day by learning about his life and acting out his poem 'Guy Fawlkes Night.'
Diwrnod Shwmae

I ddathlu Diwrnod Shwmae fe wnaethon ni i gyd wisgo coch. / To celebrate Shwmae Day we all wore red.

Dathlu Diwrnod Shwmae/Sutmae Bl 1 Miss Jones / Year 1 Miss Jones celebrating Shwmae/Sutmae Day
Blwyddyn 2 Mrs Davies / Mrs Davies' Year 2 class.
Ymweld â Llyfrgell Penlan / Visiting Penlan Library

Yn ystod yr hanner tymor hwn rydym wedi ymweld â'r llyfrgell lle rydym wedi gwrando ar wahanol straeon sy'n gysylltiedig naill ai â'n thema neu â gwahanol awduron. / During this half term we have visited the library where we have listened to various stories associated with either our theme or different authors.

Gwnaeth Blwyddyn 2 Miss Rees gael amser arbennig yn Llyfrgell Penlan. Cawsom gyfle i edrych ar y llyfrau, darllen a gwrando ar straeon. Diolch i Jodi a Lynnette am y croeso. / We had a wonderful time in Penlan Library. We had a chance to read, look at books and listen to stories. Thank you Jodi and Lynnette for the welcome.
Blwyddyn 3 yn ymweld â Llyfgell Penlan ac yn cael y cyfle i fenthyg llyfr o'u dewis. / Year 3 visting Penlan Library and having the opportunity to borrow a book of their choice.

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Dyma Blwyddyn 1 wedi creu gwahanol fathau o drafnidiaeth allan o siapiau 2D. / Year 1 created different kinds of vehichles by using 2D shapes.
Dyma Blwyddyn 1 yn chwarae gemau tynnu mewn parau i weld pa mor gyflym mae'r bws yn medru cyrraedd pen y daith gan ddefnyddio brawddegau rhif tynnu syml. / Year 1 playing a game in pairs to see how quickly the bus can reach it's destination by using simple number subtraction sentences.
Ar ddechrau'r tymor yn nosbarth Blwyddyn 2 Mrs Davies, fe wnaethon ni ymarfer ffurfio rhifau hyd at 100. / At the beginning of term in Mrs Davies' Year 2 class, we practiced out number formation to 100.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Ym Mlwyddyn 1, ein thema gwyddonol y tymor yma oedd grymoedd. Buom yn ehangu ein geirfa ac yn dangos yn ymarferol sut i dynnu a gwthio. / Our theme this term in Year 1 was forces. We extended our vocabulary and showed everybody how to make pulling and pushing actions.
Ein thema ym Mlwyddyn 1 y tymor yma oedd grymoedd. Dyma ni yn dangos yn ymarferol sut i wthio/tynnu. / Our theme in Year 1 this term was forces. Here we show in practice how to push/pull.
Cawsom gyfle ym Mlwyddyn 1 i gynnal arbrawf i weld pa ddefnydd byddai orau i'r car deithio i lawr y ramp. Gwnaethom rhagfynegi yn gyntaf a gwnaethom sicrhau prawf teg. Cynhaliwyd yr arbrawf a daethom i gasgliadau unfrydol. Gosodwyd y canlyniadau mewn ffurf graff. / Year 1 had the opportunity to take part in a scientific experiment to decide which material was best for the car to travel down the ramp. We gave a prediction and followed a fair test. We all came to an unanimous decision. We created a graph to show our findings.
Cafodd Blwyddyn 1 Miss Evans y cyfle i gynnal arbrawf er mwyn gweld pa ddefnydd byddai orau wrth i'r car deithio lawr y ramp. Cafodd y disgyblion gyfle i ragfynegi ac yna cymryd rhan yn y gweithgaredd. Roedd y disgyblion wedi creu graff bar er mwyn dangos pa mor bell oedd y car wedi teithio ar y defnyddiau gwahanol, ac er mwyn i ni allu cymharu'r data. / Year 1 had the opportunity to complete a scientific experiment to decide which material was best for the car to travel on. The pupils had the opportunity to predict and then take part in the activity. The pupils had created a bar graph to show how far the car had travelled on the different materials, so that we could compare the data.
Fe wnaethon ni adeiladu cychod papur i ddosbarth blwyddyn Mrs Davies ac arbrofi i weld a fydden nhw'n arnofio neu'n suddo. Roedden ni i gyd yn lwcus iawn oherwydd roedden nhw i gyd yn arnofio. / We built paper boats in Mrs Davies' Year class and experimented to see if they would flooat or sink. We were all very lucky because they all floated.

Fel rhan o'n harbrawf gwyddonol ym Mlwyddyn 2, roedd yn rhaid i ni weld a fyddai wyneb y ramp yn effeithio ar ba mor bell y byddai'r car yn teithio i lawr y ramp. Roedd ein rhagfynegiadau'n gywir, teithiodd y car bellaf ar yr wyneb pren llyfn. / As part of our scientific experiment in Year 2, we had to see whether the surface of the ramp would effect how far the car would travel down the ramp. Our predictions were correct, the car travelled furthest on the smooth wood surface.

Gwnaeth Blwyddyn 2 Miss Rees ddysgu llawer am y gwahanol rymoedd sydd o'n cwmpas wrth arbrofi. / We learnt many new words to do with 'Forces' and experimented with a variety of different forces.
Gwnaethom rhagfynegi ac arbrofi i weld a yw car yn teithio'n gyflymach dros arwyneb garw neu lyfn. Buom yn mesur a chofnodi. / We predicted and experimented to see if a car travels faster on a rough or smooth surface. We measured and noted our results.

Blwyddyn 3

Yr ymchwiliad gwyddonol y tymor hwn oedd yn ymwneud â grymoedd ac onglau. Eu cwestiwn ymchwilio oedd: A yw ongl ramp yn effeithio ar ba mor bell fydd car yn teithio? Roedd y rhan fwyaf o’u rhagfynegiadau yn anghywir, a phrofwyd mai ongl rhwng 30° a 50° oedd orau. / This term’s science investigation was all about forces and angles. Their investigation question was: Does the angle of a ramp affect how far a car will travel? Most of their predictions were incorrect, and it was proven that an angle between 30° and 50° was best.

Mesur gyda onglydd. / Measure with a protractor.
Mesyr y pellter / Measure the distance

Prosiect Dylunio a Thechnoleg Blwyddyn 3

Cafodd Blwyddyn 3 y cyfle i ddylunio, creu a gwerthu cynnyrch fel rhan o’r prosiect cyffrous hwn. Roedd y broses yn cynnwys defnyddio llif chomp, a oedd pawb yn ei fwynhau er ei fod yn heriol. Da iawn Blwyddyn 3! / Year 3 were given the opportunity to design, create and sell a product as part of this exciting project. The process involved using a chomp saw, which everyone enjoyed but found challenging. Well done Year 3!

Y Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Blwyddyn 1 yn mwynhau yn y sesiwn ganu. / Year 1 enjoying in their singing session.
CC2 yn mwynhau eu sesiwn ganu wythnosol / PS2 enjoying their weekly singing session
Dyma Blwyddyn 1 yn creu lluniau hydrefol allan o sialc. / Year 1 creating autumnal pictures out of chalk.
Blwyddyn 1 yn creu ein calendrau lliwgar allan o baent. / Year 1 creating their calendars out of paint.
Gwnaeth y dosbarth fwynhau gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth yn ystod y tymor gan gynnwys cyngerdd arbennig gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. / Year 2 Miss Rees have enjoyed listening to a variety of music including a concert by the BBC National Orchestra of Wales.

Blwyddyn 3 - Gwersi dawns wythnosol gyda'r gôl o greu dawns ar y thema teithio. / Year 3 Weekly dance lessons with the aim of creating a dance on the theme travel.

Blwyddyn 3 wedi bod yn paentio blodau a baneri o wledydd eraill ar ddiwrnod Rhyngwladol. / Year 3 have been painting flowers and flags from diferent countries on International day.
Lliwgar iawn / Very colourful
Rydyn ni wedi mwynhau creu ein cardiau addurniadau 3D yn fawr iawn ym mlwyddyn 2 Mrs Davies. / We have thoroughly enjoyed creating our 3D bauble cards in Mrs Davies' year 2 class.

Sioe Nadolig / Christmas Show

Gobeithiwn i gyd eich bod wedi mwynhau ein sioe Nadolig 'Y Grinch' yn fawr iawn. / We all hope you thoroughly enjoyed our christmas show 'The Grinch'.

Dyma ni yn barod i'r sioe. / Here we are ready for the show.
Blwyddyn 1 Miss Evans yn barod i ein Sioe Nadolig 'Y Grinch'. / Year 1 ready for the Christmas show 'Y Grinch'.

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Dyma Blwyddyn 1 yn cynnal sesiwn ymarfer corff egniol yn y neuadd ac yn chwarae gemau buarth i hybu cymreictod. / Year 1 taking part in an energetic P.E session in the hall and playing games to promote the Welsh language.
Blwyddyn 1 yn cynnal sesiwn ioga ymlaciol yn y dosbarth. / Year 1 taking part in a relaxing yoga session.

Dyma ni'n mwynhau sesiwn ioga ymlaciol yn nosbarth Blwyddyn 2 Mrs Davies. / Here we are enjoying a relaxing yoga session in Mrs Davies' Year 2 class.

Dyniaethau / Humanities

Dyma Blwyddyn 1 yn dysgu am bwysigrwydd masnach deg. Cawsom gyfle i flasu cynhyrchion a thrafod pwysigrwydd y logo a'i ddarganfod yn yr archfarchnad. / Year 1 had the opportunity to learn about the importance of fairtrade. We tasted various products and learnt about the logo and how to spot it in the supermarket.
Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i ddysgu am arwyddocad Diwrnod y cofio a phwysigrwydd y pabi coch. / Year 1 had the opportunity to learn about the significance of the red poppy on Rememberance Day.
Cafodd Blwyddyn 1 Miss Evans y cyfle i greu pabi ar Ddiwrnod y Cofio. /Year 1 Miss Evans had the opportunity to create a poppy on Remembrance Day.
Dyma ni'n dangos ein logos ar ôl dysgu am Fasnach Deg. / Here we are showing off our logo's after learning about Fair Trade.
Gwnaethom ddysgu am fywyd teg ac anheg er mwyn deall pam fod Masnach Deg mor bwysig. / We learnt about what is fair and unfair so that we could appreciate the importance of Fair Trade.
Gwnaethom ddefnyddio ein sgiliau meddwl er mwyn datrys pos Masnach Deg. / We used our thinking skills to solve a Fair Trade puzzle.
Gwnaeth CC2 ddysgu am ein byd wrth wrando ar Steff a Ruby yn siarad am eu taith anhygoel o rwyfo ar draws Mor yr Iwerydd. Anhygoel! / We were fascinated to learn about Ruby and Steff's amazing adventure as they spoke about their adventure of rowing across the Atlantic Ocean.
Gwnaeth Blwyddyn 2 Miss Rees ddysgu am hanes Owain Glyndwr ar Ddiwrnod Owain Glyndwr. / We learnt about Owain Glyndwr on Owain Glyndwr Day.

Teithiau Nadolig / Christmas Trips

Aeth Blwyddyn 1 ar eu trip Nadolig i Ganolfan Treftadaeth Gwyr. Gwelwyd Sion Corn a gwnaethom hudlath a photel o swynion Nadolig. Cawsom brofiad bendigedig ac hyfryd oedd profi y naws Nadoligaidd. / Year 1 went on their Christmas trip to Gower Heritage Park. We saw Father Christmas and we had the opportunity to create a magic wand and Christmas potion. We had a fantastic experience and it was lovely to experience the Christmas atmosphere.
Roedd Blwyddyn 1 wedi mwynhau ar eu hymweliad i Ganolfan Treftadaeth Gwyr, gan gynnwys gweld Sion Corn! / Year 1 enjoyed their visit to Gower Heritage Centre, including seeing Santa!
Gwnaethom fwynhau ein taith i'r sinema i wylio Zootropolis 2. / We enjoyed our trip to the cinema to watch Zootropolis 2.

Cam Cynnydd 3

Big Pit

Mwynhau'r ymweliad i Big Pit yn ystod ein hwythnos ysbrydoli. / Enjoying the visit to Big Pit during our inspirational week.

Diwrnod Plant Mewn Angen / Children in Need Day

Ymdrech wych gan ddisgyblion CC3 i gefnogi 'Diwrnod Plant Mewn Angen'. / Excellent effort by PS3 to support 'Children in Need Day'.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Plant yn mwynhau gwasanaeth STEM ar wyddonwyr Cymraeg! / Pupils enjoying their STEM assembly on welsh scientists!
Arbrawf Gwyddoniaeth er mwyn ateb y cwestiwn 'A yw newid y pwysau'n effeithio ar rym?' / Science experiment answering the question 'Does changing weight have an effect on the force needed?'

Prosiect Dylunio a Thechnoleg

Cynllunio a chreu ein hosanau Nadolig. / Planning and beginning to make our Christmas stockings.
Brysur yn gwnïo ein hosanau Nadolig. / Busy sewing our Christmas stockings.
Rydym yn falch o'n hosanau Nadolig. / We are proud of our Christmas stockings.
Blwyddyn 4 yn creu eu hosanau Nadolig / Year 4 creating their Christmas stockings.
Mae hosanau Nadolig Blwyddyn 4 yn barod / Year 4 Christmas stockings are ready!
Blwyddyn 6 wrthi'n creu prototeip ar gyfer eu llysernau Nadolig. / Year 6 creating a prototype for their Christmas lanterns.
Blwyddyn 6 wrthi'n creu prototeip ar gyfer eu llysernau Nadolig. / Year 6 creating a prototype for their Christmas lanterns.
Blwyddyn 6 wrthi'n creu prototeip ar gyfer eu llysernau Nadolig. / Year 6 creating a prototype for their Christmas lanterns.
Blwyddyn 6 wrthi'n creu prototeip ar gyfer eu llysernau Nadolig. / Year 6 creating a prototype for their Christmas lanterns.
Blwyddyn 6 wedi gweithio'n galed er mwyn creu llysern Nadoligaidd. / Year 6 have worked hard to create a festive llysern.
Gwerthu cynnyrch Nadoligaidd. / Selling our festive lanterns.

Dyniaethau / Humanities

Mae’r plant wedi mwynhau dysgu am y pwll glo lleol sef Mynydd Newydd y tymor hwn. Maent wedi cael profiadau eang ac amrywiol: cyfleoedd i ddysgu am sut mae glo yn cael ei ffurfio, creu bas data am drychinebau erchyll yn y pyllau glo lleol, archwilio hanesion personol glowyr a’u teuluoedd, ac edrych ar arteffactau a ffotograffau hanesyddol. Bu iddynt gymharu bywyd glowyr gyda bywyd plant heddiw, trafod effaith y diwydiant ar gymunedau lleol, a chreu gwaith celf a barddoniaeth wedi’i ysbrydoli gan fywydau’r glowyr. / The children have enjoyed learning about Mynydd Newydd, the local coal mine, this term. They have had a wide and varied range of experiences: opportunities to learn about how coal is formed, create a database of horrific disasters in the local coal mines, explore personal stories of miners and their families, and examine historical artefacts and photographs. They compared the lives of miners with the lives of children today, discussed the impact of the industry on local communities, and produced artwork and poetry inspired by the miners’ experiences.

Podlediad Ysgol / School Podcast

Mae’r disgyblion wedi cael profiad cyffrous drwy greu podlediad gyda Marc Griffiths am yr ardal leol. Yn ystod y prosiect, bu iddynt ymchwilio i hanes a nodweddion eu cymuned, paratoi sgript a thrafod syniadau, cyn recordio eu lleisiau. Roedd y podlediad yn gyfle i ddatblygu sgiliau cyfathrebu, gweithio mewn tîm, a defnyddio technoleg mewn ffordd greadigol ac ystyrlon. / The pupils have enjoyed an exciting experience by creating a podcast with Marc Griffiths about the local area. As part of the project, they researched the history and features of their community, prepared a script. before recording their voices. The podcast gave them the opportunity to develop communication skills, teamwork, and to use technology in a creative and meaningful way.

Prosiect Cynefin / Cynefin Project

Daeth Dr. Gethin Matthews o Brifysgol Abertawe i siarad gyda'r plant a dewiswyd ar gyfer y Prosiect Cynefin. Prosiect am hanes, diwylliant a diwydiant Abertawe a sut ydy adeilad bioffilig yn Abertawe yn cysylltu gyda lle o fewn hanes, diwylliant a diwydiant Abertawe / Dr. Gethin Matthews from Swansea University came to speak to the pupils who were chosen to be a part of the Cynefin Project. A project about the history, culture and industry of Swansea and how the biophilic building in Swansea connects to place within the history, culture and industry of Swansea.
Teithiodd y plant o gwmpas Abertawe gyda Dr. Gethin Matthews a Sion Tomos Owen (Bardd Plant Cymru) a dysgodd y plant am hanes, diwylliant a diwydiant eu hardal leol / Pupils travelled around Swansea with Dr. Gethin Matthews and Sion Tomos Owen (Welsh-language Children’s Laureate) and the pupils learnt about history, culture and industry in their local area.
Cafodd y plant un diwrnod i feddwl am eu taith o gwmpas Abertawe a chreu murlun gyda Sion Tomos Owen am eu taith arbennig / Pupils had one day to think about their trip around Swansea and to create a mural with Sion Tomos Owen about their wonderful trip!  
Dyma'r murlun a greuwyd gan blant ar gyfer y Prosiect Cynefin / This is the mural created by the pupils for the Cynefin Project.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Yn ystod y tymor hwn, mae’r disgyblion wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau iaith a llythrennedd sy’n datblygu eu sgiliau ysgrifennu, darllen a siarad. Yn Gymraeg, buont yn ysgrifennu erthygl papur newydd am drychineb Aberfan, gan ddysgu sut i adrodd ffeithiau mewn arddull ffurfiol, ac yn dwyn i gof eu hymweliad â Big Pig drwy greu adroddiadau a thestunau adlewyrchol. Yn Saesneg, cynhaliwyd drafodaeth ar goed Nadolig, gan annog mynegi barn a defnyddio iaith berswadiol, yn ogystal â debat ar y cwestiwn “Would you rather go to school or go to work?”, a roddodd gyfle i drafod safbwyntiau gwahanol a datblygu sgiliau dadlau. / This term, pupils have taken part in a wide range of literacy and language activities. In Welsh, they wrote a newspaper article about the Aberfan disaster, developing their skills in reporting facts and presenting information formally, and they also recalled their visit to Big Pig through reflective writing. In English, they engaged in lively debates, including “Are artificial Christmas trees better for the environment than real Christmas Trees?” and “Would you rather go to school or go to work?”, which encouraged them to express opinions, listen to different viewpoints, and use persuasive language effectively.

Cwis Cymru

Blwyddyn 6 yn cymryd rhan yn y Cwis Cymru. / Year 6 taking part in a quiz based on Wales.

Gweithdy rhithiol gyda Bardd Plant Cymru / Online Workshop with the Welsh-language Children’s Laureate

Cafodd Blwyddyn 5 y cyfle i weithio gyda Sion Tomos Owen a chreu cerddi byrion eu hunain ar gyfer Ymgyrch Defnyddia dy Gymraeg a dathlu 20 mlynedd o gynllun Iaith Gwaith / Year 5 pupils had the opportunity to work with Sion Tomos Owen and create short poems for the Defnyddia dy Gymraeg (Use your Welsh) campaign and celebrate 20 years of the Iaith Gwaith Scheme. 
Roedd tair disgybl ym Mlwyddyn 5 yn YGG Tirdeunaw wedi bod yn lwcus iawn i gael eu geiriau wedi eu cyhoeddi mewn poster sydd yn cael ei ddangos ar draws Gymru gyfan. Hefyd, cafodd y disgyblion y cyfle i ddarllen y geiriau a greuwyd mewn ffilm byr gyda Sion Tomos Owen / Three pupils from Year 5 at YGG Tirdeunaw were lucky enough to have their words published on a national poster that is being shared across Wales. In addition, those lucky pupils had the opportunity to read those words and be part of a short film along with Sion Tomos Owen.

Iechyd a Lles / Health and Wellbeing

Mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi derbyn sesiwn addysgiadol gan PC George am gadw’n ddiogel ar-lein. Yn ystod y sesiwn, dysgon nhw am bwysigrwydd diogelu gwybodaeth bersonol, sut i adnabod sefyllfaoedd peryglus ar y we, a’r camau ymarferol y gallant eu cymryd i sicrhau eu bod yn defnyddio’r rhyngrwyd yn gyfrifol ac yn ddiogel. / Year 6 pupils have taken part in an educational session with PC George about staying safe online. During the session, they learned about the importance of protecting personal information, how to recognise dangerous situations on the internet, and practical steps they can take to ensure they use the web responsibly and safely.

Sioe Nadolig / Christmas Show

Eleni, bu i’r disgyblion berfformio’r sioe Nadolig “Y Dyn Blin”, sef addasiad creadigol ar stori glasurol Scrooge. Roedd y cynhyrchiad yn llawn hiwmor, cerddoriaeth a neges bwerus am dosturi a chyfeillgarwch. Bu’r plant yn dangos eu doniau actio, canu a dawnsio, gan greu awyrgylch arbennig o Nadoligaidd a chodi calon pawb a ddaeth i’w gweld. / This year, pupils performed the Christmas show “Y Dyn Blin”, a creative adaptation of the classic Scrooge story. The production was full of humour, music, and a powerful message about kindness and friendship. The children showcased their talents in acting, singing, and dancing, creating a festive atmosphere that lifted the spirits of everyone who came to watch.

Y Pantomeim / The Pantomime

Mae’r plant wedi mwynhau pantomeim Aladin yn fawr iawn y tymor hwn. Roedd y sioe yn llawn hiwmor, cerddoriaeth a chymeriadau lliwgar, gan greu awyrgylch hudolus o Nadolig. Cafodd y disgyblion gyfle i chwerthin, canu gyda’r perfformwyr ac ymgolli yn y stori glasurol, gan wneud profiad cofiadwy i bawb. / The children thoroughly enjoyed the Aladdin pantomime this term. The show was full of humour, music, and colourful characters, creating a magical festive atmosphere. Pupils had the chance to laugh, sing along with the performers, and immerse themselves in the classic story, making it a memorable experience for all.

Cystadleuaeth TT Rocks / TT Rocks Competition

Disgyblion yn mwynhau cystadlu yn y gystadleuaeth TTRockstars. / Pupils enjoying the TTRockstars competition.

CYNGOR ENFYS

Criw o ddisgyblion ydym ni sydd wedi cael eu hethol gan ein cyd-ddisgyblion i gynrychioli eu llais yn ystod cyfarfodydd ysgol. Rydym yn cwrdd bob hanner tymor i drafod gwahanol ffyrdd o wella lles yr ysgol. Mae ein cyngor enfys yn cynrychioli barn ein holl ddisgyblion ac mae'n rhoi'r cyfle i ni deimlo ein bod yn cael ein clywed ac i fod yn rhan o gymuned yr ysgol gyfan. Yr hanner tymor hwn fe wnaethon ni gymryd rhan yng ngwasanaeth wythnos gwrth-fwlio a rhannu pwysigrwydd caredigrwydd. / We are a crew of pupils that have been elected by our class mates to represent their voice during school meetings. We meet every half term to discuss different ways of improving the school's well-being. Our rainbow council represents the views of all our pupils and it gives us the opportunity to feel heard and to be a part of the whole school community. This half term we took part in the anti-bullying week assembly and sharing the importance of kindness.

CYNGOR YSGOL

Rydym yn griw o ddisgyblion a etholwyd gan ein dosbarthiadau er mwyn eu cynrychioli yng nghyfarfodydd yr ysgol. Rydym yn cwrdd bob hanner tymor i drafod gwahanol ffyrdd o wella’r ysgol yn fewnol, allanol ac yn addysgol. Rydym hefyd yn trefnu gweithgareddau gwanhanol i’r disgyblion. Eleni rydym yn ffocysu ar gwella amgylchedd yr ysgol ar gyfer ein cyfoedion. / We are a crew of pupils that have been elected by our class mates to represent their voice during school meetings. We meet every half term to discuss different ways of improving the school internally, externally and educationally. Our school council represents the views of all our pupils and it gives us the opportunity to feel heard and to be a part of the whole school community. This year we will be focusing on improving the school environment for our peers.

Gwasanaeth Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth / Show Racism the Red Card Assembly.

Cyngor eco

Roedd y Cyngor Eco wedi derbyn gwobr wrth Thomas Williams o Gyngor Abertawe. Daeth YGG Tirdeunawyr yn ail yng Nghystadleuaeth Ailgylchu Batris Ysgolion Abertawe. Diolch i'r Cyngor Eco am gyfrif y batris i gyd ac i'r rhieni am gasglu ac anfon y batris i'r ysgol! / The Eco Council received a prize from Thomas Williams (Swansea Council). YGG Tirdeunaw came second in the Swansea Schools Recycling Batteries Competition. Thank you to the Eco Council for counting all of the batteries and to the parents for collecting and sending the batteries to the school!