Meithrin Crynodeb o'n Cwricwlwm

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern

GWELEDIGAETH Y CLWSTWR

Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.

Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.

Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.

Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.

Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.

Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.

Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.

Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.

Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.

Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.

Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.

Tymor 1

Dyma fi!

Amcan yr uned yma yw ffocysu ar ddatblygu medrau'r disgyblion i fynegi eu teimladau. Yn ogystal â hyn bydd y disgyblion yn cael cyfleoedd i chwarae rôl yn gofalu am eraill gan ddangos caredigrwydd.

Beth sydd yn bwysig yn fy myd?

Cynnwys yr Uned:

Pwy ydw i? Pwy wyt ti? Dysgu cyfarchion.

Sut ydw i’n teimlo? Fy emosiynau.

Rhannau’r corff.

Sut wyt ti’n teimlo? Chwarae rol yn y tŷ.

Pwy sydd yn fy nheulu?

Chwarae rôl gyda babanod.

Tymor 2

Byd o Liw!

Wrth edrych ar liwiau'r byd bydd y disgyblion yn dysgu lliwiau amrywiol ac yn cysylltu'r lliwiau a phethau yn eu dosbarth, y tu allan, yn gysylltiedig â Chymru a gwledydd eraill. Yn ogystal â hyn bydd y disgyblion yn dysgu am ŵyl Holi ac yn cael cyfle i greu dathliad lliwgar eu hunain.

Pa mor liwgar yw’r byd?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am liwiau Cymru - Dydd Gwyl Dewi.

Dysgu am liwiau o’u cwmpas a dosbarthu lliwiau gwrthrychau.

Edrych ar liwiau byd natur - blodau, adar, coed o’u hamgylch.

Dysgu am liwiau llysiau a ffrwythau.

Dysgu am ddathliadau lliwgar- e.e. Gwyl Holi.

Dysgu am liwiau baneri.

Cynnal parti lliwgar.

Tymor 3

Byd yr Anifeiliaid!

Yn yr uned yma bydd y disgyblion yn dysgu am anifeiliaid anwes a sut i ofalu amdanynt. Cyflwynir anifeiliaid y fferm ac anifeiliaid gwyllt a dysgu am swydd milfeddyg sy’n gofalu amdanynt. Wrth edrych ar anifeiliaid y byd ceir cyfle i ddysgu am dirwedd a chynefinoedd gwahanol megis y jyngl, safana neu wlad yr ia.

Sut mae gofalu am anifeiliaid?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am anifeiliaid anwes a sut i ofalu amdanynt.

Dysgu am anifeiliaid y fferm ac anifeiliaid gwyllt.

Dysgu am swydd milfeddyg.

Dysgu enwau anifeiliaid o amgylch y byd.