Adolygiad Amgylcheddol
Gwaith cyntaf y Cyngor Eco oedd mynd o amgylch yr ysgol er mwyn monitro amgylchedd eco’r Ysgol. Roedd y plant yn edrych ar yr naw maes eco sef:-
- Bioamrywiaeth
- Iechyd, Llesiant a Bwyd
- Dinasyddiaeth Fyd Eang
- Ynni
- Lleihau Gwastraff
- Sbwriel
- Tir yr Ysgol
- Trafnidiaeth
Gwelwyd llawer o bethau da, ond hefyd pethau oedd angen eu gwella. Mae’r Cyngor Eco wedi penderfynu ar bethau i weithio arnynt ar ol cynnal y daith o amgylch tir yr ysgol.
Cân Eco Gôd Ysgol Pentreuchaf
Roedd yn rhaid i ni gael Eco-Gôd i'r ysgol. Felly bu Mrs Humphreys yn brysur yn creu cân a cherddoriaeth i ni. Mae’r gan yn sôn am yr holl bethau sy’n bwysig i ni fel ysgol eco. Dyma ni yn ei chanu:-
Nadolig Gwyrdd
Un o syniadau y Pwyllgor Eco yn ystod mis Rhagfyr oedd i gael Nadolig a oedd yn fwy gwyrdd, ac yn un eco gyfeillgar. Felly cynhaliwyd cystadleuaeth i bob dosbarth i greu addurn a oedd yn eco gyfeillgar. Cafwyd llu o addurniadau diddorol yn ailgylchu, ac yn defnyddio pob math o ddefnyddiau. Dyma lun o’r enillwyr gyda'u gwobrau.
Ymweliad Tim Pugh
Ar 14eg a 15fed o Dachwedd, daeth yr artist Tim Pugh atom i weithio gya'r disgyblion ar greu gwaith celf yn defnyddio deunyddiau roedd o yn dod o hyd iddynt ar draethau ayyb. Cafodd pob dosbarth gymryd rhan yn y gwaith creu. Hefyd aeth criw o ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2 i Nant Gwrtheyrn er mwyn casglu deunydd oddi ar y traeth a'i ddefnyddio mewn ffordd artistig.
Penwythnos Gwylio Adar 2024
Yn ystod yr wythnos oedd yn arwain at y penwythnos gwylio adar bu'r disgyblion yn dysgu enwau'r adar a sut i'w nabod. Hefyd rhoddodd y Pwyllgor Eco fwyd allan yn yr ardd er mwyn denu'r adar. Dyma bwt gan Tomos Llywelyn yn disgrifio beth wnaeth o yn ystod y penwythnos:-
Yn ystod penwythnos gwylio adar, yn ein gardd ni gwelwyd Robin Goch, Titw Tomos Las ac Aderyn Ysglyfaethus (aderyn cigysol sy'n hela am fwyd). Daeth Bilidowcar i chwilio am bysgod yn y llyn
Calendr Adfent Eco Gyfeillgar
Roedd disgyblion y Pwyllgor Eco yn awyddus i godi ymwybyddiaeth pobl am sut i gael Nadolig Eco-Gyfeillgar. Felly, buom yn trafod y gwahanol ffydd o gael Nadolig a oedd yn fwy gwyrdd; cyn mynd ati wedyn i ffilmio cyngorion ar gyfer pob diwrnod yn ystod mis Rhagfyr. Roedd y clipiau gyda'r cynghorion gan y plant yn cael eu postio ar dudalen Facebook yr ysgol yn ddyddiol. Dyma glip yn eu dangos:-
Tymor nesa' gobeithiwn weithio ar y meysydd yma:-
- Trafnidiaeth
- Byw'n Iach