Difrod Golau Glas Cyngor a gwybodaeth ar gyfer teuluoedd Ysgol Uwchradd Aberteifi

Peryglon Cudd Technoleg Golau Glas: Gwybodaeth i Rieni a theuluoedd

Beth yw Technoleg Golau Glas?

Mae golau glas yn dod o ffonau, tabledi, cyfrifiaduron a gliniaduron, setiau teledu a dyfeisiau gemau. Er ei fod yn ddefnyddiol mewn symiau bach, gall gormod fod yn niweidiol i blant ac oedolion.
  • Gall defnydd hirfaith or-ysgogi’r ymennydd, gan wneud hi’n anoddach ymlacio a chanolbwyntio.
  • Mae defnyddio dyfeisiau gyda’r nos yn gallu oedi cwsg ac achosi blinder yn yr ysgol.
  • Dim ond dwy awr y dydd sydd angen i ddechrau gweld effeithiau negyddol.

Awgrymiadau i Rieni:

  • Gosodwch “amser cau dyfeisiau” o leiaf awr cyn amser gwely.
  • Anogwch weithgareddau heb sgrin gyda’r nos.

Effaith Gymdeithasol ac Emosiynol

Mae gormod o amser ar sgrinau yn lleihau gallu plant i gymdeithasu wyneb yn wyneb a rheoli perthnasau go iawn.
  • Mae cysylltiad llygad, sgiliau gwrando ac empathi yn dioddef.
  • Gall sgyrsiau ar-lein gymryd lle rhyngweithiadau ystyrlon.
  • Gall plant ddod yn fwy mewnblyg neu yn fyrbwyll pan nad oes ganddynt sgriniau.
  • Mae cysylltiad llygad, sgiliau gwrando ac empathi yn dioddef.

Awgrymiadau i Rieni:

  • Trefnwch amser teuluol heb ddyfeisiau (prydau bwyd, teithiau cerdded, gemau).
  • Dangoswch enghraifft o ryngweithio cadarnhaol fel oedolion.

Y Cysylltiad â Symptomau Tebyg i ADHD

Mae ymchwil a amlygwyd gan Paul Dix yn dangos bod dim ond dwy awr o amlygiad dyddiol i olau glas yn gallu sbarduno symptomau tynnu’n ôl sy’n debyg i ADHD.
Research shows that using a mobile phone or smart device for two hours a day can lead to symptoms similar to ADHD appearing in children.
  • Anesmwythder, anhawster eistedd yn llonydd.
  • Diffyg ffocws a diffyg gallu i dalu sylw.
  • Byrbwylltra, dicter neu rwystredigaeth.
  • Gall plant ymddangos fel pe baent yn “orweithgar”, pan maent mewn gwirionedd yn profi symptomau tynnu’n ôl.

Awgrymiadau i rieni

  • Creuwch “seibiannau sgrin” bob 30–60 munud.
  • Anogwch weithgaredd corfforol i ail-ffocysu.
  • Blaenoriaethwch waith cartref a thasgau cyn amser sgrin.

Modelu'r ymddygiad ein hunain fel oedolion:

Byddwch yr Oedolyn

Realiti Wedi’i Wyrdroi a Peryglon Ar-lein

Gall plant ddechrau gweld cynnwys ar-lein fel “gwirionedd”, waeth beth yw’r ffynhonnell.
  • Perygl o gredu gwybodaeth ffug neu ddamcaniaethau cynllwyn.
  • Amlygiad i safbwyntiau radicalaidd neu niweidiol.
  • Mynediad hawdd at fideos neu drafodaethau nad ydynt yn briodol i’w hoedran.

Awgrymiadau i Rieni:

  • Trafodwch gynnwys ar-lein yn agored – gofynnwch “Ydy hyn yn ddibynadwy?”
  • Defnyddiwch reolaethau rhieni a monitro defnydd priodol i oedran.

Ymddygiad Ar-lein a’r Gyfraith

Mae’r hyn y mae plant yn ei ddweud ar-lein yn cael canlyniadau go iawn.
  • Mae negeseuon bygythiol, sarhaus neu fwlio yn droseddol.
  • Mae’r heddlu a’r ysgolion yn cymryd ymddygiad ar-lein o ddifrif.
  • Gall dewisiadau gwael ar-lein effeithio ar addysg a chyflogaeth yn y dyfodol.

Awgrymiadau i Rieni:

  • Dysgwch blant: “Os na fyddet ti’n dweud e wyneb yn wyneb, paid â’i bostio.”
  • Cadwch gyfathrebu’n agored fel bod plant yn rhannu pryderon.

Modelu'r ymddygiad ein hunain fel oedolion:

Byddwch yr oedolyn

Gwiriwch cynnwys ffonau symudol eich plant

  • Diogelu eu lles: Mae gwirio’n rheolaidd yn helpu rhieni a gwarcheidwaid i sylwi ar beryglon posibl megis bwlio, cynnwys amhriodol, neu gyswllt dieisiau.
  • Annog defnydd cyfrifol: Mae’n atgoffa plant fod angen defnyddio ffonau’n ddiogel, gyda pharch, ac o fewn ffiniau’r teulu a’r ysgol.
  • Cefnogi cyfathrebu agored: Gall gwirio gyda’ch gilydd greu cyfleoedd i drafod yr hyn maen nhw’n ei weld neu’n ei brofi ar-lein.
  • Datblygu gwydnwch digidol: Mae’n helpu plant i ddysgu gwneud dewisiadau diogel ac i adnabod pan nad yw rhywbeth yn teimlo’n iawn.

Awgrymiadau i rieni:

  • Bod yn agored, ddim yn gyfrinachol: Eglurwch nad yw gwirio’n ymwneud ag amheuon, ond â chadw’ch plentyn yn ddiogel ac wedi’i gefnogi.
  • Gwnewch e gyda’ch gilydd: Gwnewch o’n arfer rhannu fel bod eich plentyn yn teimlo’n rhan o’r broses ac yn cael ei barchu.
  • Gosodwch ffiniau clir: Cytunwch ar yr hyn sy’n dderbyniol ar-lein a beth fydd yn digwydd os caiff y ffiniau hynny eu torri.
Mae plant angen rhieni a gwarcheidwaid i'w harwain, nid dim ond bod yn ffrindiau iddyn nhw.

Mae gan technoleg ei le mewn bywyd modern, ond mae cydbwysedd yn hanfodol. Trwy osod ffiniau clir, siarad yn agored a dangos arferion iach, gall teuluoedd ddiogelu lles plant a’u helpu i ffynnu ar-lein ac oddi arno.

CREATED BY
Trystan Phillips

Credits:

Created with images by badahos - "Phone in hand in neon fog" • Vitalii Vodolazskyi - "Family law and adoption concept. Figures and gavel."