Tafod Tirdeunaw Rhifyn 11 ~ Gorffennaf 2024

Cam Cynnydd 1

Cafodd plant y Derbyn hwyl ym mharti pryfaid ar ddechrau'r tymor. Gwnaethom cacennau pili pala, crefft a dysgu drama. / The Reception had fun in a bug party at the start of term. We made butterfly cakes, bug crafts and learnt a drama.
Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi bwyd i'r adar wrth datblygu ein sgiliau echddygol manwl gan obeithio byddwn yn gweld mwy o adar o amgylch yr ardal allanol. / We have been busy preparing food for the birds while devloping our fine motor skills and hoping to see more birds in our outdoor area.
Rydym wedi bod wrth ein boddau yn dysgu am cylch bywyd y pili pala wrth cael lindys yn y dosbarth ac yn arsylwi ar y camau datblygu. Gwnaethom rhyddhau ein pili palas wythnos diwethaf. / We've loved learning about the lifecycle of the butterfly by having the caterpillars in class and observing the developments. We released our butterflies last week.
Ar gyfer diwrnod Seren a Sbarc cawsom disgo yn y dosbarth. Rydym wrth ein boddau yn clywed y plant yn siarad Cymraeg tu fewn a thu allan i'r dosbarth. Mae llwyth o ganeuon hwylus ar Youtube, chwiliwch am 'carioci Seren a Sbarc'. / For Seren and Sbarc day we had a disco in the class. We love hearing the children speak Welsh inside and outside of the classroom. There are numerous songs that the children enjoy on Youtube, search 'Carioci Seren a Sbarc'.
Profiad gwych arall y tymor hwn oedd gig ysgol gyfan gan y Welsh Whisperer! / Another fantastic experience for the children this term was the whole school gig by the Welsh Whisperer!
Ar gyfer Diwrnod gwenyn y byd yn y Derbyn fe wnaethom dathlu wrth blasu mel, cael stori, plannu hadau, creu mwgwd ac yn amlwg dysgu am pam mae gwenyn yn bwysig! / For World bee day in the Reception we celebrated by tasting honey, having stories, planting seeds, making masks and obviously learning about why bees are important!
Cawsom diwrnod arbennig yng ngerddi botaneg Cymru ar ddechrau'r tymor yn dysgu am gynefinoedd gwahanol trychfilod, cael picnic, mynd am dro a chwarae yn y parc. / We had a fantastic day at the botanic garden of Wales at the start of term learning about bugs and their habitats, having a picnic, going for walks and playing in the park.
Buom yn ddigon ffodus i allu pigo mefus o gerddi’r ysgol. Fe wnaethon ni eu golchi, eu torri a'u blasu yn y dosbarth. Saff dweud eu bod yn llwyddiant mawr! / We were lucky enough to be able to pick strawberries from the school gardens. We washed them, cut them and tasted them in class. Safe to say they were a big hit!

Cam Cynnydd 2

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Cafodd Blwyddyn 1 amser gwych yn y sioe Dinomania! Dyma agoriad gwych i'r thema. Dysgon ni am fywyd a chynefin y deinosoriaid. Year1 had a fantastic time during the Dinomania show. It was a great opening to the theme. We learnt so many interesting facts about the life and habitat of the dinosaur.
Ym Mlwyddyn 1 gwnaethom ddarganfod olion traed deinosor, buom yn palu am esgyrn y deinosor a symud fel deinosor yn ein gwersi ioga. Cynhaliwyd pleidlais am yr hoff ddeinosor a chafwyd ymweliad yn y llyfrgell. In Year 1 we discovered some dinosaur footprints and we went digging for dinosaur bones. We moved like dinosaurs in our yoga classes. We voted for our favourite dinosaurs and visited the library to read stories about dinosaurs.

Roedd yn ddiwrnod cyffrous i CC2 ar y 9fed o Ebrill. Ymwelodd Chris ac Andy o Dinomania a rhannu eu hangerdd a'u gwybodaeth am ddeinosoriaid a ffosiliau. Cawsom hefyd ymweliad gan rai deinosoriaid hefyd!

It was an exciting day for PS2 on the 9th April. Chris and Andy from Dinomania visited and shared their passion and knowledge for dinosaurs and fossils. We also had a visit form some dinosaurs too!

Ar ôl diwrnod cyffrous iawn gyda Dinomania, roedd pawb yn awyddus i ymchwilio i'n thema newydd. / After a very excitable day with Dinomania, everybody was eager to reasearch our new theme.
Diolch i Lawon am ddod â T-Rex i ymweld â Blwyddyn 3. / Thank you to Lawon for bringing T-Rex to visit Year 3.
Diolch i Alfie am ddod â Blue i ymweld â Blwyddyn 3. / Thank you to Alfie for bringing Blue to visit Year 3.

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Yn ein gwersi Jigsaw fe ddysgodd Blwyddyn 1 y mathau gwahanol o gyfarchion. Year 1 learnt the variety of greetings in our Jigsaw lessons.
Beth sydd yn gwneud ffrind da? Buom yn trafod nodweddion ffrindiau a nodi y pethau negyddol i edrych amdano. What makes a good friend? We discussed the characteristics of a good friend and the negative aspects we need to identify.
Pwy sydd yn ein helpu i ddatblygu? Gwnaethom ddarganfod bod nifer o unigolion yn ein cefnogi ni i dyfu. Who helps us develop? We discovered which individuals help us to grow and prosper.
Cawsom amser gwych yn ein gwersi ymarfer corff. Buom yn cydweithio a datrys problemau er mwyn croesi llwybr y deinosoriaid peryglus. We had a fantastic time in our P.E lessons. We had to work as a team and solve problems in order to cross the dangerous dinosaur path.
Dyma Flynyddoedd 3 a 4 yn awyddus am eu mabolgampau. Pob disgybl yn gweithio’n galed i ennill pwyntiau i’w timau – Tir Gwegrydd, Mynydd Bach ac Arfryn. / Here are Years 3 and 4 eager for their sports day. All pupils working hard to gain points for their teams - Tir Gwegrydd, Mynydd Bach and Arfryn.
Ras gyfnewid Bl3 / Yr3 Relay
Ras sach Bl3 / Yr3 Sack race
Gwersi Jigsaw / Jigsaw Lessons
Plannu blodau a llysiau / Planting flowers and vegetables

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Mesur tymheredd oedd un o'n themau ym Mlwyddyn 1. Buom yn mesur y tymheredd am wythnos cyfan a gwnaethom gadw golwg ar y tywydd yn yr wythnosau canlynol. Temperature was one of our themes in Year 1. We measured the temperature for a whole week and have kept an eye on the weather during the last few weeks.
Mwynhau yr helfa wyau deinosor Mathemategol/ Enjoying the Mathematical dinosaur egg hunt.
Thema arall ym Mlwyddyn 1 oedd pwysau. Defnyddion ni fesur ansafonol a chasglwyd nifer o bethau o amgylch y dosbarth. Another theme in Year 1 was measuring weight. We used a non standard unit to measure various items around the class.
Dyma Flwyddyn 3 yn defnyddio’r bêl luosi yn eu gwers fathsactif i ddatblygu eu sgiliau meddwl cyflym. / Here are Year 3 using the multiplication ball in their mathsactif lesson to develop their quick thinking skills.
Diagram Carroll / Carroll Diagram

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Ym Mlwyddyn 1 buom ni yn astudio gwahanol mathau o gerrig. Cymerwyd y cyfle i fynd allan ar safle yr ysgol er mwyn ymchwilio a chasglu cerrig. Gwnaethom ni ehangu ein geirfa daeareg. In Year 1 we studied the different types of rocks. We took the opportunity to search around the school and collect samples. We extended our vocabulary in geology.
Ym Mlwyddyn 1 gwnaethom goginio haenau gwahanol a oedd yn debyg i haenau y ddaear. Roedd yn flasus iawn! In Year 1 we baked the different layers similar to the layers of the Earth. It was delicious!

Fel rhan o’u gwersi TGCh y tymor hwn, mae Blwyddyn 3 wedi bod yn ymchwilio i ddeinosoriaid a ffosilau ac wedi creu ffeil ffeithiau a chronfa ddata yn seiliedig ar eu canfyddiadau.

As part of their ICT lessons this term, Year 3 have been researching dinosaurs and fossils and have created a fact file and data base based on their findings.

Gwaith TGCh / ICT work.
Roedd Blwyddyn 3 wedi creu deinosoriaid 3D / Year 3 created 3D dinosaurs.

Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Cafodd Blwyddyn 1 y cyfle i fynd i'r llyfrgell lleol er mwyn gwrando ar stori y deinosoriaid. Year 1 had the opportunity to visit the local library to listen to a story about dinosaurs.
Cawsom y cyfle ym Mlwyddyn 1 i chwarae llawer o gemau buarth er mwyn hybu yr iaith. We had the opportunity in Year 1 to play language games in order to extend their vocabulary.
Mae Blwyddyn 3 wedi mwynhau eu hymweliadau â Llyfrgell Penlan lle maent wedi ymchwilio i thema'r haf a hefyd wedi dewis nofel i'w darllen yn y dosbarth. / Year 3 have enjoyed their visits to Penlan Library where they've researched their summer theme and also chosen a novel to read in class.
Ym mis Mehefin fe ddaeth disgyblion o Ysgol Bryntawe i ddarllen eu chwedlau gyda Blwyddyn 3 / In June, pupils from Bryntawe School came to read their stories to Year 3.
Roedd Blwyddyn 3 wedi mwynhau dysgu am Jac Abertawe ac wedi cynhyrchu gwaith ardderchog yn ystod y tymor / Year 3 enjoyed learning about Swansea Jack and produced excellent work during the term.

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Dyma Blwyddyn 1 yn creu siapiau deinosor allan o basta! Here are Year 1 creating dinosaur shapes out of pasta.
Dyma Blwyddyn 1 wedi creu peintiadau o silowet dinosor. Cafwyd cyfle i arbrofi gyda lliw paent. Here Year 1 have created silhouette paintings of dinosaurs. We experimented with different paint colours.
Dyma ni'n creu byd bach y deinosoriaid.
Here we are creating the dinosaur small world.

Ar gyfer y ffair haf, roedd dosbarth Blwyddyn 3 Mrs Davies eisiau ailgylchu tuniau a'u haddurno i'w defnyddio fel planwyr. / For the summer fair, Mrs Davies' Year 3 class wanted to recycle tins and decorate them to use as planters.

Roedd plant Blwyddyn 3 Mr Ball wedi addurno tuniau ar gyfer y ffair haf / Mr Ball's Year 3 class decorated their tins for the summer fair.
Mae blwyddyn 3 wedi mwynhau'r tymor yma gyda Mr Carter lle maen nhw wedi dysgu canu'r offeryn toot. / Year 3 have enjoyed this term with Mr Carter where they've learnt to play the toot instrument.
Creu deinosoriaid allan o glai / Creating dinosaurs out of clay
Plant Blwyddyn 3 yn mwynhau darlunio deinosoriaid a ffosiliau / Year 3 pupils enjoy drawing dinosaurs and fossils.

Dyniaethau / Humanities

Dyma ni ym Mlwyddyn 1 yn darganfod gwybodaeth am yr olion traed mwyaf gan sauropod. Cafodd ei ddarganfod yn Awstralia. In Year 1 we discovered information about the largest footprint of a sauropod that was found in Australia.
Dyma ni'n dangos y pwysigrwydd o ofalu am ein planed hyfryd. Here we are showing how important it is to look after our beautiful planet.
Fel rhan o Ddiwrnod y Ddaear, bu Blwyddyn 3 yn trafod ein planed yn erbyn plastigion. Roeddent yn gallu nodi'r heriau y mae plastigion yn eu cael ar eu hamgylchedd, yn enwedig creaduriaid y môr sy'n gorfod dioddef nofio mewn sbwriel sydd wedi'i daflu i afonydd a moroedd ledled y byd. I ddathlu Diwrnod y Ddaear, fe wnaethon nhw greu crogwr drws i’w ddefnyddio gartref i’w hatgoffa o bwysigrwydd lleihau’r defnydd o blastig a phwysigrwydd ailgylchu. / As part of Earth Day, Year 3 discussed our planet versus plastics. They were able to identify the challenges plastics have on their environment, especially sea creatures who have to endure swimming in rubbish that has been thrown in the rivers and seas around the world. To celebrate Earth Day, they created a door hanger to use at home to remind them the importance of reducing plastic use and the importance of recycling.
Dysgu a dathlu Diwrnod y Ddaear / Learning about and celebrating Earth Day.
Dathlwyd Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd ymgyrch arwrol Deiseb Heddwch Merched Cymru 1923-24, ac yn datgan yr angen i barhau gyda’r alwad am heddwch can mlynedd yn ddiweddarach. / The Urdd's Message of Peace and Goodwill celebrated the heroic Welsh Women's Peace Petition campaign of 1923-24, and declared the need to continue with the call for peace a hundred years later.
Posteri Blwyddyn 3 Mr Ball ar gyfer Neges Heddwch ac Ewyllys Da / Posters from Mr Ball's Year 3 class for the Message of Peace and Goodwill.
Neges Heddwch ac Ewyllys Da / A Message of Peace and Goodwill
Roedd plant Blwyddyn 3 wedi anfon neges i blant mewn ysgol yn Kenya / Year 3 pupils sent a message to a school in Kenya.

Cam Cynnydd 3

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Bu cyffro mawr ar Ddydd Gwener 19eg o Ebrill pan ymwelodd Immersive Experiences â disgyblion Cam Cynnydd 3 gyda’u cromen amlbwrpas 360°. Cafodd y disgyblion eu syfrdanu wrth edrych ar y cytserau. Cawsant hefyd anturiaethau anhygoel oddi ar y byd a mwy wrth wylio ffilm gyffrous 360˚. Ffordd wych o ennyn diddordeb yn ein thema newydd. There was great excitement on Friday 19th of April when Immersive Experiences visited the pupils in Progression Step 3 with their 360° multi-purpose dome. The pupils were left in awe whilst viewing the constellations. They also experienced incredible off-world adventures and more whilst watching a thrilling 360˚ film. A great way to inspire interest in our new topic.

Awr Anturus / Genius Hour

Diwrnod i ddathlu diwedd ein prosiect Awr Anturus. Cafodd disgyblion cam cynnydd 3 y cyfle i gyflwyno eu prosiectau neu gwerthu eu cynnyrch gwreiddiol.

A successful day celebrating the completion of the Genius Hour. The children have created some wonderful businesses and presented some lovely presentations.

Astro Cymru / Astro Wales

Cafodd disgyblion blwyddyn 6 fore diddorol yn astudio cysawd yr haul. Braf oedd gweld y plant wrth eu bodd yn y gweithdy dylunio crys-t. / Year 6 had a fascinating morning studying the solar system. The children loved the t-shirt designing workshop.

Dawns Brenin Arthur / King Arthur Dance

Mae blynyddoedd 5 a 6 wedi bod yn brysur yn dysgu am agweddau dawns. Yna cynllunio eu dawnsfeydd drwy gyd-weithio a chyfathrebu. Cafodd pob grŵp y cyfle i berfformio eu dawnsfeydd i weddill y dosbarthiadau.

Years 5 and 6 have had a busy week learning about different aspects of dance. They planned their dances through communication and teamwork. Each group then had the opportunity to perform their dances to the rest of the classes.

Treiathlon / Triathlon

Buodd disgyblion blwyddyn 6 yn cystadlu mewn Treialthon heddiw. Year 6 pupils had the oppertunity to compete in a Triathlon today

Ffair haf / Summer Fete

Mae Cam Cynnydd 3 wedi mwynhau creu adnoddau gwahanol megis llyfrnod gyda bwlb LED neu keyring ar gyfer y ffair haf. Roedd y plant wedi creu’r cynnyrch yma ei hun yn ystod yr wythnos, roedd athrawon Cam Cynnydd 3 wedi gwerthu ‘r cynnyrch i’r plant yn ystod y ffair haf er mwyn codi arian i’r ysgol. Progression step 3 have enjoyed creating different objects such as bookmarks with LED lights and keyrings for the school summer fete. The children created the products this week during lessons which allowed the teachers to then sell the products during the fete to raise money towards the shcool.

Gwaith Celf Peter Thorpe / Peter Thorpe Art work

Yn ystod yr wythnos roedd Cam Cynnydd 3 wrthi yn defnyddio technegau gwahanol er mwyn efelychu gwaith celf Peter Thorpe. Yr ydym wedi bod yn astudio gwaith Peter Thorpe yn ystod ei’n thema; Bro, Byd, Bydysawd. During the week Progress 3 have been using different techniques to emulate Peter Thorpe’s artwork. We have been studying the work of Peter Thorpe during our theme; Community, World, Universe.

Arbrofi gyda Microbits / Experimenting with Microbits

Mae disgyblion Cam Cynnydd 3 wedi mwynhau arbrofi gyda micro:bits yr wythnos hon. Mae’r micro:bit yn gyfrifiadur maint poced sydd wedi’i gynllunio i ysbrydoli meddwl creadigol mewn plant. Gellir ei raglennu mewn llawer o wahanol ffyrdd ac mae ganddo sawl defnydd. Trwy’r micro:bit, mae plant yn cael eu hannog i archwilio syniadau gan ddefnyddio cod go iawn.

The pupils in Progression Step 3 have enjoyed experimenting with micro:bits this week. The micro:bit is a pocket-sized computer designed to inspire creative thinking in children. It can be programmed in many different ways and has multiple uses. Through the micro:bit, children are encouraged to explore ideas using real code.

Dathliadau D-Day / D-Day Celebrations

Roedd Cam Cynnydd 3 wedi cymryd rhan mewn gwahanol weithgareddau i gofio D-day. Dysgon nhw ychydig am hanes D-day a phwysigrwydd y diwrnod yn ystod yr Ail Ryfel byd, roedd y gweithgareddau yn amrywio fel dylunio medal i’r milwyr , creu silhouette filwr ar y diwrnod a thasgau darllen a deall.

Progression step 3 took part in a variety of activities to remember on D-day. They learnt about the history of D-day and how important the day was in relation to the Second World War. The activities varied from designing a medal for the soldiers to creating a silhouette of the solider during D-day and reading comprehension tasks.

Mabolgampau / Sports Day

Roedd plant Cam Cynnydd 3 wedi mwynhau cymryd rhan yn y mabolgampau eleni, braf oedd hi i weld cymaint o plant yn cymryd rhan ac yn gystadlu dros eu llys.

Progression step 3 children enjoyed participating in their sports day this year, it was a pleasure to see so many children competing over their team.

Taith Adventure Wales / Adventure Wales Trip

Cafodd disgyblion Blwyddyn 4 ddiwrnod gwych yn cymryd rhan mewn gweithgareddau ar Fferm Parc Newydd gydag Adventures Wales. Cawsant gyfle i ddringo wal, dringo’r rhaffau uchel, rhoi cynnig ar saethyddiaeth a’r hoff weithgaredd o bell ffordd oedd y cwrs mwdlyd. Pleser pur oedd treulio’r diwrnod gyda’n disgyblion anturus wrth iddynt ddatblygu eu sgiliau personol eu hunain a’u sgiliau adeiladu tîm. Ffordd wych o orffen eu hamser ym mlwyddyn 4!

Year 4 pupils had a fantastic day taking part in activities at Parc Newydd Farm with Adventures Wales. They had the opportunity to climb a wall, scale the high ropes, try their hand at archery and the favourite acitivity by far was the muddy assault course. It was an absolute pleasure to spend the day with our adventurous pupils whist they developed their own personal skills and their team building skills. A fantastic way to end their time in year 4!

Cwis Llyfrau y sir / County book quiz

Disgyblion blwyddyn 5 a 6 yn cystadlu yn y Cwis Llyfrau'r sir / Pupils from year 5 and 6 have been competing in this year’s book quiz.

Ffair llyfrau / Book fair

Cafodd Blwyddyn 6 y cyfle i redeg ffair lyfrau eleni, cafodd disgyblion yr ysgol cyfleoedd i brynu llyfrau o'r ffair, roedd plant blwyddyn 6 yn rheoli'r ffair ac yn casglu arian a dosbarthu'r llyfrau allan i'r plant ar ôl cael ei brynu.

Year 6 had the opportunity to run a book fair in the school were the pupils had the opportunity to buy books. The year 6 pupils were in charge on collecting money and distributing the books that were bought.

Gwersi Ffranneg / French Lessons

Blwyddyn 6 yn dysgu iaith Ffranneg a datblygu ei sgiliau llythrennedd driphlyg. / Year 6 learning the French language developing their language skills.

CYNGOR ENFYS

Y tymor yma rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ddatblygu’r tu allan ac ar ben ein rhestr roedd ein hardal heddychlon. Roedd gennym gynfas gwag i weithio gydag ef a'r peth cyntaf yr oeddem am ei brynu oedd 'cadair cyfeillio'.

This term we have been concentrating on developing the outside and on the top of our list was our peaceful area. We had a blank canvas to work with and the first thing we wanted to purchase was a 'buddy bench'.

Cael teimlad o'r ardal / Having a feel for the area.
Yn dod ymlaen yn braf! / Coming along nicely!
Mae ein cadair cyfeillio yn llwyddiant. / Our buddy bench is a success.

CYNGOR YSGOL

Mae'r cyngor ysgol wedi bod ati yn trafod a chynnal gwasanaethau sy'n bwysig iddyn nhw, cynhalion wasanaeth am ddiwrnod y llyfr, roedd y plant wedi sôn am hanes a phwrpas y diwrnod!

The school council have been busy discussing and holding assemblies on events important to them. They held an assembly discussing world book day and the reasons and history of celebrating the day!

Cyngor eco

Dyma'r Cyngor Eco eleni / Here are the Eco Council for this year

Mae'r Cyngor Eco wedi penderfynnu casglu plastic caled o bob dosbarth yn yr ysgol gan ddefnyddio'r bag pinc mawr. Mae'r plant yn casglu'r plastic caled ar ddiwedd pob prynhawn ac yn edrych ar ôl ein hamgylchedd.

The Eco Council have decided to collect hard plastics from every class in the school by using the big pink bag. The pupils collect the hard plastics at the end of each afternoon and by doing so, look after our environment!