View Screen Reader-Friendly Version

Dr. Paula Boyden

BVetMed MRCVS

Cadeirydd, The Links Group Graddiodd Paula o’r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, Prifysgol Llundain, yn 1992. Treuliodd 11 mlynedd mewn ymarfer cyffredinol cyn mentro i rôl dechnegol yn y diwydiant yn 2003. Ymunodd Paula â’r Dogs Trust yn 2010 a daeth yn Gyfarwyddwr Milfeddygol yn 2011. Ymysg ei chyfrifoldebau oedd materion milfeddygol, gwaith allgymorth, a materion cyhoeddus. Mae’n aelod sefydlol, yn gyn-drysorydd y Gymdeithas Charity Vets, ac yn aelod o fwrdd y Blue Dog Trust. Mae’n is-gadeirydd y grŵp Canine and Feline Sector, yn aelod o Banel Goruchwylio Erlyniadau’r RSPCA ac mae’n aelod o Gomisiwn Lles Anifeiliaid yr Alban. Cadeiriodd Paula y Pet Advertising Advisory Group yn y gorffennol ac mae wedi eistedd ar Grŵp Polisi Cymdeithas Milfeddygon Prydain a Phwyllgorau Gwyddonol a Materion Rhyngwladol y BSAVA. Yn 2017, cafodd Paula Wobr Goffa J A Wight BSAVA am ei chyfraniad i les anifeiliaid anwes. Ym mis Medi 2023, cafodd Paula Wobr Iechyd Cyfunol yr WSAVA (World Small Animal Veterinary Association) yn Lisbon; ym mis Tachwedd 2024, Gwobr Gwasanaeth Rhagorol y BVA (Gwobr Chiron) yn Llundain. Mae Paula yn un o Ymddiriedolwyr sefydlol y Links Group ac mae’n ymwneud yn rheolaidd â hyfforddiant israddedig ar Anafiadau Nad Ydynt yn Sgil Damweiniau (NAI) mewn ysgolion milfeddygol y DU.