CYLCHLYTHYR MAWRTH 2024 MARCH newsletter 2024

Themau tymor nesaf / Next term's themes

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Gwerth y Mis/Value of the Month

Ebrill/April - Dyfalbarhad/Perseverance

Mai/May - Hapusrwydd/Happiness

Hawl y Mis/Right of the Month

Ebrill/April - Erthygl 24 - Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl / Article 24 - Your right to good food and water and to see the Doctor if you're ill.

Mai/May - Erthygl 31 - Eich hawl i ymlacio a chwarae / Article 31 - Your right to relax and play.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

23.03.2024-07.04.2024 - Gwyliau/Holidays

08.04.2024 - HMS / INSET

Dydd Mawrth 09.04.2024 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

09-26.04.2024 - B3/4 - Gwersi Nofio dyddiol am tair wythnos / Daily swimming lessons for three weeks

w/d 09.04.2024 - B1/2 - Taith i draeth Porth Tywyn / Trip to Burry Port Beach

10.04.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi Cymysg yr Urdd / Mixed Urdd Rugby Competition

11.04.2024 - B6 - Ymweliad i Gerddi Fotaneg Genedlaethol / Visit to National Botanical Gardens

16.04.2024 - B6 - Gweithdy 'Ynni Da' Workshop (renewable energy)

01.05.2024 - B4 - Ymweliad i'r Gerddi Botaneg Cenedlaethol / Visit to National Botanical Gardens

02.05.2024 - B5 - Ymweliad i Fferm gyda Prosiect Cook 24 / Visit to a Farm with Cook 24 Project

03.05.2024 - Ffotograffydd - lluniau dosbarth / Photographer - Class photos

06.05.2024 - Gŵyl Fai - ysgol ar gau / May Day - school closed

16.05.2024 - Mabolgampau'r Ysgol / School Sports

22.05.2024 - Bronwen Lewis (Cantores) i ymweld a'r ysgol / Bronwen Lewis (Singer) to visit the school

23.05.2024 - B2/3 - Gŵyl Rygbi Cymysg / Mixed Rugby Festival

25.05.2024-02.06.2024 - Gwyliau

03.06.2024 - HMS/INSET

04.06.2024 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

Archebu cinio ysgol dyddiol / Parent Pay Daily Meals Bookings

Atgof Pwysig:

Gall pob teulu gofio bod yn rhaid archebu pryd bwyd eu plentyn ar ParentPay cyn 8yb bob dydd gan ei fod yn helpu staff y gegin i ddarparu bwyd ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a'r plant hynny ym mhob dosbarth hyd at Flwyddyn 5 sydd â hawl i UPFSM.

Gofynnwch yn y dderbynfa os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn.

Diolch am eich cefnogaeth gyda'r mater hwn.

Important Reminder:

Please can all families remember that they must book their child's meal on ParentPay before 8am each day as it helps the kitchen staff cater accordingly. This includes children who are in receipt of Free School Meals and those children in all classes up to Year 5 who are entitled to UPFSM.

Please ask in reception if you don't know how to do this.

Thank you for your support with this matter.

Chwaraeon / Sports

Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn ystod yr hanner tymor yma gan gynnwys:

Pupils have taken part in various sporting activities during this half term including:

Blwyddyn 4/5 - Sesiwn sgiliau rygbi gyda Darcy o'r Scarlets / Rugby skills session with Darcy from the Scarlets

Blwyddyn 3/4 - Gŵyl Rygbi Cymysg ym Mharc y Scarlets / Mixed Rugby festival at Parc y Scarlets

Blwyddyn 5/6 - Cystadleuaeth Rygbi Ysgolion Llanelli yng Nghydweli / Llanelli Schools Rugby Competition in Kidwelly

Blwyddyn 5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-droed yr Urdd yn Tregib, Llandeilo / Football Competition in Tregib, Llandeilo

Dydd Gŵyl Dewi / St David's Day

I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi trefnwyd bore coffi yn yr ysgol ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid ac ymwelwyr. Roedd pob dosbarth, yn eu tro, yn perfformio ac yn diddanu’r dorf. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am eu cymorth.

To celebrate St David's Day we arranged a coffee morning in school for parents/guardians and visitors. Every class, in turn, performed and entertained the crowds. Thank you to everyone for their support and to the PTA for their help.

Meithrin

Yn ystod ein thema'r hanner tymor yma, rydym wedi bod yn dathlu a dysgu am Gymru a dysgu am y traddodiadau sydd gennym ni. Rydym wedi mwynhau dysgu am y pethau sydd yn cael eu rhoi mewn i fwydydd traddodiadol. Cafodd pawb hwyl yn defnyddio’r llysiau yn ein hardal gartref i greu cawl, torri efo cyllell mewn i ddarnau bach a choginio mewn sosban wrth ganu ‘Beth sydd yn y cawl?’. Cafodd pawb gyfle i ganu yn ein gwisgoedd traddodiadol o flaen rhieni yn ein bore dathlu a chwblhau llawer o weithgareddau yn y dosbarth. Mae’r plant wedi mwynhau datblygu eu sgiliau TGCh trwy ddysgu sut i deipio, adnabod a darganfod llythrennau gwahanol. Rydym hefyd wedi troi mewn i ffotograffwyr trwy fynd ar helfa tu allan i chwilio am adar a thynnu lluniau ohonynt gyda’r iPad. Rydym wedi dechrau dysgu am y Gwanwyn a pharatoi ar gyfer plannu llysiau a phlanhigion yn y tymor newydd.

Mae wedi bod yn amser prysur iawn i ni hefyd yn ystod yr hanner tymor diwethaf. Braf oedd gweld y plant yn perfformio’n wych o flaen yr ysgol a'u teuluoedd yn ein gwasanaeth dosbarth. Cyfle hyfryd i bawb cael gweld y gwaith caled rydym wedi bod yn gwneud yn ein dosbarth. Mae llawer o weithgareddau celf a chrefft wedi bod ar waith wrth i ni baratoi ar gyfer adeg y Pasg. Buom yn peintio, torri allan, lliwio, coginio a hefyd helfa wyau ac roedd llawer o wynebau hapus wrth ddarganfod y syrpreis tu fewn i’r wyau.

During this half term, we have enjoyed celebrating and learning about Wales and the different traditions we have. We have enjoyed learning about different traditional foods we eat in Wales, some that we eat during lunchtimes in school. We looked at the different vegetables that are used to make Cawl, using a knife to cut them up into little pieces in our home corner, and put them into a saucepan pretending to cook it singing one of our favourite songs ‘Beth sydd yn y cawl?’. It was lovely to see the class dressed in their traditional costumes and singing in front of parents during the open morning on St David’s day and having fun completing lots of activities in class. We have enjoyed developing our ICT skills during the last term by learning how to type, recognise letters and discover where they are hiding on the keyboard. We have also turned into photographers, using the iPad to capture pictures of different birds in the outside area. We’ve began learning about the Spring term and preparing our gardening beds ready to grow vegetables and plants after half term.

It has been a busy time for us in the Meithrin class. It was wonderful to see the children performing in front of the school and their families during our class assembly. A lovely opportunity for them to show you the hard work they have been doing in class and singing and signing the new songs they have learnt. There has been lots of arts and crafts happening in class also in preparation for Easter. Painting, lots of cutting out, colouring, cooking and even an Easter hunt – there were many happy faces when discovering what was hidden in the eggs.

.

Llongyfarchiadau i'r unawdwyr a'r Parti Unsain a gymerodd ran yn yr Eisteddfod Gylch eleni. Da iawn chi.

Congratulations to the 'Parti Unsain' and the individuals who took part in the singing competition in the Local Eisteddod this year. Well done.

Derbyn

Dyna ddiwedd tymor arall wedi dod i ben! Mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn dros yr wythnosau diwethaf yn paratoi ar gyfer ambell berfformiad yn y neuadd ac mae’r dosbarth wedi bod yn fôr o ganu – o ganeuon Dydd Gŵyl Dewi, i’n hoff ganeuon sydd yn gwneud i ni deimlo’n hapus a phawb yn mwynhau bod yn rhan o’r holl fwrlwm. Cawsom ddechreuad hyfryd i’r hanner tymor newydd gyda phawb wedi’u gwisgo mewn gwisg Gymreig neu grys rygbi ac fe wnaethom fwynhau perfformio o flaen ein rhieni a’n ffrindiau yn ein bore coffi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bu ‘Diwrnod y Llyfr’ yn ddiwrnod hyfryd arall yn y dosbarth gyda nifer o gymeriadau gwych o’n hoff lyfrau wedi ymuno â’n dosbarth ni. Cawsom lawer o hwyl yn gwrando ar rhai o hoff storïau’r disgyblion.

Cafwyd sawl trafodaeth yn y dosbarth am yr holl bethau sy’n ein gwneud ni’n hapus. Gofynnwyd i’r plant ddod ag un peth i’r ysgol oedd yn gwneud iddyn nhw deimlo’n hapus. Cafwyd ymateb gwych a phob un yn falch i rannu ei peth arbennig nhw – unai ar ffurf llun neu’r gwrthrych ei hun. Daeth hyn yn sylfaen i’n gwasanaeth dosbarth ychydig o wythnosau yn ôl. Dysgom sawl cân yn sôn am hapusrwydd hefyd - roedd pob un yn mwynhau ac yn rhoi o’i gorau wrth ganu. Braf oedd cael croesawi ein rhieni a’n teuluoedd i fwynhau ein Gwasanaeth ac i rhannu hapusrwydd ein dosbarth ni gyda nhw. Da iawn i chi gyd am wasanaeth hyfryd ac am berfformiad arbennig o dda.

Ynghanol hyn i gyd rydym wedi parhau i ddatblygu ein hannibyniaeth yn y dosbarth. Rydym bellach wedi dechrau dysgu a chofio sut i greu toes ein hunain ac rydym wedi dysgu pa liwiau sydd angen eu cymysgu i greu lliwiau newydd. Nawr gallwn gymysgu paent ein hunain ar gyfer yr ardal greadigol. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi bod yn brysur yn plannu hadau mefus. Edrychwn ymlaen i’w gweld yn tyfu wrth i ni ofalu amdanynt dro yr wythnosau nesaf. Rydym hefyd wedi bod yn brysur yn creu addurn prydferth ar gyfer y Pasg.

Mwynhewch y gwyliau ac edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn ôl yn barod i barhau a’n taith ddysgu yn yr ysgol!

The end of another busy term has arrived! The last few weeks have been full of exciting activities and events, and we have been busy preparing to perform in the school hall from St David’s Day songs to our favourite songs that make us happy. We had a lovely start the new half term with everyone dressed in their Welsh Costume or rugby shirt and enjoyed performing in front of parents and friends at our coffee morning to celebrate St David’s Day. ‘World Book Day’ was another lovely day in class with many wonderful characters from our favourite books joining us in our activities! We had lots of fun listening to some of our favourite stories together.

There has been a lot of discussion about the things that make us happy. Pupils were asked to bring one thing that made them happy to school. There was a fantastic response and each one was proud to share their special thing – either in picture form or the object itself. This became the foundation of our class assembly a few weeks ago. We also learned several songs about happiness. Everyone enjoyed the experience and gave of their very best. It was lovely to welcome parents, families and friends to enjoy our assembly and to share the happiness of our class. Well done to you all for and excellent performance.

Amidst all this we have continued to develop out independence within the classroom. We are learning to make our own playdough and we have learned what colours we need to mix together to create new colours! Now we can mix our own paint to use in our creative area. During the last week we have planted some strawberry seeds. We look forward to seeing them grow as we learn to look after the plants over the next few weeks. We have also been busy creating a beautiful easter decoration.

Enjoy the holidays and we look forward to welcoming you back, ready to continue our learning journey at school.

I ddilyn thema Diwrnod y llyfr eleni penderfynodd y cyngor ysgol gofyn i bawb wisgo fel y cymeriad ‘Wali’ o’r Llyfr ‘Ble mae Wali?’. Hefyd daeth y disgyblion a hen lyfr i’r ysgol a chynhaliwyd stondin llyfrau ar ddiwedd y dydd i’r plant i ddewis llyfr newydd am ddim.

To follow the theme of this year's World Book Day the school council decided to ask everyone to dress up as the character 'Wally' from the book 'Where's Wally?'. Also pupils donated an old book to the school and we held a book stall at the end of the day for pupils to choose a new book for free.

Blwyddyn 1

Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi parhau i ddysgu am sut oedd bywyd yn ystod oes Fictoria. Yn ystod y tymor buodd llawer o weithgareddau cyffrous megis Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod y Llyfr, Diwrnod y Trwyn Coch, a’n gwasanaeth dosbarth. Parhaodd blwyddyn 1 i ddysgu am arian wrth ddysgu sut i greu cyfansymiau gwahanol gan ddefnyddio darnau arian amrywiol. Yna symudwyd ymlaen i ddysgu am siapiau 3d. Dysgon ni am eu priodweddau a ble rydyn ni'n eu gweld yn ein bywydau bob dydd. Yn dilyn ein hymweliad â Sain Fagan y tymor diwethaf dechreuwyd y tymor hwn drwy ysgrifennu am yr hyn a welsom a beth oedd ein hoff ran. Yna fe wnaethom ddatblygu ein sgiliau ysgrifennu ymhellach trwy ysgrifennu dwyn i gof o'n diwrnod. Yn dilyn hyn fe ddechreuon ni edrych ar sut mae ysbytai wedi newid. Roedd hi mor ddiddorol dysgu am Florence Nightingale a'r effaith a gafodd ar hylendid mewn ysbytai. Caewyd ein tymor trwy berfformio ein gwasanaeth dosbarth. Fe wnaethon ni fwynhau paratoi ar ei gyfer yn fawr trwy ddysgu am y Welsh Not, creu ein gwisgoedd, a dysgu ein rhannau. Roedd pawb yn wych a gobeithio eich bod wedi mwynhau ein gwasanaeth cymaint â ni!

During the recent weeks we have continued to learn about how life was during the Victorian times. During the term we have had many exciting activities such as St David’s Day, World Book Day, Red Nose day, and our class assembly. We have also continued learning about money during the term. Learning how to create different totals using various coins, before moving on to learn all about 3d shapes. We learnt about their properties and where we see them in our everyday lives. Following our visit to San Fagan last term we started this term by writing about what we saw and what our favourite part was. We then further developed our writing skills by writing a recount of our day. Following this we started looking at how hospitals have changed. It was so interesting learning about Florence Nightingale and the impact she had on the hygiene in hospitals. We closed our term by performing our class assembly. We thoroughly enjoyed preparing for it by learning about the Welsh Not, creating our costumes, and learning our parts. Everyone did so well and we hope you enjoyed our assembly as much as we did!

Cyngor Eco Council

Mae’r Cyngor Eco wedi bod yn llwyddiannus ac wedi ennill cyfanswm o £300 ar gyfer ein prosiect newydd yn y gymuned. Byddwn yn glanhau, plannu ac yn trawsnewid darn o dir yn y pentref ac rydym yn gyffrous iawn. Diolch i Mari Arthur am ei hamser, syniadau a’i brwdfrydedd.

The Eco council have been successful and have won £300 for our new community project. We will be clearing, planting and transforming an area of land in the village and we are very excited. Thank you very much to Mari Arthur for her time, ideas and enthusiasm.

Blwyddyn 2

Hanner tymor prysur llawn digwyddiadau fu hi ym Mlwyddyn 2! Dathlom ni Ddydd Gŵyl Dewi yn ein gwisgoedd traddodiadol, gwisgom ni i fyny fel ‘Where’s Wally’ ar gyfer Ddiwrnod y Llyfr a daethom i’r ysgol mewn coch ar ddiwrnod Trwynau Coch i godi arian ar gyfer elusen Comic Relief. Rydyn ni wrth ein boddau yn canu a pherfformio a chawsom ni’r cyfle eto yn ystod bore coffi Dydd Gwyl Dewi… joio mas draw! Fe wnaethom orffen ein cwrs o sesiynau Kerbcraft gyda Andy. Roeddem ni wrth ein boddau yn mynd allan i’r pentref yn dysgu sut i fod yn ddiogel wrth gerdded ar hyd heol neu wrth groesi heol. Roedd Andy yn dysgu gwersi pwysig iawn iawn i ni ond mewn ffordd hwylus. Yn ein sesiynau Mathemateg a Rhifedd dysgom amrywiaeth o sgiliau adio a thynnu a sut i ddefnyddio'r rhain i ddatrys problemau. Hefyd, gwnaethom ddysgu sut i ddefnyddio cyfesurynnau i ddarganfod llefydd a phethau ar fap. Edrychom yn ofalus ar ein hardal leol a chymharu traeth Llanelli a thraeth Porth Tywyn. Dysgom sut i gynnal arbrawf gwyddonol yn deg ac aethom ni ati i adeiladu cwch ar gyfer môr leidr a’i drysor! Yn ein hardaloedd annibynnol rydym wedi cwblhau amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys pobi cacennau’r traeth yn y gegin fwd, adeiladu cwch enfawr yn ein hardal adeiladu allanol, peintio map o Gymru, creu iMovie siapiau 2D, cynnal arolwg teithio, creu graffiau ar J2Data a llawer mwy! Cawsom hefyd y cyfle i bobi pice ar y maen a mynd a nhw adref i flasu … iym iym! Rydym yn gyffrous iawn i glywed beth fydd ein thema newydd tymor nesaf!

A busy half term full of events in Year 2! We celebrated St David's Day in our traditional costumes, we dressed up as 'Where's Wally' for World Book Day and we wore red to school on Red Nose day to raise money for Comic Relief. We thoroughly enjoyed singing and performing and we had another opportunity during a coffee morning to celebrate St Davids Day...it was so much fun! We completed our course of sessions with Andy from Kerbcraft. We thoroughly enjoyed heading out into the village with him to learn how to be safe whilst walking near roads or crossing roads. He taught us important lessons but in a fun way. In our Maths and Numeracy sessions we learnt a variety of addition and subtraction skills and how to use these to solve problems. We also learnt how to use coordinates to find places and specific things on a map. We looked carefully at our local area and compared Llanelli beach and Burry Port beach. We learned how to conduct a scientific experiment fairly before building a boat for a pirate and his treasure! In our independent areas we completed a variety of activities including baking beach cakes in the mud kitchen, building a big boat in our outdoor construction area, painting a map of Wales, creating a 2D Shapes iMovie, held school travel surveys, created graphs on J2Data and much more! We also had the opportunity to bake some traditional welsh cakes and take them home to taste... yum yum! We are very excited to hear what our new theme will be next term.

Sgwrs Diogelwch / Safety Talk

Diolch i 'West Wales Utilities' am eu sgwrs diogelwch nwy i Flynyddoedd 4, 5 a 6 yr wythnos diwethaf. Helpodd y sgwrs i godi ymwybyddiaeth o garbon monocsid.

Thank you to West Wales Utilities for their gas safety talk to Years 4, 5 and 6 last week. The talk helped raise awareness of carbon monoxide.

Blwyddyn 3

Dyna hanner tymor arall yn dod i ben. Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar ein thema ‘Dylunio’r Dyfodol’. Yn ein gwersi celf a dylunio, mae Blwyddyn 3 wedi bod yn brysur iawn yn paratoi a chreu eu dyluniadau ffasiwn! Maent wedi creu crysau-t allan o ddillad gwely, bagiau allan o gotiau a menig allan o siwmperi. Nhw sydd wedi eu dylunio yn barod ar gyfer y sioe ffasiwn. Roedd y sioe ffasiwn yn llwyddiant enfawr, ac roedd pob un ohonynt yn teimlo’n falch wrth ddangos eu gwaith ar y llwyfan. Pwrpas y sioe ffasiwn a chreu'r dillad oedd dysgu pwysigrwydd cynaliadwyedd i Flwyddyn 3. Yn y dosbarth, edrychom ar ‘ffasiwn gyflym’ a pha effaith mae’n cael ar ein hamgylchedd. Ymchwiliom ni amodau gwaith ffatrïoedd ffasiwn gyflym a'u hôl traed eco a'r milltiroedd mae rhai dillad yn teithio i gyrraedd ein siopau yng Nghymru. Penderfynodd Blwyddyn 3 i ddefnyddio eu hen ddillad i greu dillad newydd, ac am lwyddiant! Roedd pawb yn edrych yn smart iawn!

Fel rhan o’n thema, aethon ni i Nant y Caws i’r ganolfan ailgylchu. Gwelsom ni’r siop ‘ETO’ lle roeddent yn gwerthu pob math o bethau sydd wedi cael eu rhoi i’r ganolfan. Maent hefyd yn ailgylchu pob dim sy’n cyrraedd y ganolfan; does dim byd yn mynd i’r ddaear! Ar ôl cyrraedd yn ôl yn yr ysgol, penderfynodd y dosbarth ysgrifennu dyddiadur am eu diwrnod yn y ganolfan ailgylchu. Yn ein gwersi rhifedd, canolbwyntion ni hefyd ar amser ac amserlenni, a sut i ddarllen a dehongli amseroedd agor a chau’r ganolfan ailgylchu.

Another short but jam packed half term it has been! During this half term we have been concentrating on our theme ‘Designing the future’. During our design lessons, Year 3 have been busy designing and creating their own fashion statements! They have made t-shirts out of bed sheets, bags out of coats and mittens out of jackets. They have sourced and designed their clothes and were very proud to show their hard work to parents on the catwalk. The purpose of the fashion show and upcycling clothes was to learn about fast fashion and the impact it’s having on our planet. We have researched the working conditions of factories of fast fashion, looked at their carbon footprint and how many miles the clothes take to get to our shops in Llanelli. To be more sustainable, Year 3 decided to reuse their old clothes for new ones and to give them a new lease of life – and very smart they looked too!

As part of our sustainability studies, Year 3 visited a recycling centre in Nant y Caws. We visited the ETO shop, where there were all sorts from glassware to bikes. We also learned that they recycle everything that gets brought into the centre and nothing gets put into landfill. After arriving back at school, we decided that we should write a diary entry on our time at the recycling centre. In our Numeracy lessons, we have been looking at time and reading timetables of opening times for the recycling centre, and looked at data and statistics of recycling, the weather and famous Welsh fashion designers.

Blwyddyn 4

Mae’r pum wythnos wedi mynd heibio mewn fflach unwaith eto ac rydym wedi bod yn ofnadwy o brysur. Dwyn i gof oedd ein genre'r hanner tymor yma ac rydym wedi ysgrifennu dyddiadur gweithwyr ffatri dur ac ysgrifennu erthygl papur newydd am agoriad y ffatri dur yn Llanelli nol yn 1897. Rydym wedi dysgu am idiomau gan geisio eu defnyddio nhw yn aml yn ein gwaith. Rydym wedi ffocysu ar dynnu llinellau i’r cm agosaf, mesur llinellau, darganfod perimedr sgwariau a phetryalau a phwyso gwrthrychau. Darllenom, The Ghost Town gan Peter Hill, sef darn o farddoniaeth am dref oedd unwaith yn llewyrchus oherwydd y ffatri dur ond erbyn nawr yn dawel ac yn wag. Ein nofel yr hanner tymor yma yw Sara Mai ac Antur y Fferm, nid ydym wedi cael cyfle i'w orffen eto felly byddwn yn gorffen y nofel hanner tymor nesaf. Rydym wedi bod yn ymchwilio pwy sydd yn helpu ni yn yr Ysgol, y pentref, y dref, Cymru a’r Deyrnas Unedig (er mae angen diweddaru ein hatebion bellach gyda newyddion o’r Prif Weinidog newydd i Gymru). Rydym wedi ymchwilio beth sydd yn effeithio ar hunaniaeth a bod dehongliadau yn cael eu dylanwadu gan wahanol bethau. Byddwn yn nofio am y dair wythnos cyntaf o’r hanner tymor newydd, sicrhewch eich bod wedi labelu pob dilledyn, Mwynhewch y pythefnos yn creu atgofion gyda’ch teuluouedd a’ch ffrindiau..

The five weeks have gone by in a flash once again and we have been incredibly busy. Recount was our genre this half term and we have written a steel factory workers diary and a newspaper article about the opening of the steel factory in Llanelli back in 1897! We have learnt about idioms and try to use them often in our work . We have focused on creating lines to the nearest cm, measuring lines, finding the perimeter of squares and rectangles and weighing objects. We read, The Ghost Town by Peter Hill, which is a piece of poetry about a town that was once prosperous because of the steel factory but is now quiet and empty. Our novel this half term is Sara Mai ac Antur y Fferm, we haven't had a chance to finish this yet so we will finish the novel next half term. We have been researching who is helping us in the school, the village, the town, Wales and the United Kingdom (although our answers now need to be updated with news of the new First Minister for Wales). We have investigated what affects identity and that interpretations are influenced by different things. We will be swimming daily for the first three weeks of the next half term, please ensure that you have labelled each piece of clothing. Enjoy the two weeks with your families and friends creating memories.

Diwrnod Trwyn Coch / Red Nose Day

Dathlom 'Diwrnod Trwyn coch' trwy wisgo coch i'r ysgol i godi arian at yr achos da yma. Hefyd, cynhaliom ni gystadleuaeth ym mhob dosbarth lle bu'r plant yn dylunio crys-t doniol i'w hathro.

We celebrated 'Red Nose Day' by wearing red to school to raise money for the good cause. Also, each class held a competition to design a funny t-shirt for their teacher.

Blwyddyn 5

Hanner tymor prysur arall ym Mlwyddyn 5. Gan ein bod wedi bod yn cymharu ardal wledig gydag ardal ddinesig, fe benderfynom edrych ar wahanol adeiladau. Ar ôl astudio’r gwahanol adeiladau, aethom ati i ysgrifennu cerdd oedd yn odli. Roedd pawb wedi defnyddio ansoddeiriau a chymariaethau gwych yn eu cerddi wrth ddisgrifio gwahanol safleoedd, ond y neges pwysig ar ddiwedd y gerdd oedd; dim ots beth mae’r adeilad yn edrych fel, does unman yn debyg i adref.

Uchafbwynt yr hanner tymor oedd ein gwibdaith i Lundain. Am brofiad arbennig i bawb. Roedd hi’n ddau ddiwrnod hir a blinedig ond fe welsom llawer o atyniadau a chael profiadau bythgofiadwy. Gadawodd y bws Trimsaran am 7 yn y bore gyda pawb yn gyffrous iawn. Cawsom ginio yn Covent Garden cyn ymweld â’r Amgueddfa Trafnidiaeth. Hwyrach y noson honno fe welsom sioe The Lion King, roedd wynebau pawb yn goleuo gyda’r cyffro o weld sioe mor arbennig. Y diwrnod canlynol, profiad newydd i bawb oedd i deithio ar y tiwb o Wembley i Westminster. Aethom i gwrdd â Nia Griffith yn y Tai Seneddol a chael taith o amgylch, cyn gweld Rishi Sunak yn cyrraedd ar gyfer cwestiynu’r Prif Weinidog. I orffen y dydd, cerddom lawr y Mall i weld Palas Buckingham cyn dal y bws yn ôl adref.

I orffen yr hanner tymor, cawsom ddiwrnod hamddenol yn yr ardd yn chwynnu a phlannu hadau ffa yn barod ar gyfer y tymor newydd.

Another busy half term in Year 5. As we had been comparing a rural area with a city area, we decided to look at different buildings. After studying the different buildings, we set about writing a poem that rhymed. Everyone used great adjectives and comparisons in their poems when describing different buildings, but the important message at the end of the poem was; No matter what the building looks like, there's nowhere like home.

The highlight of the half term was our excursion to London. What a great experience for everyone. It was a long and exhausting two days but we saw many attractions and had unforgettable experiences. The bus left Trimsaran at 7 in the morning with everyone very excited. We had lunch at Covent Garden before visiting the Transport Museum. Later that night we saw The Lion King show, everyone's faces lit up with the excitement of seeing such a special show. The following day, a new experience for everyone to travel on the tube from Wembley to Westminster. We met Nia Griffith at the Houses of Parliament and had a tour of the building, before seeing Rishi Sunak arrive for Prime Minister's questioning. To finish the day, we walked down the Mall to see Buckingham Palace before catching the bus back home.

To finish the half term, we had a relaxing day in the garden weeding and planting broad bean seeds in preparation for the new term.

Noson Agored / Open Evening

Cynhaliwyd noson agored i ddathlu gwaith y plant ar 18.03.2024. Cafodd rhieni cyfle i sgwrsio’n anffurfiol gyda’r athro/athrawes dosbarth a gweld llyfrau gwaith eu plant.

We held an open evening to celebrate the work of the pupils on 18.03.2024. Parents had an opportunity to chat with the class teacher and to see their children's books.

Blwyddyn 6

Mae hi wedi bod yn hanner tymor prysur iawn i flwyddyn 6. Mae llawer o ddisgyblion wedi bod yn cynrychioli’r ysgol yng nghystadlaethau Rygbi a phêl droed. Mae’r llysgenhadon chwaraeon wedi bod yn cynnal sesiynau i flwyddyn 2 ar brynhawn Dydd Gwener. Mae disgyblion blwyddyn 6 hefyd yn mynd lawr i ddosbarthiadau Derbyn a blwyddyn 1 bob amser chwarae i wneud gweithgareddau chwaraeon a hybu’r iaith Gymraeg.

Roedd prosiect ‘Cook 24’ yn dod i ben yn ystod yr hanner tymor. Ar y diwrnod olaf, daeth rhieni’r disgyblion i’r ysgol i flasu’r bwyd. Cyflwynwyd tystysgrif i bob disgybl am gymryd rhan yn y prosiect. Mae pawb wedi dysgu llawer am sut i goginio a defnyddio cynnyrch ffres iach i wneud bwyd.

Bu’r disgyblion yn canu dwy eitem yn ystod bore coffi'r ysgol i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi. Da iawn i bawb am berfformio mor dda a diolch i’r rhieni am ddod i gefnogi. Mae Blwyddyn 6 wrthi’n paratoi ar gyfer cyflwyniad yn y Gerddi Botaneg. Pwrpas y cyflwyniad yw codi ymwybyddiaeth o’r siarcod sydd yn byw yn foroedd Cymru. Mae’r dosbarth yn gorfod creu dyluniad 3D a’i brintio ar brinter 3D sydd yn yr ysgol.

Uchafbwynt yr hanner tymor oedd ein trip i Lundain. Roedd y disgyblion wrth eu boddau yn yr Amgueddfa Drafnidiaeth yn Llundain. Wedyn aeth pawb i wylio sioe ‘Lion King’ mewn theatr – profiad anhygoel i bawb. Y bore canlynol, aeth pawb ar y tiwb i’r Tai Cyffredin. Cafodd y dosbarth daith ddiddorol o amgylch yr adeilad.. Roedd pawb yn barod i holi cwestiynau ac yn awyddus i ddysgu mwy am hanes y Tai Cyffredin. Roedd hi’n ddiddorol ei gymharu gyda’r Senedd gan ein bod wedi bod yna yn gynharach yn y flwyddyn. Ar ôl hyn, cerddodd pawb i Balas Buckingham i gael llun o flaen yr adeilad enfawr. Roedd y daith nol i Drimsaran yn un blinedig ond roedd hi’n amlwg bod pawb wedi cael profiadau bythgofiadwy yn Llundain.

It has been a very busy half term for year 6. Many pupils have been representing the school in Rugby and football competitions. The sports ambassadors have been holding sessions for year 2 on Friday afternoons. Year 6 pupils also go down to Reception classes and year 1 to do sporting activities and promote the Welsh language.

The 'Cook 24' project was coming to an end during the half term. On the last day, the parents of the pupils came to the school to taste the food. A certificate was presented to each pupil for taking part in the project. Everyone has learned a lot about how to cook and use healthy fresh produce to make food.

The pupils sang two items during the school's coffee morning to celebrate St David's Day. Well done to everyone for performing so well and thanks to the parents for coming to support. Year 6 are currently preparing for a presentation in the Botanical Gardens. The purpose of the presentation is to raise awareness of the sharks that live in the seas of Wales. The class must create a 3D design and print it on a 3D printer that is in the school.

The highlight of the half term was our trip to London. The pupils loved being at the Transport Museum in London. Then everyone went to watch the 'Lion King' show in a theatre - an amazing experience for everyone. The following morning, everyone went on the tube to the Houses of Parliament. The class had an interesting tour around the building. Everyone was ready to ask questions and eager to learn more about its history. It was interesting to compare it with the Senedd as we had been there earlier in the year. After this, everyone walked to Buckingham Palace to have a picture taken in front of the huge building. The journey back to Trimsaran was tiring but it was clear that everyone had unforgettable experiences in London.

Llundain / London

Ar 19eg o Fawrth aeth Blwyddyn 5/6 ar daith dros nos i Lundain. Cawsant amser bendigedig yn ymweld â’r Amgueddfa Trafnidiaeth, taith o amgylch tirnodau enwog Llundain, Tai Seneddol a Theatr Lyceum i weld y sioe 'Y Llew Frenin'.

On 19th March, Years 5/6 visited London on an overnight stay. They had a wonderful time and visited the National Transport Museum, a tour of London's famous landmarks, Houses of Parliament and Lyceum Theatre to see 'The Lion King' show.