View Screen Reader-Friendly Version

Dr. Mary Wakeham

BA (Arnh), MA, MRes, PhD

Ymddiriedolwr Links Group, Prif Weithredwr Refuge4Pets Mae gan Mary dros 15 mlynedd o brofiad ymarfer yn gweithio yn y sector cam-drin domestig. Mae’n sylfaenydd ac yn Brif Weithredwr Refuge4Pets, sef elusen sy’n darparu gwasanaeth arbenigol mabwysiadu anifeiliaid i ddioddefwyr-oroeswyr cam-drin domestig. Mae’r elusen yn un o wasanaethau mabwysiadu anifeiliaid cam-drin domestig arbenigol y Links Group. Mae Mary yn Uwch Gydymaith Ymchwil ym Mhrifysgol Bryste ac mae’n arbenigo yn neinamig a goblygiadau defnyddio/cam-drin anifeiliaid mewn cyd-destun cam-drin domestig, yn enwedig cam-drin anifeiliaid fel strategaeth rheolaeth drwy orfodaeth. Mae ar hyn o bryd yn ymchwilio’r cydgysylltiad rhwng cam-drin anifeiliaid a cham-drin domestig sy’n ymwneud â dynladdiad/hunanladdiad. Caiff yr astudiaeth rhan amser 2 flynedd hon ei hariannu gan Defra ac mae’n gydweithrediad rhwng Prifysgol Bryste, Refuge4Pets a’r Links Group.