Themau tymor nesaf / Next term's themes
Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology
Gwerth y Mis/Value of the Month
Mehefin/June - Dewrder/Courage
Gorffennaf/July - Goddefgarwch/Tolerance
Hawl y Mis/Right of the Month
Mehefin/June - Erthygl 12 - Eich hawl i ddweud beth ddylai ddigwydd ac i rywun wrando arnoch / Article 12 - Your right to say what should happen and for someone to listen to you.
Gorffennaf/July - Erthygl 14 - Eich hawl i ddilyn eich crefydd eich hun / Article 14 - Your right to follow your own religion.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
25.05.2024-02.06.2024 - Gwyliau/Holidays
03.06.2024 - HMS / INSET
Dydd Mawrth 04.06.2024 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
04-06.2024 - B6 - PC Ali - Sgwrs Camddefnyddio Sylweddau / Substance Misuse talk with PC Ali.
06.06.2024 - B3-6 - Bronwen Lewis (Cantores) i ymweld a'r ysgol / Bronwen Lewis (Singer) to visit the school
06.06.2024 - B3/4 - Cystadleuaeth Criced yr Urdd / Urdd Cricket Competition
10-14.06.2024 - B6 - Cwrs Beicio yn yr ysgol / Cycling Course in school
18.06.2024 - Meithrin/Derbyn - Mabolgampau ym Mharc y Scarlets / Sports at Parc y Scarlets
20.06.2024 - B6 - Ymweliad i Ysgol y Strade / Visit to Ysgol y Strade
27.06.2024 - B4 - Taith i Fferm gyda prosiect Cook 24 / Visit to a Farm with Cook 24 Project
09.07.2024 - B6 - Diwrnod Pontio yn Ysgol Glan-y-Môr / Transition Day at Glan-y-Môr School
10.07.2024 - Ffair Hâf yn yr ysgol / School Summer Fayre - 15:00-17:00
11.07.2024 - B6 - Diwrnod Pontio yn Ysgol Glan-y-Môr / Transition Day at Glan-y-Môr School
11.07.2024 - B6 - Noson Agored yn Ysgol y Strade / Open Evening at Ysgol y Strade - 18:00
12.07.2024 - B6 - Diwrnod Pontio yn Ysgol y Strade / Transition Day at Ysgol y Strade
12.07.2024 - Meithrin-B5 - Diwrnod Pontio yn dosbarthiadau newydd / Transition Day in new classes
12.07.2024 - Adroddiadau Disgyblion / Pupil Reports
16.07.2024 - B6 - Cyngerdd Ymadawyr / Leavers Concert - 14:00
19.07.2024 - Diwedd Tymor / End of Term
20.07.2024-01.09.2024 - Gwyliau/Holidays
02.09.2024 - HMS/INSET
03.09.2024 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
Archebu cinio ysgol dyddiol / Parent Pay Daily Meals Bookings
Atgof Pwysig:
Gall pob teulu gofio bod yn rhaid archebu pryd bwyd eu plentyn ar ParentPay cyn 8yb bob dydd gan ei fod yn helpu staff y gegin i ddarparu bwyd ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a'r plant hynny ym mhob dosbarth hyd at Flwyddyn 5 sydd â hawl i UPFSM.
Gofynnwch yn y dderbynfa os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn.
Diolch am eich cefnogaeth gyda'r mater hwn.
Important Reminder:
Please can all families remember that they must book their child's meal on ParentPay before 8am each day as it helps the kitchen staff cater accordingly. This includes children who are in receipt of Free School Meals and those children in all classes up to Year 5 who are entitled to UPFSM.
Please ask in reception if you don't know how to do this.
Thank you for your support with this matter.
Chwaraeon / Sports
Mae'r Llywodraethwyr wedi cytuno y bydd yr ysgol yn parhau i ariannu gwersi nofio hanfodol, y mae llawer o ysgolion yn codi hyd at £5 y wers ar eu cyfer. Mae'r penderfyniad hwn yn sicrhau y bydd pob disgybl ym Mlynyddoedd 3 a 4 yn gallu cael mynediad at y gwersi pwysig hyn heb unrhyw faich ariannol ar eu teuluoedd.
The Governors have agreed that the school will continue to fund essential swimming lessons, which many schools charge up to £5 per lesson for. This decision ensures that all students will have access to these important lessons when in Years 3 and 4 without any financial burden on their families.
Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn ystod yr hanner tymor yma gan gynnwys:
Pupils have taken part in various sporting activities during this half term including:
Blwyddyn 3/4 - Gŵyl Rygbi Cymysg ym Mharc y Scarlets / Mixed Rugby festival at Parc y Scarlets
Blwyddyn 5/6 - Cystadleuaeth Rygbi yr Urdd yn Glanamman / Urdd Rugby Competition in Ammanford
Blwyddyn 3 - Gŵyl Chwaraeon yn Stebonheath / Sports festival at Stebonheath
Blwyddyn 2/3 - Gŵyl Rygbi yng Nghlwb Rygbi Ffwrnes / Rugby Festival at Furnace Rugby Club
Blwyddyn 3-6 - Gala Nofio yng Nghanolfan Hamdden Llanelli / Swimming Gala at Llanelli Leisure Centre
Prosiect Cook 24 Project
Mae disgyblion Blwyddyn 5 wedi cymryd rhan mewn prosiect coginio yn yr ysgol, gan gynnwys taith i fferm i helpu gwneud caws. Ariennir y prosiect gan y Llywodraeth ac mewn partneriaeth â Choleg Sir Gâr.
Mae'r disgyblion wedi mwynhau gwersi coginio bob dydd Iau yn yr ysgol gan gogyddion proffesiynol. Yn ystod eu sesiwn olaf, gwahoddwyd y rhieni i ymuno am sesiwn flasu. Dyma rai lluniau.
Year 5 pupils have been taking part in a cooking project at school and this included a trip to a farm and helped to make cheese. The project is funded by the Government and in partnership with Coleg Sir Gar.
Pupils have enjoyed cookery lessons every Thursday at the school from professional chefs. During their last session, parents were invited for a taster session. Here are some photos.
Meithrin
Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym wedi bod yn mwynhau parhau i ddysgu am ein hamgylchedd a sut i ofalu amdano. Mae wedi bod yn hyfryd i weld yr holl lysiau yn tyfu yn ein hardal arddio tu allan, ac rydym yn edrych ymlaen i flasu beth sydd wedi tyfu ar ôl hanner tymor. Ein stori ar gyfer yr hanner tymor oedd ‘Y Lindysyn Llwglyd Iawn’ ble dysgom am gylch bywyd pili pala. Cawsom gyfle i greu pethau celf a chrefft, creu trychfilod allan o does a chyfle i greu lluniau hyfryd i ddangos y stori. Diolch i’r lindysyn am adael llawer o ffrwythau hefyd i ni yn y dosbarth i ddidoli a blasu. Roedd y ffrwythau mawr a bach yn flasus iawn. Rydym hefyd wedi bod yn dysgu am wahanol liwiau. Cafodd pawb llawer o hwyl yn ein harbrawf gwyddonol. Trwy ddefnyddio losin ‘skittles’, gwelsom y lliwiau yn cymysgu a chreu lliwiau newydd. Dysgom fod lliwiau fel coch a melyn yn creu'r lliw oren, a glas a melyn yn creu gwyrdd!
Fe wnaeth pawb yn dda iawn yn y mabolgampau gyda phawb yn gwneud ei gorau glas. Braf oedd gweld pawb yn cymryd rhan yn ein gweithgareddau rhedeg, taflu, casglu a chystadlu yn y rasys wy a llwy a’r cwrs rhwystr. Da iawn chi!
Rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda’r thema ar ôl hanner tymor a dysgu mwy am dyfu a bywyd ffermio.
During this half term, we have continued learning about our environment and how to care for it. It's been lovely to see all the vegetables growing in our gardening area outside and we are looking forward to tasting what's grown after half term. Our story for the half term was 'The Very Hungry Caterpillar' where we learned about the life cycle of a butterfly. We had the opportunity to create different arts and crafts, create different insects out of playdough and a chance to create some lovely pictures to illustrate the story. Thank you to our class caterpillar also for leaving us lots of fruit in class to sort and taste. Big or small, they all tasted delicious. We have also been learning about different colours. Everyone had a lot of fun doing during our scientific experiment. By using the sweets skittles, we saw the colours blend and create new colours. We learned that colours like red and yellow make orange, and blue and yellow make green!
Everyone did really well in the during sports day with everyone doing the best they could. It was wonderful to see everyone take part in our running, throwing, collecting activities, and competing in the egg and spoon and obstacle races. Well done!
We are looking forward to continuing with the theme after half term and learning more about growing and farming life.
.
Derbyn
Am dymor cyffrous i’r dosbarth Derbyn, rydym wedi bod yn brysur iawn yn adeiladu a dysgu ar sgiliau newydd, ac mae pawb wedi bod wrth eu bodd yn chwarae a dathlu gyda ffrindiau. Rydym wedi bod yn canolbwyntio ar stori ‘Y Lindysyn Llwglyd Iawn’, a gwneud llawer o weithgareddau hwylus, gan gynnwys; datblygu sgiliau newydd - o greu brechdan iachus i greu salad ffrwythau, gan olchi a thorri'r ffrwythau yn annibynnol. Rydym wedi dysgu pa fwyd sy’n iach ac afiach a'r pwysigrwydd o gael cydbwysedd o fwydydd gwahanol o fewn ein bocs bwyd. Mae pawb wedi bod yn defnyddio'r gliniaduron i ddarganfod ‘Hoff ffrwyth Dosbarth Derbyn’ trwy greu pictogram ar Hwb. Yn ogystal â hyn, buom ar daith o amgylch ein hysgol i edrych am siapiau yn ein hamgylchedd o ddydd i ddydd. Yn ystod y tymor mae’r disgyblion wedi cymryd rhan yn y Mabolgampau, gan gynnwys rasau syth, ras wy a’r llwy, ras rhwystr a gweithgaredd casglu a dosbarthu bagiau ffa yn ôl eu lliw. Mae wedi bod yn hanner tymor prysur ond cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd ar ôl y gwyliau!
What an exciting term for the Reception class, we've been very busy building and learning on new skills, and everyone has loved playing and celebrating with friends. We've been enjoying the story of 'The Very Hungry Caterpillar', and doing lots of fun activities, including developing new skills of creating a healthy sandwich, making a fruit salad, where they washed and cut the fruit independently. We have learnt what food is healthy and unhealthy and the importance of having a balance of different foods within our lunchbox. Everyone has been using the laptops to discover a 'Favourite Fruit in the Reception class' by creating a pictogram on a Hwb. In addition to this, we went on a shape hunt around the school to look for shapes in our day-to-day environment. During this term, the pupils have taken part in the Sports Day, including straight races, an egg and spoon race, an obstacle race and a fun activity collecting and sorting bean bags by colour. It has been a busy and very exiting half term and we are looking forward to returning after the holidays.
Mabolgampau/Sports
Cafodd disgyblion, staff a rhieni dipyn o hwyl yn ein mabolgampau ar 16eg o Fai, er gwaethaf y tywydd yn y prynhawn. Bu disgyblion y Cyfnod Sylfaen yn cymryd rhan yn ystod y bore a’r plant Iau yn y prynhawn ond oherwydd ein tywydd anrhagweledig fe aildrefnwyd mabolgampau’r plant Iau i’r prynhawn canlynol. Yr enillwyr oedd tîm Myrddin. Daeth Glyndwr yn 2il, Llywelyn yn 3ydd ac Arthur yn 4ydd.
Children, staff and parents thoroughly enjoyed Sports Day on 16th May, despite the weather during the afternoon!! The Foundation Phase pupils took part in the morning and the Junior pupils in the afternoon but due to our unpredictable British weather the Junior pupils' sports was re-arranged to the following afternoon. The team winners were Myrddin. Glyndwr were 2nd, Llywelyn 3rd and Arthur 4th.
Er gwybodaeth rhwng y stondyn ddiodydd, BBQ a teuluoedd yn talu i fynychu codwyd £434.30. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.
Also, between the drinks and BBQ stand and families paying to attend we raised £434.30. Thank you very much.
Blwyddyn 1
Dechreuon ni’r tymor hwn gyda gwahoddiad gan flwyddyn 2 i ymuno â nhw ar eu hymweliad â’r RNLI a’r traeth ym Mhorth Tywyn. Roedd yn ddiwrnod hyfryd yn llawn gwybodaeth ddiddorol a gweithgareddau hwyliog, gan gynnwys ymweliad blasus i Crazie Crepes. Y tymor yma rydym wedi bod yn dysgu am fwystfilod bach. Gan fod y tywydd wedi dechrau gwella rydym wedi mwynhau mynd lan i’r cae i weld pa fwystfilod bach y gallwn eu gweld a dechrau cynllunio ein ‘gwesty trychfilod’. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym wedi bod yn dysgu am gylch bywyd y pili pala. Roeddem wrth ein bodd yn ymchwilio a dod o hyd i fideos a oedd yn dangos y trawsnewidiad mae'r lindysyn yn ei wneud i fod yn pili pala. Rydym hefyd wedi dechrau edrych ar y gwahanol gynefinoedd y mae gwahanol greaduriaid eu hangen er mwyn goroesi, mae hyn wedi ein galluogi i ddysgu beth sydd ei angen yn ein ‘Gwesty Trychfilod’ er mwyn iddynt oroesi. Yn ddiweddar rydym wedi bod yn dysgu sut i gasglu data a chyflwyno ein canfyddiadau mewn graffiau. Fe wnaethon ni ddefnyddio marciau cyfrif i nodi pa drychfil oedd ffefryn pawb cyn dangos ein canlyniadau ar graff bloc. Yn dilyn hyn rydym wedi bod yn dysgu dadansoddi'r graff i ddeall y wybodaeth allweddol. Yr wythnos diwethaf cynhaliwyd ein mabolgampau ac fe wnaethom fwynhau ein bore yn fawr a chymryd rhan yn yr holl weithgareddau amrywiol.
We started off this term with an invitation from year 2 to join them on their visit to the RNLI and beach in Burry Port. It was a lovely day filled with interesting information and fun activities, including a nice treat by visiting Crazie Crepes. This term we have been learning about minibeasts. As the weather has started to improve, we have enjoyed going up to the field to see what minibeast we can see and start planning our ‘bug hotel’. During the recent weeks we have been learning about the lifecycle of the butterfly. We loved researching and finding videos that showed the transformation the caterpillar undergoes to become a butterfly. We have also began looking at the different habitats different creatures need in order to survive; this has allowed us to learn what is needed in our ‘Bug Hotel’ in order for them to survive. Recently we have been learning how to collect data and present our findings in graphs. We used tally marks to note which insect was everyone’s favourite before showing our results on a block graph. Following this we have been learning to analyse the graph to understand the key information. Last week was our sports day and we thoroughly enjoyed our morning and taking part in all the various activities.
Cyngor Eco Council
Cafodd y Pwyllgor Eco fore #bioamrywiaeth llawn hwyl gyda @DwrCymru yn y parc yn taflu hadau ar gyfer yr ardal blodau gwyllt. Diolch i Mari Arthur am drefnu’r digwyddiad ac i @DwrCymru am ein poteli dŵr a’n ffrwydbeli hadau.
The Eco Committee had a fun #biodiversity morning with @DwrCymru in the village park throwing seeds for the wildflower area. Thank you to Mari Arthur for organising the event and to @DwrCymru for our water bottles and seed grenades.
Blwyddyn 2
Bobl bach…sut yn y byd ydyn ni hanner ffordd trwy ein tymor olaf yn barod? Mae’r amser wir wedi hedfan. Dechreuom y tymor yn cynllunio trip i draeth Porth Tywyn. Aethom ni ar ymweliad i’r Ganolfan RNLI lle dysgom sut i gadw’n ddiogel ar lan y môr, i Crazie Crepes i gael blasu crempog ( roedden nhw’n anhygoel) a thaith lawr i’r traeth er mwyn chwarae a mwynhau. Roedd yn ddiwrnod arbennig! Cawsom hwyl a sbri yn paratoi ar gyfer ein diwrnod mabolgampau ac roeddem ni wrth ein boddau yn cystadlu o flaen ein rhieni yn yr haul! Dechreuom ein thema newydd ‘Gwersylla Gwyllt’ trwy ddarllen stori’r Tri Mochyn Bach. Creom map stori, dysgu’r stori ac yna adrodd y stori ar lafar. Ymchwiliom mewn i briodweddau defnyddiau ac adeiladu tai ar gyfer y tri mochyn bach. Ar ôl hanner tymor rydym yn edrych ymlaen at ddysgu a gwneud llawer o weithgareddau tu allan.
How are we already halfway through our final term in Year 2? Time really is flying! We started the term planning a trip to Burry Port beach. We went on a visit to the RNLI Station where we learned how to stay safe on the beach, went to Crazie Crepes to taste some pancakes (they were amazing) and a trip down to the beach to play and enjoy. It was a fantastic day! We had a blast preparing for our sports day and we loved competing in front of our parents'! We started our new theme 'Wild Camping' by reading the story of the Three Little Pigs. We created a story map, learned the story and re-told the story orally. We investigated into the properties of materials and built houses for the three little pigs. After half term we are looking forward to taking part in lots of outdoor activities and learning survival skills.
Blwyddyn 3
Dyna hanner tymor prysur arall yn dod i ben! Thema blwyddyn 3 ar gyfer y thema yma ydy Grymoedd Gwych. Ein prosiect terfynol ar gyfer y tymor yma bydd i greu tegan sy’n symud. Felly, fel sbardun i’r thema yma, aethon ni i Sain Ffagan. Yn Sain Ffagan, cymeron ni ran mewn gweithdy am deganau dros yr oesoedd. Gwelsom ni wahanol deganau o ar draws hanes Cymru a dysgon ni sut cawsant eu creu. Unwaith cyrhaeddon ni nol yn yr ysgol, penderfynom ddylunio gem cwpan a phêl yn debyg i’r un a welsom yn y r amgueddfa a chreom ni ddolis allan o begiau dillad fel oedd plant yn gwneud yn yr hen ddyddiau. Hefyd, aethom yn syth ati i ddysgu am rymoedd a sut mae gwrthrychau yn symud. Gwnaethon ni arbrawf am newtonau a disgyrchiant a sut rydym yn gallu mesur grym a pham. Wedyn, cynhalion ni arbrawf arall ar fagnetau a sut maent yn gweithio a pham maent yn cael eu defnyddio mewn llawer o deganau. Yn dilyn hyn, penderfynodd Blwyddyn 3 ysgrifennu poster yn esbonio sut mae magnetau yn gweithio. Yn ein gwersi Saesneg, rydym wedi bod yn dysgu am deganau penodol, sef robot. Yn ein nofel ddosbarth, mae robot yn mynd ar goll ar ynys. Yn ein tasgau digidol, rydym wedi dylunio ynys ein hun o fewn Adobe Creative ac rydym hefyd wedi ysgrifennu Haiku ar y gwahanol anifeiliaid yn y nofel. Mae blwyddyn 3 yn edrych ymlaen at greu tegan sy’n symud ar ôl y gwyliau!
Another busy half term has come to an end! This term’s theme is ‘Fantastic Forces’ and our final project of the year is to build a mechanical toy. For the tuning in part of our project, we decided to pay a visit to St Fagan’s Museum. While we were there we took part in a workshop all about toys, where we learnt all about toys from across the ages and how they made toys in Wales over the last 200 years. We saw lots of artefacts of toys and learnt how they were made all those years ago. Once we got back to school, the learners decided to make a ball and cup game, and also a dolly made out of an old fashioned wooden peg. It was great to see their creativity shine through when designing their toys. We also held a few experiments on forces and how they work and how we can measure them ready for our toy making. We also experimented with magnets and discussed how they are used in modern day toys. Year 3 then went on to make a poster explaining how magnets works and how they are used. We then went on to start a new class novel called The Wild Robot, where a toy robot becomes lost on a deserted island. In our digital tasks, the learners have designed islands of their own using Adobe Creative and have made fact files of their favourite animals from the book. We then went on to write a Haiku poem on our favourite animals from the novel and it was great to see their creativity shine through. Year 3 are looking forward to making their final project after half term!
Blwyddyn 4
Oeddech chi'n gwybod bod traean o holl byllau dŵr y Deyrnas Unedig wedi diflannu yn ystod y 50 mlynedd diwethaf? Mae hyn wedi cael effaith aruthrol ar fywyd gwyllt, yn enwedig llyffantod a madfallod, sydd angen pyllau i fridio. Os bydd pyllau'n diflannu, felly hefyd yr amffibiaid poblogaidd hyn, ac felly'r hanner tymor yma rydym wedi dysgu am byllau dŵr. Rydym wedi dysgu’r gwahaniaeth rhwng pwll dŵr a llyn a pha greaduriaid a phryfed sydd yn byw mewn pyllau dŵr. Rydym wedi edrych am leoliad ar gyfer pwll dŵr ar dir yr ysgol, oherwydd ein gobaith yw cael pwll dŵr ar dir ein hysgol ni!! Rydym wedi dysgu am gylch bywyd y broga ac wedi dysgu am gadwyni bwyd y pwll dŵr. Rydym wedi canolbwyntio ar y genre; adroddiad ac rydym wedi dewis creadur/ pryfed sydd yn byw yn y pyllau dŵr ac rydym wedi ysgrifennu adroddiad! Yn y Saesneg rydym wedi ymchwilio WWT Llanelli ac wedi ysgrifennu adroddiad arall. Rydym hefyd wedi ysgrifennu cinquain; darllen o farddoniaeth gyda llawer o reolau yw’r cinquain, ac rydym wedi llwyddo i ysgrifennu rhai anhygoel! Yn ein gwersi mathemateg rydym wedi edrych ar ffracsiynau,. I ddechrau roedd rhain bach yn ddryslyd ond erbyn hyn rydym yn eu deall. Yn ogystal â hyn rydym wedi amcangyfrif a mesur cynhwysedd. Buom ni yn cael gwersi nofio yn ddyddiol am dair wythnos ar ddechrau’r hanner tymor, roedd pawb wedi gwneud cynnydd arbennig. ac yna buom yn ymarfer ar gyfer ein mabolgampau. Aethon ni i’r Gerddi Botaneg i ddipio yn y pyllau dŵr, fe wnaethon ni ddarganfod llawer o bryfed a defnyddio’r microsgop i edrych arnyn nhw yn agosach! Diwrnod gorau'r hanner tymor!
Did you know that a third of all UK ponds have disappeared in the last 50 years? This has had a huge impact on wildlife, especially frogs and lizards, which need ponds to breed. If ponds disappear, so will these popular amphibians, and so this half term we have learned about ponds. We have learned the difference between a pond and a lake and what creatures and insects live in ponds. We have looked for a location for a pond on the school grounds because our hope is to have our very own pond!! We have learned about the life cycle of the frog and have learned about the food chains of the pond. We have focused on the genre; report and we have chosen a creature/insect that lives in the ponds, and we have written a report! In English we have researched WWT Llanelli and written another report. We have also written a cinquain. The cinquain is poem with many rules, and we have managed to write some amazing ones! In our maths lessons we have looked at fractions, initially these were confusing but now we understand. In addition to this we have estimated and measured capacity. We had swimming lessons daily for three weeks at the beginning of half term, everyone had made great progress. and then we have been practicing for our sports day. We went to the Botanic Gardens to enjoy pond dipping and we discovered lots of insects and used the microscope to look at them closer! This was the best day of half term!
Wythnos Cerdded i'r Ysgol/Walk to School Week
Hoffwn ddiolch i’r plant ar eu hymdrech i gerdded i’r ysgol. Cynhaliwyd bws cerdded yn ystod wythnos 20fed o Fai o fannau priodol yn y pentref.
Mae wedi'i brofi bod plant sy'n gwneud rhyw fath o ymarfer corff, yn enwedig cerdded cyn ysgol, yn gwneud yn well yn y dosbarth oherwydd eu bod yn cyrraedd yn iach, yn ffit ac yn barod i ddysgu. Yn ystod amseroedd traffig brig y bore, mae un o bob pump o geir ar y ffordd yn mynd â phlant i'r ysgol, gan gyfrannu at dagfeydd, llygredd aer ac allyriadau carbon. Mae'r rhediad ysgol yn unig yn gyfrifol am gynhyrchu dwy filiwn tunnell o CO2 y flwyddyn.
I would like to thank the pupils for their effort in walking to school. We held a walking bus for the week beginning 20th May from specific locations in the village.
It has been proven that children who do some form of exercise, especially a walk before school, do better in class because they arrive refreshed, fit and ready to learn. During morning peak traffic times, one in five cars on the road are taking children to school, contributing to congestion, air pollution and carbon emissions. The school run alone is responsible for generating two million tonnes of CO2 per year.
Blwyddyn 5
Ein thema hanner tymor yma oedd Ein Bwydydd Arbennig. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael sesiynau coginio gyda Cook24, ble mae pawb wedi coginio bwydydd ffres yn defnyddio gwahanol gynhwysion ffres. Rydym wedi coginio flapjacks, smwddis, bysedd pysgod a chyw iâr, spageti a pheli cig, macaroni a chaws, a bara. Fel rhan o’r prosiect coginio, roedden ni’n mynd ar wibdaith i Fferm Gelli Aur a Wright’s Food Emporium. Tra’n Wright’s cawsom y cyfle i flasu gwahanol fathau o gaws a chael cyfle i wneud ein caws ein hunain! Roedd o’n flasus iawn. Cawsom fyrgyrs cartref i fwyta cyn i ni fynd ymlaen i’r fferm. Roedd y fferm yn ddiddorol iawn. Dyma ble welsom y parlwr ble mae’r holl wartheg yn cael eu godro yn ddyddiol. Roedd y tanc llaeth oedd ganddynt yn dal 25,000 litr o laeth! Dywedodd Huw y ffermwr wrthym taw Tesco yw prif brynwyr llaeth y fferm, felly tro nesaf y byddwch yn yfed llaeth o Tesco efallai ei fod wedi dod o wartheg Fferm Gelli Aur! Un o uchafbwyntiau’r trip oedd gweld y lloi bach oedd wedi cael eu geni y bore hwnnw. Roedd yn ddiddorol dysgu am fridio gwartheg godro a’r broses mae’n ei gymryd i ni gael y llaeth i roi ar ein brecwast.
Gyda Mrs Armstrong, rydym wedi bod yn cynnal arbrawf gwyddonol i gymharu gwahanol fflasgiau thermal. Fe wnaethom ragfynegi pa fflasg fyddai’r gorau i gadw’r dwr yn gynnes ac yna mesur yn defnyddio thermomedrau ac amserydd. Roedd rhaid bod yn ofalus iawn gyda’r dwr berw, rhag i ni losgi. Rydym wedi dechrau creu hysbyseb i werthu ein bocsys thermal ein hunain wedi i ni eu creu ar ôl hanner tymor. Yn ogystal a hyn, cawsom sesiynau jigsaw ble bum yn trafod sut mae rheoli arian a sut i wneud penderfyniadau pwysig am ein haddysg yn y dyfodol, trafodaethau am y coleg neu Prifysgol – topig pwysig iawn i feddwl amdano.
Our half term theme was Our Amazing Foods. We have been very fortunate to have cooking sessions with Cook24, where everyone has cooked fresh foods using different fresh ingredients. We cooked flapjacks, smoothies, fish and chicken fingers, spaghetti and meatballs, macaroni and cheese, and bread. As part of the culinary project, we took a trip to Gelli Aur Farm and Wright's Food Emporium. While at Wright's we had the opportunity to taste different types of cheese and had the opportunity to make our own cottage cheese! It was delicious. We had homemade burgers to eat before we went on to the farm. The farm was very interesting. This is where we found the parlour where all the cows are milked on a daily basis. The milk tank they had held 25,000 litres of milk! Farmer Huw told us that Tesco are the main buyers of the farm’s milk, so next time you drink milk from Tesco it may have come from Gelli Aur Farm cows! One of the highlights of the trip was seeing the baby calves that had been born that morning. It was interesting to learn about dairy cow breeding and the process it takes for us to get the milk to put on our breakfast cereal.
With Mrs Armstrong, we have been carrying out a scientific experiment to compare different thermal flasks. We predicted which flask would be the best to keep the water warm and then measured using thermometers and a timer. We had to be very careful with the boiling water, in case we burn. We have started creating an ad to sell our own thermal boxes after we create them after half term. In addition to this, we had jigsaw sessions where we discussed how to manage money and how to make important decisions about our future education, discussions about college or University – a very important topic to think about.
Blwyddyn 6
Mae blwyddyn 6 wedi cael hanner tymor prysur iawn. Bu’r dosbarth i gyd yn y Gerddi Botaneg ar ddechrau’r hanner tymor i gyflwyno gwaith Prosiect SIARC. Pwrpas y prosiect oedd codi ymwybyddiaeth o’r siarcod sydd wedi cael eu darganfod yn y moroedd yng Nghymru. Cafodd pawb y cyfle i ddefnyddio ‘printer’ 3D yn yr ysgol a chreu arddangosfa ar gyfer y diwrnod.
Daeth cwmni ‘Ynni Da’ i’r ysgol i wneud gwaith ar ynni adnewyddadwy. Bu’r dosbarth yn dysgu am yr ynni sydd angen i bweru gwahanol bethau yn eu cartrefi. Hefyd, cafodd pawb y cyfle i greu ynni drwy reidio beic a chreu melinau gwynt a mesur cryfder y gwynt tu allan. Dysgodd y dosbarth am ynni paneli solar a pham eu bod nhw’n cael eu defnyddio mewn cartrefi ac adeiladau.
Un o brosiectau arall bu’r dosbarth yn rhan ohono oedd prosiect ‘Masnachwyr Ifanc’. Roedd rhaid i’r disgyblion wneud gwaith ymchwil cyn penderfynu ar gynnyrch penodol i’w greu a’i werthu. Penderfynodd y dosbarth greu canhwyllau amrywiol gydag aroglau gwahanol. Yna, aeth chwe disgybl i’r farchnad yng Nghaerfyrddin i baratoi’r stondin cyn gwerthu’r cynnyrch. Gwerthwyd yr holl ganhwyllau i’r cyhoedd yng Nghaerfyrddin. Da iawn i bawb am gydweithio a chreu’r canhwyllau arbennig.
Bu rhai o ddisgyblion y dosbarth yn cystadlu yng nghystadleuaeth Rygbi’r Urdd. Da iawn i bawb am gynrychioli’r ysgol. Mae’r llysgenhadon chwaraeon wedi bod yn cynorthwyo gyda gwersi addysg gorfforol blwyddyn 2 a hefyd yn rhedeg clwb chwaraeon yr ysgol yn wythnosol. Da iawn i bawb am gystadlu yn eu mabolgampau olaf yn Ysgol Trimsaran. Diwrnod i’r gofio.
Year 6 has had a very busy half term. The class were all in the Botanic Gardens at the beginning of half term to present the work they created from the SIARC Project. The purpose of the project was to raise awareness of the sharks that have been discovered in the seas in Wales. Everyone had the opportunity to use a 3D printer in the school and create an exhibition for the day.
'Ynni Da' came to the school to do work on renewable energy. The class learned about the energy needed to power different things in their homes. Also, everyone had the opportunity to create energy by riding a bike and create windmills and measure the strength of the wind outside. The class learned about the energy of solar panels and why they are being used in homes and buildings.
One of the other projects the class was involved in was the 'Young Traders' project. The pupils had to do research before deciding on a specific product to create and sell. The class decided to create candles with different scents. Then, six pupils went to the market in Carmarthen to prepare the stall and sell the produce. All the candles were sold to the public in Carmarthen. Congratulations to everyone for working together in creating the special candles.
Some of the pupils in the class competed in the Urdd Rugby competition. The sports ambassadors have been assisting with year 2 physical education lessons and also running the school's sports club on a weekly basis. Well done to everyone for competing in their last sports at Ysgol Trimsaran. A day to remember.
Oeddech yn gwybod? Did you know?
Oeddech chi'n gwybod bod ein hysgol hefyd yn cyfrannu at gostau tripiau i gadw'r costau mor isel â phosib? Mae'r ymrwymiad hwn yn helpu i sicrhau y gall pob disgybl gymryd rhan mewn teithiau addysgol, gan wneud y profiadau dysgu gwerthfawr hyn yn fwy hygyrch i bawb.
Did you know that our school also subsidises the costs of trips to keep the costs as low as possible? This commitment helps ensure that all students can participate in educational excursions, making these valuable learning experiences more accessible to everyone.