Clecs Ffwrnes Hydref 2025 Cylchlythyr Hydref 2025 / October newsletter 2025

Gwerth y Mis / Value of the Month

Tachwedd / November - Heddwch / Peace

Rhagfyr / December - Cariad / Love

Hawl y Mis / Right of the Month

Tachwedd/November - Erthygl 6 - Mae gennych yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach / Article 6 - Your right to life and to grow to be healthy.

Rhagfyr/December - Erthygl 10 - Eich hawl i weld eich teulu os ydynt yn byw mewn gwlad arall / Article 10 - Your right to see your family if they live in another country.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

27.10.2025 - 03.11.2025 - Gwyliau / Holidays

03.11.2025 - HMS / Inset day

04.11.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

04.11.25 - 06.11.2025 Arolwg ESTYN / ESTYN Inspection

06.11.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi'r Urdd yng nghloeg Llanymddyfri / Urdd Rugby Competition at Llandovery college

07.11.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Merched yr Urdd yng ngholeg Llanymddyfri / Urdd Girls TAG Rugby Competition at Llandovery college

07.11.2025 - B3/4 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Cymysg yr Urdd yng yng nghloeg Llanymddyfri / Urdd Mixed TAG Rugby Competition at Llandovery college

Dydd Gwener Tachwedd y 14eg Mae’r Cyngor Ysgol wedi penderfynu gall y disgyblion wisgo dillad Pudsey, smotiau neu ddillad eu hunain ar ddydd Gwener Tachwedd 14ain a gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 tuag at yr elusen. Danfonwch eich cyfraniad o £1 mewn amlen wedi labelu gydag enw eich plentyn ar ddydd Gwener Tachwedd 14ain.

The School Council has decided that pupils can wear Pudsey clothes, spots, or their own clothes on Friday, November 14th. We kindly ask for a £1 contribution towards the charity. Please send your contribution in an envelope labelled with your child’s name on Friday November 14th.

Cyngerdd Nadolig disgyblion blynyddoedd 1 a 2 Capel Greenfield 08.12.25 6 yh / Christmas concert for pupils in years 1 and 2 'in Greenfield chapel 6 pm.

Cyngerdd Nadolig disgyblion blynyddoedd 3 a 4 Capel Greenfield 09.12.25 6 yh / Christmas concert for pupils in years 3 and 4 in Greenfield chapel 6pm.

Cyngerdd Nadolig disgyblion blynyddoedd 5 a 6 Capel Greenfield 11.12.25 6yh / Christmas concert for pupils in years 5 and 6 in Greenfield chapel 6pm.

Cyngerdd Nadolig Y Derbyn - Derbyn 09.12.25 - 10.12.25 (9:30yb) / The Reception class Christmas concerts 09.12.25- 10.12.25 (9:30am)

22.12.2025-05.01.2026 - Gwyliau Nadolig / Christmas Holidays

HMS/INSET Dydd Llun Ionawr 5ed 2026

06.01.2026 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school

HMS / INSET 13.04.26

HMS / INSET 01.06.26

HMS / INSET 20.07.26

Presenoldeb / Attendance

Y targed cenedlaethol ar gyfer presenoldeb ydy 95% neu’n well. Os ydy presenoldeb eich plentyn o dan 90% rydych wedi derbyn llythyr i wella presenoldeb. Bydd y llythyron nesaf allan cyn gwyliau’r Nadolig! Mae colli 4 diwrnod ers dechrau’r flwyddyn yn golygu bod presenoldeb eich plentyn yn is na 90%. Rydym wedi derbyn sawl galwad ffôn i gwyno bod llythyr wedi’i danfon gan nodi rhesymau megis:

  • Roeddwn ar wyliau am y 5 diwrnod cyntaf a chawsom ganiatâd.
  • Bu fy mhlentyn yn sâl.
  • Roedd gan fy mhlentyn apwyntiadau meddygol.

Ni ellir rhoi marc presenoldeb ar gyfer plentyn sydd ddim yn yr ysgol. Mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r ysgol am unrhyw absenoldeb er mwyn i ni wneud penderfyniad i awdurdodi’r absenoldeb neu beidio. Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad.

The national target for attendance is 95% or better. If your child's attendance is under 90% you will have received a letter to improve attendance. The next letters will be out before the Christmas holidays! Missing 4 days since the start of the year means your child's attendance is below 90%. We have received several phone calls since the letters went out complaining that a letter has been received because:

  • I was on holidays for the first 5 days and got permission.
  • My child was ill.
  • My child had medical appointments

An attendance mark cannot be issued for a child who is not physically in school. It is important that you inform the school of any absence so that we can make a decision to authorise the absence or not. Thank you in advance for your cooperation.

Clwb hwyl / After school club

Mae clwb hwyl yr ysgol dal i redeg yn esmwyth ac o ddydd Llun i ddydd Iau. Cysylltwch a'r swyddfa am fwy o wybodaeth / The after school club is still running smoothly and from Monday to Thursday. Contact the office for more information.

Cyfarfodydd Rhieni - Parent Meetings

Fe'ch gwahoddir i wneud apwyntiadau ar gyfer cyfarfodydd rhieni-athrawon nesaf yr ysgol. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cael eu harchebu ar-lein, ac yna'n cael eu cynnal wyneb i wyneb yn yr ysgol. Mae'r cyfarfodydd rhieni ac athrawon ar ddydd Llun 17eg – Iau 20fed o Dachwedd 2024 ar gyfer pob blwyddyn. I wneud eich apwyntiadau, mewngofnodwch ar:

Bydd apwyntiadau ar gael i'w harchebu o 12.30yp ar ddydd Gwener 24ain o Hydref. Os na allwch archebu o adref, cysylltwch â swyddfa'r ysgol i gael cymorth.

You are invited to make appointments for the school’s next parent-teacher meetings. These meetings will be booked online, and then held face to face at the school. The parent-teacher meetings are on Monday 17th – Thursday 20th November 2024 for all year groups. To make your appointments please login at:

Appointments will be available to book from 12.30pm on Friday 24th October. If you are unable to book at home, please contact the school office for help.

Blaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Ysgol – School Development Plan Priorities:

Dyma ein blaenoriaethau CDY ar gyfer 2025-26 | Our SDP priorities for 2025-26 are:

Cliciwch isod am fwy o fanylion / Click below for more information

Meithrin Cymru ac Iwerddon

Wrth edrych yn ôl ar yr hanner tymor diwethaf, mae plant y Meithrin wedi bod yn brysur yn archwilio ac yn dysgu drwy brofiadau cyfoethog a hwyliog. Cafodd eu chwilfrydedd ei sbarduno gan ein taith gerdded o amgylch yr ardal leol, lle gwelsant arwyddion clir o’r hydref, megis dail lliwgar, conau pinwydd a mes. Arweiniodd y profiad hwn at drafodaethau a gweithgareddau yn y dosbarth, gan gynnwys darllen y llyfrau Iahw Medda’r Gwdihŵ ac Roedd Hi’n Noson Oer a Thywyll, sydd wedi helpu’r plant i ddysgu am anifeiliaid fel draenogod a thylluanod mewn ffordd ysbrydoledig. Yn ogystal, mae’r plant wedi bod yn defnyddio pwmpenni i archwilio cysyniadau mathemategol megis bach a mawr, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o faint a chymariaethau. Bu rhifau hefyd yn ffocws, gyda’r plant yn defnyddio Storiâu Stryd y Rhifau i ddod i adnabod rhifau 0–3 mewn ffordd ryngweithiol a chreadigol. Un o uchafbwyntiau’r hanner tymor oedd coginio crymbl mwyar duon blasus, wedi’i ysbrydoli gan stori Alun Un. Roedd y gweithgaredd hwn nid yn unig yn hybu sgiliau echddygol manwl a’r gallu i ddilyn cyfarwyddiadau, ond hefyd yn annog cydweithio, cyfrifoldeb ac annibyniaeth. Bu’r hanner tymor yn llawn hwyl a sbri, ac edrychwn ymlaen at barhau â’r anturiaethau yn yr hanner tymor nesaf.

Looking back at the last half term, the Nursery children have been busy exploring and learning through rich and enjoyable experiences. Their curiosity was sparked by our walk around the local area, where they saw clear signs of autumn such as colourful leaves, pine cones, and acorns. This experience led to discussions and activities in the classroom, including reading the books Iahw Medda’r Gwdihŵ and Roedd Hi’n Noson Oer a Thywyll, which helped the children learn about animals like hedgehogs and owls in an inspiring way. Additionally, the children have been using pumpkins to explore mathematical concepts such as big and small, developing their understanding of size and comparisons. Numbers have also been a focus, with the children using Number Street Stories to get to know numbers 0–3 in an interactive and creative way. One of the highlights of the half term was cooking a delicious blackberry crumble, inspired by the story Alun Un. This activity not only promoted fine motor skills and following instructions, but also encouraged teamwork, responsibility, and independence. The half term has been full of fun and excitement, and we look forward to continuing the adventures next half term.

Derbyn Sbaen a'r Eidal

Mae'r dosbarth derbyn wedi bod yn brysur iawn dros yr hanner tymor hwn! Rydym wedi mwynhau cyflwyno llythrennau a synau cychwynnol drwy weithgareddau rhyngweithiol, gan annog llythrennedd ymddangosol a chysylltu seiniau â geiriau mewn ffordd hwyliog. Yn y maes mathemateg, bu'r plant yn adio ac yn adrodd rhifau mewn dilyniannau gwahanol, gan ddatblygu eu dealltwriaeth o rifau mewn cyd-destunau amrywiol. Rydym hefyd wedi mwynhau ein gweithgareddau coginio wythnosol, lle mae'r plant wedi magu sgiliau annibynnol wrth baratoi a choginio bwyd. Mae'r sesiynau hyn wedi annog trafodaeth am iechyd, cynhwysion a threfn, ac wedi rhoi cyfle i'r plant ddysgu drwy brofiad ymarferol. Yn ychwanegol at ein dysgu yn yr ystafell ddosbarth, buom ar ymweliad cyffrous i Blas Pwmpen lle cawsom gyfle i archwilio, dysgu a chwarae. Aethom hefyd am dro i'r ardal leol, gan ddefnyddio'r cyfle i arsylwi, trafod a chysylltu â’n cymuned. Mae wedi bod yn hanner tymor llawn antur, dysgu ac adeiladu sgiliau newydd!

Reception have had a wonderfully busy half term! We’ve enjoyed exploring letters and initial sounds through interactive activities, encouraging emergent literacy and helping children connect sounds to words in a fun and engaging way. In maths, the children have been adding and reciting numbers in different sequences, developing their understanding of number in a variety of contexts. We’ve also loved our weekly cooking activities, where the children have built independence by preparing and cooking food. These sessions have supported discussions around health, ingredients, and routines, while offering hands-on learning experiences. Beyond the classroom, we had an exciting visit to the Pumpkin Palace where we explored, learned and played. We also went on a walk around the local area, using the opportunity to observe, talk and connect with our community. It’s been a half term full of adventure, learning and growing new skills!

Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc

Mae’r hanner tymor cyntaf ym mlwyddyn un wedi bod yn ddechrau hyfryd i’r flwyddyn ysgol, yn llawn profiadau dysgu cyffrous a chyfleoedd i archwilio’r byd drwy ein synhwyrau. Mae’r dysgwyr wedi ymgartrefu’n wych yn eu dosbarthiadau newydd, gan ddod yn gyfarwydd â’r trefnau newydd, disgwyliadau a’u hamgylchedd dysgu. Maent wedi datblygu eu hyder ac annibyniaeth, mwynhau bod nôl yng nghwmni ffrindiau ac wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ddysgu. Ein thema dros yr hanner tymor hwn oedd “Y Synhwyrau.” Dechreuon ni drwy archwilio sut rydym yn defnyddio golwg, clyw, cyffwrdd, blas ac arogl i ddeall y byd o’n cwmpas. Un o uchafbwyntiau’r tymor oedd ein helfa hydref i Barc Howard, lle defnyddion ni ein synhwyrau i arsylwi ar y tymor yn newid. Gwrandawodd ein dysgwyr ar sŵn y dail yn sibrwd, teimlon nhw wead y boncyffion, ac arsylwon nhw ar liwiau hardd yr hydref o’u cwmpas.

Roedden ni hefyd yn ffodus iawn i gael ymweliad gan Kaz o Llanelli Deaf School, a ddysgodd i ni ychydig o iaith arwyddo. Fe wnaeth ein dysgwyr mwynhau dysgu sut i gyfathrebu trwy arwyddion ac fe ddatblygon nhw ddealltwriaeth ddyfnach o sut mae pobl eraill yn profi’r byd mewn ffyrdd gwahanol. Rydyn ni wedi dysgu am fondiau rhif hyd at ddeg ac ar ddyblu rhifau yn ein sesiynau rhifedd. Defnyddiodd ein dysgwyr adnoddau ymarferol a gemau i’w helpu i ddeall y cysyniadau pwysig hyn mewn ffordd hwyliog. Rydyn ni hefyd wedi profi ystod o weithgareddau creadigol. Gwnaethom ein persawr ein hunain drwy gymysgu cynhwysion aroglus, archwiliom wahanol ffrwythau drwy eu teimlo, eu harogli a’u blasu i geisio darganfod beth oeddent heb edrych, ac fe gymysgon ni liwiau paent i greu olwynion lliw. Bu’r hanner tymor yn brysur, yn hapus ac yn llwyddiannus, a dylai'r dysgwyr teimlo'n falch iawn o’u holl lwyddiannau fel dysgwyr chwilfrydig a hyderus ym Mlwyddyn Un.

Our first half term in Year One has been a wonderful start to the school year, filled with exciting learning experiences and opportunities to explore the world through our senses. Our learners have settled beautifully into their new classrooms, becoming familiar with new routines, expectations, and learning environment. They have grown in confidence and independence, developing friendships and showing great enthusiasm for learning. Our topic this half term was “The Senses.” We began by exploring how we use sight, hearing, touch, taste, and smell to understand the world around us. One of the highlights was our Autumn walk to park Howard, where we used our senses to observe the changing season. Learners listened carefully for rustling leaves, felt the texture of bark, and noticed the beautiful autumn colours around them.

We were also very lucky to have Kaz from Llanelli Deaf School visit and teach us some basic sign language. The children thoroughly enjoyed learning how to communicate using signs and developed a greater awareness of how people experience the world differently. In numeracy, we focused on number bonds to ten and doubling numbers. Learners used practical resources and games to help them understand these key number concepts in a fun and engaging way. Our sensory learning continued through a range of creative activities. We made our own perfumes by mixing scented ingredients, explored feeling, smelling, and tasting different fruits to guess what they were without looking, and experimented with mixing paints to create colour wheels. It has been a busy, happy, and successful half term, and the children should be very proud of all they have achieved as curious, confident Year Ones.

Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden

Am Hanner Tymor cyntaf prysur i Flwyddyn 2! Ein thema ar gyfer y Tymor yw ‘Cadw’r corff yn Iach.’ Ar ddechrau’r thema, penderfynodd y disgyblion ymchwilio i sut mae bwyd yn cadw ein cyrff yn iach. Dyma rai o’r cwestiynau a ofynnodd y disgyblion; pa fwyd sy’n iach i ni? O ble mae ein bwyd yn dod? Pam mae angen bwyd arnom? Fel rhan o’r gystadleuaeth ‘Bwydlen ein Bro,’ mae’r disgyblion wedi helpu i blannu, tyfu a chynaeafu ffrwythau a llysiau yng ngardd ein hysgol. Aethon ni hefyd i’r farchnad leol yn Llanelli i brynu ffrwythau a llysiau a dyfir yn lleol. Rydym wedi defnyddio’r bwyd i greu pryd tair gwrs blasus! Gwahoddodd y disgyblion eu rhieni i’r ysgol i flasu ein cawl pwmpen cnau menyn a bara garlleg. Helpodd pawb i baratoi’r llysiau trwy olchi, torri a phwyso’n gywir. Gwnaethom bosteri, bwydlenni a rysáit ar gyfer y diwrnod hefyd. Mae ein diwrnodau Dydd Llun lles hefyd wedi bod yn llawn gweithgareddau hwyliog. Blason ni’r ffrwythau a’r llysiau a brynon ni yn y farchnad a chroesawon ni Alex McDowell i gymryd sesiwn sgiliau sgwter. Fe wnaethon ni fwynhau taith gerdded i Barc Howard i gasglu trysorau’r Hydref a chroesawu Kate Hall i gymryd sesiwn Addysg Gorfforol yn yr awyr agored. Yn ystod ein gwersi mathemateg, mae’r disgyblion wedi defnyddio eu sgiliau arian i dalu yn y farchnad leol ac yn siop yr ystafell ddosbarth. Casglon ni ddata o faint o ddisgyblion oedd yn hoffi’r ffrwythau a llysiau a chreu graff bar i ddangos y canlyniadau. Ar ôl darllen y llyfr ‘Cwmwl Cai,’ fe wnaethon ni greu diagram pry cop o strategaethau y gallwn ni eu defnyddio i helpu i gadw ein meddyliau’n iach. Rydym yn edrych ymlaen at ymchwilio mwy i’n hiechyd meddwl ar ôl hanner tymor.

What a busy first Half term our year two pupils have had! Our theme for the Term is ‘Keeping Our Bodies Healthy.’ At the start of the theme the pupils decided they would like to investigate how food keeps our bodies healthy. Here are some of the questions the pupils asked; what food is healthy for us? Where does our food come from? Why do we need food? As part of the competition ‘Bwydlen ein Bro,’ the pupils have helped plant, grow and harvest fruits and vegetables in our school garden. We also went to the local market in Llanelli to buy some locally grown fruits and vegetables. We have since used these to create a tasty three course meal! The pupils invited their parents to the school to taste our home cooked Butternut squash and chilli soup with garlic bread. Everyone helped prepare the vegetables by washing, cutting and weighing the correct amount. We also made posters, menus and recipes for the day. Our well-being Mondays have also been jam packed with fun activities. We tasted the fruits and vegetables we bought in the market and welcomed Alex McDowell to take a scooter skills session. We enjoyed a walk to Park Howard to collect Autumnal treasures and welcomed Kate Hall to take an outdoors PE sessions. During our maths lessons, the pupils have used their money skills to pay at the local market and at the classroom shop. We collected data of how many pupils liked the fruits and vegetables we tasted and created a bar graph to show the results. After reading the book ‘Cwmwl Cai,’ we created a spider diagram of strategies we can use to help keep our minds healthy. We are looking forward to investigating more into our mental health after half term.

Blwyddyn 3 Alban a Hwngari

Mae hanner tymor prysur ym Mlwyddyn 3 wedi bod yn wych! Mae dosbarthiadau Miss Rees (Hwngari) a Mrs Horan (Alban) wedi ymgartrefu’n dda ac wedi mwynhau’r wythnosau cyntaf o’r flwyddyn. “Sut i drysori ein dannedd?” yw thema eleni, ac rydym wedi cael llawer o hwyl wrth ddysgu am ein dannedd ni a sut mae’n wahanol i ddannedd anifeiliaid. Cawsom greu model 3D allan o blastar pan ymwelodd Freya o gwmni Action In Science â ni. Dysgom sut mae ein dannedd ni’n gweithio a sut mae dannedd defaid yn wahanol. Roedd gweld y sgerbydau’n syfrdanol! Rydym hefyd wedi dysgu am fwydydd sy’n cadw ein dannedd yn iach, pwyso faint o siwgr sydd mewn grawnfwyd, ac arbrofi gyda diodydd fel Fanta, Coca-cola, llaeth a dŵr. Dysgom fod dŵr yn y ddiod fwyaf niwtral ac yn cynnwys y lleiaf o siwgr, felly mae’n hynod o iach i’n dannedd! Cawsom brofiad cerddorol yn Ysgol Bryngwyn, lle dysgom am dempo, rhythm a’r gerddorfa gyfan. Roedd Mr Jones hyd yn oed yn chwarae’r ffidil! Yn ystod yr hanner tymor cyntaf, rydym wedi dysgu am ansoddeiriau ac enwau, creu portreadau ein hunain, a llunio cyfarwyddiadau i helpu pobl i frwsio eu dannedd yn gywir. Rydym ni’n edrych ymlaen at astudio’r gwahaniaethau rhwng dannedd pobl a dannedd anifeiliaid yn ystod yr hanner tymor nesaf.

Year 3 have had a fantastic and busy half term! Our year 3 classes ‘Hwngari’ and ‘Yr Alban’ have settled in wonderfully and enjoyed the first weeks of the school year. This year’s theme, “How to treasure Our Teeth?”, has been both fun and educational. The children have learned about their teeth and how they differ from animal teeth. A highlight was creating a 3D model from plaster when Freya from Action In Science visited. The children explored how our teeth work and how sheep’s teeth differ—though the skeletons were quite shocking to see! In science, the children have investigated foods that keep our teeth healthy, measured the sugar content in cereals, and experimented with drinks such as Fanta, Coca-Cola, milk, and water. They discovered that water is the most neutral drink and contains the least sugar, making it the healthiest choice for teeth. The children also enjoyed a musical visit to Ysgol Bryngwyn, learning about tempo, rhythm, and the orchestra. Mr Jones even treated them to a violin performance! Over the half term, the children have developed their literacy skills by learning about adjectives and nouns, creating self-portraits, and writing step-by-step instructions to help people brush their teeth correctly. We are looking forward to studying the differences between human teeth and animal teeth during the next half term.

Blwyddyn 4 Almaen a Swistir.

Mae wedi bod yn hanner tymor prysur a chyffrous iawn ym Mlwyddyn 4, gyda digon o weithgareddau hwyliog a phrofiadau dysgu gwych! Ein prif thema yw Bwyd Iach, Bywyd Iach, ac mae’r plant wedi mwynhau dysgu am y corff dynol a pha mor anhygoel ydyw. Rydym wedi astudio’r system dreulio’n fanwl, ac mae’r disgyblion bellach yn gallu egluro’n glir beth sy’n digwydd i’r bwyd rydym yn ei fwyta – o’r eiliad mae’n mynd i mewn i’r geg hyd at pan fydd yn gadael y corff! Maen nhw hefyd wedi defnyddio geirfa wyddonol yn hyderus iawn. Un uchafbwynt oedd ymweliad gan Hands On Science, a gynhaliodd weithdy ymarferol gwych am y system dreulio. Roedd y plant wrth eu bodd yn cymryd rhan ac yn dysgu trwy brofiad. Cawsom hefyd wers ddiddorol gan Alex McDowall, a siaradodd â ni am bwysigrwydd gwisgo helmed wrth reidio beiciau a sgwteri. Cynhaliodd y plant ymchwiliad i weld pa ddeunyddiau oedd orau ar gyfer amddiffyn wy pan gaiff ei ollwng — ffordd hwyliog a phrofiadol o ddysgu pam mae helmedau mor bwysig! Fel rhan o’n gwaith ar fyw’n iach, rydym wedi edrych ar y Plât Bwyd Iach. Mae’r disgyblion bellach yn gwybod am y pum prif grŵp bwyd ac yn deall bod angen bwyta rhai bwydydd yn amlach nag eraill. Fe wnaethom hefyd bobi flapjacs iachus — a roedden nhw’n flasus iawn! Yn Addysg Gorfforol, mae’r plant wedi mwynhau heriau gwaith tîm, sesiynau ioga (gan ddysgu cydbwyso ar eu dwylo hyd yn oed!) a gwersi sboncen, sydd wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phawb. Bu’n hanner tymor llawn dysgu, hwyl a chydweithio — da iawn, Blwyddyn 4!

It’s been a very busy and exciting half term in Year 4, with plenty of fun and memorable learning experiences! Our main topic has been Healthy Food, Healthy Life, and the children have thoroughly enjoyed discovering how amazing the human body is. We have explored the digestive system in detail, and the pupils can now explain clearly what happens to the food we eat — from the moment it enters our mouths to when it finally leaves the body! They have also impressed us with their growing confidence in using scientific vocabulary. A particular highlight was our visit from Hands On Science, who delivered a fantastic, practical workshop all about the digestive system. The children loved taking part and were fully engaged throughout. We were also lucky to have a visit from Alex McDowall, who talked to us about the importance of wearing helmets when riding our bikes and scooters. The children carried out an exciting investigation to find out which materials offered the best protection for an egg when dropped — a fun and memorable way to understand why helmets are so important! As part of our healthy living work, we have looked closely at the Healthy Eating Plate. The children can now name the five main food groups and understand that some foods should be eaten more often than others. We even baked our own healthy flapjacks — and they were delicious! In PE, the children have enjoyed team-building games, yoga sessions (even learning to balance on their hands!) and squash lessons, which have been a big hit with everyone. It’s been a wonderful half term full of learning, teamwork and fun — well done, Year 4!

Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir

Wrth i ni gyrraedd diwedd hanner tymor cyntaf ym Mlwyddyn 5, mae’n gyfle gwych i edrych yn ôl ar rai o’r profiadau arbennig rydym wedi’u rhannu gyda’n gilydd. Mae wedi bod yn gyfnod llawn gweithgareddau cyffrous, dysgu ysbrydoledig a llawer o hwyl! Un o’r uchafbwyntiau oedd ein taith i Barc y Scarlets. Cafodd y disgyblion gyfle i archwilio’r stadiwm, Sesiwn gyda'r physio, ac ymarfer sgiliau yn y sgubor – profiad bythgofiadwy i bawb! Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym hefyd wedi mwynhau gwersi tenis yn y clwb lleol. Mae’r plant wedi datblygu eu sgiliau corfforol, gweithio fel tîm ac wedi dangos brwdfrydedd mawr wrth ddysgu’r gamp newydd hon. Yn ogystal, cawsom y fraint o groesawu Jen o Cooking Together i’r dosbarth. Trwy’r sesiynau coginio, dysgodd y plant am fwyd iach, sgiliau coginio sylfaenol, a’r pleser o greu prydau blasus gyda’n gilydd. Bu ein gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Greenfield yn foment arbennig iawn. Roedd yn gyfle i fyfyrio ar ein diolchgarwch, dathlu’r cynhaeaf, a rhannu ein gwerthfawrogiad gyda’r gymuned. Yn y dosbarth, rydym wedi bod yn dysgu am y naturiaethwr Alfred Russel Wallace – gwyddonydd o Gymru a fu’n cydweithio â Charles Darwin. Mae’r plant wedi mwynhau darganfod ei gyfraniadau pwysig i wyddoniaeth a’i anturiaethau cyffrous ledled y byd. Rydym yn falch iawn o’r ymdrech a’r brwdfrydedd mae’r disgyblion wedi’u dangos. Rydym yn edrych ymlaen at weddill y flwyddyn gyda chyffro a balchder!

Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg

Mae’r hanner tymor yma wedi bod yn hynod o brysur a chynhyrchiol, yn llawn cyfleoedd dysgu diddorol a gweithgareddau ymarferol. Ein thema yw ‘Byw a Bod yn Iach’, a’n cwestiwn ymholi yw “Pam mae’r galon yn cael ei hystyried yn beiriant y corff?” Mae’r cwestiwn wedi ein harwain i archwilio’r ffyrdd anhygoel y mae ein calonnau’n cadw ni’n fyw ac yn iach. Rydym wedi defnyddio ein sgiliau creadigol a’n hiaith ffigurol i ysgrifennu barddoniaeth ddychmygus am y galon, ac rydym hefyd wedi dysgu am wahanol rannau o’r galon gan ddefnyddio’r geirfa wyddonol gywir. Roeddem wedi synnu wrth ddarganfod sut mae gwaed yn cael ei bwmpio trwy’r galon ac o amgylch y corff. A wyddoch chi bod y galon yn curo tua 100,000 o weithiau mewn diwrnod, gan bwmpio tua 2,000 galwyn o waed? Mae hynny’n anhygoel! Rydym hefyd wedi datblygu ein sgiliau digidol drwy ddylunio cardiau Top Trumps yn seiliedig ar y galon a defnyddio Adobe i greu fideos addysgiadol yn esbonio sut mae gwaed yn cylchredeg. Roedd hyn yn dipyn o her gan fod rhaid i ni gynnwys delweddau, cerddoriaeth, lleisiau, a thrawsnewidiadau llyfn, ond roedd y canlyniadau'n wych! Ar draws y cwricwlwm, rydym wedi archwilio’r pedwar cydran sy’n gwneud ein gwaed sef y celloedd gwaed coch, celloedd gwaed gwyn, platennau, a’r plasma - gan ddysgu am y swydd arbennig y mae pob un yn ei wneud i gadw ein cyrff yn iach. Un o uchafbwyntiau'r tymor oedd dyrannu calon dafad i'w chymharu â chalon dynol. Roedd ychydig yn waedlyd, ond yn brofiad dysgu ymarferol gwych! Gwnaethom hyd yn oed fodelau gweithredol o'r galon i ddangos sut mae gwaed ocsigenedig a dadocsigenedig yn teithio drwy'r corff a chreu "gwaed ffug mewn potel" i ddod â'n dysgu yn fyw.

Ym maes mathemateg a rhifedd, rydym wedi bod yn atgyfnerthu ein dealltwriaeth o werth lle a'r pedwar gweithred, a rydym nawr yn dysgu am onglau. Ym maes llythrennedd, rydym wedi ysgrifennu cwpledi ar gyfer ein siarter dosbarth, hunangofiant, a thestunau addysgiadol yn esbonio sut mae'r galon yn gweithio. Mae wedi bod yn hanner tymor prysur a chyffrous yn llawn creadigrwydd, chwilfrydedd a darganfyddiad - allwn ni ddim aros i weld beth mae'r hanner tymor nesaf yn ei gynnig!

This half term has been an incredibly busy and productive one, filled with engaging learning opportunities and practical activities. Our theme has been ‘Byw a Bod yn Iach’ (Living and Being Healthy), and what a fun, fascinating journey it has been! Our inquiry question, “Why is the heart considered the body’s engine?” has led us to explore the incredible ways our hearts keep us alive and healthy. We’ve used our creative skills and figurative language to write imaginative poetry about the heart, and we’ve also learned all about its different parts using the correct scientific vocabulary. We were amazed to discover how blood is pumped through the heart and around the body. Did you know the heart beats about 100,000 times a day, pumping around 2,000 gallons of blood through 60,000 miles of blood vessels? That really is amazing!

We’ve also developed our digital skills by designing Top Trumps cards based on the heart and using Adobe to create informative videos explaining how blood circulates. This was quite a challenge, as we had to include images, music, voiceovers, and smooth transitions, but the results were fantastic! Across the curriculum, we’ve explored the four components of blood — red blood cells, white blood cells, platelets, and plasma — learning about the special job each one does to keep our bodies healthy. One of the highlights of the term was dissecting a sheep’s heart to compare it with a human heart. It was a little gory, but such a brilliant hands-on learning experience! We even made working models of the heart to show how oxygenated and deoxygenated blood travels through the body and created “fake blood in a bottle” to bring our learning to life.

In maths and numeracy, we’ve been reinforcing our understanding of place value and the four operations, and we’re now learning all about angles. In literacy, we’ve written couplets for our class charter, autobiographies, and informative texts explaining how the heart works. It’s been a busy, exciting half term full of creativity, curiosity, and discovery — and we can’t wait to see what next half term brings!

CREATED BY
Ysgol Gymraeg Ffwrnes