Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern
GWELEDIGAETH Y CLWSTWR
Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.
Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.
Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.
Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.
Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.
Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.
Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.
Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.
Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.
Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.
Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.
Uned 1
Cestyll Cymru
Mae Cymru yn enwog iawn am ei chestyll mawreddog. Yn yr uned hon bydd y disgyblion yn dysgu am hanes y cestyll drwy’r oesoedd. Gan fod cestyll Caerdydd yn ein hardal leol mae hyn yn mynd i fod yn ganolbwynt, ffocws a sbardun i’r dysgu.
Beth yw castell?
Cynnwys yr Uned:
Hanes Castell Caerdydd drwy’r oesoedd
Mathau gwahanol o gestyll e.e Pren, Mwnt a Beili a cherrig.
Nodweddion castell a'r broses o'i hadeiladu.
Dysgu am gestyll Cymru.
Adnabod Cestyll Cymreig a chestyll Brenin Lloegr a'r gwahaniaethau rhyngddynt.
Cynllunio a chreu castell
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Gilbert de Clare
Arglwydd Rhys ap Gruffydd
Teithiau a Phrofiadau
Castell Caerdydd
Prosiect Celfyddydol "Y Frwydr"
Drama: Perfformio drama greadigol o frwydr.
Celf: Defnyddio clai i greu model o gastell.
Cerddoriaeth: Gwrando ar gerddoriaeth Hanz Zimmer o'r ffilm "Gladiator" ac ail greu darn gwreiddiol o gerddoriaeth yn seiliedig ar "Y Frwydr"
Dawns: Creu dawns greadigol yn seiliedig ar "Y Frwydr"
Uned 2
Amddiffyn ac Ymosod
Yng Nghymru mae gennym ni nifer fawr o dywysogion a thywysogesau enwog sydd yn rhan bwysig iawn yn hanes ein Cenedl.
Mae nhw hefyd angen dysgu beth oedd y rheswm dros adeiladu cestyll ac am y brwydrau lu a fu'n rhan o'r oes hon.
Pwy oedd arwyr y Oes y Tywysogion?
Pam fod brwydrau yn digwydd?
Cynnwys yr Uned:
Brwydrau enwog y cyfnod.
Map o Gymru'r yn y cyfnod.
Llinell Amser y Cyfnod.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Gwenllian
Llywelyn ein Llyw Olaf
Owain Glyndwr
Uned 3
Popeth yn wyrdd!
Mae ein byd heddiw mewn perygl yn sgil cynhesu byd eang a’r holl lygredd sydd yn ein byd. Nod yr uned hon yw i ddisgyblion deall beth yw bod yn eco-gyfeillgar ac i edrych ar gynnyrch/dulliau o fod yn wyrdd ac yn sgil hyn i achub y blaned!
Beth yw bod yn eco-gyfeillgar?
Cynnwys yr Uned:
Edrych a gwerthuso cynnyrch eco-gyfeillgar.
Gardd Llawn Bwyd - Tyfu cynnyrch er mwyn lleihau allforio/mewnforio.
Sut allwn ni deithio yn Eco-gyfeillgar a lleihau ein ol troed carbon.
Ydy ni, ein hysgol, a'n dinas yn eco-gyfeillgar?
Trefnu digwyddiad eco-gyfeillgar.
Beth ydym angen gwneud er mwyn bod yn eco gyfeillgar (planhigion, ailgylchu, ail-ddefnyddio adnoddau, defnyddiau arbennig)
Cyfathrebu pwysigrwydd bod yn eco gyfeillgar gyda theulu’r ysgol. Cynllunio archarwyr/logo i’r ysgol.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
David Attenbrough
Prosiect Celfyddydol: "Arwyr Ail-Gylchu!"
Drama: Ysgrifennu a pherfformio sgript.
Cerddoriaeth: Cyfansoddi a chreu. Creu offerynnau amrywiol gyda deunyddiau ail-gylchu.
Ffilm: Cymharu a gwerthuso ffilmiau.
Hanner Tymor 4
Dyluniadau Mawreddog
Yn adeiladau o’r hanner tymor cyntaf mae’r uned hon yn gofyn i’r disgyblion gynllunio adeilad sydd yn eco gyfeillgar. Mae angen iddynt bwyso a mesur adnoddau, deunyddiau a dulliau amgen o gynhyrchu trydan sydd yn creu adeilad sydd yn dda i’r blaned.
Beth sydd ei angen ar gartrefi sydd yn eco-gyfeillgar?
Cynnwys yr Uned
Edrych ar adeiladau eco-gyfeillgar amrywiol ar draws y byd.
Beth sy’n gwneud adeilad cynhwysol i bawb e.e anableddau amrywiol (beth mae nhw angen darparu/cynnwys)
Edrych a darparu rol/sgiliau pensaer e.e creu cynllun, sgiliau dylunio.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Jonathan Adams
Zaha Hadid
Amanda Levet
Teithiau a Phrofiadau
Ymweld ac adeilad gynhwysol/eco gyfeillgar
Uned 5
Bwyd o Bedwar Ban Byd!
Amcan yr uned hon yw i ddysgu tarddiad ein bwyd a bwydydd tymhorol a pha fwydydd sy’n cael ei cynhyrchu yn lleol ac mewn gwledydd amrywiol ar draws y byd.
O ba wledydd y daw ein bwyd?
Pam fod gennym ni fanc bwyd yng Nghaerdydd?
Cynnwys yr Uned:
Beth mae pobl yn ei fwyta mewn gwahanol wledydd? Edrych ar wledydd mewn gwahanol gyfandiroedd a dysgu pa fwydydd y cynhyrchir yno.
Pa fwydydd yr ydym ni yn ei fewnforio?
Pa fwydydd yr ydym ni yn ei allforio i'r byd?
Edrych ar elusennau sy'n helpu gweldydd tlawd - newynnau?
Teithiau a Phrofiadau
Ymweld a Marchnad neu Archfarchnad.
Uned 6
Dewch i wledda!
Amcan yr uned hon yw’r i’r disgyblion gael profiadau o gynllunio, dethol a chreu gwledd ar gyfer achlysur penodol o’u dewis. Bydd angen i'r disgyblion ddefnyddio eu gwybodaeth o’r hanner tymor blaenorol am fwydydd amrywiol.
Allwch chi greu gwledd ar gyfer achlysur arbennig.
Cynnwys yr Uned:
Edrych ar grwpiau bwyd a pwysigrwydd deiet gytbwys.
Effaith bwyd a diod ar ein cyrff.
Ymchwilio i wahanol wleddoedd e.e crefyddol, diwylliannol ac hanesyddol.
Cynllunio gwledd / parti arbennig gan gofio y prif nodweddion e.e lleoliad, achlysur, bwydydd, diodydd, addurniadau, dillad ac adloniaint.
Hylendid Bwyd
Paratoi bwyd a chynnal gwledd / parti.
Prosiect Celfyddydol "Y Wledd Fawr"
Celf: Efelychu gwaith yr arlunydd Tomos Roberts o fywyd llonydd.
Cerddoriaeth: Cyfansoddi darn o gerddoriaeth sy'n addas i wledd.