Aelodau Newydd y Pwyllgor Eco
Wedi blwyddyn brysur llynedd i'r Pwyllgor Eco, roedd hi'n amser cael aelodau newydd ar gyfer y flwyddyn addysgol nesaf. Roedd nifer o'r disgyblion oedd ar y pwyllgor llynedd wedi penderfynu aros, ac roedd rhai newydd wedi ymuno gyda hwy o bob dosbarth hefyd. Cafodd y cyfarfod cyntaf ei gynnal ar ddechrau mis Hydref.
Amgueddfa Cymru - Plannu Bylbiau
Ar Hydref 14eg bu dosbarth Mrs Roberts ac Aelodau'r Cyngor Eco yn plannu cennin pedr, a chrocws mewn potiau yn yr ysgol. Roedd hyn yn rhan o brosiect gan Amgueddfa Cymru ac Ymddiriedolaeth Edina. Bydd rhaid cadw golwg ar y planhigion rhwng Ionawr a Mawrth er mwyn gweld pryd fyddant yn blodeuo. Yna bydd rhaid gyrru'r data yma i Amgueddfa Cymru a'r Ymddiriedolaeth Edina, gan eu bod nhw yn awyddus i weld ym mhle yng Nghymru bydd y planhigion hyn yn blodeuo gyntaf. Wedi i'r blodyn dyfu bydd y plant yn cael gwneud gwaith mesur, gan fod angen cadw cofnod o faint y blodyn.
Cofnodi'r Tywydd
Ers dechrau mis Tachwedd mae'r ysgol wedi bod wrthi yn cofnodi'r tywydd. Bob dydd, mae aelodau y Cyngor Eco yn mynd i'r ardd er mwyn mesur y glawiad, cofnodi'r tymheredd a chofnodi'r tywydd. Maent yn uwchlwytho'r data i ffurflen 'Google Forms', er mwyn iddynt allu gweld y newidiadau yn y tywydd dros y flwyddyn, a gweld graffiau i ddangos y tywydd.
Ond, mae'r ysgol hefyd yn gyrru'r data sy'n cael eu gasglu at Amgueddfa Cymru, ac mae nhw yn gallu defnyddio'r data hwn a'i gymharu gyda ardaloedd eraill o Gymru, yn ogystal â blynyddoedd blaenorol. Er mai dim ond ers mis Tachwedd rydym wedi bod yn gwneud hyn, mae sawl peth diddorol i'w weld yn y data. Yn ystod y flwyddyn, bydd y dosbarthiadau yn gallu defnyddio'r wybodaeth ar gyfer eu gwaith rhifedd.
Dyma'r graff sy'n dangos y data am y tywydd yn Ysgol Pentreuchaf yn ystod mis Tachwedd a Rhagyfr.
Cystadleuaeth Creu Addurn Nadolig Eco Gyfeillgar
Unwaith eto eleni, cynhaliwyd cystadleuaeth i greu addurn Nadolig a oedd yn eco gyfeillgar. Roedd y disgyblion yn creu addurniadau gan ddefnyddio defnydd wedi cael eu ail gylchu, neu defnydd oedd yn gyfeillgar i'r amgylchedd. Daeth dros 60 o addurniadau i law - digon i addurno sawl coeden Nadolig! Dewiswyd enillydd o bob dosbarth, a chafodd pawb oedd wedi cystadlu wobr am gymryd rhan hefyd.
Bin Ailgylch Dillad y Warws Werdd
Roedd yr ysgol eisoes yn ailgylchu plastig, gwydyr, bwyd a certis inc. Ond roedd y Pwyllgor Eco yn meddwl ei bod hi'n syniad da ailgylchu dillad hefyd. Felly eleni, rydym wedi cysylltu gyda'r Warws Werdd er mwyn cael bin ailgylchu dillad yn yr ysgol. Bydd hyn yn gyfle i ailgylchu yn ogystal â chasglu arian i'r ysgol, gan y byddwn yn derbyn 20c am bob cilo o ddillad y byddwn yn ei ailgylchu. Felly cofiwch amdanom ni os y byddwch chi'n clirio yn ystod y Gwanwyn!
Gwaredu Coed Nadolig
Yn ystod mis Rhagfyr gwelodd rai o aelodau'r Pwyllgor Eco hysbyseb ar y we yn sôn am waredu coed Nadolig gan gwmni 'Cwt Gafr'. Roeddent yn awyddus i gymryd rhan yn hyn. Mae 'Cwt Gafr' yn gwmni sydd yn gwneud sebonnau a chynyrch eraill gan ddefnyddio llaeth gafr. Ond a wyddoch chi bod y geifr wrth eu boddau yn bwyta coed Nadolig? Mae nhw yn llawn fitamin C a gwrthocsidyddion. Felly, ar yr 10fed i Ionawr, bydd 'Cwt Gafr yn dod i'r ysgol er mwyn casglu coed.
Credits:
Created with images by Prostock-studio - "Colored pillow of fresh fallen autumn leaves" • Africa Studio - "Messy colorful clothing, closeup"