Gwerth y Mis/Value of the Month
Tachwedd/November - Heddwch/Peace
Rhagfyr/December - Cariad/Love
Hawl y Mis/Right of the Month
Tachwedd/November - Erthygl 6 - Mae gennych yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach / Article 6 - Your right to life and to grow to be healthy.
Rhagfyr/December - Erthygl 10 - Eich hawl i weld eich teulu os ydynt yn byw mewn gwlad arall / Article 10 - Your right to see your family if they live in another country.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
26.10.2024 - 03.11.2024 - Gwyliau / Holidays
04.11.2024 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
07.11.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi'r Urdd yng Nghlwb Rygbi Rhydaman / Urdd Rugby Competition at Ammanford RFC
08.11.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Merched yr Urdd yng Nghlwb Rygbi Rhydaman / Urdd Girls TAG Rugby Competition at Ammanford RFC
08.11.2024 - B3/4 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Cymysg yr Urdd yng Nghlwb Rygbi Rhydaman / Urdd Mixed TAG Rugby Competition at Ammanford RFC
11.11.2024-13.11.2024 - Noson Rieni Unigol yn yr ysgol / Individual Parents Evening in the school
14.11.2024 - Ffotograffydd/ Photographer - lluniau unigol/teulu / individual/family photos
15.11.2024 - Gwasanaeth Blwyddyn 4 Assembly - 09:10
16.11.2024 - Ffair Nadolig Plas-y-Sarn Christmas Fayre - 10:00
18.11.2024 - Cystadleuaeth Pȇl-fasged yng Nghanolfan Hamdden Llanelli / Basketball Competition at Llanelli Leisure Centre
22.11.2024 - B6 - Diwrnod Oh La La yn Ysgol y Strade / Oh La La Day in Ysgol y Strade
04.12.2024 - B1-3 - Gwasanaeth Carolau yn yr ysgol - 18:00
05.12.2024 - B4-6 - Gwasanaeth Carolau yn yr ysgol - 18:00
06.12.2024 - Meithrin/Derbyn - Sioe Nadolig Cyw yn Neuadd y Gwendraeth / Christmas Cyw Show at Neuadd y Gwendraeth
13.12.2024 - Meithrin/Derbyn - Cyngerdd Y Geni / The Nativity Concert - 09:30
21.12.2024-05.01.2025 - Gwyliau Nadolig/Christmas Holidays
06.01.2025 - HMS/INSET
07.01.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
Presenoldeb/Attendance
Y targed cenedlaethol ar gyfer presenoldeb ydy 95% neu’n uwch. Os ydy presenoldeb eich plentyn o dan 90% rydych wedi derbyn llythyr i wella presenoldeb. Bydd y llythyron nesaf yn mynd allan cyn gwyliau’r Nadolig!!
Mae colli 4 diwrnod ers dechrau’r flwyddyn yn golygu bod presenoldeb eich plentyn yn is na 90%.
Rydym wedi derbyn sawl galwad ffôn i gwyno bod llythyr wedi’i ddanfon gan nodi rhesymau megis:
- Roeddwn ar wyliau am y 5 diwrnod cyntaf a chawsom ganiatâd.
- Bu fy mhlentyn yn sâl.
- Roedd gan fy mhlentyn apwyntiadau meddygol
Ni ellir rhoi marc presenoldeb ar gyfer plentyn nad yw'n yr ysgol. Mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r ysgol am unrhyw absenoldeb er mwyn i ni wneud penderfyniad i awdurdodi’r absenoldeb neu beidio.
Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad.
The national target for attendance is 95% or better. If your child's attendance is under 90% you will have received a letter to improve attendance. The next letters will be out before the Christmas holidays!!
Missing 4 days since the start of the year means your child's attendance is below 90%.
We have received several phone calls since the letters went out complaining that a letter has been received because:
- I was on holidays for the first 5 days and got permission.
- My child was ill.
- My child had medical appointments
An attendance mark cannot be issued for a child who is not physically in school. It is important that you inform the school of any absence so that we can make a decision to authorise the absence or not.
Thank you in advance for your co-operation.
Cyfarfodydd Rhieni / Parents Meetings
I
Blaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Ysgol – School Development Plan Priorities:
Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer 2024-25 / Our priorities for 2024-25 are:
Gallwch weld mwy o fanylion trwy glicio ar y botwm isod / More information is available by clicking on the button below
Chwaraeon / Sports
Pȇl-droed/Football
Ar ddydd Llun, 7fed o Hydref aeth tîm Blwyddyn 5/6 i dwrnament pȇl-droed cymysg yn Ysgol Penrhos.
On Monday, 7th October Year 5/6 Mixed Football team took part in a tournament at Ysgol Penrhos.
Pȇl-rhwyd a Rygbi/Netball and Rugby
Dyma dîm pȇl-rhwyd a rygbi Blwyddyn 5/6 yn cymryd rhan mewn gŵyl yn Ysgol Llangennech ar 10fed o Hydref.
Here are Year 5/6 netball and rugby team taking part in a festival on 10th October in Llangennech School.
Rygbi/Rugby
Dyma dîm Blwyddyn 3/4 yng ngŵyl Rygbi'r Scarlets yn Ysgol Penrhos.
Here are Year 3/4 taking part in the Scarlets Rugby festival at Penrhos School.
Diolch i Darcy o'r Scarlets am helpu i ddatblygu eu sgiliau rygbi. Thank you to Darcy from the Scarlets for helping to improve their rugby skills.
Llongyfarchiadau i Llywelyn am gael ei ddewis i chwarae i dîm Ysgolion Llanelli. Congratulations to Llywelyn for being selected to play for Llanelli School Boys.
Criced/Cricket
Diolch i Jeremy am ddod i'r ysgol i gynnal sesiynau criced gyda Blynyddoedd 2 i 6 yn wythnosol am 4 wythnos.
Thank you to Jeremy for coming to the school to hold cricket sessions with Years 2 to 6 on a weekly basis for 4 weeks.
Llysgenhadon/Ambassadors
Dyma lysgenhadon chwaraeon yr ysgol - Lily, Cai, Llywelyn a Logan. Gwnaethon nhw gymeryd rhan mewn cwrs arweinwyr Chwaraeon Ifanc yng Nghanolfan Hamdden Llanelli yn ddiweddar. Trefnwyd y cwrs gan Gampau'r Ddraig, i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i fod yn arweinwyr chwaraeon yn yr ysgol.
Here are the school's sports ambassadors - Lily, Cai, Llywelyn and Logan. They attended a Sports Ambassadors training at Llanelli Leisure Centre recently. The course was organised by Dragon Sport and provided them with the knowledge and understanding of how to be a good sports leaders for the school.
Meithrin
Yn ystod yr hanner tymor yma rydym ni wedi bod wrth ein bodd yn astudio ein thema sef ‘Dyma fi’. Rydym wedi bod yn dysgu am y corff, adnabod rhannau’r corff a thrafod ein hoff bethau. Yn ogystal â hyn buom yn dysgu am emosiynau eraill a thrafod y rhain yn ystod amser cylch. Dysgodd y plant hefyd am bwysigrwydd teulu a ffrindiau, sut i ofalu am ein gilydd yn iawn a sut i fod yn ffrind da. Mae’r amser yn y dosbarth wedi bod yn gyffrous iawn ac yn llawn newidiadau. Rydym wedi bod yn lwcus iawn i dderbyn llawer o bethau newydd ac roedd pawb yn weithgar iawn wrth helpu i adeiladu pabell lles i osod yn ein hardal gartref. Yn ogystal â hyn buom yn dysgu sut i fod yn fwy annibynnol o amgylch y dosbarth. Rydym wedi bod yn helpu i lenwi’r potiau paent, torri papur i beintio a llenwi’r twba dŵr gan ddefnyddio’r tap allanol. Mae’r dosbarth wedi sylwi bod y tywydd wedi dechrau newid. Trwy fynd am dro o amgylch yr ysgol, fe ddysgom am dymor yr Hydref a beth sydd yn digwydd i’r coed a hefyd yr amgylchedd. Casglodd pawb llawer o bethau hydrefol i arddangos a defnyddio yn ein gweithgareddau yn y dosbarth ac yn yr ardal allanol. Roedd gyda ni ddail o wahanol liwiau a brigau er mwyn marcio, a defnyddiom ni gasgliad o bethau gwahanol i greu wynebau i ddangos sut rydym yn teimlo. Roedd pawb yn gyffrous ar ôl bod allan i gasglu mwyar duon o amgylch tir yr ysgol a'u defnyddio i greu a choginio crymbl. Blasus iawn! Mae pawb yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd yn ystod yr hanner tymor nesaf. Mwynhewch y gwyliau!
During this half term we have been excited learning about our latest theme ‘Myself’. We have been learning about the body and talking about our favourite things. We have also been learning about our emotions and discussing these during circle time. We have learned many important messages during this theme, such as the importance of friends and family, how to care for each other and how to be a good friend. We have had exciting changes inside and outside of the classroom. We have been very lucky to `receive lots of new things in class and the children have been working very hard by helping to build a new wellbeing and reading tent to put in our home corner. We have further developed these skills by becoming more independent around the classroom. We have been helping the fill the paint pots in class, cut and restock paper to paint and draw, and use the outside tap to collect and fill the water tray. By going on a walk around the school grounds, we have started learning about the different seasons and what changes happen as months pass. We have been learning all about the Autumn and what happens to the trees and its environment. We collected lots of autumnal objects to use in our activities inside and outside of the class - lots of different coloured leaves that were on the ground, branches for our marking activities and different things to create faces showing how we are feeling. Everybody was very excited after collecting blackberries from around the school and used them to prepare and make crumble. Very tasty! We are all looking forward to see what will happen during the next half term. Enjoy the holidays!
Derbyn
Mae’r hanner tymor cyntaf yn ein dosbarth newydd wedi hedfan a phob un yn hapus ac wedi ymgartrefu’n hyfryd yn y dosbarth Derbyn. Rydym wedi bod wrthi yn adeiladu ar, a dysgu sgiliau newydd yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae pawb wedi mwynhau’r holl adnoddau a’r gweithgareddau a gynigir yn y dosbarth.
Rydym wedi bod yn rhoi o’n gorau i geisio bod yn fwy annibynnol yn y dosbarth. Erbyn hyn rydym yn ysgrifennu ein henwau ar sticeri i’w rhoi ar ein ffrwythau, cofrestri ar gyfer cinio neu frechdanau, paratoi potiau paent a’u golchi pan fo angen, torri papur ein hunain ar gyfer marcio neu beintio a llenwi’r twba dwr tu allan.
‘Dyma Fi!’ yw ein ffocws ar gyfer y tymor hwn ac rydym wedi mwynhau dysgu gwahanol ganeuon i’n helpu i gofio rhannau’r corff yn y Gymraeg.
Braf oedd cael mynd am dro o amgylch tir yr ysgol i sylwi ar newidiadau’r hydref. Casglom fês, dail a brigau i’w defnyddio fel rhan o’n gwaith yn y dosbarth. Fel rhan o waith yr Hydref fe ddysgom y gân ‘Dail yr hydref’ gan ddefnyddio arwyddiaith. Rydym wedi creu coed hydrefol prydferth iawn sydd i’w gweld ar arddangosfa’r Hydref – pob un a phatrwm gwahanol wedi eu creu wrth ddewis amrywiaeth o adnoddau o frwshys golchi llestri, i sbwng naturiol, i ddarnau o wlân cotwm wedi ei ddal gan begiau dillad! Tra allan ar ein helfa hydref fe sylwon ni ar fwyar duon yn tyfu yn y perthi. Casglom ni rhain ac fel aethom ati i greu crymbl bendigedig. Gwnaethom fwynhau ei fwyta, gydag ychydig bach o hufen ia hyfryd. Roedd yn fendigedig. Mae wedi bod yn hanner tymor prysur ond cyffrous iawn ac rydym yn edrych ymlaen i ddychwelyd ar ôl yr gwyliau i barhau â’n dysgu ac i ddechrau ar yr ymarferion wrth i ni baratoi ar gyfer ein perfformiad o’r Geni!
Our first half term in our new class has flown. We are all happy and have settled beautifully in the Reception class and have enjoyed learning new skills whilst continuing to develop others with the range of resources and activities offered in class.
During the last few weeks, we have been developing our independence in the classroom. We now write our names on stickers to put on our fruit, register for school dinner or sandwiches, prepare paint pots and wash them when needed, cut paper for mark making, drawing or painting and we fill the water tub outside using the hosepipe! It’s a lot of fun!
‘This is me’ is our focus during the term and we have had a lot of fun learning new songs that help us remember the names of different parts of the body in Welsh.
It was lovely to go for a walk together around the school grounds to notice the changes in nature during the autumn. We collected acorns, leaves and twigs of different sizes to use in our activities in class. As part of our autumn activities, we learnt the Welsh song ‘Dail yr Hydref’ using ‘signalong’. Our creative area has been a splash of red, brown, orange and yellow as the children created their very own autumnal trees. Each tree a different pattern as they chose from a variety of objects and resources - from dishwashing brushes to natural sponges, to cotton wool held by clothes pegs! Whilst out on our autumn hunt we noticed some blackberries growing in the bushes. We carefully picked some and made a fabulous crumble! We all enjoyed tasting it with a little bit of vanilla ice cream. It was delicious! It has been a busy but very exciting half term, and we are looking forward to returning after the holidays to continue with our learning and begin our practising in preparation for our performance of the nativity!
Cyngor Eco Council
Daeth Helen Rosser mewn i blannu planhigion te gyda chriw cyngor eco'r ysgol. Gobeithiwn i ychwanegu blas at y dail yn ystod yr haf a'u hyfed. Edrychwn ymlaen at weithio gyda Mari Arthur a Helen unwaith eto yn ystod y flwyddyn. Diolch i chi.
Helen Rosser came into school to plant tea plants from Dartmoor Estate. Our hope is to add flavour to the leaves and taste them during the Summer months. We will be working with Mari Arthur and Helen again throughout the year. Thank you both.
Blwyddyn 1
Am hanner tymor cyntaf gwych rydyn ni wedi'i gael gyda'n gilydd ym Mlwyddyn un. Rydym wedi cael ychydig o wythnosau prysur ar ôl ymweld â'r fferm bwmpen i ddewis pwmpenni ar ôl dysgu am eu cylch bywyd a sut maen nhw'n tyfu. Gyda'n pwmpenni blasus fe wnaethon ni wedyn fwynhau gwneud cawl pwmpen, crymbl pwmpen ac afal a hufen iâ Pwmpen. Yna, gwnaethom fwynhau chwarae rôl yn gwerthu'r bwydydd yn ein siop ddosbarth. Iym iym!
Hefyd, gwnaethom ymweld â neuadd Pontyberem ar gyfer y Jambori lle gwnaethom ni gyd fwynhau dawnsio a chanu. Hefyd, ni allwn anghofio am ymweliad Nick o ETO. Dysgom am gylch bywyd pryfed genwair gydag ef ac adeiladom ein abwydfa ein hunain ar gyfer y dosbarth. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at y tymor nesaf lle byddwn yn dysgu am grwpiau bwydydd a sut i wneud bocs bwyd iach.
What a brilliant first half term we have had together in year one. We have had a busy few weeks after visiting the pumpkin farm to pick pumpkins and learning about the life cycle of how they grow. Then, with our delicious pumpkins we enjoyed making pumpkin soup, pumpkin and apple crumble and Pumpkin ice-cream. We then enjoyed role play of selling the foods and tasting them in our class shop. Mmm mmm!
Also, we have had a fun filled visit to Pontyberem Hall for the Jamboree where we all enjoyed a dance and sing along. Alongside, we had a visit from Nick at ETO who taught us about the lifecycle of earthworms and we built our own wormery for the class. We are all looking forward to next term where we will be learning about food groups and how to make a healthy lunch box.
Sioe / Show
Cafodd Blwyddyn 1 a 2 amser arbennig yn gwylio sioe Jambori Martyn Geraint ar 24ain o Hydref. Trefnwyd y sioe gan Menter Cwm Gwendraeth yn Neuadd Pontyberem. Dyma nhw’n mwynhau’r canu.
Years 1 and 2 had a wonderful time when they visited Pontyberem Hall for Martyn Geraint’s Jamboree Show on 24th October. The show was organised by Menter Cwm Gwendraeth. Here are the pupils having a lovely time singing.
Blwyddyn 2
Wel, am hanner tymor prysur i ddechrau ein taith ym Mlwyddyn 2! Mae’r amser wedi hedfan ac mae’r plant wedi ymgartrefu’n arbennig o dda. Rydym wedi bod wrth ein bodd yn cwblhau amrywiaeth o weithgareddau yn ein hardaloedd dosbarth newydd, yn enwedig yr ardal adeiladu tu allan. Rydym wedi bod yn dysgu llawer am yr Hydref, y tymhorau yn newid a'r anifeiliaid sy’n gaeafgysgu. Dechreuom ein thema newydd yn dysgu am germau a gwneud amrywiaeth o arbrofion i ddysgu pa mor gloi mae nhw’n lledaenu! Cawsom sioc i ddysgu pa mor bell yr ydych gallu tisian! Ych a fi! Uchafbwynt yr hanner tymor oedd mynd i Jamborî Martin Geraint lle cawsom y cyfle i ganu a dawnsio – joio mas draw! Gorffenom yr hanner tymor gyda pharti calan gaeaf yn yr ysgol! Rydym yn gyffrous i barhau gyda’n thema a'n dysgu hanner tymor nesaf.
Well, what a busy half term to start our Year 2 journey! The time has flown, and the children have settled extremely well. We have thoroughly enjoyed completing a variety of activities in our independent classroom areas, especially the outside construction area. We have been learning a lot about Autumn, the changing seasons and the hibernating animals. We started our new theme learning about germs and completing a variety of experiments to learn how quickly they spread! We were shocked to learn how far your sneeze travels! Ych a fi! The highlight of the half term was attending the Martin Geraint Jamboree, where we had lots of fun singing and dancing! We finished the half term dressing up in spooky outfits for our school Halloween party. We are excited to continue our learning next half term.
Gwasanaeth Diolchgarwch / Thanksgiving Service
Cafodd blant Blwyddyn 2-6 eu Gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys Llandyri ym mis Medi. Diolch i Ficer Suzy Bale am ein harwain ac i'r plant am gymryd rhan.
Years 2-6 visited Llandyry Church for our annual Thanksgiving Service in September. Thank you to Vicar Suzy Bale for and to the pupils for taking part.
Blwyddyn 3
This term we have been learning about energy and how our food is cooked. We started by learning about the different types of energy that are in the world before moving on to look how these are transferred. We focused our lessons on thermal energy by looking at and comparing the different cooking appliances we use in our kitchen. To discover more we decided to prepare and cook lunch for the school staff. We started by cooking potatoes in the microwave, oven and air fryer before comparing which potato tasted the best but also by comparing how much energy each appliance used. A survey was sent out to staff for them to place their orders and we then used the responses to analyse the data to help us prepare. We all helped prepare the potatoes and toppings for the jacket potatoes and all the staff said they were delicious. Following this we used our experiences and what we had been learning in our literacy lesson to write instructions on how to cook a jacket potato. Our favourite part was making jacket potatoes for ourselves and tasting them! They were delicious.
Y tymor yma rydym wedi bod yn dysgu am egni a sut mae ein bwyd yn cael ei goginio. Dechreuon ni trwy ddysgu am y gwahanol fathau o egni sydd yn y byd cyn symud ymlaen i edrych ar sut mae'r rhain yn cael eu trosglwyddo. Fe wnaethom ganolbwyntio ein gwersi ar ynni thermol trwy edrych ar y gwahanol offer coginio rydyn ni'n eu defnyddio yn ein cegin a'u cymharu. I ddarganfod mwy fe benderfynon ni baratoi a choginio cinio i staff yr ysgol. Fe ddechreuon ni drwy goginio tatws yn y microdon, y popty a’r ffrïwr aer cyn cymharu pa datws oedd yn blasu orau ond hefyd trwy gymharu faint o egni roedd pob teclyn yn ei ddefnyddio. Anfonwyd ffurflen at y staff er mwyn iddynt osod eu harchebion ac yna defnyddiwyd yr ymatebion i ddadansoddi'r data i'n helpu i baratoi. Fe wnaethom ni gyd helpu i baratoi'r tatws a'r llenwadau. Dywedodd y staff i gyd eu bod yn flasus. Yn dilyn hyn defnyddiwyd ein profiadau â’r hyn roeddem wedi bod yn ei ddysgu yn ein gwersi llythrennedd i ysgrifennu cyfarwyddiadau sut i goginio taten bob. Ein hoff ran oedd gwneud tatws pob i’n hunain a’u blasu! Roeddent yn flasus.
Taith Miwsig Peripatetic Music Tour
Aeth Blwyddyn 4 a 5 i Ysgol Bryngwyn ym mis Medi i glywed athrawon cerdd y Sir yn chwarae mewn cerddorfa. Cafwyd bore hyfryd yn gwrando ar y gerddoriaeth a gobeithiwn ei fod wedi ysbrydoli mwy o blant i ddysgu chwarae offeryn.
In September, Years 4 and 5 pupils had an opportunity to listen to the County's Peripatetic Music Teachers playing in an orchestra at Bryngwyn School. They had an enjoyable morning listening to the music and hopefully this may have inspired more children to play an instrument.
Blwyddyn 4
Dyna hanner tymor cyntaf eich plentyn ym mlwyddyn pedwar wedi dod i ben. Mae hi’n hanner tymor hir, ond mae’n rhaid i mi gyfaddef, mae wedi hedfan. Ein ffocws yw maeth. Rydym wedi edrych ar bwysigrwydd deiet a pham mae’n hanfodol i ni fwyta; tatws, bara reis, pasta a charbohydradau startslyd eraill, ffrwythau a llysiau, cynnyrch llaeth a dewisiadau amgen, ffa, codlysiau, pysgod wyau, cig a phrotinau eraill, ac olew a thaenyddion. Mae gan bob un swydd wahanol er mwyn cadw ein cyrff yn iachus os ydyn sicrhau cydbwysedd wrth eu bwyta. Edrychom ar fwydlen yr Ysgol, er mwyn sicrhau ein bod yn cael cydbwysedd yn yr ysgol. Yn ogystal â hyn edrychom ar labeli bwyd, a mewngofnodi data mewn i fas data. Darganfyddom o le yn y byd daw bwydydd gwahanol ac fe'i lleolwyd ar fap y byd. Esboniad yw ein genre ac felly ysgrifennom esboniad ar y system dreulio. Cyn dechrau ysgrifennu, fe wnaethom fodelu’r system dreulio yn y dosbarth gan ddefnyddio, teits, sudd oren, bisgedi, banana a dŵr- roedd bron i rai ohonom chwydu wrth weld y pŵ yn cael ei wasgu allan o waelod y teits!! Ein nofel y tymor hwn yw; Sw Sara Mai gan Casia Williams, nofel am fywyd merch yn byw mewn sw. Yn ein gwersi mathemateg rydym wedi darllen rhifau, dysgu am werth lle, adio a thynnu rhifau, lluosi rhifau a datrys problemau! Buodd Jeremy o Griced Cymru yn dysgu sgiliau criced i ni am bedair wythnos ac rydym hefyd wedi canolbwyntio ar sgiliau pêl, a dysgu sut i chwarae’r gêm; pêl fainc. Edrychom ar waith Guiseppe Arcimboldo ac fe wnaethon ni efelychu rhai o’u luniau. Roedd cymaint o fanylder iddynt ac fe lwyddodd pawb! Rydym hefyd wedi edrych ar artist o Gymru; Mary Lloyd Jones, mae’n amsugno'r holl olygfeydd a synau o’i chwmpas, y marciau a adawyd gan fwyngloddio a ffermio, cynllun cwilt ei hen fam-gu, a chwedlau dirgel y storïwyr lleol er mwyn creu gwaith anhygoel. Roedd yn rhyfedd i glywed bod bron pawb yn y dosbarth yn gweld pethau gwahanol wrth edrych ar ei gwaith! Rydym hefyd wedi dechrau ar ein gwersi recorder gyda Mr Jennings. Rydym wedi dysgu’r nodau A a B; ein gwaith cartref dros yr hanner tymor ydy ymarfer y gân ambiwlans!! Mwynhewch greu atgofion gyda’ch gilydd dros yr wythnos ac fe welwn ni chi nôl yn yr ysgol ar gyfer hanner tymor prysur arall!
That is the end of your child’s first half term in year four. It is a long half term, but I must admit, it has flown by. Our focus is nutrition. We have looked at the importance of diet and why it is essential for us to eat; potatoes, rice, bread, pasta and other starchy carbohydrates, fruit and vegetables, dairy products and alternatives, beans, legumes, eggs fish, meat and other proteins, and oils and spreads. Each one has a different job, to keep our bodies healthy, if we eat them in balance. We looked at the school's menu, to ensure that we have a balance in the school. In addition to this we looked at food labels and logged data into a database. We found out where different foods come from, and we located them on the world map. Our genre is explanation and so we wrote an explanation about the digestive system. Before starting to write, we modelled the digestive system in class using, tights, orange juice, biscuits, banana, and water - some of us almost vomited when we saw the poo being squeezed out of the bottom of the tights!! Our novel this season is; Sara Mai Zoo by Casia Williams, a novel about the life of a girl living in a zoo. In our maths lessons we have read numbers, learned about place value, added numbers, subtracted numbers, multiplied numbers, and solved problems! Jeremy from Cricket Wales taught us cricket skills for four weeks, we have also focused on ball skills and learning how to play the game; bench ball. We looked at the work of Guiseppe Arcimboldo and we emulated some of his art. There was so much detail, and everyone succeeded! We have also looked at an artist from Wales; Mary Lloyd Jones, she absorbs all the sights and sounds around her, the marks left by mining and farming, her great grandmother's quilt design, and the mysterious tales of the local storytellers to create an incredible work. We evaluated her work, and it was shocking to learn that everybody saw different things whist looking at her work! We have also started our recorder lessons with Mr Jennings. We have the learnt the notes; A and B. Mr Jennings has asked that we practise the ambulance song over the half term!! Enjoy making memories together over the week and we will see you back at school for another busy half term!
Coffee Morning/Bore Coffi
I godi arian i elusenau gwahanol trefnwyd bore coffi yn yr ysgol ar gyfer rhieni/gwarcheidwaid ac ymwelwyr. Roedd pob dosbarth, yn eu tro, yn perfformio ac yn diddanu’r dorf. Diolch i bawb am eu cefnogaeth ac i’r Gymdeithas Rhieni ac Athrawon am eu cymorth. Codwyd £280. Dewisodd y plant yr elusenau isod:
Air Ambulance Wales / MacMillan / Noahs Ark Children's Hospital
To raise money for various charities we arranged a coffee morning in school for parents/guardians and visitors. Every class, in turn, performed and entertained the crowds. Thank you to everyone for their support and to the PTA for their help. We raised £280. The charities chosen by the pupils are shown above.
Blwyddyn 5
Mae wedi bod yn hanner tymor cyntaf prysur iawn ym Mlwyddyn 5. Ein thema ni ar gyfer y tymor yma ydy ‘Gwyddonwyr Gwych’, lle rydym yn canolbwyntio ar sgiliau Cemeg. Ein prosiect mawr ar gyfer y thema yma bydd i goginio cinio Nadolig ar gyfer y rhieni. Ond, cyn i ni wneud hynny, mae angen i ni ymchwilio a ffeindio allan am gemeg a choginio.
Ar ddechrau’r thema, aethon ni i amgueddfa Abergwili er mwyn gweld yr hen gegin a sut gwnaethant fyw yn yr hen ddyddiau. Roedd yn ddiddorol iawn i weld sut oeddent yn coginio a sut mae teclynnau cegin wedi newid dros y canrifoedd. Yn dilyn hynny, aethom ni i Toby Carvery. Pwrpas y pryd o fwyd hyn oedd ymchwilio cinio Nadolig. Gofynnom gwestiynau megis sut i baratoi cinio i lawer o bobl, a beth yw’r ffyrdd gorau i gadw’r bwyd yn dwym.
Nôl yn y dosbarth, buom ni’n brysur yn cynnal arbrawf ar fara a germau. Fe wnaethom ni gyffwrdd darn o fara gyda dwylo glân, brwnt a diheintydd dwylo. Arsylwon ni ar beth ddigwyddodd i’r bara. Dysgom ni fod golchi dwylo wrth gyffwrdd a pharatoi bwyd yn hynod o bwysig tra'n coginio. Wedyn, aethom ati i gynnal arbrawf ar furum a siwgr. Gwnaeth Blwyddyn 5 ddarganfod bod burum a siwgr yn achosi eplesiad gyda dŵr twym a digon o amser. Gwnaeth y dosbarth y cysylltiad rhwng adweithiau cemegol a choginio. Mae coginio yn un adwaith cemegol mawr!
It’s been a busy first half term for Year 5. For this term, our theme is ‘Spectacular Scientists’, where we are concentrating on chemistry skills. Our end product of this term's learning will be the class making a Christmas dinner for parents. But before that happens, we have been researching chemistry, cooking and how they go hand in hand.
At the start of the school year, we went to the Carmarthenshire Museum in Abergwili to visit the old kitchen. It was interesting to see how an old kitchen worked and how far kitchen appliances have evolved over the centuries. Following the museum, we visited Toby Carvery for our lunch. As we are planning on cooking a Christmas dinner, the students thought it would be important to try and research a roast dinner. As well as having a delicious lunch, we asked lots of useful questions like portioning, how to keep food warm and how to juggle serving food to lots of people.
Back in the classroom, we conducted an experiment on personal hygiene by observing pieces of bread after they’ve been touched with dirty and clean hands. This showed us the importance of hand-washing and personal hygiene while cooking! We then conducted an experiment where we watched the chemical reaction between sugar and yeast. It was very interesting and showed how two ingredients can aid in the process of cooking. Cooking is one big chemical reaction!
Disgo Gwisg Ffansi / Fancy Dress Disco
Cafodd y disgyblion gyfle i ddod nôl i'r ysgol ar nos Fercher, 23ain o Hydref am Ddisgo Gwisg Ffansi. Gwnaethon nhw fwynhau'r dawnsio a'r gemau yn fawr iawn.
Pupils had an opportunity to come back to school on Wednesday, 23rd October for our Fancy Dress Disco. They enjoyed the dancing and games very much.
Blwyddyn 6
Mae’r tymor hwn wedi bod yn hynod brysur i Flwyddyn 6 gyda llu o weithgareddau cyffrous. Maen nhw wedi dechrau ymchwilio i ficrolysiau a dysgu am eu buddion fel rhan o brosiect i greu eu gardd ei hunain o fewn y dosbarth, y byddant yn datblygu ymhellach y tymor nesaf. Mae Blwyddyn 6 yn ymwneud yn helaeth â’r Big Bocs Bwyd ac yn mwynhau helpu Mrs Humble bob wythnos i werthu’r bwyd rydym wedi ei dyfu yn yr ysgol. Maent hefyd wedi bod yn ymchwilio ac yn creu prydau bwyd i’w gwerthu i’r rhieni a’r gymuned leol. Perfformiodd nifer o’r disgyblion yng ngwasanaeth diolchgarwch yn Eglwys Llandyry.
Mae'r dosbarth wedi mwynhau sesiynau criced wythnosol lle maent wedi datblygu eu sgiliau ac yn dysgu technegau newydd. Maent wedi cymryd rhan mewn cystadlaethau chwaraeon megis rygbi, pêl-droed a phêl-rwyd. Yng nghelf, archwiliodd y disgyblion arddull yr artist o Gymru, Kyffin Williams, gan gynhyrchu gwaith celf eu hunain wedi’u hysbrydoli gan ei ddull unigryw. Maent hefyd wedi datblygu eu sgiliau digidol drwy gymryd rhan mewn gwersi byw Adobe Creative Cloud yn ymwneud â wahanol themâu fel Diwrnod Iechyd Meddwl a Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd.
Uchafbwynt y tymor oedd perfformio gwasanaeth cynhaeaf hyfryd i weddill yr ysgol a’r rhieni, gan ddangos eu gwaith tîm a’u creadigrwydd. Helpodd y disgyblion i greu'r gwasanaeth drwy ffilmio a dangos i'r rhieni beth sydd gan y Bocs Bwyd Blasus i'w gynnig.
This half term, Year 6 have been incredibly busy with a range of exciting activities. They began researching microgreens and learning about their benefits as part of a project to create their own indoor garden, which they will develop next half term. Year six are heavily involved with the Big Bocs Bwyd and enjoy helping Mrs Humble every week to sell food that we’ve grown in the school. They have also been researching and creating meals to sell to the parents and local community. A number of the pupils took part in our thanksgiving service in Llandyry Church.
The class has also enjoyed weekly cricket sessions where they developed their skills and learnt new techniques. They have participated in sporting competitions such as rugby, football and netball. In art, the pupils explored the style of Welsh artist Kyffin Williams, producing their own impressive artworks inspired by his distinctive approach. They have developed their digital skills by participating in Adobe Creative Cloud live lessons concentrating on various themes such as World Mental Health Day or European Day of Languages.
The highlight of the half term was performing a wonderful harvest assembly for the rest of the school and parents, showcasing their teamwork and creativity. The pupils helped in creating the assembly by filming and showing the parents what the Bocs Bwyd Blasus has to offer.
Cliciwch isod i weld adroddiad blynyddol y Llywodraethwyr i rieni / Please click below to see the annual Governors Report to Parents
Cystadleuaeth Taith Pwmpen / Pumpkin Trail Competition
Edrychwch am y pwmpenni sydd o gwmpas y pentref o ddydd Llun, 28ain o Hydref i ddydd Gwener, 1af o Dachwedd. Defnyddiwch y ffurflen sydd wedi'i hanfon adref i gyfateb y rhifau i enwau'r pwmpenni. Rhoddir gwobrau i'r rhai sy'n dod o hyd i'r nifer mwyaf o bwmpenni.
Look out for the pumpkins that are around the village from Monday, 28th October to Friday, 1st November. Use the sheet that has been sent home to match the numbers to the pumpkin names. Prizes will be given to the ones that find the most pumpkins.
* Gwefan yr ysgol/School Website - Trydar/Twitter *
www.ysgoltrimsaran.org.uk - @YsgolTrimsaran