Themau tymor nesaf / Next term's themes
Chwedl, cainc a stori / Welsh stories, myths and legend
Gwerth y Mis / Value of the Month
Ionawr / January - Cyfrifoldeb / Responsibility
Chwefror / February - Gonestrwydd / Honesty
Hawl y Mis / Right of the Month
Ionawr / January - Erthygl 29 - Eich hawl i fod y gorau y gallwch fod / Article 29 - Your right to be the best you can be.
Chwefror / February - Erthygl 13 - Eich hawl i gael gwybodaeth / Article 13 - Your right to information.
Nadolig Llawen i chi gyd Merry Christmas to you all.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
06.01.2025 - HMS/INSET
Dydd Mawrth 07.01.2025 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school
Clybiau allgyrsiol yn ail-gychwyn 13.01.25 (Amserlen i ddilyn) After school clubs restarting (Timetable to follow)
14.01.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Merched yr Urdd / Girls Urdd Netball Competition
21.01.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Cymysg yr Urdd / Mixed Urdd Netball Competition
03.02.2025-07.02.2025 - B6 - Ymweliad preswyl i Langrannog / Residential visit to Llangrannog.
05.02.2025-07.02.2025 - B5 - Cwrs preswyl blwyddyn 5 i Manor adventure / Year 5 Residential visit to manor adventure.
22.02.2025-02.03.2025 - Gwyliau/Holidays
03.03.2025 - HMS/INSET
Dydd Mawrth 04.03.2025 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
Elusen / Charity
Dros y tymor yma rydym wedi bod yn brysur yn codi arian i gefnogi'r ysgol a amrywiaeth eang o elusenau. Gwerthfawrogwyd eich cyfraniadau chi fel teuluoedd Ysgol Gymraeg Ffwrnes. Rydym wedi gwario'r arian ar gelfi ar gyfer ystafell gyfarfod i gwrdd â theuluoedd yr ysgol. Dyma rhai enghreifftiau o'r cyfansymiau rydym wedi bod yn ffodus i godi ers mis Medi:
Over this term we have been busy raising money to support the school and a wide range of charities. Your contributions as families of Ysgol Gymraeg Ffwrnes are hugely appreciated. We have spent the money on furniture for a meeting room in the school reception to meet families in comfortable surroundings. Here are some examples of the totals we have been fortunate to raise since September:
Save the Children - £145.00
Plant Mewn Angen - £489.75
Ras Hwyl - £772.00
Disgo Calan Gaeaf - £708
Hamperi Nadolig - £885.00
Meithrin Cymru ac Iwerddon
Am hanner tymor prysur iawn yn y dosbarthiadau Meithrin! Rydym wedi dathlu sawl achlysur arbennig yn ystod yr wythnosau diwethaf gan gynnwys noson tan gwyllt, diwrnod plant mewn angen a gwisgo glas i godi ymwybyddiaeth diabetes. Cawsom lawer o hwyl yn archwilio’r tywydd rhewllyd ac arbrofi gydag ia. O ganlyniad i ein chwilfrydedd am y tywydd oer darllenom y stori ‘Pengwin ar ei wyliau’ a gwnaethom lawer o weithgareddau hwylus gan gynnwys pacio ces i fynd ar wyliau i wlad boeth ac oer. Gwnaethom waith ar siapiau 2D ac efelychom waith yr arlunydd Kadinsky. Wrth i’r Nadolig agosáu, buom yn dysgu llawer o eirfa newydd wrth i ni chwarae gêm ‘Beth sydd yn y bocs?’ gyda thrysorau Nadoligaidd. Cawsom amser gwych yn canu a dawnsio wrth wylio Sioe Nadolig Cyw yn ogystal a chymryd rhan yn y ras hwyl tinsel. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ac ymarfer am ein Cyngerdd Nadolig, ac fe wnaethon ni fwynhau gwisgo fel anifeiliaid y fferm wrth berfformio I ein teuluoedd. Edrychwn ymlaen at fwy o hwyl o sbri yn y flwyddyn newydd.
What a very busy half term in the Meithrin classes. We have celebrated several special occasions in recent weeks including bonfire night, children in need day and wear blue to raise diabetes awareness. We had a lot of fun exploring the frosty weather and experimenting with ice. As a result of our curiosity about the cold weather we decided to read the story ‘Penguin on his holiday’ and did many fun activities to go with the story including packing a case to go on holiday to a warm and cold destination. We worked on our 2D shape recognition and imitated the work of the artist Kadinsky. As Christmas approached, we learned a lot of new vocabulary as we played ‘What’s in the box’ with some festive treasures. We had a great time singing and dancing whilst watching Cyw’s Christmas Show and enjoyed taking part in the tinsel fun run. We all worked extremely hard preparing and practicing for our Christmas Nativity concert and thoroughly enjoyed dressing up and perfoming for our families. We can’t wait for more fun in the new year.
Derbyn Sbaen a'r Eidal
Hanner tymor brysur iawn i ni yn y dosbarthiadau Derbyn. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ar gyfer ein sioeau Nadolig dros yr wythnosau diwethaf ac rwy’n siwr gall pawb cytuno roedd y plant yn wych! Cawsom llawer o hwyl a sbri ar ein daith i Neuadd y Gwendraeth i wylio Sioe Nadolig Cyw. Yn ein dosbarthiadau, rydym wedi mwynhau ystod o weithgareddau iaith a llythrennedd megis darllen geiriau syml, cyfateb synau cychwynol gyda lluniau a hefyd dechrau cyfuno a segmentu synau amrywiol. Hefyd, buom yn brysur yn dysgu ysgrifennu at ddibenion gwahanol megis cardiau Nadolig, rhestr siopa a labelau i’n ardal chwarae rol. Yn son am yr ardal chwarae rol, rydym wedi joio mas draw dynwared profiadau siop goffi yn ein ardal Costa yn y Dosbarth. Dysgom sut i gyfnewid arian er mwyn prynu eitemau a phwrpas arian mewn bywyd o ddydd i ddydd. Roedd perchenog ein siop goffi yn rhesymol iawn gan mai dim ond darnau 1c a 2c roedd yn ei dderbyn!
Dymunwn Nadolig Llawen a Flwyddyn Newydd Dda i Chi Gyd! Oddi wrth holl staff Derbyn.
Another busy half term for us in the Reception classes. We have been very busy preparing for our Christmas show over the last few weeks and I am sure you will all agree that the children were fantastic. We had so much fun on our trip to Neuadd y Gwendraeth to watch Cyw’s Christmas Show. Within our classrooms, we have been enjoying a variety of language and literacy activities such as reading simple words, learning new terminology, matching letters with objects and beginning to blend and segment sounds too. Also, we have been learning about writing for different purposes by writing Christmas cards, shopping lists and labels for our role play area. Speaking of our role play area, the children have thoroughly enjoyed recreating real-life experiences in our Costa Coffee role play area. We have been learning how to exchange money to purchase items and the purpose of money in our day to day lives. Our class shopkeeper was very reasonable as they only accepted 1p and 2p coins!
We would like to wish you all a very Merry Christmas and a Happy New Year. From all the Reception staff.
Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc
Dysgon ni am y gwahanol gynnyrch sy’n dod o laeth gan gynnwys iogwrt a wnaethon ni fwynhau blasu iogwrt gwahanol i ddarganfod pa flas un oedd y mwyaf poblogaidd. Fe wnaethom gofnodi ein canlyniadau ar dablau a gwneud pictogram cyn dadansoddi'r data i ateb cwestiynau.
Rydym wedi bod yn gweithio’n galed i ddatblygu ein sgiliau llythrennedd trwy ysgrifennu am Cyw a’i ffrindiau. Rydyn ni wedi bod yn addysgu Cyw am yr hyn sy'n tyfu yn yr ardd gan ymarfer strwythurau brawddegau. Rydyn ni wedi ychwanegu ansoddeiriau a chymariaethau i wella ein gwaith. Rydym wedi parhau i ddatblygu ein sgiliau ysgrifennu gan ddysgu defnyddio prif lythrennau ar ddechrau brawddegau ac atalnodau llawn ar ddiwedd brawddegau.
Rydyn ni wedi bod yn dysgu am grwpiau bwyd gwahanol a sut maen nhw'n effeithio ar y corff trwy edrych ar y plât bwyta'n iach. Buom yn ymweld â’r siop Co-op leol i chwilio am enghreifftiau o bob grŵp bwyd. Rydyn ni wedi bod yn didoli bwyd sy’n iach i’r corff a bwydydd y dylem eu mwynhau yn gymedrol. Dysgon ni pa mor bwysig yw cwsg ac ymarfer corff i'n hiechyd meddwl a'n cyrff. Fe wnaethon ni fwynhau cwblhau cylched ymarfer corff fel un o'n heriau wythnosol a chyfrif sawl gwaith y gallem gwblhau pob symudiad mewn 30 eiliad!
Gweithiodd pawb yn galed iawn dros yr hanner tymor yn paratoi ar gyfer ein perfformiad Nadolig yng Nghapel Greenfield. Roeddem yn hynod falch o’n dysgwyr a berfformiodd yn wych ar y noson a gobeithiwn fod pawb wedi cael amser bendigedig.
Rydym wedi cefnogi a chodi ymwybyddiaeth ar gyfer sawl elusen y tymor hwn gan gynnwys Plant mewn Angen, Save the children a diwrnod codi ymwybyddiaeth Diabetes. Diolch i bawb am eu cefnogaeth a’u rhoddion caredig. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd dda i chi gyd. Diolch yn fawr iawn am eich holl gefnogaeth y tymor hwn.
What a busy half term once again! Our learners have been enjoying our ‘Mor flasus yw bwyd’ theme. After reading the book ‘Rapsgaliwn, where does milk come from?’, learners experienced the journey of milk themselves from milking a cow, cleaning the milk in the pasteurizing machine before pouring into bottles ready to be sent to the shop!
We learnt about the different products that come from milk including yogurt and enjoyed tasting different flavours to find out which was the most popular. We recorded our results on tables and made a pictogram before analysing the data to answer questions.
We have been working hard to develop our literacy skills by writing about Cyw and his friends. We have been helping him learn what grows in the garden practising sentence structures and adding adjectives and similes to improve our work. We have continued to develop our writing skills learning to use capital letters at the beginning of sentences and full stops at the end of sentences.
We have been learning about different food groups and how they affect the body by looking at the eat well plate. We visited our local Co-op shop to look for examples from each food group and have been sorting food that is healthy for the body and foods that we should enjoy in moderation. We learnt how important sleep and movement are for our mind and bodies. We enjoyed completing a movement circuit as one of our weekly challenges and counted how many times we could complete each movement in 30 seconds!
Everyone worked extremely hard over the half term preparing for our Christmas performance in Greenfield Chapel. We were extremely proud of our learners who performed brilliantly on the night and we hope everyone had a wonderful time.
We’ve supported and raised awareness for several charities this term including Children in need, Save the children and Diabetes awareness day. Thank you to everyone for their support and kind donations. We hope everyone has a wonderful Christmas and New year. Thank you very much for all your support this term.
Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden
Dyma ni wedi cyrraedd diwedd ein tymor cyntaf ym mlwyddyn 2!
Dros yr hanner tymor diwethaf, rydym wedi parhau i ddysgu am, a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn seilio a ‘Bwyd’! Trafodwyd fel dosbarth y gweithredoedd amrywiol sydd yn gallu newid ein bwyd a chofnodi mewn cynllun corryn. Fel un o’n tasgau thema, buom yn ymchwilio i effaith gwresogi ar fwydydd gwahanol, ac yn gwneud rhagfynegiadau a thrafod os yw’r newidiad yn droadwy neu yn androadwy.
Yn ystod ein gwersi iaith, buom yn defnyddio berfau gorchmynnol i ysgrifennu rheolau tân gwyllt, ac i greu poster i hysbysebu ein Cyngerdd Nadolig. Pleser oedd clywed ein dysgwyr yn canu carolau, ac yn adrodd stori’r geni yn ystod y gwasanaeth.
Yn ein gwersi mathemateg rydym wedi bod yn atgyfnerthu ein dealltwriaeth o werth lle drwy ddosrannu gan ddefnyddio brawddegau rhif. Buom hefyd yn datblygu ein gallu i adnabod darnau arian, ac wedi atgyfnerthu’r sgil yma o fewn y ddarpariaeth barhaus, wrth ddefnyddio arian i brynu eitemau yn ein siop tân gwyllt.
Rydym wedi mwynhau cymryd rhan mewn hyfforddiant Kerbcraft gyda Alex a’i wylfoddolwyr ar bob dydd Llun. Rydym yn cael ein cymryd allan o’r ysgol ac yn dysgu sut i ddewis lleoedd a llwybrau diogel i groesi’r ffordd.
I gloi'r tymor, yr wythnos nesaf, fe fyddwn yn blasu siocledi â blas gwahanol, ac yn gwneud siocledi Nadolig ein hunain drwy doddi siocled a’i arllwys i mewn i fowldiau siâp Nadolig.
Dymunwn Nadoling Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd!
Here we are having reached the end of our first term in year 2!
Over the last half term, we have continued to learn about and take part in activities related to 'Food'! We discussed as a class the various actions that can change our food and recorded our ideas in a spider diagram. As one of our theme tasks, we investigated the effect heating has on different foods, and made predictions, and discussed whether the change will be reversible or irreversible.
During our language lessons, we used imperative verbs to write bonfire rules, and to create a poser to advertise our Christmas Concert. It was a pleasure to hear our learners sing carols and tell the story of the birth of Jesus during the service.
In our maths lessons we have been reinforcing our understanding of place value by using number sentences to determine the value of each digit in a number. We have also been developing our ability to recognise coins, and have reinforced this skill within the continuous provision, by using money to buy items in our fireworks shop.
We have enjoyed taking part in Kerbcraft training with Alex and his volunteers every Monday. We are taken out of school to learn how to choose safe places and routes to cross the road.
To end the term, next week we will be tasting different flavoured chocolates, and making our own Christmas chocolates by melting and pouring chocolate into Christmas shaped moulds.
We wish you all a Merry Christmas and a Happy New Year!
Blwyddyn 3 Yr Alban a Hwngari
Ein thema'r tymor oedd ‘Supertaten!’ felly rydyn ni wedi dechrau edrych ar ba declynnau sydd yn y gegin. Fe gawsom gyfle i blannu tatws gyda Mrs Evans ac rydym wedi ysgrifennu cyfarwyddiadau yn esbonio’r camau yn glir. Yna cawsom y cyfle i flasu tatws o’r ‘bocs tatws’ a nawr bydd y plant yn cynllunio tatws ei hun i greu i’r staff. Rydym wedi ysgrifennu am ein taith i Lancaiach fawr a hefyd cawsom gyfle i goginio ‘dumpings’ hen fel gwelsom yn Llancaiach fawr. Fe wnaethom drefnu pa offer oedd yn defnyddio magnetau yn y gegin a wnaethom arbrofi pa ddeunyddiau sydd yn gwrthyrru neu atynnu. Daeth rhywun allan i ddysgu gwers ar ddiogelwch sgwter i ni a chawsom hwyl a sbri. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus i gael sesiynau rygbi gyda’r Scarlets ac rydym wedi dysgu llawer o sgiliau newydd. Rydym wedi mwynhau gweithio ar excell tymor yma i gymharu prisoedd yn wahanol siopau bwyd. Rydyn hefyd wedi mwynhau dysgu am arian ac wedi bod yn prynu bwyd yn ein siop dosbarth. Cawsom hwyl a sbri yn ein ras tinsel a blasu ‘smores’ o gwmpas y tan. Rydym wedi bod yn ffodus iawn i gyfansoddi can ar fŵm wackers gyda Mr Jennings. Hefyd cawsom amser hyfryd yn dysgu’r recorders tymor yma ac wedi mwynhau dangos i chi yn ein sioe Nadolig. Nadolig llawen i chi gyd a blwyddyn newydd dda!
Our theme this term is 'Supertaten!', so we've started looking at what appliances are in the kitchen. We had the opportunity to plant potatoes with Mrs Evans and we have written instructions explaining the steps clearly. We then had the opportunity to taste potatoes from the 'potato box' and now the children will plan their own potatoes to create for the staff. We have written about our trip to Llancaiach fawr and we also had the opportunity to cook old 'dumpings' as we saw in Llancaiach fawr. We organized which appliances used magnets in the kitchen and we experimented with which materials repel or attract. Mr James came out to teach us a lesson on scooter safety and we had a fun time. We have also been fortunate to have rugby sessions with the Scarlets and we have learned many new skills. We have enjoyed working on excel this term to compare prices in different food shops. We have also enjoyed learning about money and have been buying food in our class shop. We all enjoyed our tinsel race and tasted 'smores' around the fire. We have been very fortunate to compose a song on boom wackers with MR Jennings. We also had a wonderful time learning the recorders this season and enjoyed showing you at our Christmas show. I hope you all have Merry Christmas and a happy new year!
Blwyddyn 4 Yr Almaen a Swistir
Mae’r hanner tymor yma wedi hedfan ond rydym wedi bod yn brysur iawn rhwng y gwahanol gweithgareddau. O fewn ein thema, rydym wedi dysgu sut i gadw’r corff yn iach drwy sicrhau ein bod ni’n bwyta deiet cytbwys. Drwy ddefnyddio bananas, grawnfwyd, tiwb, a pâr o deits, fe ddysgom sut mae’r system dreulio’n gweithio bob cam o’r geg, lawr yr oesoffagws, stumog, y colyddun bach a mawr a’r rectwm. Dysgom am y gwahanol fathau o ddannedd sydd gennym a swyddogaeth pob un. Rydym hefyd wedi dysgu pwysigrwydd brwsio’n dannedd yn gywir drwy ddefnyddio tabledi datgelu. Mi wnaeth y plant fwynhau’r ras tinsel a bwyta’r smores – diolch i Mrs Evans am drefnu! Fe ddaeth Mr Dutton allan i ddysgu’r plant sut i gadw’n ddiogel ar eu sgwteri. Mi wnaeth y plant yn arbennig o dda yn ein sioe Nadolig yng Nghapel Greenfield – roedd hi’n noson hwylus dros ben! Rydym yn gorffen ein thema drwy goginio bisgedi a mins peis ‘iach.’
This half term has flown but we’ve been extremely busy with all the different activities. Within our theme, we’ve learnt how to keep the body healthy by ensuring that we eat a balanced diet. By using bananas, cereal, tube and a pair of tights, we learnt how the digestive system works all the way from the mouth to the rectum. We’ve learnt about the different teeth we have and their functions. We’ve also leant about the importance of brushing our teeth correctly by using disclosing tablets. The children enjoyed the tinsel run and eating the smores – thank you to Mrs Evans for organising! Mr Dutton visited the school in order to teach the children how to stay safe on their scooters. The children were fantastic in our Christmas concert at Greenfield Chapel – it was a very pleasant evening! We are finishing our theme by baking biscuits and ‘healthy’ mince pies.
Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir
Mae wedi bod yn dymor cyntaf gwych i Flwyddyn 5. Mae’r holl ddisgyblion wedi gweithio’n galed ac wedi dangos gwydnwch wrth weithio mewn llawer o wahanol bynciau. Mae ein thema, Bwydlen Microbau, wedi dysgu i ni sut y gall microbau wneud bwydydd yn ddiogel a sut y gallant hefyd ein gwneud yn sâl. Rydym wedi ysgrifennu testun perswâd ar gadw ein hunain yn lân ac yn iach er mwyn cadw'r microbau drwg i ffwrdd! Mae ein gwaith mathemateg wedi canolbwyntio ar arian a datrys problemau bywyd go iawn yn ymwneud ag arian. Maent hefyd wedi creu taenlenni Excel i drefnu partïon. Rydym wedi diddanu rhieni y tymor hwn trwy gynnal gwasanaethau ysgol am Ddiwrnod y Cofio a Phlant Mewn Angen. Cynhaliom hefyd gyngerdd carolau hyfryd yn Eglwys Greenfield. Hoffai holl staff Blwyddyn Pump achub ar y cyfle hwn i ddiolch i chi gyd am eich cefnogaeth a hefyd i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn newydd dda i chi gyd. Welwn ni chi ym mis Ionawr!
It has been a fantastic first term for Year 5. All of the pupils have worked hard and shown resilience whilst working in many different subjects. Our theme of Microbe Menu has taught us how microbes can make foods safe and how they can also make us ill. We have written a persuasive text on keeping ourselves clean and healthy in order to keep the bad microbes away! Our numeracy work has concentrated on money and solving real life problems involving money. The pupils have also created excel spreadsheets to organise parties. We have entertained parents this term by performing school assemblies about Remembrance day and Children in Need. We also held a lovely carol concert in Greenfield Church. All Year Five staff would like to take this opportunity to thank you all for your support and also to wish you all a merry Christmas and a happy new year. See you in January!
Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg
Wrth i ni agosáu at gyfnod y Nadolig, mae’n anodd credu ein bod wedi cyrraedd diwedd y tymor. Mae’r hanner tymor diwethaf wedi bod yn brysur iawn yn enwedig gyda’r paratoadau ar gyfer ein Gwasanaeth Nadolig yng Nghapel Greenfield. Mae’r disgyblion wedi gweithio’n galed trwy gydol y tymor yn dysgu sgiliau newydd ac yn datblygu ymhellach eu gallu i fod yn ddysgwyr dyfeisgar, gwydn, myfyriol ac annibynnol. Drwy gydol yr hanner tymor hwn, mae’r disgyblion wedi cael cyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau ac mae’r rhan fwyaf bellach yn gallu defnyddio nodwydd ac edau yn greadigol! Dangosodd y disgyblion frwdfrydedd a dyfalbarhad mawr drwy gydol y broses o greu a chynhyrchu addurniadau Nadolig gan ddefnyddio adnoddau naturiol a thecstilau.
Yn ystod yr hanner tymor yma mae llawer o weithgareddau a digwyddiadau pwysig wedi bod yng nghalendr yr ysgol, gan gynnwys Dydd y Cofio. Dysgodd y disgyblion sut i greu bathodynnau pabi coch ar gyfer Dydd y Cofio gan ddefnyddio eu sgiliau gwnïo â’u creadigrwydd. Unwaith iddynt feistroli hyn, roedd rhai o’r disgyblion yn hyderus i weithio gyda phlant blwyddyn 4 a 5 er mwyn eu helpu i greu bathodynnau pabi eu hun. Maent hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau wythnos gwrth-fwlio lle buont yn defnyddio tecstilau a’u sgiliau gwnïo i greu ‘sanau rhyfedd’ ynghyd ag ysgrifennu barddoniaeth acrostig. Fe wnaethon fwynhau cymryd rhan yn y gweithdai ‘Gwydnwch Uwcharwyr’ gyda CYCA lle dysgon sut i fod yn wydn a sut i reoli ein hemosiynau.
Yn ein gwaith trawsgwricwlaidd, mae'r disgyblion wedi defnyddio eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o arwynebedd sgwariau, petryalau, trionglau a chylchoedd i gyfrifo nifer o hadau microwyrddion sydd eu hangen i blannu mewn cynwysyddion gwahanol. Maent hefyd wedi astudio rhannau mewnol hedyn gan edrych yn fanwl ar swyddogaeth pob rhan, ynghyd ag astudio'r broses egino. Yn ogystal, mae’r disgyblion wedi archwilio’r dechneg argraffu colagraff er mwyn dylunio print ar gyfer eu potiau planhigion, a hefyd wedi bod yn defnyddio meddalwedd Tinkercad 3D i ddylunio label planhigyn. Maent wedi datblygu eu sgiliau gwnïo ymhellach i greu model tecstil 2D o hedyn gyda’r rhannau wedi'u diffinio'n glir.
Yn ystod ein sesiynau llythrennedd mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu sut i uwch-lefelu brawddegau ac wedi defnyddio’r sgil hwn yn eu hysgrifennu cyfarwyddiadol. Maent hefyd wedi defnyddio eu creadigrwydd i greu barddoniaeth cwpledi sy’n odli yn seiliedig ar ficrowyrddion. Ein prif ffocws rhifedd ar gyfer yr hanner tymor hwn fu mesur a chyfrifo perimedr ac arwynebedd sgwariau, petryalau, trionglau a chylchoedd. Rydym hefyd wedi canolbwyntio ar y pedwar gweithred a deall beth sy'n cynnig y gwerth gorau am arian wrth brynu adnoddau a deunyddiau i greu ein bathodynnau pabi.
Edrychwn ymlaen at daith dysgu newydd y tymor nesaf wrth i ni ddechrau astudio thema newydd.
Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!
As we near the Christmas period, it’s hard to believe that we have reached the end of the term. The last half term has been very busy for us especially with the preparation for our Christmas Service in Greenfield Chapel. The pupils have worked extremely hard throughout the term learning new skills and further developing their ability to be resourceful, resilient, reflective and independent learners. Throughout this half term, the pupils have been given opportunities to develop a variety of skills and most are now able to use a needle and thread creatively! The pupils also showed great enthusiasm and perseverance throughout the process of creating and producing Christmas decorations using natural resources and textiles.
This half term, there has also been a lot of activities and important events in the school calendar, including Remembrance Day. The pupils learnt how to create red poppy badges for Remembrance Day using their newly developed sewing skills and creativity. Once they had mastered this, some of the pupils were confident to work with year 4 and 5 children in order to help them create their own poppy badges. They have also participated in anti-bullying week activities where they used textiles and their sewing skills to create ‘odd socks’ along with writing acrostic poetry. We thoroughly enjoyed participating in the ‘Superhero Resilience’ workshops with CYCA where we learnt how to be resilient and how to manage our emotions.
In cross-curricular theme work, the pupils have used their knowledge and understanding of the area of squares, rectangles, triangles and circles to calculate the number of microgreen seeds needed to plant in different containers. They have also studied the inside of a seed looking closely at the function of each part, along with studying the germination process. In addition, the pupils have explored the collagraph printing technique in order to design a print for their plant pots, and have also been using Tinkercad 3D software to design a suitable plant label. They have further developed their sewing skills to create a 2D textile model of a seed with clearly defined sections.
During our literacy sessions the pupils have been learning how to up-level sentences and have used this skill in their instructional writing. They have also used their creativity to create rhyming couplets poetry based on microgreens. Our main numeracy focus for this half term has been measuring and calculating the perimeter and area of squares, rectangles, triangles and circles. We have also focused on the four operations and understanding what offers the best value for money when buying resources and materials to create their poppy badges.
We look forward to embarking on a new learning journey next term as we begin to study a new theme.
We wish you a Merry Christmas and a prosperous New Year!