CYLCHLYTHYR CHWEFROR 2026 FEBRUARY newsletter 2026

Themau tymor nesaf / Next term's themes

Cymru Cynaliadwy / Sustainable Wales

Gwerth y Mis/Value of the Month

Mawrth/March - Symlrwydd/Simplicity

Ebrill/April - Dyfalbarhad/Perseverance

Hawl y Mis/Right of the Month

Mawrth/March - Erthygl 30 - Eich hawl i ddefnyddio eich iaith eich hun / Article 30 - Your right to use your own language.

Ebrill/April - Erthygl 24 - Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl / Article 24 - Your right to good food and water and to see the doctor if you're ill.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

14.02.2026-22.02.2026 - Gwyliau/Holidays

Dydd Llun 23.02.2026 Monday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

25.02.2026 - Rhagbrofion Eisteddfod yn yr ysgol / Eisteddfod Preliminaries in the school

25.02.2026 - Meithrin/Derbyn - Sesiwn stori a chân gan Menter Cwm Gwendraeth yn yr ysgol / Story and Song session in school with Menter Cwm Gwendraeth

25.02.2026 - B2 - Sesiwn Gemau Buarth gan Fenter Cwm Gwendraeth / Yard Games Session with Menter Cwm Gwendraeth

26.02.2026 - B6 - Gweithdy 'Colli Ysgol Colli Cyfle' / 'Miss School Miss Opportunities' Workshop

26.02.2026 - B4 - Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi yn Llanelli / St David's Day Parade in Llanelli

28.02.2026 - Eisteddfod Gylch yn Ysgol y Strade / Local Eisteddfod at Ysgol y Strade

02.03.2026 - 09:15-10:35 - Dathliadau Dydd Gŵyl Dewi - Bore Coffi yn yr ysgol / St David's Day Celebrations - Coffee Morning in the school

04.03.2026 - Meithrin/Derbyn - Sesiwn stori a chân gan Menter Cwm Gwendraeth yn yr ysgol / Story and Song session in school with Menter Cwm Gwendraeth

04.03.2026 - B3 - Sesiwn Gemau Buarth gan Fenter Cwm Gwendraeth / Yard Games Session with Menter Cwm Gwendraeth

05.03.2026 - Diwrnod y Llyfr - disgyblion i wisgo fel eu hoff gymeriad allan o lyfr / World Book Day - pupils can dress as their favourite book character

05.03.2026 - 09:00-10:30 - Sesiwn Paned a Sgwrs i rieni yn yr ysgol / Cuppa and a Chat session for parents in the school

11.03.2026 - Meithrin/Derbyn - Sesiwn stori a chân gan Menter Cwm Gwendraeth yn yr ysgol / Story and Song session in school with Menter Cwm Gwendraeth

11.03.2026 - B4 - Sesiwn Gemau Buarth gan Fenter Cwm Gwendraeth / Yard Games Session with Menter Cwm Gwendraeth

12.03.2026 - 09:00-10:30 - Sesiwn Paned a Sgwrs i rieni yn yr ysgol / Cuppa and a Chat session for parents in the school

16.03.2026 - Noson rhieni agored i weld gwaith eich plant (mwy o wybodaeth i ddilyn) / Parents open evening to see children's work (more information to follow)

17.03.2026 - B3 - Mini Decathlon yn Ysgol y Strade / Mini Decathlon at Ysgol y Strade

18.03.2026 - B5 - Gwasanaeth Dosbarth / Class Assembly - 09:10

18.03.2026 - Meithrin/Derbyn - Sesiwn stori a chân gan Menter Cwm Gwendraeth yn yr ysgol / Story and Song session in school with Menter Cwm Gwendraeth

18.03.2026 - B5 - Sesiwn Gemau Buarth gan Fenter Cwm Gwendraeth / Yard Games Session with Menter Cwm Gwendraeth

19.03.2026 - 09:00-10:30 - Sesiwn Paned a Sgwrs i rieni yn yr ysgol / Cuppa and a Chat session for parents in the school

23.03.2026 - Digwyddiad Noddedig / Sponsored Event

25.03.2026 - B6 - Gwasanaeth Dosbarth / Class Assembly - 09:10

25.03.2026 - Meithrin/Derbyn - Sesiwn stori a chân gan Menter Cwm Gwendraeth yn yr ysgol / Story and Song session in school with Menter Cwm Gwendraeth

25.03.2026 - B6 - Sesiwn Gemau Buarth gan Fenter Cwm Gwendraeth / Yard Games Session with Menter Cwm Gwendraeth

26.03.2026 - 09:00-10:30 - Sesiwn Paned a Sgwrs i rieni yn yr ysgol / Cuppa and a Chat session for parents in the school

28.03.2026-12.04.2026 - Gwyliau/Holidays

13.04.2026 - HMS/INSET

Dydd Mawrth 14.04.2026 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

14.04.2026-01.05.2026 - B3/4 - Gwersi Nofio/Swimming Lessons

Archebu cinio ysgol dyddiol / ParentPay Daily Meals Bookings

Atgof Pwysig:

Gall pob teulu gofio bod yn rhaid archebu pryd bwyd eu plentyn ar ParentPay cyn 8yb bob dydd gan ei fod yn helpu staff y gegin i ddarparu bwyd ar eu cyfer. Mae hyn yn cynnwys plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim a'r plant hynny ym mhob dosbarth hyd at Flwyddyn 6 sydd â hawl i UPFSM.

Gofynnwch yn y dderbynfa os nad ydych yn gwybod sut i wneud hyn.

Diolch am eich cefnogaeth gyda'r mater hwn.

Important Reminder:

Please can all families remember that they must book their child's meal on ParentPay before 8am each day as it helps the kitchen staff cater accordingly. This includes children who are in receipt of Free School Meals and those children in all classes up to Year 6 who are entitled to UPFSM.

Please ask in reception if you don't know how to do this.

Thank you for your support with this matter.

Chwaraeon / Sports

Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yn ystod yr hanner tymor yma gan gynnwys:

Pupils have taken part in sporting activities during this half term including:

Blwyddyn 5/6 - Gŵyl pêl-rwyd Merched a Chymysg yr Urdd yng Nghanolfan Pentre Awel, Llanelli / Girls and Mixed Urdd Netball at Pentre Awel Centre, Llanelli

Blwyddyn 5/6 - Gŵyl Rygbi TAG ym Mharc y Scarlets / TAG Rugby Festival at Parc y Scarlets

Blwyddyn 5/6 - Twrnament Rygbi 10 bob ochr yng Nghlwb Rygbi Llangennech / 10 a side Rugby Tournament at Llangennech Rugby Club

Mynychodd Carys, Ela, a Sophia hyfforddiant Llysgenhadon Chwaraeon ym Mhentre Awel, Llanelli / Carys, Ela and Sophia attended a Sports Ambassadors training event at Pentre Awel, Llanelli

Kerbcraft

Hoffem ddiolch yn fawr i Andy o Kerbcraft am weithio gyda disgyblion Blwyddyn 2 i’w helpu i fod yn gerddwyr mwy diogel. Aeth Andy â’r plant allan ar ffyrdd go iawn a dangos iddynt sut gall gwneud dewisiadau da a defnyddio ymddygiad diogel helpu i’w cadw’n ddiogel. Dros gyfnod o chwe wythnos, bu’r plant yn ymarfer tri sgil allweddol mewn gwahanol leoliadau: dewis lleoedd a llwybrau diogel i groesi’r ffordd, croesi’n ddiogel ger ceir sydd wedi’u parcio, a chroesi’n ddiogel ger cyffyrdd. Helpodd y sesiynau’r plant i ddysgu sut i adnabod peryglon, edrych yn ofalus i bob cyfeiriad, a gwneud penderfyniadau diogel wrth groesi’r ffordd.

A big thank you to Andy from Kerbcraft for working with our Year 2 pupils to help them become safer pedestrians. Andy took the children out onto real roads and showed them how making good choices and using safe behaviour can help keep them safe. Over six weeks, the children practised three key skills at different locations: choosing safe places and routes to cross the road, crossing safely near parked cars, and crossing safely near junctions. The sessions helped the children learn how to spot hazards, look carefully in all directions, and make safe decisions when crossing the road.

Meithrin

Yn ystod yr hanner tymor yma rydym ni wedi bod wrth ein bodd yn dysgu llawer am ein tymor newydd a sut i ofalu am yr anifeiliaid tu allan yn y tywydd oer. Dysgom am wahanol adar sydd o gwmpas a chafodd pawb gyfle i fynd am dro o amgylch yr ysgol i weld pa adar oedd yna. Gofynnodd y plant pa fath o fwyd roedd yr adar yn hoffi a dechreuom greu bwyd blasus iddyn nhw gan ddefnyddio hadau a menyn cnau. Wrth i’r tywydd oeri rydym wedi dechrau dysgu am y tymhorau a beth sydd yn newid wrth i’r misoedd fynd heibio. Dysgom am dymor y Gaeaf a buom yn ffodus iawn i weld bach o eira yn disgyn wrth chwarae yn ein hardal allanol. Braf oedd gweld llawer o wynebau hapus iawn y diwrnod yna. Rydym wedi mwynhau gwrando ar storiâu gwahanol yn y dosbarth. Fe wnaeth pawb fwynhau gwrando ar y stori ‘Pengwin ar ei wyliau’ a chymryd rhan yn y llawer o weithgareddau wnaeth ddilyn. Buom yn paratoi bag i’r pengwin i fynd ar wyliau ar gyfer llefydd poeth ac oer, adeiladu cwch i’r pengwin deithio ar y dŵr yn yr ardal adeiladu a thynnu llun ein hoff ran allan o’r stori gan ddefnyddio deunyddiau gwahanol. Rydym yn edrych ymlaen at ddysgu mwy o bethau diddorol ar ôl hanner tymor.  

During this half term we have enjoyed learning about our new season and how to care for the animals outside in the cold weather. We learned about different birds that are around us and everyone had the opportunity to take a walk around the school to see what birds there were. The children asked what kind of food the birds liked and we started creating delicious food for them using seeds and peanut butter. As the weather gets colder, we have started learning about the different seasons and what changes happen as months pass. We have been learning all about the Winter and were lucky enough see a little bit of snow fall in our outside area. There were many happy faces that day making snowballs and mini snowmen. We have enjoyed listening to different stories that have included different animals. We all loved listening to the story “A Penguin on holiday” and enjoyed the fun activities that followed. Packing a case for the penguin with clothes needed for both a hot or cold holiday, building a boat for the Penguin to travel across the sea in the construction area and chose our favourite part out of the story using different materials. We look forward to learning more interesting facts after half term and learning lots of new facts.

Derbyn

Braf iawn oedd croesawu pawb yn ôl i’r ysgol ar ôl gwyliau hyfryd y Nadolig. Rydym wedi cael hanner tymor byr ond hynod brysur, llawn dysgu, chwilfrydedd ac antur. Cawsom gyffro mawr wrth weld yr eira cyntaf y tymor, ac arweiniodd hyn at archwilio stori Sioni Rhew. Bu’r plant yn cymryd rhan mewn amryw weithgareddau cysylltiedig â’r stori, megis: ymarfer patrymau igam-ogam, cyfri peli eira a chofnodi’r nifer drwy ffurfio mewn eira ac arbrofi gyda ia – sut mae’n teimlo, beth sy’n digwydd iddo mewn gwres, a ble mae’n toddi’n gyflymaf. Roedd y plant wrth eu boddau’n trafod sut mae pethau fel ia a menyn yn toddi. Ac wrth gwrs, pa ffordd well o ddysgu am hyn nag i wneud… darn o dost! Roedd dewis rhwng jam neu siocled i roi ar y tost, ac roedd pawb yn cytuno ei fod yn flasus iawn! Gyda’r tywydd yn dal yn oer iawn, sylwodd y plant ar aderyn bach tu allan – y robin goch. Yna fe ddaeth stori Robin Goch yn Chwilio am Dŷ yn sail i’n dysgu. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn dysgu enwau gwahanol adar sy’n byw o’n cwmpas, eu peintio gan ddefnyddio gwahanol gyfrwng, gwneud adar o does chwarae a chreu bwyd adar i’w helpu yn yr oerfel. Rhoddwyd y bwyd ar goed o gwmpas yr ysgol, ac roedd pawb yn gyffrous iawn i wylio’r adar yn dod i’w fwynhau. Fe wnaethom orffen yr hanner tymor gyda llawer o hwyl wrth wneud pancos/crempogau blasus – gweithgaredd melys i ddathlu ein holl waith caled! Darllen gartref Efallai y byddwch yn sylwi nad oes tasg newydd wythnosol yn y bagiau darllen; gofynnwn yn garedig eich bod yn parhau i ymarfer y llythrennau neu’r geiriau sy’n cael eu hanfon adref er mwyn cefnogi cynnydd eich plentyn. Bydd tasgau newydd yn cael eu hychwanegu pan fydd y plant yn barod ac yn hyderus i symud ymlaen i’r cam nesaf o’u darllen.

It has been lovely to welcome everyone back to school after the Christmas holidays. We have had a short but very busy half term, full of learning, curiosity and excitement. We were all very excited to see the first snowfall of the season, which led us to explore the story of Sioni Rhew (Jack Frost). The children have taken part in lots of activities linked to the story, including: practising zig-zag patterns, counting snowballs and practising forming numbers in the ‘snow’ and investigating ice – how it feels, what happens when it warms up, and where it melts the fastest. The children enjoyed talking about how things like ice and butter melt. And of course, what better way to learn about melting than by making our own toast? The children chose either jam or chocolate spread for their toast — and it was delicious! With the weather still extremely cold, the children spotted a little bird outside — the robin. This led us to explore the story ‘Robin Goch yn chwilio am dy’ (The Robin’s Search for a home). We have been very busy: learning the names of different birds we can see around us, painting them using different materials, making birds out of playdough and creating bird food to help them through the winter. We then placed the food on trees around the school and the children were very excited to watch the birds come and enjoy it. We finished the half term with lots of fun making tasty pancakes – a sweet way to celebrate all of the children’s hard work! Reading at Home You may notice there is no new weekly task in the reading folders at the moment; we kindly ask that you continue practising the letters or words that are sent home to help support your child’s progress. New tasks will be introduced when the children are ready and confident to move on to the next stage of their reading.

Sioe / Show

Mwynhaodd y Meithrin, Derbyn a Blynyddoedd 1 a 2 ymweliad â Neuadd Pontyberem i wylio sioe Jambori fywiog Martyn Geraint. Cafodd y plant amser gwych yn canu ac yn ymuno â’r gweithgareddau, ac roedd yn achlysur arbennig iawn gan mai hon oedd sioe olaf Martyn.

Nursery, Reception and Years 1 and 2 enjoyed a visit to Pontyberem Hall to watch Martyn Geraint’s lively Jamboree show. The children had a wonderful time joining in with the music and actions, and it was a very special occasion as this was Martyn’s final show.

Blwyddyn 1

Mae Blwyddyn 1 wedi bod yn cymryd rhan yn RSPB Big Garden Birdwatch, gan ddysgu llawer o ffeithiau diddorol am wahanol adar, sut i’w hadnabod, a sut y gallwn eu helpu yn ystod misoedd oer y gaeaf. Mae’r plant wedi mwynhau gweld adar, gwrando ar adar yn canu, a thrafod pa mor bwysig yw gofalu am fywyd gwyllt. I ddyfnhau ein dysgu, aethom ar ymweliad i Safle Ailgylchu Nant y Caws, lle buom yn archwilio sut y gall sbwriel effeithio ar adar ac anifeiliaid eraill. Roedd y plant yn wych wrth drafod pam mae ailgylchu’n bwysig a pham y dylem bob amser roi ein sbwriel yn y bin. Mwynheuon nhw’n arbennig yn bod yn ymarferol ac yn weithgar yn yr awyr agored. Roedd ein taith i Ganolfan Gwlypdiroedd Llanelli yn ffordd berffaith o orffen yr hanner tymor. Roedd y plant wrth eu boddau yn dipio pyllau, archwilio’r gwlypdiroedd ac yn mwynhau treulio amser yng nghanol byd natur. Uchafbwynt y diwrnod oedd gweld y flamingos - 68 ohonyn nhw! Er i’r plant fod yn ddoniol iawn (ac ychydig yn siomedig!) nad oedd yn 67! Ym Mathemateg, rydym wedi bod yn cymryd rhan mewn llawer o weithgareddau ymarferol. Dilynasom rysáit i wneud bwyd adar, gan ddefnyddio ein sgiliau pwyso a mesur. Mesuron ni hefyd amrediad adenydd adar a datrys problemau drwy ddewis y deunyddiau gorau i’w defnyddio. Dangosodd y plant sgiliau cydweithio gwych a chwilfrydedd naturiol. Mae ein gwaith creadigol wedi canolbwyntio ar dynnu lluniau o adar yr ardd yn fanwl gywir ac yn ofalus. Mae’r plant wedi ymarfer rhoi a derbyn adborth, yn meddwl am yr hyn aeth yn dda a sut y gallant wella eu gwaith. Maen nhw wedi gwneud cynnydd bendigedig! Ar ôl yr hanner tymor, byddwn yn parhau â’n thema drwy ddysgu am ailgylchu ac archwilio sut mae sbwriel yn effeithio ar anifeiliaid sy’n byw yn y môr. Rydyn ni’n gyffrous iawn i adeiladu ar bopeth rydym wedi’i ddysgu hyd yn hyn.

Year 1 have been taking part in the RSPB Big Garden Birdwatch, learning lots of fascinating facts about different birds, how to identify them, and how we can help look after them during the colder winter months. The children have enjoyed spotting birds, listening to birds singing, and discussing how important it is to care for wildlife. To deepen our learning, we visited Nant‑y‑Caws Recycling Centre, where we explored how rubbish affects birds and other animals. The children were brilliant at discussing why recycling is important and why we should always put our rubbish in the bin. They especially enjoyed being hands‑on outdoors. Our trip to the Llanelli Wetland Centre was the perfect end to our half term. The children loved pond dipping, exploring the wetlands, and being surrounded by nature. One highlight was seeing the flamingos—68 of them! Although the children were very amused (and slightly disappointed!) that it wasn’t 67! Maths has been full of practical activities this term. We followed a recipe to make bird food, using our skills in weighing and measuring. We also measured bird wingspans and solved problems by choosing the best resources to use. The children showed fantastic teamwork and curiosity. Our creative work has focused on drawing garden birds with accuracy and attention to detail. The children have been practicing giving and receiving feedback, thinking about what went well and how they can improve their work. Their drawings have truly blossomed. After half term, we’ll be continuing our theme by learning about recycling and exploring how rubbish affects animals living in the sea. We are excited to build on everything we have learned so far.

PC Ali

Ymwelodd PC Ali â’r ysgol ar Ionawr 16eg i siarad â disgyblion Cyfnod Allweddol 2. Cymerodd Blwyddyn 3 ran mewn sesiwn ar 'gadw’n ddiogel', gan ddysgu sut i wneud dewisiadau synhwyrol a chadw’n ddiogel mewn gwahanol sefyllfaoedd. Trafododd Blwyddyn 4 y pwnc 'ffrind neu elyn', gan ganolbwyntio ar ymddiriedaeth, pwysau gan gyfoedion, a sut i adnabod perthnasoedd diogel ac anniogel. Bu Blwyddyn 5 yn archwilio 'ymddygiad gwrthgymdeithasol', gan ddysgu am ei effaith ar unigolion a’r gymuned ehangach, a sut i wneud dewisiadau cadarnhaol. Roedd y sesiynau’n addysgiadol ac yn ddiddorol, gyda’r disgyblion yn gofyn cwestiynau ystyrlon drwy’r cyfan.

PC Ali visited the school on 16th January to speak with pupils across Key Stage 2. Year 3 took part in a session about 'keeping safe', learning how to make sensible choices and stay safe in different situations. Year 4 discussed 'friend or enemy, focusing on trust, peer pressure, and how to recognise safe and unsafe relationships. Year 5 explored the topic of 'anti-social behaviour', learning about its impact on individuals and the wider community, and how to make positive choices. The sessions were informative and engaging, and pupils asked thoughtful questions throughout.

Blwyddyn 2

Mae'r hanner tymor hwn wedi bod yn llawn dop o gyfleoedd dysgu hwyl a chyffrous. Fe ddechreuon ni'r flwyddyn wrth ddysgu am sut mae'r Flwyddyn Newydd yn cael ei ddathlu ledled y byd a rhannu'r wybodaeth hon gyda chi yn ein gwasanaeth dosbarth. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau cymaint ag y gwnaethom ni. Ar ôl i ni gwblhau ein gwasanaeth, fe neidion ni'n syth i'n thema newydd ar gyfer y tymor. Ein cwestiwn yw 'A all ailgylchu helpu i gadw Cymru'n gynaliadwy?'. Gan ganolbwyntio ar ailgylchu, fe aethon ni i'r ganolfan ailgylchu yng Nghaerfyrddin. Roedd hyn yn llawer o hwyl a dysgon ni lawer o ffeithiau diddorol a gweld rhai eitemau anhygoel a oedd wedi'u hailgylchu yn barod i'w hailddefnyddio. Wrth ddysgu am ailgylchu, fe agorodd y drws i ddatblygu ein sgiliau daearyddiaeth trwy ddeall yr effaith y gall eraill gael ar ei gilydd a'r byd o'n cwmpas, a datblygu ein dealltwriaeth o'r hyn sy'n creu byd hapus a'r hyn sy'n gwneud byd trist. Gan barhau â'n ffocws daearyddiaeth, dysgon ni am y 4 pwynt o'r cwmpawd a defnyddio'r wybodaeth hon i helpu i ddatblygu ein gallu i rhoi cyfarwyddiadau ar fapiau. Rydym hefyd wedi cael amser gwych  yn y Disgo Santes Dwynwen a’n Disgo Tawel ar Ddydd Miwsig Cymru.Rydym wedi mwynhau wythnosau cyntaf ein thema newydd yn fawr iawn ac rydym yn edrych ymlaen at barhau â hyn ar ôl yr hanner tymor.

This half term has been jam packed full of fun and exciting learning opportunities. We kicked off the year learning all about how New Year is celebrated across the world and shared this information with you in our class assembly. We hope you enjoyed as much as we did. Once we completed our assembly we jumped straight into our new theme for the term. Our question is ‘Can recycling help keep Wales sustainable?’. With a focus on recycling, we headed to the recycling centre in Carmarthen for a class visit.  This was great fun and we learnt  a lot of interesting facts and saw some amazing items that had been recycled ready for reuse. While learning about recycling it opened up the door to develop our geography skills by understanding the impact others can have on each other and the world around us, and developing our understanding of what creates a happy world and what makes a sad world. Continuing with our geography focus we learnt about the 4 points of the compass and used this knowledge to help develop our ability to create and give directions on maps.  We have also had the best time in the Santes Dwynwen Disco and our Silent Disco on Dydd Miwsig Cymru. We have really enjoyed the first few weeks of our new theme and we look forward to continuing with this after the half term.

Santes Dwynwen

Mwynhaodd y disgyblion ddisgo hwyliog Santes Dwynwen yn yr ysgol, gan ddathlu nawddsant Cymreig cariad a chyfeillgarwch. Coffeir Santes Dwynwen am hyrwyddo caredigrwydd, gofal a hapusrwydd mewn perthnasoedd, ac mae ei diwrnod yn cael ei ddathlu’n draddodiadol yng Nghymru ar Ionawr 25ain. Roedd y disgo’n cynnwys cerddoriaeth, dawnsio, yn ogystal â diod a byrbryd, a chafodd pawb amser hyfryd yn cymryd rhan yn y dathliadau.

Pupils enjoyed a fun Santes Dwynwen disco in school, celebrating the Welsh patron saint of love and friendship. Santes Dwynwen is remembered for promoting kindness, care and happiness in relationships, and her day is traditionally celebrated in Wales on 25th January. The disco included music, dancing, as well as a drink and a snack, and everyone had a lovely time taking part in the celebrations.

Blwyddyn 3

Am hanner tymor prysur a chyffrous rydym wedi’i gael ym Mlwyddyn 3!  Mae’r plant wedi bod yn dysgu am ddeunyddiau naturiol a synthetig. Rydym wedi trafod eu manteision a’u hanfanteision ac wedi ystyried ble maent yn cael eu defnyddio mewn bywyd bob dydd. Mwynhaodd y dosbarth yn arbennig ragweld pa ddeunydd fyddai orau ar gyfer gwisg nofio ac yna arbrofi gyda gwahanol ddeunyddiau i brofi eu syniadau.   Yn ein gwersi mathemateg, rydym wedi bod yn gweithio’n galed ar fesur perimedr ac ar adnabod siapiau 2D a 3D. Mae’r plant wedi dod yn llawer mwy hyderus wrth ddefnyddio mesuryddion yn gywir ac wrth adnabod priodweddau amrywiaeth o siapiau.   Ein genre  y tymor hwn oedd trafodaeth. Rydym wedi dysgu beth sydd angen ei gynnwys wrth ysgrifennu neu wrth gynnal trafodaeth gytbwys, gan gynnwys rhoi rhesymau dros wahanol safbwyntiau. Mae’r plant wedi creu argraff fawr gyda’u syniadau meddylgar a’u gallu i fynegi eu barn yn glir.   Roeddem yn ffodus iawn i gael gweithdy gyda Helen O’Sullivan. Dysgom ni fod y rhan fwyaf o jîns yn cael eu gwneud yn Tsieina. Buom yn edrych ar yr amodau gwaith gwael, y llygredd sy’n rhedeg i’r afonydd a’r cyflogau isel y mae gweithwyr yn eu derbyn. Gwnaeth hyn i’r plant feddwl yn ofalus iawn am ffasiwn gyflym. Fel rhan o’r gweithdy, gwnaethom tie-dye gan ddefnyddio finegr, dŵr a thyrmerig – roedd yr ystafell ddosbarth yn drewi o finegr am ychydig oriau, ond roedd y canlyniadau’n drawiadol iawn! Wedyn fe wnaethom baentio ffabrig i brotestio yn erbyn ffasiwn gyflym, a gorffennom y diwrnod yn ymlacio wrth ddysgu gwnïo.   Yn ein gwersi Addysg Gorfforol rydym wedi bod yn dysgu am wahanol siapiau gymnasteg ac wedi creu ein trefnau ein hunain. Mae wedi bod yn hyfryd gweld hyder a gwaith tîm y plant yn datblygu.   Roeddem hefyd yn hynod falch o’n gwasanaeth dosbarth diweddar. Diolch yn fawr i bawb a ddaeth i’w weld – roedd y plant wrth eu bodd yn perfformio i chi.   Yn olaf, diolch am eich cefnogaeth gyda’r profion sillafu dros y bythefnos ddiwethaf. Mae eich cymorth gartref yn gwneud gwahaniaeth mawr iawn. Gobeithio y cewch chi hanner tymor hyfryd. Mwynhewch eich amser gyda’ch gilydd, ac edrychaf ymlaen at glywed am eich anturiaethau pan fyddwn yn dychwelyd.

What a busy and exciting half term we have had in Year 3! The children have been learning all about natural and synthetic materials. We have explored the advantages and disadvantages of each and discussed where they might be used in everyday life. The class particularly enjoyed predicting which material would be best for a swimming costume and then experimenting with different fabrics to test their ideas.   In Maths, we have been working hard on measuring perimeters and recognising both 2D and 3D shapes. The children have become much more confident using rulers accurately and identifying the properties of a wide range of shapes.   Our genre this half term has been discussion writing. We have learnt what needs to be included when writing or taking part in a balanced discussion, including giving reasons for different points of view. The children have impressed me with their thoughtful ideas and ability to explain their opinions clearly.   We were very fortunate to take part in a workshop with Helen O’Sullivan. She taught us about where our clothes come from and explained that the majority of jeans are made in China. We learnt about the poor working conditions, the pollution that runs into rivers, and the low pay of many workers. This really made the children think carefully about fast fashion. As part of the workshop, we made tie dye using vinegar, water and turmeric – the classroom smelt of vinegar for a few hours, but the results were very impressive! We then painted fabric banners to protest about fast fashion and finished the day relaxing whilst learning some simple sewing skills.   In our P.E. lessons we have been focusing on gymnastics. The children have learnt a variety of gymnastic shapes and have worked together to create their own routines. It has been wonderful to see their confidence and teamwork grow.   We were also incredibly proud of our recent class assembly. Thank you to everyone who was able to come and watch – the children loved performing for you.  Finally, thank you for all your support with the spelling tests over the past fortnight. Your help at home really does make a big difference.  I hope you all have a lovely half term break. Enjoy your time together, and I look forward to hearing all about your adventures when we return.

Blwyddyn 4

Mae wedi bod yn hanner tymor hynod brysur a chyffrous i ddisgyblion Blwyddyn 4! Rydym wedi dechrau ar ein thema newydd sy’n canolbwyntio ar gynaladwyedd yng Nghymru, gyda ffocws arbennig ar fwyd lleol o’i gymharu â bwyd sydd wedi’i fewnforio. Mae’r plant wedi mwynhau trafod o ble mae ein bwyd yn dod a sut gallwn wneud dewisiadau sy’n fwy caredig i’r amgylchedd. Fe wnaethom hefyd ddathlu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel, lle bu’r plant yn cymryd rhan mewn gweithgareddau bach a sgyrsiau am bwysigrwydd bod yn ddiogel ar-lein, gan gynnwys sut i warchod eu gwybodaeth a beth i’w wneud os ydynt yn teimlo’n ansicr. Roedd hi’n ddiwrnod arbennig iawn wrth ddathlu Dydd Miwsig Cymru. Cafodd y plant gyfle i fwynhau disgo tawel a gwrando ar amrywiaeth o gerddoriaeth Gymraeg drwy’r dydd. Roedd pawb yn mwynhau’r naws Gymraeg bywiog! Un o uchelgeisiau’r hanner tymor hwn oedd gwasanaeth dosbarth Blwyddyn 4. Cymerodd pob plentyn ran yn wych, boed yn adrodd neu’n actio, a bu’r gwasanaeth, a oedd yn canolbwyntio ar Ddydd Miwsig Cymru, yn llwyddiant gwirioneddol. Rydym yn falch iawn o’u hyder a’u perfformiad. Cawsom hefyd gyfle i gymryd rhan mewn gweithdy Forensic Science, a fu’n brofiad cofiadwy i’r plant. Fe wnaethant weithio fel tîm i ddatrys problemau ac ymarfer eu sgiliau arsylwi fel ditectifs ifanc— roedd llawer o gyffro a brwdfrydedd! Yn ogystal, ymwelodd Technocamps â ni i gynnal sesiwn ar feddwl cyfrifiadurol. Dysgodd y disgyblion am ddilyniannu, patrwm-adnabod a datrys problemau, gan ddatblygu eu sgiliau technolegol mewn ffordd hwyliog a rhyngweithiol.  

It has been an incredibly busy and exciting half term for the Year 4 pupils! We have started our new topic which focuses on sustainability in Wales, with a particular emphasis on local food compared to imported food. The children have enjoyed discussing where our food comes from and how we can make choices that are kinder to the environment. We also celebrated Safer Internet Day, where the children took part in small activities and discussions about the importance of staying safe online, including how to protect their information and what to do if they feel unsure. It was also a very special day as we celebrated Welsh Music Day. The children had the opportunity to enjoy a silent disco and listen to a variety of Welsh music throughout the day. Everyone enjoyed the lively Welsh atmosphere! One of the highlights of this half term was the Year 4 class assembly. Every child took part brilliantly, whether reciting or acting, and the assembly—which focused on Welsh Music Day—was a real success. We are very proud of their confidence and performance. We also had the opportunity to take part in a Forensic Science workshop, which was a memorable experience for the children. They worked as a team to solve problems and practise their observational skills as young detectives—there was lots of excitement and enthusiasm! In addition, Technocamps visited us to run a session on computational thinking. The pupils learned about sequencing, pattern recognition and problem‑solving, developing their technological skills in a fun and interactive way.

Gweithdy Forensic Workshop

Mwynhaodd Blwyddyn 4 gymryd rhan mewn gweithdy Heddlu, Troseddau a Gwyddoniaeth Safle Trosedd. Yn ystod y sesiwn, dysgodd y plant am rôl bwysig yr heddlu a sut mae swyddogion yn chwilio am gliwiau, yn gwneud arestiadau ac yn defnyddio DNA i helpu i ddatrys troseddau. Bu’r disgyblion yn gweithio fel ymchwilwyr go iawn, gan ddatblygu eu sgiliau arsylwi, datrys problemau a gwaith tîm. Daeth y gweithdy i ben gydag ymchwiliad cyffrous i safle trosedd ‘go iawn’, lle cafodd y plant gyfle i uno popeth yr oeddent wedi’i ddysgu i ddatrys y dirgelwch. Roedd pawb yn frwdfrydig iawn ac wedi mwynhau profiad dysgu ymarferol gwych.

Year 4 thoroughly enjoyed taking part in a Police, Crimes and Crime Scene Science workshop. During the session, the children learned about the important role of the police and explored how officers search for clues, make arrests and use DNA to help solve crimes. They worked like real investigators, developing their observation, problem-solving and teamwork skills. The workshop concluded with an exciting investigation of a ‘real’ crime scene, where pupils were able to bring together everything they had learned to solve the mystery. Everyone was highly engaged and had a fantastic time learning through hands-on activities.

Blwyddyn 5

Mae Blwyddyn 5 wedi cael dechrau ysbrydoledig ac egniol i’r flwyddyn a’r tymor newydd. I arwain ein dysgu, rydym wedi dewis y cwestiwn mawr: “A all newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr?” Bydd hyn yn siapio ein hymholiad wrth i ni archwilio daearyddiaeth Cymru, cynaliadwyedd, a beth mae’n ei olygu i fod yn ddinasyddion ymwybodol sy’n cymryd camau ystyriol ac moesegol yn y byd o’n cwmpas.   Dechreuodd ein hymholiad cyntaf gyda rhywbeth cyfarwydd iawn: poteli llaeth wythnosol yr ysgol. Sylwodd y disgyblion ein bod yn defnyddio o leiaf 20 o boteli plastig bob wythnos. Sbardunodd hyn drafodaeth am wastraff plastig a sut y gallem ei leihau. O hyn, bu’r dysgwyr yn archwilio deunyddiau cynaliadwy yn eu gwersi ysgrifennu ac ysgrifennu llythyr meddylgar at Gyngor Sir Gâr, yn ystyried a fyddai newid i boteli gwydr yn opsiwn realistig. Mae’r drafodaeth hon wedi helpu pawb i sylweddoli sut y gall newid bach arwain at effaith fawr.   Mae Blwyddyn 5 hefyd wedi bod yn brysur yn ailbwrpasu llawer o’r poteli llaeth plastig rydym fel arfer yn eu hailgylchu. Maen nhw wedi’u troi’n botiau planhigion, caniau dyfrio a photiau pensil — ychwanegiadau hyfryd at ein hystafelloedd dosbarth, ac mae’r plant yn falch iawn ohonynt! Gan ddefnyddio eu sgiliau dadlau, crëwyd iMovie yn trafod manteision ac anfanteision gwahanol fathau o laeth sy’n cael eu gwerthu yn y siopau, a pha rai sydd orau neu waethaf i’n hamgylchedd.   Ar ôl hanner tymor, mae Blwyddyn 5 yn edrych ymlaen at barhau â’u hymholiad a darganfod mwy o newidiadau bach a all wneud Trimsaran yn lle gwell.   Yn ogystal â hyn i gyd, mae Blwyddyn 5 wedi bod yn brysur yn y gegin bob Dydd Mawrth, yn coginio prydau blasus fel chow mein, chasseur, a phancws. Mae’r disgyblion wedi mynd â’u prydau adref ac wedi’u gwerthu hefyd yn y Bocs Bwyd Blasus, gan ddysgu sgiliau bywyd newydd wrth godi arian ar yr un pryd.

Year 5 have had an inspiring and energetic start to the new year and new term. To guide our learning, we have chosen the big question: “Can small changes make a big difference?” This will shape our inquiry work as we explore Welsh geography, sustainability, and what it means to be informed, thoughtful citizens who take ethical action in the world around us.   Our first investigation began with something very familiar: the school’s weekly milk bottles. Pupils noticed that we use at least 20 plastic bottles each week across the school. This sparked a discussion about plastic waste and how we might reduce it. From this, learners explored sustainable materials in their writing sessions and even composed thoughtful letters to Carmarthenshire Council considering whether switching to glass bottles could be a feasible alternative. The conversation has helped everyone recognise how one small change can lead to a big impact.   Year 5 have also been busy repurposing many of the milk bottles we usually recycle. They have transformed them into plant pots, watering cans, and pen holders—fantastic additions to our classrooms that they are very proud of! Using their debating skills, pupils also created an iMovie exploring the environmental pros and cons of different types of milk available in shops.   After half term, Year 5 are excited to continue their enquiry and look at more small changes we can make to help build a better Trimsaran.   Alongside all this, Year 5 have been busy in the kitchen every Tuesday, cooking delicious dishes such as chicken chow mein, chicken chasseur, and pancakes. Pupils have taken their meals home and sold them in the Big Box Bwyd, learning new life skills while helping raise funds in the process.

Blwyddyn 6

Hanner tymor arall sydd wedi hedfan heibio! Er iddo ddechrau ychydig yn araf gyda diwrnod eira, fe wnaethom ni ddychwelyd i’r drefn arferol yn ddigon cyflym a phlymio’n syth i’n thema newydd, “Ein Byd mewn Perygl.” Rydym wedi bod yn ymchwilio achosion ac effeithiau cynhesu byd-eang, ystyried sut mae ein gweithredoedd ni yn cyfrannu at broblemau amgylcheddol ac, yn bwysicaf oll, beth y gallwn ni ei wneud i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Mae’r plant wedi mwynhau creu posteri, prosiectau ar-lein a fideos i ddatblygu a dangos eu dealltwriaeth. Rydym hefyd wedi dechrau ymchwilio’n ddyfnach i lifogydd — mater sydd yn hynod berthnasol ar hyn o bryd. Ar ôl hanner tymor, bydd y plant yn dylunio ac yn adeiladu pentrefi model eu hunain er mwyn ymchwilio i lifogydd a chreu gorlifdiroedd fel rhan o’u hymchwiliad. Uchafbwynt y tymor oedd ein taith i Lundain. Roedd y plant yn anhygoel — roedd eu hymddygiad yn rhagorol ac roeddem yn hynod falch ohonynt drwy gydol y daith. Fe wnaethom ymweld â Phalas Buckingham, mynd ar daith ar y London Eye, cerdded o amgylch Tŷ’r Senedd (a hyd yn oed ymddangos ar y teledu!), teithio ar y Tiwb fel arbenigwyr, a gwylio The Lion King yn y West End. Am brofiad bythgofiadwy! Mae’r daith wedi ein gwneud ni hyd yn oed yn fwy cyffrous ar gyfer ein hymweliad â’r Iseldiroedd ym mis Mehefin. Mae wedi bod yn hanner tymor gwych, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at blymio’n ôl i mewn, mynd yn ddyfnach i’n cwestiwn ymchwil, a pharhau i ddatblygu ein dealltwriaeth o’r thema bwysig hon.

Another half term that has absolutely flown by! Although it began a little slower than expected with the snow day, we quickly got back into the swing of things and immersed ourselves in our new theme, ‘Our World in Danger.’ We have been exploring the causes and effects of global warming, thinking carefully about how our own actions contribute to environmental issues and, most importantly, what we can do to make a positive difference. The children have thoroughly enjoyed creating posters, online projects and videos to develop and showcase their understanding. We have also begun diving deeper into learning about floods — a particularly current and important issue. After half term, the children will be designing and building their own model villages to investigate flooding and create flood plains as part of their continued enquiry. The highlight of the half term was undoubtedly our visit to London. The children were incredible — their behaviour was exemplary, and we were extremely proud of them throughout the trip. We visited Buckingham Palace, enjoyed a ride on the London Eye, walked around the Houses of Parliament (and even ended up on TV!), navigated the Tube like pros, and watched The Lion King in the West End. What an unforgettable experience! The trip has made us even more excited for our upcoming visit to the Netherlands in June. It has been a fantastic half term, and we cannot wait to dive back in, explore our research question further, and continue developing our understanding of this important theme.

Llundain/London

Ar Chwefror 4ydd, mwynhaodd disgyblion Blwyddyn 5 a 6 ymweliad cyffrous dros nos i Lundain. Yn ystod y daith, fe wnaethant fwynhau taith ar gwch ar yr Afon Tafwys, hediad ar y London Eye, archwilio Amgueddfa Drafnidiaeth Llundain, a thaith o amgylch rhai o dirnodau enwog y ddinas, gan gynnwys Tai’r Senedd. Uchafbwynt y daith i lawer oedd ymweliad â Theatr Lyceum i wylio’r sioe wych 'The Lion King'. Cafodd pawb amser bendigedig gan greu atgofion oes.

On 4th February, our Year 5 and 6 pupils enjoyed an exciting overnight visit to London. During their trip, they took a Thames River Cruise, enjoyed a flight on the London Eye, explored the London Transport Museum, and toured some of the city’s famous landmarks, including the Houses of Parliament. The highlight for many was a visit to the Lyceum Theatre to watch the spectacular show 'The Lion King'. Everyone had a wonderful time and created many lasting memories.

Cafodd Dydd Miwsig Cymru ac Wythnos Iechyd Meddwl Plant eu dathlu ar ddydd Iau, Chwefror 12fed, ac roedd yr ysgol yn llawn lliw a brwdfrydedd wrth i’r disgyblion nodi’r achlysur. I ddathlu’r iaith a diwylliant Cymreig, cafodd y disgyblion wisgo eu dillad eu hunain am y diwrnod, gan greu awyrgylch hamddenol a dathliadol ledled yr ysgol. Un o uchafbwyntiau’r diwrnod oedd y disgo tawel, a fwynhaodd y disgyblion yn fawr. Gyda chlustffonau ymlaen a cherddoriaeth Gymraeg yn chwarae, cafodd pawb gyfle i ddawnsio, cael hwyl, ac ymgysylltu â cherddoriaeth Gymraeg mewn ffordd fywiog a chofiadwy. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr ac yn ffordd wych o hyrwyddo mwynhad o’r iaith Gymraeg drwy gerddoriaeth a dathlu.

Welsh Language Music Day and Children's Mental Health week was celebrated on Thursday 12th February, and the school was full of colour and excitement as pupils marked the occasion. To help celebrate Welsh language and culture, pupils were invited to wear their own clothes for the day, which created a relaxed and festive atmosphere throughout the school. One of the highlights of the day was a silent disco, which pupils thoroughly enjoyed. With headphones on and Welsh music playing, everyone had the opportunity to dance, have fun, and engage with Welsh-language music in a lively and memorable way. The event was a great success and a fantastic way to promote enjoyment of the Welsh language through music and celebration.