Y Derbyn Crynodeb o'n Cwricwlwm

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern

GWELEDIGAETH Y CLWSTWR

Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.

Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.

Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.

Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.

Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.

Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.

Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.

Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.

Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.

Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.

Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.

Uned 1

Cartrefi a Chymuned

Mae dod i’r ysgol yn ddigwyddiad pwysig mewn bywyd plentyn. Amcan yr uned yma yw ymgyfarwyddo’r disgyblion a’r ysgol. Bydd angen iddynt ddysgu trefn diwrnod yn yr ysgol, dod i adnabod staff yr ysgol a gwybod pwy sydd yn gallu eu helpu. Bydd y disgyblion yn dysgu am reolau’r ysgol ac yn datblygu perthnasau cadarnhaol gyda ffrindiau newydd.

Cwestiynau Mawr

Beth sy’n arbennig am ein hysgol?

Cynnwys yr Uned:

Deall trefn y dydd yn yr ysgol ac ymgyfarwyddo gydag ardaloedd yr ysgol.

Adnabod fy milltir sgwar a'u cymuned yn Sblot.

Trafod pwy sydd yn eu helpu yn yr ysgol a dysgu enwau staff yr ysgol sy’n berthnasol iddynt.

Dysgu rheolau y dosbarth a rheolau aur yr ysgol.

Dysgu ac ymateb i gyfarchion cyfarwydd.

Ymateb i’w henw wrth alw’r gofrestr.

Datblygu perthnasau cadarnhaol gyda ffrindiau newydd a dysgu sut i fod yn ffrind da.

Diogelwch y dosbarth.

Dysgu am gartrefi amrywiol mae pawb yn byw ynddynt. Adnabod ac enwi ystafeloedd amrywiol yn y cartref.

Uned 2

Yr Ardd Anhygoel!

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw. Yn yr uned yma byddwn yn dysgu am y pethau byw hynny yn yr ardd a sut maent yn dibynnu ar ei gilydd i oroesi. Bydd cyfle i ddysgu am gylched bywyd. Dylid meithrin chwilfrydedd y disgyblion i ddarganfod byd natur a dysgu enwau'r creaduriaid, blodau a bwydydd sydd yn yr ardd.

Cwestiynau Mawr

Beth sy’n byw yn ei gardd?

Sut gallwn ni ddenu byd natur i'n hysgol / milltir sgwar?

Cynnwys yr Uned

Adnabod enwau blodau, adar a phlanhigion amrywiol.

Prosiect i ddenu byd natur e.e gwesty trychfilod, creu gardd flodau.

Plannu planhigion/blodau yn ein gardd llawn fwyd.

Peillio blodau - pwysigrwydd gwenyn a thŷ mêl

Dysgu am gynefinoedd trychfilod amrywiol.

Uned 3

Bant a Ni!

Amcan yr uned yma yw ennyn chwilfrydedd y disgyblion i fynd ar antur. Bydd posib ymweld â gwledydd eraill, teithio nôl mewn amser neu drefnu taith. Mae’n bwysig ymholi, archwilio ac ymchwilio'r byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

Cwestiynau Mawr

I ble awn ni am antur?

Beth sydd angen i fod yn anturiaethwr llwyddiannus?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am anturiaethau amrywiol

Cynllunio antur, dethol pethau i fynd gyda hwy, creu rhestrau, pacio bag.

Mynd ar antur a chanfod gwybodaeth am y lle a ddewiswyd.

Lawnsio roced!

Credits:

Created with images by neirfy - "Back to school pencils" • adragan - "Back to school. School bag with supplies for school on yellow background. Copy space for text" • Pefkos - "English garden" • sompong_tom - "Men jump cliff sun light over silhouette "