Themau tymor nesaf / Next term's themes
Y Byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol / The World, it's past, it's present, it's future
Gwerth y Mis/Value of the Month
Ionawr/January - Cyfrifoldeb/Responsibility
Chwefror/February - Gonestrwydd/Honesty
Hawl y Mis/Right of the Month
Ionawr/January - Erthygl 29 - Eich hawl i fod y gorau y gallwch fod / Article 29 - Your right to be the best you can be.
Chwefror/February - Erthygl 13 - Eich hawl i gael gwybodaeth / Article 13 - Your right to information.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
08.01.2024 - HMS/INSET
Dydd Mawrth 09.01.2024 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school.
15.01.2024 - B4/5/6 - Gweithdy Ffair Iaith yn yr ysgol / Language Fair Workshop in school
16.01.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Merched yr Urdd / Girls Urdd Netball Competition
19.01.2024 - 09:15 Gwasanaeth Blwyddyn 3 Assembly
23.01.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Cymysg yr Urdd / Mixed Urdd Netball Competition
25.01.2024 - B5/6 - Gŵyl Rygbi Cymysg yng Ngholeg Sir Gâr / Mixed Rugby Festival at Coleg Sir Gâr
08.02.2024 - Cystadleuaeth Pȇl-droed Cymysg yr Urdd / Mixed Urdd Football Competition
09.02.2024-09:15 Gwasanaeth Blwyddyn 2 Assembly
12.02.2024-16.02.2024 - Gwyliau/Holidays
Chwaraeon / Sports
Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn ystod yr hanner tymor yma gan gynnwys:
Pupils have taken part in various sporting activities during this half term including:
Blwyddyn 5/6 - Gêm gyfeillgar pêl-rwyd a phêl-droed yn Ysgol Llangennech / Netball and football friendly game at Llangennech School
Blwyddyn 2/3 - Sesiwn sgiliau rygbi gyda Darcy o'r Scarlets / Rugby skills session with Darcy from the Scarlets
Blwyddyn 3/4 - Gwyl rygbi yng Ngholeg Sir Gâr / Rugby festival at Coleg Sir Gar
Blwyddyn 2/3/4 - Gwyl rygbi ar gaeau Clwb Rygbi Trimsaran / Rugby festival at Trimsaran Rugby Club fields
Blwyddyn 5/6 - Gwyl rygbi Merched yng Ngholeg Sir Gâr / Girls Rugby festival at Coleg Sir Gar
Meithrin
Dyna beth oedd dechrau cyffrous i’r tymor Newydd yn y Meithrin! Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ymarfer caneuon newydd ar gyfer cyngerdd Y Geni. Roedd pawb yn gyffrous i rannu’r sioe gyda chi gyd a chlywed eich sylwadau. Fe wnaeth pawb yn arbennig o dda. Da iawn i bob un ohonoch! Mae wedi bod yn amser prysur iawn hefyd ar lawr y dosbarth, gyda llawer o gliter, paent a thinsel yn cael eu defnyddio i greu ein cardiau, calendrau, ac addurniadau arbennig. Mae’n hyfryd i weld pawb yn gyffrous am Nadolig gyda’r plant wrth eu bodd yn gwisgo i fyny fel Siôn Corn a chorachod yn ein hardal lapio anrhegion a darganfod y pethau mae ‘Buddy yr Elf’ wedi bod yn gwneud adre ac yn y dosbarth. Cafodd pawb llawer o hwyl ar ein gwibdaith i Reilffordd Llanelli a Mynydd Mawr. Roedd yn brofiad gwych i fynd am dro ar y trên, cyn cael cyfle i weld yr hen gerbydau sydd yna. Roedd llawer iawn o wynebau hapus i’w gweld pan gyrhaeddodd Siôn Gorn i weld pawb. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Rydw i’n edrych ymlaen at weld pob un ohonoch chi nôl yn yr ysgol yn 2024. Mwynhewch!
That’s what I call an exciting start to the new term in the nursery class! We have been working extremely hard during the last few weeks practicing for our Christmas concert. We were very excited for you to see our show and hear your thoughts on the performance. The performance was a great success, and the children were brilliant. Da iawn blant!! We have also been very busy in class using lots of glitter, paint, and tinsel to decorate our cards, calendars, and special Christmas decorations. It has been a magical and exciting time with the children dressing up as Santa and his elves in our packing presents area and hearing about what Buddy the elf has been getting up to at home and school. Everybody had lots of fun on our school magical trip to Llanelli and Mynydd Mawr Railway. The children had a wonderful time riding on the Christmas train and seeing the old trains and transport vehicles on display. Everybody’s faces lit up when Father Christmas came to visit and speak to the children. We would like to wish you all a Merry Christmas and a Happy New Year!! We look forward to welcoming you back to school in 2024. Enjoy!
.
Derbyn
Wel, mae hanner tymor prysur arall wedi dod i ben. Roedd ein thema y tymor hwn yn ffocysu ar ddatblygu ein sgiliau creadigol – o ganu ac actio i ddylunio a chreu.
Prif ffocws y dysgu fodd bynnag oedd Stori’r Geni. Bu’r plant yn brysur iawn yn dysgu caneuon ac ymarfer ar gyfer ‘Y Geni’. Gwnaethom ni gyd fwynhau perfformio ar y llwyfan a chanu am y Baban Iesu i’n teuluoedd a’n ffrindiau. Diolch i chi rhieni am wisgo’r plant mor hyfryd.
Dros yr wythnosau diwethaf cawsom lawer o hwyl yn gwneud ein crefftau Nadolig. Mae popeth yn edrych mor bert yn y dosbarth! Gwnaethom weithio yn hollol annibynnol i greu carden, addurn a chalendr ac mae pob un yn wych ac mor wahanol i’w gilydd. Yng nghanol yr holl paratoi buom yn lwcus iawn i fynd ar wibdaith i weld Sion Corn. Cawsom amser hyfryd yn sgwrsio ag ef gan wrando ar garolau Nadolig a chanu gyda’n gilydd cyn cael taith hyfryd yn y trên. Wrth i dymor prysur ddod i ben edrychwn ymlaen at gael ymlacio a mwynhau yn ystod y gwyliau yn barod ar gyfer hanner tymor arall o weithgareddau hwylus. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.
Well, another busy half term has come to an end. Our theme this term focused mainly on developing our creative skills – from singing and acting to design and creating.
However, the main focus of our learning was The Nativity. The children have been very busy learning songs and practicing for our “Nativity”. We all enjoyed being on stage and singing songs about Baby Jesus to our families and friends. A big thank you to you the parents for dressing the children in their beautiful costumes.
Over the last few weeks, we have had a lot of fun making our Christmas crafts. Everything looks so pretty in the classroom. We worked independently to create a card, decoration and calendar and they are all fantastic and so different from each other. Amid all the preparations we were very lucky to visit Santa. We had a lovely time listening to and singing carols as we waited to see him before having a ride on the train. As a busy term draws to a close, we look forward to relaxing and enjoying the holidays in preparation for another half term of exciting activities. We wish a Merry Christmas and a Happy New Year to you all!
Taith Nadolig / Christmas Trip
Cafodd disgyblion y Meithrin a Derbyn amser hyfryd wrth ymweld â Rheilffordd Llanelli a Mynydd Mawr yng Nghynheidre. Aethant ar daith trên a chael cyfle i ymweld â Siôn Corn.
The Nursery and Reception pupils had a lovely time when they visited Llanelli and Mynydd Mawr Railway in Cynheidre. They went on a train ride and had an opportunity to visit Santa.
Ffair Nadolig /Christmas Fayre
Cafodd yr Iau wahoddiad i berfformio yn Ffair Nadolig Plas-y-Sarn ar Dachwedd 18fed a Ffair Nadolig Ysgol y Strade ar Dachwedd 22ain. Diolch i bawb a gymerodd rhan a helpu gwerthu nwyddau ar y stondin yn Ysgol y Strade.
The Junior pupils were invited to perform at Christmas Fayres at Plas-y-Sarn on 18th November and Ysgol y Strade on 22nd November. Thank you to everyone that took part and helped to sell items at Ysgol y Strade.
Blwyddyn 1
Am hanner tymor prysur rydym wedi ei gael ym Mlwyddyn 1. Rydym wedi mwynhau'r wythnosau diwethaf yn fawr wrth i ni barhau i ddysgu a datblygu sgiliau newydd. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi bod yn brysur yn dysgu am y cloc analog a’r cloc digidol. Rydym wedi dod yn dda iawn am ddarllen ‘o'r gloch’. Rydym hefyd wedi datblygu ein dealltwriaeth o ddata ac wedi bod yn defnyddio rhaglenni ar y gliniadur i'n helpu i gynrychioli data a gasglwyd gan ddefnyddio graffiau bar. Dyma un o’n graffiau yn dangos faint o fagiau gwnaethon ni werthu yn y ffair Nadolig. Mae paratoi ar gyfer cyfnod y Nadolig wedi bod yn llawer o hwyl gan gynnwys ymarfer ein caneuon ar gyfer y ffair Nadolig, creu cardiau, calendrau a’n haddurniadau Nadolig. Un o’n hoff weithgareddau oedd cynnal ymchwiliad gwyddoniaeth i weld pa ddeunydd fyddai orau ar gyfer cot newydd Siôn Corn. Dyma lun ohonom yn arbrofi i weld pa mor dda y mae papur yn dal dŵr. Yn ein gwersi Ymarfer Corff rydym wedi parhau i ddysgu am symudiadau gymnasteg, ac yn ddiweddar cawsom y cyfle i ddatblygu ein sgiliau pêl-droed. Mwynheuon ni ymarfer cicio’r bêl yn ôl ac ymlaen a hefyd datblygu ein gallu i ddriblo’r bêl rhwng y conau. Mae hwn wedi bod yn hanner tymor prysur iawn, ond rydym wedi mwynhau yn fawr. Gobeithio y cewch chi gyd Nadolig Llawen iawn ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl yn y flwyddyn newydd.
What a busy half term we have had in Blwyddyn 1. We have really enjoyed the last few weeks as we continue to learn and develop new skills. During the last few weeks, we have been busy learning about the clock, both analogue and digital. We have gotten very good at reading o’clock times. We have also developed our understanding of data and have been using programmes on the laptop to help us represent collected data using bar graphs. Here is one of our graphs showing how many bags we sold in the Christmas fair. Preparing for the Christmas period has been a lot of fun including practising our songs for the Christmas fair, creating Christmas cards, calendars and our Christmas ornaments. One of our favourite activities was conducting a science investigation to see what material would be best for Santa’s new coat. Here we are testing how well paper holds water. In our p.e. lessons we have continued learning about gymnastics movement and jumps, and recently we were given the opportunity to develop our football skills. We enjoyed practicing kicking the ball back and forth and also developing our ability to dribble the ball in between the cones. This has been a very busy half term, but we have really enjoyed. We hope you all have a very Merry Christmas and look forward to welcoming everyone back in the new year.
Ffair Nadolig yr Ysgol / School Christmas Fayre
Trefnwyd Ffair Nadolig yn yr ysgol ar Rhagfyr 6ed. Roedd yn noson hwylus gydag amrywiaeth o stondinau, cyfle i fynd ar asyn a'r plant yn diddanu'r rhieni ac ymwelwyr wrth ganu. Diolch am eich cefnogaeth.
We organised a Christmas Fayre at the school on 6th December. It was a great night with a variety of stalls, donkey rides and pupils entertained parents and visitors by singing. Thank you for your support.
Blwyddyn 2
Wel… am hanner tymor prysur arall! Dydyn ni heb stopio ym Mlwyddyn 2 ac wedi cael llawer o hwyl a sbri. Mwynheuom ni ddysgu am bwysigrwydd ailgylchu er mwyn helpu ein hamgylchedd ac fe wnaethom ni greu posteri i annog eraill i ailgylchu. Roeddem ni wrth ein boddau yn paratoi am ein Ffair Nadolig. Ymarferom ni ganeuon a cherddi, ysgrifennom ni bosteri perswadio ac fe wnaethom ni baratoi ein gwaith celf yn barod i werthu. Yn y Ffair Nadolig, perfformiom ni yn arbennig o dda o flaen y rhieni, cyn cael y cyfle i weld Siôn Corn a chael reid ar yr asynnod. Hanner tymor diwethaf roedd ein dosbarth ni wedi ennill y gystadleuaeth ddarllen, felly cawsom ni bleidlais i ddewis gwobr a dewisom ni i fynd lawr i’r caffi yn y pentref i gael siocled poeth a chacen. Yn ogystal, rydym ni wedi bod yn ysgrifennu cyfarwyddiadau i greu siocled poeth, defnyddio Puppet Pals i greu sgyrsiau, a dysgu sut i godio gyda’r Beebots. Gorffennom ni'r tymor gyda thrip i’r sinema i wylio’r Grinch a thaith i’r capel i gynnal gwasanaeth Nadolig. Rydym yn gyffrous i weld beth fyddwn yn dysgu tymor nesaf. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!
Well… that was a very busy half term! We haven't stopped in Year 2 and have had lots of fun. We enjoyed learning about the importance of recycling to help our environment and we created posters to encourage others to recycle. We thoroughly enjoyed getting ready for our Christmas Fair. We practiced songs and poems, wrote persuasive posters, and got our artwork ready to sell. At the Christmas Fair, we performed excellently in front of the parents, before having the opportunity to see Santa Claus and have a ride on the donkeys! Last half term, our class won the reading competition, so we had a vote to choose a prize and decided to go down to the cafe in the village to have hot chocolate and cake. We’ve also been writing instructions to create hot chocolate, using Puppet Pals to create conversations, and learnt how to code with the Beebots. We finished the term with a trip to the cinema to watch the Grinch and a visit to the chapel for a Christmas service. We’re excited to see what next term brings. Merry Christmas and a Happy New Year!
Sioe / Show
Cafodd Blwyddyn 1 a 2 amser arbennig pan ddaeth Siani Sionc i wneud sioe yn yr ysgol. Dyma nhw'n mwynhau'r adloniant.
Years 1 and 2 had a lovey time when 'Siani Sionc' came to school to entertain them. Here they are enjoying the entertainment.
Cwis / Quiz
Da iawn i Eli, Keira, Molly a Rory am gymeryd rhan mewn 'Cwis Dim Clem' yn Ysgol Parc-y-Tywyn mis yma. Trefnwyd y cwis gan Menter Cwm Gwendraeth.
Well done to Eli, Keira, Molly and Rory for taking part in a quiz at Ysgol Parc-y-Tywyn this month. The quiz was organised by Menter Cwm Gwendraeth.
Blwyddyn 3
Am hanner tymor arbennig! Fel rhan o’n hastudiaethau ar gyfer yr hanner tymor yma, rydym wedi bod yn canolbwyntio ar greu ein haddurniadau ar gyfer y ffair Nadolig. Ar ôl i Mari Thomas weithio efo ni nol ym mis Medi, defnyddiom ein sgiliau newydd i greu addurn allan o fetel i werthu yn y ffair. Yn gyntaf, cymeron ni amser i ddylunio ein haddurniadau gwahanol. Wedyn, aethon ni ymlaen i ddefnyddio dur a chopr i greu ein dyluniadau. Creom ni ddynion eira, ceirw a llawer o wahanol fathau o ddyluniadau Nadoligaidd. Ar ôl y ffair, aethom ati i edrych ar gyllid ein stondin. Edrychon ni ar yr arian ddaeth i mewn, yr arian aeth allan, a chyfrifon ni elw’r stondin. Rydym wedi mwynhau fod yn entrepreneuriaid dros y tymor yma! Ein genre ni ar gyfer yr hanner tymor oedd perswadio. Ysgrifennom ni bamffled yn hysbysebu’r ffair Nadolig. Aethom ati i greu pamffled ar ‘Adobe Creative’. Yn ein hastudiaethau Saesneg, ysgrifennom ni e-bost i berswadio rhieni i adael ni i fynd i’r sinema i wylio’r ‘Grinch’. Rydym hefyd wedi bod yn astudio cerddoriaeth ac wedi bod yn brysur yn astudio gwahanol nodweddion cerddoriaeth. Gwrandawon ni ar wahanol fathau o gerddoriaeth ac archwiliom ni waed, dynameg a thôn. Hefyd, rydym wedi bod yn brysur iawn yn ymarfer a dysgu gwahanol garolau gwahanol ar gyfer perfformio yn y Ffair Nadolig ac yn y gwasanaeth Cristingl yn Eglwys Llandyri. Fel rhan o ddathliadau’r Nadolig, gwyliom ni ‘The Grinch’ yn sinema Cross Hands. Roedd y ffilm yn ddoniol a mwynhaom ni ein losin a siocled wrth wylio’r Ffilm!
What a fantastic half term it has been. As part our studies this term, we have concentrated on making our Christmas decorations to sell in the school’s Christmas Fair. After Mari Thomas’ visit back in September, we have used the skills that we learned with Mari to make metal decorations. Firstly, we designed our decorations and chose our materials. We then went ahead and made our decorations out of steel and copper. We made snowmen, reindeer and so many other fantastic designs. After the fair, we decided to calculate the profit we made on our stall in the fair. We learnt what profit was and how to calculate it. We enjoyed learning about how to sell our work and being little entrepreneurs! Our genre this half term has been persuasion. We decided to write a leaflet advertising the Christmas fair. We then went on to make a pamphlet on Adobe Creative. We then wrote a persuasive e-mail in our English lessons on the cinema trip to watch The Grinch. We have also been focusing on music this half term. We have learned about different musical elements and listened to many different music types. We enjoyed listening out for different tempos, dynamics and pitches of different music. We have also been busy learning different carols to perform in the Christmas fair and the Christingle service in Llandyri church. We also went to watch The Grinch in Cross Hands cinema. We enjoyed laughing at the film and enjoyed eating our treats while watching!
Blwyddyn 4
Saith wythnos o weithio yn annibynnol, datrys problemau, creadigrwydd, codio, perfformio, a mwynhau! Buom ni yn canolbwyntio ar y genre; perswâd. Crëwyd bamffledi i hysbysebu Parc Gwledig Pembre, perswadiom Mr Jones i brynu adnoddau i’r iard ganol, ac ysgrifennom ‘blurb’ ar gyfer y nofel anhygoel ‘The Christmas Pig’ gan J K Rowling. Rydym wedi bod yn gweithio o fewn cyllid, gweithio allan faint o elw wnaethom ni yn y Ffair Nadolig, adio a thynnu rhifau, ac edrych ar briodweddau siapiau. Yn ogystal â hynny, rydym wedi bod yn dilyn cyfarwyddiadau i greu ein jam llugaeron, ac yn ymarfer canu a chwarae’r recorder. Mwynhewch y Nadolig gyda’ch teuluoedd, edrychaf ymlaen i’ch gweld chi yn 2024!
Seven weeks of working independently, solving problems, creativity, coding, performing, and enjoying! We focused on the genre, persuasion. Pamphlets were created to advertise Pembrey Country Park, we tried to persuade Mr Jones to buy resources for the middle yard, and we wrote a blurb for the amazing novel The Christmas Pig by J K Rowling. We have been working within budgets, working out how much profit we made at the Christmas Fair, adding and subtracting numbers, and looking at the properties of shapes. In addition to that, we have been following instructions to create our cranberry jam, and practicing singing and playing the recorder. Enjoy Christmas with your families I look forward to seeing you all in 2024!
Y Geni / The Nativity
Cafodd deuluoedd plant y Meithrin/Derbyn gyfle i weld perfformiad o'r 'Geni' yn ddiweddar. Cawsant y fraint o glywed 'Stori'r Nadolig' yn cael ei chyfleu mewn ffordd syml a phwerus.
The Nursery/Reception pupils performed 'The Nativity' for their families recently. They had the privilege of seeing and hearing the 'Christmas Story' portrayed in a simple and powerful way.
Bible Explorers
Diolch i Janet Hawkins ac Alison Treharne am weithio gyda Blwyddyn 5 a 6 ar y Testament Hen a Newydd.
Thank you to Janet Hawkins and Alison Treharne for visiting Years 5 and 6 and teaching them the Old and New Testament.
Blwyddyn 5
Rydym wedi cael hanner tymor prysur arall. Yn ystod yr wythnos gyntaf yn ôl yn yr Ysgol, roeddem yn ddigon ffodus i groesawu'r artist o Gymru, Helen Elliott, i'n dosbarth i weithio gyda ni. Fe wnaethon ni i gyd greu paentiadau cynfas unigol o olygfeydd gaeafol. Dangosodd Helen i ni nad yw pob artist yn defnyddio brwsys ac nad oes rhaid i chi fod yn berffaith wrth dynnu lluniau i greu darn gwych o gelf. Gan ddefnyddio paent acrylig a chadachau gwlyb i smwddio'r paent, llwyddwyd i greu paentiadau unigryw a werthwyd gennym yn ein Ffair Nadolig. Hefyd ar gyfer y ffair Nadolig, fe wnaethon ni greu pecynnau o gardiau cyfarch o'n paentiadau gwreiddiol i'w gwerthu. Os oes unrhyw un eisiau cardiau, mae croeso i chi gysylltu â ni a gallem greu rhai ar eich cyfer! Yn ogystal â gwerthu cardiau, penderfynon ni werthu sbectol haul wedi'u teilwra i'r Nadolig. Cafodd y rhain eu haddurno gennym ni drwy ddefnyddio taflenni plastig arbennig oedd yn crebachu yn y ffwrn ac yn caledu. Yn ogystal â'r holl grefft a grëwyd gennym ar gyfer y ffair, buom yn gweithio'n galed gyda Mr Jennings i ddysgu 'Oh Christmas Tree' ar y recorders. Fe wnaethon ni berfformio'r gân yn ystod yr ffair gyda Blwyddyn 4. Fe wnaethon ni hefyd berfformio Un Bugail Bach a Hosana Roc fel côr. I orffen ein hanner tymor, buom yn gweithio'n annibynnol ar gwblhau heriau trwy greu neu adeiladu gan ddefnyddio gwahanol ddeunyddiau ac offer a gasglwyd gennym. Roedden ni'n defnyddio llifiau, morthwylion, pren, cardfwrdd, deunyddiau, plastigau a hyd yn oed bwyd! Roedd pawb wedi mwynhau cwblhau'r tasgau yn fawr.
Well, we’ve had another busy half term. During the First week back in School we were lucky enough to welcome Wales-based artist Helen Elliott into our class to work with us. We all created individual canvas paintings of winter scenes. Helen showed us that not all artists use brushes and that you don’t have to be perfect at drawing to create a wonderful piece of art. Using acrylic paint and wet wipes to smudge the paint, we all managed to create unique paintings that we sold at our Christmas Fayre. Also, for the Christmas fayre, we created packs of greeting cards from our original paintings to be sold. If anyone would like any cards, you are welcome to get in touch and we could create some for you! As well as selling cards, we decided to sell some Christmas customised sunglasses. These were decorated by us by using special plastic sheets that shrunk in the oven and hardened. In addition to all the crafts we created for the fayre, we worked hard with Mr Jennings to learn ‘Oh Christmas Tree’ on the recorders. We performed the song during the fayre with Blwyddyn 4. We also performed ‘Un Bugail Bach’ and Hosanna Rock as a choir. To finish off our half term, we worked independently on completing challenges by creating or building using different materials and tools that we brought in. We used saws, hammers, wood, cardboard, materials, plastics and even food! Everyone thoroughly enjoyed completing the tasks.
Cinio Nadolig / Christmas Dinner
Diolch i staff y gegin am ein cinio Nadolig hyfryd. Dyma Blwyddyn 5 yn eu siwmperi Nadolig wrth fwynhau eu cinio.
Thank you to the kitchen staff for our lovely Christmas dinner. Here are Year 5 wearing their Christmas jumpers whilst enjoying their lunch.
Parc Gwledig Penbre / Pembrey Country Park
Er gwaethaf y tywydd, cafodd Blynyddoedd 4, 5 a 6 amser arbennig wythnos yma ar y 'tobogan' a 'tubing' ym Mharc Gwledig Penbre. Dyma rhai lluniau.
Despite the weather, Years 4, 5 and 6 had a great time this week tobogganing and tubing at Pembrey Country Park. Here are a few photographs.
Blwyddyn 6
Mae blwyddyn 6 wedi cael hanner tymor prysur iawn. Roedd angen i’r dosbarth greu addurniadau ar gyfer y Ffair Nadolig. Oherwydd ein bod yn canolbwyntio ar decstilau, penderfynwyd creu addurniadau drwy wnïo felt at ei gilydd. Roedd wedyn angen penderfynu ar brisiau a’u gwerthu nhw yn y Ffair. Bu llawer o ddisgyblion blwyddyn 6 yn helpu stondinau arall i werthu nwyddau yn y Ffair Nadolig. Mae’r ‘Bible Explorers’ wedi bod yn yr ysgol yn wythnosol yn dysgu’r disgyblion am storiâu allan o’r Beibl. Aeth criw o blant i gystadlu yn y ‘Cwis Dim Clem’ draw yn ysgol Parc y Tywyn. Da iawn i’r criw am ddod yn 3ydd yn y gystadleuaeth. Bu llawer o ddisgyblion yn rhan o’r wasanaeth ‘Cristingl’ yn ystod yr wythnos olaf. Da iawn i bawb am wneud eu darlleniadau mor dda. Mae’r disgyblion hefyd wedi cael cyfleoedd chwaraeon dros yr hanner tymor. Aeth blynyddoedd 5 a 6 i Langennech i chwarae pêl-droed a phêl-rwyd yn erbyn ysgol Llangennech a Ffwrnes. Da iawn hefyd i Eli Coles o flwyddyn 6 ar gael ei ddewis i gynrychioli Ysgolion Llanelli yn rygbi'r flwyddyn hon. Uchafbwynt yr hanner tymor oedd taith i Penbre. Cafodd y disgyblion gyfle i wneud amrywiaeth o weithgareddau fel y rhodfa tobogan. Roedd pawb wrth eu bodd er y gwynt a’r glaw.
Year 6 has had a very busy half term. The class needed to create decorations for the Christmas Fair. Because we focused on textiles, we decided to create decorations by sewing felt together. The next step was to decide on prices and sell them at the Fair. Many year 6 pupils also helped other stalls to sell goods at the Christmas Fair. The 'Bible Explorers' have been at the school weekly teaching the pupils about stories from the Bible. A group of children went to compete in the 'Quis Dim Clem' over at Parc y Tywyn school. Well done to them for coming 3rd in the competition. Many pupils were part of the 'Christingle' service during the last week. Well done to everyone for doing their readings so well. The pupils have also had sporting opportunities over the half term. Years 5 and 6 went to Llangennech to play football and netball against Llangennech and Ffwrnes school. Well done also to Eli Coles from year 6 for being chosen to represent Llanelli Schools in rugby this year. The highlight of the half term was a trip to Pembrey. The pupils had the opportunity to do a variety of activities such as the tobogganing. Everyone was delighted despite the wind and rain.
Cristingl / Christingle
Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Cristingl yn Eglwys Llandyri ar fore dydd Iau, Rhagfyr 21ain. Cafwyd anerchiad gan Ficer Bale a darlleniadau gan y plant.
Year 2-6 pupils made their Christingles in school in readiness for the service led by Vicar Bale at Llandyry Church on Thursday, 21st December.