Gwerth y Mis / Value of the Month
Ebrill / April - Dyfalbarhad / Perseverance
Mai / May - Hapusrwydd / Happiness
Hawl y Mis / Right of the Month
Erthygl 24 - Eich hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl / Article 24 - Your right to good food and water and to see the doctor if you're ill.
Erthygl 31 - Eich hawl i ymlacio a chwarae / Article 31 - Your right to relax and play.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
14.04.2025 - 25.04.2025 - Gwyliau / Holidays
28.04.25 - HMS / Inset day
29.04.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
30.04.25 - Sgiliau Tennis BL 3/4 Clwb tenis Llanelli / Llanelli tennis club
05.05.2025 - Gŵyl Fai - ysgol ar gau / May Day - school closed
06.05.25 - 16.05.25 Hyfforddiant beicio Bl6 / Year 6 cycle training
06.05.25 Cystadlaethau Criced Bl5/6 - Clwb criced Llanelli / Cricket competition Llanelli cricket club
09.05.25 Cystadlaethau Criced Bl5/6 - Clwb criced Llanelli / Cricket competition Llanelli cricket club
13.05.2025 - Bl3/4 a B5/6 - Gŵyl Rygbi yn Stebonheath / Rugby Festival in Stebonheath
14.05.2025 - Mabolgampau'r Ysgol (mwy o fanylion i ddilyn) / School Sports (more details to follow)
24.05.2025-01.06.2025 - Gwyliau Hanner Tymor / Half Term Holidays
02.06.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
HMS/INSET Dydd Llun Gorffennaf 21ain 2025
Cystadleuaeth PASG y CRA / PTA Easter egg competition
Edrychwch am yr wyau sydd o gwmpas y pentref o dros y Pasg. Defnyddiwch y ffurflen sydd wedi'i hanfon adref i gyfateb y rhifau i'r llythrennau. Rhoddir gwobrau i'r rhai sy'n dod o hyd i'r wyau i gyd.
Look for the eggs that are around the vicinity of the school and local community over Easter. Use the form sent home to match the numbers to the letters. Prizes are awarded to those who find all the eggs.
Pob lwc a Pasg hapus / Good luck and happy Easter
Mabolgampau Ysgol Gymraeg Ffwrnes 2025 / Ysgol Gymraeg ffwrnes sports day 2025
Cae rygbi Clwb rygbi Ffwrnes (Y cae agosaf i'r ysgol) / Furnace RFC field (Nearest to the school)
14.05.25
Meithrin a Derbyn / Nursery and Reception - 9:30 i 10:15
Bl1 a Bl2 / Years 1 and 2 - 10:30 i 11:30
Bl3 a Bl4 / Years 3 and 4 - 11:45 i 12:45
Bl5 a Bl6 / Years 5 and 6 - 1:30 i 2:30
Llwyddiant diweddar / Recent success
Gwahoddwyd y Sgwad Ansawdd Aer i roi cyflwyniad yng Nghynhadledd Fioamrywiaeth Llanelli yng Nghanolfan Selwyn Samuel. Fe wnaethom gyflwyno i dros ddau ddeg pump o gynadleddwyr ar y gwaith a gwblhawyd gyda Phentre’ Awel a Phrosiect Ein Hinsawdd Dosbarth'. Mae’r prosiect ‘Ein Hinsawdd Dosbarth’ yn llwyfan addysgu sy'n ysbrydoli disgyblion, ac ysgolion, ar bwysigrwydd cynaliadwyedd yn eu cymunedau lleol. Mae ar lwyfan rhyngwladol drwy hyrwyddo Gweithredu Aer Glân, trwy ddefnyddio’r platfform ar-lein, bio-adweithydd algaidd naturiol, a’r Monitor Ansawdd Aer ‘Nooku’.
Braint oedd hefyd cael y cyfle i gyflwyno yng ngrŵp maniffesto Hinsawdd Sir Gaerfyrddin Yn y Senedd. Cawsom ein gwahodd i fynd ar daith o amgylch y Senedd a’r siambr cyn i ni gyflwyno . Defnyddiwyd y cyfarfod er mwyn rhannu diweddaru ein gwaith ar Sparc Ynni. Mae hyn wedi ein helpu ni dorri ôl troed carbon ein hysgol, ac yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i ni leihau gwastraff ynni yn ein hysgol. Cawsom hyd yn oed ein cyfweld gan Siôn Tomos Williams, cyflwynydd rhaglen ‘Newyddion Ni’ S4C! Roeddem ar y teledu yn trafod ein gwaith ar newid hinsawdd, ar sut y gallwn wneud y pethau bach i wneud gwahaniaeth mawr.
The Air Quality Squad were invited to present at Llanelli's Bio-diversity Conference at the Selwyn Samuel Centre. We presented to over twenty-five delegates on the work completed with Pentre Awel and 'Our Classroom Climate' Project’. The 'Our Classroom Climate' project is a teaching platform which inspires pupils, and schools, on the importance of sustainability in their local communities by promoting Clean Air Action, through the use of the online platform, the natural algal bioreactor, and the ‘Nooku’ Air Quality Monitor.
It was an honour to have the opportunity to present in the Carmarthenshire Climate manifesto group In the Senedd. We were invited to go on a tour of the Senedd and the chamber before we presented. The meeting was used to share and update our work on Energy Sparks. This has helped us cut our school carbon footprint and gives pupils the knowledge, and skills to cut energy waste at school. We were even interviewed by Siôn Tomos Williams, presenter of S4C's 'Newyddion Ni' programme! We were on TV discussing our work on climate change, on how we can do the little things to make a big difference.
Presenoldeb a phrydlondeb / Attendance and punctuality
Y targed cenedlaethol ar gyfer presenoldeb ydy 95% neu’n well. Os ydy presenoldeb eich plentyn o dan hyn rydych wedi derbyn llythyr i wella presenoldeb. Bydd y llythyron nesaf allan cyn hanner tymor! Rydym wedi derbyn sawl galwad ffôn i gwyno bod llythyr wedi’i danfon gan nodi rhesymau megis:
- Roeddwn ar wyliau am 5 diwrnod a chawsom ganiatâd.
- Bu fy mhlentyn yn sâl.
- Roedd gan fy mhlentyn apwyntiadau meddygol.
Ni ellir rhoi marc presenoldeb ar gyfer plentyn sydd ddim yn yr ysgol. Mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r ysgol am unrhyw absenoldeb er mwyn i ni wneud penderfyniad i awdurdodi’r absenoldeb neu beidio. Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad.
The national target for attendance is 95% or better. If your child's attendance is below this figure you will have received a letter to improve attendance. The next letters will be out before the Whitsun half term! We have received several phone calls since the letters went out complaining that a letter has been received because:
- I was on holidays for 5 days and got permission.
- My child was ill.
- My child had medical appointments
An attendance mark cannot be issued for a child who is not physically in school. It is important that you inform the school of any absence so that we can make a decision to authorise the absence or not. Thank you in advance for your cooperation.
Clwb hwyl / After school club
Mae clwb hwyl yr ysgol dal i redeg yn esmwyth ac o ddydd Llun i ddydd Iau. Cysylltwch a'r swyddfa am fwy o wybodaeth / The after school club is still running smoothly and from Monday to Thursday. Contact the office for more information.
Gweler y llythyr atodedig ynglŷn â newidiadau pwysig ar gyfer Clwb Hwyl.
See the attached letter regarding important changes for Clwb Hwyl.
Os ydych yn credu eich bod yn gymwys i hawlio Prydau Ysgol am Ddim i'ch plentyn/plant, yna gwnewch gais nawr drwy glicio ar yr isod.
If you think that you are eligible to claim for Free School Meals for your child/children then apply now by clicking on the above link.
Meithrin Cymru ac Iwerddon
Am hanner tymor prysur yn y Meithrin!! Dechreuom ein hanner tymor drwy ddathlu Dydd Gŵyl Dewi a pherfformio rhigymau newydd a thraddodiadol i ein teuluoedd a ffrindiau. Cawsom ein hysbrydoli gan y gan ‘Beth sydd yn y cawl' fynd ati i goginio cawl ein hun. Aethom am dro i ein harchfarchnad leol i brynu’r cynhwysion a buom yn brysur iawn yn golchi a pharatoi’r llysiau. Fe wnaeth hwn ein harwain i ddysgu geirfa fathemategol newydd sef drwm, ysgafn hir a byr a buom yn defnyddio cloriannau cyd bwyso i archwilio pa lysieuyn oedd y trymaf. Ar ôl yr holl waith baratoi fe wnaethom fwynhau bwyta ein cawl blasus iawn. Roedd yna gyffro mawr yn y Meithrin wrth i ni chroesawi aelod newydd i ein dosbarthiadau, Ana y bochdew. Rydym wedi mwynhau arsylwi a chwarae gydag Ana dros yr wythnosau diwethaf. Yn ddiweddar, rydym wedi mwynhau archwilio amrywiaeth o weithgareddau yn seiliedig ar Basg. Rydym wedi bod yn addurno wyau gan ddefnyddio patrymau ailadroddus a chyfri cywion bach. Yn ein sesiynau allanol rydym wedi bod yn arsylwi ar arwyddion y Gwanwyn, gwelwyd nifer o ddail a blodau yn tyfu ar y coed o amgylch yr ysgol. Gobeithio y cewch chi wyliau Pasg gwych ac edrychwn ymlaen at groesawu'r plant yn ôl i'r ysgol ynghyd â ffrindiau newydd y tymor nesaf.
Another busy half term we’ve had in the Nursery! We started our half term by celebrating St David's Day and did a fantastic job performing new and traditional rhymes for our families and friends. We were inspired by the song ‘Beth sydd yn y cawl?’ to cook our very own cawl in class. We went for a walk to our local supermarket to buy the ingredients and then got to work, washing and preparing the vegetables. This led us to learn new mathematical vocabulary such as heavy, light, long and short and we used balance scales to discover which vegetable was the heaviest. After all the preparation we enjoyed eating our very tasty cawl. There’s been great excitement across the Nursery as we welcomed a new member to our nursery family, Ana the hamster. We have enjoyed observing and playing with Ana over the last few weeks. Recently, we have been exploring several Easter themed activities such as decorating eggs with repeating patterns and counting little chicks. During our outdoor sessions we have been observing the signs of Spring and have noticed many leaves and flowers growing on the trees around the school. We hope you have a great Easter break and look forward to welcoming the children back to school along with some new friends next term.
Derbyn Sbaen a'r Eidal
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi mwynhau dysgu llawer am adeg y Pasg gan gynnwys stori’r Pasg o’r Beibl. Wrth gwrs gallwn byth trafod y Pasg heb sôn am wyau siocled hefyd! Cawsom lawer o hwyl yn Dilyn helfa Pasg yn y goedwig a ddaethom o hyd i wyau lliwgar siocled. Rydym wedi dysgu stori’r Iâr Fach Goch drwy ddull Pie Corbett. Yn unol â’r stori, dysgom sut i greu a phobi bara ein hunain. Rydym ar hyn o bryd yn gweithio ar ddarllen llyfrau clymu a hefyd llyfrau o gyfres Wini a Waldo. Mae’r dysgwyr yn datblygu eu sgiliau a chryfderau yn wythnosol a braf yw clywed nhw’n darllen mor hyderus. Rydym wedi dysgu ystyr eilrif ac odrif ac wedi bod wrthi yn dosbarthu Numicon a rhifau yn ôl hyn. Rydym hefyd wedi gweithio ar rifau coll ac wedi medru cwblhau tabl o rifau coll hyd at 100! Edrychwn ymlaen at groesawi’r dysgwyr nol i’n plith lle byddwn yn dysgu am gylchoedd bywyd y lindysyn a chreaduriaid eraill.
Pasg Hapus i chi gyd!
Over the last few weeks, we have been learning lots about Easter, including the story of Easter and the Passover. Of course we couldn’t discuss Easter without mentioning Easter eggs too! We have had so much fun following an Easter hunt to find colourful chocolate eggs in our forest. We have also been learning the Little Red Hen story using Pie Corbett method. In line with this story, we have learnt how to make and bake bread from scratch and have enjoyed learning the names of different ingredients. Our reading journey has brought us to blending books and a newly introduced set; Wini a Waldo. The learners are developing their skills and strengths weekly and it’s a joy to hear them reading so confidently. We have been learning all about odd and even numbers and have been busy distributing Numicon pieces and numerals by this criterion. We have also been working on missing numbers and have been able to complete a missing numbers table up to 100! We look forward to welcoming the learners back to school where we will be learning about the lifecycles of creatures such as the caterpillar.
Happy Easter to you all!
Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc
Am hanner dymor prysur unwaith eto! Dechreuwyd y tymor yn dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant. Braf oedd cael gweld ein dysgwyr yn ei gwisgoedd Cymreig yn perfformio yn ein bore coffi blynyddol. Peintiwyd cennin Pedr a chreu collage o nodweddion diwylliant Cymru ar lawr y dosbarth i ddathlu’r ŵyl. Ar ôl darllen ‘Cenhinen fwya’r byd’, cynhaliwyd cystadleuaeth cenhinen fwyaf fel Cyw a’i ffrindiau gan ddefnyddio unedau safonol ac ansafonol i fesur. Ar ôl darllen ‘Gwneud y pethau bychain’, meddylion ni am yr holl bethau bychain fedrwn ni gwneud yn ddyddiol i helpu eraill yn ôl neges Dewi Sant. Fe wnaethon ni fwynhau mynychu’r ffair ffeirio llyfrau a rhannu’r straeon gyda’n gilydd yn y dosbarth i ddathlu Diwrnod y llyfr. Rydyn ni wedi bod yn dysgu am chwedl Gelert y ci ffyddlon ac wedi gweithio’n galed dros ben yn ysgrifennu disgrifiadau manwl o’r anifail dewr. Roedd pawb yn gyffrous i gwrdd â Ruby, ci ein hysgol. Fe wnaeth bawb paratoi cwestiynau i ofyn i Miss Barnett a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth i ysgrifennu pamffled sut i ofalu am gi. Dyluniwyd tarianau ein hun fel Llywelyn Fawr gan ddysgu am ystyr yr anifeiliaid a lliwiau gwahanol. Rydym yn falch iawn o ymdrechion ein dysgwyr wrth baratoi a pherfformio yn ein gwasanaethau dosbarth ac yn gobeithio bod pawb wedi mwynhau dysgu am chwedl Gelert y ci ffyddlon. Diolch yn fawr am eich cefnogaeth barhaus yn ystod y tymor. Pasg Hapus i chi gyd.
What a busy half term! We began by celebrating Saint David’s Day. It was wonderful to see our learners dressed in their Welsh costumes performing in our annual coffee morning. In class we celebrated by painting daffodils and making collages representing Welsh culture. After reading ‘Cenhinen fwya’r byd’, we held our own biggest leek competition like Cyw and his friends and measured the leeks using non-standard and standard units of measurement. After reading the story ‘Gwneud y pethau bychain’, we thought of the small things that we can do each day to help others like Dewi Sant taught us. We enjoyed visiting the book swap to celebrate World Book Day and sharing the stories together in class. We have been learning about the legend of Gelert the faithful dog and have worked really hard writing detailed descriptions of the brave pet. Everyone was really excited to meet Ruby the school dog. We prepared questions before she visited class to ask Miss Barnett and will use the information to write a pamphlet on how to care for dogs. We have designed our own shields like Llywelyn Fawr and learnt about what the different animals and colours represent. We are extremely proud of the effort our learners have displayed in preparing and performing in our class assemblies and we hope everyone enjoyed learning about the legend of Gelert. Thank you for your continued support throughout the term. Have a wonderful Easter.
Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden
Am wythnosau prysur iawn i ni yn nosbarthiadau Blwyddyn 2!
Dechreuwyd y tymor drwy ddathlu sawl achlysur, megis Dydd Gŵyl Dewi, Diwrnod y Llyfr, Diwrnod Trwyn Coch, a’r Eisteddfod Gylch. Cawsom lawer o hwyl yn perfformio yn ystod ein bore coffi, ac fe wnaethom weithio’n galed i ddiddanu ein rhieni ac aelodau’r teulu yn ystod ein Gwasanaethau Dosbarth. Yn ogystal â hyn, fe ddaeth Elinor o’r Frigâd Dân i ymweld â ni. Cawsom stori am Sbarc y ddraig, a dysgu am ddiogelwch tan yn y cartref. Yn ystod ein sesiynau Carwsel Darllen, mae ein dysgwyr wedi serenni wrth ddatblygu eu sgiliau iaith a llythrennedd drwy adeiladu brawddegau sy’n cynnwys berfau, ansoddeiriau, ac arddodiaid. Braint yw clywed nifer o’n disgyblion yn ceisio ymroi geirfa newydd ei ddysgu ar waith wrth iddynt ymgymryd mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu. Rydym wedi gweithio’n galed yn ystod ein gwersi Mathemateg a Rhifedd, lle buom yn dysgu am Safle Grid. I atgyfnerthu’r hyn dysgwyd, fel un o’n heriau'r, fe wnaethom greu grid ein hunain yn y dosbarth. Roedd angen i ni ddewis carden a darllen y cyfesurynnau, a’i osod ar y safle cywir ar y grid. Rydym hefyd wedi bod yn datblygu ein sgiliau mesur, gan atgyfnerthu ein dysgu trwy weithgareddau ymarferol.
Buom yn casglu syniadau ar y cyd am yr hyn sydd angen ar blanhigion i dyfu. Penderfynom archwilio’r diddordeb yma, ac aethom ati i gynllunio arbrawf, wrth edrych ar dyfiant planhigyn mewn amodau amrywiol, e.e. dŵr a golau, dŵr ond dim golau, golau a dim dŵr, dim golau na dŵr. Fe wnaethom ysgrifennu cyfarwyddiadau ar sut i gynnal arbrawf er mwyn ddarganfod beth sydd angen ar ferwr i dyfu. Cawsom lawer o hwyl wrth i ni fynychu sesiwn Aml-Sgiliau yn y Ganolfan Hamdden. Dysgom lawer o sgiliau echddygol bras, megis taflu, rhedeg, neidio, hercian a chydbwyso. Gorffennwyd y tymor wrth gymryd rhan mewn gweithdai Sbectrwm, sy’n gysylltiedig â maes dysgu Iechyd a Lles y cwricwlwm, ac sydd wedi’u cynllunio i hyrwyddo pwysigrwydd perthnasoedd iach. Gobeithiwn eich bod yn mwynhau'r gwyliau Pasg. Byddwch yn ddiogel, a welwn ni chi pan fydd y disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol.
What a busy few weeks for us in the Year 2 classes!
The term began by celebrating several occasions, such as St. David's Day, World Book Day, Red Nose Day, and the Cylch Eisteddfod. We had a lot of fun performing during our coffee morning, and we worked hard to entertain our parents and family members during our Class Assembly. In addition, Elinor from the Fire Brigade came to visit us. We had a story about Sparc the dragon and learnt about fire safety in the home. During our Reading Carousel sessions, our learners have strengthened the development of their language and literacy skills by building sentences that include verbs, adjectives and prepositions. It is a privilege to hear many of our pupils try to put newly learned vocabulary into practice as they engage in activities and learning experiences. We have worked hard during our Maths and Numeracy lessons, where we learned about Grid Position. To reinforce what was learned, as one of our challenges, we created our own grid in class. We needed to select a card and read the coordinates and place it in the correct position on the grid. We have also been developing our measuring skills, reinforcing our learning through practical activities.
We came together as a year group to collect ideas about what plants need to grow. We decided to explore this interest, and set about planning an experiment, looking at the growth of a plant in various conditions, e.g. water and light, water but no light, light and no water, no light or water. We wrote instructions on how to carry out an experiment to find out what cress needs to grow. We had a lot of fun as we attended a Multi-Skills session in the Leisure Centre. We learned many gross motor skills, such as throwing, running, jumping, hopping and balancing. We ended the term taking part in Spectrum Workshops, which are linked to the Health and Well-being Area of Learning of the curriculum and designed to promote the importance of healthy relationships.
We hope you enjoy the Easter holidays. Be safe and we'll see you when the pupils return to school.
Blwyddyn 3 Alban a Hwngari
Rydym wedi bod yn gwneud llawer o bethau cyffrous yn y dosbarth y tymor yma ym mlwyddyn 3. Mae’r plant wedi mwynhau holi ac ymchwilio am hanes lleol ac roedd yn hyfryd gweld eu chwilfrydedd yn tyfu am gestyll lleol ers ymweld â chastell Cydweli. Fe wnaethom fwynhau adeiladu castell mwnt a beili gyda'i gilydd mewn grwpiau gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu. Helpodd ni i ddeall sut adeiladwyd cestyll yn y gorffennol. Yn ystod gwersi mathemateg, rydym wedi bod yn brysur yn dysgu sut i ddweud yr amser, dysgu am ffracsiynau, ac ymarfer lluosi 2,3,5 a 10 i weithio allan ffracsiwn o rif. Mwynheuodd pawb ymchwilio a lleoli cestyll lleol ar fap o Gymru a mesur y pellter rhwng gwahanol gestyll Cymru! Yn ystod gwersi iaith rydym wedi darllen stori ‘Y Twnnel’, ac wedi defnyddio ysbrydoliaeth o’r stori i ysgrifennu stori greadigol ein hun gan sicrhau ein bod yn cynnwys ansoddeiriau, berfau a chymariaethau. Buom yn ffodus hefyd i gael sesiwn rygbi gyda’r sgarlets ac roedd y plant wrth eu bodd yn dysgu sgiliau rygbi newydd. Daeth PC Ali i ymweld â’r dosbarth i siarad â’r plant am ddiogelwch ar-lein. Fe wnaethom rannu awgrymiadau gwerthfawr ar sut i gadw'n ddiogel wrth ddefnyddio'r rhyngrwyd a chyfryngau cymdeithasol â sut i ddiogelu gwybodaeth bersonol. Mae wedi bod yn dymor prysur a hwylus.
Here are some of the exciting things we’ve been up to in clas this term in year 3. The children have enjoyed enquiring and researching out about their local history and it has been great to see their curiosity grow about local castles since visiting Kidwelly castle. They enjoyed building a moat and bailey Castle together in groups using recycled materials. It helped us understand how castles were built in the past. In maths, we’ve been busy learning how to tell the time, learning about fractions, and practice our 2,3,5 and 10 multiplication to work out a fraction of a number. We enjoyed using Google maps to research and locate local castles on a map of Wales and measured the distance between different Welsh castles! In literacy we read the story ‘The Tunnel’, and have used inspiration from the story to write their own creative story making sure we include adjectives, verbs and similies. We were also lucky to have a rugby session with the scarlets and the children loved learning new rugby skills. PC Ali came to visit the class to talk to the children about online safety. They shared valuable tips on how to stay safe while using the internet and social media, as well as how to protect personal information. It’s been a fun and busy term.
Blwyddyn 4 Almaen a Swistir
Mae Blwyddyn 4 wedi cael hanner tymor gwych, yn llawn profiadau newydd ac anturiaethau dysgu cyffrous. Dechreuom ni trwy ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ac roeddem wrth ein boddau yn cymryd rhan yn yr Eisteddfod ysgol – ffordd wych o ddechrau’r tymor! Mae Blwyddyn 4 Almaen hefyd wedi bod wrth ein bodd yn croesawu Cati, bochdew newydd y dosbarth, sydd eisoes wedi ymgartrefu'n dda. Mi fydd gan Flwyddyn 4 Swistir digon o gyfleoedd i ymweld â Cati ac i’w bwydo a glanhau’r gawell. Am y tair wythnos gyntaf, bu’r plant yn nofio bob dydd ac fe wnaethon nhw gynnydd ardderchog – rydym yn falch iawn ohonyn nhw. Parhaodd ein taith ddysgu wrth i ni archwilio bywyd ac anturiaethau Twm Sion Cati, gan blymio i hanes a straeon Cymreig. O fewn daearyddiaeth, dysgom ni sut i ddefnyddio cyfesurynnau wrth astudio mapiau. Mewn celf, cawsom ein hysbrydoli gan y cerflunydd Mathew Edenbrow a chreu pen ceffyl allan o glai yn ei steil unigryw. Un o uchafbwyntiau'r tymor oedd ein hymweliad â’r Bathdy Brenhinol, lle dysgon ni sut mae darnau arian yn cael eu dylunio a’u gwneud, a hyd yn oed sut i adnabod rhai ffug!
Year 4 have had a fantastic half term, full of new experiences and exciting learning opportunities. We began by celebrating Saint David’s Day and had a brilliant time taking part in the school Eisteddfod – a wonderful way to start the term! Year 4 Almaen were also thrilled to welcome Cati, our new class hamster, who has already made herself at home. Year 4 Swistir will also have plenty of opportunity to visit Cati and feed and clean her cage. For the first three weeks, the children took part in daily swimming sessions and made excellent progress – we’re so proud of their efforts. Our learning journey continued as we explored the life and adventures of Twm Sion Cati, delving into Welsh history and storytelling. We also developed our geography skills by studying maps and learning how to use co-ordinates. In art, we were inspired by the sculptor Mathew Edenbrow and created our own horse’s head sculptures using clay, reflecting his unique style. A highlight of the half term was our visit to the Royal Mint, where we discovered how coins are designed and made, and even learnt how to spot a fake!
Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir
Mae’r tymor yma wedi bod llawn dysgu cyfoethog a chyfleoedd creadigol i’r disgyblion. Yn y maes llenyddiaeth, buom yn astudio chwedl Branwen ferch Llŷr – un o’r straeon mwyaf adnabyddus o’r Mabinogi. Trafodwyd y themâu allweddol, gan gynnwys teyrngarwch, brwydr a cholled, ac fe ddefnyddiodd y plant eu dychymyg i ysgrifennu llythyr personol gan Branwen at ei brawd, Bendigeidfran, lle mynegwyd ei theimladau dwys ynghylch y digwyddiadau a’i sefyllfa. Roedd hyn yn gyfle gwych i ddatblygu sgiliau empathi a defnyddio iaith fynegiannol. Yn ystod gwersi mathemateg, canolbwyntiwyd ar ddatrys problemau amser, gan ddefnyddio’r cloc digidol a'r cloc 12 awr. Roedd y disgyblion yn cymharu'r ddau fath o gloc, gan ddefnyddio sgiliau rhesymu a meddwl yn fanwl i ddod o hyd i atebion cywir mewn cyd-destunau bywyd go iawn.
Fel rhan o'n gwaith ar Branwen, buom yn edrych ar adar Cymru, gan ganolbwyntio ar y drudwy – aderyn lliwgar a chlyfar sydd i’w weld ledled y wlad. Dysgodd y plant am ei ymddygiad, ei gynefin a’i nodweddion unigryw, ac yna ysgrifennodd destunau gwybodaeth fanwl. Cafwyd hefyd gyfle i ymchwilio i adar eraill megis y robin goch, y titw tomos las a’r barcud coch, gan gymharu’r gwahaniaethau rhyngddynt a datblygu sgiliau llythrennedd wyddonol. Mae ein gwersi nofio wedi bod yn llwyddiannus iawn gyda staff y pwll nofio yn canmol y disgyblion ar eu sgiliau a'u dyfalbarhad yn y pwll. Mae pob un wedi gwneud cynnydd. Da iawn i nhw i gyd.
Roeddwn hefyd yn ffodus iawn i dderbyn amrywiaeth o wybodaeth a gwersi diddorol am yr Hen Destament o'r Beibl.
We were also very fortunate to receive a variety of information and interesting lessons about the Old Testament from the Bible.
Diolch Bible Explorers!
This term has been filled with rich learning experiences and creative opportunities for our pupils. In our literacy lessons, we explored the Welsh legend of Branwen, daughter of Llŷr – one of the most well-known tales from the Mabinogion. The children engaged in thoughtful discussions about key themes such as loyalty, conflict, and loss, before using their imagination to write a personal letter from Branwen to her brother, Bendigeidfran. Through this, they were able to express deep emotions and practise writing in a reflective and expressive style.
In maths, we focused on solving time-related problems using both digital and 12-hour analogue clocks. Pupils compared the two formats and worked on applying their knowledge to real-life scenarios, building their reasoning and problem-solving skills in the process.
As part of our work on Branwen, we turned our attention to the birds of Wales, with a particular focus on the starling – a colourful and intelligent bird commonly found across the country. The children learned about its behaviour, habitat, and unique features, before writing detailed informative texts. They also had the opportunity to research other birds such as the robin, the blue tit, and the red kite, comparing their characteristics and habitats while developing their scientific literacy.
Our swimming lessons have been very successful with the swimming pool staff praising the pupils for their skills and perseverance in the pool. All have made progress. Well done to them all.
Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg
Mae wedi bod yn chwech wythnos gweithgar a phrysur i ni ym mlwyddyn 6! Yn ystod yr hanner tymor yma, rydym wedi parhau i ddysgu am ein thema yn ymwneud â’r Chwedl ‘Cantre’r Gwaelod’ sef chwedl am bentref ym Mae Ceredigion cafodd ei foddi oherwydd esgeulustod y gwyliwr ar y tŵr. Yn deillio o’r chwedl edrychom ar effaith llifogydd ar ein planed heddiw a’r hyn sy’n achosi llifogydd gan gynnwys cynhesu byd-eang a newid hinsoddol.
Yn ein gwaith mathemateg a rhifedd rydym wedi parhau i atgyfnerthu ein dealltwriaeth o drin data. Roedd hyn yn cynnwys darllen, dehongli a dadansoddi amrywiaeth o dablau, siartiau a graffiau cymhleth. Yn dilyn ymlaen o hyn, rydym wedi bod yn datblygu ein gallu i lunio siartiau bar a graffiau llinell gan adnabod pa raffiau sy'n briodol ar gyfer gwahanol setiau data a sut i benderfynu ar raddfeydd priodol. Rydym wedi edrych yn fanwl ar ddata sy’n seiliedig ar sut mae gwyddonwyr yn rhagweld lefelau’r môr yn codi dros y degawdau nesaf, yn ogystal â thymheredd cyfartalog byd-eang dros y degawdau diwethaf. Roedd yn ddiddorol edrych ar sut mae’r tymheredd wedi codi gan weld difrifoldeb cynhesu byd-eang a newid hinsoddol! Un o’r pethau eraill rydym wedi mwynhau yw ein sesiynau ‘Ysgol Goed’ gyda Miss Evans gan gydweithio gyda Mathew Collinson o’r adran ‘Local Places for Nature’ o Gyngor Sir Gaerfyerddin. Rydym ar hyn o bryd yn adeiladu planwyr newydd trwy ailgylchu hen bren o ardal llyn yr ysgol, ac yn plannu llwyth o hadau amrywiol yn ein twnel tyfu.
Drwy gydol yr hanner tymor yma rydym wedi mwynhau gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan gynnwys ein sesiynau ‘Bible Explorer’ wythnosol gyda Janet Hawking. Yn y sesiynau hyn rydym wedi bod yn dysgu storïau o’r Testament Newydd mewn ffordd hwyliog ac ymarferol. Gyda chyfnod y Pasg yn agosau, buom yn ffodus i ymweld ag Eglwys y Plwyf yn Llanelli. Rydym hefyd yn ffodus i fod ynghlwm â phrosiect ‘Pentre Awel’ sef datblygiad newydd sbon sy’n cael ei adeiladu ar hyd arfordir Llanelli. Mae hwn yn brosiect gwerth miliynau o bunnoedd gyda’r nod o gefnogi ac annog pobl i fyw bywydau egnïol ac iach. Dyma'r datblygiad cyntaf o'r maint yma yng Nghymru. Fel rhan o’r prosiect rydym yn tyfu algâu er mwyn casglu, darganfod a mesur faint o garbon sydd yn ein dosbarth. Hefyd, rydym wedi bod yn mynd o amgylch tir allanol yr ysgol i fesur faint o garbon mae’r coed yn dal (gan ddefnyddio fformiwlâu arbennig i gyfrifo hyn). Yn ogystal, buom yn monitro hinsawdd aer ar safleoedd gwahanol o amgylch yr ysgol a chofnodi’r data ar daenlen Excel. Wrth i ni agosáu at wyliau’r Pasg, dymunwn Pasg hapus i chi gyd ac edrychwn ymlaen at ein tymor olaf pan fyddwn yn dechrau paratoi ar gyfer ein sioe fawr yn Nhymor yr Haf.
It has been an active and busy six weeks for us in year 6! During this half term, we have continued to learn about our theme relating to the Legend of 'Cantre'r Gwaelod', which is a legend about a village in Ceredigion Bay that was flooded due to the negligence of the watcher on the tower. Deriving from the legend we looked at the effects of flooding on our planet today and what causes flooding including global warming and climate change. In our mathematics and numeracy work we have continued to reinforce our understanding of handling data. This involved reading, interpreting and analyzing a variety of complex tables, charts and graphs. Following on from this, we have been developing our ability to draw bar charts and line graphs recognizing which graphs are appropriate for different data sets and how to decide on appropriate scales. We have looked in detail at data based on how scientists predict sea levels will rise over the next few decades, as well as global average temperatures over the last few decades. It was interesting to look at how the temperature has risen seeing the severity of global warming and climate change!
One of the other things we have enjoyed are the 'Forest School' sessions with Miss Evans where we have worked alongside Mathew Collinson from the 'Local Places for Nature' department in Carmarthenshire County Council. We are currently building new planters by recycling old wood from the school lake area, and planting seeds in our polytunnel. Throughout this half term we have enjoyed various workshops and activities including our weekly 'Bible Explorer' sessions with Janet Hawking. In these sessions we have been learning stories from the New Testament in a fun and practical way. With Easter approaching, we were fortunate to visit the Parish Church in Llanelli. We are also fortunate to be involved in the 'Pentre Awel' project which is a brand new development being built along the Llanelli coast. This is a multi-million pound project aimed at supporting and encouraging people to live active and healthy lives. This is the first development of this size in Wales. As part of the project we are growing algae in order to collect, discover and measure the air quality and amount of carbon in our classroom. Also, we have been going around the school's outdoor grounds to measure how much carbon the trees are collecting (using special formulas to calculate this). In addition, we monitored the air climate at different sites around the school and recorded the data on an Excel spreadsheet.
As we approach the Easter holidays, we wish you all a happy Easter and look forward to our final term when we start preparing for our big school show in the Summer term.