Mae Ysgol Twm o’r Nant yn creu amgylchfyd hapus a diogel i holl blant yr ysgol. Ein nod yw datblygu hunan hyder a hunan ddisgyblaeth mewn awyrgylch ofalgar a chynhaliol.
Hyfforddir y plant gan staff gymwys a brwdfrydig, a fydd yn mynnu'r safonau uchaf, fel bod pob plentyn yn datblygu i’w l/llawn botensial ymhob agwedd.
Amcanion yr ysgol
• Ymdrechwn i helpu’r plant i ddatblygu meddyliau bywiog ac ymholgar, gan roi cyfleoedd iddynt drafod a chwestiynu, a chyflwyno iddynt gwricwlwm eang a diddorol.
• Ceisiwn ddatblygu parch at safonau moesol a chrefyddol a cheisiwn ddatblygu goddefgarwch tuag at bobloedd a chrefyddau a dulliau eraill o fyw.
• Ceisiwn ddatblygu y sgiliau o gyd-fyw o fewn cymdeithas dosbarth, yr ysgol a chymdeithas yn gyffredinol gan bwysleisio y cyd-dderbyniaeth sydd rhwng unigolion, grwpiau a chenhedloedd.
• Ceisiwn ddatblygu’r plant yn y ddwy iaith, sef Cymraeg a Saesneg, fel y gallant fwynhau a pharchu’r ddwy iaith a’u defnyddio yn effeithiol a chyda dychymyg.
• Ceisiwn gyflwyno sylfeini cadarn ym mhob agwedd o’r Cwricwlwm ac i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddefnyddio’r wybodaeth yma yn y byd sydd ohoni heddiw er mwyn i’r plant ddeall sut y cynhelir ein safonau byw.
• Ceisiwn ddatblygu gwybodaeth, parch a chariad tuag at y celfyddydau a rhoi siawns i blant fynegi eu teimladau’n greadigol.
• Ceisiwn ddysgu’r plant am orchestion a dyheadau dynol ym myd celfyddyd, gwyddoniaeth a chrefydd.
• Ceisiwn roi siawns i bob plentyn, beth bynnag fo’i allu, i chwarae rhan lawn ym mywyd yr ysgol. Hefyd, ceisiwn sicrhau fod pob plentyn yn cael y siawns i ymestyn ei hun yn ei sgiliau arbennig bo hynny’n academig, yn gorfforol neu’n gymdeithasol.
Gweledigaeth ein cwricwlwm
Mae'r ysgol wedi ei rhannu yn bedair Uned sef ...
Uned dan 5 - ble mae 3 dosbarth cofrestru cymysg o ddisgyblion y Dosbarth Meithrin a Dosbarth Derbyn.
Uned dan 7 - ble mae 3 dosbarth cofrestru cymysg o ddisgyblion Blwyddyn 1 a 2
Uned dan 9 - ble mae 3 dosbarth cofrestru cymysg o ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4.
Uned dan 11 - ble mae 3 dosbarth cofrestru cymysg o ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6
I wneud cais am le i'ch plentyn/plant yn Ysgol Twm o'r Nant rhaid gwneud hyn drwy gwefan Sir Ddinbych. Cysylltwch gyda ni yn yr ysgol os hoffech fwy o fanylion neu i ddod am dro i'n gweld ni.
01745 812 261
twm.nant@sirddinbych.gov.uk
www.ysgoltwmornant.cymru
X ac Instagram - @ysgoltwmornant