Hybu ymgysylltiad myfyrwyr gyda Vevox

____________________________

Beth yw Vevox?

Mae Vevox yn system ymateb cynulleidfa sy'n cynnig nodweddion cynnal polau, cwisiau ac arolygon. Gallwch gael mynediad iddo ar-lein drwy wefan, ei ychwanegu at eich cyfarfod Microsoft Teams, yn ogystal â’i ychwanegu at Moodle.

Mae llawer o dechnolegau arolygu barn ar gael, ond rydym yn ddiweddar wedi adnewyddu ein trwydded am dair blynedd arall gyda Vevox, gan ganiatáu i staff a myfyrwyr gael mynediad i’r platfform am ddim!

Sut gall Vevox gefnogi fy addysgu?

Mae Vevox yn gallu eich cefnogi yn yr ystafell ddosbarth drwy greu profiad sy’n denu diddordeb ac annog dysgu gweithredol wrth gyflwyno eich sesiynau, wyneb yn wyneb a/neu ar-lein. Gellir ei ddefnyddio i gefnogi addysgu dan arweiniad myfyrwyr i ddynodi gwybodaeth a dealltwriaeth. Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol wrth fabwysiadu dull ystafell ddosbarth gwrthdro i fesur dealltwriaeth.

Mae defnyddio’r nodwedd ddienw hon hefyd wedi profi i fod yn llwyddiannus iawn wrth annog myfyrwyr i ofyn cwestiynau. Pan fo myfyrwyr yn gwybod nad yw eu henw’n cael ei gofnodi, maen nhw’n fwy tebygol o ofyn cwestiynau i helpu i feithrin eu dealltwriaeth. Os hoffech wybod rhagor, gallwch fynd i wefan Vevox i weld rhestr o sut mae prifysgolion eraill yn defnyddio Vevox.

Mae Ffion Cumberpatch, Uwch Ddarlithydd a Rheolwr y Rhaglen Sgiliau Cyflogadwyedd wedi bod yn defnyddio Vevox i gynnwys gemeiddio yn ei sesiynau – gan arwain at gynnydd sylweddol mewn ymgysylltiad myfyrwyr. Mae ei hymagwedd wedi’i chynnwys mewn stori llwyddiant Vevox diweddar, ble soniodd Ffion am sut mae’r platfform wedi effeithio’n bositif ar ei phrofiad o addysgu.

Beth mae Vevox yn ei gynnig?

Platfform arolygon barn, cwestiwn ac ateb ac arolygon ar-lein yw Vevox sy’n gallu helpu i hybu ymgysylltiad yn yr ystafell ddosbarth, yn ystod cyfarfodydd staff neu gynadleddau ac yn anghydamserol. Mae gennym gyfrif gyda Vevox, sy'n golygu bod gennych fynediad am ddim i'r nodweddion canlynol:

Awgrymiadau gorau Vevox ar sut i fynd ati:

Mae ystod enfawr o opsiynau a chyfleoedd ar gyfer defnyddio’r nodweddion polau byw, ond dyma’r 3 phrif ddull syml, ond tra effeithiol, maen nhw’n eu hargymell i roi cynnig arnynt yn gyntaf:

  • Cynnwys cwestiwn torri'r iâ – mae’n ddelfrydol ar gyfer cael y myfyrwyr i gyd i gymryd rhan, yn enwedig ar ddechrau cwrs neu ddosbarth. Mae’r nodwedd cwmwl geiriau yn ddiguro yn hyn o beth!
  • Gwirio gwybodaeth – gall cynnal polau yn gynnar mewn darlith ganiatáu i chi fireinio eich cynnwys ar sail y lefelau gwybodaeth yn yr ystafell, a gwirio bod y ddealltwriaeth yn ddigonol cyn symud ymlaen. Dull poblogaidd yw gofyn cwestiynau sy’n gwirio gwybodaeth eto ar ddiwedd y dosbarth i gymharu'r canlyniadau.
  • Gofynnwch i’ch cyfranogwyr a oedd y sesiwn yn fuddiol – mae’n brin iawn cael dosbarth sy’n ymateb 100% yn berffaith. Gwellwch eich dosbarthiadau’n barhaus drwy ofyn i fyfyrwyr am eu hadborth. Y ffurf symlaf yw pôl ‘sgoriau sêr’. Gallwch ei gynnal ar ffurf pôl ‘byw’ neu gwestiynau arolwg ar eu cyflymder eu hunain, a does dim rhaid i chi ddangos y canlyniadau i’r dosbarth! Mae hefyd yn wych ar gyfer adrodd yn fewnol.

Mewngofnodi i Vevox

Ewch i uwtsd.vevox.com, a mewngofnodwch gan ddefnyddio eich manylion prifysgol. Beth am gymryd golwg o gwmpas?

[Sylwer: Os ydych eisoes wedi cofrestru ac yn defnyddio cyfrif Vevox, byddwch yn gallu cael mynediad at eich arolygon neu gwisiau presennol trwy fynd i login.vevox.com. Gallwch wneud cais i uno eich cyfrifon drwy gysylltu â Cymorth Vevox: support@vevox.com]

Rydym yma i’ch helpu!

Gwyddom bod mabwysiadu offer newydd neu ddysgu technolegau newydd yn gallu bod yn anodd, yn enwedig pan fod cymaint ohonynt! Dyma un o’r rhesymau pam rydym wedi prynu trwydded ar gyfer Vevox, fel nad oes angen i chi bellach boeni am neidio o un offeryn am ddim i un arall.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech i’r tîm Creadigrwydd a Dysgu Digidol ddod mewn i gyflwyno gwybodaeth neu sesiynau hyfforddi, cysylltwch â ni drwy e-bostio: DysguDigidol@pcydds.ac.uk.

Credits:

Created with images by luckybusiness - "lecturer on class with students giving presentation on university." • bnenin - "Cheerful student girl using mobile device in coworking space" • tortoon - "Business woman hand typing laptop computer on wooden table" • SB Arts Media - "Young desperate student in stress working and studying holding a help sign."