Croeso i dudalen Dewiniaid Digidol Ysgol Brynaman. Rydyn ni'n gyffrous iawn i rannu ein syniadau a phrosiectau trwy'r dudalen yma.
Dyma ein Dewiniaid Digidol 2024-2025
Cynllunio
- peintio lluniau yn JIT gyda phlant Meithrin (Gwanwyn)
- peintio lluniau caleidosgop yn JIT gyda phlant Derbyn (Gwanwyn)
- dysgu blwyddyn 1 a 2 sut i wefru'r gliniaduron yn gywir
- creu'r cymeriad newydd e-ddiogelwch yn ddigidol
- cyflwyno'r cymeriad newydd i'r ysgol
- rhoi Dylan Digidol ar y posteri e-ddiogelwch o gwmpas yr ysgol
- animeiddio gyda blwyddyn 1 (Gwanwyn)
- clwb codio blwyddyn
- hyfforddiant microbits (staff)
- hyfforddiant staff (Minecraft)
- prosiect scratch gyda blwyddyn 2 (haf)
- creu fideo e-ddiogelwch i'r cyfnod sylfaen gyda Dylan Digidol
- diwrnod e-ddiogelwch 2024
- edrych ar ôl unrhyw dechnoleg yn y dosbarthiadau
- gwefru'r iPads/gliniaduron yn y dosbarthiadau
- prosiect minecraft (haf)
Ein bwletin cyntaf
Croeso i'r ysgol Dylan Digidol
Enillodd Madi Griffiths y gystadleuaeth creu cymeriad e-ddiogelwch a dyma Dylan Digidol yn cael ei geni. Edrychwch allan am Dylan Digidol ar draws yr ysgol, ar Seesaw, ac ar ein gwefan. Bydd Dylan Digidol yn eich helpu chi i gadw'n ddiogel ar-lein.