Clecs Ffwrnes Nadolig 2023 Cylchlythyr Nadolig 2023 / Christmas newsletter 2023

Gwerth y Mis / Value of the Month

Ionawr / January - Cyfrifoldeb / Responsibility

Chwefror / February - Gonestrwydd / Honesty

Hawl y Mis / Right of the Month

Ionawr / January - Erthygl 29 - Eich hawl i fod y gorau y gallwch fod / Article 29 - Your right to be the best you can be.

Chwefror / February - Erthygl 13 - Eich hawl i gael gwybodaeth / Article 13 - Your right to information.

Nadolig Llawen i chi gyd Merry Christmas to you all.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

08.01.24 - 09.02.24 - HANNER TYMOR / HALF TERM

Dydd Llun 08.01.24 Monday - HMS (dim disgyblion) / INSET (no pupils)

Dydd Mawrth 09.01.24 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school

Clybiau allgyrsiol yn ail-gychwyn 15.01.24 (Amserlen i ddilyn) After school clubs restarting (Timetable to follow)

Cystadleuaeth pel droed rhanbarthol clwb pel droed Abertawe Bl 5a6 / Swansea City Foundation’s, EFL Kids Cup regional final football competition Yrs 5&6 15/01/2024

16.01.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Merched yr Urdd / Girls Urdd Netball Competition (Carfan yn cael i ddewis yn y flwyddyn newydd / Squad to be chosen in the new year).

23.01.2024 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Cymysg yr Urdd / Mixed Urdd Netball Competition (Carfan yn cael i ddewis yn y flwyddyn newydd / Squad to be chosen in the new year). 

Cystadleuaeth Rygbi Tag Cymysg Bl. 3-4 Mixed Yrs 3-4 Tag Rugby URDD Tournament - 26/01/2024 (Carfan yn cael i ddewis yn y flwyddyn newydd / Squad to be chosen in the new year).

Cystadleuaeth Rygbi Tag Merched Bl. 5-6 Yrs 5-6 Girls Tag Rugby URDD Tournament Girls Tag Rugby Yrs 5-6 - 26/01/2024 (Carfan yn cael i ddewis yn y flwyddyn newydd / Squad to be chosen in the new year).

Twrnamaint Pêl droed cymysg yr URDD blynyddoedd 5 a 6 / Mixed football tournament Yrs 5-6 08/02/2024 (Carfan yn cael i ddewis yn y flwyddyn newydd / Squad to be chosen in the new year). 

Manor Adventure

Dydd Mercher / Wednesday 07.02.24 - Dydd Gwener / Friday 09.02.24 Cwrs preswyl blwyddyn 5 i Manor adventure. Year 5 Residential visit to manor adventure.

Llwyfan dan y lloer

Diolch enfawr i bawb a chefnogodd ein sioe / ffair cyntaf 'Llwyfan dan y lloer'. Mwynheuodd y disgyblion paratoi a pherfformio o flaen cynulleidfa byw ac roedd pob un yn ardderchog! Rydym yn falch iawn o bob plentyn em ei ymdrech yn ystod y broses o greu adnoddau, anrhegion a nwyddau. Diolch am eich holl gymorth ar gyfer bob sioe ac am eich sylwadau positif.

A huge thank you to everyone who supported our first show / Christmas fair 'Llwyfan dan y lloer'. The pupils enjoyed preparing and performing in front of a live audience and it was a night to remember. We are very proud of each child's effort during the process of creating resources and gifts to sell. Thank you for all your cooperation, support on the evening and positive comments.

Meithrin Cymru ac Iwerddon

Am hanner tymor prysur yn y dosbarthiadau Meithrin! Rydym wedi bod yn trafod ein newyddion yn wythnosol i’n ffrindiau. Yn ystod yr wythnosau cyntaf, buom yn datblygu ein sgiliau mathemateg wrth ymgymryd mewn gwahanol weithgareddau, er enghraifft, dilyn patrymau ailadroddus a deall y cysyniad o beth sy’n gwneud pâr. Yn ogystal â hyn, buom yn datblygu ein sgiliau cyfri a chyfatebu wrth drefnu rhifau 1-10, a’i chyfateb a darnau numicon, a chawsom hwyl yn cyfatebu’r nifer cywir o falws melys mewn i’r cwpanau siocled. Yn ystod ein hamseroedd cylch buom yn trafod ein teimladau.

Wrth i’r Nadolig agosáu, buom yn dysgu llawer o eirfa newydd wrth i ni chwarae gêm ‘Beth sydd yn y bocs?’ gyda thrysorau Nadoligaidd. O ganlyniad i nifer o ddysgwyr mynychu carnifal Nadolig yn y dref, penderfynom gael carnifal ein hun yn yr ardal allanol. Cawsom lawer o hwyl yn gweithio fel tîm i adeiladu ac addurno lori a gwisgo i fynnu mewn gwisgoedd Nadolig. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn paratoi ac ymarfer am ein Cyngerdd Nadolig, ac fe wnaethon ni fwynhau gwisgo fel anifeiliaid y fferm.

What a busy half term in the Nursery classes! We have been discussing our news weekly to our friends. During the first weeks, we developed our mathematical knowledge and skills by engaging in different activities, for example, following repetitive patterns and understanding the concept of what makes a pair. In addition to this, we developed our counting and matching skills by arranging numbers 1-10, and matching them with the correct numicon pieces, and we had fun matching the correct number of marshmallows into the chocolate cups. During our circle times we have discussed our feelings.

As Christmas approached, we learnt a lot of new vocabulary as we played a game of 'What's in the box?' with festive treasures. As a result of a number of learners attending a carnival in town, we decided to have our own carnival in the outdoor area. We had a lot of fun working as a team to build and decorate a lorry and dress up in Christmas costumes. We have been very busy preparing and rehearsing for our Christmas Concert, and we enjoyed dressing up as farm animals.

Derbyn Sbaen a'r Eidal

Rydym ni wedi cael hanner tymor prysur a hwylus. Wnaethom ni mwynhau stori ‘Beth Nesaf’ a’r amrywiaeth o weithgareddau wnaeth dilyn sef chwarae rôl, coginio sbageti a chrefft bwrpasol. Rydym ni wedi bod yn dysgu am anifeiliaid sydd yn byw yn yr Arctig a chawsom yr her o ryddhau'r anifeiliaid allan o’r rhew! Buom yn diddanu preswylwyr cartref Ashley Court a chreu cardiau Nadolig iddynt. Cawson barti Nadolig a ddaeth y Corrach i ddawnsio gyda ni! Roedd y parti yn hwylus iawn. Rydym wedi bod yn brysur iawn yn ymarfer canu ac adrodd ar gyfer ein sioe Nadolig.

We have had a busy and fun half term. We enjoyed the story ‘Beth Nesaf’ and the variety of activities that followed such as role play, cooking spaghetti and crafts. We have been learning about the different animals that live in the Arctic and we had the challenge of trying to release the animals from the ice! We have been entertaining the residents of Ashley Court and we made Christmas cards for them. We had a Christmas party and the Elf came to dance with us! The party was lots of fun! We have also been busy preparing for our Christmas show.

Blwyddyn 1 Awstria a Ffrainc

Tymor llawn cyffro ag egni, mae’r wythnosau diwethaf wed bod yn rhai prysur iawn ym mlwyddyn 1. Mae’r disgyblion wedi gweld Siani Sionc ag Mr Urdd yn yr ysgol, wedi bod lawr i Gaerfyrddin i weld sioe Deian a Loli ac yng nghanol yr holl sbri yma, rydym wedi bod yn cwblhau gwaith yn y dosbarth! Yn ystod ein sesiynau Boost, rydym wëid mwynhau stori ‘Cwac’ gan Martyn Waddell. Rhagfynegwyd y disgyblion beth fyddai’n digwydd yn y stori gan hefyd cwblhau gweithgareddau drama megis ‘freeze frame’ i actio allan rhannau diddorol y stori. Yn dilyn hyn, ysgrifennodd y disgyblion brawddegau oedd yn nodi pa anifeiliaid oedd ar y fferm i helpu Cwac. Mae’r tymor diwethaf wedi bod yn un greadigol iawn wrth i’r disgyblion paratoi ar gyfer ein marced Nadolig. Ym mlwyddyn 1 fe wnaethom gwblhau paintalong Nadoligaidd i werthu ar noson y ffair. Yn ogystal ag hyn, defnyddiodd y disgyblion tatws wedi torri a’r dechneg o stampio i greu papur lapio lliwgar.

Diolch enfawr i Mrs A.Davies ac i Mrs H.Davies am arwain y disgyblion wrth gwblhau’r paintalong ac am ei holl waith ers mis Medi. Yn ogystal â’r ddwy Mrs Davies, diolch i Miss Morgan, Mrs Kim ac i Mrs Owen am ei holl waith gyda’r disgyblion. Diolch i chi gyd am eich holl gefnogaeth yn ystod y tymor a dymunwn Nadolig llawen a blwyddyn Newydd dda i chi gyd o flwyddyn 1 Awstria a blwyddyn 1 Ffrainc. Gwelwn ni chi yn 2024!

As you’ll have read throughout each year group’s section, this term has certainly been a busy one! In year 1 we’ve seen Siani Sionc and Mr Urdd, we’ve been to Carmarthen to watch Deian and Loli, we’ve prepared for our Christmas Market, and we’ve done all this while still managing to complete some work in class. During our Boost sessions, we enjoyed reading the story ‘Quack’ by Martyn Waddell. This served as inspiration for many different tasks such as predicting what would happen in the story and completing drama activities such as freeze frame to act out the most interesting parts of the story. We ended by writing sentences to inform Quack of which animals he had left on the farm using adjectives to describe each one. This term has certainly been a creative one as we’ve prepared for the Christmas market. Year 1 decided to paint their own picture by following the instructions of the paint along lady. As I’m sure you’ve seen by now, the results were spectacular with each child adding their own personal touch to the instructions given. We also used a stamping technique and potatoes to create our own wrapping paper to sell in our Christmas bags.

Mrs A.Davies and Mrs H. Davies did an outstanding job in leading the children during their paint-alongs. We’ve also been very fortunate to have had Miss Morgan, Mrs Kim and Mrs Owen by our side throughout and we thank them for their hard work and dedication this term. Thank you all for your support throughout the term and we wish each family a Merry Christmas and a happy New Year. See you in 2024!

Blwyddyn 2 Portiwgal a Sweden

Mae’r gwyliau Nadolig wedi cyrraedd ac rydym wedi dod i ben â hanner tymor prysur arall. Yn ystod yr Hanner Tymor yma rydym wedi bod yn paratoi ar gyfer ‘Llwyfan Dan y Lloer.’ Ein ffocws ar gyfer y ffair oedd defnyddio clai i greu addurniadau Nadolig I werthu. Mae'r disgyblion wedi bod yn brysur yn gwneud sawl peth gwahanol yn defnyddio clai gan ddechrau gydag arbrofi i greu lampiau Difa er mwyn dathlu’r ŵyl Diwali. Yna, daeth y cwmni Annibendod i gynnal gweithdy crochenwaith gyda’r disgyblion. Yn ystod y gweithdy buodd y disgyblion yn defnyddio lliwiau gwahanol i greu patrymau ar baubles Nadolig. Mae’r disgyblion hefyd wedi bod yn brysur yn creu addurniadau sêr a choeden Nadolig allan o glai i werthu yn y ffair. Un o uchafbwyntiau’r ffair Nadolig oedd perfformiad y disgyblion yn canu carolau tu allan. Gwnaeth y disgyblion mwynhau sioe Siani Sionc yn fawr iawn. Roedd pob un o’r disgyblion wedi gwneud ymdrech arbennig i wisgo dillad ei hun neu ddillad Pudsey er mwyn codi arian i Blant Mewn angen. Er mwyn dathlu’r Nadolig, gwnaeth y disgyblion mwynhau yn fawr iawn sioe Deian a Loli yn yr Egin yng Nghaerfyrddin. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda.

The Christmas holidays have arrived, and we have ended another busy half term. During this Half Term we have been preparing for our Christmas Fair, ‘Llwyfan Dan y Lloer.' Our focus for the fair was to use clay to create Christmas decorations to sell at the fair. The pupils have been busy doing several different things using clay starting with experimenting to create Diva lamps to celebrate the festival of Diwali. The company ‘Annibendod’ then came to run a pottery workshop with the pupils. During the workshop pupils used different colours to create patterns on Christmas baubles. Pupils have also been busy creating star decorations and a Christmas tree out of clay to sell at the fair. One of the highlights of the Christmas fair was the performance of pupils singing carols outside. The pupils thoroughly enjoyed the Siani Sionc show. Each of the pupils made a special effort to wear their own clothes or Pudsey's clothes in order to raise money for Children in Need. To celebrate the Christmas festivities, the pupils enjoyed ‘Deian a Loli’ show at ‘Yr Egin’ in Carmarthen. Merry Christmas and a Happy New Year.

Blwyddyn 3 Yr Alban a Hwngari

Mae wedi bod yn dymor prysur arall i flwyddyn 3. Rydym wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer ein noson arbennig ‘llwyfan dan y lloer’. Rydym wedi mwynhau dysgu am bwysigrwydd coed ac wedi bod yn creu llawer o bethau allan o bren i werthu yn y ffair Nadolig. Rydym wedi creu torch hyfryd allan o helyg ac wedi addurno gan ddefnyddio dail o goedwig yr ysgol. Hefyd rydym wedi bod yn brysur yn creu poster yn ceisio denu pobl I ddod I ‘Llwyfan dan y lloer’. Rydym wedi mwynhau darllen storiau Roal Dahl ac ar ôl darllen y stori roeddem wrth ein bodd yn ail-greu ein hoff olygfa. Rydym hefyd wedi bod yn mwynhau'r gwersi cerddoriaeth gyda Mr Jennings y tymor hwn lle rydym wedi bod yn recordio can a cyfansoddwyd fel dosbarth trwy ddefnyddio’r rhaglen ‘Soundmaker’. Yn ein gwersi mathemateg rydym wedi bod yn darllen yr amser analog ac yn ddigidol ac wedi bod yn talu am eitemau yn y siop gan ddefnyddio’r darnau arian cywir. I orffen yr hanner tymor yma rydym yn mynd I weld sioe Deian a Loli ar gyfer y Nadolig! Nadolig Llawen i chi gyd a Blwyddyn Newydd dda.

It has been another busy term for year 3. We have been busy preparing for our special night 'llwyfan dan y lloer'. We have enjoyed learning about the importance of trees and have been creating many things out of wood to sell at the Christmas fair. We have created a lovely wreath out of willow and decorated using leaves from the school forest. We have also been busy creating a poster to attract people to come to 'Llwyfan dan y loer'. We have enjoyed reading Roal Dahl's stories and after reading the story we loved recreating our favorite scene. We have also been enjoying the music lessons with Mr Jennings this term where we have been recording a song composed by us as a class using the 'Soundmaker' programme. In our maths lessons we have been reading the analogue and digital time and have been paying for items in the shop using the correct coins. To finish this half term we are going to see Deian and Loli's Christmas show! Merry Christmas to you all and a happy New Year.

Blwyddyn 4 Yr Almaen a Swistir

Rydym wedi cyrraedd diwedd y flwyddyn calendr. Yn ystod yr hanner tymor yma rydym wedi bod yn frysir yn paratoi ar gyfer ein ffair Nadolig. Yn flwyddyn 4 rydym wedi bod yn coginio, paratoi ac addurno ein cacennau. Roedd yn waith hwylus ac rydym wedi dysgu llawer am y cynhwysion a sut i baratoi a choginio, yn enwedig Mr Phillips. Cafwyd amser hyfryd yn dysgu a chanu carolau Nadolig yn ystod y Ffair - Llwyfan Dan y Lloer. Rydym hefyd wedi bod yn lwcus i ddechrau sesiynau Ysgol goed ble rydym wedi bod allan yn yr awyr agored yn gwneud gweithgareddau newydd a diddorol a datblygu sgiliau. Rydym wedi bod yn defnyddio ein hardal allanol yn ystod ein sesiynau. Yn ystod yr hanner tymor yma roeddwn wedi gwisgo ein pyjamas a dillad Pydsi ar gyfer codi arian ar gyfer yr elusen. Hefyd rydym wedi gwisgo ein siwmperi Nadolig a chodi arian ar gyfer elusen ‘Save The Children’. Rydym nawr yn edrych ymlaen i’r Nadolig a dathliadau eraill.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda!

We have reached the end of the calendar year. During this half term we have been busy preparing for our Christmas Fair. In year 4 we have been preparing, cooking and decorating our Christmas cakes. It was fun work and we have learnt a lot around the process of cooking and about the ingredients, especially Mr Phillips. We had a wonderful time learning and signing Christmas carols during the School Christmas Fair – Llwyfan dan y Lloer. We have also been lucky to start our new Forest School, where we are learning new skills and completing activities out in the fresh air. We have been using our outdoor provision effectively in these sessions. During this half term we have also raised money for Children in Need and Save the Children charities. We wore pyjamas and Pudsey clothes for Children in Need and wore our best Christmas Jumpers for Save the Children. We are now looking forward to the Christmas festivities and other celebrations.

Merry Christmas and a Happy New Year!

Blwyddyn 5 Belg a'r Ffindir

Blwyddyn 6 Pwyl a Groeg

Wrth i ni agosáu at gyfnod y Nadolig, mae’n anodd credu ein bod wedi cyrraedd diwedd y tymor. Mae’r hanner tymor diwethaf wedi bod yn brysur iawn i ni a’n camp fwyaf oedd ein Ffair Nadolig llwyddiannus a chyffrous ‘Llwyfan Dan y Lloer’. Mae’r disgyblion wedi gweithio’n galed iawn trwy gydol y tymor yn dysgu sgiliau newydd ac yn datblygu eu gallu i fod yn ddysgwyr dyfeisgar, gwydn, myfyriol ac annibynnol. Rydym yn browd iawn ohonynt! Yn yr wythnosau yn arwain at y Ffair Nadolig, cafodd y disgyblion gyfleoedd i ddatblygu amrywiaeth o sgiliau a chawsant lawer o brofiadau gwerthfawr. Maent bellach yn gwbl abl i ddefnyddio peiriant gwnïo (ac mae hyn yn cynnwys y staff hefyd!) Dangosodd y disgyblion frwdfrydedd a dyfalbarhad trwy gydol y broses o greu a chynhyrchu eitemau i werthu yn ein Ffair Nadolig. Dysgon bwysigrwydd ymchwil ac ymchwil marchnad, casglu a gwerthuso syniadau dylunio, cymharu prisiau ffabrigau, a dysgu am elw a cholled trwy gyd-destun awthentig. Bu’r disgyblion hefyd yn brysur yn dylunio a chreu poster yn hysbysebu’r Ffair Nadolig gan ddefnyddio eu sgiliau digidol yn effeithiol. Yn ogystal, datblygwyd sgiliau llythrennedd a rhifedd yn ystyrlon drwy gydol y broses. Roedd yr eitemau â gynhyrchwyd o safon uchel (clustogau, byntin, bagiau lafant, addurniadau) a gwerthwyd pob peth ar y noson, sy’n glod mawr i’r disgyblion! Yn ystod yr hanner tymor yma, mae llawer o weithgareddau a digwyddiadau pwysig wedi bod yng nghalendr yr ysgol hefyd, gan gynnwys Dydd y Cofio. Dysgodd y disgyblion sut i greu bathodynnau pabi coch ar gyfer Dydd y Cofio gan ddefnyddio eu sgiliau gwnïo newydd a’u creadigrwydd. Unwaith iddynt feistroli hyn, roedd rhai o’r disgyblion yn hyderus i weithio gyda phlant blwyddyn 5 er mwyn eu helpu i greu eu bathodynnau pabi eu hunain. Rydym hefyd wedi bod yn ffodus i gael y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdai ‘Bible Explorer’ lle bu disgyblion yn dysgu straeon o’r Testament Newydd gan ddefnyddio ystumiau a drama i gyfoethogi’r profiad.

Yn ystod ein sesiynau llythrennedd mae’r disgyblion wedi bod yn dysgu sut i uwch-lefelu brawddegau ac wedi defnyddio’r sgil hwn yn eu gwaith dwyn i gof, testun gwybodaeth yn seiliedig ar Ddydd y Cofio ac yn eu hysgrifennu cyfarwyddiadol. Ein prif ffocws rhifedd ar gyfer yr hanner tymor hwn fu mesur, delio ag arian a deall beth sy’n cynnig y gwerth gorau am arian ynghyd â deall a chyfrifo elw a cholled. Yn ogystal, mae'r disgyblion wedi edrych ar drin data trwy'r ymchwil marchnad ac wedi dysgu sut i gyflwyno data yn effeithiol gan ystyried pa graff sydd fwyaf priodol i'w ddefnyddio a phenderfynu ar raddfeydd priodol. Fel rhan o'r broses hon buont hefyd yn dadansoddi a dehongli'r data a gasglwyd.Daeth y tymor i ben gyda chreu crefftau Nadolig gan ddefnyddio’r sgiliau yr oeddent wedi’u dysgu yn ystod y tymor. Roedd yn galonogol i weld sut roedd eu hyder wedi datblygu o ganlyniad i’r profiadau a gafwyd. Edrychwn ymlaen at gychwyn ar daith ddysgu newydd y tymor nesaf wrth i ni ddechrau astudio thema newydd.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

As we near the Christmas period, it’s hard to believe that we have reached the end of the term. The last half term has been very busy for us and our biggest achievement was our exciting and successful Christmas Fair ‘Llwyfan Dan y Lloer’. The pupils have worked extremely hard throughout the term learning new skills and further developing their ability to be resourceful, resilient, reflective and independent learners. We are extremely proud of them all! In the weeks leading up to the Christmas Fair, the pupils were given opportunities to develop a variety of skills and gained many valuable experiences and are now fully able to use a sewing machine (including the staff!) The pupils showed great enthusiasm and perseverance throughout the process of creating and producing items to sell in our Christmas Fair. They learnt the importance of research and market research, collecting and evaluating design ideas, comparing prices of fabrics, and learning about profit and loss through an authentic context. The pupils were also involved in designing and creating a poster advertising the Christmas Fair using their digital skills which was done effectively. In addition, literacy and numeracy skills were meaningfully developed throughout the process. The high quality items that were produced (cushions, bunting, lavender bags, tree decorations) were all sold on the night, which is a great credit to the pupils! This half term, there has also been a lot of activities and important events in the school calendar, including Remembrance Day. The pupils learnt how to create red poppy badges for Remembrance Day using their newly developed sewing skills and creativity. Once they had mastered this, some of the pupils were confident to work with year 5 children in order to help them create their own poppy badges. We have also been fortunate to have had the opportunity to participate in ‘Bible Explorer’ worskshops where pupils learnt stories from the New Testament using actions and drama to enhance the experience.

During our literacy sessions the pupils have been learning how to up-level sentences and have used this skill in their recount examples, information text based on Remembrance Day and in their instructional writing. Our main numeracy focus for this half term has been measuring, dealing with money and understanding what offers the best value for money along with understanding and calculating profit and loss. In addition, the pupils have looked at handling data through the market research and have learnt how to present data effectively considering which graph is most appropriate to use and deciding on appropriate scales. As part of this process they also analysed and interpreted the data collected. We concluded the term with creating Christmas crafts using the skills that they had learnt during the term. It was encouraging to see how their confidence had developed as a result of the experiences gained. We look forward to embarking on a new learning journey next term as we begin to study a new theme.

We wish you a Merry Christmas and a prosperous New Year!