Bach yw Hedyn pob Mawredd
My School Ap
Ein prif ddull o gyfathrebu yw trwy My School Ap. Sicrhewch eich bod wedi lawrlwytho'r ap i'ch dyfais a'ch bod wedi rhoi'r gosodiadau i dderbyn negeseuon ar gyfer dosbarth eich plentyn. Rydym yn ysgol di-bapur.
Our main method of communication is through the My School App. Make sure you have downloaded the app to your device and that you have set the settings to receive messages for your child's class. We are a paperless school.
Dyddiadau'r tymhorau ysgol 2024-2025 / School term dates 2024-2025
Cliciwch ar y botwm yma / Click on this button
Talu am wibdeithiau, digwyddiadau ac eitemau eraill / Paying for trips, events and other items.
Rydym yn ysgol di-arian parod, sy'n derbyn taliadau drwy ParentPay. Mae gan bob teulu gyfrif ParentPay. Gellir derbyn atgoffwr o'ch manylion logio i fewn o swyddfa'r ysgol lle byddwn yn hapus i'ch helpu
We are a cashless school, that accepts payments via ParentPay. Every family has a ParentPay account. A reminder of your login details can be received from the school office where we will be happy to help you
Wythnos Strolio a Rolio - Mawrth 2025
Eisteddfod yr Urdd 2025
Diolch i bawb a gystadlodd mewn gwahanol gystadlaethau yn eisteddfod yr Urdd ym mis Mawrth. Rydym yn hynod falch ohonoch chi gyd. Hoffem ddiolch i'n holl famau a thadau gwych hefyd am gefnogi gyda'r ymarferion a'r trefniadau teithio. Diolch!
Thank you to everyone that competed in various competitions in the Urdd Eisteddfod in March. We are extremely proud of you all. W'd like to than all our wonderful mums and dads too for supporting with rehearsals and travel arrangements. Diolch!
Dilynwch ein tudalen Instagram i gael cipolwg o fywyd yr ysgol a'n cymuned / Follow us on Insagram for an insight into our school life and our community.
Blaenoriaethau'r Ysgol 2024-2025 / School Development Plan Priorities 2024-2025
Trosolwg o'n Cynllyn Datblygu Ysgol / Our School Development Plan Overview
Presenoldeb / Attendance
Targed yr ysgol ar gyfer presenoldeb yw 93%. Mae'n hanfodol eich bod yn cysylltu gyda'r ysgol i'n hysbysu o unrhyw absenoldebau cyn 9:30 y bore, neu mae'n bosib na awdurdodir yr absenoldeb. Mi fydd yr ysgol yn penderfynnu a fydd yr absenoldeb yn cael ei awdurdodi ai peidio. Ni ellir rhoi marc presenoldeb i blentyn os nad ydynt yn yr ysgol, beth bynnag yw'r rheswm dros yr absenoldeb. Rhaid gwneud cais am wyliau yn ffurfiol, o flaen llaw, gan ddefnyddio'r ffurflen swyddogol isod. Ni fydd yr ysgol yn awdurdodi gwyliau (oni bai bod amgylchiadau esgusodol), os yw canran presenoldeb eich plentyn yn is na 93%. Mi fydd bob plentyn sy'n cyrraedd yr ysgol ar ôl 9:10yb yn cael ei farcio 'yn hwyr'
The school's target for attendance is 93%. It is essential that you contact the school to inform us of any absences before 9:30 in the morning, otherwise the absence may be recorded as unauthorised. The school will decide whether absences are authorised or not. An attendance mark cannot be given to a child if they are not physically at school, whatever the reason for the absence. Holidays must be formally requested, in advance, using the official form below. The school will not authorise holidays (unless there are extenuating circumstances) if your child's attendance percentage is below 93%. All pupils arriving at school after 9:10am will be marked as 'late' on the register.
Meddyginiaeth / Medication
Nid oes disgwyl i'r ysgol i weinyddu meddyginiaeth i'ch plentyn yn ystod oriau ysgol, ond rydym yn hapus i wneud hyn, yn y mwyafrif o achosion, os bydd y ffurflen feddygol swyddogol wedi ei chwblhau yn gywir. Gallwch lawrlwytho copi o'r ffurflen isod neu ofyn am gopi o'r ysgol.
The school is not expected to administer medication to your child during school hours, but we are happy to do this, in the majority of cases, if the official medical form has been completed correctly. You can download a copy of the form below or request a copy from the school.
Y Clwb Brecwast / The Breakfast Club
Mae croeo cynnes iawn i ddysgwyr o'r meithrin i flwyddyn 6 fynychu'r Clwb Brecwast. Mae'r clwb yn agor am 8 o'r gloch ac yn cau yn brydlon am 8:30yb. Rhaid i'r ffurflen gofrestru isod gael ei chwblhau cyn sesiwn gyntaf eich plentyn a chyfrifoldeb rhieni a gofalwyr yw ein hysbysebu am alergeddau neu anoddefiadau bwyd.
All learners from the Nursery class to year 6 are very welcome to attend the Breakfast Club. The club opens at 8am and doors close promptly at 8:30am. The registration form below must be completed before your child's first session and it is the responsibility of parents and carers to inform us of food allergies or intolerances.
Clwb Gofal Bydis Brynsierfel / Bydis Brynsierfel After School Club
Clybiau ar ôl ysgol am £1 / After school clubs for £1
Dyma'r amserlen ar gyfer y Clybiau ar ôl ysgol, tymor yr Haf 2025. Gwiriwch gydag atrhro eich plentyn pa glybiau sydd ar gael iddyn nhw.
Here is the timetable for our Summer Term after school clubs. Check with your child's teacher which clubs are available to them.
- Nos Fawrth / Tuesday : Clwb Digidol / Digital Club
- Nos Fercher / Wednesday : Celf a chrefft / Art and Craft
- Nos Fercher / Wednesday : Pêl Rwyd / Netball
- Nos Iau / Thursday : Clwb Rygbi / Rugby Training
- Nos Iau / Thursday : Clwb Gwyddoniaeth Gwyllt i Gam Cynnydd 2 / Mad Science Club for Progression Step 2
Hybu cymreictod yn ein hysgol
Promoting Welshness in our school
Hawl y mis / Children's Right of the Month
Gair y mis / Word of the Month
Patrwm y mis / Language Pattern of the month
Cerddor y mis / Musician of the Month
Idiom y mis / Idiom of the Month
Llinellau Ymholi Haf 2025 / Summer Term 2025 Lines of Enquiry
Dosbarth Penbwl (Meithrin / Nursery)
Cam Cynnydd 2 / Progression Step 2
I'ch dyddiadur Diary Dates
Mi fydd cyfle i chi archebu'r siwmperi 1/4 sip o Toppers, Dafen, rhwng 28ain o Ebrill a Mai 19eg 2025. Bydd pob archeb o'r siwmper yn cymryd tua 6 wythnos o Fai 19ain.
You will have the opportunity to order the 1/4 zip jumpers from Toppers, Dafen, between 28th April and 19th May 2025. All orders of this jumper will take approximately 6 weeks from 19th May.
Nid oes angen aros cyhyd am eitemau eraill o wisg ysgol. Archebwch wisg ysgol o Toppers Wales, Unit D1, Llanelli Gate Business Park, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ neu o Picton Sport, Dafen Industrial Estate, 1 Heol Aur, Dafen, Llanelli SA14 8QN
There is no need to wait so long for other items of school uniform. Order school uniform from Toppers Wales, Unit D1, Llanelli Gate Business Park, Dafen, Llanelli, SA14 8LQ or from Picton Sport, Dafen Industrial Estate, 1 Heol Aur, Dafen, Llanelli SA14 8QN
Ebrill / April 2025
- 30.04.25 - Sesiynau criced wythnosol yn dechrau i flynyddoedd 3 a 4 / Weekly cricket sessions begin for years 3 and 4
Mai / May 2025
- 02.05.25 - Cyfres o 6 sesiwn Kerbcraft yn dechrau i Ddosbarth Hwyaden (Blwyddyn 2) Diolch ENFAWR i'n rhieni sy'n gwirfyddoli. / The first of 6 weekly sessions of Kerbcraft for Dosbarth Hwyaden (Year 2) A HUGE thank you to our parents who are volunteering.
Gwener Grwfi Mis Mai - 'Gwallt Gwyllt!' / May's Funky Friday 'No Tame Manes!'
- 03.05.25 - Y Cyngor Ysgol yn mynychu sesiwn e-tholiad gyda Mrs Heledd Evans / The School Counil attend an e-lection session with Mrs Evans.
Cŵn Clyfar
Sesiynau Cwn Clyfar i Ddosbarth Pysgodyn gyda Sarah Wilkinson a'i chi bach, Ash. Mae chwarae'n ddiogel â chŵn nid yn unig yn hwyl i blant ond hefyd yn cyfrannu'n sylweddol at eu twf emosiynol a seicolegol. Mae'r rhaglen wedi’i gynllunio’n ofalus i feithrin empathi, lleihau pryder mewn awyrgylch gyfforddus gan ymateb i bwyslais y cwricwlwm ar iechyd meddwl a lles.
Cwn Clyfar (Clever Dogs) sessions with Sarah Wilkinson and her little dog, Ash. Playing safely with dogs is not only fun for children but also contributes significantly to their emotional and psychological growth. Our program has been carefully designed to foster empathy, reduce anxiety in a comfortable atmosphere responding to the curriculum's emphasis on mental health and well-being.
08.05.25 - Dathliadau Diwrnod VE / VE Day Celebrations.
- Gwisgwch las, coch a gwyn i'r ysgol. Bydd yr ysgol yn cael un parti 'stryd' mawr gyda'i gilydd ar y buarth yn y prynhawn a bydd bwydlen arbennig amser cinio wedi ei baratoi gan yr adran arlwyo. Gweler isod. Ar Fai 14eg, bydd disgyblion yn ymweldâ chartref yr henoed, Llys Y Bryn, i ganu caneuon amryw iddynt. Bwriad yr ysgol yw cynnal yr ymweliadau hyn yn rheolaidd gyda dysgwyr o bob oedran.
Wear blue, red and white to school. The school will have one big 'street' party together in the yard in the afternoon and a special lunchtime menu will be prepared by the catering department. See below. On May 14th, pupils will visit the home of the elderly, Llys Y Bryn, to sing them various songs. The school's intention is to hold these visits regularly with learners of all ages.
09.05.25
Gweithdy drymio gyda Stick 2 i Ddosbarth Prysgodyn a Dosbarth Hwyaden, sy'n cydfynd gyda'i llinell ymholi ar gyfer y tymor! / A drumming workshop with Stick 2 for Dosbarth Pysgodyn and Dosbarth Hwyaden, which supports their line of inquiry for this term!
09.05.25 - Dosbarth Malwen yn ymweld ag Amgueddfa Glynn Vivian fel rhan o'u llinell ymholi ar gyfer y tymor. /Dosbarth Malwen visit Glynn Vivian Art Museum as part of their line of enquiry for this term.
13.05.25 - Colorfoto : Lluniau dosbarthiadau / Class photographs
15.05.25 - Perfformiad o Pinocchio gan M&M Theatr (Derbyn - flwyddyn 6) Telir ar ParentPay, os gwelwch yn dda. / Performance of Pinocchio by M&M Theatre. Please pay via ParentPay.
19.05.25 - Rhaid i archebion ar gyfer ein siwmperi chwarter sip for wedi eu derbyn gan Toppers, erbyn heddiw. Ni fydd modd archebu'r eitem yma wedi Mai 19ain, er mwyn cael yr eitem erbyn Medi 2025. Mae pob eitem arall ar gael o naill ai Picton Sport neu Toppers
Orders for our quarter zip sweaters must be received by Toppers, by today. It will not be possible to order this item after May 19th, in order to have the item by September 2025. All other items are available from either Picton Sport or Toppers
22.05.25 - MABOLGAMPAU / SPORTS DAY
- Amseroedd ein sesiynau Mabolgampau / Sports Day timings :
- Meithrin a Derbyn - 9:30 : 10:30 Blynyddoedd 1 a 2 : 10:30 Blynyddoedd 3-6 : 1:30
Rydym yn edrych am wirfyddolwyr i helpu ar y diwrnod. Os fedrwch helpu, plis cysylltwch gydag athro eich plentyn neu gyda'r swyddfa gan nodi pa sesiwn y gallwch fynychu. Pris mynedfiad yw £2.50 gyda'r elw yn mynd tuag at adnoddau i'n hardal allanol. (arian parod yn unig, os gwelwch yn dda) Mi fydd te, coffi a danteithion ar gael wrth The Cake Tin.
We are looking for volunteers to help on the day. If you can help, please contact your child's teacher or the office indicating which session you can attend. Admission is £2.50 with proceeds going towards resources for our outdoor area. (cash only, please) Tea, coffee and treats will be available at The Cake Tin.
Eleni, gofynnwn i chi ddod â chadair neu flanced eich hunan.
This year, we ask that you bring your own chair or blanket.
Cynhelir Gwasanaeth Dosbarth Broga ar Fai 23ain, am 9:30 yn neuadd yr ysgol. Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i aelodau'r teuluoedd i ymuno â ni.
Dosbarth Broga's Class Assembly will be on May 23rd, at 9:30 in the school hall. We warmly invite family members to join us.
Gwyliau Hanner Tymor Sulgwyn - Mai 26ain-Mai 30ain/May Whitsun Half Term - May 26th-May30th'
Mehefin/ June
10.06.25 - Cystadleuaeth Criced 50/50 i flynyddoedd 3 a 4 (ein cystadleuaeth gyntaf!) / 50/50 cricket competition for years 3 and 4 (our first competition!)
Wythnos yn dechrau 16.06.25 - Bydd Blwyddyn 6 yn ymweld ag Ysgol Y Strade yn ystod yr wythnos hon. Byddwn yn cadarnhau'r union ddyddiad cyn gynted ag y byddwn yn gwybod.
Week beginning 16.06.25 - Year 6 will visit Ysgol Y Strade during this week. We shall confirm the exact date as soon as we know.
CADARNHAU DYDDIAD - DATE CONFORMATION : 18.06.25
Mi fydd y plant yn dod i Frynsierfel yn y bore ac yn cael eu casglu a'u dychwelyd i'r ysgol erbyn 2:30yp
The children will come to Brynsierfel in the morning ac will be collected and returned by 2:30pm
Gwasanaeth Dosbarth Penbwl
Cynhelir Gwasanaeth Dosbarth Penbwl (Meithrin) ar Fehefin 27ain, am 9:30 yn neuadd yr ysgol. Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i aelodau'r teuluoedd i ymuno â ni.
Dosbarth Penbwl's Class Assembly will be on June 27th, at 9:30 in the school hall. We warmly invite family members to join us.
Gorffennaf / July
04.07.25 Gwasanaeth Dosbarth Dyfrgi / Dosbarth Dyfrgi's Class Assembly
Cynhelir Gwasanaeth Dosbarth Dyfrgi (Blwyddyn 4) ar Fai 23ain, am 9:30 yn neuadd yr ysgol. Rydym yn estyn gwahoddiad cynnes i aelodau'r teuluoedd i ymuno â ni.
Dosbarth Dyfrgi's Class Assembly will be on July 4th, at 9:30 in the school hall. We warmly invite family members to join us. (Year 4)
04.07.25 - Adroddiadau Cynnydd Diwedd Blwyddyn yn cael eu dosbarthu i rieni / End of year Progress Reports distributed to parents and carers.
Nosweithiau Rhieni / Parents Evenings
Gorffennaf 7 + 8 July
Nosweithiau Rhieni - Noson agored a fydd yn rhoi cyfle i chi ddod i drafod adroddiad cynnydd eich plentyn, gyda'r athrawon dosbarth. Mi fydd yr athrawon ar gael o 3:15yp - 4:30yp
Parents' Evenings - Open evenings which will give you the opportunity to come and discuss your child's progress report, with the class teachers. The teachers will be available from 3:15pm - 4:30pm
08+09/07/25 Gwibdaith breswyl Dosbarth glas y Dorlan i Lundain / Dosbarth Glas y Dorlan's residential trip to London.
10.07.25 - Noson Wybodaeth i Rieni a Gofalwyr y dysgwyr sy'n mynychu Ysgol Y Strade ym mis Medi. 10.07.25 - Information Evening for Parents and Carers of learners who will attend Ysgol Y Strade in September.
11.06.25 - Diwrnod Pontio YGB! Mi fydd pob dysgwr yn treulio'r diwrnod yn eu dosbarth newydd, gyda dysgwyr blwyddyn 6 yn mynd i Ysgol Y Strade am y dydd / YGB's Transition Day! All learners will spend the day in their new class, with year 6 learners going to Ysgol Y Strade for the day.
18.07.25 Diwrnod ola'r flwyddyn i'r dysgwyr/ Last school day of the year for the learners
21.07.2025 HMS / INSET
Dewch i ddarllen gyda ni! Come and read with us!
Rydym yn dal i chwilio am wirfyddolwyr sy'n gallu sbario awr fach fan hyn a fan draw i ddod i ddarllen Cymraeg, neu Saesneg gyda'n plantos bach ni! Oes amser sbar gyda chi fel rhieni, neu mamgus a thadcus, modrybedd ac ewythrod, i ddod i'r ysgol? (Cewch baned o de a bisgien!)
We are still looking for volunteers who can spare an hour or so here and there to come and read Welsh or English with our little ones! Do you have spare time as parents, or aunts and uncles, to come to school? (There's a cup of tea and a biscuit in it!)
Y clecs o lawr star! / The news from downstairs!
Am y newyddion diweddara' o'n dosbarthiadau, ewch i'n tudalen Instagram! For the latest news from our classes, visit our Instagram page!
Credits:
Created with images by Rawf8 - "Teddy bear sick in the hospital" • tatomm - "close up of calendar on the yellow table background, planning for business meeting or travel planning concept" • alswart - "Cricket Bat Crisscross" • TravelWorld - "Abbey road crossroad, London, UK" • deagreez - "Close up photo portrait of attractive lady shocked astonished touchinf summer glasses isolated pastel pink background" • Михаил Решетников - "Close-up of female hands on mini bongo drums. The girl plays a traditional ethnic percussion instrument" • santypan - "Smiling young woman using a camera to take photo." • PPJ - "Pinocchio on a bench" • dbvirago - "Four Empty Red Chairs"