Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern
GWELEDIGAETH Y CLWSTWR
Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.
Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.
Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.
Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.
Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.
Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.
Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.
Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.
Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.
Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.
Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.
Hanner Tymor 1
Chwyldro!
Nid mater o hen gerrig ac esgyrn yn unig yw safleoedd hanesyddol Cymru. Roedd y wlad yn chwaraewr blaenllaw yn Chwyldro Diwydiannol Prydain, a newidiodd yr ynysoedd hyn - a'r byd - am byth.
Amcan yr uned hon yw dysgu’r disgyblion am effaith y chwyldro ar ein gwlad ac ar ein hardal leol.
Beth oedd effaith y Chwyldro Diwydiannol ar Gymru?
Sut mae bywyd plant wedi newid yng Nghymru ers y Chwyldro Diwydiannol?
Cynnwys yr Uned:
Chwyldro diwydiannol - o Gymru amaethyddol i Gymru ddiwydiannol a dyfodiad ffatrioedd a phyllau glo.
Amodau gwaith a llafur plant y cyfnod.
Effaith y chwyldro ar fywydau plant Cymru.
Trychinebau Aberfan a Senghenydd
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Susan Rees
Teithiau a Phrofiadau
Ymweld a Phwll Mawr, Blaenafon
Prosiect Celfyddydol "Dawns y Chwyldro"
Celf: Gwaith arlunio yn seiliedig ar waith yr arlunydd Nicholas Evans.
Cerddoriaeth: Gwrando, gwerthuso a chyfansoddi
Dawns: Cyfansoddi a pherfformio "Dawns y Chwyldro"
Hanner Tymor 2
Hawl i fyw!
Ar ddechrau'r 20fed ganrif, fe wnaeth amddiffyn plant gychwyn cael ei drafod ac ei roi ar waith. Erbyn hyn mae 54 o hawliau mewn lle. Yng Nghymru mae gennym ni gomisiynydd plant ers 2001 a'i swydd yw dweud wrth bobl pam mae hawliau plant mor bwysig ac edrych ar sut mae’r penderfyniadau a wneir gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn effeithio ar hawliau plant.
Amcan yr uned hon yw i’r disgyblion ddeall yr hawliau a sut maent yn gallu cadw eu hunain yn ddiogel yn eu bywydau.
Beth yw hawliau plant?
Beth yw bod yn ddiogel ar y we?
Cynnwys yr Uned:
Hawliau Plant UNICEF 1990.
Beth yw rol comisiynydd plant Cymru? Pam fod hyn yn bwysig?
Cymharu hawliau plant yn y chwyldro diwydiannol gyda phlant heddiw.
Chwyldro’r Rhyngrwyd (Diogelwch ar y we)
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Malala Youfsazi
Teithiau a Phrofiadau
Swyddog Heddlu Ysgolion
Hanner Tymor 3
Codi Llais
Ers cyn cof mae pobl wedi bod yn codi llais i godi ymwybyddiaeth am wahanol bethau. Yn yr uned hon mae angen edrych ar y gwahanol ddulliau mae pobl wedi codi llais trwy brotestiadau heddychlon i derfysgoedd gyda thrais.
Erbyn diwedd yr uned mi fydd ein disgyblion yn gweld pwysigrwydd o godi llais er mwyn ceisio newid pethau er gwell.
Sut allwn ni ddefnyddio ein llais, er gwell?
Cynnwys yr Uned:
Merched Beca
Gwrthdystiadau enwog - rol menywod a cymunedau lleiafrifol.
Gwahaniaeth rhwng terfysg, protest a streic.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Twm Carnabwth
Anne Pettit
Teithiau a Phrofiadau
Amgueddfa Sain Ffagan - Tollbyrth
Prosiect Celfyddydol
Celf: Gwaith collage/graffiti yn seiliedig ar waith yr alunydd Ogwyn Davies.
Cerddoriaeth: Cyfansoddi a Pherfformio Rap!
Ffilm: Recordio a Golygu
Hanner Tymor 4
Does dim Planed B
Caerdydd yw’r 6ed ddinas yn y byd sydd fwyaf mewn perygl o lifogydd cefnfor o ganlyniad i gynhesu byd eang.
Yn mis Tachwedd 2022 fe ddywedodd arweinydd y cenhedloedd unedig Antonio Gutterres y “bydd y frwydr o newid hinsawdd yn cael ei hennill neu ei cholli yn y degawd hollbwysig nesaf”
Amcan yr uned hon yw i gael y disgyblion i weithredu ar y dyfyniad uchod ac i ymgyrchu a defnyddio ei llais er gwell.
Sut allwn ni weithredu i achub ein planed?
Cynnwys yr Uned:
Cynhesu Byd Eang - Beth sy'n achosi hyn?
Trychinebau Naturiol Diweddar
Ol troed Carbon
Creu Ymgyrch Ysgol / Clwstwr.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Greta Thundberg
Teithiau a Phrofiadau
SUSTRANS
Hanner Tymor 5
Yma o Hyd!
Mae gan Llywodraethwyr Cymru darged uchelgeisiol o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae’r Iaith Gymraeg ac ein diwylliannau yma o hyd er gwaethaf pawb a phopeth. Mae bod yn aml ieithog yn rhywbeth sy’n gyffredin iawn ar draws y byd. Yn yr uned hon byddwn yn edrych ar bwysigrwydd bod yn aml ieithog a hefyd ar ddatblygiad a thwf yr Iaith Gymraeg yn ein dinas.
Pam fod bod yn ddwyieithog o fantais?
Pam fod siarad Cymraeg yn bwysig ac yn rhywbeth i ymfalchio ynddo?
Cynnwys yr Uned:
Yr Anthem Genedlaethol.
“Y Welsh Not”
Addysg Gymraeg yn ffynnu yn y brifddinas
Pwysigrwydd dwyieithrwydd ar draws y byd ac yng Nghaerdydd.
Sefydliadau / Pobl sydd yn hybu yr Iaith Gymraeg yn ein cymuned.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Evan James a James James
O.M Edwards
Dafydd Iwan
Teithiau a Phrofiadau
Pobl cyfoes Cymraeg / Sefydliadau sy'n hybu'r Gymraeg.
Hanner Tymor 6
Menter a Busnes
Mae addysgu ein disgyblion am y byd gwaith yn rhan annatod o’n cwricwlwm ac yn un o liynnau aur ein clwstwr. Nod yr uned hon yw i’r disgyblion ddatblygu eu sgiliau entreprenuraidd ac iddynt feddwl a chael uchelgais am y math o yrfa yr hoffent ei ddilyn un dydd.
Sut allwn ni greu cwmni Cymreig llwyddiannus?
Cynnwys yr Uned:
Cwmniau llwyddiannus Cymreig ac edrych ar y cynnyrch o Gymru.
Creu cwmni a chreu cynnyrch i'w farchnata.
Cynnal Ffair Gyrfaoedd.
Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:
Entrepreneuriaid Caerdydd
Syr Terry Matthews (Celtic Manor)
Teithiau a Phrofiadau
Ymweld a busnesau / entreuprenuriaid lleol.
Prosiect Celfyddydol
Drama: Sgriptio a pherfformio
Cerddoriaeth: Gwerthuso a chyfansoddi
Ffilm: Dyfeisio a chreu - Creu rhaglen Den y dreigiau, trosleisio a golygu'r ffilm.