CYLCHLYTHYR RHAGFYR 2024 DECEMBER newsletter 2024

Themau tymor nesaf / Next term's themes

Y Byd, ei orffennol, ei bresennol a'i ddyfodol / The World, it's past, it's present, it's future

Gwerth y Mis/Value of the Month

Ionawr/January - Cyfrifoldeb/Responsibility

Chwefror/February - Gonestrwydd/Honesty

Hawl y Mis/Right of the Month

Ionawr/January - Erthygl 29 - Eich hawl i fod y gorau y gallwch fod / Article 29 - Your right to be the best you can be.

Chwefror/February - Erthygl 13 - Eich hawl i gael gwybodaeth / Article 13 - Your right to information.

Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember

06.01.2025 - HMS/INSET

Dydd Mawrth 07.01.2025 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

14.01.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Merched yr Urdd / Girls Urdd Netball Competition

21.01.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Pȇl-rwyd Cymysg yr Urdd / Mixed Urdd Netball Competition

24.01.2025 - 09:10 Gwasanaeth Blwyddyn 3 Assembly

03.02.2025-07.02.2025 - B5/6 - Ymweliad i Langrannog / Visit to Llangrannog

07.02.2025-09:10 Gwasanaeth Blwyddyn 2 Assembly

22.02.2025-02.03.2025 - Gwyliau/Holidays

03.03.2025 - HMS/INSET

Dydd Mawrth 04.03.2025 Tuesday - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school

Prydau Ysgol am Ddim / Free School Meals

A oes gan eich plentyn hawl i dderbyn prydau ysgol am ddim? Mae prydau ysgol am ddim yn gymorth hanfodol i lawer o deuluoedd, yn enwedig yn ystod y cyfnod heriol hwn. Gallant eich helpu i arbed arian, sicrhau bod eich plentyn yn cael cinio iach a maethlon, a hefyd o fudd i'r ysgol drwy gyllid ychwanegol.

I fod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, rhaid i chi fod yn derbyn un o'r budd-daliadau canlynol:

• Cymorth Incwm

• Lwfans Ceisio Gwaith ar sail incwm

• Lwfans Cyflogaeth a Chymorth sy'n gysylltiedig ag incwm

• Rhan VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999

• elfen gwarantedig o Gredyd Pensiwn

• Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl hefyd i Gredyd Treth Gwaith a bod gennych incwm gros blynyddol o ddim mwy na £16,190)

• Credyd Treth Gwaith - a delir am 4 wythnos ar ôl i chi roi'r gorau i fod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith

• Credyd Cynhwysol - os ydych yn gwneud cais ar neu ar ôl 1 Ebrill 2018 rhaid i incwm eich cartref fod yn llai na £7,400 y flwyddyn (ar ôl treth a heb gynnwys unrhyw fudd-daliadau a gewch)

Ni fydd teuluoedd sy'n derbyn credydau treth gwaith yn ogystal ag unrhyw un o'r budd-daliadau uchod yn gymwys.

Os nad ydych yn siŵr a ydych yn gymwys, a'ch bod yn derbyn unrhyw un o'r budd-daliadau uchod, rydym yn eich annog i gymryd yr amser i wneud cais, byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw eich statws cymhwysedd. Efallai y bydd angen i chi ddarparu prawf o'ch incwm neu fudd-daliadau, fel datganiad banc diweddar, slip cyflog, neu lythyr dyfarnu. Gallwch hefyd gael rhagor o wybodaeth am brydau ysgol am ddim ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Os ydych yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, efallai y byddwch hefyd yn gallu cael grantiau a chymorth ychwanegol gan y llywodraeth a sefydliadau eraill. Er enghraifft, efallai y byddwch yn gymwys i gael:

• Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, sy'n rhoi ad-daliad o £140 ar eich biliau ynni bob gaeaf

• Y Taliad Tywydd Oer, sy'n darparu £25 ychwanegol yr wythnos am gyfnodau oerach

• Y Rhaglen Bwyd a Hwyl, sy'n cynnig gweithgareddau a phrydau bwyd am ddim i blant yn ystod gwyliau'r ysgol

• Cronfa Cymorth Dewisol (DAF) | GOV. CYMRU

• Y Taliad Costau Byw, a fydd yn rhoi £900 i hawlwyr budd-dal prawf modd mewn tri rhandaliad dros y flwyddyn ariannol 2023-24

• Cronfa Deuluol - Os oes gennych blentyn anabl neu ddifrifol wael o dan dair oed, ac y byddech yn elwa o gael mynediad at gar, gallai'r rhaglen Cymorth Symudedd y Gronfa Deuluol helpu.

• Y Grant Cyfleusterau i'r Anabl, sy'n helpu i dalu am addasiadau i'ch cartref i'w wneud yn fwy hygyrch i berson anabl

Dyma rai enghreifftiau yn unig o'r grantiau a'r cymorth y gallech eu cael os ydych yn hawlio prydau ysgol am ddim. Mae llawer mwy ar gael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau a'ch anghenion. Gallwch chwilio am fwy o grantiau ar wefan Turn2us neu ewch i'r dudalen Hawlio Beth sy'n Perthyn i Chi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Gobeithiwn y byddwch yn manteisio ar y cyfle hwn ac yn gwneud cais am brydau ysgol am ddim os ydych yn gymwys. Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i les ac addysg eich plentyn, yn ogystal ag i gyllideb ac adnoddau'r ysgol. Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os oes angen unrhyw help arnoch gyda'ch cais, peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.

Is your child entitled to receive free school meals? Free school meals are a vital support for many families, especially in these challenging times. They can help you save money, ensure your child gets a healthy and nutritious lunch, and also benefit the school through extra funding.

To qualify for free school meals, you must be receiving one of the following benefits:

• Income Support

• income-based Jobseeker’s Allowance

• income-related Employment and Support Allowance

• support under Part VI of the Immigration and Asylum Act 1999

• the guaranteed element of Pension Credit

• Child Tax Credit (provided you’re not also entitled to Working Tax Credit and have an annual gross income of no more than £16,190)

• Working Tax Credit run-on - paid for 4 weeks after you stop qualifying for Working Tax Credit

• Universal Credit - if you apply on or after 1 April 2018 your household income must be less than £7,400 a year (after tax and not including any benefits you get)

Families receiving working tax credits in addition to any of the benefits above will not be eligible.

If you are not sure if you are eligible, and you do receive any of the benefits above we encourage you to take the time to apply, we will let you know what your eligibility status is. You may need to provide proof of your income or benefits, such as a recent bank statement, payslip, or award letter. You can also find out more information about free school meals on Carmarthenshire County Council’s website.

If you are eligible for free school meals, you may also be able to access additional grants and support from the government and other organisations. For example, you may be eligible for

• The Warm Home Discount Scheme, which gives a £140 rebate on your energy bills each winter

• The Cold Weather Payment, which provides £25 extra a week for colder periods

• The Food and Fun Programme, which offers free activities and meals for children during the school holidays

• Discretionary Assistance Fund (DAF) | GOV.WALES

• The Cost of Living Payment, which will give £900 to means-tested benefit claimants in three instalments over the financial year 2023-24

• Family Fund - If you have a disabled or seriously ill child under three, and would benefit from access to a car, the Family Fund Mobility Support programme could help.

• The Disabled Facilities Grant, which helps pay for adaptations to your home to make it more accessible for a disabled person

These are just some examples of the grants and support that you may be able to get if you claim free school meals. There are many more available, depending on your circumstances and needs. You can search for more grants on the Turn2us website or visit the Claim What’s Yours page on Carmarthenshire County Council’s website.

We hope that you will take advantage of this opportunity and apply for free school meals if you are eligible. It will make a big difference to your child’s wellbeing and education, as well as to the school’s budget and resources. If you have any questions or need any help with your application, please do not hesitate to contact us.

Chwaraeon / Sports

Mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn ystod yr hanner tymor yma gan gynnwys:

Pupils have taken part in various sporting activities during this half term including:

Blwyddyn 5/6 - Cystadleuaethau Rygbi'r Urdd yn Rhydaman / Rugby Competitions at Ammanford.

Blwyddyn 5/6 Cystadleuaeth pêl-rwyd yng Nghanolfan Hamdden Llanelli / Netball Competition at Llanelli Leisure Centre.

Blwyddyn 5/6 - Cystadleuaeth pêl-fasged yng Nghanolfan Hamdden Llanelli / Basketball Competition at Llanelli Leisure Centre

Blwyddyn 5/6 - Gwyl rygbi ym Mharc y Scarlets / Rugby festival at Parc y Scarlets

Plant Mewn Angen / Children in Need

Daeth y staff a'r disgyblion i'r ysgol yn eu pyjamas ar ddiwrnod Plant Mewn Angen. Codwyd £337. Diolch am eich cefnogaeth.

Staff and pupils wore pyjamas to school on Children in Need day. We raised £337. Thank you for your support.

Meithrin

Dyna beth oedd dechrau cyffrous i’r tymor newydd yn y Meithrin! Rydym wedi bod yn gweithio’n galed iawn yn ystod yr wythnosau diwethaf yn ymarfer caneuon newydd ar gyfer ein perfformiad o'r Geni. Roedd pawb yn gyffrous i rannu’r perfformiad gyda chi gyd a chlywed eich sylwadau. Fe wnaeth pawb yn arbennig o dda. Da iawn i bob un ohonoch! Mae wedi bod yn amser prysur iawn hefyd ar lawr y dosbarth, gyda llawer o gliter, paent a thinsel yn cael ei ddefnyddio i greu ein cardiau, calendrau, ac addurniadau arbennig. Mae wedi bod yn hyfryd i weld pawb yn gyffrous am y Nadolig gyda’r plant wrth eu bodd yn gwisgo i fyny fel Siôn Corn a'r corachod yn ein hardal lapio anrhegion a darganfod y pethau mae ‘Buddy yr Elf’ wedi bod yn gwneud adre ac yn y dosbarth. Cafodd pawb llawer o hwyl ar ein gwibdaith i weld sioe Nadolig Cyw. Roedd llawer iawn o wynebau hapus o amgylch pan gyrhaeddodd Siôn Corn i weld pawb. Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd. Rydw i’n edrych ymlaen at weld pob un ohonoch chi nôl yn yr ysgol yn 2025. Mwynhewch!

That’s what I call an exciting start to the new term in the nursery class! We have been working extremely hard during the last few weeks practicing for our Christmas concert. We were very excited for you to see our performance and to hear your thoughts on the performance. it was a great success, and the children were brilliant. Da iawn blant!! We have also been very busy in class using lots of glitter, paint, and tinsel to decorate our cards, calendars, and special Christmas decorations. It has been a magical and exciting time with the children dressing up as Santa and his elves in our packing presents area and hearing about what Buddy the elf has been getting up to at home and school. Everybody had lots of fun on our school magical trip to see the show ‘Nadolig Cyw’. Everybody’s faces lit up when Father Christmas came to visit. We would like to wish you all a Merry Christmas and a Happy New Year!! We look forward to welcoming you back to school in 2025. Enjoy!

.

Derbyn

Wel, mae hanner tymor prysur arall wedi dod i ben. Roedd ein thema y tymor hwn yn ffocysu ar ddatblygu ein sgiliau creadigol – o ganu ac actio i ddylunio a chreu.

Prif ffocws y dysgu fodd bynnag oedd Stori’r Geni. Bu’r plant yn brysur iawn yn dysgu caneuon ac ymarfer ar gyfer ‘Y Geni’. Gwnaethom ni gyd fwynhau perfformio ar y llwyfan a chanu am y Baban Iesu i’n teuluoedd a’n ffrindiau. Diolch i chi rhieni am wisgo’r plant mor hyfryd.

Dros yr wythnosau diwethaf cawsom lawer o hwyl yn gwneud ein crefftau Nadolig. Mae popeth yn edrych mor bert yn y dosbarth! Gwnaethom weithio yn hollol annibynnol i greu carden, addurn a chalendr ac mae pob un yn wych ac mor wahanol i’w gilydd. Yng nghanol yr holl paratoi buom yn lwcus iawn i fynd ar wibdaith i weld Sioe Nadolig Cyw. Cawsom amser ffantastig yn dawnsio a chanu gyda Cyw a’i ffrindiau a chawsom syrpreis mawr pan ddaeth Sion Corn i ymuno a nhw hefyd! Roedd llawer o gyffro ymysg y plant i gyd! Wrth i dymor prysur ddod i ben edrychwn ymlaen at gael ymlacio a mwynhau yn ystod y gwyliau yn barod ar gyfer hanner tymor arall o weithgareddau hwylus.

Dymunwn Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.

Well, another busy half term has come to an end. Our theme this term focused mainly on developing our creative skills – from singing and acting to design and creating.

However, the main focus of our learning was The Nativity. The children have been very busy learning songs and practicing for our “Nativity”. We all enjoyed being on stage and singing songs about Baby Jesus to our families and friends. A big thank you to you the parents for dressing the children in their beautiful costumes.

Over the last few weeks, we have had a lot of fun making our Christmas crafts. Everything looks so pretty in the classroom. We worked independently to create a card, decoration and calendar and they are all fantastic and so different from each other.

Amid all the preparations we were very lucky to see Cyw and her friends in their Christmas show! We had a fantastic time and enjoyed joining in with the singing and dancing. We had a big surprise when Santa turned up too! There was lots f excitement as you can imagine!

As a busy term draws to a close, we look forward to relaxing and enjoying the holidays in preparation for another half term of exciting activities.

We wish a Merry Christmas and a Happy New Year to you all!

Sioe Nadolig Cyw Christmas Show

Cafodd disgyblion y Meithrin a Derbyn amser hyfryd wrth ymweld â Cyw a'i Ffrindiau yn eu Sioe Nadolig yn Neuadd y Gwendraeth ar 6ed o Ragfyr.

The Nursery and Reception pupils had a lovely time when they visited Cyw and his friends at his Christmas Show in Neuadd y Gwendraeth on 6th December.

Sustrans

Rydym wedi cael ymweliadau gan Roger o gwmni Sustrans yr hanner tymor hwn. Mae Sustrans yn sicrhau bod pawb yn mwynhau'r manteision o gerdded, olwynion a beicio. Mae Blynyddoedd 1-4 wedi derbyn sesiynau sgwteri ac mae Roger wedi gweithio gyda Blynyddoedd 5 a 6 ar ddiogelwch a chynnal a chadw beiciau.

We have had visits from Roger at Sustrans this half term. Sustrans ensure that the benefits of walking, wheeling and cycling are enjoyed by everyone. Years 1-4 have received scooter sessions and Roger has worked with Years 5 and 6 on bike safety and maintenance.

Ffair Nadolig /Christmas Fayre

Cafodd yr Iau wahoddiad i berfformio yn Ffair Nadolig Plas-y-Sarn ar Dachwedd 16eg. Diolch i bawb a gymerodd rhan.

The Junior pupils were invited to perform at Plas-y-Sarn Christmas Fayre on 16th November. Thank you to everyone that took part.

Blwyddyn 1

A dyna ddiwedd ein taith ddysgu ar gyfer 2024 ym Mlwyddyn 1. Yn parhau â’n thema bwyd, bwyd, bwyd, rydyn ni wedi mwynhau dysgu am y plât bwyta'n iach a'r grwpiau bwyd sydd ynddo. Mae'r dysgwyr wedi bod yn brysur yn didoli ac yn creu prydau iach yn ein hardal chwarae rôl - y gegin ac maen nhw hefyd wedi dylunio bocs bwyd iachus a phobi bara i wneud brechdanau iach ar gyfer cinio iach yn barod ar gyfer parti Nadolig y dosbarth. Fe wnaethom ni fwynhau coginio ein trit bach siocled gyda Mrs Evans hefyd oherwydd rydyn ni wedi dysgu bod diet cytbwys yn ddiet iach!

Ym mathemateg, rydyn ni wedi bod yn dysgu am odrifau ac eilrifau a chyfri fesul 2. I orffen y tymor, gwnaethom ni fwynhau perfformio i chi yn ystod ein gwasanaeth carolau Nadolig ac rydym wedi bod yn greadigol wrth wneud ein cardiau a'n haddurniadau Nadolig, gobeithio y byddwch chi’n eu caru a’u trysori. Oddi wrth bawb ym mlwyddyn 1, rydyn ni’n dymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd.

And that’s a wrap on our 2024 learning journey in year 1. Continuing our food, food, food theme, we have enjoyed learning all about the healthy food plate and the food groups within. The learners have been busy sorting and making healthy meals in our kitchen role play area, have designed a healthy lunch box and have made homemade bread to make healthy sandwiches for a healthy lunch ready for the class Christmas party. We enjoyed making our little chocolatey treat too with Mrs Evans because we have learnt that a balanced diet, is a healthy diet!

In mathematics we have been learning about odd and even numbers and counting in 2’s. To end the term we have enjoyed performing for you during our Christmas carol service, getting creative and making our Christmas cards and decorations in which we hope you love and cherish. From Year 1, we wish you all a very merry Christmas and a happy new year.

Gwasanaeth Carolau / Carol Service

Cynhaliodd Blynyddoedd 1-3 a Blynyddoedd 4-6 eu Gwasanaethau Nadolig yn yr ysgol ar 4ydd a 5ed o Ragfyr. Diolch i’r disgyblion a’r staff am eu gwaith caled ac i chi rhieni am eich cefnogaeth.

Years 1-3 and Years 4-6 held their Christmas Services in school on 4th and 5th December. Thank you to the pupils and staff for their hard work and to you parents for your support.

Blwyddyn 2

Waw, mae hi wedi bod yn hanner tymor prysur! Rydyn ni wedi cael cymaint o hwyl gyda’n thema flasus… Siocled! Daeth y plant yn arbenigwyr trwy ddysgu popeth am siocled. Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw brosiect siocled yn gyflawn heb rywfaint o flasu - dim ond ar gyfer ymchwil wrth gwrs! Aeth y plant ymlaen i ddylunio a chreu siocledi Nadoligaidd eu hunain a’u gwerthu yn ein siop ysgol. Cyn yr holl hwyl siocled, daeth y plant yn dditectifs germau, gan gynnal arbrofion i weld sut mae germau'n teithio. Un o'u hoff ddarganfyddiadau oedd gweld pa mor bell y gall germau fynd wrth disian! Yna creuodd y plant iMovies gwych i ddysgu pawb sut i olchi eu dwylo yn iawn. Yng nghanol yr holl waith siocled, cawsom y cyfle i ddod i’r ysgol yn ein pyjamas i godi arian ar gyfer elusen Plant Mewn Angen. Roeddem hefyd yn ddigon ffodus i gael ymweliad gan y gwasanaeth ambiwlans, lle dringom ar yr ambiwlans a chael cyfle i holi’r parafeddyg. Yn ystod wythnos olaf y tymor, fe wnaethom gyflawni llawer o weithgareddau Nadoligaidd - o fowldio potiau clai i greu iMovies yn dangos sut i greu'r siocled poeth perffaith! Joio mas draw. Canodd y plant yn hyfryd yn ein fersiwn hwyl a chreadigol o’r Geni, a hynny, heb os nac oni bai oedd uchafbwynt y tymor! Daeth y tymor i ben gyda thaith hwylus i'r sinema. Diolch am eich holl gefnogaeth y tymor hwn. Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i chi!

Wow, what a busy half term it has been! We’ve had so much fun exploring our scrumptious theme… Chocolate! The children became mini chocolate experts, learning all about chocolate. Of course, no chocolate project would be complete without some tasting—purely for research, of course! After that, they designed their own festive Christmas chocolates, got their hands messy making them, and proudly sold them in our school shop. Future chocolatiers in the making? Before all the chocolate fun, we got serious about germs. The children became germ detectives, conducting experiments to see how germs travel. One of their favourite discoveries was seeing just how far a sneeze can travel! The children then created brilliant iMovies teaching everyone how to wash their hands properly. This half term wasn’t just about chocolate … for Children in Need, we rocked up to school in our pyjamas to raise money for a good cause. We were also lucky enough to have a visit from the ambulance service, where we climbed aboard the ambulance and got to question the paramedic. As December rolled in, the festive vibes took over. From moulding clay pots to creating iMovies showing how to whip up a perfect hot chocolate, the children embraced the holiday spirit. The children sang beautifully and brought festive cheer to everyone in our fun and creative version of the Nativity, which was undoubtedly the highlight of the term! We ended the term with a fun trip to the cinema. Thank you for all your support this term. Wishing you a very Merry Christmas and a Happy New Year!

Garddio / Gardening

Diolch i 'Adam yn yr Ardd' am ymweld â'r ysgol a gweithio gyda staff ar arddio effeithiol a sut i dyfu llysiau ffres. Rydym yn edrych ymlaen at dyfu hyd yn oed mwy o fathau gwahanol o lysiau yn yr ysgol i helpu i leihau gwastraff bwyd a milltiroedd bwyd i helpu'r amgylchedd.

Thank you to 'Adam yn yr Ardd' for visiting the school and working with staff on effective gardening and how to grow fresh vegetables. We are looking forward to growing even more different varieties of vegetables at school to help reduce food waste and food miles to help the environment.

Gweithdy / Workshop

Diolch i Rebecca a'r tîm Lles Addysg am weithio gyda Blwyddyn 5 a 6 ar weithdy i wella ymwybyddiaeth pwysigrwydd dod i'r ysgol - 'Miss School Miss Out'. Bydd y tîm yn dychwelyd i weithio gyda Blwyddyn 3 a 4 yn y flwyddyn newydd.

Thank you to Rebecca and the Education Welfare team for working with Years 5 and 6 on a workshop to improve awareness of the importance of attending school - 'Miss School Miss Out'. The team will be returning to work with Years 3 and 4 in the new year.

Sinema / Cinema

Aeth Blwyddyn 1, 2 a 3 i Sinema Crosshands wythnos yma i weld ffilm 'Paddington in Peru'. Dyma nhw'n mwynhau'r ffilm.

Years 1, 2 and 3 visited Crosshands Cinema this week and enjoyed watching the film 'Paddington in Peru'. Here they are enjoying the film.

Blwyddyn 3

Am hanner tymor prysur! Ynghyd â’r holl baratoadau ar gyfer y Nadolig rydym wedi bod yn dysgu popeth am olau a chylchedau. Rydym wedi bod yn datblygu ein sgiliau ymchwil trwy ddod o hyd i ffeithiau ar-lein am Joseph Swan a Thomas Edison a sut y gwnaethant ddyfeisio'r bwlb golau. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hon a'r hyn rydym wedi'i ddysgu am sut mae cylchedau trydanol yn gweithio, roeddem yn gallu ysgrifennu esboniad am y bwlb. Roedden ni’n gallu ysgrifennu am ei hanes, sut mae’n ein helpu ni heddiw a hefyd sut mae’r bwlb golau yn gweithio. Fe wnaethon ni hefyd ddefnyddio’r hyn roedden ni wedi’i ddysgu am gylchedau trydanol i greu Cerdyn Nadolig sy’n goleuo. Yn ystod yr wythnosau diwethaf rydym hefyd wedi bod yn datblygu ein sgiliau mesur trwy ddysgu am berimedr. Rydym wedi bod yn cyfrifo perimedr nifer o bethau gan gynnwys iard yr ysgol, ond rydym hefyd wedi bod yn defnyddio ein sgiliau datrys problemau i ddarganfod pellter un ochr trwy rannu. Mae’r paratoadau ar gyfer y Nadolig wedi bod yn hwyl ac yn gyffrous wrth i ni ymarfer a pherfformio ein gwasanaeth Carolau Nadolig gyda thwist! Gobeithio eich bod wedi mwynhau cymaint ag y gwnaethom ni. Gobeithio y cewch chi i gyd Nadolig Llawen ac edrychwn ymlaen at eich gweld yn ôl yn 2025!

What a busy half term it has been. Along with all the preparations for Christmas we have been learning all about light and circuits. We have been developing our research skills by finding facts online about Joseph Swan and Thomas Edison and how they invented the light bulb. Using this information and what we have learnt about how electrical circuits work we were then able to write an explanation regarding the bulb. We were able to write about it’s history, how it helps us today and also how the lightbulb works. We also used what we’d learnt about electrical circuits to create a light up Christmas Card. During the recent weeks we have also been developing our measuring skills by learning about perimeter. We have been calculating the perimeter of a number of things including the school yard, but we have also been using our problem solving skills to discover the distance of one side through division. The preparations for Christmas have been fun and exciting with rehearsals and performing our Christmas Carol service with a twist! We hope you enjoyed as much as we did. We hope you all have Merry Christmas and look forward to seeing you back in 2025!

Sgiliau / Skills

Buom yn ffodus iawn i gael ymweliad gan ddau barafeddyg, Fiona ac Ed, yn ddiweddar. Buon nhw'n gweithio gyda Blynyddoedd 4-6 yn y bore ac yn dysgu sgiliau bywyd mewn argyfwng brys pwysig iddynt. Yn y prynhawn, cafodd pob disgybl gyfle i fynd i mewn i’r ambiwlans.

We were very fortunate to have a visit by two paramedics, Fiona and Ed recently. They worked with Years 4-6 in the morning and taught them important emergency life skills. In the afternoon, all pupils had an opportunity to go inside the ambulance.

Blwyddyn 4

Mae gwyliau'r Nadolig wedi cyrraedd, ond cyn i chi greu mwy o atgofion melys, beth am edrych yn ôl ar waith eich plant yr hanner tymor hwn. Yn ein gwersi iaith rydym wedi bod yn canolbwyntio ar y genre; cyfarwyddiadau. Unwaith i ni ddysgu beth sydd angen er mwyn creu cyfarwyddiadau da, fe aethom ati i greu Granola ac yna mins peis. Nid oedd y granola yn llwyddiant mawr o ran blas, ond fe wnaeth y plant ddilyn pob cam o'r cyfarwyddiadau. Gobeithiwn bydd y mins peis llawer mwy blasus! Rydym wedi bod yn datrys problemau yn ein gwersi mathemateg a hefyd mesur mewn gramau. Roedd mesur yn gywir yn hanfodol wrth i ni goginio, felly cyn mynd ati i wneud hynny, fe wnaethom ni bwyso gwrthrychau gwahanol o amgylch y dosbarth - llyfrau, pensiliau, numicon a hyd yn oed esgidiau! Buon ni’n edrych ar faint o siwgr sydd mewn diodydd a chafodd llawer ohonom sioc wrth weld faint o siwgr sydd mewn rhai o’n hoff ddiodydd. Maen nhw’n iawn weithiau ond rhaid i ni sicrhau ein bod yn yfed dŵr. Daeth Alexandra Rees; dietegydd, mewn i drafod y grwpiau bwyd gyda ni. Roedd hi wedi'i syfrdanu gyda’r holl ffeithiau roeddwn yn gwybod yn barod! Fe wnaethon ni chwarae gemau a dyfalu faint o siwgr oedd yn bybrydiau gwahanol. Yn ystod ein gwersi ymarfer corff rydym wedi mwynhau dysgu llawer o sgiliau yn cynnwys pêl fasged a hoci. Mae gwersi Mr Jennings wedi bod yn llawer o hwyl ac roedd e'n falch iawn o’n perfformiad ni yn ystod ein gwasanaeth carolau. Mae’n rhaid i bawb gofio dod a recorders pob Dydd Iau os gwelwch yn dda. Parhewch i ddarllen dros y pythefnos o wyliau. Mwynhewch mas draw gyda’ch teuluoedd a ffrindiau ac fe welwn ni chi yn 2025!!.

The Christmas holidays have arrived, but before you create more fond memories, why not look back at your children's work this half term. In our language lessons we have been focusing on the genre; instructions. Once we learned what is needed to create good instructions, we set about creating Granola and then mince pies. The granola was not a great success in terms of taste, but the children followed the instructions every step of the way. We hope the mince pies will be much tastier! We have been solving problems in our maths lessons and also measuring in grams. Measuring correctly was essential when we were cooking, so before we got down to it, we weighed different objects around the class, books, pencils, numicon and even shoes! We looked at the amount of sugar in drinks and many of us were shocked to see how much sugar is in some of my favourite drinks. They are fine to drink at times but we must make sure we drink plenty of water. Alexandra Rees; a dietician, came in to discuss the food groups with us. She was amazed with all the facts we already knew! We played games and guessed how much sugar was in different snacks. During our p.e. lessons we have enjoyed learning many skills including basketball and hockey. Mr Jennings' lessons have been a lot of fun and he was very proud of our performance during our carol service. Everyone must remember to bring recorders every Thursday please. Continue reading over the two week holiday. Enjoy time over there with your families and friends and we'll see you in 2025!!.

Y Geni / The Nativity

Cafodd deuluoedd plant y Meithrin/Derbyn gyfle i weld perfformiad o'r 'Geni' yn ddiweddar. Cawsant y fraint o glywed 'Stori'r Nadolig' yn cael ei chyfleu mewn ffordd syml a phwerus.

The Nursery/Reception pupils performed 'The Nativity' for their families recently. They had the privilege of seeing and hearing the 'Christmas Story' portrayed in a simple and powerful way.

Blwyddyn 5

Dyna hanner tymor prysur arall wedi dod i ben! Mae Blwyddyn 5 wedi cyflawni llawer iawn yn yr wythnosau diwethaf. Rydym wedi bod wrthi’n paratoi ar gyfer ein Cinio Nadolig! Gwnaeth Blwyddyn 5 baratoi stwffin o flaen llaw yn y dosbarth, yn darllen rysáit, dehongli cymarebau a mesur a phwyso cynhwysion. Wedyn, aethant ati i ysgrifennu poster yn perswadio Mrs Anthony bod Pwdinau Efrog yn haeddu lle ar ein platiau Nadolig. Hefyd, ar ôl astudio rapwyr enwog a barddoniaeth ysgrifennon nhw rap am ein cinio a’i berfformio yn y dosbarth. Ar gyfer y cinio Nadolig, cynlluniodd ac ysgrifennodd Blwyddyn 5 fwydlen berswadiol ar gyfer ein byrddau Nadolig. Yn ein tasgau Celfyddydau Mynegiannol, bu Blwyddyn 5 wrthi’n gwino gorchudd bwrdd, creu dalwyr canhwyllau allan o glai a chardiau jôc ar gyfer y bwrdd Nadolig.

O’r diwedd, cyrhaeddodd y diwrnod lle roeddent yn barod i goginio a gweini eu cinio. Ond cyn hynny, gwnaeth Blwyddyn 5 gyfrifo cyllid ar gyfer y cynhwysion, elw a cholled y pryd o fwyd a pha gynhwysion oedd y gwerth gorau am arian. Wedyn, gwnaethant archebu popeth oedd angen arnynt ar gyfer y cinio. Aethant ati i olchi, plicio, pobi, berwi a rhostio pob dim yn barod am y cinio. Roedd y cinio yn flasus iawn ac roedd yn llwyddiant! Da iawn chi Blwyddyn 5!

Another busy half-term has come to an end! Year 5 have achieved a great deal in the past few weeks. We have been busy preparing for our Christmas Dinner. Year 5 prepared stuffing in advance in the classroom by reading the recipe, interpreting ratios, measuring and weighing ingredients. Then, they set about writing a poster persuading Mrs. Anthony that Yorkshire Puddings deserve a place on our Christmas plates. after studying famous rappers and poetry devices they also wrote a rap about our dinner and performed it in class.

For the Christmas dinner, Year 5 designed and wrote a persuasive menu for the Christmas table. In our Expressive Arts tasks, Year 5 have been decorating tablecloths, creating candle holders out of clay, and making joke cards for the Christmas table.

Finally, the day arrived when they were ready to cook and serve their dinner. But before that, Year 5 calculated the budget for the ingredients, the profit and loss of the meal, and which ingredients offered the best value for money. Then, they ordered everything they needed for the dinner. They washed, peeled, baked, boiled, and roasted everything in preparation for the meal. The dinner was very delicious and was a great success! Well done, Year 5!

Sgiliau Llanelli

Cafodd Blwyddyn 4, 5 a 6 amser arbennig yng Nghanolfan Sgiliau yr wythnos yma, Dyma rhai lluniau.

Years 4, 5 and 6 had a great time at Sgiliau this week. Here are some photographs.

Blwyddyn 6

Mae disgyblion Blwyddyn 6 wedi bod yn hynod o brysur dros yr hanner tymor diwethaf, gyda gweithgareddau a chyfleoedd yn yr ystafell ddosbarth a thu hwnt!

Bu'r disgyblion yn dysgu am blanhigion a'r rôl hanfodol sydd ganddyn nhw yn ein bywydau. Mae pawb hefyd wedi cael y cyfle i helpu gwerthu llysiau ffres o'r ysgol yn y Bocs Bwyd Blasus, gyda'r cynnyrch blasus yn cynnwys llysiau a dyfwyd gan y disgyblion eu hunain! Maent wedi cael cyfle i ddefnyddio technoleg newydd fel ‘Stop Motion’ i wneud gwaith o fewn y dosbarth. Hefyd bu pawb yn dilyn rhai o sesiynau byw Adobe Creative Cloud er mwyn datblygu eu sgiliau digidol.

Mae’r disgyblion wedi cael nifer o gyfleoedd chwaraeon dros yr hanner tymor yma. Cynrychiolodd disgyblion yr ysgol yng nghystadleuaeth Rygbi’r Urdd. Chwaraeodd criw o ddisgyblion Blwyddyn 6 mewn cystadleuaeth bêl-fasged am y tro cyntaf erioed. Bu'r llysgenhadon chwaraeon yn brysur yn cynnal clwb chwaraeon ar ôl ysgol, gan annog eraill i gymryd rhan mewn gweithgareddau iach. Ymwelodd y llysgenhadon hefyd â'r llyfrgell yn Llanelli, lle cawson nhw gyfle unigryw i weld tlysau Pêl-droed Uwch Gynghrair Lloegr a dysgu am eu hanes – profiad anhygoel! Hefyd, cafodd pawb y cyfle i ddysgu sut i ofalu ar ôl eu beiciau er mwyn cadw’n ddiogel ar y ffyrdd tu allan i’r Ysgol.

Mae’r disgyblion wedi cymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau gwahanol, gan gynnwys canu a pherfformio yn y gyngerdd carolau i’r rhieni. Hefyd, bu’r disgyblion yn cymryd rhan yn y gwasanaeth Cristingl yn Eglwys Llandyri, gan greu awyrgylch arbennig iawn. Rydym yn falch iawn o bob un disgybl am eu gwaith caled a’u hymrwymiad dros yr hanner tymor – llongyfarchiadau i bawb!

Year 6 pupils have been exceptionally busy over the past half term, with activities and opportunities both in the classroom and beyond!

The pupils have been learning about plants and the vital role they play in our lives. Everyone also had the chance to help sell fresh vegetables grown at the school through the Bocs Bwyd Blasus with the delicious produce including vegetables grown by the pupils themselves! They’ve had the opportunity to use new technology such as ‘Stop Motion’ for classroom projects. In addition, everyone participated in live Adobe Creative Cloud sessions to develop their digital skills.

The pupils have also enjoyed a range of sporting opportunities this half term.

Year 6 pupils represented the school at the Urdd Rugby competition. A group of Year 6 pupils played in a basketball tournament for the very first time. The sports ambassadors have been busy running an after-school sports club, encouraging others to take part in healthy activities. They also visited Llanelli Library, where they had a unique opportunity to see the Premier League football trophies and learn about their history – an incredible experience! Additionally, everyone learned how to care for their bikes to stay safe on the roads outside the school.

The pupils have taken part in a variety of different events, including singing and performing in the school’s carol concert for parents. They also participated in the Christingle service at Llandyri Church, creating a very special atmosphere.

We are very proud of every pupil for their hard work and dedication throughout the half term – congratulations to everyone!

Cristingl / Christingle

Cynhaliwyd ein Gwasanaeth Cristingl yn Eglwys Llandyri ar fore dydd Gwener, Rhagfyr 20fed. Cafwyd anerchiad gan Ficer Bale a darlleniadau gan y plant.

Year 2-6 pupils made their Christingles in school in readiness for the service led by Vicar Bale at Llandyry Church on Friday, 20th December.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda / Merry Christmas and a Happy New Year

Created By
Lynn Bridgewater