Gwerth y Mis/Value of the Month
Tachwedd/November - Heddwch/Peace
Rhagfyr/December - Cariad/Love
Hawl y Mis/Right of the Month
Tachwedd/November - Erthygl 6 - Mae gennych yr hawl i fywyd ac i dyfu i fod yn iach / Article 6 - Your right to life and to grow to be healthy.
Rhagfyr/December - Erthygl 10 - Eich hawl i weld eich teulu os ydynt yn byw mewn gwlad arall / Article 10 - Your right to see your family if they live in another country.
Dyddiadau pwysig i gofio / Important dates to remember
25.10.2025 - 02.11.2025 - Gwyliau / Holidays
03.11.2025 - HMS / INSET
04.11.2025 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol / Pupils return to school
04.11.2025 - B1-6 - Tocynnau sioe yr ysgol ar werth - mwy o fanylion i ddilyn / Tickets on sale for our school show - more details to follow
04.11.2025 - Noson Rieni Unigol yn yr ysgol i ddisgyblion Meithrin rhan-amser prynhawn / Individual Parents Evening in the school for the Nursery part-time afternoon pupils
06.11.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi'r Urdd yng Ngholeg Llanymddyfri / Urdd Rugby Competition at Llandovery College
07.11.2025 - B5/6 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Merched yr Urdd yng Ngholeg Llanymddyfri / Urdd Girls TAG Rugby Competition at Llandovery College
07.11.2025 - B3/4 - Cystadleuaeth Rygbi TAG Cymysg yr Urdd yng Ngholeg Llanymddyfri / Urdd Mixed TAG Rugby Competition at Llandovery College
10.11.2025-12.11.2025 - Noson Rieni Unigol yn yr ysgol / Individual Parents Evening in the school
15.11.2025 - Ffair Nadolig Plas-y-Sarn Christmas Fayre - 10:00
17.11.2025 - Chwistrell Ffliw/Flu Nasal Spray
18.11.2025 - Ffotograffydd/ Photographer - lluniau unigol/teulu / individual/family photos
21.11.2025 - Diwrnod Plant Mewn Angen - Mae'r Cyngor Ysgol wedi penderfynu gall y disgyblion wisgo dillad eu hunain. Gofynnwn yn garedig am gyfraniad o £1 tuag at yr elusen.
Children in Need Day - The School Council have decided that pupils can wear their own clothes. We kindly ask for a donation of £1 towards the charity.
26.11.2025 - Sioe ysgol i ddathlu 150 mlynedd / School show to celebrate 150 years - Theatr Ffwrnes - 18:00
05.12.2025 - Meithrin/Derbyn/Blwyddyn 1 - Sioe Nadolig Cyw yn Neuadd y Gwendraeth / Christmas Cyw Show at Neuadd y Gwendraeth
11.12.2025 - Meithrin/Derbyn - Cyngerdd Y Geni / The Nativity Concert - 09:30
15.12.2025 - Côr yr ysgol i ganu yn Asda Llanelli / School choir to sing at Asda Llanelli - 10:00
20.12.2025-04.01.2026 - Gwyliau Nadolig / Christmas Holidays
05.01.2026 - HMS/INSET
06.01.2026 - Plant i ddychwelyd i'r ysgol/Pupils return to school
Presenoldeb/Attendance
Y targed cenedlaethol ar gyfer presenoldeb ydy 95% neu’n uwch. Os ydy presenoldeb eich plentyn o dan 90% rydych wedi derbyn llythyr i wella presenoldeb. Bydd y llythyron nesaf yn mynd allan cyn gwyliau’r Nadolig!!
Mae colli 4 diwrnod ers dechrau’r flwyddyn yn golygu bod presenoldeb eich plentyn yn is na 90%.
Rydym wedi derbyn sawl galwad ffôn i gwyno bod llythyr wedi’i ddanfon gan nodi rhesymau megis:
- Roeddwn ar wyliau am y 5 diwrnod cyntaf a chawsom ganiatâd.
- Bu fy mhlentyn yn sâl.
- Roedd gan fy mhlentyn apwyntiadau meddygol
Ni ellir rhoi marc presenoldeb ar gyfer plentyn nad yw'n yr ysgol. Mae’n bwysig eich bod yn hysbysu’r ysgol am unrhyw absenoldeb er mwyn i ni wneud penderfyniad i awdurdodi’r absenoldeb neu beidio.
Diolch o flaen llaw am eich cydweithrediad.
The national target for attendance is 95% or better. If your child's attendance is under 90% you will have received a letter to improve attendance. The next letters will be out before the Christmas holidays!!
Missing 4 days since the start of the year means your child's attendance is below 90%.
We have received several phone calls since the letters went out complaining that a letter has been received because:
- I was on holidays for the first 5 days and got permission.
- My child was ill.
- My child had medical appointments
An attendance mark cannot be issued for a child who is not physically in school. It is important that you inform the school of any absence so that we can make a decision to authorise the absence or not.
Thank you in advance for your co-operation.
Cyfarfodydd Rhieni
Fe'ch gwahoddir i wneud apwyntiadau ar gyfer cyfarfodydd rhieni-athrawon nesaf yr ysgol. Bydd angen cadw lle arlein, ac yna bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal wyneb i wyneb yn yr ysgol.
Mae'r cyfarfodydd rhieni ac athrawon fel a ganlyn:
Dydd Mawrth 4ydd - Mercher 5ed o Dachwedd - Meithrin - Plant rhan-amser prynhawn.
Dydd Llun 10fed - Mercher 12fed o Dachwedd 2025 ar gyfer pob blwyddyn arall.
I wneud eich apwyntiadau, mewngofnodwch ar:
I fewngofnodi bydd angen i chi nodi:
• Eich enw cyntaf a'ch cyfenw
• Enw cyntaf, cyfenw a dyddiad geni eich plentyn
Rhaid i'r manylion mewngofnodi a nodwch gyd-fynd â'r rhai sydd gennym ar eich cyfer chi.
Bydd apwyntiadau ar gael i'w cadw o 12.30yp ar ddydd Gwener 24ain o Hydref.
Parents Meetings
You are invited to make appointments for the school’s next parent-teacher meetings. These meetings will be booked online, and then held face to face at the school.
The parent-teacher meetings are as follows:
Tuesday 4th - Wednesday 5th November 2025 - Nursery - Afternoon Part-time pupils.
Monday 10th – Wednesday 12th November 2025 for all other year groups.
To make your appointments please login at:
To login you will need to enter:
• Your first name and surname
• Your child’s first name, surname and date of birth
The login details you enter must match those we have on record for you.
Appointments will be available to book from 12.30pm on Friday 24th October.
I
Blaenoriaethau’r Cynllun Datblygu Ysgol – School Development Plan Priorities:
Dyma ein blaenoriaethau ar gyfer 2025-26 / Our priorities for 2025-26 are:
Gallwch weld mwy o fanylion trwy glicio ar y botwm isod / More information is available by clicking on the button below
Chwaraeon / Sports
Pȇl-droed/Football
Ar ddydd Llun, 6ed o Hydref aeth tîm Blwyddyn 5/6 i dwrnament pȇl-droed yn Ysgol Penrhos.
On Monday, 6th October Year 5/6 Football team took part in a tournament at Ysgol Penrhos.
Rygbi/Rugby
Dyma dîm Blwyddyn 5/6 yng ngŵyl Rygbi TAG ym Mharc-y-Scarlets ar ddydd Iau, 23ain o Hydref.
Here are Year 5/6 TAG Rugby team at a festival at Parc-y-Scarlets on Thursday, 23rd October.
Parc y Scarlets
Mwynhaodd Blwyddyn 5 a 6 ymweliad cyffrous i stadiwm Parc y Scarlets, lle cymeron nhw ran mewn taith o'r stadiwm a sesiwn sgiliau hwylus drwy gyfrwng y Gymraeg. Cafodd y disgyblion daith o amgylch prif ardaloedd y stadiwm, gan ddysgu am hanes y Scarlets a’r hyn sydd ei angen i redeg clwb rygbi proffesiynol. Yna datblygodd y plant eu sgiliau rygbi gyda hyfforddwyr a gyflwynodd y sesiwn yn gyfan gwbl trwy’r Gymraeg, gan helpu’r disgyblion i gryfhau eu gallu chwaraeon yn ogystal â’u sgiliau iaith Gymraeg. Roedd yn brofiad ymgysyllti ac ysbrydoledig yn cyfuno diwylliant, chwaraeon ac iaith mewn ffordd gofiadwy.
Year 5 and 6 enjoyed an exciting visit to Parc y Scarlets stadium, where they took part in a behind-the-scenes tour and a fun skills session through the Welsh medium. Pupils explored key areas of the stadium, learning about the history of the Scarlets and what it takes to run a professional rugby club. They then developed their rugby skills with coaches who delivered the session entirely in Welsh, helping the children strengthen both their sporting ability and their Welsh language skills. It was an engaging and inspiring experience that combined culture, sport and language in a memorable way.
Criced/Cricket
Diolch i Jeremy am ddod i'r ysgol i gynnal sesiynau criced gyda Blynyddoedd 2 i 6 yn wythnosol dros gyfnod o 4 wythnos.
Thank you to Jeremy for coming to the school to hold cricket sessions with Years 2 to 6 on a weekly basis for 4 weeks.
Llysgenhadon/Ambassadors
Dyma lysgenhadon chwaraeon yr ysgol - Carys, Ela, Rhys a Sophia. Gwnaethon nhw gymeryd rhan mewn cwrs arweinwyr Chwaraeon Ifanc yng Nghanolfan Hamdden Llanelli yn ddiweddar. Trefnwyd y cwrs gan Gampau'r Ddraig, i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth o sut i fod yn arweinwyr chwaraeon yn yr ysgol.
Here are the school's sports ambassadors - Carys, Ela, Rhys and Sophia. They attended a Sports Ambassadors training at Llanelli Leisure Centre recently. The course was organised by Dragon Sport and provided them with the knowledge and understanding of how to be a good sports leaders for the school.
Meithrin
Yn ystod yr hanner tymor yma rydym ni wedi bod wrth ein bodd yn astudio ein thema sef ‘Dyma fi’. Buom yn dysgu am emosiynau fel hapus a thrist a thrafod y rhain yn ystod amser cylch. Dysgom am bwysigrwydd teulu a ffrindiau, sut i ofalu am ein gilydd yn iawn a sut i fod yn ffrind da. Mewn sesiynau canu a thrwy ganu ein hoff gan ‘Pen, ysgwyddau, coesau, traed’, rydym wedi bod yn dysgu am y corff ac adnabod ble mae rhannau’r corff. Rydym hefyd wedi bod yn trafod ein hoff bethau i wneud yn yr ysgol ac adref. Yn ogystal â hyn buom yn dysgu sut i fod yn fwy annibynnol o amgylch y dosbarth. Rydym wedi bod yn helpu i lenwi’r potiau paent, torri papur i beintio a llanw’r twba dŵr gan ddefnyddio’r tap allanol. ‘BBBRRRRRRRRRR mae’n oeri!’ Rydym wedi sylwi bod y tywydd wedi dechrau newid tu allan. Trwy fynd am dro o amgylch yr ysgol, fe ddysgom am dymor yr hydref a beth sydd yn digwydd i’r coed a hefyd yr amgylchedd. Casglodd pawb lawer o bethau hydrefol i arddangos a'u defnyddio yn ein gweithgareddau yn y dosbarth ac yn yr ardal allanol - dail o wahanol liwiau, brigau er mwyn marcio, a defnyddiom gasgliad o bethau gwahanol i greu wynebau i ddangos sut rydym yn teimlo. Roedd pawb yn gyffrous ar ôl bod allan i gasglu mwyar duon o amgylch tir yr ysgol a'u defnyddio i greu a choginio crymbl. Blasus iawn! Mae pawb yn edrych ymlaen at weld beth fydd yn digwydd yn ystod yr hanner tymor nesaf. Mwynhewch y gwyliau!
During this half term we have been excited learning about our latest theme ‘This is me’. We’ve been learning about different emotions such as happy and sad and have discussed these during cycle time activities. We have learned many important messages during this theme, such as the importance of friends and family, how to care for each other and how to be a good friend. We’ve also been learning about the body and where the different body parts are through singing one of our favourite songs ‘Head, shoulders, knees and toes’. We have also been discussing some of our favourite things to do whilst at school and at home. We’ve further developed these skills by becoming more independent around the classroom. We have been helping to fill the paint pots in class, cut and restock paper to paint and draw, and use the outside tap to collect and fill the water tray. By going on a walk around the school grounds, we have started learning about the different seasons and what changes happen as months pass. ‘BBBRRRRRRRRRR It’s cold outside!’ We have been learning all about the autumn and what happens to the trees and its environment. We collected lots of autumnal objects to use in our activities inside and outside of the class - lots of different coloured leaves that were on the ground, branches for our marking activities and different things to create faces showing how we are feeling. Everybody was very excited after collecting blackberries from around the school and use them to prepare and make a crumble. It was very tasty! We are all looking forward to see what will happen during the next half term. Enjoy the holidays!
Derbyn
Mae’r hanner tymor cyntaf yn ein dosbarth newydd wedi hedfan a phob un yn hapus ac wedi ymgartrefu’n hyfryd yn y dosbarth Derbyn. Rydym wedi bod wrthi yn adeiladu ar, a dysgu sgiliau newydd yn ystod yr wythnosau diwethaf ac mae pawb wedi mwynhau’r holl adnoddau a’r gweithgareddau a gynigir yn y dosbarth.
Rydym wedi bod yn rhoi o’n gorau i geisio bod yn fwy annibynnol yn y dosbarth. Erbyn hyn rydym yn ysgrifennu ein henwau ar sticeri i’w rhoi ar ein ffrwythau, cofrestri ar gyfer cinio neu frechdanau, paratoi potiau paent a’u golchi pan fo angen, torri papur ein hunain ar gyfer marcio neu beintio a llenwi’r twba dwr tu allan.
‘Dyma Fi!’ yw ein ffocws ar gyfer y tymor hwn ac rydym wedi mwynhau dysgu gwahanol ganeuon i’n helpu i gofio rhannau’r corff yn y Gymraeg. Yn rhan o’n gweithgareddau cafwyd sawl cyfle yn ystod amser cylch i ddod i adnabod ein gilydd trwy sôn am ein diddordebau a’r hyn yr oedden ni’n hoffi ei wneud yn yr ysgol. Daeth hyn yn sylfaen i’n Gwasanaeth Dosbarth ychydig wythnosau yn ôl. Braf oedd cael croesawi ein rhieni a’n teuluoedd i fwynhau ein Gwasanaeth ac i rhannu holl weithgareddau ein dosbarth ni gyda nhw. Da iawn i chi gyd am wasanaeth hyfryd ac am berfformiad arbennig o dda.
Braf oedd cael mynd am dro o amgylch tir yr ysgol i sylwi ar newidiadau’r hydref. Casglom fês, dail a brigau i’w defnyddio fel rhan o’n gwaith yn y dosbarth. Fel rhan o waith yr hydref fe ddysgom y gân ‘Dail yr hydref’ gan ddefnyddio arwyddiaith. Rydym wedi creu coed hydrefol prydferth iawn sydd i’w gweld ar arddangosfa’r hydref – pob un a phatrwm gwahanol wedi eu creu wrth ddewis amrywiaeth o adnoddau o frwshys golchi llestri, i sbwng naturiol, i ddarnau o wlân cotwm wedi ei ddal gan begiau dillad! Tra allan ar ein helfa hydref fe sylwon ni ar fwyar duon yn tyfu yn y perthi. Casglom ni rhain ac fe aethom ati i greu crymbl bendigedig. Gwnaethom fwynhau ei fwyta, gydag ychydig bach o hufen ia hyfryd. Roedd yn fendigedig! Gwnaethom hefyd fwynhau stori ‘Cyfrinach y Bwgan Brain’ gyda’n gilydd ac rydym wedi bod yn brysur yn datblygu ein sgiliau creadigol wrth greu Bwgan Brain ein hunain. Mae sawl un gwych gyda ni yn barod ac maen nhw’n edrych yn hyfryd yn y dosbarth! Sylwom ar batrymau o’n cwmpas yn ystod yr wythnosau diwethaf hefyd ac rydym wedi mwynhau ail-greu a chreu patrymau ein hunain gan ddefnyddio eitemau hydrefol.
Mae wedi bod yn gyfnod prysur ond cyffrous iawn ac fe wnaethom ddathlu hanner tymor hapus a llwyddiannus trwy fwynhau siocled poeth hyfryd gyda’n gilydd ar ein prynhawn olaf cyn y gwyliau! Rydyn yn edrych ymlaen i ddychwelyd ar ôl y gwyliau i barhau â’n dysgu ac i ddechrau ar yr ymarferion wrth i ni baratoi ar gyfer ein perfformiad o’r Geni!
Our first half term in our new class has flown. We are all happy and have settled beautifully in the Reception class and have enjoyed learning new skills whilst continuing to develop others with the range of resources and activities offered in class.
During the last few weeks, we have been developing our independence in the classroom. We now write our names on stickers to put on our fruit, register for school dinner or sandwiches, prepare paint pots and wash them when needed, cut paper for mark making, drawing or painting and we fill the water tub outside using the hosepipe! It’s a lot of fun!
‘This is me’ is our focus during the term and we have had a lot of fun learning new songs that help us remember the names of different parts of the body in Welsh. As part of our daily activities there were several opportunities during circle time to get to know each other better by sharing our interest and what we liked to do at school. This became the foundation of our Class Assembly a few weeks ago. It was lovely to welcome our parents and families to enjoy with us and to share all the activities of our class with them. Well done to all of you for an excellent performance.
It was lovely to go for a walk together around the school grounds to notice the changes in nature during the autumn. We collected acorns, leaves and twigs of different sizes to use in our activities in class. As part of our autumn activities, we learnt the Welsh song ‘Dail yr hydref’ using ‘sign-along’. Our creative area has been a splash of red, brown, orange and yellow as the children created their very own autumnal trees. Each tree a different pattern as they chose from a variety of objects and resources - from dishwashing brushes to natural sponges, to cotton wool held by clothes pegs! Whilst out on our autumn hunt we noticed some blackberries growing in the bushes. We carefully picked some and made a fabulous crumble! We all enjoyed tasting it with a little bit of vanilla ice cream. It was delicious! We also enjoyed a story about a Scarecrow, and we have been busy developing out creating skills by making our own Scarecrow using different materials. We have some great ones already on display in the classroom! We noticed patterns around us during the last few weeks and we have enjoyed recreating these as well as creating our own patterns using autumnal items.
It has been a busy but very exciting few weeks, and we celebrated a happy and successful half term by enjoying a lovely hot chocolate together on our last afternoon before the holidays! We are looking forward to returning after the holidays to continue with our learning and begin our practising in preparation for our performance of the Nativity!
Blwyddyn 1
Rydyn ni wedi cael tymor hyfryd ym Mlwyddyn 1, yn llawn dysgu ac antur! Mae’r dosbarth wedi bod yn dysgu am ein pentref lleol, Trimsaran, ac wedi canolbwyntio ar ein coeden deulu, ein cartrefi, a hanes y pentref. Wrth edrych ar y pethau pwysig hyn sy’n gwneud “pwy ydw i?”, rydym hefyd wedi mwynhau dysgu stori “Y Tri Mochyn Bach”.
Roedd pawb wrth eu bodd yn perfformio’r stori o flaen yr ysgol gyfan a’n teuluoedd yn ein gwasanaeth dosbarth. I ddangos yr hyn yr ydym wedi’i ddysgu, fe wnaethom uno stori’r Tri Mochyn Bach gyda’n hysgol ni, y pwll glo, a gweithfeydd brics Trimsaran - roedd yn wych gweld y plant yn rhoi tro unigryw ar y stori!
Cawsom gyffro mawr un diwrnod amser cinio pan ddarganfu’r plant froga! Fe wnaethom ddod â’r broga i mewn i’r dosbarth, ymchwilio i sut i ofalu amdano, ac yna pleidleisio i ddewis enw iddo trwy ddysgu sut i greu graff. Roedd y plant wrth eu bodd yn dysgu am gylch bywyd y broga ac yn cymryd cyfrifoldeb am chwilio am fwyd iddo.
Ym Mathemateg, rydym wedi bod yn dysgu am werth lle o fewn degau ac unedau, 1 yn fwy ac 1 yn llai, ac am siapiau a’u priodweddau. Yn ein gwaith ysgrifennu, mae Aled Afal wedi bod yn ein helpu i gofio defnyddio prif lythrennau ar ddechrau brawddegau, gadael bylchau rhwng geiriau, ac atalnod llawn.
Rydym wedi cael tymor cyntaf gwych yn dod i adnabod ein gilydd ac edrychwn ymlaen at barhau i ddysgu gyda’n gilydd ar ôl yr hanner tymor.
We’ve had a wonderful first term in Year 1, full of learning and adventure! The class has been learning about our local village, Trimsaran, and focusing on our family tree, our homes, and the history of the village. As we explored these important ideas about “what makes me, me,” we also enjoyed learning the story of The Three Little Pigs.
Everyone loved performing the story in front of the whole school and our families during our class assembly. To showcase everything we’ve learned, we combined The Three Little Pigs story with our own Trimsaran School, the colliery, and Trimsaran Brickworks – it was fantastic to see the children bring a local twist to the tale!
One lunchtime we had great excitement when the children found a frog! We brought it into class, researched how to look after it, and voted to choose a name by learning how to make a graph. The children loved learning about the frog’s life cycle and taking responsibility for finding it’s food.
In Mathematics, we’ve been learning about place value within tens and units, one more and one less, and exploring shapes and their properties. In our writing, Aled Afal has been helping us remember to use capital letters, spaces between words, and full stops.
We’ve had a lovely first term getting to know one another and we’re looking forward to continuing our learning together after half term.
Gwasanaeth Diolchgarwch / Thanksgiving Service
Cafodd blant Blwyddyn 2-6 eu Gwasanaeth Diolchgarwch yn Eglwys Llandyri ym mis Medi. Diolch i Ficer Suzy Bale am ein harwain ac i'r plant am gymryd rhan.
Years 2-6 visited Llandyry Church for our annual Thanksgiving Service in September. Thank you to Vicar Suzy Bale for and to the pupils for taking part.
Blwyddyn 2
Yr hanner tymor hwn, mae Blwyddyn 2 wedi cael llawer o hwyl yn dysgu popeth am sut oedd bywyd ysgol yn yr Oes Fictoria! Mae'r plant wedi mwynhau cymharu sut oedd yr ysgol bryd hynny a nawr, gan ddarganfod rhai o'r rheolau llym iawn a'r cosbau anarferol a arferai plant Fictoraidd gael. Maent wedi gwrando ar gerddoriaeth o'r cyfnod Fictoraidd a hyd yn oed wedi casglu a dadansoddi data am ba ddarnau oedd eu ffefrynnau. Mae'r dosbarth hefyd wedi dysgu am ddyfeisiadau arwyddocaol o'r cyfnod Fictoraidd, gan gynnwys y ffôn, y bylbiau golau, toiled sy’n fflysio a'r telegraff, lle cawsant hyd cyfle i ddysgu am y côd Morse! Mwynhaodd y plant wneud a chwarae gyda theganau Fictoraidd fel pêl mewn cwpan a thawmatropau, yn ogystal â rhoi cynnig ar gemau traddodiadol fel sgitls a hopscotch. Fel rhan o'u gwaith creadigol, gwnaethant silwetau hardd gan ddefnyddio arddull Fictoraidd, gan ddangos sylw mawr i’r manylion. Mae'r plant bellach yn gyffrous iawn am eu taith i Sain Ffagan i weld sut beth oedd bywyd Fictoraidd
This half term, Year 2 have had lots of fun learning all about what school life was like in the Victorian days! The children have enjoyed comparing what school was like then and now, discovering some of the very strict rules and unusual punishments Victorian children used to have. They have listened to music from the Victorian era and even collected and analysed data about which pieces were their favourites. The class have also learnt about significant inventions from the Victorian period, including the telephone, light bulb, flushing toilet and the telegraph, where they even had a go at learning Morse code! The children particularly enjoyed making and playing with Victorian toys such as ball in a cup and thaumatropes, as well as trying out traditional games like skittles and hopscotch. As part of their creative work, they made beautiful Victorian-style silhouettes, showing great attention to detail. The children are now very excited for their upcoming trip to St Fagans, where they will get to see what Victorian life was like!
Blwyddyn 3
Mae hanner tymor cyntaf y flwyddyn wedi hedfan heibio. Rydym wedi bod yn brysur yn cwblhau tasgau ffocws, a chwblhau heriau yn annibynnol. Ynghyd a’r holl waith yma, rydym wedi bod yn ymarfer ar gyfer ein sioe.
Yn ein gwersi iaith rydym wedi dysgu am y genre cyfarwyddiadau. Dysgom pryd byddwn yn defnyddio cyfarwyddiadau a dilynom gyfarwyddiadau er mwyn plannu bylbiau daffodil. Yna aethom ati i ysgrifennu cyfarwyddiadau. Rydym hefyd wedi dechrau ysgrifennu yn y Saesneg. Rydym wedi dilyn cyfarwyddiadau ar sut i greu awyren bapur. Fe wnaethom ddau, roedd yn anodd iawn creu'r awyren yn annibynnol!
Rydym wedi bod yn ymarfer ein sgiliau rygbi tag yn ystod ein gwersi ymarfer corff. Buom hefyd yn lwcus iawn i gael Jeremy o Criced Cymru yn hyfforddi ni gyda ein sgiliau bowlio, taflu, maesu a tharo.
Yn ein gwersi thematig rydym wedi bod yn ffocysu ar gerddoriaeth. Rydym wedi edrych ar rhannau gwahanol y gerddorfa ac wedi gwrando ar gerddoriaeth gwahanol o Gymru a myfyrfio ar y gerddoriaeth yma. Rydym wedi creu cerddoriaeth ein hun ar Chrome Music Lab ac wedi myfyrfio ar hynny hefyd. Rydym wedi gwneud llawer o waith gyda Micro-bit. Rydym wedi codio metronom, creu melodi a chreu Jiwc bocs.
Rydym yn ddisgyblion uchelgeisiol, annibynnol a brwdfrydig iawn. Diolch yn fawr i chi am ddarllen yn gyson gyda’ch plant, parhewch i wneud hyn os gwelwch yn dda. Mwynhewch yr hanner tymor yn creu atgofion newydd.
The first half term of the year has flown by. We have been busy, completing focus tasks, and undertaking challenges independently. We have been very busy. Along with all this work, we have been practicing for our show.
In our language lessons, we have been learning about the instructions genre. We have learnt when we will use instructions and followed instructions to plant daffodil bulbs. Then we went on to write instructions. We have also started writing in English. We followed instructions on how to make a paper aeroplane. We made two; it was very difficult to follow the instruction independently!
We have been practicing our tag rugby skills during our PE lessons. We were also very lucky to have Jeremy from Cricket Wales coaching us with our bowling, throwing, catching, and hitting the ball.
In our thematic lessons, we have been focusing on music. We have looked at different parts of the orchestra and have listened to different music from Wales, reflecting on the music. We have created our own music on Chrome Music Lab and have reflected on that as well. We have done a lot of work with Micro-bit. We have coded a metronome, created a melody, and created a jukebox.
We are very ambitious, independent, and enthusiastic students. Thank you very much for reading regularly with your children; please continue to do this. Enjoy the half-term by creating new memories.
Diogelwch / Safety
Cafodd Blwyddyn 3–6 ymweliad gwerthfawr gan ein PCSO lleol, a ddaeth i siarad â’r disgyblion am 'Operation Bang', ymgyrch sy’n canolbwyntio ar bwysigrwydd diogelwch tân gwyllt. Yn ystod y sesiwn, dysgodd y plant sut i fwynhau tân gwyllt yn gyfrifol a sut i aros yn ddiogel yn ystod dathliadau Noson tân gwyllt. Roedd yn sgwrs addysgiadol ac ymgysylltiol a helpodd i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo diogelwch yn ein cymuned.
Years 3–6 had a valuable visit from our local PCSO, who came to speak to the pupils about 'Operation Bang', a campaign focused on the importance of fireworks safety. During the session, the children learned how to enjoy fireworks responsibly and how to stay safe during Bonfire Night celebrations. It was an informative and engaging talk that helped raise awareness and promote safety in our community.
Taith Miwsig Peripatetic Music Tour
Aeth Blwyddyn 4 a 5 i Neuadd y Gwendraeth ym mis Medi i glywed athrawon cerdd y Sir yn chwarae mewn cerddorfa. Cafwyd bore hyfryd yn gwrando ar y gerddoriaeth a gobeithiwn ei fod wedi ysbrydoli mwy o blant i ddysgu chwarae offeryn.
In September, Years 4 and 5 pupils had an opportunity to listen to the County's Peripatetic Music Teachers playing in an orchestra at Neuadd y Gwendraeth They had an enjoyable morning listening to the music and hopefully this may have inspired more children to play an instrument.
Blwyddyn 4
Mae Blwyddyn 4 wedi cael hanner tymor cyntaf prysur iawn. Aethon ni ar daith i’r Big Pit ble cafodd y disgyblion gyfle i fynd o dan ddaear i weld y pyllau glo. Tywyswyd pawb o gwmpas mewn grwpiau bach gan ddangos y gwahanol swyddi oedd gan bobl flynyddoedd yn ôl yn y pyllau glo. Cafodd y disgyblion gyfle i gerdded o gwmpas y safle gan gynnwys yr amgueddfa. Dysgwyd llawer am hanes y pwll glo beth oedd bywyd fel i bobl yn y gorffennol.
Mae blwyddyn 4 wedi cael nifer o gyfleoedd chwaraeon yn ystod yr hanner tymor. Maent wedi cael sesiynau wythnosol criced er mwyn gallu datblygu sgiliau dal, taflu a batio. Cafodd pawb gyfle i gael sesiwn Jujitsu am ddim ac yn dilyn hyn, penderfynodd rhai eu bod nhw eisiau cael gwersi wythnosol Jujitsu ar ôl ysgol. Hefyd, mae’r dosbarth wedi dechrau gwersi recorders gyda Mr Jennings. Bydd y gwersi yn parhau ar ôl hanner tymor.
Ar ddechrau hanner tymor nesaf, bydd yr Ysgol yn dathlu 150 o flynyddoedd drwy berfformio sioe Ysgol gyfan. Rydym wedi bod yn brysur yn ymarfer llawer o ganeuon newydd ar gyfer y sioe gyda llawer o ddisgyblion blwyddyn 4 yn rhan bwysig o’r dawnsio a rhai unigolion hefyd yn actio.
Year 4 have had a very busy first half term. We went on a trip to the Big Pit where the pupils had the opportunity to go underground to see the coal mines. Everyone was guided around in small groups and shown the different jobs people used to have in the coal mines years ago. The pupils also had the chance to walk around the site, including the museum. They learned a lot about the history of the coal mine and what life was like for people in the past.
Year 4 have had several sporting opportunities during this half term. They have had weekly cricket sessions to help them develop their catching, throwing, and batting skills. Everyone also had the chance to take part in a free Jujitsu session, and following this, some pupils decided they wanted to have weekly after-school Jujitsu lessons. The class have also started recorder lessons with Mr Jennings, which will continue after half term.
At the start of next half term, the school will celebrate its 150th anniversary by performing a whole-school show. We have been busy practising lots of new songs for the show, with many Year 4 pupils playing an important part in the dancing, and some individuals also taking on acting roles.
RotaKids
Dewisodd Pwyllgor RotaKids gefnogi ymgyrch Rotari Rhyngwladol i roi diwedd ar Polio nawr ac am byth. Mae polio yn glefyd dinistriol sy’n dal i effeithio ar blant mewn rhai rhannau o’r byd, ond gyda’n gilydd gallwn helpu i’w ddileu am byth.
I godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer yr achos hanfodol hwn, cynhaliom ddiwrnod “Porffor dros Polio” ar ddydd Iau, 23ain o Hydref. Cafodd y disgyblion gyfle i wisgo rhywbeth porffor ac i ymuno â ni i gerdded 1,240 o gamau — sy’n cynrychioli’r milltiroedd a gerddir gan wirfoddolwyr ledled y byd i gyflwyno brechlynnau sy’n achub bywydau.
Gofynnodd RotaKids i’r disgyblion am rodd o £1 i gefnogi’r ymgyrch bwysig hon. Gall pob brechiad polio gostio cyn lleied â 20c, felly gall eu rhoddion achub bywydau a helpu i greu hanes. Yr hyn sy’n fwy ysbrydoledig fyth yw bod pob rhodd i Rotari yn cael ei threblu gan Gronfa Bill a Melinda Gates, sy’n golygu bod pob £1 yn troi’n £3.
RotaKids Committee chose to support Rotary International’s campaign to End Polio Now. Polio is a devastating disease that still affects children in some parts of the world, but together, we can help make it a thing of the past.
To raise awareness and funds for this vital cause, we held a “Purple for Polio” day on Thursday, 23rd October. Pupils had an opportunity to wear something purple and joined us in walking 1,240 steps — representing the many miles walked by volunteers around the world to deliver life-saving vaccines.
RotaKids asked pupils for a £1 donation to support this important campaign. Each polio vaccination can cost as little as 20p, so their donations can literally save lives and help make history. What’s even more inspiring is that every donation to Rotary is trebled by the Bill & Melinda Gates Foundation, meaning that every £1 becomes £3 — tripling the impact of your generosity.
Blwyddyn 5
Dechreuodd Blwyddyn 5 y flwyddyn ysgol newydd gyda’r thema ‘Celf, Cynefin, Cymuned’. Yr hanner tymor hwn, rydym wedi canolbwyntio ar y celfyddydau mynegiannol wrth archwilio hanes cyfoethog Trimsaran i ddathlu carreg filltir arbennig iawn: 150 mlynedd o Ysgol Trimsaran!
Fel rhan o’n dysgu, rydym wedi bod yn ymchwilio i’r pwnc o fudo. Dechreuon ni drwy edrych ar fudo hanesyddol i Drimsaran, gan ddarganfod sut y symudodd pobl o Loegr i’r pentref i weithio yn y diwydiannau lleol fel y gwaith brics a’r pyllau glo. Ysgogodd hyn ddiddordeb dyfnach mewn mudo yn y byd heddiw, gan ein harwain i archwilio sut mae mudo’n edrych yn 2025.
Fel dosbarth, rydym wedi edrych ar y artist Cymreig Nicholas Evans, sy’n enwog am ei bortreadau o’r diwydiant glo yng Nghymru. Defnyddiodd Blwyddyn 5 amrywiaeth o siarcol a cherdyn i efelychu eu gwaith. Roedd eu hymdrechion yn effeithiol iawn ac maen nhw’n edrych yn wych ar wal ein dosbarth!
Ar ôl archwilio’r thema o fudo, penderfynodd Blwyddyn 5 ysgrifennu cân am y mudo i Drimsaran yn ystod y 1800au. Gan ein bod wedi dysgu’r gân ‘Pink Pony Club’ yn ein gwersi chwithbren yn ddiweddar, fe ddewisom ysgrifennu ein geiriau ein hunain i’r un alaw. Roedd yn wych gweld y disgyblion yn cydweithio’n greadigol, gan ddefnyddio’r eirfa newydd maen nhw wedi’u dysgu dros yr wythnosau diwethaf. Gwnaethom ddefnyddio geiriaduron, thesawrws, geiriau sy’n odli, ac amryw o ddyfeisiau barddonol i lunio’r gân.
Unwaith y cwblhawyd y geiriau, cytunodd Blwyddyn 5 i ddatblygu eu sgiliau cyfryngau a chymhwysedd digidol drwy greu fideo cerddoriaeth i gyd-fynd â’r gân. Buom yn archwilio gwahanol onglau camera a thechnegau, ac yn cynllunio’n ofalus y lleoliadau ar gyfer ffilmio. Ar ôl hanner tymor, rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ffilmio ein fideo cerddoriaeth.
The first half-term has come to an end and what a fantastic start to the year it’s been! Year 5 launched into the new school year with the theme ‘Celf, Cynefin, Cymuned’. This term, our focus has been on the expressive arts as we’ve explored the rich history of Trimsaran in celebration of a very special milestone: 150 years of Ysgol Trimsaran!
As part of our theme, Year 5 have been investigating the topic of migration. We began by looking at historical migration to Trimsaran, discovering how people from across England moved to the village to work in local industries such as the brickworks and coal mines. This sparked a deeper interest in modern-day migration, leading us to explore what migration looks like in 2025.
As a class, we have looked at the Welsh artist Nicholas Evans, who is known for his depictions of the mining industry in Wales. Year 5 used a range of charcoals and card to emulate his work. The interpretations were very effective and look great on our classroom wall!
After exploring the topic of migration, Year 5 decided to write a song about the migration to Trimsaran during the 1800s. Having recently learned the song ‘Pink Pony Club’ in their reocrder lessons, we chose to write our own lyrics to the same tune. It was wonderful to see the pupils working collaboratively, using the new vocabulary they’ve acquired over the past few weeks. We made great use of dictionaries, thesauruses, rhyming words, and various poetic devices to craft our song.
Once the lyrics were complete, Year 5 agreed to develop their media and digital competency skills by creating a music video to accompany the song. We explored different camera angles and techniques and carefully planned out the locations for filming. After the half-term break, we’re excited to begin filming our music video!
Disgo Gwisg Ffansi / Fancy Dress Disco
Cafodd y disgyblion gyfle i ddod nôl i'r ysgol ar nos Fercher, 22ain o Hydref am Ddisgo Gwisg Ffansi. Gwnaethon nhw fwynhau'r dawnsio a'r gemau yn fawr iawn.
Pupils had an opportunity to come back to school on Wednesday, 22nd October for our Fancy Dress Disco. They enjoyed the dancing and games very much.
Blwyddyn 6
Allwch chi gredu bod ein disgyblion Blwyddyn 6 yn eu blwyddyn olaf yn yr ysgol gynradd? Mae amser wir yn hedfan! Mae’r plant wedi dychwelyd i’r ysgol yn llawn egni ac wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn setlo nôl i fywyd yr ysgol. Mae ein thema’r tymor hwn wedi canolbwyntio ar y paratoadau ar gyfer ein sioe ysgol, ac rydym wedi bod yn archwilio amrywiaeth eang o sgiliau o fewn y celfyddydau mynegiannol. Mae’r disgyblion wedi bod yn gweithio’n wych mewn grwpiau i gynllunio a chreu rhaglen deledu eu hunain. Byddant yn cynnal cyfweliadau â chriw’r sioe ysgol, yn ogystal â siarad â phobl yn y gymuned leol i ddysgu mwy am hanes Trimsaran. Fel rhan o’r prosiect, mae’r plant hefyd wedi bod yn defnyddio Adobe i ddylunio logos trawiadol a GarageBand i gyfansoddi cerddoriaeth gyflwyno ar gyfer eu rhaglen. Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at ddechrau ffilmio ar ôl hanner tymor! Yn ogystal â’u gwaith creadigol, mae Blwyddyn 6 wedi mwynhau cymryd rhan mewn gwersi criced, sesiynau blas jiw-jitsu, a hyd yn oed ymweliadau â’r Scarlets, lle dysgon nhw am wahanol swyddi a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Rydym hefyd wedi bod yn gyffrous iawn yn trafod a chynllunio ein teithiau i Lundain a’r Iseldiroedd - cyfleoedd anhygoel! Blwyddyn olaf wych i’n disgyblion Blwyddyn 6!
Can you believe our Year 6 pupils are in their final year of primary school? Time really does fly! The children have returned to school full of energy and enthusiasm and have spent the past few weeks settling back into school life. Our theme this term has been focused on the build-up to our school show, and we’ve been exploring a wide range of skills across the creative arts. The pupils have been working brilliantly in groups to plan and create their very own television programme. They’ll be interviewing members of the school show cast, as well as speaking with people in the local community to learn more about Trimsaran’s history. As part of the project, the children have also been using Adobe to design eye-catching logos and GarageBand to compose introductory music for their programme. We’re all very excited for filming to begin after half term! In addition to their creative work, Year 6 have enjoyed taking part in cricket lessons, jiu-jitsu taster sessions, and even visits to the Scarlets, where they learned about different jobs and the importance of the Welsh language. There’s also been a real buzz of excitement as we start to look ahead to our trips to London and the Netherlands later this year — what amazing opportunities these will be! It’s shaping up to be a fantastic final year for our Year 6 pupils, and we can’t wait to see what’s next.
Sain Ffagan / St Fagans
Cafodd Blynyddoedd 1, 2, 3, 5, a 6 ymweliad i Amgueddfa Genedlaethol Hanes Sain Ffagan fel rhan o’u thema yn archwilio’r gwahaniaethau rhwng hen a newydd. Yn ystod y daith, cymharodd y disgyblion adeiladau hanesyddol, arteffactau, a ffordd o fyw gyda’u bywyd modern, gan gael dealltwriaeth ymarferol o sut mae bywyd wedi newid dros amser.
Hefyd, cymeron nhw ran mewn gweithdy ymarferol yn Ysgol Sain Ffagan, gan eu helpu i ddeall pa mor wahanol yw ysgolion heddiw, sy'n defnyddio technoleg fodern a dysgu rhyngweithiol.
Rhoddodd y daith a’r gweithdy ffordd gofiadwy a byw iawn i ddisgyblion gysylltu â hanes.
Years 1, 2, 3, 5, and 6 visited St Fagans National Museum of History as part of their theme exploring the differences between old and new. During the trip, pupils compared historical buildings, artifacts, and ways of life with modern equivalents, gaining a hands-on understanding of how life has changed over time.
They also took part in a hands-on workshop at St Fagans School, helping them understand how different it is from today's schools, which use modern technology and interactive learning.
The visit and workshop together provided a memorable and immersive way for pupils to connect with history.