Tafod Tirdeunaw Rhifyn 9 ~ Rhagfyr 2023

Cam Cynnydd 1

Mae plant y Derbyn wedi bod yn mwynhau treulio amser yn ein ardal allanol / The children ahve been enjoying spending itme in our outdoor area learning through play.
Plant y Derbyn a Meithrin wedi gwisgo yn lliwgar gyda smotiau ar gyfer Plant mewn Angen eleni. / The Reception and Nursery children dressed colourful and spotty for Children in Need this year
Plant y Derbyn wedi mwynhau gweithdy plannu gydag Adam yn yr ardd, roedden wedi plannu garlleg, winwns a roced yn yr ardal allanol. Edrychwn ymlaen i weld y planhigion llwydiannus! / The reception children enjoyed a planting workshop with 'Adam yn yr ardd' they planted onions, garlic and rocket in our outdoor area. We look forward to see the successful plants in the spring!
Gweithdy bale arwyr gan Miss Dani o Tiny Toes ballet ar gyfer ein wythnos gyrfaoedd / A superhero ballet session by Miss Dani from Tiny Toes ballet during our careers week.
Dathlu Cwpan y Byd eleni wrth wisgo coch a chefnogi Cymru! / Celebrating the Rugby World Cup this year by wearing red and supporting Wales!
Plant wedi creu hudlath arwyr yn ein ardaloedd creadigol yn ystod ein thema arwyr. / The children made superhero wands in our creative areas during our hero theme.
Sioe Nadoligaidd yn yr ysgol gyda Siani Sionc, hwyl yn canu a dawnsio gyda phawb! / A Christmassy show with Siani Sionc in the school, fun singing and dancing by all!
Cinio Nadolig blasus yn yr ysgol, rioedd y plant wedi mwynhau creu hetiau Nadolig ar gyfer cinio Nadolig. The children enjoyed making Christmas hats and having Christmas lunch in school.
Ymweliad Nadoligaidd i ganolfan chwarae Cwtsh Newydd, llwyr haeddiannol ar ol weithio'n galed trwy'r tymor / A Christmas visit to Cwtsh Newydd play centre, well deserved after working hard all term.

Cam Cynnydd 2

Wythnos Ysbrydoli / Inspiration Week

Yn ystod wythnos ysbrydoli, cafodd disgyblion y cyfle i edrych ar arteffactau hanesyddol y byddai plant wedi'u defnyddio yn yr ysgol flynyddoedd yn ôl. Buont yn edrych ar lyfrau amrywiol oedd yn dangos hen adeiladau ysgol. Rhodd gyfle i'r disgyblion gymharu adeilad newydd yr ysgol ag ysgolion mewn hanes. Roedd yr wythnos yn canaiatáu i'r plant ddod i adnabod eu hathro newydd ac ysgrifennu rheolau priodol ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd.

During inspiration week, pupils had the opportunity to look at and use historical artefacts that children would have used in school many years ago. They looked at various books that showed old school buildings that gave the opportunity for the pupils to compare the new building to schools in history. The week allowed the children to get to know their new teacher and write appropriate rules for the new school year.

Cynghorau Newydd / New Councils

Fel rhan o'r tymor newydd, pleidleisiodd blynyddoedd 2 a 3 i ddisgyblion y dosbarth i'w cynrychioli yn y gwahanol gynghorau yn yr ysgol. Gwnaethant gyflwyniad bach ar pam y deylent fod yr um i rannu llais y plant a beth oedd ganddynt i'w gynnig i'r gwahanol gynghorau.

As part of the new term, years 2 and 3 voted for pupils in the class to represent them in the various councils in the school. They made a small presentation on why they should be the one to share the pupils voice and what they had to offer the various councils.

Iechyd a Lles / Health and Well-being

Gwers ioga ym Mlwyddyn 2. / Yoga lesson in Year 2.
Ioga ym Mlwyddyn 3 / Yoga in Year 3
Dysgu am fod yn SMART ar-lein ym Mlwyddyn 3 / Learning to be SMART online in Year 3
Ymarfer Corff ym Mlwyddyn 3 / Physical Education in Year 3
Mae plant Blwyddyn 1 wedi dod i sylweddoli bod angen gofalu am y corff drwy wneud sesiynau ymarfer corff yn wythnosol. Maent wedi mwynhau cymryd ran mewn sesiynau ioga sydd hefyd yn helpu iechyd meddyliol. / The children in Year 1 have realized that taking part in weekly P.E sessions is beneficial. They have also enjoyed taking part in yoga sessions that help mental health.
Rydym wedi cynnal sesiynau Jigsaw yn ystod y tymor. Rydym wedi cyfarfod Jac Jigsaw ac wedi creu siarter er mwyn rhoi cyfle i ni drafod gwahanol themau. / During the term we have been taking part in Jigsaw sessions and we have met Jigsaw Jack. We have created a class charter that gives us an opportunity to discuss various topics.

Mathemateg a Rhifedd / Mathematics and Numeracy

Yn ystod y tymor, rydym wedi cynnal nifer o sesiynau maths actif sydd yn hybu sgiliau mathemategol. Mae'r plant wedi cydweithio gyda eu gilydd.

During the term, we have held a number of active maths sessions that have increased their mathematical skills. The children have cooperated well together.

Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu / Language, Literacy and Communication

Gwnaeth Blwyddyn 1 ddarllen Dyddiadur Kabo yn ystod y tymor. Aeth Kabo i Fotswana ac ar saffari. Creuwyd saffari byd bach wrth drafod ac ehangu geirfa Cymraeg. / Year 1 read Kabo's Diary during the term. Kabo went to Botswana and on a safari. We created a small world safari by discussing and developed our Welsh vocabulary.

Dyniaethau / Humanities

Yn ystod Cwpan y Byd Rygbi eleni, fe wnaethom astudio rhai o'r gwledydd gymerodd ran yn y gystadleuaeth. Un o'r gwledydd oedd Awstralia. Creuwyd bomerang gan ddefnyddio patrymau traddodiadol. / During the Rugby World Cup we studied a number of countries that took part in the competition. One of those countries was Australia. We created a boomerang and used traditional patterns.
Cawsom gyfle ym Mlwyddyn 1 i gael benthyg adnoddau ysgol o Oes Fictoria. Cawsom sbri wrth chwaraee gyda pob eitem. / We had an opportunity in Year 1 to borrow some school equipment from Victorian Times. We had some fun playing with each item.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg / Science and Technology

Ym Mlwyddyn 1, rydym ni wedi bod yn edrych ar drydan. Dysgom ni pa wrthrychau sydd yn cynhyrchu trydan, peryglon trydan ac aethpwyd ati i greu cylched trydanol syml. / In Year 1, we have been studying electricity. We learnt which items needed electricity, the dangers of electricity and built a simple electrical circuit.

Celfyddydau Mynegiannol / Expressive Arts

Blwyddyn 2 yn creu adnoddau Nadoligaidd! / Year 2 creating Christmas crafts!
Blwyddyn 2 yn creu lluniau Hydrefol. / Year 2 creating Autumnal pictures.
Rydym ni ym Mlwyddyn 1 wedi creu cardiau Nadolig gan ddefnyddio adnoddau amrywiol. / Year 1 have been creating Christmas cards by using various resources.

Arbrawf Gwyddoniaeth / Science Experiment

Mae'r plant wedi bod yn arbrofi effaith trydan ar wahanol ddeunyddiau. Maent wedi bod yn cynnal arbrofion i weld pa ddeunyddiau fydd yn caniatáu i'r trydan basio trwodd. Buont hefyd yn mwynhau arbrofi gyda thrydan statig.

The children have been experimenting the effects electricity has on various materials. They have been conducting experiments to see which materials will allow electricity to pass through. They also enjoyed experimenting with static electricity.

Cydweithio / Working together

Yn ystod y tymor hwn, mae disgyblion CC2 wedi cael cyfleoedd i ddefnyddio eu gwybodaeth a'u sgiliau i gyflawni amrywiol weithgareddau. Maent wedi adeiladu eu gallu i gydweithio ag eraill a gweithio fel tîm.

During this term, the pupils in PS2 have had opportunities to use their knowledge and skills to complete various activities. They have built their abilities to cooperate with others and work as a team.

Drymio Affricanaidd / African Drumming

Bu plant blwyddyn 1 yn mwynhau sesiwn drymio Affricanaidd gyda cwmni ‘Stick 2’. cyn astudio Botswana. / Year 1 enjoyed their African drumming session with ‘Stick 2’ prior to learning about Botswana.

Plant Mewn Angen / Children in Need

Er mwyn helpu i godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen eleni, roedd y plant wedi gwisgo dillad streipiog a smotiog. Diolch am helpu codi arian at achos teilwng!

To help raise money for Children in Need this year, the children wore stripey and spotty clothes. Thank you for helping raise money for a worthy cause!

Wythnos Gyrfaoedd / Careers Week

Wythnos llawn cyffro, mae plant Cam Cynnydd 2 wedi elwa trwy gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl gyda swyddi a phroffesiynau gwahanol. Mae’r plant wedi dysgu beth sydd angen arnyn er mwyn llwyddo yn y byd gwaith a deall bod yna amrywiaeth eang o gyfleoedd gwahanol ar gael iddyn nhw.

A week full of excitement for the children of Progression Step 2, they have most definitely benefitted from meeting a variety of individuals from different jobs and professions. The children have learnt what it takes to succeed in the working world in a variety of jobs and there are plenty of options for them .

Taith Nadolig / Christmas Trip 🎅🏽

Mwynhaodd yr holl ddisgyblion eu hamser yng Nghanolfan Dreftadaeth Gwyr lle buont yn ymweld â Sion Corn, yn cymryd rhan mewn helfa corrachod, yn creu addurn coeden a bwyd ar gyfer Rwdolff, yn gweld ffilm theatraidd o Sion Corn yng Ngwlad Hud ac yn cymryd rhan mewn ras hwyaid. Cafwyd amser da gan bawb!

All pupils enjoyed their time at the Gower Heritage Centre where they visited Santa, took part in an elf hunt, created a tree ornament and food for Rudolph, saw a theatrical film of Santa in Wonderland and took part in a duck race. A good time was had by all!

Gwasanaeth Nadolig / Christmas Assembly

Perfformiad bendigedig gan holl ddisgyblion CC2. Da iawn i chi gyd! / A wonderful performance by all PS2 pupils. Well done to you all!

Blwyddyn 3 Mrs Davies / Mrs Davies' Year 3
Blwyddyn 3 Mrs Davies / Mrs Davies' Year 3
Blwyddyn 1 Miss Jones/ Miss Jones's Year 1
Blwyddyn 2 Mr Hutchings a Mrs Flowers-Davies / Year 2 Mr Hutchings and Mrs Flowers-Davies
🎄 Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! 🎅🏽

Cam Cynnydd 3

Wythnos Ysbrydoli/ Inspiration week

Ar ddechrau'r flwyddyn cawsom ni wythnos llawn gweithgareddau ysbrydoledig. Mae’r plant wedi cael wythnos llawn gweithgareddau i ddechrau eu thema. Dechreuodd yr wythnos gydag ymweliad â Chastell Henllys lle cafodd y plant gyfle i ddysgu am fywyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod Celtaidd a Rhufeinig.Yn ystod ein ‘wythnos ysbrydoliaeth’ bu’r plant hefyd yn mwynhau ymweliad gan ‘Rhyfel Cymru’ lle dysgwyd y grefft o frwydr a sut i ysgrifennu caligraffi Rhufeinig. Ymwelwydy â gwahanol dosbarthiadau lle cawsant flasu gwahanol fathau o fwydydd Rhufeinig, crochenwaith, creu tarian a dawnsio creadigol trwy fframiau rhewi.

At the beginning of the year we had a week full of inspiring activities. The children have had an action packed week to start their theme. The week started with a visit to Castell Henllys where the children got to learn about life in Wales during Celtic and Roman times.During our ‘inspiration week’ the children also enjoyed a visit from ‘Rhyfel Cymru’ where they learnt the art of battle and how to write Roman calligraphy. The children visited different classes where they tasted different types of Roman food, pottery, shield making and creative dance through freeze frames.

Gweithio gyda Nina Morgan / Working with Nina Morgan

Mae disgyblion Blwyddyn 5 wedi bod yn ffodus i weithio gyda Nina, artist lleol sydd ers graddio wedi dysgu gwneud printiau mewn ysgolion a sefydliadau ledled Cymru. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos mewn arddangosfeydd ledled Cymru. Bydd Nina yn dychwelyd y tymor nesaf i barhau i weithio gyda’n disgyblion a bydd eu darnau terfynol o waith yn cael eu harddangos gyda balchder yn yr ysgol am flynyddoedd i ddod.

Year 5 pupils have been fortunate to work with Nina, a local artist who since graduating has taught printmaking in schools and institutions across Wales. Her work has been exhibited within exhibitions throughout Wales. Nina will return next term to continue working with our pupils and their final pieces of work will be proudly displayed in the school for many years to come.

Orielodl

Bu Cam Cynnydd 3 yn brysur iawn. Cafodd y plant gyfle i gyd- weithio’n agos gyda’r cyngor llyfrau gan benderfynu pa lyfrau briodol oedd angen ar gyfer llyfrgell yr ysgol. Yn ogystal â hynny, cafodd y Cyngor ysgol fraint o weithio gydag Orielodl i greu darn o Gelf unigryw i’r ysgol. Yn sicr, rydym yn falch iawn o’r darn gorffenedig. Progression Step 3 worked closely with Orielodl and Book Council for Wales. The children had the chance to work closely with the book council where they got to decide on what books the school library need. The school councils had the chance to work with Orielodl to create a unique piece of art for the school. We are very proud with the results

Go explore!

Mae Cam cynnydd 3 wedi bod yn gweithio gyda Go Explore i ddeall sut mae creaduriaid yn dibynnu ar ei gilydd o fewn cadwyni bwyd gwahanol. Rydym hefyd wedi dysgu sut effaith rydym ni yn gallu cael ar y cadwyni bwyd a chynefinoedd y creaduriaid yma. Cafodd y plant gyfle hefyd i drin a dosbarthu dail gwahanol a cheisio labeli o ba goed daeth y dail penodol.

Progression step 3 have worked with Go Explore to understand how different creatures rely on one another within different food webs. We have also learnt about the effect that humans have on these food webs and on their habitats. We also had the opportunity to discuss and sort different leaves and try and identify from which tree these leaves have originated from.

Wythnos Ieithoedd/ Languages week

Cafodd blwyddyn 5 blas ar ddysgu ymadroddion Sbaeneg i ddathlu Diwrnod Ieithoedd Ewropeaidd y wythnos hon. Nod y diwrnod yw codi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o ieithoedd yn Ewrop. Mae’n hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol ac amrywiaeth ieithyddol.

Year 5 had a taster session to learn some Spanish phrases this week to celebrate the European Day of Languages. The day aims to raise awareness of the wide variety of languages in Europe. It promotes cultural heritage & linguistic diversity.

Sesiynau Pure Football / Pure Football Sessions

Gwnaeth plant blwyddyn 4 a 5 gael cyfle i gael sesiwn pêl-droed gyda chwmni ‘Pure Football.’ Cafodd y plant gyfle i ddatblygu sgiliau pêl-droed allweddol yn y sesiwn yma. Sgiliau megis – sgiliau pêl a sgiliau cydweithio. Mwynheodd y plant fireinio’r sgiliau holl allweddol yma. Year 4 and 5 children had the opportunity to have a football session with the company ‘Pure Football.’ The children got to develop key football skills, such as – ball skills and collaboration skills. The children enjoyed honing the key football skills.

Diwrnod Cwpan y byd Rygbi / Rugby world cup day

Am ddiwrnod llawn gweithgareddau hwylus. Cafodd blant Cam Cynnydd 3 hwyl a sbri yn ystod ein diwrnod dathlu Cwpan y Byd. Ymwelwyd â gwahanol ddosbarthiadau lle cawsant goginio pitsas, dysgu’r Haka, creu origami, dysgu Ffrangeg a datblygu eu dealltwriaeth o’r gystadleuaeth a’r gwledydd sy’n cymryd rhan yn y twrnament.

What a fun packed day. Progression Step 3 had lots of fun during our Rugby World Cup celebration day. The children visited different classes where they cooked pizzas, learnt the Haka, created origami, learnt French and learnt more about the countries that are taking part in the tournament.

Sioe Heliwr y pili pala a taith i Amgueddfa Abertawe / The butterfly hunter and trip to Swansea museum.

Aeth Cam Cynnydd 3 ar ymweliad i Theatr Dylan Thomas ac Amgueddfa Abertawe. Cafodd y disgyblion gyfle i wylio’r sioe ‘Butterfly Hunter’ er mwyn dysgu am fywyd Alfred Russel Wallace. Tra yn yr Amgueddfa, cafodd y disgyblion gyfle gwych i archwilio gwahanol fathau o ffosilau ac esgyrn. Yna y cyfle i fod yn feddylwyr beirniadol drwy benderfynu a oedd casglu’r holl wahanol fathau o rywogaethau at ddibenion gwyddonol yn gywir neu beidio.

Progression Step 3 went on a school visit to the Dylan Thomas Theatre and the Swansea museum. The pupils had the opportunity to watch the show ‘Butterfly Hunter’ to learn about the life of Alfred Russel Wallace. Whilst at the museum the children had the wonderful opportunity to explore different types of fossils and bones. They then had the opportunity to be critical thinkers by deciding whether it was right to have collected all these different types of species for scientific purposes.

Ymweliad Cardiff Devlis / A visit from Cardiff Devils

Yng Ngham Cynnydd 3. Cafodd y plant eu hysbrydoli yn ystod y cyflwyniad gwych gan y chwaraewyr proffesiynol o dîm hoci iâ’r Cardiff Devils. Cafodd y plant cyfle i wisgo’r cit a dysgu mwy am y chwaraewyr a’u rôl nhw o fewn y tîm yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Yn ystod yr ymweliad fe anogwyd y plant i weithio’n galed a manteisio ar bob cyfle. In Progression Step 3 the children were inspired during the informative presentation by the professional players from the Cardiff Devils ice hockey team. The children had the opportunity to wear the kit and learn more about the players and their role within the team during the Q&A. Throughout the visit the children were encouraged to work hard and take advantage of every opportunity.

Wythnos Gyrfaoedd / Careers week

Wythnos llawn cyffro, mae plant Cam Cynnydd 3 wedi elwa trwy gwrdd ag amrywiaeth eang o bobl gyda swyddi a phroffesiynau gwahanol. Mae’r plant wedi dysgu beth sydd angen arnyn er mwyn llwyddo yn y byd gwaith a deall bod yna amrywiaeth eang o gyfleoedd gwahanol ar gael iddyn nhw.

A week full of excitement for the children of progression step 3, they have most definitely benefitted from meeting a variety of individuals from different jobs and professions. The children have learnt what it takes to succeed in the working world in a variety of jobs and there are plenty of options for them .

Gwersi Ffranneg / French Lessons

Blwyddyn 6 yn dysgu sut i gyfathrebu mewn iaith wahanol yn ystod ei wersi Ffrangeg. Year 6 learning to communicate in a different language during their French lessons.

Coginio gyda Lisa Fearn / Cooking with Lisa Fearn

Cafodd y plant gyfle i goginio gyda Lisa Fearn yn ystod un o dasgau llais y disgybl. Gwnaeth y disgyblion gweithio’n galed drwy’r wythnos i greu sioe radio coginio. Cyfle gwych a’r fraint o goginio ochr yn ochr â Lisa Fearn.

The children had the opportunity to cook with Lisa Fearn during one of their pupil voice tasks. They have been working this week on creating their own cooking radio show. It was great for them to have the opportunity to cook alongside Lisa Fearn.

Cystadleuthau Pel Rwyd a phel droed / Netball and Football Tournamets

Mae plant cam cynnydd 3 wedi cystadlu yn nhwrnamentau gwahanol dros y tymor yma gan gynnwys twrnamentau pel droed a phel rwyd! / Children in progression step 3 have competed in numerous tournaments this term including football and netball tournaments.

Pantomeim Cinderella/ Cinderella Pantomime

Cafodd plant Cam Cynnydd 3 y cyfle i weld y pantomeim yn theatr y Grand yn Abertawe. Y sioe eleni oedd Cinderella, roedd y plant wrth eu boddau yn gweld y sioe ar lwyfan.

The children of progression step 3 had the opportunity to go and watch the Pantomime Cinderella in the Grand theatre Swansea. The children enjoyed seeing such a well known film on stage.

Gwasanaeth Nadolig / Christmas Service

Mae plant Cam Cynnydd 3 wedi cymryd rhan mewn gwasanaeth Nadolig eleni a pherfformio o flaen cynulleidfa. Neges glir i bawb i fwynhau'r dathliadau dros y Nadolig.

Children of progression step 3 have participated in the school Christmas service and preformed in front of an audience. A clear message for everyone the enjoy the celebrations over the festive period.

CYNGOR ENFYS

Dyma ein Cyngor Enfys eleni. Croeso cynnes i chi gyd! / Here are this years Rainbow Council. A warm welcome to you all!

Y tymor hwn, mae'r cyngor wedi bod yn brysur yn dewis brawddegau meddylfryd cadarnhaol i'w harddangos yn yr ystafelloedd dosbarth. Maent yn edrych yn hyfryd!

This term, the council have been busy choosing positive mindset sentences to display in the classrooms. They look wonderful!

CYNGOR YSGOL

Cyngor eco

Dyma'r Cyngor Eco eleni / Here are the Eco Council for this year
Cerddodd y plant o gwmpas yr ysgol er mwyn meddwl, gweld a chwestiynu’r pethau da sydd yn digwydd o gwmpas yr ysgol o ganlyniad i’r gwaith eco. Hefyd, siaradon nhw am bethau bydd rhaid gwella yn yr ysgol yn ystod y flwyddyn. Roedd llawer o bwyntiau ardderchog wedi cael eu codi gan y plant. / During the environmental assessment of the school, the Eco Council pupils walked around the school to think, see and question the good practice that happens in school as a result of the eco work. In addition, they spoke about the things that needed to improve around the school during the next year. There were many excellent points raised by the pupils.
Cwrddodd y cynghorau i gyd (Cyngor Eco, Cyngor Ysgol a'r Cyngor Enfys) i glywed beth sydd yn digwydd ar draws yr ysgol. Roedd pawb wedi trafod sut i ddatblygu’r ardal allanol yn ystod y flwyddyn. / All of the councils (Eco Council, School Council and the Rainbow Council) met to listen to what was happening across the whole school. Everyone spoke about how to develop the outside areas of the school during the next year.