Y Derbyn Crynodeb o'n Cwricwlwm

Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern

GWELEDIGAETH Y CLWSTWR

Bwriad Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern yw diwallu anghenion ein disgyblion, sy’n dod o gefndiroedd amrywiol mewn dalgylch gymysg yn Nwyrain Caerdydd, prifddinas Cymru.

Mae’r Pedwar Diben wrth galon Cwricwlwm Clwstwr Bro Edern. Er mai dibenion hir dymor yw’r rhain, maent angen sylw dyddiol er mwyn cael eu gwireddu.

Wrth i ni arwain disgyblion sy’n falch o’u treftadaeth ddinesig yn ein prifddinas, mae Cymreictod, yr iaith Gymraeg a’i datblygiad hanesyddol yn greiddiol i’n gweledigaeth.

Mae plethu meysydd ein cwricwlwm yn bwrpasol yn sicrhau bod disgyblion Clwstwr Bro Edern yn elwa o ehangder y cwricwlwm tra’n canolbwyntio ar yr Hyn sy’n Bwysig.

Mae’r bobl a astudir yng Nghwricwlwm Clwstwr Bro Edern yn drawsdoriad amrywiol ac yn cynnwys modelau rôl sy’n ysbrydoliaeth i’r holl ystod o ddisgyblion yn y clwstwr.

Wrth gael eu magu mewn dinas aml-ddiwylliannol ble mae cyd-fyw a chyd-dynnu’n rhan allweddol o fywyd beunyddiol, mae ennyn goddefgarwch a pharch yn ein disgyblion yn hanfodol.

Mae annog uchelgais yn ein disgyblion yn golygu datblygu sgiliau a strategaethau cadarn i’w galluogi i wynebu llwyddiant a methiant. Mae dyfalbarhad a gwydnwch yn allweddol fel rhan o’r feddylfryd twf a fegir yn ein disgyblion.

Gwybodaeth gadarn sy’n gosod y sylfaen i ddisgyblion y clwstwr elwa o sgiliau a phrofiadau y gellir eu trosglwyddo i amryw o gyd-destunau heddiw, ac yn y dyfodol.

Mae rôl allweddol gan ein disgyblion i'w chwarae wrth i ni wynebu heriau ein planed yn yr unfed ganrif ar hugain, felly mae trwytho ein disgyblion yn eu cyfrifoldebau amgylcheddol yn rhan bwysig o'n cenhadaeth.

Mae gan ysgolion y clwstwr y gallu i drawsnewid bywydau ein disgyblion. Dyma ble maen nhw’n ennill yr wybodaeth, y sgiliau a’r profiadau a fydd yn cyfoethogi gweddill eu bywydau.

Mae’r gwreiddiau ac adenydd yn logo’r Clwstwr yn crisialu hyn.

Hanner Tymor 1

Yn yr ysgol!

Mae dod i’r ysgol yn ddigwyddiad pwysig mewn bywyd plentyn. Amcan yr uned yma yw ymgyfarwyddo’r disgyblion a’r ysgol. Bydd angen iddynt ddysgu trefn diwrnod yn yr ysgol, dod i adnabod staff yr ysgol a gwybod pwy sydd yn gallu eu helpu. Bydd y disgyblion yn dysgu am reolau’r ysgol ac yn datblygu perthnasau cadarnhaol gyda ffrindiau newydd.

Beth sy’n arbennig am ein hysgol?

Cynnwys yr Uned:

Deall trefn y dydd yn yr ysgol ac ymgyfarwyddo gydag ardaloedd yr ysgol.

Trafod pwy sydd yn eu helpu yn yr ysgol a dysgu enwau staff yr ysgol sy’n berthnasol iddynt.

Dysgu rheolau y dosbarth a rheolau aur yr ysgol.

Dysgu ac ymateb i gyfarchion cyfarwydd.

Ymateb i’w henw wrth alw’r gofrestr.

Datblygu perthnasau cadarnhaol gyda ffrindiau newydd a dysgu sut i fod yn ffrind da.

Diogelwch y dosbarth.

Hanner Tymor 2

Cartrefi

Mae ein disgyblion yn byw mewn amrywiaeth eang o gartrefi e.e. fflatiau, tai teras a thai datgysylltiedig ac ati.
Amcan yr uned yma yw iddynt ddysgu am eu cartrefi. Bydd y disgyblion yn dysgu am wahanol ystafelloedd yn eu cartrefi ac yn dysgu geirfa berthnasol sy’n cyd-fynd gyda hyn. Ar ddiwedd yr uned hon byddant yn cael profiad o ddylunio, creu a gwerthuso eu model o’u cartref.

Beth sy’n gwneud cartref?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am gartrefi amrywiol mae pawb yn byw ynddynt.

Disgrifio eu cartref nhw.

Adnabod ac enwi ystafelloedd amrywiol yn y cartref.

Dysgu geirfa berthnasol trwy brofiadau chwarae rôl yn y cartref.

Gwrando ar a thrafod stori ‘Y Tri Mochyn Bach’.

Dylunio a chreu model o gartref Y Tri Mochyn Bach.

Trafod traddodiadau mewn cartrefi adeg y Nadolig.

Hanner Tymor 3

Dwi'n tyfu a newid!

Mae tyfu yn rhan annatod o’n bywydau. Amcan yr uned yma yw i’r disgyblion ddysgu am eu cyrff a newidiadau sydd yn digwydd i’w cyrff wrth iddynt dyfu. Bydd y disgyblion yn dysgu geiriau perthnasol, cerrig milltir bywyd a gwybod sut i gadw eu cyrff yn gorfforol iach.

Sut ydw i’n tyfu?

Cynnwys yr Uned

Cymharu babi a nhw nawr. Gwahodd rhiant sydd a babi i'r dosbarth.

Deall eu bod yn tyfu a bod newidiadau yn digwydd i’r corff wrth iddynt dyfu. Mesur eu cyrff a chymharu gyda’u cyfoedion.

Adnabod rhannau o’r wyneb / corff yn y Gymraeg.

Cadw’r corff yn heini - ymarfer corff, meddwlgarwch.

Beth yw cerrig milltir datblygiad mewn bywyd? E.e. cropian, cerdded, reidio beic, rhedeg.

Trafod eu penblwyddi a’u hoedran. Dysgu ym mha fis mae eu penblwydd ac arddangos hyn.

Pa swyddi mae’r plant eisiau bod ar ol iddynt dyfu?

Y bobl a astudir yn ystod yr hanner tymor:

Siani Rhys-James - hunanbortread

Hanner Tymor 4

Dewch i ddathlu!

Mae gan Llywodraeth Cymru darged o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn y flwyddyn 2050. Gan ei bod yn dathlu diwrnod ein nawddsant cenedlaethol yn ystod y cyfnod hwn mae hwn yn gyfle euraidd i godi eu hymwybyddiaeth o Gymreictod a hybu eu balchder yn yr iaith Gymraeg. Yn ogystal â hyn, bydd hwn yn gyfle i’r disgyblion ddysgu am ddathliadau amrywiol mewn crefyddau eraill sydd yn ein cymuned.

Beth yw dathlu?

Cynnwys yr Uned:

Trafod y gwahanol fathau o bethau rydym yn dathlu e.e, llwyddiannau amrywiol a diwrnodau arbennig.

Dathlu eu Cymreictod trwy ddysgu am Ddydd Gŵyl Dewi a cymeriadau Seren a Sbarc. Beth sy’n arbennig am fod yn Gymro/Gymraes?

Dysgu am ddathliadau eraill sy’n digwydd yn ystod yr hanner tymor mewn crefyddau eraill sy’n cael eu dathlu yn lleol- Holi/Pesach/Ramadan ac EID/Pasg.

Creu a threfnu parti trwy wneud gwahoddiadau a threfnu bwyd, gwisgoedd, dawnsfeydd a gemau parti.

Hanner Tymor 5

Yr Ardd Anhygoel!

Mae’r byd o’n cwmpas yn llawn pethau byw. Yn yr uned yma byddwn yn dysgu am y pethau byw hynny yn yr ardd a sut maent yn dibynnu ar ei gilydd i oroesi. Bydd cyfle i ddysgu am gylched bywyd. Dylid meithrin chwilfrydedd y disgyblion i ddarganfod byd natur a dysgu enwau'r creaduriaid, blodau a bwydydd sydd yn yr ardd.

Beth sy’n byw o’n cwmpas?

Sut allwn ni ddenu byd natur ?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu enwau blodau gwyllt a phlanhigion.

Gwaith ymchwil i fyd natur presennol yr ysgol neu ardal arbennig, e.e. trwy helfa a chwilota.

Dysgu am gynefinoedd amrywiol y trychfilod.

Dysgu am blannu trwy sbardun stori Jac a'i Goeden Ffa.

Dysgu am gylch bywyd y pili pala a'r broga.

Peillio blodau - pwysigrwydd gwenyn a thŷ mêl.

Prosiect i ddenu byd natur - adeiladu gwesty trychfilod a thyfu gardd flodau.

Hanner Tymor 6

Bant a Ni!

Amcan yr uned yma yw ennyn chwilfrydedd y disgyblion i fynd ar antur. Bydd posib ymweld â gwledydd eraill, teithio nôl mewn amser neu drefnu taith. Mae’n bwysig ymholi, archwilio ac ymchwilio'r byd, ei orffennol, ei bresennol a’i ddyfodol.

I ble awn ni am antur?

Beth sydd angen i fod yn anturiaethwr llwyddiannus?

Cynnwys yr Uned:

Dysgu am anturiaethau amrywiol e.e. straeon Alun yr arth.

Cynllunio antur, dethol pethau i fynd gyda hwy, creu rhestrau, pacio bag.

Mynd ar antur a chanfod gwybodaeth am y lle a ddewiswyd.

Diogelwch y we.