Gŵyl Ddewi 2024 Gwers fyw ar Adobe Express

bit.ly/dewisant24

Sganiwch y côd QR gyda chamera eich dyfais.
Her 1: Baner Ffeithiau Dewi Sant

Defnyddiwch yr asedau dylunio o fewn Adobe Express i ffurfio baner Dewi Sant. Yna, defnyddiwch destun-i-ddelwedd AI i ddangos ffeithiau am ein nawddsant!

Syniadau posib:

  • Cafodd Dewi ei eni ar ochr clogwyn ar noson stormus.
  • Pan yn ifanc, gwellodd Dewi olwg ei athro, Peulyn, a oedd wedi mynd yn ddall.
  • Roedd Dewi yn llysieuwr, yn yfed dŵr yn unig, ac yn cadw gwenyn i wneud mêl.
  • Pan yn pregethu yn Llanddewi Brefi, cododd y tir o dan draed Dewi, er mwyn i'r dorf ei glywed.
  • Dywedodd Dewi wrth filwyr Cymru i wisgo cenhinen er mwyn adnabod ei gilydd mewn brwydr.
Her 2: Arlunio ac Animeiddio'r Ddraig Goch

Defnyddiwch app arlunio Adobe Express i greu Draig Goch a Chenhinen Bedr, cyn eu animeiddio yn y prif olygydd!